Ynglyn a chynghreirio efo’r Toriaid

Bydd y sawl yn eich plith sydd yn aelodau o’r Blaid yn gwybod bod y cwestiwn o gynghreirio efo’r Toriaid wedi gwthio i mewn i’r ymgyrch arweinyddol yn ystod yr wythnos diwethaf, gyda’r arweinydd presenol yn gwneud yn gwbl glir na fydd y Blaid yn mynd y glymblaid efo’r Toriaid o dan ei harweinyddiaeth hi.   Dwi ddim yn bwriadu trafod moesoldeb trefniant o’r fath yn y blogiad yma – gall hynny ddisgwyl am ddiwrnod arall – ond mi hoffwn gael  cip ar oblygiadau etholiadol cytundeb o’r fath neu son am gytundeb o’r fath i’r Blaid. Mae yna ddwy ffordd lle gellir bod mewn llywodraeth yng Nghymru – cael mwy o seddi na phawb arall efo’i gilydd neu obeithio bod y fathemateg bleidiol yn caniatau i blaid glymbleidio – neu o leiaf ddod i gytundeb – efo pleidiau eraill. Os nad oes mwyafrif llwyr gan blaid, yr un gryfaf sydd yn y sefyllfa orau i arwain llywodraeth – yn arbennig os yw’n agos at y 31 sedd sydd eu hangen i gael mwyafrif llwyr. Dydi’r ffordd gyntaf ddim yn gofyn am unrhyw lwyddiant etholiadol – dim ond dipyn o lwc o ran y niferoedd seddi pleidiau eraill.  Er enghraifft cafodd y Dib Lems druan etholiad gwirioneddol drychinebus yn 2016 – ond mae’r unig AC sydd ganddynt ar ol yn Weinidog Addysg heddiw. Mae’r ail ffordd yn gofyn am rhywbeth llawer mwy uchelgeisiol.  Mae’n gofyn am strategaeth allai arwain at ennill nifer sylweddol o seddi ychwanegol.  Mae hyn yn anodd yn y gyfundrefn etholiadol sydd gennym yng Nghymru – ond mae’n bosibl. Daeth y blaid yn agos at greu tirwedd trawsnewidiol yn ol yn 1999 – yn agos iawn. Efallai ei bod werth aros yma i gydnabod bod y sefyllfa yng Nghymru yn rhwystredig oherwydd bod cyfuniad o drefn pleidleisio anarferol a daearyddiaeth etholiadol y wlad yn arwain at gyfundrefn sydd ddim yn ymateb yn dda i’r farn gyhoeddus.  Mae yna amrywiaeth eithaf mawr wedi bod yng nghefnogaeth Llafur yng Nghymru ers 1999 – ond ychydig iawn o amrywiaeth sydd wedi bod yn y nifer o seddi Cynulliad maent wedi ei gael.  Ond fel y dywedwyd mae’n bosibl goresgyn y gyfundrefn – a phetai’r Blaid yn cyrraedd canran arbennig – tua 35% o bosibl, yna byddai seddi Llafur yn dechrau syrthio’n gyflym iawn – a byddai seddi’r Blaid yn cynyddu’n gyflym.   Felly mae creu mwyafrif – neu rhywbeth sydd ddim am fod yn rhy bell o fwyafrif – yn uffernol o anodd – i’r Blaid o leiaf.  Os ydyw i ddigwydd mae’n bwysig bod pob dim mae’n bosibl ei gael yn ei le – yn ei le.   Rydym yn gwybod o dystiolaeth polio mai Leanne ydi’r arweinydd mwyaf poblogaidd (o gryn bellter) a gallwn gymryd ei bod bod yn llawer, llawer mwy poblogaidd nag unrhyw un sy’n debygol o fod yn arwain Llafur yn 2021 – cyn belled a mae y rhan fwyaf o etholwyr Cymru yn y cwestiwn, mae’r rheiny yn ymylu ar fod yn gwbl anweledig.   Rydym hefyd yn gwybod nad oes fawr neb sy’n pleidleisio i’r Blaid – neu fydda’n ystyried pleidleisio i’r Blaid – yn gefnogol i’r syniad o glymbleidio efo’r Toriaid.  Conglfaen strategaeth etholiadol lwyddiannus ydi sicrhau’r bleidlais  greiddiol yn y lle cyntaf ac yna ymestyn allan.  Yn ffodus rydym yn gwybod i ble i ymestyn allan – a does yna ddim cydymdeimlad efo’r Toriaid yno chwaith. Yr astudiaeth fwyaf manwl sydd gennym o’r farn gyhoeddus yng Nghymru ydi un British Election Survey  a gynhalwyd gan brifysgolion Maenceinion, Rhydychen a Nottingham (tros Brydain) ar y cychwyn ar sail Etholiad Cyffredinol 2015 – ond gyda data ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2017 a’r reffwrendwm Ewrop wedi ei ychwanegu.  Cryfder yr ymarferiad ydi ei faint -cymrodd 68.8k o  o bobl rhyw ran neu’i gilydd yn yr ymarferiad gyda tua 5.5k yn dod o Gymru.  Tua mil o bobl sy’n cymryd rhan mewn pol piniwn cyffredin. I bwrpas y blogiad yma dau is set o’r 5.5k sy’n bwysig – yr is set sy’n cwmpasu y sawl sy’n pleidleisio i Blaid Cymru mewn etholiadau Cynulliad a’r is set sy’n cwmpasu’r sawl sydd ddim yn pleidleisio i’r Blaid, ond sydd ag agwedd ffafriol tuag ati. Os ydan ni’n adio’r ddau grwp yma at ei gilydd rydym yn cael tua 40% o’r sawl sy’n debygol o bleidleisio.  Cael cymaint o’r bobl hyn i bleidleisio – a phleidleisio i’r Blaid yn 2021 ydi’r allwedd i lwyddiant etholiadol.   Fel y gellid disgwyl mae yna lawer yn gyffredin rhwng cefnogwyr y Blaid a’r sawl sy’n gogwyddo tuag at y Blaid.  Er enghraifft mae gan y ddau grwp hunaniaeth Gymreig gref iawn a hunaniaeth Ewropeaidd eithaf cryf – ac agwedd gadarnhaol tuag at yr Undeb Ewrpoiaidd.  Mae ganddynt  farn ffafriol iawn am Leanne Wood a barn anffafriol am Teresa May., Michael Gove, Teresa May – ac yn arbennig Donald Trump.  Yn bwysicach i bwrpas y blogiad yma mae gan y ddau grwp agwedd gadarnhaol tuag at Plaid Cymru – wrth gwrs – ond Llafur hefyd.  Ond rhywbeth arall sy’n gyffredin rhwng y ddau grwp a sydd yn eu nodweddu ydi nad ydynt yn hoffi Toriaid – a dydyn nhw ddim yn eu hoffi nhw o gwbl.  Mae’r syniad o genedlaetholwyr Cymreig ceidwadol yn fyth yn y rhan fwyaf o Gymru.  Dylai hynny fod yn amlwg beth bynnag i unrhyw un sydd yn treulio unrhyw faint o amser ar stepan drws yn siarad efo pobl.   Mewn amgylchiadau lle mae’n bwysig creu tirwedd etholiadol sy’n ffafriol i’r Blaid – digon ffafriol i wneud gwahaniaeth go iawn i ganlyniad etholiad 2021 – mae’n  rhaid cael gwared o’r hyn sy’n milwrio yn erbyn llwyddiant a chymryd mantais o’r hyn sy’n milwrio o blaid llwyddiant.   Rwan dydi hi ddim o fewn gallu’r Blaid – na neb arall- i reoli’r tirwedd yna yn llwyr.  Ond os ydi’r Blaid o ddifri am ennill grym yn 2021 mae’n rhaid iddi reoli’r tiredd etholiadol fydd yn bodoli bryd hynny i’r graddau bod hynny o fewn ei gallu.  Byddwn yn awgrymu bod y canlynol yn ffyrdd posibl o fynd ati. Sicrhau bod y Blaid yn mynd i’r etholiad yn cael ei harwain gan y person mwyaf poblogaidd bosibl ymysg y bobl sy’n pleidleisio i’r Blaid.  Mae’r dystiolaeth sydd gennym yn dangos yn eithaf clir mai’r arweinydd presenol ydi’r person hwnnw. Sicrhau bod y Blaid yn mynd i’r etholiad yn cael ei harwain gan y person mwyaf poblogaidd ymysg yr etholwyr yn gyffredinol – ac yn arbennig felly y gydadran o’r etholwyr sydd yn debygol o bleidleisio i’r Blaid.  Eto – mae’r dystiolaeth polio yn dangos yn glir pwy ydi honno. Sicrhau bod y Blaid yn adlewyrchu gwerthoedd a dyheuiadau’r gydadran o’r boblogaeth mae’n ceisio apelio ato – sef ein dau is set – cefnogwyr y Blaid a phobl sy’n gogwyddo tuag at y Blaid.  Mae’n gwbl amlwg o’r dystiolaeth sydd ar gael nad ydi gwerthoedd y Dde Prydeinig yn apelio at y bobl yma o gwbl – a dydi son am glymbleidio efo’r Toriaid ddim am apelio atynt chwaith. Cymryd mantais o wendidau’r pleidiau eraill – ac mae gan Llafur wendid anferth ar hyn o bryd.  Mae’r rhan fwyaf o’i chefnogwyr yn gefnogol i Ewrop tra bod safbwynt Llafur ei hun yn gwbl idiotaidd ac anaealladwy.  Mae’r Blaid yn llawer, llawer nes at y cefnogwyr Llafur hynny sy’n gogwyddo tuag at y Blaid ar hyn o bryd nag ydi’r Blaid Lafur.  Mae’n bwysig sicrhau bod safbwynt y Blaid ar fater Ewrop yn gwbl glir – gall yn hawdd ddiffinio’r tirwedd etholiadol yn 2021. Onid ydi pob dim yn eithaf syml yn y bon?
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.