Archif Dyddiol: 4 Medi 2018

rhysllwyd.com: Faint o amser mae’n cymryd i ti sgwennu pregeth?

Bydd pobl yn gofyn i fi’n aml ‘faint o amser mae’n cymryd i ti sgwennu pregeth?’. Nid oes ateb syml. Fel arfer dwi’n cymryd un diwrnod gwaith i baratoi ar gyfer y Sul. Weithiau nid yw hynny’n bosib ac mae rhaid paratoi neges mewn awr neu ddwy bnawn dydd Sadwrn. Ond weithiau os nad oes […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : diogelu’r to

Mae gynnon ni fwy o law’r haf yma nag arfer. Mae’r coed a’r glaswellt yn tyfu’n nerthol. Torrodd a thrimiodd y criw ein coed ni fisoedd yn ôl, ond roedd rhai canghennau’n cyffwrdd y to’n ddiweddar. O’r diwedd roedd gan y gŵr amser i wneud y gwaith. Aet… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Sioned Vaughan Hughes: Creu’r gyfres Gwledydd y Byd / Creating the series Countries of the World

Cyfres Gwledydd y Byd Cyfres ddiddorol o lyfrau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n dysgu Cymraeg An interesting series of books for children, young people and adults who are learning Welsh Mae Sioned V Hughes yn athrawes, darlithwraig yn yr adran addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac yn awdur nifer… Parhau i ddarllen

Cyfnewidfa Arfer Da: Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da bob amser yn awyddus i rannau arloesedd a ffyrdd diddorol o weithio, felly pan wnaethom glywed am waith y Grŵp Ymchwil Economi Gylchol, roeddem yn awyddus i rannu. Mae Dr Gavin Bunting yn Athro Cyswllt ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltu yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Rydym yn gweithio mewn […] Parhau i ddarllen

Y Twll: Ffred Ffransis: “obsesiwn Brecsit yn hybu meddylfryd Prydeinig ymhlith ein pobl”

Dwi ddim yn meddwl fod fawr neb yng Nghymru wedi sylwi ar wir arwyddocad Brexit a’i effaith andwyol ar Gymru. Mae llawer yn gwrthwynebu nad yw Plaid Cymru’n gwrthwynebu Brexit ddigon yn y gêm gyfansoddiadol bresennol. Does gen i ddim llawer o gydymdeimlad â’r dadleuon hyn. 1. Anodd codi brwdfrydedd dros Undeb Ewropeaidd y mae … Parhau i ddarllen “Ffred Ffransis: “obsesiwn Brecsit yn hybu meddylfryd Prydeinig ymhlith ein pobl””

The post Ffred Ffransis: “obsesiwn Brecsit yn hybu meddylfryd Prydeinig ymhlith ein pobl” appeared first on Y Twll.

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Straeon Hanner Nos -Ysbryd yr Ysgubor

Un arall o straeon codi gwallt eich pen gan Dr Bruce Griffiths

Yn 1965 darlithydd oeddwn yn adran Ffrangeg Prifysgol y Frenhines, Belffast.  Y flwyddyn honno penodwyd pennaeth newydd i’r adran, sef yr Athro Harry Barnwell, a ddaeth o adran Ffrangeg… Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Dewis Dall: Harlen Coben – Don’t Let Go

Cytundeb hunanladdiad, a phymtheng mlynedd yn ddiweddarach, dwy lofruddiaeth. Beth yw’r cysylltiad? A oes yna bobl allan yna fyddai’n gwneud unrhyw beth i rwystro eu cyfrinach rhag cael ei datgelu? Caiff popeth ei ddatgelu yn y diwedd, a fel unrhyw … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen