Archif Dyddiol: 10 Hydref 2018

fel y moroedd : hwyl fawr i nikki

Hynod o drist clywed bydd Nikki Haley yn ymddiswyddo fel Llysgennad i’r Cenhedloedd Unedig. Wrth sefyll yn gadarn ar yr egwyddor, roedd hi’n brwydro’n ddewr yn erbyn yr anghyfiawnder yn y sefydliad gwarthus, ac wedi llwyddo i ddylanwadu eu penderfyniad… Parhau i ddarllen

Cyfnewidfa Arfer Da: Creu Cymunedau Cryf: Gwyliwch y Bwlch

Mae Charlotte Waite @charlotwaite o Hyb Cymorth ACE @acehubwales wedi ysgrifennu blog i ni cyn ein digwyddiad Creu Cymunedau Cryf.  Mae hi’n herio ei hun, a phob un ohonom, i fod yn rhywun sy’n cyfrannu at gymunedau cryf, sy’n wahanol iawn i WNEUD cymunedau cryf. Mewn gŵyl lefty hyfryd y cefais yr anrhydedd o fynd iddi […] Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Isio sgwennu/darlunio llyfrau plant?

Dyma newyddion difyr: “Mewn ymdrech i lenwi silffoedd siopau llyfrau â chyhoeddiadau lliwgar Cymraeg i blant, mae Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru wedi dod ynghyd i drefnu cwrs arloesol i awduron a darlunwyr plant 3-7 oed” Felly, os ydi sgwennu ar gyfer plant yn freuddwyd gynnoch chi, tybed ydach chi’n rhydd yn ystod hanner […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: Iechyd meddwl yn y Gymraeg

Mae 1 o bob 4 yn dioddef o salwch meddwl.

A hithau’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y byd ar Hydref y 10fed, dyma dair cyfrol sydd yn delio gydag agweddau gwahanol o iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg. Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Profiad Iaith: Pobl Sydd yn Siarad am Ddysgu a Defnyddio’r Iaith / Language Experience: People Speaking about Learning and Using Welsh

Mae deall ieithoedd yn agor drysau i ddiwylliannau, cyfeillgarwch, cerddoriaeth, celfyddydau a chyfleoedd, ac mae gwneud camau breision wrth ddysgu Cymraeg yn cyflawni hyn a gyfer pob un ohonom ni. Mae gyda ni i gyd ein profiad ein hunain o’r daith hon, ac yma mae rhai dysgwyr o oedolion yn rhannu mwy am eu taith.… Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Ymholiadau Morgludiant y Bwrdd Masnach, 1875-1935

Roedd y Bwrdd Masnach yn gyfrifol am arolygiaeth gyffredinol materion a oedd yn ymwneud â llongau masnachol a morwyr. Roedd hyn yn cynnwys goruchwylio ymchwiliadau ffurfiol i unrhyw golledion llongau ar arfordiroedd y Deyrnas Unedig ac ar gyfer unrhyw long Brydeinig a oedd yn sownd ar draeth neu’r glannau neu wedi’i difrodi neu ei cholli. […] Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Cylch Darllen Llyfrgell Rhuthun

Bydd Cylch Darllen Llyfrgell Rhuthun yn cyfarfod ar 16 Hydref am 2.00pm. Llyfr y mis yw “Taith yr Aderyn” gan Alun Jones. Dewch gyda ni i mewn i nofel epig sy’n llawn antur mewn byd estron a dysgwch hanes Gaut … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen