Anallu’r cyfryngau i ymdopi â Trump a’r dde

Mae wedi bod yn amlwg ers amser maith bellach mai un o fanteision mawr y dde eithafol yw eu gallu i ddefnyddio’r cyfryngau prif lif i’w dibenion eu hunain. Nid oes unrhyw beth cyfrwys am y peth; mae anallu’r cyfryngau i ddysgu gwersi syml yn gwneud y peth yn hawdd. Dro ar ôl tro ar ôl tro, rhoddir rhwydd hynt i’r dde eithafol fframio dadleuon a llywio’r drafodaeth gyhoeddus. Ers degawdau, mae’r dde wedi bwlio’r cyfryngau a’u cyhuddo’n ddi-baid o ffafrio’r chwith. I’r BBC a phapurau newydd America (gallwn efallai eithrio papurau newydd Llundain, sy’n agored iawn eu tueddiadau golygyddol), nid oes unrhyw beth yn bwysicach nag ymddangos yn ‘niwtral’ a ‘chytbwys’. Eu hymateb i’r feirniadaeth gan y dde, felly, yw i fynd allan o’u ffordd i roi ‘chwarae teg’ i’r ochr honno. Dagrau pethau yw nad yw hynny’n gwneud unrhyw beth i dawelu cwyno’r dde. Os rywbeth, mae’n eu hannog i barhau i gwyno’n uwch, gan fod yr ymateb yn dangos bod y dacteg yn llwyddo. Nid yw’n bosibl eu bodloni, ac mae rhaid i’r BBC a’r New York Times ddysgu mai ofer yw ymdrechu. Rhaid iddynt hefyd ddysgu nad yw ‘niwtraliaeth’ a ‘chydbwysedd’ yn rhinweddau bob tro. Yn aml iawn (ac efallai’n amlach y dyddiau hyn nag yn y gorffennol), mae un ochr yn gywir a’r ochr arall yn anghywir. Mewn achosion felly – y ‘ddadl’ ffug ynghylch newid hinsawdd, er enghraifft – mae niwtraliaeth yn nod sylfaenol anonest. Adrodd y gwir ddylai fod yn bwysig, ac mae hynny’n golygu mai ystyr ‘cydbwysedd’ fel y’i deallir gan ormod o’n cyfryngau yw cyflwyno celwydd a dryswch heb fod angen. Mewn geiriau eraill, pan mae un ochr yn honni ei bod yn bwrw glaw, a’r ochr arall yn mynnu ei bod yn sych, nid swyddogaeth newyddiadurwyr yw adrodd pwy ddywedodd beth yn gytbwys. Dylent fynd i edrych drwy’r ffenest a darganfod pa un sy’n dweud celwydd, a dweud hynny’n blaen. Yn yr un modd, mae’n ffaith blaen a syml bod y Blaid Weriniaethol yn America yn sylfaenol anonest a chreulon. Mae hen ddigon o le i feirniadu’r Democratiaid (ac mae’n bwysig i’r chwith wneud hynny), ond nid oes cymhariaeth rhwng y ddwy blaid o gwbl. Eto i gyd, am bob sgandal neu newyddion drwg am y Gweriniaethwyr, greddf y cyfryngau yw ceisio cydbwyso hynny â’r un faint o faw am y Democratiaid. Yn ôl y cyfryngau, dyma sut mae bod yn wrthrychol. Dylai fod yn amlwg erbyn hyn bod yr agwedd yma’n gwbl anonest. Dylid adrodd y newyddion heb unrhyw ystyriaeth i ba ochr sy’n cael ei niweidio. Weithiau, mae realiti plaen yn adlewyrchu’n waeth ar un ochr nag ar y llall, am y rheswm syml bod yr ochr honno’n ymddwyn yn llawer iawn gwaeth ac felly’n llawn haeddu cael eu portreadu’n waeth. Cyndynrwydd y cyfryngau i dderbyn yr egwyddor syml hon oedd y rheswm dros eu hobsesiwn abswrd â gweinydd ebost preifat Hillary Clinton yn ystod ymgyrch arlywyddol 2016. Roedd Clinton yn haeddu ychydig bach o feirniadaeth am ddefnyddio hwnnw, ond ni ddylai fod wedi bod ymysg y mil uchaf o faterion pwysicaf yr etholiad. Problem y cyfryngau oedd swmp rhyfeddol y sgandalau a’r problemau ar ochr Donald Trump, a phrinder y pethau hynny ar ochr Clinton (gallasent fod wedi rhoi mwy o sylw i feirniadaeth y chwith o’i pholisïau, ond mae’n siwr byddai hynny’n gofyn gormod o lawer). Nid oedd modd iddynt adlewyrchu realiti’r sefyllfa heb bortreadu Trump yn waeth na hi. Eu ‘datrysiad’ i hynny oedd creu cydbwysedd ffug trwy chwythu stori di-nod yr ebostion y tu hwnt i bob rheswm. Wrth gwrs, trwy hoelio cymaint o sylw ar un (non-)stori benodol, roedd yn anochel mai honno ddaeth i ddiffinio’r etholiad i bob pwrpas. Roedd gormod o sgandalau ac erchyllterau go iawn ar ochr Trump i’r un ohonynt dreiddio’n iawn i feddyliau’r pleidleiswyr hynny nad ydynt yn gaeth i’r newyddion. Yr unig beth yr oedd y bobl hynny’n gwybod am y ras oedd bod Clinton wedi gwneud rhywbeth amheus gyda’i hebost. Dyma enghraifft ryfeddol o obsesiwn y cyfryngau gydag ymddangos yn niwtral yn arwain at y gwrthwyneb llwyr. Trwy fynd allan o’u ffordd i gydbwyso pethau, fe grëwyd darlun hollol wyrdroedig a chelwyddus o’r realiti, gan wneud cam anferth â’u darllenwyr a’u gwylwyr. Mae’r agwedd yma gan y cyfryngau’n golygu ei bod yn hawdd i’r dde anonest lywio a fframio’r agenda i’w dibenion eu hunain. Cafwyd enghraifft syrffedus arall o hyn yn y dyddiau cyn yr etholiadau diweddar yn America, pan benderfynodd y Gweriniaethwyr bod angen dyfeisio bwgan er mwyn dychryn eu cefnogwyr i fynd allan i bleidleisio. Y bwgan hwnnw oedd ‘carafan’ o bobl yn ffoi trais (o Honduras yn bennaf), yn cerdded gyda’i gilydd ar draws Mecsico gyda’r bwriad o geisio lloches yn ffurfiol ar ôl cyrraedd ffin UDA. Mae cyfraith ryngwladol yn rhoi pob hawl iddynt wneud hyn, ond aeth peiriant y dde ati’n ddiwyd i boeri allan pob math o gelwyddau ffiaidd amdanynt, gan alw’u gorchwyl yn invasion. Ar ben hynny, yn anhygoel, cyhoeddodd Trump y byddai’n anfon milwyr i ‘warchod’ y ffin. Stynt pur er ei ddibenion etholiadol ei hun oedd hynny, ac i unrhyw arlywydd Democrataidd byddai camddefnyddio lluoedd arfog grymusaf y byd fel hyn yn sgandal farwol ynddi’i hun. Stori ffug oedd hon. Roedd y ffoaduriaid 1,000 o filltiroedd i ffwrdd o’r ffin; dim ond canran fechan ohonynt sy’n debygol o gyrraedd UDA yn y pen draw, ac ni fydd hynny am wythnosau lawer eto. Ysywaeth, nid yw’r cyfryngau prif lif wedi dysgu eto nad oes rhaid llyncu’r abwyd. Plastrwyd y carafan dros dudalennau blaen y New York Times a darllediadau CNN, wrth iddynt ddilyn agenda ffug y dde yn ufudd. Os oedd stori wirioneddol i’w chael fan hyn, honno oedd parodrwydd y Gweriniaethwyr i raffu celwyddau hiliol amrwd, ac mae’n hanfodol bwysig bod y cyfryngau’n dysgu mai’r peth gonest a gwrthrychol i’w wneud yw fframio’r adroddiad yn y termau hynny. Nid y carafan ei hun oedd y stori o gwbl, ond anonestrwydd rhonc y Gweriniaethwyr, a dyna oedd angen ei wneud yn glir yn y pennawd. Gallwn ddangos yn glir mai dyma’r ffordd gywiraf a thecaf o ddisgrifio beth oedd yn digwydd. Roedd yn amlwg, ar y pryd, dros wythnos cyn etholiadau Tachwedd y 6ed, y byddai’r stori wedi diflannu erbyn y diwrnod canlynol. A dyna’n union a ddigwyddodd: drannoeth yr etholiadau (ac ers hynny), nid oedd sôn am y carafan ar Fox News nac mewn unrhyw ddatganiadau gan y Gweriniaethwyr. Roedd y nonsens wedi cyflawni’i bwrpas. Dyna gyhoeddi’n glir fel cloch nad oedd y Gweriniaethwyr eu hunain mewn gwirionedd yn ystyried y stori’n bwysig chwaith. Mae’r cyfryngau’n dewis peidio gweld trwy dactegau fel hyn. Maent yn dewis gadael iddynt gael eu defnyddio i ledaenu propaganda noeth. Wrth gwrs, mae pleidiau gwleidyddol wedi plygu’r gwir a gwneud defnydd o gelwyddau ers i bleidiau gwleidyddol ddod i fodolaeth fel cysyniad. Ond mae’r Gweriniaethwyr a’u hefelychwyr ar y dde yn mynd â hynny i eithafion newydd, ac mae rhaid addasu. Nid yw ail-adrodd neu ddyfynnu’r celwydd yn y pennawd, neu mewn trydariad, cyn cywiro’r honiadau yn wythfed paragraff y stori, yn ddigon da o gwbl. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn darllen ymhellach na’r pennawd, felly lledaenu’r celwyddau yw hynny. Yr enghraifft amlycaf o hyn ym Mhrydain yn ddiweddar oedd y celwyddau di-baid cyn refferendwm 2016 yn honni y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu arbedion o £350m yr wythnos. Roedd llawer iawn mwy yn clywed y celwydd yn cael ei ail-adrodd yn y pennawd nag oedd yn dyfalbarhau er mwyn dysgu am y gwir yn nes ymlaen yn yr adroddiadau. Roedd y difrod wedi’i wneud. Mae angen hefyd i gyfryngau America roi’r gorau i wastraffu amser gyda swyddogion o’r llywodraeth pan mae rheiny mor agored eu dirmyg tuag at ffeithiau plaen am y byd. Mewn difrif, beth yw pwrpas gofyn cwestiynau i bobl fel Sarah Sanders neu Kellyanne Conway? Holl bwynt papurau newydd a rhaglenni newyddion yw egluro beth sy’n digwydd yn y byd i’w cynulleidfa. Unig amcan Sanders a Conway yw creu niwl a dryswch. Wrth adrodd ar stori newyddion, mae’r gynulleidfa am wybod llai ar ôl clywed beth sydd gan Sanders a Conway i’w ddweud nag oeddent gynt. Rwy’n golygu’n llythrennol bod trafferthu â hwy’n mynd yn groes i holl ethos newyddiadura. Hyd yn oed cyn Trump, rwyf wedi bod yn ddrwgdybus o’r sesiynau gydag Ysgrifennydd y Wasg yn y Tŷ Gwyn. Ond erbyn hyn, gyda Sarah Sanders yn mynd drwy’i phethau, ac ar ôl saga Jim Acosta rai dyddiau’n ôl, mae’n hollol amlwg y dylai sefydliadau newyddion America roi’r gorau i’w mynychu. O leiaf, nid oes pwrpas o fath yn y byd iddynt ddanfon eu newyddiaduron mwyaf profiadol ac adnabyddus. Swydd i gyw-newyddiadurwr neu intern yw gwrando ar y nonsens yna erbyn hyn. Dyna’r lle olaf un y mae stori o bwys gwirioneddol am weld golau dydd. A bod yn onest, mae gennyf amheuon a yw hi hyd yn oed yn bosibl i wrthsefyll celwyddau’r dde’n efffeithiol, hyd yn oed pe dilynir y cyfarwyddiadau uchod i gyd. Mae’r Gweriniaethwyr yn blaid awtocrataidd a gwrth-ddemocrataidd yn ei hanfod erbyn hyn, a bydd hynny’n parhau, a’n parhau i waethygu, dim ots beth fydd tynged Trump. Y gwir yw bod y dde eithafol yn ei chael hi’n hawdd iawn i ddenu sylw, yn enwedig gan eu bod yn rheoli’r wlad rymusaf a welodd y byd erioed. Rwyf wedi dweud o’r blaen bod angen i ni roi’r gorau i dybio bod llwyddiant y dde’n golygu eu bod yn graff (mae’r demtasiwn yma’n rhyfeddol o gyffredin ymysg newyddiadurwyr, gan nad ydynt yn gallu amgyffred y posibilrwydd eu bod yn cael eu chwarae fel ffidl gan dwpsod; mae ego’n mynnu bod rhaid i Trump a Bannon a’u tebyg fod yn gyfrwys a chraff). Nid oes unrhyw beth anodd o gwbl am dactegau’r dde mewn gwirionedd. Mae anghymesuredd annheg yma: mae’n haws i’r ffyliaid dorri’r system nag ydyw i bawb arall dacluso ar eu holau. Gall babi gachu’i hun mewn eiliad, ond mae’n cymryd llawer iawn mwy o amser i’r oedolyn lanhau. Pan mae Trump yn rhechu’i gelwydd gwirion diweddaraf, nid oes modd ei anwybyddu. Mae’r gallu i ddweud celwydd amlwg hurt a gorfodi pawb i’w gymryd o ddifrif yn fynegiant o bŵer amrwd; un o brosiectau pennaf y dde yw tanseilio’r syniad o realiti a rennir gan bawb, a throi gwirionedd yn rhywbeth a benderfynir trwy rym. Mae’r sefyllfa’n frawychus, ac mae’n anodd gwybod sut mae eu rhwystro, ond rwy’n grediniol bod modd delio â’r broblem yn fwy effeithiol o lawer nag mae’r cyfryngau wedi gwneud hyd yn hyn.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.