-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
Dewis Mis
Chwilio
Dydwihebio
Rwyf wedi cael mwynhad o ddarllen dyrnaid o lyfrau Cymraeg diweddar, yn nofelau a straeon. O ran crefft, dawn a dyfais maent yn amrywio o’r da i’r ardderchog.
Ond mae un peth.
‘Dydw i heb …’, lle mae’n amlwg y golygir ‘rydw i heb …’, neu ‘dydw i ddim wedi …’. A brawddegau eraill ar yr un patrwm: ‘’dyn nhw heb …’, ‘doedden ni heb …’, ‘doedd hi heb …’. (Lle gwelir ‘dw i heb’ rhaid rhoi mantais yr amheuaeth, gan y gall ‘dw’ fod yn dalfyriad o ‘rydw’.)
Ond yn enw pob rheswm, os nad yw awdur yn gwybod y gwahaniaeth rhwng ‘mae rhywbeth wedi digwydd’ a ‘nid yw rhywbeth wedi digwydd’, fedrwch chi goelio unrhyw beth y mae’n ei ddweud?
Awduron Cymru, darllenwch y llyfr hwn –
– a chraffwch ar d. 43. Dysgwch y wers a rhowch y gorau i’r dydwihebio ’ma, er mwyn y nefoedd !
Gallai golygyddion gweisg Cymru wneud â chopïau o’r llyfr hefyd. Disgownt ar archebion da, o dalennewydd.cymru
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Heb Gategori. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.