Hufen Afiach – i blant sy’n hoffi pethau afiach! A Pawen Lawen, cerddi am fyd natur.

Dwi mor falch bod rhywun wedi sgwennu llyfr Cymraeg i blant 7-11 oed sy’n llawn pethau afiach a ‘drwg’ fel pigo trwyn a gollwng gwynt. Does dim digon o lyfrau fel hyn ar gael yn Gymraeg! Do, dwi wedi sgwennu un i blant iau efo deinosor yn cnecu/pwmpian a phŵ (Cadi a’r Deinosoriaid) ond mae Hufen Afiach (£6.99 Atebol) gan Meilyr Siôn yn mynd yn llawer pellach! Mae ‘na bethau afiach iawn IAWN yn hwn, sydd wedi bod yn fêl ar fysedd dawnus yr arlunydd Huw Aaron. Sbiwch: Hanes gwallgo, boncyrs bost brwydr rhwng cawr ffiaidd o’r enw Beli Bola Mawr a chriw o blant ym… gwahanol sydd yma. Dyma i chi’r dudalen gynta: A dyma lun o Beli: Mae o’n gawr wirioneddol gas, ffiaidd sy’n twyllo a deud celwydd a dwyn a bwyta pethau gwbl afiach, fel hufen ia blas siocled a winwns/nionod, sos coch a fanila ac ati – a hyd yn oed blas plant! Mae pobl Cwm Cwstard wedi cael gwared ohono unwaith, ond mae o’n ei ôl… Ond mae Poli Peswch Pen ôl, Seimon Smwts (stwff trwyn/snot), Sali Seimllyd a Wili Silibili yn benderfynol o roi stop ar y cawr. Oes, mae ‘na enwau gwych a gwallgo yma, yn bobl ac yn bentrefi, fydd yn gwneud i blant chwerthin yn uchel. Er, dwi’n digwydd meddwl y byddai Poli Pwmp wedi bod yn enw gwell na Poli Peswch Pen ôl, ond dydi ‘pwmp’ ddim yn air sy’n cael ei ddefnyddio ym mhobman ar gyfer gwynt o’r pen ôl mae’n debyg. Ac mi fydd rhai plant yn gorfod pendroni am eiliad neu ddwy i weithio allan be ydi peswch pen ôl, decini! Ac os nad ydach chi’n gyfarwydd â’r gair ‘decini’ – ‘I suppose’ ydi o. Ro’n i’n arbennig o hoff o gymeriadau’r 2 wylan, Bob a Barbra, ond ddim yn siŵr os ydi’r jôc am ddyn o’r enw Cliff yn gweithio yn Gymraeg…digon hawdd fyddai cael gwylan/cawr i ddeud hynny hefyd, fyddai wedi ychwanegu at elfen od, quirky y llyfr. Ta waeth. Roedd y disgrifadau o Sali Seimllyd druan, sydd â gwallt anhygoel o seimllyd, yn gwneud i mi deimlo’n sal! Ych a pych. Ond ro’n i’n teimlo drosti yn arw, bechod. Roedd Meilyr (sy’n frawd i nytar o’r enw Eleri Siôn gyda llaw – hiwmor yn rhedeg yn y teulu, yn amlwg) isio ymateb i’r galw am lyfrau tebyg i rai Roald Dahl a David Walliams yn Gymraeg, yn hytrach na jest cyfieithu llyfrau’r rheiny, felly da iawn fo. Roedd angen golygu fymryn bach mwy ar y llyfr yn fy marn i fel oedolyn, ond dwi’m yn meddwl y bydd plant 7-9 oed yn sylwi. Bydd plant sy’n mwynhau darllen a chlywed am bethau afiach, budur, drewllyd, seimllyd, gwirion wrth eu boddau – yn enwedig plant y de, ond dwi’n meddwl y bydd y Gogs yn hapus hefyd. Ac mae’r lluniau yn siwtio’r ych-a-pychrwydd i’r dim! Llyfr cwbl wahanol ydi Pawen Lawen!- casgliad o gerddi am fyd natur gan Fardd presennol Plant Cymru, Casia Wiliam, a phawb arall sydd wedi bod yn fardd plant ar ryw adeg: Na, dim byd i neud efo ymgyrch Pawen Lawen hynod lwyddiannus Aled Radio Cymru Jest cyd-ddigwyddiad ydi’r ffaith bod y ddau beth wedi ymddangos tua’r un pryd am wn i? Cyd-ddigwyddiad hapus beth bynnag. Mae’r llyfr yn un bach hyfryd, bargen am £5 (Gwasg Carreg Gwalch), a dyma i chi un o gerddi Casia: Ac un gan Aneirin Karadog: A fy ffefryn, hon gan Tudur Dylan: Mae ‘na lwythi o lyfrau newydd, bywiog, GWREIDDIOL i blant Cymraeg y dyddiau yma yndoes? Ieee!
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.