Bethan Gwanas 2018-11-24 17:06:08

Dyma’r bachgen roddodd y syniad i mi ar gyfer Cadi a’r Deinosoriaid: Diolch yn fawr Tyler o Ysgol Bro Cinmeirch! Ei syniad o oedd bod deinosor yn bwyta Cadi. Mi wnes i ddweud “Ond mae’r stori wedi gorffen os ydi deinosor yn bwyta Cadi!” “Na, mae’n iawn,’ meddai Tyler, ‘Mae hi’n dod allan yn ei bŵ o.”
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.