Gall ?

Darllen fod Adam Price AC yn mynd ar daith genedlaethol gyda sgwrs ar y testun ‘Gall Cymru / Wales Can’. A fyddwn yn iawn fod teitl dwy-sillaf y sgwrs wedi ei ysbrydoli gan y slogan dair-sillaf a enillodd agoriad y Tŷ Gwyn i Barack Obama yn 2008? Ie. ‘Yes We Can’. ‘Can beth?’ Roedd y gair yn agored i’w ddehongli ar y pryd, ac y mae eto. Beth bynnag oedd y peth hwnnw ddeng mlynedd yn ôl – peth y credai’r ymgeisydd llwyddiannus fod angen ei wneud ac y daliai ei bod yn bosibl ei wneud – mae’n amlwg nad yw wedi ei wneud, oherwydd ystyriwch pwy sydd yn y Tŷ Gwyn heddiw! Efallai na byddai Barodambanad yn ei roi yn yr union eiriau yna, ond y peth yr oedd, ac y mae, angen i America ei wneud yw callio, tyfu i fyny, dod allan o’r meddylfryd babïaidd sydd wedi nodweddu a rheoli ei bywyd a’i diwylliant bron ers pan sefydlwyd hi. A dyma hwnnw heddiw, i bob golwg, yn gryfach nag erioed – fel y mae meddylfryd dosbarth llywodraethol Lloegr yn dal yn eiddo bechgyn ysgol 13-14 oed, a meddylfryd y Cymry bellach yn eiddo hen bobl wedi ymddeol ers blynyddoedd ac wedi rhoi’r gorau i drio. Sy’n dod â ni’n ôl at ‘Gall Cymru’. I wybod peth y mae Adam yn ei olygu wrth ‘gall’, y peth gorau yw mynd i wrando ar ei anerchiad. Dyfalu yr wyf y bore ’ma felly, fod a wnelo â phethau fel ‘deffro’, ‘llwyddo’, ‘gwneud rhywbeth ohoni’. Gan ddisgwyl y bydd ynddo weld arwyddion cadarnhaol, gan gymryd rôl Cassandra gwahoddaf innau chwi yn awr i ystyried a fydd neges Adam yn ddigon i wrthateb y pedwar arwydd llethol ddiobaith sy’n dilyn. (1)    Dinistr Prifysgol Cymru, ac yn wyneb hyn distawrwydd byddarol y rheini yr effeithir arnynt ac a ddylai lefaru a gweithredu, sef graddedigion y Brifysgol a’r academwyr Cymraeg. (2)    Hunanladdiad y dosbarth proffesiynol Cymraeg. Clywed y dyddiau diwethaf yma am y modd y mae ysgol uwchradd ‘Gymraeg’ neu ‘ddwyieithog’ nid nepell o’r fan hon yn dyfal ymdrechu, ymgyrchu ac ymlafnio i anfon ei disgyblion galluocaf bob mis Medi i golegau Lloegr. Hyd yn oed petai dim byd arall, mae hyn ynddo’i hun yn mynd i orffen y Cymry o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Fel yr wyf wedi dweud drosodd a throsodd a throsodd, un ateb sydd, sef bod llywodraeth Cymry yn cynnig i’n plant wobrau ariannol hael a helaeth, gwobrau na allant fforddio’u gwrthod, am aros yng ngholegau Cymru. Dyna, nid y dylai, ond y byddai llywodraeth o genedlaetholwyr yn ei wneud petai hi o ddifri. Ond beth yw polisi Plaid Cymru? Trowch at GOLWG 360 heddiw ddiwethaf o’r byd lle ceir datganiad gan Bethan Sayed AC, llefarydd y Blaid ar ‘addysg ôl-16, sgiliau ac arloesedd’. Ydi, mae’r dymuniad yna, rhoi ysgogiad i bobl aros yng Nghymru. Ond ble mae’r polisi, yr un peth allweddol? Ac mae ambell frawddeg yn cymell gwên, e.e. (a)  ‘’Dyn ni byth eisiau gweld sefyllfa ble rydyn ni’n dweud wrth fyfyrwyr nad ydyn nhw’n gallu mynd i Loegr, neu’r Alban, neu dramor.’ A gall yr hen sgeptig ychwanegu: ‘na, dim ffiars o beryg, tra bydd Pleidwyr amlwg yn dal i fagu plant yr ecsodus.’ (b)  ‘Mae angen i ni werthu Cymru yn well i fyfyrwyr’ (pennawd yr eitem). Wel Bleidwyr annwyl, mae’r gwerthu wedi bod yn hynod effeithiol dros y blynyddoedd diwethaf yma, ac un canlyniad yw fod eich seddau chi yn Arfon a Cheredigion mewn dygn berygl. Does angen ond i fyfyrwyr Bangor ac Aberystwyth droi drosodd yn eu cwsg, a dyna hi’n ta-ta. (3)   Y cysylltiad rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a chwmni niwclear Horizon. ‘Y rhai y mae’r duwiau am eu dinistrio, maent yn gyntaf yn eu gwneud yn wallgof,’ meddai’r hen ddywediad. Ac am ragor o hwyl, gweler GOLWG 360 eto, ‘Cwmni niwclear yn penodi swyddog i hybu’r iaith’. (4)   Cof anesmwythol yn gwrthod mynd i ffwrdd am wythnos Eisteddfod Caerdydd. Yr oedd y llongau mwd yn barod i groesi Môr Hafren, ac nid oedd hynny’n gyfrinach o gwbl. Ond beth oedd yn poeni eisteddfodwyr ac eraill? Jôcs hen-ffasiwn a hollol ddiniwed yr Archdderwydd a Llywydd y Llys. Dyma bobl heb flaenoriaethau, heb synnwyr cymesuredd, yn wir heb synnwyr moesol o gwbl. Gyda’r lefel hon o grebwyll a dealltwriaeth, a ‘all’ Cymru? Ond llefared Adam. A hwyrach yr hoffech ddarllen fy hen stori ‘So Ni Gallu’, yn Camu’n Ôl a Storïau Eraill, t. 42.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.