Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol

Ew, dyma ichi destun newydd, gwreiddiol, ffres, CYFFROUS !! Fel llawer – pawb am wn i – yr oedd yr hen G.A. yn croesawu llwyddiant ‘Eisteddfod y Bae’. Ond dro neu ddau yn ystod yr wythnos ac ambell dro wedyn yr oedd rhyw hen lais bach yng nghefn ei feddwl yn sibrwd y ddau air ‘tâl mynediad’. Bellach dyma ni’n gwybod maint y tolc. Yng nghyswllt gwario cyhoeddus heddiw nid yw £290,139 yn ddim, ond yng nghyd-destun cyllid yr Eisteddfod y mae’n llawer. Er mwyn galluogi rhagor o Eisteddfodau Stryd, faint o hen Eisteddfodau Maes-a-Mwd fydd raid eu cynnal? Ai gan Ŵyl Caeredin y mae’r ateb, sef talu wrth y drws am bob sioe? Go brin. Yr unig dro y bûm ynddi, a thalu’n unigol am bob perfformiad, gwych a gwachul (a digon o’r ail fath, credwch fi), yr hyn a’m trawai oedd cymaint o fargen yw’r Eisteddfod: i mewn i’r maes, a dyna ni. Ac unwaith eto, tawed y mwydro fod y maes yn gwneud yr Eisteddfod yn ‘gaeedig’, yn ‘ddigroeso’ a’r holl lol yna. Yn awr, bydd yr Eisteddfod nesaf yn Llanrwst. Peidier â synnu os daw cynnig o rywle o nawdd ychwanegol pur hael i’r Brifwyl … gydag un neu ddwy o amodau. Craffer ar yr amodau, a gofyn a fyddai unrhyw fath o bosibilrwydd iddynt arwain yn y man at … ddywedwn ni … safle barhaol, neu dipyn o … ddwyieithogi; sef yn y pen draw, diwedd yr Eisteddfod. Petai rhyw demtasiwn fel hyn, does ond gobeithio y byddai ymhlith y swyddogion, y Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor ddigon o ruddin i ddweud ‘dim diolch’. Byddai cyfrifoldeb ar yr Orsedd hefyd. Cofgolofn i Iolo? Syniad digon da. Ond y gofeb orau iddo fydd diogelu’r Eisteddfod deithiol, Gymraeg.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Heb Gategori. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.