Dysgu am natur a sut i gyfri yr un pryd

Llyfr hyfryd arall i blant bach ydi 123 Byd Natur gan Luned Aaron. Mae’n glawr caled, yn lliwgar ac yn cyflwyno’r rhifau o 1-20. Dyma i chi enghraifft: A rhag ofn y bydd Mam a Dad yn pendroni cyn dysgu’r gair Cymraeg am rhain i’w plant: Mae na restr yn y cefn i’ch helpu: Ffiw. Ond…hm. Mi faswn i wedi licio gweld dewis o eiriau ar gyfer ambell beth, ee: mwydyn. Sori, ond pry genwair fydd o yn y gogledd am byth! Be oedd o’i le efo 18 mwydyn/pry genwair? A byddai 10 gwlithen/malwen wedi bod yn syniad hefyd. Ond dyna fy unig gwyn – mae’n llyfr hyfryd. Ac mae oedolion sy’n ddysgwyr yn ei hoffi o hefyd! Es i â chopi i un o fy nosbarthiadau – defnyddiol iawn. A dyma i chi syniad da gan Wasg Carreg Gwalch: Mi wnaethon nhw gynnig gwobr gwerth £100 o lyfrau Gwasg Carreg Gwalch i blant i hyrwyddo’r llyfr, a dyma chi’r enillydd: Ela o Bentrefoelas. A dyma’r colâj greodd hi ar destun y llyfr: Llongyfarchiadau Ela! A Luned Aaron.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.