‘Llyfr Glas Nebo’: dystopia/wtopia

Pan ofynnodd Cymru Fyw i nifer o lenorion yn ddiweddar am enwebu’r llyfrau y bydden nhw’n eu dethol i’r hosan ’Dolig, un llyfr safodd allan: Llyfr Glas Nebo, nofel fer gan Manon Steffan Ros a enillodd y Fedal Ryddiaith eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Bu 2018 yn flwyddyn aur i’r nofel Gymraeg, debyg iawn. Ar ddechrau’r flwyddyn daeth Sgythia gan y diweddar Gwynn ap Gwilym, un o’r nofelau hanesyddol mwyaf meistrolgar yn yr iaith Gymraeg. Ond, er ei bod llawer yn fyrrach – dim ond 143 tudalen, er mwyn cydymffurfio â gofynion cystadleuaeth yr Eisteddfod – mae Llyfr Glas Nebo yn un mor neilltuol a gafaelgar. Ar y wyneb mae’r llyfr hwn yn perthyn I genre cyffredin – hyd yn ôl treuliedig – y nofel dystopaidd. Ac i ddechrau mae rhywun yn meddwl ei fod yn dilyn yn ôl traed The road gan Cormac McCarthy, stori am fachgen a’i dad a leolir mewn byd ôl-apocalyptaidd. Ond yn raddol dych chi’n sylweddoli bod Manon Steffan Ros yn ceisio rhywbeth gwahanol, a bod ei llyfr yn ymwneud â thestunau sy’n ehangach, ac o bosibl yn fwy soffistigedig, na’r stori heb obaith sy gan McCarthy. The Road Apocalyps Llyfr Glas Nebo yw rhyfel niwclear – ni wyddom fawr ddim am y manylion – a ffrwydrad yn orsaf pŵer niwclear Wylfa. Cawn naratif o’r digwyddiad hwn (‘Y Terfyn’) mewn llyfr nodiadau, ‘Llyfr Glas Nebo’. Neu, yn hytrach, dau naratif – gan Siôn, bachgen ar drothwy ei arddegau, a’i fam Rowenna. Cytuno mae’r ddau i ysgrifennu nodiadau yn y llyfr. Yn ôl Siôn, Hi’n sgwennu am yr hen ddyddia a’r Terfyn, a finna’n deud am rŵan, a sut mae byw. Ac rydan ni wedi gaddo i’n gilydd i beidio byth â darllen be ma’r llall wedi sgwennu, jyst rhag ofn. Rhag ofn be, dwi ddim yn siŵr. Trwy ddarnau Rowenna clywn ni am ei bywyd cyn Y Terfyn, mewn tŷ tu allan i bentref Nebo, yn Arfon, am ei swydd mewn siop drin gwallt leol, ac wedyn am effeithiau’r trychineb: colli trydan a rhwydweithiau chyfathrebu, cymdogion yn dychryn ac yn ffoi, y ‘cwmwl’ wedi’r ffrwydrad, a sut a wnaeth hi, Siôn a’i merch fach Dwynwen ymdopi â’r adladd. Adrodda Siôn, bachgen hynod ddeallus a sensitif, am sut llwyddodd y teulu bach i grafu bywoliaeth heb gymorth neb o’r tu allan – maen nhw ar y pennau eu hunain erbyn hyn – trwy blannu hadau mewn ‘twneli tyfu’, dal anifeiliaid bach mewn trapiau, a dwyn eiddo o dai gwag yn y pentref. Disgrifir y digwyddiadau wedi’r Terfyn a’r blynyddoedd wedyn mewn ffordd dameidiog. Mae’r gyfres o gofnodion byrion gan Rowenna a Siôn, a ysgrifennir mewn tafodiaith blaen ond bywiog, yn adeiladu darlun clir o’u trafferthion: ei gwaeledd, hanes ‘Gwdig’, yr ysgyfarnog â dau wyneb; y cymdogion oedrannus o Loegr, Mr a Mrs Thorpe, sy’n ymadael i wynebu eu marwolaeth yn ymostyngar; cyfarfodydd Rowenna â dyn o’r enw Gwion, marwolaeth Dwynwen; cerfio tŷ bach allan o hen gadair eisteddfodol (un o’r ychydig jôcs yn y nofel). Cawn weld natur annaturiol y byd newydd: daw nifer fawr o wlithod allan i farw yn y tywydd poeth, ac mae adar yn ffoi mewn tyrfaoedd i’r de, gan adael yr awyr yn wag. Byd cyfan, cyson sy’n esblygu, mewn stori a adroddir yn hynod gynnil, a dyw’r darllenydd byth yn cwestiynu cywirdeb y sefyllfa. Ond nid nofel apocalyptaidd yw hon, yn y bôn. Hynny yw, er bod digon o fanylder am galedi gorfod byw yn hunan-gynhaliol mewn tirwedd wag, nid dyna yw prif ffocws yr awdur. Yr hyn sy’n bwysig iddi yw effeithiau’r Terfyn a’i ganlyniad ar gymeriad Rowenna a chymeriad ei mab, a’r berthynas gyfnewidiol rhyngddyn nhw. Newid mae Rowenna o fod yn greadur tawel ac ofnus cyn Y Terfyn i fod yn fenyw ‘galed’ (yn gorfforol ac yn feddyliol) a galluog. Yn yr un ffordd mae Siôn yn blodeuo, trwy gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bwyd iddynt a gwneud pob math o waith ymarferol, a trwy addysgu ei hun: mae’n dod yn ddarllenydd brwd ac yn awdur medrus. ‘Dwi’n teimlo’, medd e, ‘fel taswn i’n ddyn, ddim yn hogyn’. Mae’r ddau’n dibynnu ar ei gilydd, ond yn aml dyw eu perthynas ddim yn wastad: mae tueddiadau crefyddol Siôn yn aflonyddu Rowenna, ac mae anesmwythder tawedog yn tyfu rhyngddyn nhw ar ôl marwolaeth Dwynwen. Cyfrinachau sy’n allweddol i’r berthynas gymhleth sydd rhwng Rowenna a Siôn. Maen nhw’n dod yn amlwg o ddyfais Llyfr Glas Nebo ei hun – yr ‘eironi dramatig’ bod Rowenna a Siôn yn ysgrifennu eu tudalennau heb allu darllen gwaith y llall. Mae Rowenna yn cuddio’r gwir am ffawd Mr a Mrs Thorpe, am identiti tadau Dwynwen a Siôn, am y ffaith mai hi laddodd Gwdig; hefyd mae hi’n cadw Siôn rhag gweld cyrff mawr mewn tŷ yn y pentref. Ac mae Siôn yn ei dro’n peidio â sôn wrth ei fam am ofalu am Gwdig. Gwarchod ei gilydd o’r gwir yw rhan o natur y berthynas rhwng mam a mab, ac yn ffordd o gadw eu cymuned fach rhag chwalu. Rowenna’n unig sy’n gallu cymharu ei bywyd cyn ac ar ôl Y Terfyn (roedd Siôn yn chwech oed ar y pryd). Weithiau mae’n hiraethu am rai mân agweddau ar yr hen ffordd o fyw: ordro ‘pitsas’ dros y ffôn neu brynu ‘Bounty’ neu ‘sosej rôl’ mewn siop. Ond yn y pen draw, mae hi’n gweld yn glir bod ei bywyd yn fwy cyfoethog a llawn nawr, er gwaetha’r cyfyngiadau a’r peryglon. (Yr unig ‘greiriau’ o’r gorffennol sy’n hanfodol i’r byd newydd yw llyfrau Cymraeg y mae Rowenna wedi eu hachub o dŷ arall.) Fûm i erioed mor fodlon fy myd … Erbyn hyn does ‘na ddim lle i boeni am unrhyw beth arall, a blinder gwaith go iawn yn ei gwneud hi bron yn amhosib aros yn effro yn poeni ar ôl mynd i’r gwely. Mae popeth mor syml rŵan, a phopeth mor hawdd i’w garu … A gweld y tlysni hefyd. Mae ‘na fwy o harddwch rŵan nag oedd ‘na cyn Y Terfyn. Ac eto, nag oes. Mae pob dim yr un fath, dim ond ein bod ni’n ei weld e. Yn ei chyfraniad olaf yn y Llyfr mae Rowenna’n rhestru’r ‘pethau gorau’ am ei bywyd nawr: Eginblanhigion bach yn mynnu eu ffordd drwy’r ddaear. Machlud haul dros Sir Fôn, fel cariad newydd yn gwrido ar ôl geiriau ffeind. Siôn yn canu pan mae o’n meddwl nad ydw i’n gwrando … Teledu mud wedi ei daflu dros y wal efo gweddill y sbwriel … Cawl pan mai fi a Siôn sydd wedi tyfu pob llysieuyn. Y diffyg pobl, prysurdeb. Yr holl ddiffygion hyfryd. Byw. Ac, i’r gwrthwyneb, o edrych yn ôl i’w bywyd cyn Y Terfyn, gall Rowenna weld rhyw wacter enbyd – bod yn gaeth i’r byd digidol, gyda’i sgrins ‘yn parablu yn y cefndir’, ‘yr hen fyd, a llwydni’r hen ddyddiau electronig, amhersonol’. Ond nawr mae newid arall. Daw’r adar yn ôl – argoel o’r dynion o’r tu allan sydd ar y gorwel: hofrennydd ac wedyn ceir heddlu ‘fatha cwmwl o wenwyn’. Mae ‘Terfyn arall ar y ffordd’. Dyw Rowenna a Siôn ddim yn teimlo eu bod ar fin cael eu ‘hachub’. Gall Siôn synhwyro fod ei fam, fel y mae hi nawr (‘dynas sy’n hollol, hollol fyw, dynas efo ynni yn’i hi’) mewn perygl. Eistedda’r ddau yn y tywyllwch a gweld goleuadau Môn yn ail-ddechrau: Ton o oleuadau bach fel sêr agos, yn goleuo un ar ôl y llall, yn oren ac yn wyn. Tai a goleuadau stryd yn blincio ac yn deffro, fel petaen nhw wedi syrthio i gysgu ddeng mlynedd yn ôl. Gwarineb yn dychwelyd yn hy ar ôl ein gadael heb ddim pan oeddwn i’n hogyn bach, bach. Crechwenodd goleuadau Môn arnom ni’n dau fel hen ddiafol. Nid dystopia, felly, yw Llyfr Glas Nebo. Dyw bywyd ar ôl Y Terfyn ddim yn annioddefol wedi’r cwbl. Yn wir, mae’n dod â phrofiadau positif iawn i Rowenna a’i mab – profiadau sy’n cael eu peryglu wrth i ‘warineb’ ddod yn ôl. Mewn oes fel heddiw, pryd mae’n demtasiwn i ddigalonni yn wyneb cymaint o’r datblygiadau hyll yn y byd, gall ysgrifennu dystopia ymddangos yn ddewis rhy hawdd. Dwi’n amau na fydd prinder o storïau yn cael eu hanfon i’r New Welsh Review ar gyfer ei wobrau newydd ar thema ‘dystopia’. Efallai y dylai’r cylchgrawn alw nesa am straeon wtopaidd – ysgrifennu sy’n cynnig dyfodol mwy optimistaidd ac sy’n dangos, fel y mae Manon Steffan Ros, beth yw bod yn fod dynol cyflawn a boddhaus er gwaetha popeth.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.