Ar ei hôl hi braidd

Mae rhai diwrnodiau yn fwy heriol nag eraill – wedi ffrae mawr efo’r plant neithiwr, bore digon distaw fuodd hi, ond finnau’n gwneud y daith ysgol tra bod Catrin yn paratoi ar gyfer sgwrs ar y radio nes ymlaen – wedyn golchi llestri, dyn ffrwythau, archeb Tesco, sesiwn delio efo gorbryder fy mam, nwy yn cyrraedd ac iesgob annwyl dad mae bron yn hanner wedi unarddeg a dwi’n teimlo bo fi heb wneud dim byd ac eto wedi blino eisoes…! Diolch am y drefn, felly, yn llythrennol – yn hytrach na hunan-dosturi, dwi ar fin sgwennu pwt arall ar gyfer cyfrif SSiW ar Facebook – y 5ed darn mewn cwta wythnos, lle o’r blaen byddai un neu ddau y mis wedi bod yn well nag arfer.  Mae dal waith i mi wneud i gau allan sŵn y cyfryngau cymdeithasol, ond yn sicr mae gen i fwy o eglurder meddwl nag ers peth amser, er gwaethaf tonnau gwyllt bywyd efo plant.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.