Barn Barn

Da iawn cylchgrawn Barn – sylw da fel arfer i lyfrau plant gan Gwenan Mared a Delyth Roberts. Dyma ddwy dudalen am lyfrau i blant iau (bydd raid i chi brynu eich copi eich hun o Barn os am ei weld yn well!): A dwy arall i blant 7-11 oed: Ac yna’r arddegau: Digon o syniadau i chi yn fanna ar gyfer anrhegion Nadolig. A diolch i’r adolygwyr am dynnu sylw at y ffaith bod ‘na ddryswch weithiau ynglŷn â pha oedran darged sydd wedi ei nodi ar gyfer rhai o’r llyfrau. Ydyn, mae plant yn wahanol iawn, a rhai yn darllen yn llawer hŷn na’u hoed, ond mae’n dda cael rhyw fath o syniad, tydi? Dwi wedi dechrau darllen Gwenwyn a gwasgod Felen gan Haf Llewelyn ac yn mwynhau’n arw. Mae’n sôn am y cyfnod caled yn y 19eg ganrif, pan fyddai’r meistri tir cefnog yn gwneud bywydau’r werin hyd yn oed yn fwy anodd. Os oeddech chi isio gwybod pam fod y Cymry wedi dilyn Michael D Jones i Batagonia, dyma’r llyfr i chi. Ia, llyfr ar gyfer pobl ifanc, ond, fel yn achos cymaint o lyfrau tebyg, yn berffaith ar gyfer oedolion hefyd. Mae Henriet y Syffrajet gan Angharad Tomos yn y pentwr ‘Darllen dros y Dolig’ hefyd. Edrych ymlaen! O, a diolch i’r dysgwyr am brynu’r nofel lefel Sylfaen sgwennais i ar gyfer cyfres Amdani: Mae’n gwerthu’n dda, mae’n debyg. Profi bod dysgwyr yn mwynhau chydig o hiwmor yn eu llyfrau darllen? Dwi wedi ei ddeud o o’r blaen ac mi ddyweda i o eto – dydi sgwennu’n ‘ysgafn’ ddim yn hawdd!
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.