Archif Dyddiol: 8 Ionawr 2019

Osian Rhys Jones: O Gymru! Pleidleisiaist dros Brexit…

Yn y Siwperstomp ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod eleni, cyfansoddais gerdd am un o bynciau llosg y dydd – Brexit!
The post O Gymru! Pleidleisiaist dros Brexit… appeared first on Osian Rhys Jones.
Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Cyfres Amdani: Cawl- Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell

Cawl a Storïau Eraill Wedi’i golygu gan Rhiannon Thomas Pris: £5.99 Iaith: Cymraeg Safon: Uwch Cyhoeddwr: Y Lolfa Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784616168 Am Jo Knell Mae Jo wedi bod yn athrawes ac ymgynghorydd Cymraeg ers dros ugain mlynedd gyda’r rhan fwyaf o’r amser hwnnw mewn ysgolion uwchradd ail iaith.  Bu’n ddarlithydd Cymraeg hefyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn hyfforddi darpar athrawon. Mae Jo yn awdur pedwar o lyfrau Cymraeg, a llyfr adolygu i ymgeiswyr TGAU yw’r un mwyaf diweddar: cantamil.com/cynnyrch/welsh-second-language-wjec-gcse-revision/?lang=cy Mae siop llyfrau Cymraeg gyda Jo yng Nghaerdydd sy’n stocio’r holl lyfrau newydd ynghyd â llyfrau ail law, cardiau, nwyddau ac anrhegion. Mae Cant a Mil yn ardal Mynydd Bychan, Caerdydd. About Jo Knell Jo has been a Welsh teacher and consultant…

The post Cyfres Amdani: Cawl- Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell appeared first on Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Cyfres Amdani: Cawl- Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell

Cawl a Storïau Eraill Wedi’i golygu gan Rhiannon Thomas Pris: £5.99 Iaith: Cymraeg Safon: Uwch Cyhoeddwr: Y Lolfa Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784616168 Am Jo Knell Mae Jo wedi bod yn athrawes ac ymgynghorydd Cymraeg ers dros ugain mlynedd gyda’r rhan fwyaf o’r amser hwnnw mewn ysgolion uwchradd ail iaith.  Bu’n ddarlithydd Cymraeg hefyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn hyfforddi darpar athrawon. Mae Jo yn awdur pedwar o lyfrau Cymraeg, a llyfr adolygu i ymgeiswyr TGAU yw’r un mwyaf diweddar: cantamil.com/cynnyrch/welsh-second-language-wjec-gcse-revision/?lang=cy Mae siop llyfrau Cymraeg gyda Jo yng Nghaerdydd sy’n stocio’r holl lyfrau newydd ynghyd â llyfrau ail law, cardiau, nwyddau ac anrhegion. Mae Cant a Mil yn ardal Mynydd Bychan, Caerdydd. About Jo Knell Jo has been a Welsh teacher and consultant…

The post Cyfres Amdani: Cawl- Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell appeared first on Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : dwy het

Dw i’n dal i grosio. Dyma ddwy het a orffennais yn ddiweddar, ar gyfer fy nau blentyn. Rŵan dw i wrthi’n crosio un arall a sgarff ddiderfyn ar gyfer fy nwy ferch sydd yn gweithio yn Japan. Rhaid eu gorffen cyn i fy nhrydedd ferch fynd yn ôl yno mewn py… Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Rhywedd a digwyddiadau sector cyhoeddus

Rydw i’n ffeindio fe’n anhygoel bod gennym baneli llawn dynion yng nghynadleddau gofal cymdeithasol yn 2018. Hyn mewn sector ble mae yna ddadl barhaus ynghylch sut allwn gael mwy o ddynion yn y sector.

Mae yna ryfel sifil o fewn gwleidyddiaeth Ryddfrydol ar hyn o bryd, gyda’r bai yn aml yn cael ei ddyrannu i wleidyddiaeth hunaniaeth, wrth i grwpiau ymladd ymhlith ei gilydd ar draul y frwydr ehangach ar gyfer pŵer.

Mae gen i broblem gyda’r dadansoddiad yma, gan ei fod e’n swnio fel galwad i fynd yn ôl i fusnes fel yr arfer a gadael pryderon lleiafrifol ar yr ymylon. Mae’r blogbost yma gan Sincere Kirabo yn wych:

“Mae’r rheswm pam fod cydgyfeiriadedd yn hollbwysig yn amlwg: mae’n metaffor a fframwaith ar gyfer dealltwriaeth sy’n cydnabod nifer o ‘ffyrdd’ o ragfarn ac ymyleiddio, a bod y ‘ffyrdd’ yma’n croesi. Mae cydgyfeiriadedd yn ein hatgoffa ni i ystyried sut y cawn ein heffeithio yn wahanol oherwydd natur gymhleth, sy’n croesi deinameg pŵer cymdeithasol.”

Mae hyn yn dod â mi yn ôl i ddigwyddiadau gwasanaeth cyhoeddus a pham mae ymdrech a chynrychiolaeth yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

Buom yn ffodus yn Swyddfa Archwilio Cymru i gael hwylusydd mor wych ag (((Ena Lloyd))). Fe wnaeth hi sicrhau bod ein digwyddiadau yn cwrdd â’r safon gorau phosib wrth redeg y digwyddiad yn y Gymraeg. Dangosodd Ena yn weithredol ein bod ni’n annog cyfranogiad yn yr iaith. Roedd e’n ddiddorol gweld sut wnaeth hyn newid natur cyfranogiad y gynulleidfa. Yng Nghaerdydd roedd y cyfieithydd fel arfer yn eistedd yn ddiflas wrth ochr y llwyfan, ond nawr roedden nhw’n cyfrannu’n gynhyrfus. Golygodd hyn bod y digwyddiad yn llawer mwy hygyrch i bobl yn y ddwy iaith. Nid jyst hynny, dechreuon ni gael rhagor o gwestiynau yn y Gymraeg, hyd yn oed pan ddoedd pobl heb nodi eu bod nhw’n siarad Cymraeg wrth gofrestru achos diffyg hyder. Yn y Gogledd cawsom lawer o adborth o bobl hapus gan ein bod ni’n galluogi pobl i gyfrannu yn eu hiaith gyntaf.

llywodraethu cryf: ‘pwysig i graffu’n wybodol a hero’n gadarn’ da iawn #waotrustees. Y digwyddiad yn gadarn yn y gymraeg hefyd, gwych!

 — @SearellDesign

Dangosodd hyn oll i mi pa mor bwysig yw cynrychiolaeth. Dim jyst dweud ein bod ni am i bawb gyfrannu, ond dangos ein bod ni eisiau hynny. Pan rydym yn arddangos dynion gwyn ganol oed mewn digwyddiadau, rydym yn dweud mai “dyma sut mae llwyddiant yn edrych.” Os mae mynychwyr yn rhoi eu safbwyntiau ar waith, maen nhw’n gweithredu ar sail rhan gul o gymdeithas. Fel y dywedodd Billie-Jean King yng Ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn ddiweddar:

“If you see it, you can be it”

Does dim rhaid edrych yn rhy galed i weld sut mae dyluniad cymdeithas yn effeithio ar ddigwyddiadau. Mae’n anochel bod dynion yn gallu mynd i’r toiledau yn ddidrafferth, tra bod yna ciw mawr i’r menywod.

Ennillion cyflym

Mae rhai mentrau gwych i annog paneli cymysg mewn meysydd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, megis Addewid Cydraddoldeb Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU.

“Yn y dyfodol, ni fydd neb o GDS yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel o ddau neu fwy o bobl oni bai fod o leiaf un fenyw ar y panel, heb gynnwys y gadeirydd.

Yn y dyfodol, ni fydd neb o’r GDS yn siarad mewn digwyddiad oni bai fod trefnwyr y digwyddiad yn gweithio’n galed i fynd i’r afael ag amrywiaeth rhywiol ar y llwyfan. Mae’n anodd rhoi rhif ar y math hwn o beth, felly byddwn yn gwneud y penderfyniad hwnnw yn seiliedig ar yr hyn a welwn ar agenda drafft pob digwyddiad.

Byddwn yn dal ein hunain i’r un safonau ar gyfer digwyddiadau mewnol a rhai cyhoeddus hefyd.

Yn ddelfrydol, pan wahoddir GDS i gyflenwi siaradwr gwadd ar gyfer digwyddiad, hoffem anfon menywod i siarad yr un mor aml ag yr ydym yn anfon dynion.”

Mae hwn yn arbennig! Rwy’n caru’r dyfyniad yma o’r blogbost flwyddyn olynol:

“Mae ein haddewid wedi gwneud gwahaniaeth. Mae cynrychiolaeth well ar y llwyfan yn helpu i annog merched i ymgeisio am rolau nad oeddent yn eu hystyried ar eu cyfer, neu fynychu cynadleddau lle nad oeddent yn credu eu bod yn cael eu croesawu. Mae’n annog merched i fod yn rhan o’r drafodaeth ac mae’n croesawu safbwyntiau gwahanol ar y llwyfan.”

Newid hirdymor

Os ydym yn meddwl am bethau’n systematig, mae ochr arall arall i hyn i gyd. Sut ydyn ni’n galluogi pobl i fynychu digwyddiad fel hyn yn y lle cyntaf?
Mae gan anghynadleddau ddeinamig pŵer mwy cyfartal achos maen nhw’n fwy tebygol o gymryd lle ar benwythnos. Does dim rhaid i aelodau’r cyhoedd gymryd diwrnod i ffwrdd tra bod gweithwyr proffesiynol yn gallu rhoi eu hamser fel rhan o’u swyddi. Ond mae ymrwymiadau gofal yn golygu bod rhai pobl yn cael eu hallgau, felly sut allwn ni mynd i’r afael â hyn?
Rwy’n caru’r ffaith bod UK GovCamp wedi ail-ddyrannu eu hadnoddau er mwyn darparu gofal plant fel bod eu digwyddiad yn fwy hygyrch.

@pixlz @SDinGov @LeanAgileScot @Agilein There will be a blog post forth coming about this. No T-Shirts this year, going to spend that money on childcare/crèche options to help those campers who may struggle. Sponsors can still bring merch though 🙂

 — @UKGovCamp

Mae angen mwy o hyn. Ac mae angen inni hefyd edrych ar sut mae ein gweithredoedd ein hunain yn cyd-fynd â’r foeseg yma. Rwy’n ymwybodol iawn fy mod i’n fuddiolwr o strwythurau pŵer presennol fel aelod o’r patriarchiaid.

Mae fy mhartner yn hynod o ddeallus ac yn awdur gwych. Does ganddi ddim le i rannu ei gallu fel y mynnai oherwydd y llafur emosiynol sy’n gysylltiedig â sicrhau bod fy llysferch yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd.

Mae ein sefyllfa’n gymhleth oherwydd bod fy ngwaith presennol wedi fy ngalluogi i i symud i’r Gorllewin, ond mae fe hefyd yn golygu fy mod i’n cymudo bob dydd. Mae yna lawer o ganlyniadau anuniongyrchol i hyn o ran gollyngiadau ysgol ac ati. Fel y rhiant biolegol, fy mhartner yw’r rhiant diofyn os mae unrhyw beth yn mynd o’i le. Oni bai fy mod i’n gwneud ymdrech go iawn, mae rhan fwyaf o’r llafur emosiynol yn cael ei wneud gan fy mhartner. Nid tasgau yn y cartref yn unig yw hyn, ond y cynllunio y tu ôl i fywyd teuluol. Mae Gemma Hartley wedi ysgrifennu blogbost wych ar sut mae hyn yn teimlo:

“Roedd yn gwestiwn a arweiniodd at frwydr wrth i mi geisio sicrhau bod fy ngŵr yn deall pam mai’r rheolwr cartref sy’n hysbysu problemau, yn cynnig atebion, ac mae rhaid iddi ofyn mewn llais lafargan i gael rhywun i gydymffurfio… Fel arfer, y fenyw yw’r un sy’n gwneud llafur emosiynol fel cynllunio dyddiadau chwarae, darllen llawlyfr yr ysgol, sylwi pa eitemau pantri sy’n rhedeg yn isel a’u rhoi ar y rhestr groser, gan ddewis beth i ddod â i’r bric-a-brac cymunedol … mae’r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen.”

Mae’n gymharol hawdd i amlygu anghyfartaledd mewn digwyddiad pan mai cyfrifoldeb neu fai rhywun arall ydyw. Ond ydyn ni’n gweithredu yn yr un modd ble gallwn hwyluso newid go iawn, sef yn y cartref?

Er mwyn newid pethau’n o iawn mae rhaid i ni ddarparu cefnogaeth ar bob lefel — ie, mewn digwyddiadau cyhoeddus lle mae canlyniadau’r patriarchaidd yn cael eu dathlu fel arfer, ond hefyd yn y cartref. Ni allaf gau’r blogbost hon yn well na gyda’r dyfyniad yma gan Jessica Valenti:

“Mae ymladd y frwydr hon yn swydd amser llawn, ac mae’n rhaid inni ei wneud ar ben gweithio bob dydd a gwneud yr ail shifft yn y cartref. Menywod yw’r rhai sy’n gofalu am y plant, yn coginio’r cinio, ac yn codi sanau yn bennaf… Dylai bod yna ddim angen i ni eich perswadio neu geisio ‘dod â chi ar y siwrne;’ dylech fod yn aflonydd yn barod. A dim jyst achos rydym yn ‘wragedd, merched, neu famau’ — ond oherwydd ein bod ni’n bobl.”


Rhywedd a digwyddiadau sector cyhoeddus was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen