Archif Dyddiol: 8 Chwefror 2019

anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg: Chwalwch drawsffobia

Diwedd mis Ionawr ceisiodd ymgyrchwyr gwrth-draws “ReSisters” lledu casineb yn Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd. Gosodwyd crysau-T ar gerflunnau gyda neges oedd yn ceisio mynnu nad yw menywod-traws yn fenywod “go-iawn”. Dyma ideoleg Ffeminyddion Trawsffobaidd [“Trans Exclusionary Radical Feminsts“], sydd yn cam-gyhuddo menywod-traws o fod yn ddynion ac yn dreiswyr peryglus. Yn wir, mae nifer o […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : dechrau’r yrfa

Mae fy merch hynaf yn cael ei gofyn yn aml pryd dechreuodd hi ddarlunio. Braidd yn gynnar fel gwelwch chi. Dw i’n cofio i fi ddweud wrthi’r pryd hwnnw â darlunio “pysgodyn mawr a physgodyn bach.” Dyna beth mae hi’n ei ddarlunio yn y llun yma! (Doedd hi… Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Ychydig o hyn a’r llall

(1) Galwad gan un o’n Haelodau Cynulliad am ‘gofeb barhaol’ i Dryweryn. Mae gennym un. Y Llyn.  (Hwyrach yr hoffai rhai ohonoch ddarllen fy hen stori ‘Dyddiau Olaf Derlwyn’ yn fy nghyfrol Camu’n Ôl a Storïau Eraill, t. 290.) (2) Y llywodraeth yn dechrau holi pa ardaloedd yng Nghymru hoffai fod yn gladdfeydd gwastraff niwclear […] Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: My Story in North Wales – 18 Chwefror, 2.30, Llyfrgell Y Rhyl

Advertisements Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Cyfarfod Clwb Darllen Llundain: trafod Llyfr Glas Nebo

Cawsom noson hyfryd neithiwr yn trafod y nofel yma gan Manon Steffan Ros – a gyda tri aeilod newydd.  Weithiau dan ni wedi bod yn grŵp fach – ond dan ni’n tyfu!  A neithiwr roedden ni’n 13.’Roedd pawb wedi mwynhau y llyfr yma – os mwynhau ydy… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Cyfarfod Clwb Darllen Llundain: trafod Llyfr Glas Nebo

Cawsom noson hyfryd neithiwr yn trafod y nofel yma gan Manon Steffan Ros – a gyda tri aeilod newydd.  Weithiau dan ni wedi bod yn grŵp fach – ond dan ni’n tyfu!  A neithiwr roedden ni’n 13.’Roedd pawb wedi mwynhau y llyfr yma – os mwynhau ydy… Parhau i ddarllen

shitclic: Hen Bethe Anghofiedig

Neges twitter sbardunodd y cyfan.Iawn, cyn i chi refru “newyddiaduraeth ddiog!”, dw i’n dueddol o gytuno. Dw innau hefyd yn diawlio erthyglau newyddion a straeon ar-lein sy’n deillio o’r cyfryngau cymdeithasol, rhai sy’n dyfynnu’r twitteratis yn lle my… Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Diwrnod anodd braidd

Dan ni gyd yn eu cael nhw, tydan? Diwrnodiau anodd. Stwff teulu. Anghytuno, bod yn angharedig efo’n gilydd, y math yno o stwff. Ond rhaid codi wedi’r stŵr a dal ymlaen, hyd yn oed pan mae’n teimlo’n dywyll braidd. Roedd yn help yn hynny o beth cael ychydig o olau haul wrth i Nia ymweld … Continue reading Diwrnod anodd braidd Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: HMS Morris: Cyflweliad ar gyfer Ddydd Miwsig Cymru / Interview for Welsh Music Day

Byddwn ni’n dathlu’r Ŵyl flynyddol o’r enw Dydd Miwsig Cymraeg am y pedwerydd tro ddydd Gwener, 8 Chwefror 2019, ac yn wir, mae llawer iawn i’w ddathlu. Yn 2018, cyrhaeddodd yr artist Cymraeg cyntaf miliwn o ffrydiau ar Spotify. Hefyd, yn ystod y flwyddyn ‘na, rhyddhawyd lliaws o albymau cyffrous, yn cynnwys Inspirational Talks gan HMS Morris, albwm na ellir ei gategoreiddio o ran genre. Dyma’r albwm roedd pawb yn ei ddisgwyl mor frwd i ddilyn Interior Design, a ymddangosodd yn 2016. Yma, mae Michelle Fecio yn siarad â chwaraewr blaen HMS Morris, y chyflwynydd BBC Radio Cymru tra chŵl o’r enw Heledd Watkins, am Ddydd Miwsig Cymraeg, HMS Morris, a’r sin miwsig Gymraeg. Friday, February 8, 2019, marks the…

The post HMS Morris: Cyflweliad ar gyfer Ddydd Miwsig Cymru / Interview for Welsh Music Day appeared first on Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen