Archif Dyddiol: 19 Mawrth 2019

fel y moroedd : swper gyda’i gilydd

Ers i fy merch yn Tokyo ddechrau swydd newydd gydag oriau cyfleus, mae hi a’i chwaer, sydd yn rhannu fflat, yn cael swper gyda’i gilydd unwaith yr wythnos. Maen nhw’n mwyhau coginio a bwyta wrth weld yr olygfa ogoneddus fel hon. Cenfigennus ydw i! Parhau i ddarllen

fel y moroedd : swper gyda’i gilydd

Ers i fy merch yn Tokyo ddechrau swydd newydd gydag oriau cyfleus, mae hi a’i chwaer, sydd yn rhannu fflat, yn cael swper gyda’i gilydd unwaith yr wythnos. Maen nhw’n mwyhau coginio a bwyta wrth weld yr olygfa ogoneddus fel hon. Cenfigennus ydw i! Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Ymweld â safle’r ysgol Gatholig fel rhan o’r ymgyrch adeiladu genedlaethol

Agorwyd safle ysgol Gatholig gwerth £ 23 miliwn i westeion i lansio ymgyrch adeiladu genedlaethol. Fel rhan o ymgyrch Drysau Agored, cafodd menter dan arweiniad Build UK, mewn partneriaeth â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), gyfle i weld sut yr oedd y gwaith o greu’r adeilad newydd yn mynd rhagddo yn Ysgol Gatholig 3-16 Crist […] Parhau i ddarllen

Sara Louise Wheeler: Pedwardeg

Mae hi’n flwyddyn o gerrig filltir yn fy swigen fach bersonol. Mae hi’n ddegawd ers i mi gychwyn y golofn yma, nol yn 2009. Mae hi’n ddegawd ers i mi gael fy wobble mawr am y ffaith fy mod yn troi’n deg-ar-hugain – y creisis chwarter bywyd. Rwyf y nawr, felly, yn deugain, neu bedwardeg […] Parhau i ddarllen

Sara Louise Wheeler: Esther, Susanna, a Malan Wilkinson…

Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi cael amser caled wrth geisio ysgrifennu, mewn unrhyw gyfrwng – sydd wrth gwrs, i mi, yn achosi pryder, gan mai dyna rwyf yn ei wneud yn fy ngwaith ac yn fy amser hamdden. Dechreuais 2018 yn cyhoeddi’n gynhyrchiol ac yn y llefydd cywir: The Conversation; Y Stamp; Yr Esboniadur; […] Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Cyfnod bach stormus

A dyma fi’n cychwyn arni erbyn chwarter i ddeg – ia, dyna bydd y school run a tomen o lestri yn gwneud i rywun…;-) A dim ond pwt bach o waith bydd hi hefyd, cyn bydd rhaid i mi fynd i mewn i’r ysbyty eto – mae mam i’w gweld yn gwneud yn iawn, ond … Continue reading Cyfnod bach stormus Parhau i ddarllen