Archif Dyddiol: 5 Ebrill 2019

Blog Glyn Adda: Affwysol

Gwell dweud rhywbeth am isetholiad Gorllewin Casnewydd mae’n debyg. Chwerthin ai crio uwchben canlyniad fel hwn? Gallaf gofio adeg y byddai o leiaf rai ohonom yn ateb ‘crio’. Ond heddiw gallwn ei dderbyn fel rhan o’r llanast cyffredinol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Does raid ond edrych ar gwr arall y wlad: niwcleargarwch cynghorwyr PC Môn, ac […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : bod yn barod

Yn ddiweddar dw i’n gwneud y gwaith siopa wythnosol yn gynt ar ddydd Gwener. Yna, bydd gen i ddigon o amser i drefnu popeth yn y prynhawn, a chroesawu Shabbat heb frysio. Fel arfer, byddwn ni’n bwyta’r gweddill o swper y noson gynt, neu bydda i’n parat… Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth 2019

Wrth i Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth 2019 ddod i ben, dyma ein blogiwr gwadd, Emma Durman, Cyfarwyddwr Autside, yw ein blogiwr gwadd a fydd yn sôn am ei phrofiadau ag awtistiaeth.. Gofynnwyd i mi ysgrifennu’r blog gwadd hwn ar ôl eistedd ar ddigwyddiad diweddar ‘Panel Arweinwyr Anabledd’ ym Mhrifysgol Caerdydd gydag Abi Lasebikan, Swyddog Amrywiaeth a … Continue reading Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth 2019 Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: Cyfres newydd sbon i ddysgwyr! | A brand new series for Welsh learners!

Mae cyfres Amdani wedi’i anelu at ddysgwyr Cymraeg – ond gall y sawl sydd am ail-gydio yn darllen yn y Gymraeg hefyd eu mwynhau! Mae’r llyfrau wedi’u graddio i wahanol lefelau (Mynediad > Sylfaen > Canolradd > Uwch). Ym mhob llyfr ceir rhestr geirfa defnyddiol ar waelod bob tudalen er mwyn hwyluso’r darllen.

The Amdani series is aimed at Welsh learners – but also those who are trying to get back into reading Welsh will also enjoy the series! The books have been graded at different levels (Beginner > Foundation > Intermediate > Higher). A list of useful grammar is included at the bottom of each page to aid the reader.

Mae yna 20 teitl yn y gyfres, gyda pedwar gwasg Cymraeg (Atebol, CAA, Gwasg Gomer ac Y Lolfa) wedi cyhoeddi 5 llyfr yr un. Dyma mwy o fanylion am y pump a gyhoeddwyd gan Y Lolfa:

There are 20 titles in the series, with four Welsh publishers (Atebol, CAA, Gwasg Gomer and Y Lolfa) with each publishing 5 books each: Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Stolpia- pêl-droed a llyffaint

Parhau â chyfres Steffan ab Owain, am ‘Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au’
Er bod tipio rwbel tros Domen Fawr Chwarel Oakeley yn digwydd yn ddyddiol yn ystod oriau gwaith yn yr 1950au, nid oedd hynny yn ein hatal ni rhag chwarae yn ei godre, yn enwe… Parhau i ddarllen

Trafodaeth: Delio efo egni isel

Mae’n amhosib i neb fod efo egni a brwydfrydedd trwy’r amser – ond pan ti’n trio adeiladu busnes, mae’r cyfrifoldeb i fedru bwrw ymlaen trwy’r amser yn gallu pwyso’n drwm. Mae fy mam adref o’r ysbyty, ers ddoe – ac, wedi’r cyfan, tydi’r cefnogaeth gan y gwasanaeth cymdeithasol dim eto ar gael, a does neb … Continue reading Delio efo egni isel Parhau i ddarllen