Canlyniadau Chwilio: cacen

Gwneud pethau gwell - Medium: Sut mae seiclo wedi gwneud fi’n fwy heini ac yn hapusach

Rydw i wedi bod yn seiclo lot mwy ers i mi symud i Ddyfnaint. Mae fy ymarfer wedi bod yn gyfuniad o reidiau enfawr ar ddydd Sul a chymudo.

Mae fe wedi bod yn hynod o lush. Mae yna rywfaint o ymwybyddiaeth ofalgar yn cymryd lle, gan fod rhaid i mi ffocysu ychydig ar reidio fy meic ac osgoi tyllau yn y ffordd. Mae hyn yn rhoi digon i mi feddwl amdano, tra’n stopio fi rhag gorfeddwl am unrhyw beth. Mae’r gymysgedd o’r ymdeimlad yma a’r dopamin sy’n cael ei generadu gan ymarfer corff yn eithaf anhygoel.

Normau a diwylliant

Y car yw’r prif ddull o deithio’r dyddiau yma. Ond cyn hynny, seiclo oedd y norm. Cyfleustra sydd wedi ennill o ganlyniad i’r ffaith bod ffyrdd wedi cael eu cynllunio’n bwrpasol ar gyfer ceir, ac felly ar gyfer teithio goddefol dros deithio llesol.

Nid yw seiclo bellach yn norm, ac felly dyw seiclwyr ddim chwaith. Dyw e ddim yn sypreis felly bod seiclwyr ddim yn cael ei weld ym modd ffafriol. Mae Sarah Storey newydd ddweud bod angen dyfeisio gair Saesneg newydd ar gyfer seiclwyr sy’n cymudo gan fod y cysylltiadau â’r gair ‘cyclist’ mor hallt. Y dyddiau yma mae mwy na hanner gyrwyr ceir Awstralia yn meddwl dyw seiclwyr ddim yn “hollol ddynol.” Mae’r casineb sy’n cael ei arddangos tuag atynt yn norm diwylliannol bellach yn hytrach na safbwynt afresymol.

Falle dyw Lycra ddim yn helpu pethau. Mae blogbost whatsthepont ar MAMILs a Theori Ymarfer Gymdeithasol yn cyfleu’r teimlad anesmwyth sydd gan lot o bobl yn berffaith. Wrth i weithle ceisio annog pobl i seiclo, dywedodd un person “os ydyn nhw’n meddwl y byddaf yn ymuno â chriw o ddynion chwyslyd mewn legins croen-dynn, maen nhw off eu pennau.”

Mae’n ddiddorol ystyried seiclo gan ddefnyddio’r ddamcaniaeth y mae Chris yn amlinellu yn ei flogbost:

  • Deunyddiau: Dyma’r pethau materol sydd angen ar gyfer ymarfer cymdeithasol.
  • Gwybodaeth: Y sgiliau a’r cymhwysedd sydd angen i gyflawni gweithredoedd sy’n cyd-fynd â’r arfer cymdeithasol.
  • Ystyr: Dealltwriaeth o’r hyn mae’n ei olygu i berfformio’r ymarfer cymdeithasol hwnnw.

Mae Ernest Gagnon ar daith wych ble wnaeth y deunyddiau a’r ystyr gwrthdaro. Nid oedd disgwyl iddo wisgo lycra gan ei fod yn awyddus i golli pwysau. Ond mae fe wedi adeiladu cymuned ar-lein gefnogol o amgylch hyn. Mae fe wedi troi’r meddylfryd confensiynol wyneb yn waered gyda’i theori:

“Rydw i’n ddyn mawr sy’n ceisio byw mewn byd sydd ddim rili ar gyfer pobl fawr. Rydw i wedi dysgu’n gyflym nad yw pobl fawr yn cael eu derbyn ac na ddylent fod yn gwneud neu’n gwisgo pethau penodol yn gyffredinol.

“Mae gwisgo spandex pan fyddaf yn reidio yn rhoi rhyddid i mi. Does gen i ddim cywilydd, dydw i ddim yn ofnus a dydw i ddim am redeg neu guddio.

“Dechreuais garu fy hun a thrwsio fy hunain. Mae spandex wedi helpu mi i ddelio â fy iselder hefyd oherwydd ei fod yn onest. Mae’n gwneud i mi fod yn onest gyda fi fy hun a gyda phobl eraill. Dyma pam rwy’n credu bod y byd seiclo mor agored. Pan gall pobl dderbyn eu hunain, y gallan nhw dderbyn pobl eraill hefyd a’u helpu nhw i fod eu hunain.”

Dydw i ddim yn ffan fawr o lycra, er fy mod i’n hynod o denau. Mae fy mreichiau’n edrych fel dau ddarn o spaghetti yn hongian o dorso. Cefais fy magu mewn cylchoedd cerddoriaeth amgen ble mae dillad llac yn gysurus ac yn cuddio hynodweddau’n cyrff. Rwy’n dal i deimlo’n anghyfforddus pan rwy’n gwisgo lycra, i’r pwynt ble rwy’n gwisgo siorts mawr dros fy siorts beicio wrth i mi gymudo. Rwy’n 36 nawr ond dydw i dal ddim yn hoffi sut rwy’n edrych, ac fel y dywedodd Ernest, dyw lycra ddim yn rhoi unman i chi i guddio.

Mae fe wedi bod yn pistyllio lawr dros y dyddiau diwethaf, felly mae gwisgo cotwm yn brofiad afiach ac annymunol, felly mae hyn wedi fy annog i i newid fy arferion. Fy her i yw cynnal hynny ac i atgoffa fy hun does na ddim byd mwy pync na rhoi’r gorau i becso am beth mae pobl eraill yn meddwl.

https://medium.com/media/5de4de81728b2a964e606313d6ff247b/href

Lles

Mae goblygiadau amlwg o ran ffitrwydd i deithio llesol, ond mae yna hefyd ganlyniadau anfwriadol o ran rhyngweithio gymdeithasol. Rydym yn gyfnewid “shwmae”, “bore da” a “phnawn da” gyda chymudwyr eraill, ac mae gan seiclo diwylliant coffi arbennig hefyd. Mae’n werth gael cipolwg ar flog Gruffudd Emrys, sy’n rhannu caffis seiclo gorau Cymru yn ei gyfres Stepen Drws. Rwy’n cael darn enfawr o gacen ar fy reidiau hirach wrth i ni drafod timau chwaraeon amrywiol, neu’r sefyllfa wleidyddol bresennol. Rhannodd John Wade ddarlun hynod o brydferth gan Sarah Lazarovic ar Twitter sy’n rhannu grym y rhyngweithiadau bychain yma, ac mae fe hefyd wedi crynhoi hyn yn berffaith yn ei flogbost ar Parkrun Stratford — Mae amserau rhedeg cyfartalog i lawr, mae cynhyrchiant i lawr, mae amserau cychwyn yn hwyrach, mae yna fwy o gacennau… beth ar y ddaear sy’n digwydd?

“Mae llawer o bobl yn gwneud cacennau i ddod gyda nhw, naill ai i ddathlu carreg filltir neu ben-blwydd Parkrun neu jyst achos maen nhw eisiau. Mae’n golygu bod pobl yn aros o gwmpas ar ôl rhedeg. Maen nhw’n sgwrsio, yn rhannu storïau, yn dod mewn i gysylltiad â hen ffrindiau, ac yn rhoi eu henwau i lawr i wirfoddoli’r wythnos nesaf.

“Rydym wedi adeiladu cymuned gref sy’n croesawu pobl i mewn o’r ymyl ac sy’n gadael i bawb gymryd rhan a rhannu beth bynnag sydd ganddynt i’w gynnig.”

Gallai ddefnyddio ystadegau Strava i arddangos sut rwy’n fwy heini ac yn iachach. Gallai rannu’r milltiroedd rydw i wedi seiclo a fy ngwelliant ar y dringfeydd y byddwn i wedi bod yn ffodus i oroesi yn y gorffennol. Ond y peth gorau amdano seiclo yw’r modd y mae fe wedi rhoi cyfle i mi gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd ers symud i Ddyfnaint. Hynny a’r gacen.

Awtomeiddio

Mae’n ymddangos ein bod ni mewn sefyllfa dyngedfennol ynghylch dyfodol ceir heb yrwyr.

Mae fy newis i i gymudo ar feic a thrên yn cael ei wneud er ei fod yn haws i neidio yn y car, sydd ychydig yn gynt. Mae cymudo ar feic yn ychwanegu ffrithiant i fy mywyd. Ond yn aml rydym yn gwybod nad yw gwneud y peth hawdd yr un peth a gwneud y peth iawn. Fe wnaeth Neil Tamplin trydar edefyn defnyddiol ar hyn yng nghyd-destun bwyd cyflym, lle rhannodd sut mae McDonalds yn llywio pobl i lawr llwybrau sydd wedi’i bersonoli i annog gwariant, yn hytrach na annog dewisiadau da.

Did anyone ask if we really want data driven meal choices?? — “You want AIs with that? McDonald’s buys into machine learning” https://t.co/ptMjV1mG8G

 — @NeilTamplin

Mae teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn dod â phobl at ei gilydd, ac mae’n debyg fe fydd awtomeiddio yn bwyta i mewn i’r cysylltiadau yma. Ffeindiais y darn gwych yma gan Xavier Brice mewn un o gofnodion wythnosol arbennig Neil (Tymor 2, Pennod 6) ar ddyfodol cerdded a beicio.

“Mae hyn yn ymwneud â mwy na chysylltu llefydd a galluogi pobl i deithio heb gar. Mae’r llwybrau yma’n cysylltu pobl â’i gilydd. Mewn adeg pryd mae bron i un o bob pump o boblogaeth y DU yn dweud eu bod nhw’n bob amser neu’n aml yn unig, mae’r llwybrau yma yn ased hanfodol. Maent yn darparu lle i bawb i symud o gwmpas, i fod, ac i dreulio amser gyda’i gilydd yn rhad ac am ddim.”

Nid yw’n hawdd gwisgo lycra neu neidio ar feic am y tro cyntaf. Rwy’n dal i gael trafferth gyda hyn, er ei fod wedi gwneud fy mywyd yn well mewn cymaint o ffyrdd. Ond mae fe wedi ehangu fy nghylch cymdeithasol, gwella fy iechyd meddwl, gwneud fi’n hapusach, a chadw fi’n heini. Mae’n werth ystyried o leiaf sut rydym yn trafaelu, a sut y gall ein dewisiadau ein helpu ni i fyw ein bywydau gorau posibl.


Sut mae seiclo wedi gwneud fi’n fwy heini ac yn hapusach was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen