Archif Misol: Mai 2019

fel y moroedd : sgwrs saesneg sydyn

Mae gan fy nhrydedd ferch olwg hollol Japaneaidd, ac mae ei henw hi ar y wisg yn Japaneg hefyd, ac felly dydy neb, sydd yn dod i’r siop goffi lle mae hi’n gweithio ynddi, yn sylweddoli bod hi’n hanner Americanaidd. Dechreuodd cwsmer siarad â hi, fodd b… Parhau i ddarllen

rhysllwyd.com: Mae ‘Cenedlaetholdeb Gristnogol’ yn air brwnt heddiw, ond yng Nghymru roedd yn arfer bod yn ddylanwad blaengar a chadarnhaol

Bydd fy llyfr Tynged Cenedl: Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones yn cael ei gyhoeddi yn Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg yn Rhydymain ymhen pythefnos ac ar gael ym mhob siop lyfrau Gymraeg a gwales.com wedyn. Yn gobeithio trefnu digwyddiadau eraill dros yr haf i rannu am y llyfr hefyd. Ces i fy magu ar aelwyd Gristnogol […] Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru (2019-2022) / Literature Wales Strategic Plan (2019-2022)

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio Cynllun Strategol tair blynedd y sefydliad, gydag ymrwymiad i gefnogi egin awduron a mynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth yn y sector lenyddol. Literature Wales has launched a new three-year Strategic Plan with a commitment to supporting early career writers and tackling under-representation in the literature sector. llenyddiaethcymru.org/amdanom-ni/cynllun-strategol-2019-2022 literaturewales.org/about/strategic-plan-2019-2022  

The post Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru (2019-2022) / Literature Wales Strategic Plan (2019-2022) appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: A nawr mae’r pedwar ohonom yn un: Ffurfio Cwnstablaeth De Cymru, 1 Mehefin 1969

Fis Mehefin bydd hi’n hanner canrif ers ffurfio Cwnstablaeth De Cymru. Dyma’r cyntaf o dair erthygl yn edrych nôl ar hanes ffurfio’r gwnstablaeth a’i dyddiau cynnar. Mae’n tynnu ar gofnodion a gaiff eu cadw yn Archifau Morgannwg gan gynnwys copïau o’r adroddiadau blynyddol a luniwyd gan y Prif Gwnstabl. Yn ôl unrhyw fesur roedd 1969 […] Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Elin Meek & Lynda Tunnicliffe: Rhoi Cymru ar y Map / Putting Wales on the Map

Mae Cymru ar y Map wedi enill y wobr Tir na-nOg mewn seremoni yn Eisteddfod yr Urdd, mis Mai 2019, Bae Caerdydd. Cymru ar y Map has won the Tir na-nOg Welsh-language awards children’s book award in a cermony at the Urdd Eisteddfod, May 2019, Cardiff Bay. Mae Cymru’n gwlad y gân, cennin pedr, defaid,…

The post Elin Meek & Lynda Tunnicliffe: Rhoi Cymru ar y Map / Putting Wales on the Map appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Gwobrau Tir na n-Og 2019

Llongyfarchiadau i bawb! A ddeudis i bod Fi a Joe Allen yn lyfr arbennig, arbennig o dda nôl ym mis Mai 2018 yndo? Mae Manon Steffan Ros wedi ei gwneud hi eto! Dyma i chi nofel ar gyfer darllenwyr 11-14 oed (yn ôl y cyhoeddwyr) (10-94 oed yn fy marn i) ddylai fod yn hynod […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : yn samaria

Mae fy merch a’i grŵp wedi symud i Samaria (a elwir yn West Bank) yn ymweld â Phrifysgol Ariel, ffatri, a chyfarfod mwy o bobl leol. Gwelon nhw rai merched Iddewig ac Arabaidd yn chwarae pêl-fasged gyda’i gilydd yn gyfeillgar. (Maen nhw’n fedrus iawn, … Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Apêl y Tabernacl

Y drydedd bennod yng nghyfres W. Arvon Roberts.

Yn Hydref 1916, cyrhaeddodd llythyr oddi wrth y Parch R.R. Morris, Gweinidog y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog, yn diolch i’r ‘Drych’ am gefnogi yr apêl dros y Capel at Gymry yr America. Yn y llythyr hwnnw… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : yr hen broblem

Falch o weld bod Cardinals yn mynychu’r bwydwr adar newydd. Mae’n hwyl eu gweld nhw’n bwydo’n fodlon. Yna, dechreuodd yr hen broblem eto, sef gwiwerod. Maen nhw’n medru neidio o’r rheilen at y bwydwr, neu ddringo’r polyn haearn i’w gyrraedd. Roedd rhai… Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Mali, Gwawr Edwards

Mae hon yn gyfrol fach hyfryd a lliwgar am Mali’r ci sy’n byw ar fferm – ond nid ci defaid mo Mali, ond sbaniel King Charles go iawn yr awdures. Ac ia, y Mali go iawn sydd wedi ysbrydoli’r 4 stori sydd yn y gyfrol. Roedd ‘na luniau ohoni hi, Gwawr a Nel, ei merch […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Castell Coch, Tongwynlais

Tybir fod y Castell Coch gwreiddiol yn dyddio o’r 12fed neu’r 13fed ganrif.  Daw ei enw o liw y garreg dywodfaen leol yr adeiladwyd y castell ohoni.  Gadawyd y castell i fynd â’i ben iddo yn weddol gynnar, roedd yn rhan or ystadau a gysylltwyd â Chastell Caerdydd.  Erbyn y 19eg ganrif dim ond y […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Pwy gawn ni ?

Yn gyfansoddiadol, gall y Frenhines wahodd unrhyw aelod o Dŷ’r Cyffredin neu o Dŷ’r Arglwyddi i ffurfio llywodraeth. Hwyrach yr hoffech chi, ddarllenwyr y blog, gynnig ambell enw iddi. Ar y llaw arall, mae confensiwn wedi rheoli’r dewisiadau drwy’r blynyddoedd, ac mae gwahaniaeth rhwng (a) dewis prif weinidog hanner ffordd drwy dymor seneddol a (b) […] Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad #77: Huawehei!

Yn y bennod ddiweddaraf mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio deall rhyfel fasnach rhwng China a’r UDA, ac yn cael collective brainsplode emoji o ganlyniad. Ond yn llwyth mwy o hwyl, mae blas o gyfweliad gyda Geraint Howells o gwmni cyfieithu gemau Shloc gyda ni, mewn crossover gyda podlediad Sionedigaeth! Wrth gwrs mae’r A-Gin-Da, […]

The post Haclediad #77: Huawehei! appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : yn jerwsalem

Mae fy merch yn Jerwsalem! Mae’n anhygoel! Mae hi ynghyd â’r grŵp yn prysur fynychu darlithiau a chyfarfod y bobl leol bob dydd. Mae’r bwyd yn hynod o flasus hefyd fel disgwyliwyd. Byddan nhw’n cyfarfod rhai gwleidyddion yn ochrau’r chwith a’r dde hedd… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Edrych yn ol ar Etholiad Ewrop – rhan 1

Un o fanteision etholiad ydi ei fod yn rhoi cyfle i chwarae o gwmpas efo ffigyrau – ac mi wnawn ni wneud ychydig o hynny tros y dyddiau nesaf.Gan bod y Blaid wedi dod o flaen Llafur am y tro cyntaf erioed mewn etholiad Cymru gyfan mi wnawn ni ddechrau … Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: About Wales: Yr Iaith Gymraeg / The Welsh Language

What alphabet is used for the Welsh language? The Roman alphabet is used to represent Welsh, with some differences compared with how it is used in English. There are 29 symbols in the Welsh alphabet. These are, in order: a b c ch d dd e f ff g ng h i j l ll…

The post About Wales: Yr Iaith Gymraeg / The Welsh Language appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : tatws a menyn i’r arlywydd

Falch o weld bod yr Arlywydd Trump a Mrs. Trump wedi cael amser gwych yn Japan. Cyfarfod yr ymerawdwr a’r ymerodres newydd oedd y prif amcan, ond roedd o wedi gwneud llawer mwy fel y gwelir yn y newyddion. Un o’r prydau a gafodd yn y tŷ bwyta oedd giag… Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y bore wedyn

Dau sylw brysiog. (1) Rhan o ddoethineb traddodiadol gwleidyddiaeth yw fod rhaid ‘meithrin yr etholaeth’. Mabwysiadu ymgeisydd mewn da bryd, hwnnw neu honno’n rhywun gweithgar, ymroddedig, gorau oll os yw’n adnabyddus (lleol os oes modd). Trefnu’n drylwyr. Dod i adnabod pobl. Eu helpu. Eu gwasanaethu. Gweithio’n galed ar faterion lleol. Meithrin amynedd lle mae pethau’n […] Parhau i ddarllen

Gronyn: Rheoli’r tafod

Y siom i mi oedd na chaed gan Mrs May gân wedi’r cyhoeddiad, a minnau wedi tybio bod David Cameron wedi gosod cynsail i’w olynwyr wedi iddo ganu nodyn neu ddau’n galonnog wrth gamu trwy ddrws 10 Stryd Downing ar ei ymddiswyddiad dair blynedd yn ôl. Fe dalwyd teyrngedau ddydd Gwener i Theresa May wedi […] Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Beth fydd yn digwydd heno?

Reit, beth sydd am ddigwydd pan mae’r pleidleisiau yn cael eu cyfri heno?Y peth cyntaf i’w ddweud ydi os oes rhywun yn dweud wrthych eu bod yn gwybod i sicrwydd mae nhw’n dweud celwydd.  Yr unig ffordd hollol ddibynadwy o ddweud beth sydd am ddigw… Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Genod Gwych a Merched Medrus

Dach chi’n cofio ddechrau’r flwyddyn am awdur yn chwilio am enwau genethod gwych a merched medrus fel rhan o’i phrosiect newydd? Medi Jones-Jackson o Bow Street ger Aberystwyth oedd honno, rhywun sydd wedi gweithio ym myd llyfrau plant ac wedi rheoli prosiectau hyrwyddo darllen yn y gorffennol – ac mae hynny’n amlwg! Yn union fel […] Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Stolpia -Y Crimea

Detholiad allan o gyfres boblogaidd Steffan ab Owain.

Ceir llawer o enwau yn ymwneud â brwydrau a rhyfeloedd yn ein hardal. Un enghraifft yw’r enw Saesneg ar Fwlch y Gorddinan, sef Crimea Pass. Credaf i’r lle hwn gael ei enw ar ôl Rhyfel y Crimea (185… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : siwrnai i israel

Mae fy merch hynaf yn gadael am Israel heddiw ynghyd â grŵp Prosiect Philos. Byddan nhw’n mynychu cynadleddau, darlithiau, a mynd ar wibdeithiau yn Israel ac yn Iorddonen wrth gymdeithasu gyda’r bobl leol. Edrycha’ i ymlaen yn fawr at glywed newyddion … Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Gwion Elis-Williams o Ysgol y Cwm: Eisteddfod Trevelin 2019

Mae Eisteddfodau’n cael eu cynnal ledled cymunedau Cymraeg ym mhedwar ban y byd, ac un ohonyn nhw sy wedi bodoli am gyfnod tra hir, ac sy’n denu llawer iawn o gystadleuwyr, o’i chymharu â’r lleill, yw Eisteddfod Trevelin ym Mhatagonia. Yma, mae Gwion o Ysgol y Cwm yn sôn wrthym ni am ychydig o’i chystadlaethau…

The post Gwion Elis-Williams o Ysgol y Cwm: Eisteddfod Trevelin 2019 appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Esgob yn y Rhyl i weld ysgol ffydd newydd gwerth £23 miliwn

Mae Esgob Wrecsam wedi dod i weld sut mae pethau’n datblygu yn yr ysgol ffydd newydd gwerth £23 miliwn yn y Rhyl. Cyfarfu’r Gwir Barchedig Peter M Brignall ag Amanda Preston, pennaeth Ysgol Gatholig Crist y Gair, a’r disgyblion ar y safle, a dywedodd ei fod ‘wrth ei fodd’ â chynnydd y gwaith. Bydd Ysgol […] Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru: #Datganoli20 Mewn Archifau

Mae’r cofnod hwn yn rhan o raglen Stori Cymru. Cliciwch ar Stori Cymru o dan y categorïau i weld gweddill y cofnodion. Gallwch hefyd danysgrifio… Darllen Mwy

The post Sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru: #Datganoli20 Mewn Archifau appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 26 Mai a 2 Mehefin 2019

‘Molwch yr Arglwydd. Diolchwch i’r Arglwydd, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth’. (Salm 106:1)

Croeso cynnes i bawb ohonoch i foli’r Arglwydd yn ein gwahanol oedfaon ar draws Bro Aled heddiw. Wrth i ni wneud hynny, cofiwn pwy yw’r Duw yr ydym yn ei addoli – yr un sy’n Dad, yn . . . → Read More: Dydd Sul, 26 Mai a 2 Mehefin 2019

Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Gwyl Fedwen a mwy o Sali Mali

Do, daeth Sali Mali a Cyw a Rhys Meirion a phawb i Saith Seren, Wrecsam i’r Wyl Fedwen. Wel, pawb oedd ddim yn yr ŵyl fwyd yng Nghaernarfon neu’r brotest fawr yng Nghaerdydd. Roedd y lle’n llawn ar gyfer y sesiwn hyfryd efo Aled Lewis Evans, un o’r bobl neisia yn y byd (a mwya […] Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: About Wales

What are some common symbols used to represent Wales, and why are they used? The national emblem of Wales is the vegetable called the leek (Allium ampeloprasum, called cenhinen in Welsh). Various legends relate that St David, Wales’ patron saint, or King Cadwaladr, instructed Welsh soldiers to use leeks on their helmets to distinguish themselves…

The post About Wales appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : rhaid eu hamddiffin

Bydd yr Arlywydd Trump a Mrs. Trump yn ymweld â Japan ddydd Sadwrn ymlaen am bedwar diwrnod i roi parch i’r ymerawdwr newydd. Mae llywodraeth Japan wrthi’n gwneud siŵr y byddan nhw’n hollol ddiogel. Un o’r digwyddiadau ar yr amserlen ydy gweld y twrnam… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : newid

Cafodd fy merch newydd raddio swydd yn sydyn. Bydd hi’n symud y penwythnos ‘ma. Roeddwn i’n rhyw feddwl y byddai hi’n aros adref dros yr haf. Dyma ni’n ddau, fi a’r gŵr yn ôl at y nyth wag unwaith eto. Daw’r mab ifancaf adref o’i waith haf ym mis Awst … Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Ynni Cymunedol Twrog

 Uno’r Fro i ymateb i heriau’r dyfodol. Erthygl o rifyn Ebrill 2019

Gyda Llywodraeth Cymru wedi gosod her “i gynhyrchu 70% o’r trydan y mae Cymru yn ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy, erbyn 2030”, mae aelodau cynghorau cymuned a thref Blaenau Ffestini… Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Capel Heol y Crwys (Mosg a Chanolfan Ddiwylliannol Islamaidd Shah Jalal), Heol y Crwys, Caerdydd

Cafodd cynlluniau yr adeilad eu cymeradwyo ym mis Mai 1884 ar gyfer codi Capel Fethodistaidd Galfinaidd ar May Street, Cathays.  Mae’r adeilad hwnnw, a ddyluniwyd gan J P Jones, bellach yn cael ei ddefnyddio gan Fyddin yr Iachawdwriaeth. Wedi tyfu’n rhy fawr i’w lleoliad ar May Street, derbyniodd yr eglwys gymeradwyaeth ym mis Mai 1899 […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : tebot

Ces i 20 doler yn anrheg gan un o fy mhlant. Mae’n bob tro anodd i mi ddewis beth i’w brynu. Efallai mwg coffi arall? Na, mae gen i fwy na digon yn y cwpwrdd. Yn y diwedd, penderfynais brynu tebot Japaneaidd gan fy mod i’n yfed te wedi’i rostio bob dyd… Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Sut mae newid yn digwydd

Arweiniodd Imogen Blood gweminar gwych ar gyfer RiPfA yn ddiweddar ar Weithio gyda phobl sy’n camddefnyddio alcohol neu sylweddau, ac mae hi wedi sgwennu blogbost wych ar rai o’i ganfyddiadau.Rhannodd Imogen model newid Prochaska a DiClemente ar gyfer … Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: About Wales: Baneri Cymru / Flags of Wales

What is the official flag of Wales? The official Welsh flag is called in Welsh Baner Cymru (The Flag of Wales) or Y Ddraig Goch (The Red Dragon), and consists of a red dragon passant on a green and white field. The ‘heraldic charge’ (the red dragon), comes from Cadwaladr, King of Gwynedd, and has…

The post About Wales: Baneri Cymru / Flags of Wales appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Blog Y Gyfnewidfa Arfer Da : Beth sydd nesaf?

GWEMINAR: Prif Heirau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol #WAORPB Cyn bo hir, bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cyhoeddi adolygiad o’r Gronfa Gofal Integredig. Mae’r adolygiad wedi codi ymwybyddiaeth o’r prif heriau a wynebir gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol wrth weinyddu’r gronfa hon, yn ogystal â chronfeydd eraill. Bydd y gyfres hon o weminarau’n awgrymu atebion i’r heriau hyn. Gall Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol eu haddasu i ymateb i’w hamgylchiadau lleol. I gynorthwyo Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i weithredu newidiadau i’r ffordd y maent yn gweithio ar y prif materion a nodir, bydd y Gyfnewidfa Arfer… Read more Beth sydd nesaf? Parhau i ddarllen

fel y moroedd : hael

Dyma fo, y murlun diweddaraf fy merch. Bountiful ydy’r teitl. Mae hi eisiau iddo ysbrydoli pawb i fwyta’n iach, (ar wal tŷ bwyta mae’r murlun) wrth gofio bod bwyd iach yn gwella nifer o afiechydon. Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Hansard yn troi yn ei fedd?

Roedd amser yn brin rhwng y refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru ar 18fed Medi 1997 a chyfarfod cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12fed Mai 1999… Darllen Mwy

The post Hansard yn troi yn ei fedd? appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

Cynghorydd Peter Scott: Digwyddiadau a fynychwyd ym mis Mai 2019

03/05/19 – Sefydliad y Maer a Cyfarfod Blynyddol Cyngor Tref Dinbych, yn Neuadd y Dref, Dinbych. Noson yn gwylio sefydliad Maer newydd Dinbych (Cyng Gaynor Wood-Tickle). Cafodd y cyn Faer ei diolch am ei holl waith caled, a wedyn cafwyd lluniaeth ysgafn. 10/05/19 – Noson Elusennol Maer Prestatyn mewn ‘Marquee’ yng Ngwesty Nant Hall, Prestatyn. […] Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Diwrnod Gwenyn y Byd: Gwenyn y Pierhead

Treuliodd y gwenyn yr hydref yn lleihau niferoedd a’n cynyddu eu stoc bwyd er mwyn sicrhau bod y broses aeafu mor effeithlon â phosibl. Ar ôl bwrw golwg arnyn nhw’r tro diwethaf ym mis Tachwedd, roedd hi’n bwysig peidio ag agor y cwch gwenyn fel na fyddai’n oeri gormod.  Treuliodd y gwenyn y gaeaf yn … Continue reading Diwrnod Gwenyn y Byd: Gwenyn y Pierhead Parhau i ddarllen

Gronyn: Yn y ras

Tua’r adeg hon o’r flwyddyn yr arferid cynnal y Diwrnod Chwaraeon yn Ysgol Brynrefail.  Wyddwn i ddim ar y pryd, ond mi ddaeth yr uchafbwynt i mi yn fy mlwyddyn gyntaf pan enillais naid hir y lower juniors.   Roedd y naid o 13 troedfedd 8½ modfedd yn ‘record’ ar y pryd! Ar i wared aeth […] Parhau i ddarllen

shitclic: Losing Faith

“A critical acclaim and social media buzz” – The Times “A TV trailblazer… a delight to watch” – Grazia “Big Little Lies relocated to rural Wales” – The Guardian “A tale of organized crime and domestic strife” – The&nb… Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Yr ‘adolygiad’ eto

‘Nac ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd,’ rhybuddir ni yn llyfr y Diarhebion. Ond mae’r ‘adolygiad’ (blog echnos) yn gwrthod mynd o fy meddwl, gan ei bwysiced i efrydwyr ein llên. Yn y pedwar darn bach a ddyfynnais, mae o leiaf bump o FFEITHIAU HOLLOL NEWYDD am hanes llenyddiaeth Gymraeg. Ai yn yr ‘adolygiad’ […] Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: 🗣 Cyfle i ddathlu methiant y sefydliad

Geiriau un o ganeuon mwyaf poblogaidd Bryn Fôn sy’n dod i’r meddwl wrth wylio Nigel Farage ac ymgeiswyr ei fand un-dyn yn yr etholiad sydd ar ddigwydd: “… i gyd yn bennau bach Yn meddwl bod nhw’n rebals Pan mai nhw ’di’r blydi crach.” Hawdd dychmygu Ni… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : pam wir

Pam na ydych chi’n cefnogi Israel? Mae yna gynifer o resymau, fel esbonnir gan Stephen Harper, cyn prif weinidog Canada. Maen nhw i gyd yn gwneud synnwyr. Parhau i ddarllen

Llafar Bro: 40 mlynedd yn ôl

Wrth i ni gychwyn ar gyfnod newydd, lliw llawn a digidol, diolch i  D. Bryn Jones am fynd drwy ei archif bersonol o ddeunydd Llafar Bro – mae’n mynd a ni yn ôl i’r hen  ddyddiau.

NEGES GAN JOHN MORRIS, QC, A S, YSGRIFENNYDD CYMRU I ‘LLAFAR BRO’

Dy… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : anrheg wych

Wedi cael dec cefn newydd, doeddwn i ddim eisiau ail-osod bwydwr aderyn rhag i’r adar wneud llanast arno fo. Roeddwn i’n teimlo tipyn yn drist wrth eu clywed nhw’n ofyn am fwyd (dw i’n meddwl!) Dyma’r gŵr brynu bwydwr newydd sydd yn hongian o’r rheilen… Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Duw’n dal i drio (2)

Fel rwyf wedi dweud droeon ar y blog, bydd Rhagluniaeth, yn weddol reolaidd, yn gyrru pethau i geisio gwylltio’r Cymry a’u deffro i wneud rhywbeth ohoni. I’r pwrpas hwn, un dyn y mae’n defnyddio ychydig arno y dyddiau hyn yw’r colofnydd Roger Lewis. Wele ef ddydd Sadwrn diwethaf, 11 Mai, yn y Daily Telegraph yn […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : ar ei phengliniau

Mae fy merch hynaf wrthi’n creu murlun yn Virginia tra bod y glaw’n bygwth difetha’r paent o bryd i’w gilydd. Rhaid iddi weithio ar ei phengliniau’n hir hefyd. Mae angen clustog arni hi, un tebyg a ddefnyddiwyd gan Mrs. Elton wrth iddi gasglu mefus yng… Parhau i ddarllen