Archif Dyddiol: 13 Mai 2019

BlogMenai.com: Beth fydd yn digwydd yn yr Etholiad Ewrop?

Mae’n debyg bod rhywbeth digri am y sefyllfa ryfedd lle mae llefarwyr ar ran y Blaid Doriaidd a’r Blaid Lafur yn dweud bod canlyniadau etholiadau lleol yn Lloegr yn arwydd bod yr etholwyr yn dweud wrth y gwleidyddion am sicrhau Brexit (mae Nigel Evans … Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Trwy’r drws heddiw …

Trwy’r drws y bore ’ma, taflen etholiad Ewrop Plaid Cymru, etholaeth Arfon. ‘Mae gan Theresa May, Jeremy Corbyn a Nigel Farage un peth yn gyffredin; yn erbyn dymuniadau pobl Arfon maent eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd.’ Ffeithiol gywir, ond beth a ddywedir wrth bobl Môn, a Brexitwyr brwd y Cymoedd, ac yn wir mwyafrif pobl […] Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Jamborî yn y Senedd: Nodi 20 mlynedd o ddatganoli

Roedd y Senedd fel ffair ddydd Llun gŵyl y banc, 6 Mai 2019, wrth inni gynnal jamborî llawn hwyl i nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru. I gychwyn, cawsom orymdaith liwgar o amgylch y Bae i gyfeiliant Samba Galez; gellid clywed eu drymiau’n atseinio dros forglawdd Bae Caerdydd draw ym Mhenarth. Yn yr adeilad, … Continue reading Jamborî yn y Senedd: Nodi 20 mlynedd o ddatganoli Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Disgyblion yn cymryd cipolwg ar eu hysgol newydd sbon

Mae disgyblion Ysgol Carreg Emlyn wedi cael cyfle i ymweld â’u hysgol newydd gwerth £ 5miliwn wrth i waith gyrraedd y camau terfynol. Mae adeilad ysgol newydd Ysgol Carreg Emlyn yn cael ei ddatblygu ar un safle newydd yn Nghlocaenog i gymryd lle’r safleoedd presennol yng Nghyffylliog a Clocaenog. Ariennir y prosiect gan Gyngor Sir […] Parhau i ddarllen