Archif Misol: Mai 2019

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Wikimedia a’r sector diwylliant – Astudiaeth effaith newydd

Ym mis Rhagfyr 2017 dechreuodd Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell weithio ar brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd gwybodaeth am bobl sy’n gysylltiedig… Darllen Mwy

The post Wikimedia a’r sector diwylliant – Astudiaeth effaith newydd appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

shitclic: Dramâu parchus

Siŵr braidd fod yna gyfryngis wedi ymddangos ar lwyfan yr Urdd. P’un a aethon nhw ymhellach na’r steddfod gylch sy’n fater arall. Ond mae gormod ohonyn nhw wedi bod drwy’r ysgol lefaru / adrodd dros ben llestri. Pa reswm arall sydd dros orliwio’r gair … Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Diffinio islamoffobia

Er bod y gair yn drwsgl, rwy’n anghytuno’n gryf â phobl sy’n dadlau mai label ffug yw ‘islamoffobia’, dyfais er mwyn tawelu beirniaid yn unig. Mae rhagfarn ac anffafriaeth yn erbyn mwslemiaid yn bodoli, dyma’r gair sydd wedi cydio fel ffordd gyfleus o … Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: 700 yn cefnogi Common Voice!!

Rydym wedi cyrraedd 700 o gyfranwyr! Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu. 🙂 Ar hyn o bryd mae gennym 40 awr o ddata wedi ei ddilysu a 47 awr wedi ei recordio. Felly, mae angen parhau i recordio gymaint ag y bo modd ac i wrando a dilysu lleisiau, os gwelwch chi’n […]

The post 700 yn cefnogi Common Voice!! appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol

Gan fod Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol yn digwydd ar draws y byd heddiw – 15fed Mai – mae Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru… Darllen Mwy

The post Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Brynderwen, 49 Fairwater Road, Caerdydd

Ar 8 Mai 1878, cymeradwyodd Awdurdod Glanweithdra Gwledig Caerdydd gynlluniau a luniwyd gan John Pritchard, Pensaer Esgobaethol Llandaf, ar gyfer adeiladu tŷ ar ddarn mawr o dir ger Cwrt Insole.  Cleient Pritchard oedd Evan Lewis, perchennog pyllau glo yn ardal Aberdâr.  Erbyn cyfrifiad 1881, roedd Lewis, a oedd yn 58 oed ar y pryd, yn […] Parhau i ddarllen

shitclic: Nederlands a North Bay

Efallai bod eu timau pêl-droed yn eithaf cyfarwydd i ni yn yr ynysoedd hyn (sori Ajax) ac un o ffefrynnau’r camp a rhemp Ewropeaidd eleni, ond nid felly dramâu teledu’r Iseldirwyr. Do, fe gawsom ni olygfeydd helaeth o erwau tiwlips, y camlesi a’r stryd… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : graddio

Graddiodd fy merch arall o College of the Ozarks ddydd Sul. Es i a’r rhan o’r teulu i ddathlu’r achlysur arbennig. Yn annhebyg i rai prifysgolion eraill, dylai’r myfyrwyr yno ymdrechu yn ofnadwy o galed yn astudio tra bod nhw’n gweithio ar y campws. We… Parhau i ddarllen

Blog Y Gyfnewidfa Arfer Da : Sgwrs gyda Cletwr

Yn ddiweddar galwasom i weld Karen yn Cletwr ar ôl clywed pethau gwych gan aderyn bach ynglŷn â’r gwaith y mae’n nhw’n ei wneud gyda chymuned Tre’r Ddôl yng Ngheredigion.… Read more Sgwrs gyda Cletwr Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Ysgoloriaeth Patagonia 2019

Tecwyn Vaughan Jones -cadeirydd y beirniaid- yn trafod enillydd diweddaraf gwobr flynyddol Cyngor Tref FfestiniogDyfarnwyd Ysgoloriaeth 2019 ar Ddydd Gŵyl Dewi, yn Siambr y Cyngor ac roedd teilyngdod sicr eleni eto. Enillydd Ysgoloriaeth 2109 yw Mark W… Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Datrys dirgelwch deugain mlwydd oed

Mae hon yn dipyn o stori dditectif. Yn 1979 derbyniodd y Llyfrgell lungopi o fap bychan o Sir Frycheiniog; ni wyddai’r perchennog ddim am y… Darllen Mwy

The post Datrys dirgelwch deugain mlwydd oed appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Beth fydd yn digwydd yn yr Etholiad Ewrop?

Mae’n debyg bod rhywbeth digri am y sefyllfa ryfedd lle mae llefarwyr ar ran y Blaid Doriaidd a’r Blaid Lafur yn dweud bod canlyniadau etholiadau lleol yn Lloegr yn arwydd bod yr etholwyr yn dweud wrth y gwleidyddion am sicrhau Brexit (mae Nigel Evans … Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Trwy’r drws heddiw …

Trwy’r drws y bore ’ma, taflen etholiad Ewrop Plaid Cymru, etholaeth Arfon. ‘Mae gan Theresa May, Jeremy Corbyn a Nigel Farage un peth yn gyffredin; yn erbyn dymuniadau pobl Arfon maent eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd.’ Ffeithiol gywir, ond beth a ddywedir wrth bobl Môn, a Brexitwyr brwd y Cymoedd, ac yn wir mwyafrif pobl […] Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Jamborî yn y Senedd: Nodi 20 mlynedd o ddatganoli

Roedd y Senedd fel ffair ddydd Llun gŵyl y banc, 6 Mai 2019, wrth inni gynnal jamborî llawn hwyl i nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru. I gychwyn, cawsom orymdaith liwgar o amgylch y Bae i gyfeiliant Samba Galez; gellid clywed eu drymiau’n atseinio dros forglawdd Bae Caerdydd draw ym Mhenarth. Yn yr adeilad, … Continue reading Jamborî yn y Senedd: Nodi 20 mlynedd o ddatganoli Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Disgyblion yn cymryd cipolwg ar eu hysgol newydd sbon

Mae disgyblion Ysgol Carreg Emlyn wedi cael cyfle i ymweld â’u hysgol newydd gwerth £ 5miliwn wrth i waith gyrraedd y camau terfynol. Mae adeilad ysgol newydd Ysgol Carreg Emlyn yn cael ei ddatblygu ar un safle newydd yn Nghlocaenog i gymryd lle’r safleoedd presennol yng Nghyffylliog a Clocaenog. Ariennir y prosiect gan Gyngor Sir […] Parhau i ddarllen

Gronyn: Prydain Fach

‘Gwlad fechan iawn mewn byd mawr ydi Prydain.’  Wedi deg o’r gloch neithiwr y clywais hynny ar y radio. (Oedd, roedd hi mor hwyr â hynny arnaf yn meddwl am rywbeth i’w ddweud yn Gronyn heddiw!) Yn y Saesneg gwreiddiol, y geiriau oedd, ‘Britain is a tiny country in a big world’.  Ie, ‘a tiny […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Offa a’r Cymry

Offa, brenin Mercia, a fu farw yn y flwyddyn 796, yw’r unig frenin Eingl-sacsonaidd y mae ei enw yn rhan o fyd ieithyddol Cymru.  A hynny am un rheswm yn unig, oherwydd ei gysylltiad â ‘Chlawdd Offa’.  Gan ein bod ni ar fin taclo’r Clawdd ar droed, neu o leiaf y rhan ddeheuol ohono, meddyliais […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : gŵyl murlun arall

Cynhalir gŵyl murlun yn Virginia Beach o heddiw ymlaen am ddeg diwrnod. Bydd deg artist yn creu murluniau ar lefydd gwahanol drwy’r ddinas. Bydd fy merch yn paentio wal Esoteric, tŷ bwyta lleol. Parhau i ddarllen

atgof.co: Cyfeiriad newydd – New site

petroc: Y Cymry yn ddominyddu? Ffat sians.

Yn ei erthyglau diweddar yn Nation Cymru ac Blogs Cardiff mae Roger Scully wedi gofyn cwestiwn dilys yn ei ymchwil i agweddau at y Senedd a’r cymry cymraeg. Chwarae teg, cwestiwn anodd ond myth oedd ac ydy dominyddiaeth y cymry. Ac yn sicr lle mae cymry ar y brig maent yn ddof tu hwnt i’w … Parhau i ddarllen

petroc: Y Cymry yn ddominyddu? Ffat sians.

Yn ei erthyglau diweddar yn Nation Cymru ac Blogs Cardiff mae Roger Scully wedi gofyn cwestiwn dilys yn ei ymchwil i agweddau at y Senedd a’r cymry cymraeg. Chwarae teg, cwestiwn anodd ond myth oedd ac ydy dominyddiaeth y cymry. Ac yn sicr lle mae cymry ar y brig maent yn ddof tu hwnt i’w … Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Trafod Tictacs -Edwyn Roberts

Colofn achlysurol yn holi rhai o sêr a hoelion wyth chwaraeon Bro Stiniog. Y tro yma, mi fuon ni’n holi Edwyn Roberts, prif hyfforddwr tîm rygbi Bro Ffestiniog.

Mae wedi bod yn dymor caled, be ydi dy argraffiadau di wrth i’r gemau ddod i ben am y tro?… Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Fideo Gwrando ar leisiau ar Common Voice Cymraeg

Mae dilysu’r clipiau yn hanfodol i gael y dechnoleg i weithio ar ei orau. Dyma fideo’n dangos sut i gyfrannu tuag at wrando a dilysu clipiau llais Common Voice Cymraeg.   Mae croeso i chi rannu’r fideo yma gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr. Diolch!

The post Fideo Gwrando ar leisiau ar Common Voice Cymraeg appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Fideo Recordio eich Llais i Common Voice Cymraeg

Fel anogaeth i LOT o bobl gyfrannu eu lleisiau LOT o weithiau i Common Voice Cymraeg, dyma gyflwyniad fideo ar sut mae gwneud. Oes, mae angen *LOT FAWR IAWN* o ddata. 🙂   Mae croeso i chi rannu’r fideo yma gyda theulu ffrindiau a chydweithwyr. Diolch!

The post Fideo Recordio eich Llais i Common Voice Cymraeg appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Rhodd Humphrey Llwyd

Mae’r cofnod hwn yn rhan o raglen Stori Cymru. Cliciwch ar Stori Cymru o dan y categorïau i weld gweddill y cofnodion. Gallwch hefyd danysgrifio… Darllen Mwy

The post Rhodd Humphrey Llwyd appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Adeiladau Boston, 68-72 Stryd James, Caerdydd

Ar 21 Mawrth 1900, rhoddwyd caniatâd i’r awdurdod lleol i adeiladu adeilad ar ochr ogleddol Stryd James, wrth y gyffordd â’r llwybr oedd yn rhedeg ar hyd Camlas Sir Morgannwg.  Roedd ynddo ddwy siop ar y llawr gwaelod â’u hisloriau eu hunain ac roedd mynedfa ganolog at swyddfeydd ar y llawer cyntaf a’r ail lawr. […] Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 12 a 19 Mai 2019

Croeso i bawb ohonoch i’n gwasanaethau heddiw. Wrth i nifer o oedfaon Cymorth Cristnogol gael eu cynnal ar draws Bro Aled, diolchwn fod gennym Dduw sydd â gofal dros ei bobl (1 Pedr 5:7), a gofynnwn am ei gymorth Ef i allu ymateb yn gariadus trwy air a gweithred er mwyn cynorthwyo eraill mewn angen. . . . → Read More: Dydd Sul, 12 a 19 Mai 2019

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : gwyrthiau

Dim ond gwyrthiau Duw a ddaeth â’i bobl 71 mlynedd yn ôl at y tir a roddodd i’u hen dadau. Ffyddlon ydy o. Bydd o’n cyflawni’r hyn a addawodd, heb fethu, heb oedi, ar ei amser perffaith. Mae Israel wedi dychwelyd yn gorfforol bellach; byddan nhw’n dych… Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Common Voice, adnabod lleferydd, cyfieithu a mwy… Gweithdy ar y Porth Technolegau Iaith

Bydd rhai eisoes wedi gwylio’r rhaglen ddifyr ar S4C DRYCH: Achub Llais John am un o brosiectau’r Uned Technolegau Iaith ym Mangor. Gwyliwch y rhaglen os nad ydych chi wedi cael siawns eto. Dyma ddigwyddiad difyr yn Aberystwyth mae’r uned yn trefnu ym mis Mehefin – at sylw unrhyw un sydd eisiau cael profiad o […]

The post Common Voice, adnabod lleferydd, cyfieithu a mwy… Gweithdy ar y Porth Technolegau Iaith appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Aelodau Newydd yr Orsedd yn Eisteddfod Sir Conwy 2019 / New members of the Gorsedd Honours in the 2019 Eisteddfod in Conwy

Heddiw, mae carfan newydd o aelodau y Gorsedd wedi cael eu derbyn… Today, a new cohort of Gorsedd members have been received… eisteddfod.cymru / eisteddfod / gorsedd.cymru Gwisg Werdd / Green Robes Gwisg Las / Blue Robes Sermoni Cadeirio Eisteddfod Caerdydd 2018 / The Chairing cermony in Cardiff Eisteddfod 2018 Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Straeon o swyddfa’r twrnai

Hen ddogfennau a gweithredoedd llychlyd? Diflas ac anniddorol? Meddyliwch eto! Ydy, mae’r gorchuddion allanol yn frwnt ond mae’r dogfennau y tu mewn mewn cyflwr da,… Darllen Mwy

The post Straeon o swyddfa’r twrnai appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : tomoe gozen

Mae fy merch newydd orffen murlun arall, mewn tŷ bwyta yn Oklahoma City. Cafodd ei hysbrydoli gan Tomoe Gozen, yr unig ryfelwr menywaidd o fri yn hanes Japan (mae rhai’n dweud mai chwedl oedd hi.) Mae’r murlun yn anhygoel o wych. Dwedodd perchennog y t… Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: WordPress 5.2

Gwaith pellach ar ddatblygu dull newydd WordPress o weithio drwy gyfrwng blociau. Mae’r pwyslais y tro yma ar gadw’r wefan yn ddiogel ac yn iach. Croeso i WordPress 5.2 Mae’r ategyn Classic Editor yn rhwystro’r defnydd o’r Golgydd Bloc newydd. Newid gosodiadau’r Classic Editor. Llongyfarchiadau ar ddiweddaru i WordPress 5.2! Mae’r diweddariad hwn yn ei gwneud […]

The post WordPress 5.2 appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Apostol yn dod

BYDD fy nofel “Apostol” yn cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn y mis nesa. Nofel am yr apostol Paul ydi hi – neu Paulos Shaul Tarsos fel mae o’n cael ei alw yn fy nofel. Ar ôl cyhoeddi “Iddew” yn 2016, a derbyn ymateb positif dros ben, roeddwn i’n meddwl y buaswn i’n hoffi […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : ffrwyth

Es i at yr unig goeden geirios yn y gymdogaeth hon tra oeddwn i’n mynd am dro. Swrpreis! Mae hi’n dwyn ffrwyth! Doeddwn i ddim yn sylweddoli hyd at heddiw. Dydy o ddim yn edrych fel ceirios a dweud y gwir, ac mae o’n prysur bydru, ond ffrwyth mae o. Dr… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Gorymdaith AUOBCymru dros Annibyniaeth – Caernarfon / AUOBCymru March for Independence – Caernarfon 27/07/2019

Disgwylir i dyrfaoedd mawr gyrraedd strydoedd Caernarfon i orymdeithio dros Gymru annibynnol ar 27 Orffennaf. Yn dilyn digwyddiad Pawb Dan Un Faner Cymru (AUOBCymru) llwyddiannus yng Nghaerdydd ym mis Mai, bydd Caernarfon yn cynnal ei ddigwyddiad ei hun i ddangos bod momentwm yn cynyddu i bobl Cymru gymryd rheolaeth o’u dyfodol eu hunain. Gwelodd y…

The post Gorymdaith AUOBCymru dros Annibyniaeth – Caernarfon / AUOBCymru March for Independence – Caernarfon 27/07/2019 appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Rhod y Rhigymwr -cawl odiaeth

Colofn reolaidd Iwan MorganBum yn meddwl am bennill agoriadol Morgan Llwyd o Wynedd o’i gerdd ‘Hanes rhyw Gymro’:

Ym Meirionnydd gynt ym ganwyd,  Yn Sir Ddimbech ym newidiwyd,   Yn Sir y Mwythig mi wasnaethais,  Yn Sir Fynwy mi briodais. 
Roedd Morga… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : penbleth

Dw i mewn penbleth. Dw i eisiau defnyddio ffa du i swper, ond mae yna gynifer o ryseitiau fegan gwych dw i eisiau eu profi fel na fedra i ddewis un – burrito, byrger, salad, saws pasta, a mwy! Ac wrth gwrs, mae yna gynifer o lysiau i fynd efo’r ffa hef… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Darllen a garddio

Gan fy mod wedi brifo fy nhroed – ac yn aros iddo wella digon i fi gerdded fel arfer, dwi wedi bod yn gwneud llawer mwy o ddarllen, yn enwedig llyfrau Robert Harris.  Mi ŵn fy mod i wedi darllen o leiau un o’i lyfrau o’r blaen, ond dwi ddim y… Parhau i ddarllen

Gronyn: Cyfrinair

Mi ges i drafferth tanio’r cyfrifiadur heno. Doedd dim byd yn bod arno. Ond fedrwn i yn fy myw â datgloi’r sgrin agoriadol. Doedd y peiriant ddim yn derbyn y cyfrinair yr oeddwn yn ei deipio’n ofalus.  Mi rois ail a thrydydd cynnig arni, a mwy  na hynny eto, gan ofalu nad oeddwn yn camdeipio’r […] Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Ask Dr Gramadeg: Dadansoddi’r gramadeg yn y gân ‘Calon Lân’ / Analysing the grammar in ‘Calon Lân’

Calon (b) heart Geiriau / ymadroddion defnyddiol wedi’u selio ar ‘calon’Diolch o galon     thank you very muchCodi calon           to cheer upDigalon                downhearted/depressed Glân ‘clean’, ond hefyd, ‘pure/holy’, e.e. Yr Ysbryd Glân – The Holy Spirit Gair benywaidd yw ‘calon’. Mae’r ansoddair ‘glân’ sy’n disgrifio ‘calon’ yn treiglo’n feddal – calon lân. * Bydd ansoddeiriau sy’n disgrifio enwau benywaidd unigol yn treiglo’n feddal, fel mewn yr esiampl uchod. Ond, fydd ansoddeiriau sy’n disgrifio enwau benywaidd lluosog ddim yn treiglo’n feddal., e.e: pure heart     calon lânpure hearts   calonnau glâna leafy tree     coeden ddeiliogleafy trees      coed deiliog * Bydd enwau benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod (‘the’). Fydd enwau benywaidd lluosog ddim yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod, e.e:…

The post Ask Dr Gramadeg: Dadansoddi’r gramadeg yn y gân ‘Calon Lân’ / Analysing the grammar in ‘Calon Lân’ appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Parallel.cymru on Pinterest

The post Parallel.cymru on Pinterest appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.
Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Straeon Nos Da Sali Mali

Dwi wedi bod yn rhy brysur yn darllen nofelau oedolion ar gyfer cwrs dysgwyr yn Nant Gwrtheyrn fis nesaf i ddarllen llawer o lyfrau Cymraeg i blant, mae arna i ofn. Ond dyma newyddion da i chi: Bydd cyfrol o’r enw Straeon Nos Da Sali Mali yn cael ei chyhoeddi gan Gomer fis nesaf i […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Gweledigaeth Blair a phethau eraill

1. Dyma Tony Blair yn ei ôl o rywle, yn pryderu’n fawr am undod Prydain. Yr Albanwyr sy dros annibyniaeth, meddai, mae’r rheini fel y Brexitwyr. (TROEDNODYN: Fel mae’n digwydd, mae’r rhan fwyaf o ddigon o genedlaetholwyr yr Alban yn wrth-Frexitwyr cryf. Ond hidiwch befo pethau felly …) Syniad Mr. Blair i gryfhau’r wladwriaeth unedol: […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : yn y siop de

Aeth ffrindiau fy merch yn Tokyo i’r siop de lle mae hi’n gweithio, a chael y llun ohoni hi wrthi’n gweini. Dw i’n ddiolchgar iddyn nhw oherwydd mai am y tro cyntaf i mi a’r teulu ei gweld hi yn y gweithle! Mae hi yn y gegin y rhan fwyaf o’r amser yn d… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Stolpia -diwedd pennod

Pennod olaf cyfres Steffan ab Owain am Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au
Credaf ei bod hi’n amser imi gloi’r drws ar helyntion hogiau’r Rhiw yn ystod y 50au, bellach, neu mi fydd pawb wedi syrffedu’n lân ar y testun. Credwch fi, y mae wedi bod yn d… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : drws rhyfedd

Drws i Narnia! Dyna beth a ddwedais a’r teulu wrth weld y llun a bostiwyd gan fy mab hynaf. Mae yna ddrws rhyfedd ar y wal o gwmpas ei dŷ yn Texas. Mae o’n arwain at goedwig tu hwnt. Mae ei fabis wrth eu bodd i fynd drwyddo a mwynhau’r natur, Narnia ne… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : reiwa

1af Mai – mae oes newydd newydd gychwyn yn Japan. Wrth i’r ymerawdwr newydd esgyn i’r orsedd, dechreuodd oes Reiwa (harmoni hardd) yn swyddogol. Dymuniadau gorau iddo ac i’r ymerodres.  y llun: Llysgenhadaeth Japan yn Unol Daleithiau Ame… Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd

Mae Tŷ Baltig yn dyddio o tua 1915, pan gymerodd le 17, 18 a 19 Sgwâr Mount Stuart mewn safle amlwg gyferbyn â phrif fynedfa’r Gyfnewidfa Lo.  Y penseiri oedd Teacher & Wilson a’r cleient oedd Claude P Hailey, cyfrifydd lleol a roddodd dir ar gyfer Parc Hailey yn Ystum Taf yn ddiweddarach. Mae’r adeilad, […] Parhau i ddarllen