Archif Misol: Mehefin 2019

Plaid Cymru Cangen Llundain London Branch: Cyfarfod Cangen Gorffennaf 2019 July Branch Meeting

Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar Nos Fercher 3ydd Gorffennaf 2019, 19:30 yn y bar, Canolfan Cymry Llundain, Heol Ysbyty Llwyd.  Croeso i’n holl aelodau. Our next meeting will be held on Wednesday 3rd July 2019, 19:30 in the bar, London Welsh Centre Gray’s Inn Road.  All … Continue reading Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Dyffryn – Casi (Gruff Sion Remix) #tiwn

Ar gael i’w lawrlwytho am ddim. Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Ailwampiad Twinfield o Iawn gan Pop Negatif Wastad

Gronyn: Cur Pen

Aw! Roedd fy nghlust a’m pen yn brifo. Fedrwn i ddim peidio â gweiddi.  Ia, gweiddi yn y car gan mai dyna ble’r oeddwn ar y pryd, “Na! Na! Na-aaa!” Roeddwn rywfaint gwell ar ôl y waedd. Ond dwi’n dal i wingo wrth gofio’r boen a deimlais o glywed y gair erchyll ar y radio. […] Parhau i ddarllen

Aberteifi drwy'r canrifoedd: Seremoni y Cyhoeddi a Gorseddu’r Archdderwydd ar Gae Chwarae Ysgol Uwchradd Aberteifi 29.6.2019

RHAGLEN Y SEREMONI Advertisements Parhau i ddarllen

fel y moroedd : ongl wahanol

Unwaith eto trechodd y wiwer y rhwystr newydd! Neidiodd hi drwy’r chopsticks heb gyffwrdd dim, a glanio ar y bwydwr adar yn ystwyth. Bydd y gŵr yn dyfeisio peth newydd, ond yn y cyfamser, roedd rhaid i mi wneud rhywbeth. Yn ôl at yr hen arwyddion ethol… Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Rhybudd Ruth

Dyna ni, mae gan Frigâd y Gwalltiau Gleision a llymeitwyr y clybiau Ceidwadol ryw dair wythnos eto i wneud eu dewis. ‘Etholaeth gyfyng’, fe glywyd dweud, ond fel yr wyf wedi sôn o’r blaen dyma’r etholaeth helaethaf o ddigon, hyd yma, ar gyfer dewis prif weinidog Torïaidd. Does dim llawer er pan wneid y dewis […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : granola

Fe wnes i grasu granola eto. Doeddwn i ddim yn ei wneud am sbel, ond ail ddechreuais yn ddiweddar. Mae’n llawer rhatach a mwy blasus na’r rhai mewn siopau, heb sôn am fod yn iachach. (Diog roeddwn i!) Syml iawn ydy’r cynhwysion: ceirch, cnau, olew cnau… Parhau i ddarllen

Y Twll: Being Blacker: ffilm am fywyd a chymuned yn Brixton

Dyma ffilm ddogfen drawiadol sy’n werth eich amser, Being Blacker, am y cynhyrchydd reggae a dyn busnes Blacker Dread. Mae’r gyfarwyddwraig Molly Dineen, sydd yn ffrind agos iddo fe ers blynyddoedd, yn cael cyfleoedd unigryw i ddangos rhai o’r cyfnodau mwyaf anodd ac hapus ei fywyd a theulu. Ceir argraff ddifyr o’i gymuned yn Brixton, … Parhau i ddarllen “Being Blacker: ffilm am fywyd a chymuned yn Brixton”

The post Being Blacker: ffilm am fywyd a chymuned yn Brixton appeared first on Y Twll.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Porthmadog

Wedi mwynhau wythnos o wyliau ym Mhorthmadog wythnos diwethaf.  Pwy a ŵyr pryd roeddwn yno y tro diwethaf – efall bron 40 mlynedd yn ol……..Mae’r dref yn edrych yn eitha dda, a roedd yn hawdd prynu llysiau ffres a pysgod yn y dre, a da gweld bo… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Rhod y Rhigymwr -Pedwar o’r Tap yn hapus!

Rhan o golofn reolaidd Iwan Morgan.

Wrth chwilio drwy bentwr o luniau’r diwrnod o’r blaen, deuthum ar draws dau lun a dynnwyd o Dîm Talwrn Bro Ffestiniog ym 1996.

Yn ôl y manylion ar dri thlws a dderbyniwyd, bu’r tîm yma’n bur llwyddiannus, gan enni… Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Cytundeb Versailles: yng ngeiriau’r rhai oedd yno

Digwyddodd arwyddo cyntaf Cytundeb Versailles 100 mlynedd yn ôl i heddiw, yn yr ‘Hall of Mirrors’ yn Versailles, ger Paris. Er fod ymladd y Rhyfel… Darllen Mwy

The post Cytundeb Versailles: yng ngeiriau’r rhai oedd yno appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Malu cachu fel arf wleidyddol

Mae’n werth darllen stori Jeremy Vine am arddull areithio Boris Johnson mewn seremonïau gwobrwyo. Ie, act, i raddau helaeth, yw’r persona shambolaidd a gwallgof. Mae’n portreadu ei hun, yn fwriadol a gofalus, fel person blêr a byrfyfyr (mae’n hysbys ei… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : swper!

Dw i’n mynd yn gyfarwydd â pharatoi falafel gyda’r mowld a wnaed yn Israel. Crasais i nhw yn y popty’r tro ‘ma. Dyma’r swper neithiwr – falafel gyda hummus, saws afocado, nionyn coch wedi’i biclo a bara pita (i gyd cartref.) Parhau i ddarllen

fel y moroedd : unwaith yn rhagor

Mae’r frwydr yn dal i barhau. Fedra i ddim credu pa mor benderfynol ac ystwyth ydy’r gwiwerod yma. Trechon nhw’r hen arwyddion etholiad hefyd. Yn ddiweddar, gosododd y gŵr nifer o fachau o gwmpas llawr y bwydwr adar. (Roedd o’n edrych fel phalanx Maced… Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 78: FaceBucks

Ar bennod hira’r haf bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn ystyried yr axis of evil tu ôl i Libra, arian newydd Facebook; yn breuddwydio am fynd am ffwc o dro tawel ac yn glafoerio dros popeth yn nghynhadledd gemau E3. Mae’r afterparty yn bownsio efo Good Omens, Nailed it, MIB: International a gemau bwrdd epic! […]

The post Haclediad 78: FaceBucks appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Getting to know you: Lansio cylchgrawn Heddlu De Cymru ym 1970

Yn dilyn lansio Heddlu De Cymru – South Wales Constabulary – newydd ar 1 Mehefin 1969, roedd y Prif Gwnstabl, Melbourne Thomas, yn awyddus i feithrin gweithgareddau, gan gynnwys cynhyrchu cylchgrawn, a fyddai’n cychwyn plethu ynghyd y pedwar llu a unwyd. Yn ei adroddiad blynyddol cyntaf, dywedodd Thomas: Without doubt the development of the magazine […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : paid ag ofni

Cafodd fy merch neges gas gyntaf ynglŷn â’i chefnogaeth dros Israel. Oddi wrth un o’i chwsmeriaid oedd hi. Dwedodd ei bod hi’n edifaru iddi brynu celf fy merch; na fyddai hi fod wedi ei phrynu tasai hi’n gwybod bod fy merch yn cefnogi gwlad fel Israel…. Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Mentrau Iaith yn gosod targed o 22 awr i helpu ymgyrch Common Voice Cymraeg

Mae Common Voice Cymraeg yn gofyn i siaradwyr y Gymraeg ym mhob cwr o’r byd i chwarae eu rhan wrth ddiogelu dyfodol digidol yr iaith Gymraeg trwy recordio a dilysu lleisiau. Mozilla, y cwmni meddalwedd, sy’n arwain ar y prosiect hwn mewn ymdrech i hybu gwasanaethau digidol yn yr iaith Gymraeg. Rhagor…  

The post Mentrau Iaith yn gosod targed o 22 awr i helpu ymgyrch Common Voice Cymraeg appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Y Mis Yma yn Hanes Cymru- Y Daith i Batagonia 1: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i…

The post Y Mis Yma yn Hanes Cymru- Y Daith i Batagonia 1: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : sw moch cwta

Er mwyn dathlu ei phen-blwydd, aeth fy ail ferch a’i chwaer i “sw” moch cwta yn Tokyo. Cewch chi anwesu’r anifeiliaid bach hynny ar eich glin yno. Mae fy merch yn gwirioni ar foch cwta. Roedd hi’n arfer cadw dwsin ohonyn nhw. Falch iawn ei bod hi’n cae… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Dwy gyfrol newydd a’r Rhyfel Mawr yn gefndir

ABERTH AELOD TEULU YN EGIN NOFEL NEWYDD
Roedd 2018 yn nodi canrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe nodwyd yr achlysur drwy gofio am Meddai Geraint:
y rhai aberthodd eu bywydau yn ystod y brwydro. I’r awdur lleol poblogaidd arobryn Geraint V. Jones… Parhau i ddarllen

Gronyn: Deisebau

Roedd dros 10,000 o enwau ar ddeiseb yn ddigon i sicrhau bod aelod seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed yn colli ei swydd a bod isetholiad i’w gynnal yn yr etholaeth. Arwyddwyd deiseb arall yr wythnos ddiwethaf gan dros 20,000 o bobl a oedd yn galw am ohirio cyfres deledu arfaethedig.  Yn wahanol i’r ddeiseb seneddol, […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : fideos pregeth

Dw i newydd ddarganfod fideos pregeth gan Paul LeBoutillier o Gapel Calfaria yn Oregon. Mae o’n palu Gair Duw fesul pennod yn ddwfn, ac agor llygaid y gwrandawyr. Mae o’n hynod o ddoniol hefyd. Gwych gweld menorah ynghyd â chroes tu ôl iddo fo. Mae gen… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Coginio: Casgliad o ryseitiau / Cooking: A collection of recipes

Yma ar parallel.cymru dyn ni wedi casglu ryseitiau a syniadau ar un dudalen gan sawl awdur sy wedi sgrifennu llyfrau coginio Cymraeg, yn ogystal â thai bwyta a chaffis sydd yn defnyddio’r iaith. Mae pob un yn ddwyieithog, fydd yn caniatáu i chi dicio’r cynhwysion, diweddaru maint y cynhwysion yn seiliedig ar faint rydych chi’n…

The post Coginio: Casgliad o ryseitiau / Cooking: A collection of recipes appeared first on Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Cerddoriaeth Cymru: Gwerin, Protest a Phop

Fe ddisgrifir Cymru yn aml fel gwlad y gân. Ond ym mha le dechreuodd ein traddodiad cerddorol, a sut y datblygodd? Mae ein harddangosfa newydd… Darllen Mwy

The post Cerddoriaeth Cymru: Gwerin, Protest a Phop appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : cariad chwaer

Gyrrodd fy merch hynaf anrheg fach at ei chwaer yn Japan er mwyn codi ei chalon. Mae fy drydedd ferch wrthi’n gweithio yng nghegin siop te yn Tokyo, ac mae’n anodd weithiau. Wedi clywed ei hanes, roedd fy merch hynaf eisiau gwneud ei chwaer chwerthin, … Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 23 a 30 Mehefin 2019

Bore da a chroeso cynnes i’n amrywiol wasanaethau ym Mro Aled heddiw.

Dwi’n sgwennu’r Llais Bro Aled hwn ar drothwy hirddydd haf, Mehefin yr 21ain. Mae’r dyddiad yma’n nodedig oherwydd ei fod yn ein hatgoffa lle’r ydym mewn perthynas â gweddill y flwyddyn. O rŵan ymlaen byddwn yn nesáu at yr hydref ac yna’r gaeaf . . . → Read More: Dydd Sul, 23 a 30 Mehefin 2019

Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Galwadau Twyll CThEM a’r Cynulliad – Yr hyn mae angen i chi ei wybod

Efallai eich bod wedi gweld adroddiadau newyddion am alwyr twyllodrus yn esgus bod yn CThEM, gan ddefnyddio rhifau cyswllt Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Roeddem am esbonio ychydig am yr hyn sy’n digwydd a’r hyn y gallwch ei wneud os byddwch yn derbyn un o’r galwadau hyn. Ynglŷn â galwadau ffug Mae negeseuon yn cael eu gadael … Continue reading Galwadau Twyll CThEM a’r Cynulliad – Yr hyn mae angen i chi ei wybod Parhau i ddarllen

fel y moroedd : eglwysi efengylaidd yn ffrainc

Ces fy siom ar yr ochr orau i glywed bod eglwysi efengylaidd wrthi’n cynyddu yn Ffrainc (a hefyd yn Sbaen.) Mae’n wych gweld mwy a mwy o bobl yn Ffrainc yn dod at Iesu Grist. Mae popeth yn edrych yn gyfarwydd dros ben yn y gwasanaeth hwnnw er bod yr ia… Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Pandas ar Strydoedd De Cymru: Cwnstablaeth De Cymru newydd a grëwyd ym 1969

Dyma’r ail erthygl allan o dair sy’n edrych ar sut y crëwyd Cwnstablaeth newydd De Cymru gan gyfuno heddluoedd Morgannwg, Caerdydd, Merthyr ac Abertawe. Pwyslais yr erthygl gyntaf oedd lansiad yr heddlu ar 1 Mehefin 1969. Yn yr ail un rydym yn edrych ar yr heddlu newydd ‘modern’ a ffurfiwyd 50 mlynedd yn ôl. Cymerwyd […] Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Ffermydd Llyn Trawsfynydd

Adroddiad gan y diweddar Jennie Druce am y ffermydd a’r tiroedd a foddwyd i greu Llyn Trawsfynydd:

Dolgam
Roedd
y Dolgam gwreiddiol i’r dde o bont y pentref, hyd nes i’r gronfa ddŵr
gael ei gwneud. Eiddo’r Goetre, Ganllwyd oedd y fferm a thenantiaid… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : sut i ddefnyddio hen arwyddion etholiad

Mae’r frwydr yn parhau. Mae’r gwiwerod yn benderfynol o gyrraedd y bwydydd adar. Wedi goresgyn rhwystr ar ôl y llall maen nhw! Roeddwn i yn y garej y bore ‘ma er mwyn darganfod deunydd i greu rhwystr newydd. Dyma fo! Gawn ni weld a fydd ein c… Parhau i ddarllen

Blog Y Gyfnewidfa Arfer Da: Pennod dau: Dr Chris Subbe a Dr Olwen Williams

Ym mhennod 2, cawn sgwrs â Chris Subbe, sy’n esbonio’r Wee Wheel (gweler y llun), a gyflwynwyd er mwyn lleihau niwed sydyn i’r arennau i gleifion mewn ysbytai (1.45 –… Read more Pennod dau: Dr Chris Subbe a Dr Olwen Williams Parhau i ddarllen

Carl Morris: Trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd – gwasanaeth newydd

Boed chi’n byw, gweithio neu ymweld â Chaerdydd mae’r wasanaeth newydd hon yn cynnig gwybodaeth teithio amserol: Oes[…]

The post Trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd – gwasanaeth newydd appeared first on Carl Morris.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : strategaeth newydd

Mae’r pedwar babi wedi tyfu’n sylweddol erbyn hyn. (Dw i’n sôn am Gardinal.) Maen nhw’n dod at y bwydwr heb eu tad bellach. Gobeithio ei fod o’n cael hoe fach nes iddo gael y grŵp nesaf i ofalu amdanyn nhw. Trechodd y gwiwerod y rhwystr eto. Roedd… Parhau i ddarllen

Blog Y Gyfnewidfa Arfer Da: Pennod Un: Rupert Moon (Rygbi Gogledd Cymru) a’r Athro Judy Hutchings (Rhaglen gwrth-fwlio KiVa)

Ym mhennod 1, cawn sgwrs â Rupert Moon ynglŷn â gweithio gyda chwaraewyr rygbi yn Rygbi Gogledd Cymru i ddatblygu ymddygiad y tu hwnt i’r cae chwarae (01.30 – 15.20… Read more Pennod Un: Rupert Moon (Rygbi Gogledd Cymru) a’r Athro Judy Hutchings (Rhaglen gwrth-fwlio KiVa) Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Rhaid cael empathi i wella gwasanaethau

Rydw i wedi bod yn weld y byd mewn modd mwy caredig ers i mi ddechrau gweithio i Research in Practice a Research in Practice for Adults, a dyw hyn ddim yn beth bach o ystyried pa mor erchyll mae’r byd ehangach yn edrych ar y foment.Rydw i wedi gweithio… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : fideo morinoen

Dyma glip ar siop goffi Morinoen yn Tokyo lle mae fy merch yn gweithio ynddi. Fe wnaeth y gohefydd waith da o ddisgrifio beth fwytaodd. Mae’r fideo dipyn yn hen ond dydy’r fwydlen ddim wedi newid. Fy merch sydd yn paratoi’r rhain bellach. Parhau i ddarllen

Gronyn: Sbriwsio

Gair da ydi sbriwsio. Mi fedrwch chi sbriwsio’r tŷ a sbriwisio’r ardd. Mi  fedrwch hefyd eich sbriwsio’ch hunain.  Mi feddyliais mai gair diweddar ydi o yn y Gymraeg, ond mae o’n hŷn nag oeddwn i’n tybio. Oherwydd ganrif a mwy yn ôl, roedd Tegla Davies yn dweud am rywun yn Hunangofiant Tomi,  ‘A dyma fo […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : tebot, ail bennod

Dw i’n gwirioni ar fy nhebot newydd o Japan. Dydy o ddim yn colli diferyn o de wrth i mi dywallt. Mae hidlydd rhwyll cyfleus tu mewn hefyd. Dw i’n hoffi’r lliw (porffor dwfn) hynod o Japaneaidd. Mae’n bleserus hwylio te gyda hwn bob dydd. Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Abertawe ac Aberystwyth

Mi fydda i’n gweithio yn Nant Gwrtheyrn drwy’r wythnos nesaf, ar Gwrs Awduron, sef cwrs am wahanol awduron cyfredol Cymru ar gyfer dysgwyr da. Dyma’r drydedd flwyddyn a dwi’n edrych ymlaen yn arw! Mae’n gyfnod prysur: es i lawr i Ysgol Tirdeunaw, Abertawe ddydd Iau, i siarad efo plant Blwyddyn 1 a 2 am Cadi […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : rhaid ennill

Mae’r gwiwerod yn benderfynol dros ben! Llwyddon nhw gyrraedd yr hadau er gwaethaf fy ymdrechiadau amrywiol. Prynodd y gŵr ddysgl benodol i rwystro gwiwerod. Roedd rhaid blocio’r ddwy ochr hefyd. Dan ni’n mynd i ennill y frwydr! Parhau i ddarllen

Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies: Proffill – Cynghorydd Meirick Lloyd Davies

Yn saer wrth ei waith, fe ymddeolodd fel Prif Swyddog Rheoli Adeiladu Llywodraeth Leol yn 1996. Yn briod â Nesta – mae ganddynt bedwar mab a phedwar o wyrion ac wyresau. Mae’n gyn aelod o’r Fwrdeistref Sirol, a daeth yn aelod o Gyngor Sir Ddinbych yn 1996. Bu’n Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych yn 2004/05 a […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : diwrnod braf

Mae’n ddiwrnod hynod o braf heddiw. Wedi mynd ynghyd â’r gŵr at geiropractydd y bore ‘ma, penderfynais gerdded yn y dref tra ei fod o’n gwneud neges. Roedd yn hyfryd! Ddim yn boeth, dim gwynt, dim paill, dim terfysg, dim byd annifyr. Cymerodd y gŵr ams… Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Capteinio Tîm Criced Morgannwg, 24 Medi 1890

Gyda phedair gêm Cwpan Criced y Byd ICC yn cael eu cynnal yng Ngerddi Sophia, mae’r ffocws unwaith eto’r haf hwn ar griced. Wrth fwrw cipolwg ar gofnodion Archifau Morgannwg daethpwyd o hyd i hanes gêm griced a chwaraewyd dros 130 o flynyddoedd yn ôl, pan fentrodd tîm criced Sir Morgannwg i’r cae i wynebu’r […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : hapus, hapus, hapus

Dw i newydd orffen llyfr gan Phil Robertson, sef “Happy, Happy, Happy.” Wedi byw bywyd gwyllt, anhapus, daeth ar draws Iesu Grist pan oedd o’n 28 oed. Newidiodd ei fywyd yn gyfan gwbl. Drwy weithio’n galed gyda dyfalbarhad, a bob amser gadw ei olwg ar … Parhau i ddarllen

shitclic: Daw hyfryd fis…

Mae fy ngorchwylion darllen/gwylio yn gorgyffwrdd â’i gilydd dyddiau hyn. Amrywiaeth piau hi, er bod perig i mi chwalu ’mhen gyda’r gwahanol genre yr un pryd. Dim diolch i fis Mehefin sy’n prysur droi’n dampar go iawn, a’r nosweithiau oerddu yn g’neud … Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Mansel Thomas: cerddor o fri

Wythnos hon, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn coffau 100 mlynedd ers genedigaeth Mansel Thomas, un o gyfansoddwyr a cherddorion campus Cymru. Cafodd ei eni ar 12… Darllen Mwy

The post Mansel Thomas: cerddor o fri appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : yn ôl i america

Daeth fy merch hynaf yn ôl i America wedi treulio pythefnos bendigedig yn Israel. Dwedodd hi ei bod hi wedi dysgu cymaint o bethau newydd am Israel a’r ardaloedd o gwmpas, a chyfarfod nifer o bobl annwyl. Does dim dwywaith y bydd y profiadau’n cael eff… Parhau i ddarllen