Archif Dyddiol: 12 Awst 2019

anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg: Pontydd Aberhonddu yn darparu matiau gwersylla yn rhad ac am ddim

Bu dafod anarchwaethus braidd yn ddistaw yn ddiweddar. Nid felly Cymru wrth gwrs. Gwelwyd miloedd ein mudiad cenedlaethol yng Nghaerdydd a sawl gwaith mwy eto yng Nghaernarfon, buddugoliaeth streic newyn Imam Sis a solidariaeth Cwrdaidd, sgwotio yng Nghaerdydd yn erbyn boniddigeiddio, gwrthsefyll Prydeinwyr Farage ym Merthyr, Gwrthryfel Difodiant (er gwaethaf eu hoffter afiach o’r heddlu) […] Parhau i ddarllen

meddwl.org: Problemau iechyd meddwl yn y gymuned LHDTC+ : Ai cyd-ddigwyddiad yw hyn? – Elinor Rees

Hoffwn gychwyn y blog yma gan gydnabod fod amryw o bobl LHDTC+ yn bodoli.  Bydd rhai yn uniaethu yn LHDTC+ yn falch ac yn agored ac wedi am sbel.  Bydd rhai sydd yn cwestiynu, a rhai sydd ar fin dweud wrth eraill.  Fydd rhai byth yn gallu dweud eu bod yn LHDTC+ yn agored oherwydd […]

The post Problemau iechyd meddwl yn y gymuned LHDTC+ : Ai cyd-ddigwyddiad yw hyn? – Elinor Rees appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : y swistir

Aeth fy ail ferch adref yn Japan wedi mwynhau gwyliau bendigedig yn yr Almaen ac yn y Swistir. Postiodd luniau anhygoel o brydferth o’r Swistir. Dyma’r rhaeadr enwog yn Lauterbrunnen, tafliad carreg oddi wrth ei llety. Dwedodd ei bod hi’n cerdded o gwm… Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: 🗣 Maes Eisteddfod am ddim – dyna’r rhan hawdd

Dylan Iorwerth yn cefnogi’r alwad am Faes di-dâl, ond dim ond fel man cychwyn Mi fyddai pawb yn licio Eisteddfod am ddim bob blwyddyn heb orfod talu am ddim ond y Pafiliwn, efallai, a’r cyngherddau fin nos. Parhau i ddarllen