-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
Dewis Mis
Chwilio
Archif Dyddiol: 14 Awst 2019
Llafar Bro: Sgotwrs Stiniog -Ceffyl Gwyn, Plu Llwyd
Pennod o gyfres Emrys Evans o’r archif:
Mi fum am dro o gwmpas y ddau Lyn Gamallt, ac yna ei chodi hi i fyny at Lyn Ceffyl Gwyn. Dyna’i enw ar lafar, ond Llyn Bryn Du ydi’o ar y map. Gofynnais innau pam, tybed, yr oedd o’n cael ei alw’n Llyn Ceffyl … Parhau i ddarllen
meddwl.org: Canlyniadau triniaeth iechyd meddwl yn aneglur serch gwariant : Plaid Cymru
Mae canlyniadau gwasanaethau iechyd meddwl yn aneglur er fod 11% o holl gyllideb GIG Cymru yn cael ei gwario ar y gwasanaethau hynny, yn ôl adroddiad newydd gan Blaid Cymru. Mae’r adroddiad, Meddwl am iechyd meddwl, yn cymharu gwasanaethau GIG Cymru gyda gwledydd eraill megis yr Iseldiroedd, Sweden, a mannau eraill yn yr Ynysoedd Prydeinig. […]
The post Canlyniadau triniaeth iechyd meddwl yn aneglur serch gwariant : Plaid Cymru appeared first on meddwl.org.
Hacio'r Iaith: LibreOffice 6.3
Mae’r fersiwn diweddaraf o LibreOffice wedi ei ryddhau gydag amryw o nodweddion newydd, y pennaf yw gwelliannau i’r Bar Adnoddau newydd sy’n ehangu’r swyddogaethau sydd ar gael ynddo. Dyma restr o’r nodweddion i gyd: Nodweddion Newydd i’r Bar Adnoddau! Mae rhyngwyneb defnyddiwr y Bar Adnoddau gyflwynwyd yn LibreOffice 6.2 wedi ei ddatblygu ymhellach ar gyfer […]
The post LibreOffice 6.3 appeared first on Hacio’r Iaith.
fel y moroedd : hanner melon dŵr
Cawson ni felon dŵr gan ffrind sydd gan ardd lysiau helaeth. Dw i’n hoffi melonau dŵr ond prin bydda i’n eu prynu’r dyddiau hyn oherwydd bod un melon yn ormod i fi a’r gŵr. (A dw i byth yn prynu darn mewn siop.) Cawson ni hanner sydd yn berffaith. Dyma… Parhau i ddarllen
meddwl.org: Elusen iechyd meddwl i ffermwyr yn ehangu i’r gogledd : Golwg360
Fe fydd elusen iechyd meddwl, sy’n darparu gwasanaethau i bobol yng nghefn gwlad, yn ehangu i ogledd Cymru ar ôl derbyn bron £50,000 o nawdd gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y DPJ Foundation ei sefydlu tair blynedd yn ôl gan Emma Picton-Jones o Sir Benfro er cof am ei gŵr, Daniel, a fu farw trwy hunanladdiad. […]
The post Elusen iechyd meddwl i ffermwyr yn ehangu i’r gogledd : Golwg360 appeared first on meddwl.org.
Blog y Cynulliad: Ein Cynulliad Dinasyddion cyntaf
Ar benwythnos 19 – 21 Gorffennaf, ymgasglodd 58 o’r 60 o bobl a ddewiswyd fel rhai sy’n cynrychioli poblogaeth Cymru yn Neuadd Gregynog, yn y Canolbarth, i gymryd rhan yn ein Cynulliad Dinasyddion cyntaf. Penderfynodd Comisiwn y Cynulliad gynnal y Cynulliad Dinasyddion hwn fel rhan o’i ddathliadau 20 mlynedd. Roedd gan y Cynulliad Dinasyddion ddau … Continue reading Ein Cynulliad Dinasyddion cyntaf → Parhau i ddarllen
Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies: Digwyddiadau a fynychwyd ym mis Gorffennaf 2019
04/07/19 – Agoriad swyddogol Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras ar safle Glasdir, gan Brif Weinidog Cymru 04/07/19 – Cyngerdd y nos – Dathliad Rhyngwladol Llangollen gyda MABON Jamie Smith 07/07/19 – Gwasanaeth Dinesig Cadeirydd Sir y Fflint, yn Eglwys Blwyf y Santes Eurgain a Sant Pedr yn Llaneurgain 07/07/19 – Dydd Sul […] Parhau i ddarllen
Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies: Digwyddiadau a fynychwyd ym mis Mehefin 2019
06/06/19 – Digwyddiad Superkids yn yr Hen Lyfrgell, Raikes Lane, Yr Wyddgrug 06/06/19 – Dathliad Pen-blwydd yr Young Dragons yn 10 oed, yng Ngwesty’r Nant Hall, Prestatyn. 07/06/19 – Arddangosfa o waith a grëwyd yn Superkids; Maes Ymarfer Cwrs Golff Eat the Green, Bodelwyddan 08/06/19 – Garddwest Clwb Rotari Llangollen a gynhelir ym Mhlas Newydd, […] Parhau i ddarllen
Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies: Digwyddiadau a fynychwyd ym mis Mai 2019
15/05/19 – Cyfarfod Blynyddol Cyngor Tref y Rhyl a Noson Sefydlu’r Maer, Y Rhyl
16/05/19 – Ymweliad y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol â’r Safle Treulio Anaerobig yn y Waen, Rhuallt
25/05/19 – Diwrnod y Lluoedd Arfog a Rhy… Parhau i ddarllen
Bethan Gwanas: Llyfrau Steddfod Dyffryn Conwy
Dyma’r llyfrau brynais i ar y maes yn Llanrwst: Dwi hanner ffordd drwy Carafanio ac yn mwynhau’n arw! Ond roedd gen i fwy o lyfrau ar fy nesg cyn mynd i’r Steddfod, yn cynnwys Treheli gan Mared Lewis: a Mudferwi gan Rebecca Roberts: Llwyth o ddarllen o mlaen i felly! A dwi’n meddwl mai ar […] Parhau i ddarllen