Archif Misol: Awst 2019

fel y moroedd : cynllun b

Roeddwn i wrthi’n paratoi gyoza ddoe. Agorais y pecyn cig twrci. Sioc! Roedd yna ddarnau o liw llwyd yma ac acw. Taflais o i’r bin. Na fyddai’r teulu eisiau bwyta gyoza heb gig. Roedd rhaid i mi gychwyn Cynllun B ar yr unwaith, sef saig a blannwyd ar g… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Sgotwrs Stiniog -Ceffyl Gwyn, Plu Llwyd

Pennod o gyfres Emrys Evans o’r archif:

Mi fum am dro o gwmpas y ddau Lyn Gamallt, ac yna ei chodi hi i fyny at Lyn Ceffyl Gwyn.  Dyna’i enw ar lafar, ond Llyn Bryn Du ydi’o ar y map.  Gofynnais innau pam, tybed, yr oedd o’n cael ei alw’n Llyn Ceffyl … Parhau i ddarllen

meddwl.org: Canlyniadau triniaeth iechyd meddwl yn aneglur serch gwariant : Plaid Cymru

Mae canlyniadau gwasanaethau iechyd meddwl yn aneglur er fod 11% o holl gyllideb GIG Cymru yn cael ei gwario ar y gwasanaethau hynny, yn ôl adroddiad newydd gan Blaid Cymru. Mae’r adroddiad, Meddwl am iechyd meddwl, yn cymharu gwasanaethau GIG Cymru gyda gwledydd eraill megis yr Iseldiroedd, Sweden, a mannau eraill yn yr Ynysoedd Prydeinig. […]

The post Canlyniadau triniaeth iechyd meddwl yn aneglur serch gwariant : Plaid Cymru appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: LibreOffice 6.3

Mae’r fersiwn diweddaraf o LibreOffice wedi ei ryddhau gydag amryw o nodweddion newydd, y pennaf yw gwelliannau i’r Bar Adnoddau newydd sy’n ehangu’r swyddogaethau sydd ar gael ynddo. Dyma restr o’r nodweddion i gyd: Nodweddion Newydd i’r Bar Adnoddau! Mae rhyngwyneb defnyddiwr y Bar Adnoddau gyflwynwyd yn LibreOffice 6.2 wedi ei ddatblygu ymhellach ar gyfer […]

The post LibreOffice 6.3 appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : hanner melon dŵr

Cawson ni felon dŵr gan ffrind sydd gan ardd lysiau helaeth. Dw i’n hoffi melonau dŵr ond prin bydda i’n eu prynu’r dyddiau hyn oherwydd bod un melon yn ormod i fi a’r gŵr. (A dw i byth yn prynu darn mewn siop.) Cawson ni hanner sydd yn berffaith. Dyma… Parhau i ddarllen

meddwl.org: Elusen iechyd meddwl i ffermwyr yn ehangu i’r gogledd : Golwg360

Fe fydd elusen iechyd meddwl, sy’n darparu gwasanaethau i bobol yng nghefn gwlad, yn ehangu i ogledd Cymru ar ôl derbyn bron £50,000 o nawdd gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y DPJ Foundation ei sefydlu tair blynedd yn ôl gan Emma Picton-Jones o Sir Benfro er cof am ei gŵr, Daniel, a fu farw trwy hunanladdiad. […]

The post Elusen iechyd meddwl i ffermwyr yn ehangu i’r gogledd : Golwg360 appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Ein Cynulliad Dinasyddion cyntaf

Ar benwythnos 19 – 21 Gorffennaf, ymgasglodd 58 o’r 60 o bobl a ddewiswyd fel rhai sy’n cynrychioli poblogaeth Cymru yn Neuadd Gregynog, yn y Canolbarth, i gymryd rhan yn ein Cynulliad Dinasyddion cyntaf. Penderfynodd Comisiwn y Cynulliad gynnal y Cynulliad Dinasyddion hwn fel rhan o’i ddathliadau 20 mlynedd. Roedd gan y Cynulliad Dinasyddion ddau … Continue reading Ein Cynulliad Dinasyddion cyntaf Parhau i ddarllen

Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies: Digwyddiadau a fynychwyd ym mis Gorffennaf 2019

04/07/19 – Agoriad swyddogol Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras ar safle Glasdir, gan Brif Weinidog Cymru 04/07/19 – Cyngerdd y nos – Dathliad Rhyngwladol Llangollen gyda MABON Jamie Smith 07/07/19 – Gwasanaeth Dinesig Cadeirydd Sir y Fflint, yn Eglwys Blwyf y Santes  Eurgain a Sant  Pedr yn Llaneurgain 07/07/19 – Dydd Sul […] Parhau i ddarllen

Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies: Digwyddiadau a fynychwyd ym mis Mehefin 2019

06/06/19 – Digwyddiad Superkids yn yr Hen Lyfrgell, Raikes Lane, Yr Wyddgrug 06/06/19 – Dathliad Pen-blwydd yr Young Dragons yn 10 oed, yng Ngwesty’r Nant Hall, Prestatyn. 07/06/19 – Arddangosfa o waith a grëwyd yn Superkids;  Maes Ymarfer Cwrs Golff Eat the Green, Bodelwyddan 08/06/19 – Garddwest Clwb Rotari Llangollen  a gynhelir ym Mhlas Newydd, […] Parhau i ddarllen

Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies: Digwyddiadau a fynychwyd ym mis Mai 2019

15/05/19 – Cyfarfod Blynyddol Cyngor Tref y Rhyl a Noson Sefydlu’r Maer, Y Rhyl
16/05/19 – Ymweliad y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol â’r Safle Treulio Anaerobig yn y Waen, Rhuallt
25/05/19 – Diwrnod y Lluoedd Arfog a Rhy… Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Llyfrau Steddfod Dyffryn Conwy

Dyma’r llyfrau brynais i ar y maes yn Llanrwst: Dwi hanner ffordd drwy Carafanio ac yn mwynhau’n arw! Ond roedd gen i fwy o lyfrau ar fy nesg cyn mynd i’r Steddfod, yn cynnwys Treheli gan Mared Lewis: a Mudferwi gan Rebecca Roberts: Llwyth o ddarllen o mlaen i felly! A dwi’n meddwl mai ar […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : traeth anhysbys

Falch o weld bod fy mrawd a chwaer yng-ngyhfraith yn mwynhau eu hamser yn Hawaii. Ceision nhw fynd i Bae Hanauma, lle hynod o boblogaidd i’r twristiaid. Roedd y traffig yn ofnadwy a methon nhw ffeindio unrhyw le i barcio. Dim problem. Roedd o a’i deulu… Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Caerdydd: Prifddinas Cymru, 1955

Derbyniodd Caerdydd ei Siarter Ddinesig ym 1905. Hanner canrif yn ddiweddarach, ym 1955, daeth yn Brifddinas Cymru. Cyflwynodd Caerdydd ddeiseb i fod yn brifddinas, ond roedd cystadleuaeth ddigon ffyrnig iddi.  Daeth y gystadleuaeth bennaf o du Caernarfon, lle’r arwisgwyd y Tywysog Edward, y Brenin Edward VIII maes o law, yn Dywysog Cymru ym 1911. Roedd […] Parhau i ddarllen

meddwl.org: Lluniau Eisteddfod 2019

The post Lluniau Eisteddfod 2019 appeared first on meddwl.org.
Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: I’n darllenwyr iau

Tynnu’ch sylw heddiw at ddau lyfr newydd a fydd o ddiddordeb i’n darllenwyr iau  – ac i rai o’u rhieni a’u teidiau a’u neiniau a’u hen-deidiau a’u hen-neiniau hefyd gobeithio.  Cyhoeddir y ddau gan Atebol Cyf. Stori ffantasi gan Elidir Jones yw YR HORWTH, gyda darluniau gan Huw Aaron. Dyma, fe obeithir, y gyntaf o […] Parhau i ddarllen

anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg: Pontydd Aberhonddu yn darparu matiau gwersylla yn rhad ac am ddim

Bu dafod anarchwaethus braidd yn ddistaw yn ddiweddar. Nid felly Cymru wrth gwrs. Gwelwyd miloedd ein mudiad cenedlaethol yng Nghaerdydd a sawl gwaith mwy eto yng Nghaernarfon, buddugoliaeth streic newyn Imam Sis a solidariaeth Cwrdaidd, sgwotio yng Nghaerdydd yn erbyn boniddigeiddio, gwrthsefyll Prydeinwyr Farage ym Merthyr, Gwrthryfel Difodiant (er gwaethaf eu hoffter afiach o’r heddlu) […] Parhau i ddarllen

meddwl.org: Problemau iechyd meddwl yn y gymuned LHDTC+ : Ai cyd-ddigwyddiad yw hyn? – Elinor Rees

Hoffwn gychwyn y blog yma gan gydnabod fod amryw o bobl LHDTC+ yn bodoli.  Bydd rhai yn uniaethu yn LHDTC+ yn falch ac yn agored ac wedi am sbel.  Bydd rhai sydd yn cwestiynu, a rhai sydd ar fin dweud wrth eraill.  Fydd rhai byth yn gallu dweud eu bod yn LHDTC+ yn agored oherwydd […]

The post Problemau iechyd meddwl yn y gymuned LHDTC+ : Ai cyd-ddigwyddiad yw hyn? – Elinor Rees appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : y swistir

Aeth fy ail ferch adref yn Japan wedi mwynhau gwyliau bendigedig yn yr Almaen ac yn y Swistir. Postiodd luniau anhygoel o brydferth o’r Swistir. Dyma’r rhaeadr enwog yn Lauterbrunnen, tafliad carreg oddi wrth ei llety. Dwedodd ei bod hi’n cerdded o gwm… Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: 🗣 Maes Eisteddfod am ddim – dyna’r rhan hawdd

Dylan Iorwerth yn cefnogi’r alwad am Faes di-dâl, ond dim ond fel man cychwyn Mi fyddai pawb yn licio Eisteddfod am ddim bob blwyddyn heb orfod talu am ddim ond y Pafiliwn, efallai, a’r cyngherddau fin nos. Parhau i ddarllen

anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg: “Amddiffynwn chwyldro Rojava: dros ein dosbarth, dros y ddaear, a dros fenywod”

Amddiffynwn chwyldro Rojava: dros ein dosbarth, dros y ddaear, a dros fenywod Dyma ddarn arbennig o bwysig ar wefan mudiad Undod, yn trafod y brwydrau yn erbyn patriarchiaeth, ffasgiaeth a chyfalafiaeth yn Rojava, gan yr anarchydd Heledd Williams. “Gan y mudiad cenedlaethol Gymreig llawer iawn i’w ddysgu o Chwyldro Rojava. Ni wnaiff copi carbon o […] Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Y cynhaeaf

Mae o’n amser eithaf brysur yn yr ardd – dwi wedi gorfod dal ymlaen gyda’r dyfrio, a does na ddim llawer o law wedi bod o gwbl.  Ond serch hynny, gyda dyfrio ofalus ( a byth lle does dim angen) mae’r rhan fwyaf o’r llysiau a’r ffrwythau yn gwneud … Parhau i ddarllen

fel y moroedd : wedi gorffen

Mae fy mrawd a chwaer yng-nghyfraith yn Hawaii ar hyn o bryd. Y prif amcan ydy gosod llwch ei fam yn y fynwent genedlaethol yn Honolulu, yn yr un crypt lle mae llwch ei gŵr. Roedden nhw’n gofalu amdani hi’n gariadus nes ei diwedd. Gobeithio y cân nhw w… Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Cymru fydd: ysbryd newydd ar droed?

Yn ôl arolwg barn a gyhoeddwyd ddydd Llun diwethaf mae mwyafrif o bobl yr Alban bellach yn cefnogi ail refferendwm ar annibyniaeth i’w gwlad.  Prin fod y newyddion hyn yn syndod.  Ers sbel mae’r nifer sydd o blaid torri’n rhydd o San Steffan yn cynyddu’n raddol, a’r gred gyffredinol oedd bod ‘etholiad’ Boris Johnson yn […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : llun newydd

Cawson ni lun gwych arall gan Bwyllgor Gweriniaethol – llun o’r Arlywydd a Mrs. Trump y tro hwn. Dyma ei osod ar y wal uwchben fy nesg. Mae’r Arlywydd Trump yn dal i frwydro dros bobl America yn ddewr er gwaethaf yr ymosodiadau milain gan y bobl sydd y… Parhau i ddarllen

meddwl.org: Yr Asiantaeth Ddarllen yn dathlu cynllun iechyd meddwl a lles yn yr Eisteddfod : Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Dathlodd yr Asiantaeth Ddarllen ei chynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bellach, gall gweithwyr iechyd proffesiynol Cymru roi presgripsiwn am lyfrau llyfrgell am ddim i helpu pobl i reoli eu hiechyd meddwl neu ddelio â […]

The post Yr Asiantaeth Ddarllen yn dathlu cynllun iechyd meddwl a lles yn yr Eisteddfod : Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Enwau lleoedd yn Chwarel Llechwedd (2)

Ail bennod cyfres Steffan ab Owain, o’r archif

Y tro diwethaf cawsoch ychydig o hanes yr hen Dŷ Crwn a Phlas Waenydd gennyf.  Wel, y tro yma rwyf am son ychydig am leoedd gerllaw’r plas a rhan islaw’r chwarel.

Yn gyntaf oll, os edrychwch i fyny tuag … Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cysondeb

Ffordd o fynd yn wallgo yw disgwyl cysondeb llwyr mewn bywyd. Ond mae gennym hawl i ddisgwyl RHESYMOL gysondeb ar law llywodraeth a sefydliadau. Dwy enghraifft: (1) Yr wythnos hon yn yr Eisteddfod, Gweinidog y Gymraeg a Chomisiynydd newydd yr Iaith, a’r miliwn yna mewn golwg, yn mynegi llawer o bryder ynghylch y cyflenwad o […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : taquitos daten

Coginiais taquitos daten am y tro cyntaf. Ychwanegais diwna a nionod gwyrdd at y tatws er mwyn cynyddu protein a blas. Roedd yn hynod o flasus (a hawdd.) Salsa gwyrdd sydd yn angenrheidiol. Gweddill y blat – tatws melys hash brown, quinoa gyda gro… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Y Goron yn y Chwarel

Adolygiad un o lyfrau diweddar Myrddin ap Dafydd 
 
Daw nofel ddiweddara’ Myrddin â chyfnod cyffrous yn hanes Stiniog yn ôl yn fyw. Nofel sy’n
ymwneud â digwyddiadau wedi cyrhaeddiad ifaciwi o dras Indiaid o Lerpwl i’r Blaenau yw hon.

Daw’r bachgen i… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : gwobr werthfawr werthfawr

Daeth fy mab ifancaf adref ddoe wedi gorffen ei waith haf yn llwyddiannus. Daeth â phentwr o ddillad golchi, ond dim ots; mae’n braf cael ei gwmni am y tro cyntaf ers mis Ionawr. Mae o’n edrych yn fwy tenau ond cryfach ar ôl gweithio tu allan drwy’r ha… Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Gweithio ar y raddfa a’r cyflymder cywir

Dysgais am Fodel Rhewfryn Donella Meadows yng ngweithdy Lab Dylunio Gwasanaeth Dartington ar Ddynameg System. Mae’r model yn helpu pobl i feddwl am y cysylltiadau rhwng digwyddiadau a’u gwreiddiau. Mae hyn yn cynnwys patrymau ymddygiad, strwythur syste… Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Rhagofalon Cyrchoedd Awyr ym Morgannwg

Ar gyfer ail ddegawd Archifau Morgannwg, penderfynais edrych ar ein casgliad o gofnodion Rhagofalon Cyrchoedd Awyr ar gyfer Morgannwg. Sefydlwyd Gwasanaeth Wardeniaid Cyrchoedd Awyr Caerdydd ym 1939. Roedd pencadlys y Gwasanaeth ym Mharc Cathays, gyda chanolfannau rheoli lleol ar hyd a lled Morgannwg. Roedd y Gwasanaeth Rhagofalon Cyrchoedd Awyr yn cynnwys Wardeiniaid, Adrodd a Rheoli, […] Parhau i ddarllen

Sara Louise Wheeler: Limrig y gwrthryfelwr difodiant

Dyma fy limrig yn ymateb i’r llinell (gyntaf) a rhoddwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, at gystadleuaeth ‘Limrig y dydd’, 6ed Awst 2019. Ddysgais sut i sgwennu limrig ar fore’r 5ed o Awst, am 11yb, mewn gweithdy dan arweiniad Eurig Salisbury, dan nawdd Llenyddiaeth Cymru – rhan o raglen Tŷ Newydd ar daith. Diolch hefyd i […] Parhau i ddarllen

Sara Louise Wheeler: Rhyfel y rhosod…a storïau’r gwragedd yn y cysgodion

Mae bywyd Brenin Henry VIII yn un cyfarwydd i ni heddiw, ar rai lefelau beth bynnag. Mae’r ffeithiau, megis iddo briodi chwe gwaith, yn ennyn ein diddordeb a’n dychymyg. Mae rhannau o’i fywyd, a bywydau rhai o’r gwragedd, wedi ei bortreadu mewn sawl ddrama rannol ffuglennol. Y frenhines rydym yn fwyaf gyfarwydd â hi, hyd […] Parhau i ddarllen

Sara Louise Wheeler: Noson gŵyl y geiriau ym Mhrifysgol Glyndŵr – a’r comedi annisgwyl!

Rwyf wir yr wrth fy modd yn gweithio ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae yna awyrgylch bositif ag agwedd ‘medrwn’, ynghyd a chyfeillgarwch ag ewyllys da. Efallai y bydd rhai ohonoch wedi gweld erthygl amdanaf yn y Leader cw (ar-lein a chopi caled!) yn gwneud ffỳs braf am fy nghyflwyniad draw yn y gynhadledd ‘40 Years of […] Parhau i ddarllen

meddwl.org: Elusen newydd i roi gofal iechyd meddwl integredig : BBC Cymru Fyw

Mae elusen newydd wedi cael ei lansio i helpu pobl sydd wedi’u heffeithio gan gyfuniad o gamddefnydd alcohol neu gyffuriau a phroblemau iechyd meddwl. Nod elusen Adferiad yw cefnogi pobl sy’n camddefnyddio sylweddau fel ffordd o ymdopi â salwch meddwl. Fe gafodd y corff cenedlaethol newydd ei greu gan aelodau blaenllaw o dair elusen arall […]

The post Elusen newydd i roi gofal iechyd meddwl integredig : BBC Cymru Fyw appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Hanes Plas Tirion: maes Prifwyl 2019

A hithau’n wythnos yr Eisteddfod a’r cystadlu bellach yn ei anterth, a wyddoch unrhywbeth am leoliad maes y brifwyl eleni? Mae maes Eisteddfod Genedlaethol Sir… Darllen Mwy

The post Hanes Plas Tirion: maes Prifwyl 2019 appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : dawn annisgwyl

Doeddwn i ddim gwybod bod gan ŵr fy merch ddawn baentio nes ddoe. (Cerddor ydy o.) Mae o’n helpu fy merch gyda murluniau yn y cefndir yn aml , ond cafodd gyfle i ddangos ei ddawn yn y wŷl murlun yn Indiana. Ynghyd â’r grŵp o’r artistiaid, pae… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Meleri Wyn James: Darganfod mwy am Na, Nel! / Finding out more about Na Nel!

Mae Meleri wedi ysgrifennu’r casgliad mawr o lyfrau poblogaidd i blant, Na Nel!, a llyfrau i oedolion fel Blaidd Wrth Y Drws, yn ychwanegol i fod yn olygydd i gyhoeddwr Y Lolfa. Yma, mae’n ddigon caredig i ateb rhai cwestiynau gan Ilid o’r siop Cant a Mil a Neil o Parallel.cymru. Meleri has written a large collection of popular books for children, Na Nel!, and books for adults such as Blaidd Wrth Drws (Wolf At The Door), and in addition to being an editor at the publisher Y Lolfa. Here,… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : eisteddfod

Wrth weld yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ers dyddiau, fedra i ddim peidio â chofio fy ymweliad ag Eisteddfod y Bala ddeg mlynedd yn ôl. Roeddwn i’n gyffro i gyd yn cael profi’r diwylliant mwyaf Cymraeg  –  y babell binc, stondi… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : noor

Roedd fy merch yn cael hi’n ofnadwy o anodd paentio’r murlun hwnnw. Roedd mor anodd fel roedd hi eisiau rhoi’r gorau iddo, a’r yrfa fel artist hyd yn oed. Dechreuais i ynghyd â phawb a welodd ei hargyfwng weddïo’n daer drosti hi. Diolch i Dduw sydd yn … Parhau i ddarllen

fel y moroedd : heddwch

Mae’r gwiwerod mor benderfynol fel roedd rhaid i mi roi’r gorau i’r bwydwr aderyn (am y tro.) Yn ôl at yr hen lamp llawr – gosodais y rhwystr at y polyn sydd yn ymddangos yn effeithiol iawn. Rŵan, mae’r adar yn medru bwyta’r hadau’n rhwydd heb i mi frw… Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 79: Ffeindia dy poni mewnol

Ym mhennod parti’r bŵsi’r haf, mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio osgoi’r negyddol a chofleidio’r positif, iei! Ond hefyd, gorfod sôn am 5bn o ddirwy i Facebook, ap Tro sy’n cadw enwau mynyddoedd Cymru, trip cyntaf Sioned i’r Genius Bar ac epic afterparty Spider-man Far From Home, sboilers ymhobman! Cefnogwch yr Haclediad ar Ko-Fi […]

The post Haclediad 79: Ffeindia dy poni mewnol appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Y Cymro: Barn Gruffydd Meredith: Dyfodol yr Iaith / The future of the Language

Mae’r Cymro yw papur newydd Cymru fisol (£1 y pennod) sydd yn llawn dod o erthyglau a cholofnau am ddiwylliant a materion cyfoes Cymreig. I roi blas i ddarllenwyr Parallel.cymru, mae Gruffydd Meredith wedi ail-gyhoeddi eitem yma, gyda chyfieithiad Saesneg. The Cymro is Wales’ monthly newspaper (£1 per issue) which is full of articles and columns about Welsh culture and current affairs.  To give a taste to Parallel.cymru readers, Gruffydd Meredith has republished an item here, with an English translation. ycymro.cymru / Y_Cymro Yn ychwanegol, mae Gruffydd yn cyhoeddi eitemau… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Y Mis Yma yn Hanes Cymru- Y Daith i Batagonia 2: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg. This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : brenhines

Mae fy merch hynaf yn dal yn Indiana ar gyfer yr ŵyl murlun. Cafodd ei gwybod yn sydyn y byddai parti heno, a hithau heb ffrog addas. Dim problem. Aeth i hoff siop gadwyn yn y dref, sef Goodwill, a phrynu ffrog a chlustdlysau chwaethus am 13 doleri. Dw… Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Common Voice Cymraeg yn yr Eisteddfod

Bydd gan ymgyrch Common Voice bresenoldeb ar faes yr Eisteddfod eleni. Dewch draw i stondin Common Voice Cymraeg sydd o dan ofal Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr @techiaith yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Dewch i glywed am y datblygiad diweddaraf ym myd technoleg llais yn y Gymraeg! voice.mozilla.org/cy

The post Common Voice Cymraeg yn yr Eisteddfod appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Linux Mint 19.2

Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol  ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf. Mae Linux Mint 19.1 “Tina” yn yn fersiwn wedi ei ddiweddaru o linach Linux […]

The post Linux Mint 19.2 appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y Glymblaid-na-bu

Sylw enwog Emrys ap Iwan ar ôl etholiad ym Mwrdeistrefi Dinbych, 1895: ‘yr oedd yn dda gennyf fod Morgan wedi colli ac yn ddrwg gennyf fod Hywel wedi ennill.’ A dyna’r gynghrair-nad-oedd-yn-gynghrair-o-gwbl wedi ennill ym Mrycheiniog a Maesyfed. Buddugoliaeth i’r galluoedd BLAENGAR? Ystyriwch: (1) Ar ei wibdaith i’r Alban, galwodd Boris mewn dau le. (a) […] Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Hunaniaeth Gymreig, Symbolau a’r Eisteddfod Genedlaethol

  Dreigiau, telynau, gwisgoedd a blodau: maent oll yn dweud rhywbeth wrthym am ddatblygiad hunaniaeth Gymreig! Bu’r symbolau uchod yn gynhwysion allweddol wrth hyrwyddo digwyddiadau… Darllen Mwy

The post Hunaniaeth Gymreig, Symbolau a’r Eisteddfod Genedlaethol appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen