Archif Misol: Medi 2019

Ailddysgu: Diwedd mis Medi

Dwi ddim yn siŵr sut dan ni wedi cyrraedd fama mor gyflym.  Ond bythefnos yn ol roedd yn teimlo fel ei fod am fod yn haf am byth – poeth, sych….beth bynnag, ar ol haf eitha da ond rhy sych o lawer i arddwyr, mae o’n teimlo’n wir hydrefol rŵan.Yn… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Cyhoeddi pencampwr cyntaf Diwrnod Shwmae Sumae 2019! / Announcing the first champion for Shwmae Sumae Day 2019- Neil Rowlands o Parallel.cymru

fel y moroedd : gŵyl y trymped

Gŵyl y Trymped i’r Iddewon ydy hi heddiw yn ôl y Torah, ond rhywsut neu’i gilydd, mae hi wedi newid i Rosh Hashanah (dechrau’r flwyddyn) dros y blynyddoedd. Beth ddwedodd Paul wrth i’r Corinthiaid?”….bydd yr utgorn yn seinio, y meirw yn cael eu … Parhau i ddarllen

meddwl.org: Canolfan £10m i ddelio ag iechyd meddwl pobl ifanc : BBC Cymru Fyw

Drwy gydweithio ag ymchwilwyr yn Abertawe, yn ogystal ag ysgolion a’r gwasanaeth iechyd – y gobaith yw y gall Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobol Ifanc daflu goleuni ar y problemau cynyddol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc. Bydd y ganolfan yn canolbwyntio ar bum maes ymchwil: Dilyn plant dros gyfnod hir i […]

The post Canolfan £10m i ddelio ag iechyd meddwl pobl ifanc : BBC Cymru Fyw appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Y Mis Yma yn Hanes Cymru- Y Daith i Batagonia 3: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg. This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : da iawn cymru!

meddwl.org: Diogelwyd:

Nid oes cyfran gan fod hwn yn gofnod wedi ei ddiogelu.

The post Diogelwyd: appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

Y busnes rhedeg 'ma: Bwyta cyn ras

Mae’r cofnod yma’n ymateb i gais penodol ar Twitter gan Deian Creunant (@Creunant), ond yn gwestiwn mae cwpl o bobl wedi holi i mi yn ddiweddar – beth i’w fwyta cyn ras. Dwi’n gwybod bod Deian yn paratoi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ar hyn o bryd, ac yn rhedeg yn dda o’r hyn dwi […] Parhau i ddarllen

Gronyn: Parchu’r Gyfraith

Maddeuwch i mi am ddychwelyd at yr hyn y soniais amdano bythefnos yn ôl. Yr oedd gweithred Mr Boris Johnson i gau’r Senedd yn anghyfreithlon. Dyna oedd dyfarniad digamsyniol Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig ddydd Mawrth diwethaf.  Roedd yr un barnwr ar ddeg yn unfrydol eu penderfyniad.  Dilëwyd y cau gan y Llys, a drannoeth […] Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: 🗣 Croesi trothwy hynod beryglus

Yn y senedd nos Fercher, mi welson ni gefnogwyr Brexit yn dangos eu gwir liwiau wrth addel eu cenedlaetholdeb Seisnig mwyaf amrwd. Parhau i ddarllen

shitclic: Où est Spiral?

Mae’r BBC wedi mynd yn rhy bell rŵan. Yn ein cadw ar binnau, a’n herian efo hysbysebion o’r gyfres ddrama am dditectifs honco Paris – Spiral, neu Engrenages i chwi Francophiliaid. Mae’r Ffrancwyr lwcus wedi gweld y seithfed gyfres ers mis Chwefror – ie… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : ebrill swyngyfareddol

Doeddwn i erioed wedi clywed Elizabeth von Arnim o’r blaen, a dweud y gwir. Des o hyd i’r llyfr clywedol ar ddamwain, a dechrau gwrando arno fo. Ces i fy nghyfareddu gan ddull unigryw hyfryd yr awdures – dadansoddiad meddyliau’r cymeriadau, a… Parhau i ddarllen

Y Blog Recordiau Cymraeg: Paul Henry (Harmonica).

Dod ar draws record fach ddiddorol gan Paul Henry, pencampwr harmonica (organ gêg). Hyd y gwn i, dyma ei unig record ar label Gymreig – Dryw WRE 1153, sef EP o 1974. Yn ol y nodiadau ar y record, ganwyd Paul Henry yn Abertawe yn 1952, a graddio hefo B.A. mewn Saesneg a Hanes yn […] Parhau i ddarllen

Y busnes rhedeg 'ma: Tri llyfr i redwyr

Dwi’n aml yn dweud mai rhedeg ydy fy ‘downtime’ i, ond dwi hefyd yn ddarllenwr eitha’ brwd ac yn trio darllen am rhyw hanner awr i awr bob nos cyn cysgu. Ffuglen sy’n mynd a fy mryd fel rheol ond nawr ac yn y man dwi’n codi llyfr ffeithiol, a bydd rhain fel arfer yn […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : hannah szenes

Hannah Szenes ydy thema murlun nesaf fy merch. Hi oedd yr arwres a safodd yn ddewr yn erbyn y Natsïaid er mwyn achub yr Iddewon yn Hwngari. Dienyddiwyd gan sgwad tanio yn 23 oed. Gwrthododd fwgwd gan syllu’n feiddgar ar ei ysgutorion. Bydd fy merch yn … Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Downing Street yn Llanystumdwy

Ie diddorol, ‘Codi drws Downing Street yn Llanystumdwy’ medd stori GOLWG 360 heddiw.  Yn wir gallesid codi drysau rhif 10 a rhif 11 gan y bu Ll.G. yn drigiannydd y ddau. Neu beth am gael hefyd ddrws cefn rhif 10, gan mai trwy hwnnw, medd rhai o’r cofianwyr, y byddai Frances yn mynd allan pan […] Parhau i ddarllen

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Campwaith Mewn Ysgol

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei […]

The post Campwaith Mewn Ysgol appeared first on Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Parhau i ddarllen

meddwl.org: Ffion Dafis isio trafod alcohol…

Ddwy flynedd yn ôl, mi wnes i ysgrifennu dwy ysgrif yn fy nghyfrol ‘Syllu ar walia’  yn myfyrio ar fy mherthynas gymhleth efo alcohol a pham nad ydw i’n gallu torri y llinyn bogail rhyngof fi a’r hylif. Dyma’r ysgrifau gafodd yr ymateb cryfaf o’r holl ddarnau oedd yn y llyfr ac mi gefais fy […]

The post Ffion Dafis isio trafod alcohol… appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : aderyn nofio

Mae’n amser i’r tŷ gael paent newydd. Fe wnaeth Kurt y gwaith mwy na deg mlynedd yn ôl. Dw i a’r gŵr eisiau cadw’r un lliwiau, sef glas ysgafn gyda melyn ysgafn o gwmpas y ffenestri. Mae gan y siop enwau braf ar eu cyfer nhw – swimming ar gyfer y glas,… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Tîm sy’n dod o’r graig

Apêl am ‘gefnogaeth’ gan lywydd Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau
Heb os rwy’n tybio fod pawb yn y Blaenau a’r cylch wedi clwad am dymor llwyddianus CP yr Amaturiaid cyn yr haf – nid yn unig wedi gorffen y tymor yn yr ail safle yn y gynghrair, ond he… Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: @techiaith yn ennill gwobr RCSLT!

Neithiwr yn seremoni gwobrwyo’r Royal College of Speech and Language Therapists derbyniodd Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor wobr Giving Voice Award am eu gwaith yn datblygu Lleisiwr, project i greu lleisiau synthetig personol i gleifion sydd ar fin colli eu gallu i siarad o ganlyniad i gyflyrau megis Clefyd Niwronau Echddygol a Chanser y Gwddf. […]

The post @techiaith yn ennill gwobr RCSLT! appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Pobl Caerdydd yn Gyntaf: Prosiect Pink Ladies

Mae Pobl Caerdydd yn Gyntaf yn gymdeithas hunaneiriolaeth a redir gan ac ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu yng Nghaerdydd. Maen nhw’n amddiffyn eu hawliau ac yn ymgyrchu i newid agweddau, cael gwasanaethau gwell a mwynhau mwy o gyfleoedd. Maen nhw’n brwydro dros gyfartaledd, dealltwriaeth, parch a derbyniaeth. Mae aelodau Pobl yn Gyntaf Caerdydd […] Parhau i ddarllen

meddwl.org: Diogelwyd: Beth yn y byd yw galar patholegol (neu galar cymhleth/hirfaeth)?

Nid oes cyfran gan fod hwn yn gofnod wedi ei ddiogelu.

The post Diogelwyd: Beth yn y byd yw galar patholegol (neu galar cymhleth/hirfaeth)? appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

meddwl.org: Angen, nid dewis, yw’r Gymraeg – Comisiynydd y Gymraeg

Yr wythnos hon mae Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn arwain ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog yn y sector iechyd yng Nghymru. Lleisiau cleifion, teuluoedd a gweithwyr iechyd sydd i’w clywed yn yr ymgyrch yn dweud faint o wahaniaeth all gwasanaeth Cymraeg ei wneud i’r diagnosis, y driniaeth a’r gofal. […]

The post Angen, nid dewis, yw’r Gymraeg – Comisiynydd y Gymraeg appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : plât lliwgar

I fy mab ifancaf wrthi’n astudio a gweithio’n galed yn y brifysgol, un o’r pethau pleserus sydd yn codi ei galon ydy’r bwyd yn y ffreutur. Cynigir bwyd da o ddewis eang yn ddiweddar. Mae o’n dewis bwyd iachus a’i osod mewn modd hynod o ddeniadol bob tr… Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: GWLAD – deg peth y mae angen i chi eu gwybod

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg 1. Beth ydyw? I ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal gŵyl GWLAD, sef, pum niwrnod o ddigwyddiadau ym Mae Caerdydd, ac yna tair gŵyl fach yn ystod Hydref 2019. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau … Continue reading GWLAD – deg peth y mae angen i chi eu gwybod Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Dwy Ddysgwraig y Flwyddyn 2019

Dyma gyfweliadau gyda dwy fenyw sydd wedi ennill prif wobrau eleni- Fiona Collins a Francesca Sciarrillo- ac mae Eirian Wyn Conlan o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gofyn y cwestiynau. Eu henghreifftiau yn gallu ysbrydoli llawer o ddysgwyr eraill! Here are  interviews with two ladies who have won major prizes this year- Fiona Collins and Francesca Sciarrillo- and Eirian Wyn Conlan of the National Centre for Learning Welsh is asking the questions. Their examples can inspire lots of other learners! Fiona Collins- Dysgwr y Flwyddyn, Eisteddfod Genedlaethol 2019 Sir Conwy Parhau i ddarllen

shitclic: O’r crud i’r bedd

Pwy sy’n cofio Dr Elen a Glan Hafren? Dramâu sebonllyd S4C yn y 1990au wedi’u gosod yn y gwasanaeth iechyd? Y math o gyfresi oedd yn canolbwyntio ar fisdimanars doctors a nyrsys a’r cleifion, yn fwy na’r damweiniau a ddigwyddai y tu ôl i’r camera gan n… Parhau i ddarllen

Y Blog Recordiau Cymraeg: Yr Arian.

Wedi derbyn record go brin at y casgliad heddiw. Grwp o Flaenau Ffestiniog oedd Yr Arian, wnaeth ryddhau eu hunig record sengl ar label Dryw/Wren yn 1974. Mae’n record eithaf prin, yn un o’r dwsin recordiau 7 modfedd olaf i Wren ryddhau cyn darfod yn 1976. I gyd fynd ag enw’r grwp, mae clawr y […] Parhau i ddarllen

Y busnes rhedeg 'ma: Adroddiad Ras: 1/2 Marathon Llyn Efyrnwy (8/9/19)

Dwi’m yn hollol siŵr beth ydy fy hoff bellter. Ro’n i’n arfer meddwl mai 10k oedd o – cyflym, ond digon pell i fod yn ras endurance hefyd. Ond dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, dwi wedi dechrau tueddu’n fwy at yr hanner marathon – ydy, mae’n ras hir ond yn un sydd ddim angen […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : 43-14

Llongyfarchiadau mawr i dîm Cymru! Parhau i ddarllen

Gronyn: Gweld y cyfan

Maen nhw ym mhobman; y llygaid sy’n cadw golwg arnom, yn Igualada, yn Wellington, ac yn nes atom.   Ddydd olaf Awst, roedd wythfed cymal ras feics y Vuelta yn gorffen yn nhref Igualada yng Nghatalonia. Wrth i’r beicwyr rasio trwy strydoedd y dref roedd hofrenyddion y cwmnïau teledu yn eu dilyn. Nikias Arndt a enillodd […] Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Cyfres ‘Gwaith’ 2019

Dechrau da yw hanner y gwaith
Cyfnod o ddod yn ôl at waith ydi mis Medi i nifer:  rhifyn newydd o Llafar Bro ar ôl yr hoe arferol ym mis Awst; yr ysgolion yn agor am dymor newydd; y gwleidyddion yn ôl yn y Senedd ac yn San Steffan (ddweda’i ddim mwy a… Parhau i ddarllen

Y Blog Recordiau Cymraeg: Recordiau Gwerin.

Cwmni recordiau Gwerin o Llanelli, cwmni yn gysylltiedig â Siop Y Werin, Stryd Y Farchnad Llanelli (perchennog Dyfrig Thomas). Rhyddhaodd y cwmni tua 48 o recordiau a chasetiau dan eu label eu hunain, gyda rhifau yn dechrau hefo “SYW” (“Siop Y Werin”) rhwng 1976 a 1986, a rhai eraill yn dechrau hefo’r llythrennau “PR”, ac […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : tatŵ samurai

Mae criw ffilm wrthi’n ffilmio cyfres newydd Netflix yn Ninas Efrog Newydd. Hit and Run ydy’r teitl, a Lior Raz, prif gymeriad Fauda a ysgrifennodd y stori ynghyd a’r lleill. Mae o’n actio hefyd. Dim ond dyddiau’n ôl gofynnodd i fy merch hynaf i ddylun… Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Yr Horwth – nofel ffantasi

Dwi newydd orffen darllen Yr Horwth, y nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc gan Elidir Jones. Mi wnai gyfaddef yn syth i mi gael trafferth efo hi ar y dechrau, ond efallai mai arna i oedd y bai am hynny, nid y llyfr. Mae rhywun wedi blino ddiwedd nos tydi? A doedd […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dinistr Prydain a Yes Cymru

STORI’R GOLLED Unwaith eto ar y blog, dyma dynnu sylw at y gyfrol eithriadol bwysig Llythyr Gildas a Dinistr Prydain, golygiad a chyfieithiad newydd Iestyn Daniel yn ein cyfres ‘Cyfrolau Cenedl’. Gellir gofyn: pam mae hi’n ‘gyfrol cenedl’ i ni’r Cymry?  Yr ateb: am ei bod yn cynnwys o’i mewn yr ymgais gyntaf erioed i […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Japan yn dod i Gymru, Mehefin 1976

Bydd Cymru gyfan yn gwylio’r digwyddiadau yn Stadiwm Tokyo, Japan ar Ddydd Gwener 20 Medi wrth i Dywysog Akishino agor yn swyddogol Cwpan Rygbi’r Byd 2019. I gefnogwyr Cymru bydd seibiant cyn y gêm gyntaf, yn erbyn Georgia yn Ninas Toyota, y Dydd Llun canlynol.  Ond, wrth iddynt fwynhau ymweld â Japan, efallai bydd un […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : tryledwr aroma

Daeth fy merch â thryledwr aroma gyda hi. Mae o mor fach a del fel prynais un hefyd. Mae o’n gweithio’n dda. Dydy o ddim yn rhoi gormod o stêm fel y lleill a digon bach i’w symud yn hawdd. Dw i’n gwirioni ar y ffurf sydd yn fy atgoffa i o onigiri (pêl … Parhau i ddarllen

Y Blog Recordiau Cymraeg: Adlonni.

Wrth ymchwilio i dipyn o hanes recordiau Cymraeg ar yr hen recordiau 78cyf, mi fum yn ddigon ffodus i daro ar draws nifer o gasetiau o 1981 ar label Adlonni. Gwaith y diweddar John Davies o Y Ffor, Pwllheli oedd y rhain, lle y bu yn defnyddio ei arbenigedd ar drosglwyddo hen recordiadau i greu […] Parhau i ddarllen

Y busnes rhedeg 'ma: Dewi i golli Doha

Dewi Griffiths yn tynnu nôl o Bencampwriaethau Athletau’r Byd Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 80: Pawb at y Biji-bô!

Tro yma ar eich hoff podlediad sy ddim wastad ‘dan 2 awr: Iest sy’n mynd trwy holl gyhoeddiadau newydd Apple, ni’n holi lle mae’r sci fi Cymraeg, mwy o stwff Apple, box sets, llyfrau, mwy o Apple a’r after parti hiraf ar record. Diolch am wrando, gadwch i ni wybod be chi’n meddwl ar @Llef […]

The post Haclediad 80: Pawb at y Biji-bô! appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : efrog newydd

Mae fy merch hynaf a’i gŵr yn teithio unwaith eto, i Efrog Newydd eto. Mynychu cynhadledd grŵp Philos ydy’r amcan. Dydyn nhw ddim yn peintio murlun, ac felly maen nhw’n cael ymlacio ac mae ganddyn nhw amser i gerdded o gwmpas. Aethon nhw i’r MET (amgue… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Gwell Enw Da Na Chyfoeth

Hynod ddifyr, ond cymleth weithiau hefyd, ydi hen enwau lleoedd yn’de. Tua’r un adeg a stŵr newid enw Llechwedd, rhoddwyd erthygl o’r archif ar y wefan yn trafod enw Bwlch Gorddinan. Yn ei golofn Stolpia, yn rhifynnau Mai a Gorffennaf 1998, roedd Steff… Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Capel Annibynnol y Cymer a Ffordd Liniaru’r Rhondda

Agorodd Ffordd Liniaru’r Rhondda, sy’n mynd o Drehafod i Bont-y-gwaith drwy’r Porth, i drafnidiaeth yn 2006, a chafodd ei hagor yn swyddogol y flwyddyn wedyn – ar ôl i waith tirlunio gael ei gwblhau – gan Brif Weinidog Cymru ar y pryd, y diweddar Rhodri Morgan.  Er bod yr angen i ddargyfeirio traffig i ffwrdd […] Parhau i ddarllen

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Lynne Blanchfield: Cystadlu mewn Eisteddfodau i Ddysgwyr – Rhowch Gynnig Arni! / Competing in Learners’ Eisteddfods – Give it a go!

Mae llawer o gyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu lefel o’r iaith trwy gystadlu mewn Eisteddfodau ar draws y wlad, a dyma Lynne yn siarad mwy am ei phrofiad o wneud hyn – gan gynnwys llwyddiant bach yn yr Eisteddfod Genedlaethol. There are lots of opportunities for learners to practise their level of language through competing in Eisteddfods across the country, and here Lynne speaks more about her experience of doing this – including a small success in the National Eisteddfod! Ffugenw: Elbereth  Dysgwyr 132: Cystadleuaeth y Gadair Y Bont: rhwng… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : da iawn!

Rhoddodd cefnogwyr Japaneaidd dros dîm rygbi Cymru groeso cynnes anhygoel iddyn nhw. Aeth 15,000 o bobl i weld y tîm yn ymarfer. Canon nhw Hen Wlad Fy Nhadau a Chalon Lân yn Gymraeg hyd yn oed yn llenwi’r stadiwm gyda’u lleisiau. Da iawn! Dw i’n falch … Parhau i ddarllen

Morfablog: Bwydo Gwrthryfel yr Hydref

Neges ar dudalen Facebook Bwydo Gwrthryfel yr Hydref, sy’n cynnwys cyngor i’r rhai sy’n methu mynd i Lundain ar gyfer y protestiadau anafudd-dod di-drais mwya erioed (ymddiheuriadau am y cyfieithiad Google-aidd, bach yn brysur): Rydym yn dal i glywed pobl yn dweud eu bod am gymryd rhan mewn Gwrthryfel Difodiant ond nid ydynt yn gwybod …

Parhau i ddarllen “Bwydo Gwrthryfel yr Hydref”

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Mae rhaid i ni newid atebolrwydd

Mae fy mlogbostau diweddaraf wedi canolbwyntio ar gymhlethdod. Gofynnwyd cwestiwn ar Twitter ar ôl yr un diwethaf ar sut y gallwn weithio’n wahanol pan fod gwaith yn cael ei gomisiynu mewn modd traddodiadol.

Roeddwn i’n byw atebolrwydd am ychydig o flynyddoedd pan roeddwn i’n gweithio i gorff archwilio. Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio i sefydliad gwirfoddol a oedd yn rhoddwr grantiau a gosodwr o fesurau.

Nid yw cyllid y sector gwirfoddol yn addas at ei ddiben. Rhaid i sefydliadau weithio yn unol ag amcanion a osodwyd cyn i brosiect hyd yn oed ddechrau, a blynyddoedd cyn bod angen gwerthusiad. Gall y model weithio o fewn amgylcheddau ble mae achos ac effaith yn amlwg, ond mae’n llai tebygol o weithio ym meysydd cymhleth gwasanaethau cyhoeddus. Mae podlediad yr RSA gyda Duncan Green o Oxfam ar sut mae newid yn cymryd lle yn wych. Rwy’n hoffi’r cysyniad o Ostyngeiddrwydd sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth sy’n cael ei grybwyll wrth i Duncan trafod ei waith yn Afghanistan:

“Os ydych chi yn system Afghanistan, nid yw’n bosib rhagweld y dyfodol, dim ond y syniad mwyaf niwlog sydd gennych o’r hyn sy’n digwydd yn y fan a’r lle sydd gennych, a bydd hanes yn heriol. Mae hyn i’w weld yn allweddol i mi. Fel gweision cyhoeddus rydyn ni’n cael ein gwobrwyo am wybod beth yn union sy’n bod a beth sy’n orau i bobl, ac eto sut allwn ni wir ragweld beth sy’n digwydd ar lawr gwlad?”

https://medium.com/media/a92ac05fee8570f09100e1c3b2d9e079/href

Llywiodd y syniad yma fy mlogbost ar pam mae’n dda eich bod chi ddim yn gwybod popeth. Mae’r syniad bod gennym neu y dylai bod gennym wybodaeth absoliwt yn fy mhoeni i’n fawr.

https://medium.com/media/588dea9dce1020c0b31f1c47aa130cd8/href

Fforio’r byd newydd

Rhannodd Toby Lowe yr adroddiad gwych yma gan Collaborate CIC ac Ysgol Fusnes Newcastle ar ariannu, comisiynu a rheoli mewn amgylcheddau cymhleth.

Rwy’n hoffi’r enghreifftiau ymarferol a’r ffordd mae’r ddogfen yn ymchwilio i mewn i’r pwnc o safbwyntiau dynol, dysgu a systemau.

Safbwynt dynol

Mae rhaid i ni deilwra sut rydyn ni’n cefnogi ein gilydd achos rydyn ni gyd yn fodau dynol ac yn unigryw. Mae’r adroddiad yma’n ddiddorol achos dyw e ddim jyst yn cydnabod cymhlethdod o ran y ddarpariaeth o wasanaethau, ond hefyd o ran rheoli a gweithio gyda’n gilydd.

“Dylai’r rhai sydd gyda phŵer gymryd agwedd gydweithredol a hael tuag at arweinyddiaeth — gan feddwl am eu rôl fel rhan o gyfanwaith fwy. Mae croesawu cymhlethdod y byd yn bwydo i mewn i berthynas tecach rhwng cyllidwyr a chymunedau — un sy’n gwerthfawrogi dysgu a gwella, yn hytrach na phrofi; gofyn beth sy’n bwysig, nid beth yw’r broblem; a galluogi pobl i arwain yn lle bennu’r ateb.”

Dysgu

Rwy’n bendant yn cyd-fynd â’r modd y mae’r adroddiad yn gweld bod dysgu yn galluogi gwelliant. Rwy’n caru sut mae’n ffocysu ar ddysgu wrth i ni fynd, ac y dylai ni fod yn comisiynu dysgu yn hytrach na gwasanaethau penodol.

“Mae pobl sy’n gweithio fel hyn hefyd yn siarad am ddysgu ac addasu. Maent yn disgrifio sut mae’r gwaith i’r gwrthwyneb â darpariaeth gwasanaeth safonol, a’i fod yn hytrach yn broses ddysgu barhaus sy’n caniatáu iddynt addasu yn gyfunol â chryfderau ac anghenion pob unigolyn y maen nhw’n gweithio gyda.”

Systemau

Y peth allweddol ynghylch hyn i gyd yw’r ddealltwriaeth ein bod ni’n gweithio mewn systemau cymhleth, nid mewn gwagle. Rwy’n hoff iawn o sut mae hyn yn newid y berthynas rhwng sefydliadau o berthynas hierarchaidd i un sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth sy’n deillio o gyd-bwrpas a’r broses o gyd-ddylunio egwyddorion, gwerthoedd ac ymddygiadau.

“Mae cyllidwyr a chomisiynwyr yn galluogi ymateb systemig trwy ail-fframio eu perthnasoedd â darparwyr. Nid oes bellach ganddynt berthynas prynwr / darparwr, yn hytrach mae ganddynt gyfrifoldeb ar y cyd am greu’r amodau sy’n sicrhau canlyniadau gwell i bobl. Maen nhw’n stiwardiaid o system o ofal a chefnogaeth.”

“Mae punnoedd diamod yn werth mwy”

Mae yna rai enghreifftiau gwych o sut mae hyn wedi gweithio. Mae Plant Lloegr yn siarad am sut mae cyllid heb rag-amodau yn ei alluogi nhw i ymateb yn gyflym i newidiadau yn yr amgylchedd.

Dyw’r contract cymorth i oedolion sy’n agored i niwed yn Aberplym ddim yn nodi allbynnau na chanlyniadau. Yn hytrach, mae’n defnyddio egwyddorion cytunedig ar gyfer y gwaith. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth sy’n seiliedig ar ddysgu ar y cyd.

Mae adroddiadau yn seiliedig ar beth mae pobl eisiau a’r naratif ynghylch beth maen nhw’n anelu amdano. Mae’n symud pŵer ac atebolrwydd i le llawer iachach.

“Mae dull sy’n tynnu ar ddimensiynau lluosog yn gofyn am fwy na chyfrif yn unig. Mae darparu cyfrif ar gyfer eich gweithredoedd a’ch dyfarniadau — gan esbonio pam y gwnaethoch weithredu yn y modd y gwnaethoch — yn gofyn am wahanol fathau o ddata, ac yn aml mae angen deialog rhwng y rhai sy’n ceisio cyfrif, a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau. Nid yw’n aml yn bosib i atebolrwydd cael ei fodloni o fewn amgylcheddau cymhleth gan un set o bobl sy’n anfon set o ffigurau, neu set o flychau sydd wedi’u ticio, i set arall.”

Mae hwn yn cyd-fynd â blogbost Complex Wales ar y ffaith mai’r stori yw’r mesur.

Cynllunio yw dyfalu

Postiais fy nodau ar gyfer y flwyddyn sbel yn ôl. Roeddwn i’n gwybod bod y rhain yn dueddol o newid yn gyflym gan fod fy mywyd fy hun wedi newid cymaint. Fe wnaeth podlediad Basecamp ar pam fod cynllunio yn dyfalu taro cloch i mi.

Planning is Guessing

Mae Jason Fried yn siarad am werth gweithio mewn sbrintiau byr oherwydd bod cymaint o newidiadau ehangach mewn systemau. Mae’n ymddangos i mi ei fod yn wir amhosib i ni ddarogan y dyfodol, ond yn rhy aml mae dweud ein bod ni ddim yn gwybod rhywbeth yn cael ei weld fel gwendid. I mi, mae cyfaddef terfynau’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth yn arddangosiad gwych o gryfder.

Mae Sam Villis wedi sgwennu nodau wythnosol gwych ar syndrom y twyllwr, ac roeddwn i’n caru ymateb Louise Cato i’r trydar gwreiddiol.

@stamanfar Only the best people question themselves (I don’t know if this is true, but I DO know that some of the worst people never do it. I ALSO know that you are definitely some of the best people. This is fact) #FAKTS

 — @PretendCato

Rwy’n cyd-fynd a hyn yn llwyr. Mae unrhyw un sy’n meddwl bod nhw’n gwybod popeth yn twyllo’i hunain. Mae fe cymaint well i fod yn agored i ddysgu pethau newydd ac i gydnabod terfynau’ch dealltwriaeth.


Mae rhaid i ni newid atebolrwydd was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Y Blog Recordiau Cymraeg: Catalog Cynnar Sain.

Cafodd record gyntaf camni Sain ei rhyddhau ar y 9ed o Hydref 1969. “Dwr” gan Huw Jones oedd y record gyntaf honno, a Huw ei hun yn yn o sefydlwyr y cwmni, gyda Dafydd Iwan a Brian Morgan Edwards. Cafodd y record hir gyntaf, “Canu’r Werin”, ei chyhoeddi yn 1972. Wrth i’r nifer o recordiau […] Parhau i ddarllen