Archif Dyddiol: 4 Medi 2019

Y Twll: Anturiaethau sinema ym Melffast

Dyma ffilm ddogfen fach ysbrydoledig am lawer o bethau – am ddinas fach o’r enw Belffast (sydd â phoblogaeth llai na Chaerdydd), am ffilm fel celfyddyd, am ffilmiau penodol, am ryfel, am gartref, am ofn a gobaith, ac am fod yn ffan o ddiwylliant a diwylliannau. Mae’r gwneuthurwr ffilm Mark Cousins yn ymddangos o flaen … Parhau i ddarllen “Anturiaethau sinema ym Melffast”

The post Anturiaethau sinema ym Melffast appeared first on Y Twll.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : brenin

Ces i fy nharo yn gweld y llythyren dan sylw yn ddirgelwch Nyffryn Nantlle. Mae o’n debyg iawn i’r kanji (system ysgrifennu Japneg) sydd yn golygu brenin. Yr unig wahaniaeth ydy dalai llinell lorweddol uchaf y kanji yn fyrrach na’r un ar y gwaelod… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Trafod Tictacs -Jess Kavanagh

Colofn achlysurol yn holi rhai o sêr a hoelion wyth chwaraeon Bro Stiniog. Y tro yma, mi fuon ni’n holi Jess Kavanagh, asgellwr tîm rygbi merched Cymru. (Ers i’r gwreiddiol ymddangos yn Llafar Bro, mae Jess wedi cael swydd newydd efo Undeb Rygbi Cymru … Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Streic y Glowyr 1984-1985: Cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol

Ar 6 Mawrth 1984, cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol ei fwriad i dorri capasiti cynhyrchu 4 miliwn o dunelli o lo a 20,000 o swyddi o fewn blwyddyn. Aeth glowyr ledled y DU ar streic i achub y diwydiant a’u cymunedau. Bron flwyddyn yn ddiweddarach, daeth y streic i ben, a dychwelodd y glowyr i’r […] Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Dyw’r ffordd ni’n mesur gwelliant ddim yn gweithio

Pob blwyddyn mae yna un cysyniad sy’n achosi i mi weld y byd ychydig yn wahanol. Mae’n rhyfedd mai rhywbeth syml yw e fel arfer. Cywilydd oedd e llynedd, a pwrpas oedd e’r blwyddyn cyn hynny. Mesuriad yw e eleni. Mae blogbost whatsthepont ar waith Toby Lowe a chyfres #TSisTM Complex Wales wedi dod ag elfennau gwahanol at eu gilydd i mi.

Dechreuais weithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus yn ôl yn 2005. Roedd Llafur wedi bod mewn pŵer ers sbel ac roeddent wedi datganoli pŵer i Gymru. Fe wnaeth y Prif Weinidog Rhodri Morgan sôn am y dŵr coch clir a oedd yn llifo rhwng polisïau’r llywodraethau gwahanol yng Nghymru a Lloegr. Soniodd am gydweithredu yn hytrach na chystadlu. Ac eto, roeddwn i’n dal i weithio yn ôl Rheolaeth Cyhoeddus Newydd, sef dull Margaret Thatcher i ymgorffori meddylfryd y sector preifat o fewn y sector cyhoeddus. Roedd ffenestr Overton wedi symud. Roedd llwyddiant mewn gwasanaeth cyhoeddus yn edrych yr un peth a llwyddiant o fewn byd busnes. Roedd unrhyw beth arall yn annychmygol. Newidiodd Neo-Ryddfrydiaeth y baramedrau ynghylch beth roedd ‘da’ yn edrych fel. Model y sector preifat oedd y sail ar gyfer pob wasanaeth, hyd yn oed oes nad oeddynt yn cael eu preifateiddio’n uniongyrchol. Ers hynny, mae rhagor o wasanaethau wedi cael eu preifateiddio, i’r pwynt ble mae’n bosib gwneud elw o ddiogelu plant. Mae gan y New Economics Foundation cyfres wych o bodlediadau ar Neo-Ryddfrydiaeth sy’n gefndir gwych i Reolaeth Cyhoeddus Newydd. Mae James Meadway yn dyfynnu Thatcher ynddynt:

“‘Economeg yw’r dull yn unig, y nod yw newid eneidiau pobl.’ Roedd hon yn ymgyrch i drawsnewid yr economi a chymdeithas yn debyg i’r pethau roedd hi’n credu ynddynt.”

O hyn ymlaen byddai’r sector cyhoeddus wedi’i seilio ar arbedion maint, ble y gellir tynnu llinell glir rhwng achos ac effaith. Felly dim byd tebyg i’r amgylchedd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ynddo.

Hyd yn oed yng Nghymru sosialaidd roeddwn i’n cyfrif allbynnau di-bwys. Dyna’r norm. Doeddwn i byth wedi gweithio mewn amgylchedd ble doedd mesuriant ddim fel y sector preifat nes i mi ymuno â Good Practice WAO. Ni oedd yr eithriad a wnaeth brofi’r rheol. Roedden ni’n mesur y gwahaniaeth roedden ni’n gwneud, ac roeddwn i’n ddigon ffodus i fod yn rhan o dîm a oedd yn gwneud gwahaniaeth. Yna ymunais â Research in Practice, ble roedd ein model aelodaeth yn golygu fy mod i’n rhydd o fesur yn llwyr.

Falle byddai person sinigol yn dweud bod y system wedi’i chynllunio fel bod gwasanaethau cyhoeddus yn methu achos dywedir ein bod ni’n trysori beth ni’n mesur. Pan mae sefydliad yn gosod targed mae ganddyn nhw bwrpas newydd sydd y tu hwnt i’w nod gwreiddiol. Mae hyn yn meddwl ein bod ni’n mesur ein gwaith yn erbyn pethau sy’n hawdd i’w fesur ac sy’n cyfleu dim o’r gwerth ni’n creu. O ganlyniad mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio i bwrpas newydd sy’n aneffeithiol ac yn gwastraffus. Mae hyn yn golygu dydyn ni ddim yn gallu darparu yr hyn y mae pobl wir eisiau.

Oes yna dewis arall?

Roedd e’n sbel cyn i mi sylweddoli bod mesur yn broblem achos doeddwn i ddim yn gallu meddwl am ffordd arall o weithio. Mae’n anodd meddwl yn wahanol pan rydych chi dim ond yn gwybod un ffordd o weithio. Mae’r meddylfryd sy’n sail i lywodraethu gwasanaeth cyhoeddus wedi heneiddio ac mae’n hen bryd iddo newid. Nid yw’n briodol i wasanaethau cyhoeddus weithio o dan arferion gorchymyn a rheoli Tayloriaeth, a gafodd ei ddatblygu yn yr 1880au ac sy’n dal i fod yn sail i reolaeth heddiw.

Right now, your company has 21st-century Internet-enabled business processes, mid-20th-century management processes, all built atop 19th-century management principles.” -Gary Hamel

 — @hemppah

Felly os dyw mesuriad llinol ddim yn gallu gweithio o fewn amgylchedd cymhleth, beth all? Mae gan Complex Wales blogbost wych ar y ffaith mai’r stori yw’r mesur:

“Dyma pryd rwy’n awgrymu ddefnyddio stori i gynrychioli rhywbeth — pan mae’r cyd-destun yn fwy arwyddocaol na phriodoleddau’r peth ei hun. Mae’r arwyddocâd hyn hefyd yn esbonio pam mae dulliau dadansoddol traddodiadol o feintioli priodoleddau yn annigonol o fewn systemau byw cymhleth. Pan mae’n ymwneud â’r cyd-destun, y stori yw’r mesur.”

Felly sut mae gwneud hyn?

Roeddwn i’n digon ffodus i recordio podlediad gyda Dez Holmes a’r Athro Danielle Turney ar gyfer Research in Practice. Mae’n werth gwrando arno i ddeall y pwysigrwydd o weithio’n agored ac yn dryloyw er mwyn cael atebolrwydd mewn systemau cymhleth.

https://medium.com/media/c14f7c153ba731644a0a89b2c06580e9/href

Mae RiPfA hefyd wedi cynhyrchu gweminar agored gwych ar Gofnodi sgyrsiau sy’n seiliedig ar gryfderau gyda Gerry Nosowska sy’n edrych ar yr agweddau gwahanol o stori sydd eisiau dal. Mae’n werth edrych ar gyhoeddiad RiPfA ar Gofnodi Da hefyd. Rwy’n caru sut mae’n symud recordio i ffwrdd o fod yn broses reoli i mewn i fodd o wella bywydau pobl. Ar ddiwedd y dydd, dyma beth rydyn ni gyd eisiau gwneud.

Mae rhaid cwestiynu beth oedd yn ddiamheuol o’r blaen. Ydy targedau a mesur beth sydd ddim yn gallu cael ei fesur yn helpu’r bobl sy’n cyrchu gwasanaethau? Mae gwasanaethau yn cynhyrchu gwastraff mawr pan rydyn ni’n gweithio fel hyn. Os allwn ni newid ein meddylfryd fel mai’r stori yw’r mesur, gallwn darparu beth y mae pobl wir eisiau a wir angen, a bydd eu bywydau nhw’n well o lawer.


Dyw’r ffordd ni’n mesur gwelliant ddim yn gweithio was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen