Archif Dyddiol: 17 Medi 2019

Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Lynne Blanchfield: Cystadlu mewn Eisteddfodau i Ddysgwyr – Rhowch Gynnig Arni! / Competing in Learners’ Eisteddfods – Give it a go!

Mae llawer o gyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu lefel o’r iaith trwy gystadlu mewn Eisteddfodau ar draws y wlad, a dyma Lynne yn siarad mwy am ei phrofiad o wneud hyn – gan gynnwys llwyddiant bach yn yr Eisteddfod Genedlaethol. There are lots of opportunities for learners to practise their level of language through competing in Eisteddfods across the country, and here Lynne speaks more about her experience of doing this – including a small success in the National Eisteddfod! Ffugenw: Elbereth  Dysgwyr 132: Cystadleuaeth y Gadair Y Bont: rhwng… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : da iawn!

Rhoddodd cefnogwyr Japaneaidd dros dîm rygbi Cymru groeso cynnes anhygoel iddyn nhw. Aeth 15,000 o bobl i weld y tîm yn ymarfer. Canon nhw Hen Wlad Fy Nhadau a Chalon Lân yn Gymraeg hyd yn oed yn llenwi’r stadiwm gyda’u lleisiau. Da iawn! Dw i’n falch … Parhau i ddarllen

Morfablog: Bwydo Gwrthryfel yr Hydref

Neges ar dudalen Facebook Bwydo Gwrthryfel yr Hydref, sy’n cynnwys cyngor i’r rhai sy’n methu mynd i Lundain ar gyfer y protestiadau anafudd-dod di-drais mwya erioed (ymddiheuriadau am y cyfieithiad Google-aidd, bach yn brysur): Rydym yn dal i glywed pobl yn dweud eu bod am gymryd rhan mewn Gwrthryfel Difodiant ond nid ydynt yn gwybod …

Parhau i ddarllen “Bwydo Gwrthryfel yr Hydref”

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Mae rhaid i ni newid atebolrwydd

Mae fy mlogbostau diweddaraf wedi canolbwyntio ar gymhlethdod. Gofynnwyd cwestiwn ar Twitter ar ôl yr un diwethaf ar sut y gallwn weithio’n wahanol pan fod gwaith yn cael ei gomisiynu mewn modd traddodiadol.

Roeddwn i’n byw atebolrwydd am ychydig o flynyddoedd pan roeddwn i’n gweithio i gorff archwilio. Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio i sefydliad gwirfoddol a oedd yn rhoddwr grantiau a gosodwr o fesurau.

Nid yw cyllid y sector gwirfoddol yn addas at ei ddiben. Rhaid i sefydliadau weithio yn unol ag amcanion a osodwyd cyn i brosiect hyd yn oed ddechrau, a blynyddoedd cyn bod angen gwerthusiad. Gall y model weithio o fewn amgylcheddau ble mae achos ac effaith yn amlwg, ond mae’n llai tebygol o weithio ym meysydd cymhleth gwasanaethau cyhoeddus. Mae podlediad yr RSA gyda Duncan Green o Oxfam ar sut mae newid yn cymryd lle yn wych. Rwy’n hoffi’r cysyniad o Ostyngeiddrwydd sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth sy’n cael ei grybwyll wrth i Duncan trafod ei waith yn Afghanistan:

“Os ydych chi yn system Afghanistan, nid yw’n bosib rhagweld y dyfodol, dim ond y syniad mwyaf niwlog sydd gennych o’r hyn sy’n digwydd yn y fan a’r lle sydd gennych, a bydd hanes yn heriol. Mae hyn i’w weld yn allweddol i mi. Fel gweision cyhoeddus rydyn ni’n cael ein gwobrwyo am wybod beth yn union sy’n bod a beth sy’n orau i bobl, ac eto sut allwn ni wir ragweld beth sy’n digwydd ar lawr gwlad?”

https://medium.com/media/a92ac05fee8570f09100e1c3b2d9e079/href

Llywiodd y syniad yma fy mlogbost ar pam mae’n dda eich bod chi ddim yn gwybod popeth. Mae’r syniad bod gennym neu y dylai bod gennym wybodaeth absoliwt yn fy mhoeni i’n fawr.

https://medium.com/media/588dea9dce1020c0b31f1c47aa130cd8/href

Fforio’r byd newydd

Rhannodd Toby Lowe yr adroddiad gwych yma gan Collaborate CIC ac Ysgol Fusnes Newcastle ar ariannu, comisiynu a rheoli mewn amgylcheddau cymhleth.

Rwy’n hoffi’r enghreifftiau ymarferol a’r ffordd mae’r ddogfen yn ymchwilio i mewn i’r pwnc o safbwyntiau dynol, dysgu a systemau.

Safbwynt dynol

Mae rhaid i ni deilwra sut rydyn ni’n cefnogi ein gilydd achos rydyn ni gyd yn fodau dynol ac yn unigryw. Mae’r adroddiad yma’n ddiddorol achos dyw e ddim jyst yn cydnabod cymhlethdod o ran y ddarpariaeth o wasanaethau, ond hefyd o ran rheoli a gweithio gyda’n gilydd.

“Dylai’r rhai sydd gyda phŵer gymryd agwedd gydweithredol a hael tuag at arweinyddiaeth — gan feddwl am eu rôl fel rhan o gyfanwaith fwy. Mae croesawu cymhlethdod y byd yn bwydo i mewn i berthynas tecach rhwng cyllidwyr a chymunedau — un sy’n gwerthfawrogi dysgu a gwella, yn hytrach na phrofi; gofyn beth sy’n bwysig, nid beth yw’r broblem; a galluogi pobl i arwain yn lle bennu’r ateb.”

Dysgu

Rwy’n bendant yn cyd-fynd â’r modd y mae’r adroddiad yn gweld bod dysgu yn galluogi gwelliant. Rwy’n caru sut mae’n ffocysu ar ddysgu wrth i ni fynd, ac y dylai ni fod yn comisiynu dysgu yn hytrach na gwasanaethau penodol.

“Mae pobl sy’n gweithio fel hyn hefyd yn siarad am ddysgu ac addasu. Maent yn disgrifio sut mae’r gwaith i’r gwrthwyneb â darpariaeth gwasanaeth safonol, a’i fod yn hytrach yn broses ddysgu barhaus sy’n caniatáu iddynt addasu yn gyfunol â chryfderau ac anghenion pob unigolyn y maen nhw’n gweithio gyda.”

Systemau

Y peth allweddol ynghylch hyn i gyd yw’r ddealltwriaeth ein bod ni’n gweithio mewn systemau cymhleth, nid mewn gwagle. Rwy’n hoff iawn o sut mae hyn yn newid y berthynas rhwng sefydliadau o berthynas hierarchaidd i un sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth sy’n deillio o gyd-bwrpas a’r broses o gyd-ddylunio egwyddorion, gwerthoedd ac ymddygiadau.

“Mae cyllidwyr a chomisiynwyr yn galluogi ymateb systemig trwy ail-fframio eu perthnasoedd â darparwyr. Nid oes bellach ganddynt berthynas prynwr / darparwr, yn hytrach mae ganddynt gyfrifoldeb ar y cyd am greu’r amodau sy’n sicrhau canlyniadau gwell i bobl. Maen nhw’n stiwardiaid o system o ofal a chefnogaeth.”

“Mae punnoedd diamod yn werth mwy”

Mae yna rai enghreifftiau gwych o sut mae hyn wedi gweithio. Mae Plant Lloegr yn siarad am sut mae cyllid heb rag-amodau yn ei alluogi nhw i ymateb yn gyflym i newidiadau yn yr amgylchedd.

Dyw’r contract cymorth i oedolion sy’n agored i niwed yn Aberplym ddim yn nodi allbynnau na chanlyniadau. Yn hytrach, mae’n defnyddio egwyddorion cytunedig ar gyfer y gwaith. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth sy’n seiliedig ar ddysgu ar y cyd.

Mae adroddiadau yn seiliedig ar beth mae pobl eisiau a’r naratif ynghylch beth maen nhw’n anelu amdano. Mae’n symud pŵer ac atebolrwydd i le llawer iachach.

“Mae dull sy’n tynnu ar ddimensiynau lluosog yn gofyn am fwy na chyfrif yn unig. Mae darparu cyfrif ar gyfer eich gweithredoedd a’ch dyfarniadau — gan esbonio pam y gwnaethoch weithredu yn y modd y gwnaethoch — yn gofyn am wahanol fathau o ddata, ac yn aml mae angen deialog rhwng y rhai sy’n ceisio cyfrif, a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau. Nid yw’n aml yn bosib i atebolrwydd cael ei fodloni o fewn amgylcheddau cymhleth gan un set o bobl sy’n anfon set o ffigurau, neu set o flychau sydd wedi’u ticio, i set arall.”

Mae hwn yn cyd-fynd â blogbost Complex Wales ar y ffaith mai’r stori yw’r mesur.

Cynllunio yw dyfalu

Postiais fy nodau ar gyfer y flwyddyn sbel yn ôl. Roeddwn i’n gwybod bod y rhain yn dueddol o newid yn gyflym gan fod fy mywyd fy hun wedi newid cymaint. Fe wnaeth podlediad Basecamp ar pam fod cynllunio yn dyfalu taro cloch i mi.

Planning is Guessing

Mae Jason Fried yn siarad am werth gweithio mewn sbrintiau byr oherwydd bod cymaint o newidiadau ehangach mewn systemau. Mae’n ymddangos i mi ei fod yn wir amhosib i ni ddarogan y dyfodol, ond yn rhy aml mae dweud ein bod ni ddim yn gwybod rhywbeth yn cael ei weld fel gwendid. I mi, mae cyfaddef terfynau’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth yn arddangosiad gwych o gryfder.

Mae Sam Villis wedi sgwennu nodau wythnosol gwych ar syndrom y twyllwr, ac roeddwn i’n caru ymateb Louise Cato i’r trydar gwreiddiol.

@stamanfar Only the best people question themselves (I don’t know if this is true, but I DO know that some of the worst people never do it. I ALSO know that you are definitely some of the best people. This is fact) #FAKTS

 — @PretendCato

Rwy’n cyd-fynd a hyn yn llwyr. Mae unrhyw un sy’n meddwl bod nhw’n gwybod popeth yn twyllo’i hunain. Mae fe cymaint well i fod yn agored i ddysgu pethau newydd ac i gydnabod terfynau’ch dealltwriaeth.


Mae rhaid i ni newid atebolrwydd was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen