Archif Dyddiol: 2 Hydref 2019

fel y moroedd : samurai affricanaidd

Dw i newydd orffen African Samurai, llyfr gan Thomas Lockley sydd yn arbenigwr yn y pwnc – yr hanes am ddyn o Affrica a aeth i Japan fel gwas offeiriad Jeswit yn yr 16eg ganrif; gwasanaethu i Oda Nobugana wedyn, un o’r arglwyddi ffiwdal mwyaf nerthol y… Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: A yw gwasanaethau’n wael i bobl?

https://medium.com/media/fccff9584d033408e0eb6c9e4bfbe063/href

Rydw i wedi bod yn cadw llygaid mas am wybodaeth ar Drefnu Cymunedol ers sbel gan ei fod yn cyd-fynd â gweithio gyda chryfderau pobl ac adeiladu ar allu cymunedau.

Rhannodd Benjamin P. Taylor bapur diddorol o’r enw ‘Mae gwasanaethau’n wael i bobl: Rydych chi’n naill ai’n ddinesydd neu’n gleient’ gan John McKnight. Mae’r teitl yn ddatganiad clir, ac mae’n gyfleu naws y darn.

Pŵer a hierarchaeth

Mae yna bwyntiau gwych o fewn yr erthygl ar sut y gall strwythur presennol gwasanaethau gymryd pŵer i ffwrdd o gymunedau:

“Mae angen cleientiaid ar systemau gwasanaeth a dinasyddion ar gyfer sefydliadau cymunedol. Dyna pam yn aml y mae systemau gwasanaeth yn wrthgyferbyniol i gymunedau pwerus. Mae systemau’n hierarchaidd, nid yn ddemocrataidd. Maen nhw’n harneisio pŵer pobl i weithredu cynllun awdurdod canolog.”

Rwy’n hoffi sut mae trefnu cymunedol yn lleoli gwybodaeth gymunedol wrth wraidd wybodaeth yn ei chyfanrwydd. Dyma beth rydyn ni’n ceisio gwneud yn Research in Practice gyda’n model ar arfer sydd wedi’i lywio gan dystiolaeth.

Mae yna debygrwydd rhwng trefnu cymunedol ac Arweinyddiaeth Gwas. Mae’r ddau yn gofyn sut y gallwn ni wneud pethau i weithio’n well i chi, yn lle cynnig opsiynau sy’n seiliedig ar strwythur sefydliad. Mae Trefnu Cymunedol yn gwrthdroi’r hierarchaeth clasurol fel y bod y rhai sy’n fwyaf agos at y sefyllfa yn gallu gweithredu.

“Mae’r model proffesiynol yn berthynas israddol, neu berthynas dominyddol. Mae systemau gwasanaeth yn gweithredu ar y rhagdybiaeth bod gan y gweithiwr proffesiynol arbenigedd a bod gan y cleient broblem. Mae pŵer pobl i ddatrys problemau o fewn cymdogaeth yn ddibwys. Mae’r syniad proffesiynol yma i’r gwrthwyneb â’r hyn y mae Trefnu Cymunedol yn ceisio’i wneud.”

Mae’r llinyn yma ar Twitter (neu’r erthygl yma ar Medium) gan Danny Buerkli yn dda iawn ar ble y mae angen i ni fynd (HT Kelly Doonan), yn enwedig y trydar yma.

And instead of hierarchy we choose subsidiarity – instead of assuming that power needs to sit at the centre of government and at the top of organisations we assume the opposite.

 — @dannybuerkli

Ydyn ni’n gwneud bywydau pobl yn waeth?

Rydw i’n cytuno gyda lot o’r erthygl, yn enwedig y problemau sy’n dod o ganolbwyntio ar wasanaeth yn hytrach na phobl. Mae Paul Taylor wedi ysgrifennu darn gwych ar ddarfodiad a sut mae gwasanaethau cyhoeddus wedi’i chynllunio fel bod nhw ar gael am byth. Rwy’n caru’r cysyniad o ddarparu gwasanaethau i’r pwynt ble mae’n ddiangen.

“Yn hytrach na chynllunio fel bod gwasanaethau o gwmpas am byth, beth am ddylunio ar gyfer yr amodau ble y byddan nhw’n stopio bodoli? Os pe bawn yn cynllunio ar gyfer darfodiad, efallai y gwelwn sector cymdeithasol gwahanol iawn. Sector ble nad ydym yn clodfori arloesedd yn ddiddiwedd, ond yn hytrach yn ymarfer arloesedd yn ddiddiwedd.

Wedi dweud hyn, mae gen i broblemau gyda darn McKnight hefyd. Trwy drafod gwasanaethau yn y modd yma y mae’n anwybyddu materion systemig, sy’n eironig gan mai dyma’r sefyllfa ble mae llywodraeth yn gryfaf. Mae McKnight yn anwybyddu cryfder gwasanaethau yn yr un modd ag y gall gwasanaethau fethu cryfderau pobl a chymunedau.

Mae gwasanaethau yn aml ar eu gorau pan maen nhw’n delio ag anghydraddoldeb. Os petawn ni’n digomisiynu pob gwasanaeth, y byddai’n cael effaith wahanol iawn yn yr ardaloedd cyfoethocaf a thlotaf. Mae llymder wedi gyrru hyn i’r pwynt ble mae gwasanaethau wedi torri nôl bron yn gyfan gwbl, ond dyw hyn ddim wedi gwella bywydau pobl.

Roeddwn i’n gweithio o fewn maes ymgysylltu pan gyhoeddwyd y Gymdeithas Fawr. Cafodd unrhyw optimistiaeth gychwynnol ei ddiffodd oherwydd y diffyg adnoddau. Fe wnes i ddod ar draws lot o sinigiaeth o fewn gymunedau a oedd yn teimlo bod nhw’n cael eu gofyn i wneud pethau doedd ganddyn nhw ddim yr amser i’w gwneud, a doedd pobl o fewn cymunedau cyfoethocach ddim yn cael ei gofyn i wneud y gwaith yma.

Felly beth ddylen ni gwneud?

Mae’n ymddangos i mi fod datganiadau sy’n gwrthod dull penodol ym mhob amgylchiad yn anwybyddu cymhlethdod. Nid oes un dull a all weithio i bawb ym mhob cymuned. Mae’n allweddol felly i weithio i ddeall beth sy’n gweithio o fewn cyd-destun y system.

Roeddwn i’n ddigon ffodus i rannu siwrne car gyda Simon Pickthall sbel yn ôl. Fe wnes i fanteisio ar y cyfle i fynd i’r afael gyda Dull Vanguard. Rhannodd Simon fodel gwirio ddefnyddiol gyda mi sy’n dechrau o safbwynt unigolyn.

Y model gwirio: 1. Pwrpas. 2. Galw. 3. Gallu. 4. Llif. 5. Amodau system. 6. Meddwl.

“Mae ailgynllunio gwasanaeth yn brawf o ragdybiaeth, yn hytrach na chamu i mewn i’r anhysbys. Mae’n naid o ffaith yn lle naid o ffydd. Pan mae arweinwyr yn ymgymryd â’r cam astudio yma, maen nhw’n gweld y materion allweddol sydd angen mynd i’r afael gyda, ac mae’n cynnu awydd i newid y system. Yn gyflym iawn byddwch yn deall y system, a byddwch yn adeiladu cynllun radical ar gyfer newid meddylfryd, ac felly ailgynllunio gwasanaethau.”

Rwy’n caru’r cysyniad o ddysgu normadol, ac rydw i eisiau edrych arno hwn eto yn y dyfodol.

Rydw i hefyd wrth fy modd â’r ffocws ar ddysgu a deall. Mae’n teimlo fel bod yna ddiffyg dealltwriaeth yn y byd ehangach, ond eto a ydym yn treulio digon o amser ar ddeall sut mae gwasanaethau’n edrych ac yn teimlo? Mae’n ymddangos bod y cam o ddeall yn llawer rhy fyr. Byddai’r ffiniau o welliant yn llawer ehangach petawn ni’n gallu agor ein meddyliau i gael gwir ddealltwriaeth o beth sy’n bosibl. Beth pe bai dysgu’n ganolog i’r ddarpariaeth o wasanaethau yn lle ymarfer sy’n cymryd lle pob nawr ac yn y man? Byddai hyn yn meddwl y byddai ni mewn sefyllfa llawer gwell i ddarparu gwasanaethau rhagorol ac effeithiol.


A yw gwasanaethau’n wael i bobl? was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen