Archif Dyddiol: 3 Hydref 2019

Y Blog Recordiau Cymraeg: Labeli Recordiau Cymraeg

‘Dwi wedi bod wrthi’n hel rhestr o labeli recordiau Cymraeg, ac wedi synnu braidd faint ohonynt sydd yna. Mae’n siwr y bod yna dipyn mwy na hyn wrth gwrs. Dyma ond y rhai dwi’n wybod amadanynt! Mae nifer o gwmniau Eingl-Americanaidd yn y rhestr yma, gan eu bod wedi rhyddhau nifer o recordiau, casetiau a […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Pedwar cwestiwn

Mae’n debyg y dylid dweud rhywbeth am ferw San Steffan, cynllun diweddaraf Boris, y ‘garreg sa’ draw’ (sef y Northern Ireland Backstop) a phethau felly. Ond heddiw, peth sy’n nes atom ac yn arswydus o bwysig. Dyfynnaf grynodeb GOLWG: ‘Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am unigolyn neu sefydliad i gynnal asesiad o beth fyddai effeithiau […] Parhau i ddarllen

meddwl.org: Fideos o’r digwyddiad ‘Gyrru Drwy Storom: Pwysigrwydd trafod iechyd meddwl’

Clipiau fideo o’r digwyddiad a gynhaliwyd gan y Lolfa yn Eisteddfod 2019 gydag Alaw Griffiths, Sophie Ann Hughes, Dr Mair Edwards, Llŷr Huws Gruffydd a Hywel Griffiths.

Rhagor o fideos i ddod…

FIDEOS: Digwyddiad ‘Perfformio: ydi o’n dd… Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Gwaed Morgannwg: Cofnodion Iechyd a Llesiant yng Nghasgliadau’r Diwydiant Glo – Cofrestrau Damweiniau ac Iawndal

Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : jane eyre

Des i ar hyd i fersiwn gorau’r ffilm yn seiliedig ar Jane Eyre ar ddamwain. Cyfres deledu ydy hi a dweud a gwir, ac mae hi braidd yn hen heb dechnoleg fodern. Ac eto, doeddwn i erioed wedi gweld yr actorion sydd mwy addas i’r cymeriadau; mae’r actio’n … Parhau i ddarllen

Y busnes rhedeg 'ma: Hanner Marathon Caerdydd – tips i’r tro cyntaf

Hanner Marathon Caerdydd ydy ras fwyaf Cymru, a bydd llwyth o bobl yn ei rhedeg am y tro cyntaf ddydd Sul. Dyma ambel ddarn o gyngor i’r rhai sydd wrthi. Parhau i ddarllen