-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
Dewis Mis
Chwilio
Canlyniadau Chwilio: plaid
Blog Glyn Adda: Tyrcwn call
Echdoe fe bleidleisiodd Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn erbyn cael etholiad cyn y Nadolig. Am unwaith dyma dyrcwn call. Ond y ffordd arall yr aeth y mwyafrif y tro hwn. Ni ddoed â’r dyddiad ymlaen ddigon i blesio’r Democratiaid Rhyddfrydol, oedd yn poeni y byddai myfyrwyr y colegau … mewn etholaethau arbennig … yn dechrau […] Parhau i ddarllen
Blog Glyn Adda: Ar y naw ?
Rydym wedi cael un gynghrair anfad yn ddiweddar, sef honno rhwng Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn isetholiad Brycheiniog a Maesyfed. A heddiw dyma sôn am un arall. Y Democratiaid a’r SNP y tro hwn yn uno i alw am ddwyn etholiad cyffredinol arfaethedig Boris ymlaen o’r deuddegfed o Ragfyr i’r nawfed. Pam y tridiau […] Parhau i ddarllen
Dyddlyfr y Bachan Main: Dyddlyfr y Bachan Main 2019-10-16 12:02:00
BARNWYR SBAEN YN CARCHARU ANNIBYNIAETHWYR O GATALANIAIDHeb ysgrifennu ers dros flwyddyn a hanner. Felly dyma ddalen fach o lyfr nodiadau’r Bachan Main.Dydd Llun y bedwerydd ar ddeg o fis HydrefF9844Am ryw naw o’r gloch cyhoeddwyd y dedfrydau i’r Catala… Parhau i ddarllen
Blog Glyn Adda: Pedwar cwestiwn
Mae’n debyg y dylid dweud rhywbeth am ferw San Steffan, cynllun diweddaraf Boris, y ‘garreg sa’ draw’ (sef y Northern Ireland Backstop) a phethau felly. Ond heddiw, peth sy’n nes atom ac yn arswydus o bwysig. Dyfynnaf grynodeb GOLWG: ‘Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am unigolyn neu sefydliad i gynnal asesiad o beth fyddai effeithiau […] Parhau i ddarllen
Plaid Cymru Cangen Llundain London Branch: Cyfarfod Cangen Hydref 2019 October Meeting
Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar Nos Iau 10ed Hydref 2019, 19:30 yn y bar, Canolfan Cymry Llundain, Heol Ysbyty Llwyd. Gyda’r sefyllfa weleidyddol sydd ohoni, bydd llawer i’w drafod. Our next meeting will be held on Thursday 10th October 2019, 19:30 in the bar, London Welsh Centre Gray’s … Continue reading → Parhau i ddarllen