Archif Dyddiol: 11 Ionawr 2020

shitclic: Yr Alban a ni

Ah, Alban ddewr! Pob parch, ond dwi di laru efo chdi. Wedi cael llond bol ar fwrw golwg eiddigeddus arnat o’r parthau hyn. Ie, Alban pleidiol i Ewrop, gyda phrif weinidog arlywyddol sydd ben ag ysgwydd uwchlaw unrhyw wleidydd arall yn y tipyn ynysoedd … Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Llys Dorfil -cerrig a saethau a roc-a-rôl

Ail ran crynodeb Bill a Mary Jones o’r chwilio a chloddio yng Nghwmbowydd.

Roedd y tŷ crwn a ddarganfuwyd yn rhagflaenu Llys Dorfil. Nid yw’r gwir oedran wedi’i sefydlu hyd yma, ond mae casgliad o samplau wedi’u cadw at y diben hwn.

Wrth i’r gwaith a… Parhau i ddarllen

meddwl.org: Ffion Dafis eisiau sbarduno sgwrs agored am alcohol : Golwg360

Mae Ffion Dafis wedi ffilmio rhaglen ddogfen DRYCH: Ffion Dafis – Un Bach Arall? er mwyn ceisio sbarduno sgwrs agored am alcohol, gan ofyn a ydy perthynas y Cymry gydag alcohol yn un iach? Hefyd ar y rhaglen bydd y cyfarwyddwr theatr Iola Ynyr yn trafod ei phrofiad o fod yn alcoholig. “Y munud wnes i […]

The post Ffion Dafis eisiau sbarduno sgwrs agored am alcohol : Golwg360 appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

meddwl.org: Ffermwyr Ifanc Cymru yn rhyddhau sengl er mwyn codi ymwybyddiaeth dros iechyd meddwl

Rydyn ni’n falch iawn i gyhoeddi bod Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru wedi penderfynu recordio sengl elusennol ar gyfer Dydd Miwsig Cymru gyda chyfraniad o’r elw yn mynd i meddwl.org! Dyma ran o erthygl am y stori o wefan lleol.net: Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn rhyddhau sengl a fydd yn fersiwn o’r gân ‘Bydd Wych’ […]

The post Ffermwyr Ifanc Cymru yn rhyddhau sengl er mwyn codi ymwybyddiaeth dros iechyd meddwl appeared first on meddwl.org.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : gwledd

Cyrhaeddodd fy drydedd ferch ei fflat yn Tokyo yn ddiogel, a chael croeso cynnes gan ei chwaer hynaf a’i gŵr sydd wedi paratoi pryd o fwyd blasus iddi. Roedd yn wledd wedi iddi oroesi’r siwrnai hir gyda cheirch wedi’i rostio a sauerkraut. Mae’n rhyfedd… Parhau i ddarllen