Canlyniadau Chwilio: cacen

Paned a Chacen: Cacen Blodau’r Ysgaw heb glwten

Mae bywyd wedi bod yn eithaf prysur yn ddiweddar. Rhwng magu plentyn, ysgrifennu llyfr arall (Blasus) a gweithio yn San Steffan yn un o’r cyfnodau mwyaf gwallgof yn ein gwleidyddiaeth, mae wedi bod yn anodd cadw’r ddysgl yn wastad ar adegau. Ond ar droad blwyddyn newydd dwi wedi gwneud adduned i fi fy hun i […] Parhau i ddarllen

Bach o bopeth BR: Cacen Calabrisella, Caerdydd

Cacen Calabrisella, Caerdydd Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cacen benblwydd priodas

Wrth baratoi cacen benblwydd priodas, fe wnes i gamgymeriad ofnadwy. Dechreuais gymysgu siwgr ac wyau, ac ychwanegu sydd lemon. Yna gwelais y menyn ar y cownter! Dylwn i fod wedi cymysgu siwgr a menyn gyntaf wrth gwrs. Roedd yn rhy hwyr. Roedd gen i gymysgedd wedi’i wahanu’n llwyr. Mae’r gacen newydd orffen ac yn oeri ar y bwrdd. Gobeithio y bydd hi’n blasu’n iawn. Rysáit newydd gan hogyn o Ffrainc ydy hon. O leiaf roeddwn i’n llwyddo i ddeall faint o fenyn, siwgr a blawd byddai angen. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cacen afal gan peiriant bara

Doeddwn i erioed wedi defnyddio’n peiriant bara ni ond i wneud bara burum tan yn ddiweddar. Roeddwn i’n gwybod fod o’n medru gwneud pethau eraill ond doeddwn i ddim eisiau trafferthu. Penderfynais grasu bara zucchini ddyddiau’n ôl fodd bynnag, ac roedd o’n flasus iawn a hynod o syml heb gynhesu’r tŷ yn y tywydd cynnes. Heddiw fe wnes i gacen afal. Mae o’n dda iawn hefyd. Dw i eisiau gwneud jam yn y peiriant gwych y tro nesaf. (Mae o’n medru gwneud llawer o bethau a dweud y gwir!) Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cacen afal

Fe wnes i grasu cacen afal ac iogwrt. Mae yna nifer o fideos sydd yn dangos dulliau hawdd. Y tro hwn roeddwn i’n gwylio fideos Ffrangeg. Defnyddir iogwrt mewn cwpan bach, ac mae’r cwpan yn cael ei ddefnyddio i fesur y cynhwysion eraill fel blawd, siwgr… Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen Ben-blwydd Lemon a Mafon

Dydych chi byth yn rhy hen i gael cacen ben-blwydd, a hyd yn oed heb barti roedd rhaid gwneud rhywbeth i ddathlu pen-blwydd fy ngŵr yn ddiweddar. A pan ofynnais i’r gŵr Pa fath o gacen yr oedd o eisiau eleni, cacen lemon drizzle meddai. Digon teg, mae’n dipyn o ffefryn gen i hefyd. Ond […] Parhau i ddarllen

: Cacen Ben-blwydd Lemon a Mafon

Dydych chi byth yn rhy hen i gael cacen ben-blwydd, a hyd yn oed heb barti roedd rhaid gwneud rhywbeth i ddathlu pen-blwydd fy ngŵr yn ddiweddar. A pan ofynnais i’r gŵr Pa fath o gacen yr oedd o eisiau eleni, cacen lemon drizzle meddai. Digon teg, mae’n dipyn o ffefryn gen i hefyd. Ond […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen foron a courgette

Does dim dwywaith bod y Gwanwyn wedi cyrraedd. Mae’r haul wedi bod yn tywynnu ers dyddiau nawr a dwi hyd yn oed wedi cyfnewid fy nhrainers am flip flops unwaith. Ac wrth i’r tymhorau newid yna hefyd mae’r hyn dwi’n ei goginio, a’r awydd nawr i bobi cacennau sy’n gwneud y mwyaf o gynhaeaf hael […] Parhau i ddarllen

: Cacen foron a courgette

Does dim dwywaith bod y Gwanwyn wedi cyrraedd. Mae’r haul wedi bod yn tywynnu ers dyddiau nawr a dwi hyd yn oed wedi cyfnewid fy nhrainers am flip flops unwaith. Ac wrth i’r tymhorau newid yna hefyd mae’r hyn dwi’n ei goginio, a’r awydd nawr i bobi cacennau sy’n gwneud y mwyaf o gynhaeaf hael […] Parhau i ddarllen

gwyddonias: Pen-blwydd hapus i ni! : Mae IAS yn dathlu’r pen-blwydd cyntaf! (Ac ydyn, ni’n disgwyl cacen. Fawr.)

W-hw! Pen-blwydd hapus i ni! Mae’n anodd credu ein bod wedi bod yn blogio ar flog IAS ers blywyddyn. Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac am eu sylwadau caredig.   Yes! Sci-fi Cymraeg. Fi nerdily methu aros. @gwyddonias — Steffan Dafydd (@steffdafydd) February 11, 2014 Neis gweld mwy o […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacennau datys a sinsir gyda saws taffi

Gyda gloddesta’r Nadolig drosodd mae’n teimlo fel pawb nawr ar ryw fath o ddeiet neu detox, wel dwi’n sicr ddim. Wrth gwrs dwi wedi rhoi’r gorau i fwyta siocled bum gwaith y diwrnod ac yn ceisio bwyta ychydig mwy o lysiau na wnes i dros yr ŵyl, ond dwi ddim yn un sy’n mynd amddifadu […] Parhau i ddarllen

Cwmni Da » Blog: Mwynhewch Cacen Sali Mali ar eich iPad

Un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd llenyddiaeth Cymru ar gyfer plant wedi ei ryddhau mewn fersiwn dwyieithog rhyngweithiol ar gyfer dyfeisiadau Apple. Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad #39 – Cacen Sali Mali, Hack(en) Bryn Salisbury a mwy o Nest Test Iest

Croeso i rifyn 39 (bron y 4-0 fawr) o’r Haclediad – byddwn ni’n trafod syniadau Cymdeithas yr Iaith am ariannu darlledwr amlgyfrwng newydd i Gymru, e-lyfrau plant Cymraeg yn dod i iBooks, Bryn yn hacio weiars a checkio nôl mewn gyda system reoli tŷ Iestyn wrth i’r tywydd oeri. Joiwch, a chofiwch, sdim sôn am […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen almon a cheirios ffres

Mae’r haul wedi bod yn tywynnu ers wythnosau a’r haf wedi cyrraedd ac mae hynny yn golygu bod yna geirios ffres yn y siopau (neu os ydych chi’n lwcus iawn, ar eich coeden). Mae tymor ceirios ffres yn un byr iawn, felly dwi wastad yn trio gwneud y mwyaf o’r cyfnod yma. Mae gen i […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen riwbob a chwstard

  Hwre! Mae’n dymor riwbob a dwi’n bwriadu gwneud y mwyaf o’r ffrwyth /llysieuyn hyfryd yma. Gyda bwyd yn cael ei hedfan ar draws y byd, does yna ddim llawer o lysiau neu ffrwythau sy’n wirioneddol dymhorol erbyn hyn. Os ydych wir eisiau, maen bosib cael mefus yn ganol gaeaf yn yr archfarchnad, er eu […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen briodas

Dwi ar fin priodi, a’r un cwestiwn mae pawb yn ei ofyn i mi yw pwy sy’n gwneud dy gacen? Wel fi wrth gwrs! Dwi’n gwybod y bydd rhai ohonoch yn meddwl fy mod i’n hollol wallgo ac yn ychwanegu at fy llwyth gwaith drwy wneud hyn, ond fe fuaswn i’n ei chael hi’n anodd […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cacen mewn myg

Wedi gweld post Alberto am gacen mewn myg, roeddwn i’n chwilio am ryseitiau da a des o hyd i hon. Dim ond pedwar cynhwysyn sydd angen a heb wy neu fraster. Dw i newydd wneud un a’i bwyta – blasus iawn iawn! Fe wnes i ddefnyddio llefrith cyflawn. (Dw i … Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen orennau bach a marmalêd – rysait o’r llyfr newydd

Dwi wedi bod yn reit dawel ar y blog yma yn ddiweddar, ond dyw hynny ddim yn golygu fy mod wedi rhoi’r ffedog o’r neilltu a’i bod hi wedi bod yn dawel yn y gegin. I’r gwrthwyneb, dwi wedi bod yn pobi fel ffŵl yn ddiweddar, yn gwneud pob math o ddanteithion wrth i mi […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cacen gyrens duon

Gan fod teulu’r gweinidog i gyd i ffwrdd ar gyfer y briodas, penderfynwyd byddai’r gwasanaeth boreol dipyn yn wahanol. Cymysgedd o wasanaeth, astudio’r Beibl a chymdeithasu oedd o. Aelod sydd yn dod o’r Lloegr a arweiniodd popeth. Cawson ni amrywiaeth o “myffins” a chacennau i fynd efo coffi a the wrth i ni wrando arno fo. Braf iawn! Ymysg y dysglau ar y bwrdd, gwelais gacen gyrens duon hyfryd. Roeddwn i’n gwybod yn syth mai gwraig yr arweinydd a wnaeth; pwy arall  yn y dref hon byddai’n defnyddio cyrens duon mewn cacen? Roedd yn arbennig o dda! Ces i ddwy dafell arall i fynd â nhw adref.  Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Cegin Lowri: Cacennau Clustan – Byns Cardamom a Sinamwn à la Brecwast Helsinki

Hyvää huomenta! Bore da i chi gyd. Yr wythnos hon, gyda’r gaeaf yn brathu, dechreuais archwilio ffyrdd mwy blasus o fwynhau brecwast na fy rwtîn arferol o lowcio paned a jam mafon ar dost brown. Mwynheais bowlen o uwd gyda hufen a … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Pethau I'w Postio: Cacen gaws Betys, Seleriac a Chnau

See the full gallery on Posterous

Mae’r rysàit hon yn ymdrech i defnyddio’r sbarion caws a chnau oedd gen i ar ôl y Nadolig a llysiau tymhorol o’r sach wythnosol. Wnes i ddefnyddio caws Gorwydd, math o Gaerffili blasus iawn, a Stilton… Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacennau afiach o neis

Ddydd Gwener fe fues i mewn ffair gacennau gwahanol iawn, doedd na ddim cupcakes del na macarons prydferth yn agos at y lle. Na roedd y digwyddiad yma yn amgueddfa patholeg St Barts, Llundain. Ie, ymysg y jariau o esgyrn ac organau wedi’u piclo, roedd ‘na ffair gacennau yn cael ei chynnal. Enw’r digwyddiad oedd Eat Your […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cacen benblwydd

“Wnei di gynnig y rhain i’r bobl?” meddai mam ifanc yn ystod yr amser coffi cyn y gwasanaeth boreol. Mae ei babi bach newydd droi’n flwydd oed; cupcakes penblwydd oedden nhw. Roedden nhw’n edrych yn arbennig o dda, yn enwedig yr eisin glas a oedd yn ym… Parhau i ddarllen

Hadau: Cacen jam riwbob

Roedd hwyliau pobi arna i ddoe (digwyddiad prin iawn) ac ro’n i eisiau defnyddio beth oedd gyda ni yn tŷ eisoes yn hytrach na mynd allan i brynu llwyth o gynhwysion – felly dyma fi’n *addasu* ryseit Cacen Marmalêd Dan … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cacen avengers

Dathlon ni ben-blwydd fy mab ifancaf ddyddiau’n ôl er bod ei ben-blwydd go iawn ar y 5 Gorffennaf. Bydd y teulu i gyd heblaw fi oddi cartref pryd hynny – ei dad yn Japan, ei ddwy chwaer mewn cynhadledd ieuenctid yn New Orleans, ei frawd yn Texas yn cy… Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen Ferwi Nain

Wel helo, mae hi di bod yn sbel ers i mi bostio diwethaf ac mae’n ddrwg gen i am hynny. Mae’r llyfr yma wedi hawlio pob munud sbâr sydd gen i. Ond dwi’n tynnu i’r terfyn o’r diwedd, mae gen i wythnos i ffwrdd o’r gwaith a dwi’n bwriadu ei orffen yn yr amser hynny. […] Parhau i ddarllen

Be wyddwn i am y llanw mawr hallt?: Cacennau a choffi

Myfi ysydd ddyn sy’n bwyta cacennau yn y bore, ac yfed coffi a smocio sigarènau. Myfi ysydd ddyn nad ydyw’n byw yn iach.
Ond (ew!) mi dwi’n cael sbort yn gwneud.
A gwae chi eich byw. Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen Guinness

Ia Guinness mewn cacen, mae’n swnio’n od, ond wir i chi mae o’n gwneud synnwyr pan da chi’n ei drio! A dweud y gwir cacen siocled a guinness yw hon, ond mae hi mor wahanol i unrhyw gacen siocled arall. Mae’n ddwys, yn gyfoethog, ond dyw o ddim yn or-felys gan fod y guinness yn […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen gaws sinsir a riwbob

Fe welais i riwbob yn yr archfarchnad yn ddiweddar ac fe wnaeth i mi feddwl nad ydw i erioed wedi coginio unrhywbeth efo riwbob heblaw am grymbl. Felly fe ysgogodd hynny i mi fynd ati i chwilio am bwdin neu gacen fyddai ychydig bach yn fwy mentrus. Mae riwbob a sinsir yn gyfuniad gwych, felly […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacennau moron iach (ish!)

Dwi di recordio eitem arall ar gyfer rhaglen Blas ar Radio Cymru. Fe fydd o’n cael ei ddarlledu yn y flwyddyn newydd pan fydd y rhan fwyaf ohonom ar ryw fath o ddiet. Felly fe fues i’n trafod cacennau iachus efo Rhodri Williams. Nawr dyw cacen byth yn mynd i fod cweit mor dda i […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen Nadolig

Dwi byth yn un o’r bobl yna sy’n gadael eu siopa Nadolig tan y funud olaf. A dweud y gwir dwi’n dechrau panicio os nag ydwyf wedi gorffen fy siopa Nadolig erbyn dechrau fis Rhagfyr. A gyda mwy na mis i fynd cyn y Nadolig dim ond un neu ddau o anrhegion sydd ar ôl […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen Penblwydd Pinc

Fe ofynnodd cydweithiwr i mi wneud cacen penblwydd i’w merch 6 oed. Mae hi’n licio unrhywbeth pinc a merchetaidd, ac mae hi’n caru sgidiau sodlau uchel, felly wrth gwrs fe ddywedais i ie. Merch tebyg iawn i fi! Heblaw am y brîff yna roedd gena’i rwydd hynt i wneud beth bynnag yr oeddwn i eisiau. […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen oren a passion fruit

Dwi di bod yn slacio efo’r blogio ma yn ddiwedar, ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydwyf wedi bod yn pobi. A dweud y gwir dwi wedi bod yn trio pob math o bethau newydd, gan gynnwys bara, felly mae yna ddigon i ddod dros yr wythnosau nesaf. Ychydig o wythnosau yn ôl fe […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen briodas Dhara a Steff

Ychydig wythnosau yn ôl roedd un o fy ffrindiau coleg yn priodi, ac fe ges i’r pleser o wneud y gacen briodas. Dyma’r ail gacen briodas i fi ei wneud eleni, ond roedd hon ychydig yn wahanol i’r cyntaf. I ddechrau doedd dim cupcakes, sy’n golygu ychydig llai o waith i fi, ac yn ail […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen afal sbeislyd

Ar ôl sbel bach heb flogio, dwi methu stopio rwan. Mae yna gymaint o bethau dwi wedi’i gwneud yn yr wythnosau diwethaf ond dwi heb gael cyfle i flogio amdanyn nhw. Nawr mae hwn yn un gacen mae’n rhaid i fi ei rannu. Dwi’n meddwl fy mod i wedi ffeindio cacen sy’n curo’r lemon drizzle! Nawr […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen briodas Lisa a Gwyddno

Y rheswm y dechreuais y blog yma, oedd gan fy mod i’n gwneud dwy gacen briodas eleni. Wel mae priodas rhif un wedi mynd a dod, felly dwi rwan yn rhydd i rannu’r hyn wnes i efo chi. Priodas un o fy ffrindiau gorau Lisa oedd hwn, a’r gacen briodas oedd fy anrheg i iddi […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen briodas: Cam 1

I ddechrau, ymddiheuriadau am beidio â blogio ers oes, dwi’n gweithio yng Nghaerdydd dros gyfnod yr etholiad ac felly ddim yn cael cyfle i goginio. Ond dwi nôl yn Llundain am y penwythnos ac yn bwriadu gwneud lot o goginio heddiw, yn bennaf achos bod pawb yn y gwaith yng Nghaerdydd yn cwyno nad ydwyf […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacennau priodas

Fe gefais fy ysbrydoli i ddechrau’r blog yma ar ôl treulio diwrnod yn edrych ar flogiau eraill am syniadau ar gyfer cacennau priodas. Dwi’n gwneud dwy ar gyfer ffrindiau eleni, felly pam ddim dechrau blog fy hun yn cofnodi be dwi’n ei wneud, yn ogystal â’r holl gacennau eraill dwi’n eu pobi. Dyw’r priodasau ddim […] Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CWIS A CACEN

Cynhaliwyd Cwis a Cacen difyr iawn yn y festri nos Wener 21ain Mai. Y Cwis-feistres oedd Margaret Wyn Ellis ac roedd ganddi gwis hwyliog iawn gyda’r rhif 5 yn gysylltiedig a’r cwestiwn neu’r ateb! Roedd pedwar tim, ac ar y diwedd roedd y marciau yn a… Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Sut mae seiclo wedi gwneud fi’n fwy heini ac yn hapusach

Rydw i wedi bod yn seiclo lot mwy ers i mi symud i Ddyfnaint. Mae fy ymarfer wedi bod yn gyfuniad o reidiau enfawr ar ddydd Sul a chymudo.

Mae fe wedi bod yn hynod o lush. Mae yna rywfaint o ymwybyddiaeth ofalgar yn cymryd lle, gan fod rhaid i mi ffocysu ychydig ar reidio fy meic ac osgoi tyllau yn y ffordd. Mae hyn yn rhoi digon i mi feddwl amdano, tra’n stopio fi rhag gorfeddwl am unrhyw beth. Mae’r gymysgedd o’r ymdeimlad yma a’r dopamin sy’n cael ei generadu gan ymarfer corff yn eithaf anhygoel.

Normau a diwylliant

Y car yw’r prif ddull o deithio’r dyddiau yma. Ond cyn hynny, seiclo oedd y norm. Cyfleustra sydd wedi ennill o ganlyniad i’r ffaith bod ffyrdd wedi cael eu cynllunio’n bwrpasol ar gyfer ceir, ac felly ar gyfer teithio goddefol dros deithio llesol.

Nid yw seiclo bellach yn norm, ac felly dyw seiclwyr ddim chwaith. Dyw e ddim yn sypreis felly bod seiclwyr ddim yn cael ei weld ym modd ffafriol. Mae Sarah Storey newydd ddweud bod angen dyfeisio gair Saesneg newydd ar gyfer seiclwyr sy’n cymudo gan fod y cysylltiadau â’r gair ‘cyclist’ mor hallt. Y dyddiau yma mae mwy na hanner gyrwyr ceir Awstralia yn meddwl dyw seiclwyr ddim yn “hollol ddynol.” Mae’r casineb sy’n cael ei arddangos tuag atynt yn norm diwylliannol bellach yn hytrach na safbwynt afresymol.

Falle dyw Lycra ddim yn helpu pethau. Mae blogbost whatsthepont ar MAMILs a Theori Ymarfer Gymdeithasol yn cyfleu’r teimlad anesmwyth sydd gan lot o bobl yn berffaith. Wrth i weithle ceisio annog pobl i seiclo, dywedodd un person “os ydyn nhw’n meddwl y byddaf yn ymuno â chriw o ddynion chwyslyd mewn legins croen-dynn, maen nhw off eu pennau.”

Mae’n ddiddorol ystyried seiclo gan ddefnyddio’r ddamcaniaeth y mae Chris yn amlinellu yn ei flogbost:

  • Deunyddiau: Dyma’r pethau materol sydd angen ar gyfer ymarfer cymdeithasol.
  • Gwybodaeth: Y sgiliau a’r cymhwysedd sydd angen i gyflawni gweithredoedd sy’n cyd-fynd â’r arfer cymdeithasol.
  • Ystyr: Dealltwriaeth o’r hyn mae’n ei olygu i berfformio’r ymarfer cymdeithasol hwnnw.

Mae Ernest Gagnon ar daith wych ble wnaeth y deunyddiau a’r ystyr gwrthdaro. Nid oedd disgwyl iddo wisgo lycra gan ei fod yn awyddus i golli pwysau. Ond mae fe wedi adeiladu cymuned ar-lein gefnogol o amgylch hyn. Mae fe wedi troi’r meddylfryd confensiynol wyneb yn waered gyda’i theori:

“Rydw i’n ddyn mawr sy’n ceisio byw mewn byd sydd ddim rili ar gyfer pobl fawr. Rydw i wedi dysgu’n gyflym nad yw pobl fawr yn cael eu derbyn ac na ddylent fod yn gwneud neu’n gwisgo pethau penodol yn gyffredinol.

“Mae gwisgo spandex pan fyddaf yn reidio yn rhoi rhyddid i mi. Does gen i ddim cywilydd, dydw i ddim yn ofnus a dydw i ddim am redeg neu guddio.

“Dechreuais garu fy hun a thrwsio fy hunain. Mae spandex wedi helpu mi i ddelio â fy iselder hefyd oherwydd ei fod yn onest. Mae’n gwneud i mi fod yn onest gyda fi fy hun a gyda phobl eraill. Dyma pam rwy’n credu bod y byd seiclo mor agored. Pan gall pobl dderbyn eu hunain, y gallan nhw dderbyn pobl eraill hefyd a’u helpu nhw i fod eu hunain.”

Dydw i ddim yn ffan fawr o lycra, er fy mod i’n hynod o denau. Mae fy mreichiau’n edrych fel dau ddarn o spaghetti yn hongian o dorso. Cefais fy magu mewn cylchoedd cerddoriaeth amgen ble mae dillad llac yn gysurus ac yn cuddio hynodweddau’n cyrff. Rwy’n dal i deimlo’n anghyfforddus pan rwy’n gwisgo lycra, i’r pwynt ble rwy’n gwisgo siorts mawr dros fy siorts beicio wrth i mi gymudo. Rwy’n 36 nawr ond dydw i dal ddim yn hoffi sut rwy’n edrych, ac fel y dywedodd Ernest, dyw lycra ddim yn rhoi unman i chi i guddio.

Mae fe wedi bod yn pistyllio lawr dros y dyddiau diwethaf, felly mae gwisgo cotwm yn brofiad afiach ac annymunol, felly mae hyn wedi fy annog i i newid fy arferion. Fy her i yw cynnal hynny ac i atgoffa fy hun does na ddim byd mwy pync na rhoi’r gorau i becso am beth mae pobl eraill yn meddwl.

https://medium.com/media/5de4de81728b2a964e606313d6ff247b/href

Lles

Mae goblygiadau amlwg o ran ffitrwydd i deithio llesol, ond mae yna hefyd ganlyniadau anfwriadol o ran rhyngweithio gymdeithasol. Rydym yn gyfnewid “shwmae”, “bore da” a “phnawn da” gyda chymudwyr eraill, ac mae gan seiclo diwylliant coffi arbennig hefyd. Mae’n werth gael cipolwg ar flog Gruffudd Emrys, sy’n rhannu caffis seiclo gorau Cymru yn ei gyfres Stepen Drws. Rwy’n cael darn enfawr o gacen ar fy reidiau hirach wrth i ni drafod timau chwaraeon amrywiol, neu’r sefyllfa wleidyddol bresennol. Rhannodd John Wade ddarlun hynod o brydferth gan Sarah Lazarovic ar Twitter sy’n rhannu grym y rhyngweithiadau bychain yma, ac mae fe hefyd wedi crynhoi hyn yn berffaith yn ei flogbost ar Parkrun Stratford — Mae amserau rhedeg cyfartalog i lawr, mae cynhyrchiant i lawr, mae amserau cychwyn yn hwyrach, mae yna fwy o gacennau… beth ar y ddaear sy’n digwydd?

“Mae llawer o bobl yn gwneud cacennau i ddod gyda nhw, naill ai i ddathlu carreg filltir neu ben-blwydd Parkrun neu jyst achos maen nhw eisiau. Mae’n golygu bod pobl yn aros o gwmpas ar ôl rhedeg. Maen nhw’n sgwrsio, yn rhannu storïau, yn dod mewn i gysylltiad â hen ffrindiau, ac yn rhoi eu henwau i lawr i wirfoddoli’r wythnos nesaf.

“Rydym wedi adeiladu cymuned gref sy’n croesawu pobl i mewn o’r ymyl ac sy’n gadael i bawb gymryd rhan a rhannu beth bynnag sydd ganddynt i’w gynnig.”

Gallai ddefnyddio ystadegau Strava i arddangos sut rwy’n fwy heini ac yn iachach. Gallai rannu’r milltiroedd rydw i wedi seiclo a fy ngwelliant ar y dringfeydd y byddwn i wedi bod yn ffodus i oroesi yn y gorffennol. Ond y peth gorau amdano seiclo yw’r modd y mae fe wedi rhoi cyfle i mi gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd ers symud i Ddyfnaint. Hynny a’r gacen.

Awtomeiddio

Mae’n ymddangos ein bod ni mewn sefyllfa dyngedfennol ynghylch dyfodol ceir heb yrwyr.

Mae fy newis i i gymudo ar feic a thrên yn cael ei wneud er ei fod yn haws i neidio yn y car, sydd ychydig yn gynt. Mae cymudo ar feic yn ychwanegu ffrithiant i fy mywyd. Ond yn aml rydym yn gwybod nad yw gwneud y peth hawdd yr un peth a gwneud y peth iawn. Fe wnaeth Neil Tamplin trydar edefyn defnyddiol ar hyn yng nghyd-destun bwyd cyflym, lle rhannodd sut mae McDonalds yn llywio pobl i lawr llwybrau sydd wedi’i bersonoli i annog gwariant, yn hytrach na annog dewisiadau da.

Did anyone ask if we really want data driven meal choices?? — “You want AIs with that? McDonald’s buys into machine learning” https://t.co/ptMjV1mG8G

 — @NeilTamplin

Mae teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn dod â phobl at ei gilydd, ac mae’n debyg fe fydd awtomeiddio yn bwyta i mewn i’r cysylltiadau yma. Ffeindiais y darn gwych yma gan Xavier Brice mewn un o gofnodion wythnosol arbennig Neil (Tymor 2, Pennod 6) ar ddyfodol cerdded a beicio.

“Mae hyn yn ymwneud â mwy na chysylltu llefydd a galluogi pobl i deithio heb gar. Mae’r llwybrau yma’n cysylltu pobl â’i gilydd. Mewn adeg pryd mae bron i un o bob pump o boblogaeth y DU yn dweud eu bod nhw’n bob amser neu’n aml yn unig, mae’r llwybrau yma yn ased hanfodol. Maent yn darparu lle i bawb i symud o gwmpas, i fod, ac i dreulio amser gyda’i gilydd yn rhad ac am ddim.”

Nid yw’n hawdd gwisgo lycra neu neidio ar feic am y tro cyntaf. Rwy’n dal i gael trafferth gyda hyn, er ei fod wedi gwneud fy mywyd yn well mewn cymaint o ffyrdd. Ond mae fe wedi ehangu fy nghylch cymdeithasol, gwella fy iechyd meddwl, gwneud fi’n hapusach, a chadw fi’n heini. Mae’n werth ystyried o leiaf sut rydym yn trafaelu, a sut y gall ein dewisiadau ein helpu ni i fyw ein bywydau gorau posibl.


Sut mae seiclo wedi gwneud fi’n fwy heini ac yn hapusach was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Joe Mitchell: Creu’r geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg cyntaf / Creating the first Welsh-Irish dictionary (ail-bost / re-post)

Mae Joe Mitchell wedi dysgu Cymraeg a Gwyddeleg, a thrwy ddymuniad i helpu defnyddiwr a dysgwyr o’r ddwy iaith mae e wedi gweithio am dros 20 mlynedd yn paratoi geiriadur unigryw- Cymraeg i Wyddeleg. Yn eang ei olwg ac yn tynnu ar ffynonellau llafar a llenyddol, y mae’r Geiriadur Cymraeg – Gwyddeleg yn cynnwys 12,500 o eiriau Cymraeg wedi eu trin a myrdd o enghreifftiau defnyddiol, ceir ynddo hefyd adran ramadeg i hwyluso gwell dealltwriaeth siaradwyr ac ysgrifenwyr y naill iaith a’r llall. Yma, mewn erthygl tairieithog unigryw, mae’n esbonio mwy… Joe Mitchell has learned Welsh and Irish, and through a wish to help other users and learners of both languages he has worked for over 20 years preparing a…

The post Joe Mitchell: Creu’r geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg cyntaf / Creating the first Welsh-Irish dictionary (ail-bost / re-post) appeared first on Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog: Gwreiddiau Geiriau Cymraeg / Etymology of Welsh Words

Pam rydyn ni’n dweud ‘Cymru’? O ble mae geiriau’n dod? Ydy’r iaith Gymraeg yn gwbl unigryw? Mae deall etymoleg a gwreiddiau iaith yn rhan bwysig o ieithyddiaeth a dysgu iaith. Yma, rydyn ni’n edrych ar etymoleg yr iaith Gymraeg gan ddangos bod ei gwreiddiau ar hyd a lled y byd.  Gan: Madison Keeping Why do we say ‘Cymru’? Where do words come from? Is the Welsh language completely unique? Understanding the etymology and origins of a language is an important part of linguistics and language learning. Here, we look at the etymology of the Welsh language, showing that its roots spread far and wide across the world. By: Madison Keeping Mae Madison Keeping yn fyfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Abertawe sy’n…

The post Gwreiddiau Geiriau Cymraeg / Etymology of Welsh Words appeared first on Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: 2019

Gyda tynnu’r ardduniadau i lawr mae tymor Dolig a’r flwyddyn newydd wedi gorffen go iawn.  Mae bywyd yn ol i’r arferol – sydd ddim yn beth ddrwg o gwbl.  Ac yn bendant dwi isio garddio mwy eleni.  Yn sgîl y penderfyniad ym… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: 2019

Gyda tynnu’r ardduniadau i lawr mae tymor Dolig a’r flwyddyn newydd wedi gorffen go iawn.  Mae bywyd yn ol i’r arferol – sydd ddim yn beth ddrwg o gwbl.  Ac yn bendant dwi isio garddio mwy eleni.  Yn sgîl y penderfyniad ym… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: 2019

Gyda tynnu’r ardduniadau i lawr mae tymor Dolig a’r flwyddyn newydd wedi gorffen go iawn.  Mae bywyd yn ol i’r arferol – sydd ddim yn beth ddrwg o gwbl.  Ac yn bendant dwi isio garddio mwy eleni.  Yn sgîl y penderfyniad ym… Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: Syniadau anrhegion hosan ‘Dolig 2018

Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn brysur, a gyda Nadolig yn agosau dyma ambell i syniad ar gyfer anrhegion hosan Nadolig neu Santa Cudd i chi. Mae rhywbeth at ddant pawb ymysg yr 8 teitl yma – cerddoriaeth, hiwmor, coginio, ffeithiau a chwaraeon! Parhau i ddarllen

fel y moroedd : mis prysur

Tymor prysur ydy mis Medi i fy nheulu. Mae yna gynifer o benblwyddi gan gynnwys penblwydd fy mlog – 6, 7, 8, 10, 11 a 21. Roeddwn i’n arfer crasu tair cacen ar yr un diwrnod. (Roedd yn dipyn o her!) Bydd y gŵr yn hedfan yfory i Las Vegas i ddathlu penb… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Coginio gyda Ffisegwr- Artisaniaeth: Edrych dd-ŵy-waith ar wyau / An Eggsamination…of eggs

Mae Gethin Sherrington yw’r pedwerydd mwyaf poblogaidd chef bobydd â hyfforddiant ffiseg yn y Gogledd Ddwyrain, ac yn uno gwyddoniaeth a choginio ar ei flog artisaniaeth.com ac ar YouTube. Mae ei ysgrifennu a’i archwiliadau yn unigryw, felly mae parallel.cymru wrth ei bodd yn cyflwyno ei waith yma. Gethin Sherrington is the fourth-best physics trained baker-chef in all… Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Hierarchaeth o wybodaeth: Pam dydyn ni ddim yn rhoi beth ni’n dysgu ar waith

Does dim syniad gyda fi am y swm y mae sefydliadau’n gwario ar ddysgu a datblygu, ond mae rhaid bod e’n swm sylweddol. Ond faint o’r dysgu yma sy’n cael ei roi ar waith?

Rydw i wedi dysgu siwd gymaint wrth symud i mewn i’r maes ymchwil. Rydw i wedi dod ar draws lot o lenyddiaeth academaidd sydd wedi gwneud i mi edrych ar fy mhrofiadau ychydig yn wahanol. Mae fy nghefndir mewn ymgysylltu wedi golygu fy mod i’n credu’n gryf y dylem gynnwys pobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau. Rydw i wedi gweld beth sy’n digwydd pan mae dinasyddion yn cael ei weld fel derbynwyr goddefol o wasanaeth cyhoeddus — maen nhw’n cyrchu gwasanaethau “un maint i bawb” sy’n cyd-fynd â gweledigaeth y gwasanaeth cyhoeddus ei hun.

Byddwn i byth wedi meddwl byddai’r un model hierarchaidd yma’n berthnasol i’r modd mae gwasanaethau cyhoeddus eu hunain yn dysgu a datblygu. Ond disgwylir i’r mynychwyr mynd i’r afael â’r wybodaeth, mynd mas a’i weithredu yn yr union yr un modd.

Felly os ydym am roi gwybodaeth gymhleth fel ymchwil ar waith wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ni fydd y model yma’n gweithio. Fe wnaeth Dez Holmes rhannu Camsyniad y Biblinell (neu “Fallacy of the Pipeline”) gyda mi, sy’n edrych ar pam nad yw lot o ymchwil yn bwydo mewn i waith ar y rheng flaen.

Hierarchaeth

Mae fy mlogbostau i ers dechrau gyda Research in Practice a Research in Practice for Adults wedi cyffwrdd ag hierarchaeth. Roedd y rhain yn edrych ar rwydweithiau ffurfiol o fewn sefydliadau, ond mae Camsyniad y Biblinell hefyd yn dangos effaith hierarchaeth o ran arbenigedd rhwng sefydliadau.

“The blame for gaps between science and practice falls variously on the stubbornness of the practitioners insisting on doing it their way, their hubris in believing they know their patients best and the smugness of scientists believing that if they publish it, practitioners will use it. None of these characterizations of the culprits is entirely fair, but they and yet others share in the blame.”

Mae’r agwedd hon hefyd yn adleisio sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio â phobl a chymunedau. Rydw i wedi clywed cymaint o sefydliadau’n dweud bod “rhaid i gymunedau sylweddoli nad oes digon o arian i fynd o gwmpas, felly mae rhaid iddynt wneud mwy ar gyfer eu hunain.” Y broblem yw bod sefydliadau’n aml eisiau cael eu cacen a’i fwyta. Maent am gadw pŵer a rheolaeth tra bod cymunedau’n darparu gwasanaethau ar eu cyfer. Mae hyn yn hynod o glir pan mae cyd-gynhyrchu yn cael ei gamddefnyddio — mae cymunedau’n cael problemau’r sefydliad i’w datrys.

Felly sut allwn ni symud y tu hwnt i strwythurau hierarchaidd? Mae lot o enghreifftiau defnyddiol o sefydliadau sydd wedi rhoi’r gorau i hierarchaidd yn y blogbost yma gan Paul Taylor — mae defnydd Zappos o holocratiaeth yn hynod o ddiddorol. Dylai gwasanaethau cyhoeddus weithio fel rhan o rwydweithiau o fewn cymunedau, yn hytrach nag edrych i lawr arnynt. Mae’r erthygl yma o’r Harvard Business Review yn edrych ar sut mae sefydliad rhwydweithiol yn edrych, ac mae’n disgrifio hefyd sut y gallem weithio gyda chymunedau:

“I am talking about a whole new system that is much bigger, more powerful and involves far more people. Over the past few years, I’ve started to see many high-performing organizations use a network-like structure outside their traditional hierarchy to lead change, and with great results.”

Fe wnaeth Esko Reinikainen cyflwyno cysyniad Amy C. Edmondson o Dîmio i mi yn yr Ŵyl Tai (ac rydw i wedi’i blogio amdano ar gyfer Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru), sy’n ymwneud â nodi sut all pobl weithio’n hyblyg er mwyn rheoli rhyngddibyniaethau cymhleth. Un o’r pethau rwy’n rili hoffi amdano’r cysyniad yw bod Edmondson yn rhoi empathi wrth wraidd ei methodoleg, tra bod hierarchaeth yn rhoi bwlch rhwng pobl a chanlyniadau eu penderfyniadau.

Methiant

Nid tîmio yw’r unig fodel defnyddiol y mae Edmondson wedi’i ddyfeisio. Fe wnes i ddod ar draws ei Sbectrwm o Fethiant sy’n Haeddu Bai yn fy swydd flaenorol, ac mae’n arbennig o ddefnyddiol yng nghyd-destun y papur hwn.

“The attrition of some 17% of original research that never gets submitted, usually because the investigator assumed negative results were unpublishable, is particularly disturbing from the standpoint of what practitioners might consider most helpful in their attempts to adapt guidelines for patient or community interventions to their practice circumstances. Negative results of interventions are of interest because they often tell the practitioner about the intervention’s misfit with patients or conditions other than those in which the original research leading to guidelines was conducted.”

Trwy fethu â rhannu methiant, mae’n fwy tebygol y byddwn yn ailadrodd y camgymeriadau hynny. Yn ystod fy nyddiau cyntaf yn fy swydd newydd, dywedwyd wrthyf fod rhaid rhannu camgymeriadau ac i osgoi “green shifting”. Rwy’n ddigon ffodus i fod yn gweithio mewn sefydliad sy’n agored i ddysgu sy’n deillio o fethiant, ond os ydych chi’n ddigon anlwcus i fod yn gweithio mewn sefydliad sy’n dyrannu bai ar gyfer gamgymeriadau sydd ddim yn gallu cael eu hosgoi, rydych chi’n annhebygol o allu cymryd y risgiau sy’n ofynnol er mwyn arloesi.

Data ansoddol

Mae cam nesaf y model piblinell yn taro cloch i mi o ran pa mor anodd mae fe i’r cyhoedd cyfathrebu â gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n adlewyrchu Camsyniad y Biblinell, gan ein bod ni’n cyfyngu ar y llif gwybodaeth i sefydliadau.

“The studies that would fail to survive this leg of the journey will increase because randomized methods are more likely to face ethical and logistical challenges.”

Mae’r blogbost yma gan Dan Slee yn amlinellu materion tebyg, gan fod sefydliadau’n anwybyddu dysgu defnyddiol achos nid ydy’n dod mewn ffurf ddelfrydol iddynt. Mae’r enghraifft lle mae cyngor yn gwrthod derbyn sylwadau ar ymgynghoriad trwy gyfryngau cymdeithasol yn achos da o sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gallu gweithio i’w gofynion eu hunain yn hytrach na’r hyn sy’n gweithio i gymunedau.

Camsyniad y gynhwysydd o gwthio gwybodaeth i’r ymarferydd

“The recipient is full of prior knowledge, attitudes, beliefs, values and, above all, contextual constraints at any given point in practice time. Each of these influences the practitioner’s receptivity to new guidelines, their perception of the guidelines’ utility and their eventual use of them.”

Nid ydym yn llechen lân. Mae beth ni’n dysgu yn dibynnu ar ein credoau a’n profiadau. Mae Rhagfarn Cadarnhad yn golygu ein bod ni’n hoffi syniadau sy’n cadarnhau ein credoau presennol, ac achos Rhagfarn Rhagamcanol rydym yn tueddu i feddwl bydd canlyniadau ein dewisiadau cyfredol yn gweithio mas yn yr un ffordd yn y dyfodol.

Mae’n bron yn amhosibl cofio pob rhagfarn, ond yn ffodus fe wnaeth Helen Reynolds a Ben Proctor rhannu’r erthygl dda yma ar Fias Gwybyddol pan wnes i gymryd rhan ym mhodlediad Natteron. Mae’n ddogfen ddefnyddiol iawn sy’n gallu’ch helpu chi i checio’ch tybiaethau a’r cymhellion sydd y tu ôl i’ch gweithredoedd.

https://medium.com/media/a8f6b4d673a46e6b4c07ce65ab52dc11/href

Ymchwil gyfranogol, rhwydweithiau ymchwil, a gwella ansawdd parhaus

“The most promising lines of remedy have been in bringing the research (or even better, producing the research) closer to the actual circumstances of practice….. The promise inherent in these is that the research results are made more relevant, more actionable, more tailored, more particular to their patients or populations and to their circumstances of practice and with more immediate feedback to the practitioners themselves. The promise of this ‘pull’ approach has led to the suggestion that if we want more evidence-based practice, we need more practice-based evidence.”

Mae hyn yn dangos y gwerth o fod yn rhan o, neu o leiaf fod yn agos ato newid. Pan rannais waith yr Athro Roz Searle ar ymddiriedaeth yn Bara Brith Camp, y rhan wnaeth wir daro cloch oedd bod sefydliadau mwy yn fwy tebygol o gael lefelau is o ymddiriedaeth. Mae hyn achos bod mwy o hierarchaeth yn golygu bod gweithredoedd cadarnhaol y bobl sydd ar frig y sefydliad yn cael eu gwanhau. I mi, dyma pam rydym yn parhau i fethu â gweithredu newid cadarnhaol o fewn cymunedau — rydym yn rhy bell ohonynt, ac yn aml nid oes gan y cyhoedd lot o ffydd ynddo ni. I brofi bod hyn yn fwy na barn bersonol, cewch gipolwg ar y Baromedr Edelman ar gyfer 2017, sy’n datgelu’r cwymp mwyaf erioed mewn faint mae’r cyhoedd yn ymddiried mewn sefydliadau’r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol.

Cymhellion a chosbau er mwyn ysgogi ymarferydd i dynnu

“What practitioners in clinical, community and policy making roles crave, it appears, is more evidence from practices or populations like their own, more evidence based in real time, real jurisdictions, typical patients, without all the screening and control and with staff like their own. The ideal setting in which to conduct such studies would be their own, which takes us back to the participatory research strategy.”

Rwy’n meddwl bod gan Research in Practice rôl hynod o ddiddorol yma, gan ein bod ni’n ddolenni ymchwil academaidd a gwasanaethau cyhoeddus. Gall ein gwaith helpu i rannu ac i roi gwybodaeth ymchwil ar waith wrth ddarparu gwasanaethau.

Rydw i hefyd yn rili hoffi’r syniad o ddarparu tystiolaeth mewn amser real. Mae’r papur yn nodi bod “yna ddatganiad brawychus a dyfynnir yn aml am yr athreuliad yn y biblinell a’r gap rhwng ymchwil ac arfer, sef ei fod yn ‘cymryd 17 mlynedd i droi 14 y cant o’r ymchwil wreiddiol fel ei fod er budd gofal gleifion.’” Mae hwn yn swnio’n afreal i mi yn y byd digidol sydd ohoni. Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o hyn yn gysylltiedig ag arfer, ond mae yna broblemau sy’n ymwneud â rhannu data hefyd. Mae ymchwil yn aml yn cael ei gyhoeddi y tu ôl i waliau talu neu’n cael ei reoli gan arianwyr. Ond ydyn ni’n gwneud cymaint ag y gallem? Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru rhyddhau ein set ddata gyntaf gyda thrwydded llywodraeth agored, a defnyddiom Power BI i arddangos data mewn amser real. Mae yna rhai adnoddau ar-lein da y gellir rhoi ar waith ym maes ymchwil, gan gynnwys adnoddau Creative Commons ar Wyddoniaeth Agored, a darn gwych gan Gymdeithas Cyhoeddwyr Mynediad Agored Anrhydeddus ar fanteision Creative Commons.

Cael mwy o sylw i ddilysrwydd allanol ym mhroses adolygiad cymheiriaid a pholisïau golygyddol o gylchgronau

“One might reasonably conclude that science will always have a gap to bridge to reach practice as long as it is generated in academic circumstances that put such a high premium on scientific control for internal validity that it squeezes out the needed attention to external validity.”

Mae hyn yn cysylltu yn ôl â’m blogbost flaenorol ar gymhlethdod, gan nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu mewn amodau labordy. Yn hytrach nag esgus y gallwn roi ymchwil ar waith mewn amgylcheddau delfrydol sydd o dan reolaeth, mae rhaid i ni ystyried cymhlethdod yr amgylchedd ni’n gweithio mewn ac i feddwl yn feirniadol am sut y gellir rhoi’r wybodaeth honno ar waith. Yr unig ffordd all hyn digwydd yw os all staff gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau cael y pŵer a’r cyfle i ddadansoddi eu hamgylchedd eu hunain. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gyd rhyddhau ein gafael ar bopeth. Ydyn ni’n ddigon dewr i wneud hynny?


Hierarchaeth o wybodaeth: Pam dydyn ni ddim yn rhoi beth ni’n dysgu ar waith was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Cynghorydd Pete Prendergast: Digwyddiadau wedi eu mynychu gan y Cadeirydd yn Gorffennaf 2017

01/07/17 – Cynhaliwyd Dathliad Tŷ Crwn Glan Morfa yn y Rhyl Ar ôl diolch i’r Gwirfoddolwyr a’u llongyfarch am 12 mis cyntaf y Prosiect Tŷ Crwn aethom ymlaen i blannu planhigion bach gyda’r plant a sgwrsio â rhieni ynglŷn â phwysigrwydd yr ardal hon i drigolion lleol. 02/07.17 – Diwrnod Hwyl i Deuluoedd yng Ngerddi […] Parhau i ddarllen