Canlyniadau Chwilio: deddf

Anffyddiaeth: Y broblem â deddf Godwin

Mae unrhyw un sydd wedi ffraeo am wleidyddiaeth ar y rhyngrwyd wedi dod ar draws ‘deddf Godwin‘. Fe’i bathwyd gan ddyn o’r enw Mike Godwin yn y 1990au, ac roedd ei fersiwn wreiddiol ef yn osodiad digon syml: wrth i drafodaeth ar y we fynd yn ei blaen, bydd rhywun, yn hwyr neu’n hwyrach, yn gwneud cymhariaeth â’r Natsïaid.

Ers hynny, mae ystyr y ‘ddeddf’ wedi esblygu. I lawer, mae’n golygu bod y person cyntaf i grybwyll y Natsïaid wedi colli’r ddadl yn awtomatig. Mae hefyd wedi ehangu i gyfeirio at gyfeiriadau at ffasgaeth yn gyffredinol, nid Natsïaeth yn unig. Defnyddir y ddelwedd isod yn aml:

Mae’n wir, wrth gwrs, bod llawer o bobl yn or-barod i ddefnyddio enw gwenwynig y Natsïaid fel arf rethregol. Dylid bod yn ofalus, oherwydd mae taflu’r label o gwmpas pan nad yw hynny’n briodol (cofio ‘Bushitler‘?) yn ei gwneud yn anos i’w defnyddio pan mae’n addas. A dyna’r pwynt: mae yna achosion prin pan mae galw rhywun yn ffasgydd (os nad Natsi) yn gyhuddiad cwbl ddilys.

Un o’r camgymeriadau mwyaf y gallwn ei wneud wrth ystyried dyddiau tywyll ffasgaeth ail chwarter y ganrif ddiwethaf yw tybio nad yw’n bosibl iddynt ddigwydd eto. Mae tuedd i feddwl am yr holl beth fel cartŵn, bron, fel rhywbeth a ddigwyddodd ar blaned arall heb unrhyw berthnasedd i’n hoes fodern ni. Ond pobl yn trin pobl oedd ffasgaeth; nid oedd unrhyw beth lledrithiol yn perthyn i’r ffenomen. A’r gwir yw bod llawer o’r hyn a welwn heddiw yn debyg iawn i’r hyn a arweiniodd at ffasgaeth yn Ewrop yn y gorffennol cymharol agos.

Ie: ffordd hirwyntog arall o alw Donald Trump yn ffasgydd eto fyth yw’r blogiad hwn. Rwy’n grediniol ei fod yn ticio’r blychau, ond hyd yn oed os oes modd hollti blew yn academaidd, nid yw’r cyhuddiad yn chwerthinllyd o bell ffordd.

Gwers amlwg i’w dysgu o’r hyn a welwyd yn Ewrop yn y 1920au a’r 1930au yw pwysigrwydd osgoi gwneud yr un camgymeriad eto. Y gwir yw bod llawer iawn o’r hyn y mae Trump yn ei wneud (a’r dde eithafol ymhob man) yn frawychus o gyfarwydd. Mae ymateb i bobl sy’n gwneud y pwynt pwysig hwnnw trwy weiddi ‘deddf Godwin!’ yn ddi-feddwl yn beryglus. Modd o gau’r drafodaeth lawr yw hynny, ac mae angen ei herio. Rwy’n besimistaidd iawn am y blynyddoedd nesaf, ac mae atgoffa’n hunain o hanes datblygiad ffasgaeth yn bwysicach heddiw nag erioed. Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Dechrau’r diwedd i ‘r Ddeddf Hawliau Dynol yn y DU

Bu cryn ddathlu yn y wasg Asgell Dde yn sgil y datganiad bod y DU am symud i gyfeiriad  Belarus a Kazakhstan i ddod yn un o’r triawd o wledydd yn y DU sy’n gwrthod cydnabod y Ddeddf Hawliau Dynol.  Mae llywodraeth May am ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol lle mae’n effeithio ar filwyr mewn brwydr – ac yn ddi amau gallwn ddisgwyl gweld y Ddeddf yn cael ei gwanio ymhellach maes o law.

Mae rhai o’r papurau hynny wedi cynnal ymgyrchoedd i ryddhau rhai o’r ychydig filwyr sydd wedi eu carcharu yn sgil cyflawni troseddau rhyfel.  Y dadleuon a wneir fel rheol ydi bod y Fyddin Brydeinig yn anarferol o foesol a chyfrifol yn y ffordd maent yn cynnal eu mynych ymgyrchoedd milwrol, bod gweithdrefnau’r Fyddin Brydeinig i ddelio a chamymddygiad yn hynod effeithiol a bod yr honiadau a wneir gan bobl yn erbyn y Fyddin Brydeinig o dan amodau’r Ddeddf yn rhai annilys.  


Yn anffodus o edrych ar hanes cymharol ddiweddar y Fyddin Brydeinig dydi’r ffeithiau ddim yn cefnogi’r honiadau.  Mae defnydd chwarter awr o Google wedi dod o hyd i’r _ _ ahem _ _ camgymeriadau canlynol gan y Fyddin Brydeinig yn ystod y ganrif yma a’r un diwethaf.  
Sefydlu’r Concentration Camps gwreiddiol yn ystod Rhyfel y Boer.  Arweiniodd hyn at farwolaeth tua 27,000 o ferched a phlant gwyn.  Mae’n debyg i nifer tebyg o bobl ddu farw hefyd – ond wnaeth neb drafferthu cyfri.

Arteithio cannoedd o bobl yn Ail Ryfel Irac.

Cyflafan Amritsar yn 1919.  Lladdwyd rhwng 400 a 1,000 o brotestwyr heddychlon mewn tua 10 munud pan daniodd y fyddin Brydeinig i ganol y dorf.  Cafodd y swyddog – Reginald Dyer- oedd yn gyfrifol am roi’r gorchymyn ei symud o’i swydd (ond ddim o’r fyddin) – ond gwnaed casgliad sylweddol iddo o £26,000 (tua £350,000 ym mhres heddiw) gan y cyhoedd rai o’r papurau newydd – gan gynnwys rhai sy’n clochdar am ddiflaniad y Ddeddf Hawliau Dynol heddiw.  Arwydd o ddiolch oedd y rhodd. Eglurodd Reginald Dyer iddo orchymyn y gyflafan oherwydd yr effaith moesol y byddai’n ei gael yn yr ardal. 

Arteithio degau o filoedd o garcharorion yn nyddiau olaf yr Ymerodraeth.  Kenya, Aden a Cyprus ydi’r esiamplau mwyaf enwog o artaith yn cael ei ddefnyddio yn gyson a systematig ar garcharorion – ond roedd llawer o enghreifftiau eraill hefyd.

Llofruddio milwyr Almaenig oedd wedi goroesi wedi i’w llongau gael eu suddo.

Defnyddio arfau cemegol a difa pentrefi (a phob dim oedd yn byw ynddynt) wrth ddelio a gwrthryfel yn Irac yn 1920.

Ac wedyn wrth gwrs mae yna Iwerddon – yng nghyd destun y rhyfel diweddaraf a’r Rhyfer Black & Tan.  Roedd y digwyddiadau hyn yn ymwneud yn bennaf a lladd heb gyfiawnhad, arteithio a difa eiddo. 
Mae gan llywodraeth Prydain, y gyfundrefn filwrol a’r gyfundrefn gyfreithiol record sal iawn yn hanesyddol o fynd i’r afael a thor cyfraith a dirmyg tuag at hawliau dynol mewn sefyllfa o ryfel.  Mae’r hyn mae May wedi ei wneud yn debygol o sicrhau y bydd yr un patrymau yn ail adrodd eu hunain yn rhyfeloedd y dyfodol – a gallwn fod yn gwbl sicr y bydd yna rhai.

Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Mabwysiadwyr cynnar Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Chwe mis i mewn…

Fe wnaeth Hazel Clatworthy a Matthew Gatehouse, Cyngor Sir Fynwy, gyflwyno mewn seminar dysgu ar y cyd ‘nôl ym mis Mawrth, ar y testun Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Bryd hynny, nid oedd y ddeddfwriaeth wedi dod i rym, ac roedd eu profiad yn seiliedig ar eu gwaith fel “mabwysiadwyr cynnar” y Ddeddf. Ar ôl chwe mis, […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Newid Ymddygiad

Cafodd y thema o newid ymddygiad y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol ei drafod sawl gwaith yn ein digwyddiad ar Ddyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Yn y blogbost yma mae Chris Bolton yn edrych ar yr heriau sydd o’n blaen ni a sut allwn ni mynd […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Sut mae meddylfryd digidol yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am newid sylweddol yn y ffordd rydyn ni’n cynllunio a darparu gwasanaethau, ac mae technoleg wedi newid yr amgylchedd cymdeithasol sylfaenol rydyn ni’n gweithio ynddo. Yn y blogbost yma, mae Dyfrig Williams yn edrych ar sut all y ddeddf cefnogi meddylfryd digidol strategol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae […] Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Stiniog a’r Rhyfel Mawr -Y Ddeddf Orfodaeth

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.Ym mis Chwefror 1916, galwyd cyfarfod arbennig o’r Cyngor Dinesig yn y Blaenau i ddewis aelodau o’r Tribiwnlys newydd oedd i’w sefydlu, yn dilyn y Ddeddf Orfodaeth Filwrol … Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Felix, Sion a deddfau cyffuriau

Mi glywais i rhyw fymryd o raglen radio Vaughan Roderick y diwrnod o’r blaen.  Ymysg eitemau eraill cafwyd trafodaeth ar gyfreithloni canabis. Vaughan, Felix Aubel, Sion Jones a rhywun arall nad ydw i’n cofio ei henw oedd yn cymryd rhan.   Fel llawer o raglenni mae Felix yn cymryd rhan ynddi roedd yna rhyw gymysgedd rhyfedd o’r boncyrs a’r di niwed o’i chwmpas.  Roedd y pedwar ohonyn nhw yn mynd trwy’i pethau fel petai yna fewath o dystiolaeth bod erlid defnyddwyr canabis wedi lleihau’r defnydd a wneir o’r cyffur.  Roedd Felix yn ein sicrhau bod ‘ei brofiad fel gweinidog yr Efengyl’ wedi dangos iddo bod defnyddio’r cyffur meddal hwn gwneud i bobl ymosod ar eu partneriaid, treisio eu plant ac achosi anhrefn ar y strydoedd.  Mae’n amlwg nad yw ‘ei brofiad fel gweinidog yr Efengyl’ wedi arwain ato’n cael ei hun mewn sefyllfa lle mae ganddo sbliff yn ei geg.  Roedd Sion yntau’n poeni am y sefyllfa, ac am i ‘r awdurdodau fynd ar ol defnyddwyr cyffuriau a’u cosbi ‘n llymach o lawer.  Roedd Felix wrth gwrs yn cytuno.

Rwan mae defnyddio cyffuriau yn beth eithaf stiwpid i’w wneud – ond dydi o ddim mor stiwpid ag ydi cred Sion a Felix mai ‘r ffordd ymlaen ydi gwneud defnydd hyd yn oed yn fwy llym o’r gyfundrefn droseddol.

Y broblem efo’r cyfreithiau cyffuriau sydd gennym ar hyn o bryd ydi nad ydyn nhw’n gweithio – a dydyn nhw erioed wedi gweithio.  Ers 1971 mae tua £1 triliwn wedi ei wario ar hyd a lled y Byd mewn ymdrech i atal pobl rhag defnyddio cyffuriau trwy wneud defnydd llawdrwm o’r system gyfreithiol. Ac eto mae’r farchnad yn cynyddu a chynyddu, a chynyddu a chynyddu gan greu elw rhyfeddol i ddrwg weithredwyr ar hyd a lled y Byd.   Rydym yn clustnodi amser ac adnoddau di ben draw i fynd i’r afael a’r broblem – yn taflu niferoedd enfawr o bobl i’r carchar – a’r canlyniad ydi bod mwy o gyffuriau ar y stryd a bod mwy o elw yn cael ei wneud gan ddrwg weithredwyr.


Mae yna resymau sy’n ymwneud a grymoedd economaidd sylfaenol yn gyrru hyn oll.  Fel mae’r awdurdodau yn mynd yn fwyfwy llawdrwm ar y drwgweithredwyr sy’n cyflenwi cyffuriau, mae’r sawl sy ‘n fodlon cymryd y risg i gyflenwi yn gofyn am fwy o arian – wedyn mae pris cyffuriau yn cynyddu ac wedyn mae’r sawl sy’n ei ddefnyddio yn cael eu hunain yn gorfod torri cyfreithiau eraill er mwyn fforddio talu am gyffuriau.  Mae’r drefn sydd ohoni yn gwthio prisiau cyffuriau i fyny, a’r bobl sydd yn elwa o hynny ydi gangiau o ddrwg weithredwyr sy’n gweithredu ar hyd a lled y Byd – o Gaernarfon i Fogota.  Mae yna gysylltiad uniongyrchol rhwng natur cyfreithiau gwrth gyffuriau a’r anhrefn mae cyffuriau yn eu hachosi ar hyd a lled y Byd.  Mae’r fasnach Fyd eang werth tua $300bn.

Mae effaith hyn ar hyd a lled y Byd yn syfrdanol.  Mae’n debyg i tua 100,000 o bobl farw ym Mecsico rhwng 2006 a 2015 oherwydd yr anhrefn mae’r diwydiant cyffuriau ac ymdrechion yr awdurdodau i ‘w atal wedi ei greu. Ychydig mwy na 3,000 fu farw yng Ngogledd Iwerddon trwy’r rhyfel hir yno. Ceir carchardai llawn at yr ymylon mewn llawer o wledydd (defnyddwyr cyffuriau ydi mwyafrif carcharorion America – tua 500,000 o bobl). 

Ac eto dydi ‘r holl ymdrechion ddim wedi cael unrhyw effaith o gwbl.  Yn ol rhai amcangyfrifon mae traean o oedolion y DU wedi defnyddio cyffuriau anghyfreithlon ar rhyw bwynt neu’i gilydd yn eu bywydau.  Mae un plentyn mewn chwech rhwng 11ac 15 oed yn defnyddio cyffuriau, mae yna tua 2,000 o bobl yn marw y flwyddyn o ganlyniad i gyffuriau ac mae ‘r defnydd o gyffuriau cyfreithlon – legal highs – yn rhemp.

Ac eto (yn y DU) mae tua 500,000 o bobl yn cael eu stopio a’u harchwilio am gyffuriau yn flynyddol yn y DU, ac mae 70,000 o bobl yn cael eu bywydau wedi eu difetha trwy gael record troseddol am ddefnyddio cyffuriau.

Er gwaethaf hyn oll ‘dydi’r broblem ddim yn gwella o gwbl.  Yn wir mae ymchwil y Swyddfa Gartref yn dangos yn weddol glir nad oes perthynas rhwng llymder cyfreithiau cyffuriau a faint o bobl sy’n defnyddio cyffuriau.

Mae yna ffyrdd o leihau’r defnydd o gyffuriau – ond nid trwy erlid pobl sy ‘n gwneud drwg i neb ag eithrio eu hunain a bwydo cyfrifon banc drwgweithredwyr ar hyd a lled y Byd efo biliynau o bunnoedd mae gwneud hynny.

Parhau i ddarllen

Darn Bach o Hanes | Darn Bach o Hanes: Deddf Cau Tafarnau ar y Sul (Cymru) 1881

Ydi wir, mae’r ddeddf amhoblogaidd, wallus a methiannol hon yn un o’r deddfau pwysicaf erioed i gael ei phasio o’n safbwynt ni’r Cymry. Hon oedd y ddeddf gyntaf ers Deddfau Uno 1536 a 1543 oedd yn cyfri yng Nghymru yn unig, ac felly yn cydnabod Cymru fel gwlad wahanol, yn ddiwylliannol ac fel endyd arwahân […] Parhau i ddarllen

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Deddfwriaeth yn y Pedwerydd Cynulliad … yr hanes hyd yn hyn

Mae’r darn pwysig cyntaf o ddeddfwriaeth ynghylch tai ar gyfer Cymru (a grëwyd drwy bwerau datganoledig) yn debygol o gael Cydsyniad Brenhinol y mis hwn. Parhau i ddarllen

Blog llyfrgelloedd Cymru Alyson: Hanner can mlynedd: Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus 1964

[‘Guest post’ gan Hywel James, Gwynedd – diolch yn fawr. Fersiwn Saesneg ar blog arall] Bu prif lyfrgellwyr Cymru yn dathlu yn ddiweddar. Beth oedd ganddynt i ddathlu meddwch yn ganol cynllunio cwtogi llym ar wariant a chau rhai llyfrgelloedd? … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Diferion o'r Pwll Coch: : ‘Oes rhiwin yn mynd i’r sdeddfod?’ Sillafu’r Gymraeg yn yr oes ddigidol

Digon niferus yw’r bobl hynny sy’n cwyno nad oes digon o Gymraeg i’w chlywed ar hyd a lled y wlad y dyddiau hyn. Ond anaml y bydd yr un bobl yn ymfalchïo bod mwy o Gymraeg nag erioed yn cael … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

www.participationcymru.org.uk: Deddfwriaeth

Fe aeth Cyfranogaeth Cymru i weithdy diweddar yn swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn y gweithdy hwn, edrychwyd ar amrywiol sefyllfaoedd sy’n effeithio ar bobl hŷn a sut fyddai Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd Cymru yn effeithio ar eu … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Datganiad gan Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys ar Fil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012:

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae dyfarniad unfrydol y Goruchaf Lys yn fuddugoliaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n cadarnhau’r cyngor cyfreithiol awdurdodol a roddwyd i mi ac yn dangos bod y Cynulliad yn sefydliad aeddfed a bod ganddo’r gweithdrefnau cywir a’r staff i ddehongi a gweithredu’r setliad datganoli. “Mae ein system ddeddfu yng […] Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Myfi sy’n gosod y ddeddf i lawr

Mae’n ddyddiau’r cŵn yma yn Nhŷ Hywel gyda’r mwyafrif llethol o’r aelodau naill ai ar eu gwyliau neu’n gweithio yn eu hetholaethau.

Mae ‘na ambell i aelod i weld yn Nhŷ Hywel. Yn y ffreutur heddiw roedd Peter Black yn sgwrsio gyda rhai o swyddogio… Parhau i ddarllen

Ein Caerdydd: Dau ddigwyddiad arbennig wrth i ymweliad dogfen wreiddiol Deddf Uno 1536 ddod i ben

Ar hyn o bryd mae dogfen wreiddiol Deddf Uno Cymru a Lloegr 1536 yng Nghaerdydd ar fenthyg gan Lyfrgell Seneddol Tŷ’r Cyffredin tan 27 Gorffennaf 2011 fel rhan o arddangosfa Creu Hanes 1500 -1700 yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. I gyd fynd a hyn, mae dau ddigwyddiad wedi eu trefnu ar gyfer yr 22ain […] Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Cynulliad yn ‘torri’r Ddeddf Iaith’

Mae’r Cynulliad yn gweithredu’n anghyfreithlon wrth beidio â darparu cofnod o’i drafodion yn y Gymraeg, yn ôl Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywed yr adroddiad (PDF): “mae’r Bwrdd o’r farn fod y Comisiwn wedi methu cydymffurfio gyda’r Cynllun Iaith drwy bei… Parhau i ddarllen

newydd sbon: Tair Deddf Roboteg Isaac Asimov

Yn nofel gwyddonias Isaac Asimov, “I, Robot” mae dyfyniad o Llawlyfr Roboteg sy’n nodi’r Tair Deddf Roboteg, sef: Ni chaiff robot anafu bod dynol neu, drwy ddiffyg gweithredu, gadael i fod dynol profi niwed. Rhaid i robot ufuddhau gorchmynion gan fodau dynol, ac eithrio rhai sy’n groes i’r Ddeddf Gyntaf. Rhaid i robot ddiogelu bodolaeth […] Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Deddf iaith a’r Cofnod

Mae’r syniad o ‘hawl’ i ddefnyddio iaith yn un cymhleth. Dydw i ddim yn credu bod gen i hawl fel y cyfryw i fynd mewn i Tesco a chael gwasanaeth Cymraeg. Dydw i ddim am sarhau pobl anabl drwy ddweud bod methu defnyddio’r Gymraeg yr un peth â gorfod mynd fyny steps ar olwynion. Ar […] Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Deddf Iaith Gymraeg wan – Anfona neges at y gwleidyddion nawr!

Rai wythnosau yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru drafft o’r Mesur Iaith maen nhw’n debygol o’i basio. Ar ôl ei ddarllen yn fanwl, mae’n glir mai deddf wan fydd hon, ac un sy’n torri’r addewidion a wnaeth Llywodraeth Cymru yn nogfen… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Ymgyrchwyr iaith ‘wedi eu cau allan’ o’r broses ddeddfu, ofna’r Gymdeithas

Methodd y cyn Prif Weinidog Rhodri Morgan gwrdd ag unrhyw fudiad gwirfoddol yn ystod y broses o drosglwyddo pwerau iaith i’r Cynulliad, er ei fod yn ddigon bodlon cwrdd â busnesau mawrion, mae dogfennau a ryddhawyd o dan y ddeddf… Parhau i ddarllen

Dwi Eisiau Bod Yn Americanwr: Deddf Iaith a’r sector breifat

Dwi angen arweiniad. Mae’r holl sylw i “sgandal fawr” Thomas Cook yn gwneud i mi feddwl i ba raddau fyddai deddf iaith newydd yn gallu gwneud unrhyw wahaniaeth mewn sefyllfaoedd fel hyn. Wrth gwrs dwi’n credu’n gryf bod angen i gyrff cyhoeddus … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Llyfr Lloffion: 2/1/06: Rali dros Ddeddf Iaith – Caerdydd

Dyma gair bach i hysbysebu bod Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali i alw am ddeddf iaith newydd Ddydd Llun, 2il o Ionawr 2006 yng Nghaerdydd. Ceir rhagor o wybodaeth ar y daflen uchod. Fyddai’n mynd i lawr o’r gogledd am y ddinas y diwrnod hwnnw, felly … Parhau i ddarllen

Llyfr Lloffion: Rali Deddf Iaith, Caerdydd 1/10/05

Mae Cymdeithas yr Iaith yn trefnu rali ddydd Sadwrn, Hydref y 1af am 2.00yp tu allan i swyddfa Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.Diben y brotest yw cefnogi’r alwad am Ddeddf Iaith newydd, a chondemnio agwedd y llywodraeth bresennol at deddfwriaeth hawliau iaith, pwnc a ddisgrifwyd gan y Prif Weinidog yn ddiweddar yn "boring, boring, boring". Twt lol, mae Rhodres yn gwybod yn iawn mai ei Parhau i ddarllen

Gofalaeth Fro'r Llechen Las: Un Arglwydd

Y mae i Dŷ’r Arglwyddi ei wendidau.  Mae hynny’n amlwg.  Byddai rhai’n falch o’i weld yn diflannu am byth am ei fod yn llawn o bobl nad oes neb wedi eu hethol; am fod rhagor nag un o bob deg ohonyn nhw wedi etifeddu’r hawl i fod yno; ac am fod cymaint o bobl gyfoethog […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Datblygu personas ar gyfer gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Sut all personas helpu i sicrhau bod prosiectau yn canolbwyntio ar y defnyddiwr? Isod mae Dyfrig Williams yn adlewyrchu ar sut maen nhw wedi bod yn rhan o’i waith ar fynd i’r afael â data yn effeithiol. Rydw i wedi bod yn gweithio ar arbrawf i gasglu data ar gyfer archwilwyr fel y gallwn weithio’n […] Parhau i ddarllen

anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg: Na i IPP, Na i Bwerdy Aberddawan, Na i Trump!

Ar ddiwedd mis Ionawr cafwyd nifer o brotestiadau ledled Cymru. Dyma anarchwaethus yn dathlu hyn ac yn bwrw golwg arnynt. Chwalwch “IPP”! Protest tu fas i Swyddfa Profiannaeth Caerdydd Cafwyd protest yn erbyn y ddeddf ormesol “Imprisoment for Public Protection” yng Nghaerdydd ar y 24ain o Ionawr. Mae “IPP” yn cadw carcharorion yn y jail, […] Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn teithio o Fae Caerdydd i Gaerfyrddin

Bydd y Pwyllgor Cynulliad sy’n gyfrifol am graffu ar waith y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn archwilio’r strategaeth i leihau tlodi yng Nghymru a materion eraill yn rhanbarth gorllewin Cymru. Bydd Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener 17 Chwefror am 11.00 yng Nghanolfan … Continue reading Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn teithio o Fae Caerdydd i Gaerfyrddin Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Ennyn mwy o ddiddordeb yn y Cynulliad…

Ym mis Medi, bydd ugain mlynedd wedi mynd heibio ers i bobl Cymru bleidleisio, o fwyafrif bychan, i gael eu Cynulliad Cenedlaethol eu hunain. Dyma’r unig sefydliad gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio o’i blaid. Ers iddo ddod i fodolaeth ym 1999, mae’r Cynulliad wedi tyfu o ran pŵer a chyfrifoldeb. Chwe blynedd yn … Continue reading Ennyn mwy o ddiddordeb yn y Cynulliad… Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Biliau Aelod: Sut fyddech chi’n newid y gyfraith?

Rydw i’n edrych ymlaen at ddau gyhoeddiad ar hyn o bryd: cyhoeddi enillydd balot Bil Aelod cyntaf y Pumed Cynulliad, a chyhoeddi’r enwau a dynnir allan o’r het ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019. Cyn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, bûm yn gweithio yn Japan am ddwy flynedd, felly ddweud yn saff y bydd Cwpan … Continue reading Biliau Aelod: Sut fyddech chi’n newid y gyfraith? Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Pam rydyn ni’n ffocysu ar wella gwasanaethau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’n rheolaidd

Pam fod Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal seminarau sy’n canolbwyntio ar aml-ddefnyddwyr? Isod mae Dyfrig Williams yn amlinellu ein meddylfryd a pham mae gwasanaethau cyhoeddus effeithlon yn canolbwyntio ar ddinasyddion. Mae rhaglen gwaith Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn seiliedig ar y meini prawf canlynol: Deddfwriaeth newydd a datblygiadau arwyddocaol sy’n […] Parhau i ddarllen

shitclic: Deugain a mwy


Anghofiwch am y penawdau negyddol. Ffigurau gwrando gyda’r isaf y ganrif hon (lawr o 171,000 yr wythnos yn 2009 i 103,000 yr wythnos yn 2016). Ffigurau gwrando annelwig RAJAR sydd ddim yn ystyried faint ohonom ni sy’n gynyddol ddal i fyny ar wefan BBC Iplayer. Ond ffigurau, serch hynny, sy’n hawlio’r penawdau (yn enwedig gan elynion yr iaith o fewn Wales Online a BBC Wales) ac yn poeni Betsan Powys byth ers iddi dderbyn yr arswydus barchus bali swydd Golygydd Rhaglenni Radio Cymru yn haf 2014.

Anghofiwch am rwan, achos mae’n achos dathlu! Mae’r hen orsaf yn ddeugain oed ‘leni, fel y clywsom wythnos diwethaf wrth i Gwyn Llywelyn – y darllenydd newyddion cyntaf – gamu i slot y Post Cyntaf a jingls Helo Bobl yn croesawu Al Huws. Ac yn eironig, daeth ail orsaf dros dro Radio Cymru Mwy i ben fel rhan o arbrawf trimis a aeth rhagddo’n “dda” yn ôl Ms Powys. Fel un o’r ychydig breintiedig oedd yn gallu gwrando ar gloc radio digidol yn y De-ddwyrain (roedd gofyn i weddill Cymru wrando’n fyw trwy ap Facebook, iplayer, ac ar deledu lloeren), cefais flas ar gerddoriaeth a gwamalu ben bore Carl ac Alun yn arbennig, ac roedd slot Caryl yn dwyn i gof rhaglenni hynod boblogaidd Caryl a Daf Du a gafodd y fwyell wrth i’r orsaf fachu Dylan Jones amser brecwast. Wrth gwrs, roedd llu o gyflwynwyr eraill na chlywais mohonynt – o’r comedïwr Steffan Alun i’r DJ Elan Evans – ond rhyw wrando brysiog oedd hi acw rhwng cawod, cornfflêcs a bws nymbar 24 i’r swyddfa. Mae rhywun yn diflasu ar undonedd y Post Cyntaf weithiau a’i benawdau/mymryn o ddyfnder wedyn/adolygiad o bapurau Lloegr/straeon chwaraeon a nôl i benawdau eto wedyn. Dw i’n aml yn piciad at Today Radio 4  am fwy o holi a stilio treiddgar ambell waith, Classic FM dro arall. Dibynnu ar yr hwyliau. Felly, roedd Radio Cymru Mwy yn newid yn chênj braf ambell fore.

Wrth i rywun (fi) aeddfedu/heneiddio, rhyw fersiwn Radio 4 o Radio Cymru sy’n apelio fwyfwy. Iawn, dw i’n mwynhau rwdlian Tudur Owen a slot hamddennol Ifan Jones Evans ar ddydd Sadwrn ac wrth fy modd efo Dewi Llwyd, Beti, Dei Tom a Stiwdio Nia Roberts yn ddeddfol ar y Sul. Dw i ddim balchach efo rhaglenni Richard Rees, Gari Wyn na Swn Mawr y Prynhawn. Does gen i fawr o ots o golli’r Talwrn clîcadd chwaith. Mi wrandawa i ar Georgia Ruth ambell waith r’ôl swper, Lisa Gwilym weithiau, ond y teli bocs neu’r e-lyfr bia hi fin nos. Ac yn niffyg drama, dal i fyny ar rai’r iaith fain fydd hi – y diweddaraf oedd Curious Under the Stars gan Meic Povey, am foi lleol yn dychwelyd gyda’i wraig o Lundain i fro ei febyd ar arfordir y gorllewin, i redeg tafarn bron â mynd â’i phen iddi – gyda brodorion smala a naws Cantre’r Gwaelod-blaenslais-Dylan Thomas i’r cyfan. Gyda chast o Gymry Cymraeg yn bennaf (Ifan Huw Dafydd, Elis James, Eiry Hughes, Matthew Gravelle, Siw Hughes), cefais flas mawr ar hon wrth ymlwybro lawr yr A470 syrffedus wedi’r gwyliau. Mae’r holl benodau 45 munud yr un yn dal ar y we i’r rhai chwilfrydig (dalld?!) o’ch plith, ac mae ‘na fwy i ddod yn ddiweddarach eleni. Parhau i ddarllen

anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg: “Y Gwahanfur”, Boneddigeiddio a Phrydeindod

  Difrod Cyfalafiaeth Mae “Y Gwahanfur: Trebiwt a Difrod Cyfalafiaeth” gan Morgan Owen yn anerchiad diweddar yn erbyn boneddigeiddio (“gentrification”) yng Nghaerdydd. Mae’n llawn angerdd barddonol a gwrth-gyfalafol, ac yn werth ddarllen. Disgrifia’r erthygl rhwyg ar hyd Drebiwt, Caerdydd, y gwagle wedi hollti’n “ddwy wlad” gan wahanfur y rheilffordd [2]. Mae’r ochr Dwyreiniol wedi’u boneddigeiddio’n […] Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: LLYWYDD SENEDD CATALONIA CARME FORCADELL O FLAEN Y LLYS

(Adroddiad wedi ei roi ar Facebook gennyf y bore ‘ma)
Y Ddraig Goch yn dangos cefnogaeth i Carme Forcadell (neu o leiaf, fi a Meic Gymro o flaen adeilad y llysty, a’m capan draig goch am fy mhen) am naw o’r gloch y bore ’ma, yn Passeig Lluís Companys, Barcelona). Yn y fideo (26 eiliad) dyma Carme’n mynd i mewn i’r adeilad.
Llywydd Senedd Catalonia yw Carme, ac mae hi’n wynebu ‘Cyfiawnder’ Gwladwriaeth Sbaen am ganiatáu trafodaeth a phleidlais yn y Senedd ar gasgliadau’r comisiwn y ‘Procés Constituent’. Comisiwn yw hwn a fu’n astudio llunio cyfansoddiad ar gyfer gweriniaeth annibynnol arfaethedig Catalonia.
Pam mae rhaid i lwydd Senedd fynd o flaen llys wedi ei chyhuddo o anufudd-dod a chamymddygiad bwriadol, a gwynebu cael eu gwahardd rhag bod yn aelod seneddol neu hyd yn oed cael ei defrydu i garchar? Y TSJC yw’r llys dan sylw (Tribunal Superior de Justícia de Catalunya / Tribiwnal Uchaf Cyfiawnder Catalonia), sef llys o farnwyr o Sbaen sydd yn gweinyddu cyfiawnder yng Nghatalonia.
Rhaid sylweddoli nad oes, i bob pwrpas, wahaniad pwerau yn bod yng ngwladwriaeth Sbaen, a’r pwerau gweithredol, deddfwriaethol a chyfreithyddol yn un, yn nwylo’r Partido Popular, sydd mewn grym ym Madrid.
A rhaid cofio mai olynwyr yr unben Franco sefydlodd y Partido Popular (neu o leiaf, yr Alianza Popular, a newidiodd ei enw nes ymlaen) sydd yn rheoli gwladwriaeth Sbaen. Mae dylanwad yr unben yn drwm ar y blaid honno, yn enwedig y syniad o’r ‘sagrada unidad de España’ (undod sanctaidd Sbaen). At hyn, fe wyddys mai dymuniad olaf yr unben Franco ar ei wely angau fu am i’r brenin, a roes yn ei le fel pennaeth y wladwriaeth, ‘amddiffyn undod sanctaidd Sbaen’.
Rhaid ychwnaegu fod y PSOE (Partido Socialista Obrero Español / Plaid Sosialaidd y Gweithiwr Sbaenaidd) a’u plaid ranbarthol yng Nghatalonia (Plaid Sosialaidd Catalonia) yn gant y cant o blaid y Partido Popular yn mynnu dwyn gwleiddyddion sy’n cefnogi annibyniaeth o flaen eu ‘gwell’.
Mae Senedd Catalonia am gynnal refferendwm ‘swyddogol’ (hynny yw, wedi ei drefnu ar ôl dod i gytundeb â llywodraeth Madrid) a chyfrwymol ar y fater, ond mae Madrid yn ddi-ildio ac yn gwrthod y syniad yn llwyr.
Un ffordd o ddistewi llais y werin, yn nhyb llywodraeth Sbaen, yw trwy ddwyn achos o drosedd yn erbyn gwleiddyddion sydd yn cefnogi annibyniaeth i Gatalonia, a gyrru ofn felly ar y mudiad dros annibyniaeth.

Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Digwyddiad i randdeiliaid ar sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Ar 17 Tachwedd 2016, estynodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wahoddiad i ystod eang o randdeiliaid i drafod rhai o’r materion allweddol o ran sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Mae’r Comisiwn – a fydd yn cael ei sefydlu y flwyddyn nesaf – yn destun ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i gadarnhau … Continue reading Digwyddiad i randdeiliaid ar sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Cynulliad neu Senedd?

Yn ddiweddar iawn cyhoeddodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wahoddiad inni leisio ein barn am gynnig i newid enw’r Cynulliad. Ei dadl yw bod y Cynulliad, dros y bymtheg mlynedd a mwy ers ei sefydliad, yn haeddu enw sy’n fwy urddasol a chywir na’i enw presennol, wrth i’r pwerau sy ganddo gynyddu (bydd […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: I haeddu dyrchafiad dim ond bod yn sylwgar, deallus a sobor sydd raid: Cyfarwyddiadau ar gyfer Heddlu Sir Morgannwg, 1841

Ym mis Tachwedd 1841, wrth i Heddlu Morgannwg fentro allan i faes y gad am y tro cyntaf, rhoddwyd copi o’r Instructions for the Glamorganshire Constabulary Force i bob un ohonynt. Yn dri deg tri tudalen o hyd ac wedi’i argraffu fel ei fod yn ffitio’n dwt mewn poced, roedd y llyfryn yn rhoi ‘cyfarwyddiadau’ […] Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Ariannu’r Dyfodol – newidiadau i’r ffordd mae arian yn cael ei godi a’i wario yng Nghymru

Sut gallwn ni sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau ariannol cywir? Yn ddiweddar, bu Simon Thomas AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad,  yn annerch cynhadledd ‘Dyfodol Diamod’ Swyddfa Archwilio Cymru. Mewn tirwedd sy’n newid o hyd o ran cyllid yng Nghymru, mae’n bwysicach nag erioed fod gennym weithwyr proffesiynol … Continue reading Ariannu’r Dyfodol – newidiadau i’r ffordd mae arian yn cael ei godi a’i wario yng Nghymru Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Yr hyn a ddysgais o gymryd rhan ym mhodlediad #NatterOn

Mae’r ffordd ni’n dysgu a chymryd gwybodaeth i mewn yn datblygu drwy’r amser. Yn y blogbost isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar beth y dysgodd trwy gymryd rhan ym mhodlediad NatterOn. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rydw i wedi bod yn gwrando ar bodlediadau i ehangu fy ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn […] Parhau i ddarllen

Y Papur Gwyrdd: Pwy sy’n dangos arweiniad call a chyfrifol i’r byd wrth i’r Ddaear boethi ar garlam?

Triawd o ddinasoedd. Dwy ohonynt yn brolio enwau cyfarwydd ledled y byd. Llefydd pwysig. Cynefinoedd y mawrion. Y drydedd yn adlais o’r cynfyd, hen werddon rywle yn unigeddau Morrocco, yn perthyn i’r gorffennol. Ond pa un sy’n gwneud cyfraniad call … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Digidol: Mae’n ymwneud ag ailgynllunio, nid busnes fel arfer

Nid oedd ein seminar Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol yn ymwneud ag adnoddau digidol, ond newid mewn meddylfryd. Ond beth y mae’n ei olygu yn ymarferol? Mae Ena Lloyd yn myfyrio ar yr hyn a ddysgodd o’r digwyddiad. Rwyf wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno seminar diweddar ar […] Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Anobeithio

Cloais y blogiad diwethaf trwy ddweud fy mod yn teimlo’n besimistaidd am gyflwr y byd. Roedd hynny cyn i Donald Trump, ffasgydd twp hiliol, ennill etholiad arlywyddol America. Teg dweud felly bod pethau’n edrych hyd yn oed yn dywyllach erbyn hyn.

Rwyf wedi diflasu ers misoedd ar y syniad mai pryderon economaidd sy’n gyrru cefnogwyr Trump, a chefnogwyr mudiadau dde eithafol Ewrop. Y gwir amdani yw bod y Trumpiaid yn llawer mwy cyfforddus yn ariannol na chyfartaledd y boblogaeth. Dro ar ôl tro, rydym wedi clywed y bobl hyn yn egluro’u rhesymau’n ddigon plaen, ac mae’n hen bryd i ni eu trin fel oedolion a derbyn eu gair: hiliaeth a misogynistiaeth sydd wedi gyrru’r ffenomen. Nid cefnogi Trump er gwaethaf ei sylwadau am fwslemiaid a phobl croenddu a Hispaniaid a wnant, ond o’u herwydd. Adwaith yn erbyn edwiniad goruchafiaeth y dyn gwyn yw hyn, a dyhead i droi’r cloc yn ôl i oes aur ddychmygol na fodolodd erioed mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed y grwgnach am gytundebau masnach a’r ‘sefydliad’ yn drewi o hiliaeth, gan ei bod yn amlwg mai côd ar gyfer iddewon yw’r holl gyfeiriadau at global elites.

Rwy’n gweld rhai rhyddfrydwyr yn cwyno nad yw dadansoddiad fel yr uchod yn adeiladol, a bod angen i ni wneud mwy i ‘ddeall’ pryderon y ffasgwyr newydd. Ond beth yn fwy sydd yna i’w ddweud? Nid oes gennyf lawer o empathi i’w gynnig i hilgwn fel y rhain. I garfan sydd wedi arfer mwynhau statws mor freintiedig, mae cydraddoldeb i grwpiau eraill yn teimlo fel bygythiad. Ymddengys bod llawer o ryddfrydwyr yn amharod i dderbyn bod cynifer o hilgwn yn ein plith. Mae’n ddigalon, ond nid oes gobaith o ddatrys y sefyllfa heb i ni gydnabod y broblem yn y lle cyntaf.

Beth yw’r ateb, felly, heblaw am aros ambell ddegawd i’r genhedlaeth fwyaf hunanol erioed – y baby boomers gwyn – farw? Oes yna un? Mae pethau’n sicr o waethygu cyn gwella yn fy marn i. Mae buddugoliaeth Trump yn debygol o roi hwb i fudiadau tebyg mewn gwledydd eraill. Cynhelir etholiad arlywyddol nesaf Ffrainc, er enghraifft, ym mis Ebrill a Mai flwyddyn nesaf, a bydd y gwynt yn hwyliau Marine Le Pen. Felly hefyd Geert Wilders yn yr Iseldiroedd yn eu hetholiad cyffredinol hwythau ym mis Mawrth. Ar ben hynny, bydd hyn yn annog arweinwyr lled-awtocrataidd rhai o wledydd dwyrain Ewrop, fel Hwngari a Gwlad Pwyl, i barhau ar eu trywydd anrhyddfrydol. Yn wir, af mor bell â darogan bod yr Undeb Ewropeaidd bellach yn ei degawd olaf. Byddai hyn wedi swnio’n anhygoel ddwy flynedd yn ôl, ond y gwir yw bod ein sefydliadau a strwythurau cenedlaethol a rhyngwladol yn dadfeilio o flaen ein llygaid. Rwy’n nerfus. Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Byddaf yn gwirioneddol wasanaethu’n dda ein Harglwyddes Sofran y Frenhines a swydd Cwnstabl Sir Forgannwg: Ffurfio Cwnstabliaeth Morgannwg yn 1841

Mae Cwnstabliaeth Morgannwg yn dathlu pen-blwydd ei ffurfio 175 o flynyddoedd yn ôl yn 2016. Mae llawer o’r papurau sy’n ymwneud â sefydlu’r llu a’i hanes hir i’w cael yn Archifau Morgannwg. Mae’r cofnodion yn  rhoi cipolwg fanwl i ni ar ffurfio a datblygiad y llu ers 1841, ac yn agor cil y drws ar […] Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Brexit yng Nghymru – Erthygl 50 a’r Uchel Lys: Beth mae’n ei olygu?

Ar 3 Tachwedd 2016, penderfynodd Uchel Lys Lloegr a Chymru nad oes pŵer gan Brif Weinidog a Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r uchelfraint i sbarduno Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon i ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gydsyniad y Senedd. Beth yw pwerau uchelfraint? Mae sefydliadau’r DU yn seiliedig ar yr egwyddor o … Continue reading Brexit yng Nghymru – Erthygl 50 a’r Uchel Lys: Beth mae’n ei olygu? Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Brexit yng Nghymru – Amaethyddiaeth a Physgodfeydd

Wythnos diwethaf, canolbwyntiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol eu sylw ar Amaethyddiaeth a Physgodfeydd a’r goblygiadau i Gymru wrth gefn penderfyniad y DU i  ymadael â’r UE. Gallwch wylio’r sesiwn cyfan ar  Senedd.TV. Fel rhan o’r sesiwn, gwahoddwyd yr Aelodau banel o arbenigwyr i drafod eu barn ar y meysydd i’w blaenoriaethau yn … Continue reading Brexit yng Nghymru – Amaethyddiaeth a Physgodfeydd Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Ydych chi’n cofio haf ‘99? Yma, bydd rhai sydd wedi gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol o’r dechrau yn cael cipolwg yn ôl ar y dyddiau cynnar hynny

Ym mis Mai 1999, yn dilyn refferendwm a gynhaliwyd ym 1997 a phasio Deddf Llywodraeth Cymru ym 1998, cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei Gyfarfod Llawn cyntaf yn yr hyn a elwid bryd hynny’n Dŷ Crucywel ym Mae Caerdydd. Mae llawer wedi digwydd dros y 17 mlynedd diwethaf, ond mae rhai pethau wedi aros yr un … Continue reading Ydych chi’n cofio haf ‘99? Yma, bydd rhai sydd wedi gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol o’r dechrau yn cael cipolwg yn ôl ar y dyddiau cynnar hynny Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Pam nad oes yna Aelodau Cynulliad annibynnol

Wel, mae yna Aelodau Cynulliad Annibynnol – Nathan Gill a Dafydd Ellis Thomas – ond chafodd nhw ddim eu hethol fel ymgeiswyr annibynnol, cael eu hethol fel ymgeiswyr pleidiol wnaethon nhw a throi cefn wedyn.  Ar hyn o bryd dim ond un Aelod Seneddo… Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: GovCamp Cymru: A allwn ni newid ymddygiad ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus gwell?

Fe wnaeth Dyfrig Williams cynnig sesiwn yn GovCamp Cymru ar sut all damcaniaeth newid ymddygiad helpu i ymgorffori syniadau a gynhyrchwyd yn anghynadleddau mewn sefydliadau. Isod mae’n amlinellu beth ddysgodd o’r sesiwn. Roedd GovCamp Cymru eleni yn ddigwyddiad gwych. Cynigiais i sesiwn ar newid ymddygiad pobl tu fewn i mudiad er gwella gwasanaethau cyhoeddus. Fe […] Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Brexit yng Nghymrucyllid – Ymchwil a Buddsoddi

Wythnos yma, canolbwytiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol eu sylw ar gyllid yr UE, ymchwil a buddosddi a’r goblygiadau i Gymru. Gallwch wylio’r sesiwn llawn ar Senedd.TV. Amcanion y sesiwn oedd ystyried: y goblygiadau i Gymru wrth i’r DU adael yr UE, o safbwynt y gallu i fanteisio ar nifer o ffynonellau cyllid … Continue reading Brexit yng Nghymrucyllid – Ymchwil a Buddsoddi Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Mae agor pwyllgorau i fyny yn gam ymlaen i ddemocratiaeth gryfach yng Nghymru

Dr Andy Williamson, Hydref 2016 Mae’n wych gweld y pumed Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau gyda bwriad cryf i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd. Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu eisoes wedi dechrau, gyda chadeirydd y Pwyllgor, Bethan Jenkins, yn gofyn i’r cyhoedd helpu i lywio’r hyn maent yn siarad amdano drwy amrywiaeth o gyfryngau arloesol … Continue reading Mae agor pwyllgorau i fyny yn gam ymlaen i ddemocratiaeth gryfach yng Nghymru Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Ymadael â’r UE: Y goblygiadau i Gymru – Datblygiadau yng Nghymru

Yn dilyn pleidlais y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn archwilio’r goblygiadau i Gymru. Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn gyfrifol am sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu diogelu yn ystod y broses adael ac yn y perthnasoedd domestig, Ewropeaidd a rhyngwladol sy’n dilyn. … Continue reading Ymadael â’r UE: Y goblygiadau i Gymru – Datblygiadau yng Nghymru Parhau i ddarllen