Canlyniadau Chwilio: garddio

Ar Asgwrn y Graig: Garddio guerilla a biwrocratiaeth dda!

Peidiwch a deud wrth neb, ond mae’r Fechan a fi wedi bod yn hau hadau ar verges y ffordd gefn acw. Rebals wîcend go iawn.

Erbyn eleni, roedd ein pabis melyn, pabis coch, pig-yr-aran, mantell y forwyn, llysiau milwr, ac ati yn addurno lleiniau o laswellt fan-hyn-fan-draw, ac er bod y Cyngor Sir yn eu torri’n achlysurol, roedden nhw’n edrych yn well na’r glaswellt bwrdeistrefol, unffurf arferol. Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dechrau’r tymor garddio

Dwi ddim wedi edrych i weld pa hadau sydd gen i ar ôl eto, ryw fath o “audit“, am wn i, cyn prynu mwy o hadau.  Ond, ar ddydd oer, dydd Sadwrn, mi es gyda ffrind i’r ganolfan garddio yn Buckingham i brynu tatws i blanu.  Dim y lle agosaf ydy’r canolfan yma, ond mae o’n dda ar gyfer prynu tatws, gan fod gymaint o ddewis. (Ond aethon ni cyn y benwythnos tatws – dim isio mynd pan oedd o mor frysur!)


Mae o’n hawdd prynu gormod, felly ond tri fath wnes i brynu; dydy’r ardd ddim yn ddigon fawr i blannu ormod o tatws: felly “pink fir apple“:


“international kidney 


am fy mod yn hoff iawn o’r rhain.  Yr international kidney“ ydy’r math dach chi’n cael os dach chi’r prynu tatws newydd Jersey.  Hefyd dwi isio prynu rywfaint o tatws “Sarpo“ sydd wedi eu datblygu fel bod nhw yn llai debygol o cael yr haint “blight“.  Ond, be doeddwn i DDIM yn gwybod, oedd bod yr ymchwil yn cael eu gwneud yng Ngogledd Cymru – gwelir fama.  Prynais rhywbeth tebyg – Sarpero, sydd i fod yn dda os does dim digon o law.
Eleni roedd y shibwns (dim yn siwr o’r gair gorau am shallots) yn anobeithiol.  Dydyn nhw ddim yn dda mewn tywydd sych a phoeth.  Ond, dwi am drio eto, felly dwi wedi prynu dwy fath o shibwns hir: dwi’n hoff iawn o goginio gyda nhw, ond dim y rhai bach sydd yn annodd eu drin.  A dyma rhai mae fy ffrind wedi rhoi i fi, rhai a oedd hi wedi tyfu eleni.  


Edrych yn dda ac yn flasu’n dda hefyd.  

Neithiwr cawsom haen fach o eira, dim llawer, ond digon i’r ci fwynhau ei hun yn yr eira.  Mae o’n amlwg bod yr ogleuon yn dda

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Garddio, o’r diwedd

O’r diwedd, dipyn o haul!  Cyfle i fynd i’r ardd a tocio’r mafon.  Dwi ddim yn dallt pan mae’r llyfrau i gyd yn dweud bod rhaid tocio mafon hydref ym mis Chwefror.  Pam ddim ar ôl iddyn nhw orffen ffrwytho ar ddiwedd y flwyddyn?  Beth bynnag, gyda’r tywydd mwyn (er gwaetha’r glaw), roedd tyfiant yn dechrau dangos, felly hen bryd i dorri nhw i lawr.  Ond dim llawer o gyfle, gyda’r glaw.  Ond heddiw, ar ôl diwrnod a ddechreuodd yn ddigon stormus ddoe, roedd yr haul yn gwenu: 

felly ar ôl mynd a’r ci am dro dyna ddechrau ar y mafon.  Dyma sut oedden nhw cyn dechrau:
A dyma sut oedden nhw ar ol tocio am dipyn o amser, a hefyd tynnu rhai allan, oherwydd mae ’na ffrwythau eraill yn y gwely hefyd, fel gwsberen, cyrans du a chyrans coch – a r’oedd popeth ar draws ei gilydd, rywsut.
Dwi ddim wedi gwneud lawer o arddio o gwbl eto eleni, ond yn y tŷ gwydr mi wnes i wasgaru hadau letys penwythnos diwethaf, ond dwi braidd yn sicr bod y llygod wedi bod atynt – felly heddiw, mae’r hadau yn mynd i’r lofft a mi wnai chwilio am y trap llygod.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Garddio gerila

Mi es i ddarlith gan Richard Reynolds ddoe a oedd wedi dod i’r Clwb Garddio yn y gwaith.  Mae Richards wedi bod yn gwneud llawer o arddio gerila yn Llundain dros y blynyddoedd diwethaf .
Mae na lyfr allan rwan – mewn sawl iaith – ond dim Cymraeg (prosiect i rywyn?).  Efallai mi roi o ar fy restr Nadolig.  Ond yn y cyfamser dwi wedi cael fy ysbrydoli i weud dipyn fach mwy o arddio gerila (os gai amser!).  Siaradodd Richard am arddio yn ei filltir sgwar yn Llundain a roedd ganddo lawer o luniau i ddangos ac ysbrydoli ni.  Un peth a wyddon i ddim amdano oedd y pobl sydd wedi bod yn garddio mewn tyllau yn y lôn!  
Ac yn ol yn fy ngardd gerila fi – ty allan i fy waliau….wel, mae’r coed ffrwythau wedi bod yn ardderchog eleni, gyda digonedd o eirin a’r gellyg newydd hefyd wedi ffrwytho.  Hefyd, dydy’r wiwerod lleol ddim wedi darganfod y coed cnau eto, felly dyma’r cnwd eleni.  
Braidd yn fach oherwydd dwi’n meddwl, roeddwn more brysur yn casglu’r ffrwythau, nes i ddim gasglu’r cnau am dipyn, ac o ganlyniad, rodden nhw wedi disgyn o’r coeden a rhai wedi cael eu fwyta.  Ond mae nhw’n ardderchog wedi eu rostio.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Garddio cymunedol a Tyfu Pobl


Dwi’n hoff iawn o’r cyfuniad o bwyd, garddio,(llysiau a ffrwythau yn enwedig) a gwneud pethau cymunedol.  Dydy fy ngarddio i ddim yn gymunedol, gan mai gardd  sydd gennyn ni, yn hytrach na rhandir.  Ond mae prosiect yn Wolverton, dim yn bell o lle dwi’n byw yn tyfu llysiau, ffrwythau a dipyn o flodau, ac hefyd yn  yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc mewn garddwriaeth (horticulture).  Enw’r prosiect ydy Growing People – sydd yn andros o debyg i Tyfu Pobl
 – cyfres newydd ar S4C, gyda Bethan Gwanas a Russell Jones.


Mi es i ymweld a’r “Urb Farm“yn Wolverton, lle mae’rprosiect; ryw bedair filltir i ffwrdd, dydd Sadwrn, gan bod Diwrnod Agored yna.  Mae gennyn nhw ddau acer a hanner 

– ac yn tyfu bob fath o lysiau, gyda cymorth gwirfoddolwyr, yn ogystal a’r hyfforddwyr, ac yn cadw gwenyn a ieir. Dyma llun cwch gwenyn gwyllt 



– a hanes y cwch, 


a  gwirfoddolwraig.  


Mae hi wedi dod ar sail  y cynllun “WOOF“ – “Working On Organic Farms“ ac yn aros yn lleol.  Ond mae gwirfoddolwyr o’r dinas hefyd yn cyfranu at y prosiect.  Mae gennyn nhw (Growing People) cynllun bocs llysiau gwahanol.  Yn lle cael bocs gyda beth bynnag mae nhw eisio roi i chi, a ffeindio bod gennych chi lwyth o fresych deiliog (neu be bynnag dach chi ddim yn hoff iawn ohono fo) mae’r prynwyr yn medru edrych ar y wefan i weld be sydd ar a gael yr wythnos honno – a wedyn archeb be yn union mae nhw eisio.  Syniad gwych!

Ar ol gadael, aethon i ymweld a pherllan gymunedol gerllaw sydd yn llawn o syniadau  a phethau gwych – fel y sied yma

– yn edrych fel rhywbeth o’r reilffordd, a’r olwyn perlysiau, i ddenu gwenyn a glöynnod byw 


– a gwybodaeth amdanyn nhw hefyd i’w chael:

  

A beth am hwn fel rhywbeth i wneud y pwll bach yn saff – ac yn atynidadol hefyd!


Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Garddio yn y Gymraeg

Er gwaetha’r tywydd da, rwyf i wedi bod ynghlwm wrth y sgrîn fach – yn darllen blogiau pobl eraill. Mae cymaint o bobl yn blogio yn y Gymraeg erbyn hyn, yn enwedig ar fy hoff bynciau i: bwyd, garddio, yr amgylchedd a gwleidyddiaeth. Ceir rhestr anhepgor gan Hedyn fan hyn Gadewn ni’r gwleidyddol am y […] Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Darllen a garddio

Wnes i ddim lwyddo i flogio eto cyn diwedd mis Mehefin.  Parhau yn brysur a dyma ni ar ddechrau mis Gorffenaf.    Wythnos diwethaf es i gyfarfod Clwb Darllen Llundain.   Y tro yma roedden yn trafod Un Nos Ola Leuad.  … Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Sioe Blodau Chelsea a garddio dros y gwyl banc

Es i Chelsea gyda tair ffrind dydd Gwener a chawsom amser gwyll.  ER ei fod yn bwrw – yn galed – trwy’r dydd.  Efallai mai un fantais o’r glaw oedd bod llawer o bobl yn mynd i gysgodi, a r’oedd yn haws gweld y gerddi.  Mae o’n sioe brysur iawn bob tro, dwi’n meddwl. Dyma rhai o’r gerddi gorau (yn fy marn i!):
Gardd Cymraeg!  Un garreg.  Un o’r gerddi crefftwyr (artisan gardens) oedd hon. 

Un arall bendigedig oedd Gardd M&M 



A hefyd gardd Homebase  



Erbyn dydd Sadwrn roedd hi’n braf a heulog, felly penwythnos o weithio yn yr ardd – ar ôl yr holl ysbrydoli.  Treuliais cryn dipyn o amser yn tacluso ac yn chwynnu: yn enwedig i gael y chwyn allan o’r brics wrth ymyl y tŷ. Mae’r ffa i gyd i fewn, rwan, a hefyd y courgettes, a’r tomatos i gyd i fewn yn y system a phrynais eleni.  A dyma ychydig o luniau o’r ardd.






Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Darllen, garddio, cogninio, bwyta…

Pedwar peth dwi’n hoffi, er fy mod i ddim yn gwneud llawer o goginio’r dyddiau yma.  Ta beth, mae hi wedi nod yn benwythnos oer, oer a llwyd.  Gwahanol iawn i benwythnos diwethaf, pan roedd yn teimlo fel Gwanwyn.  A fell y does dim llawer o awydd i godi yn y bore, er bod rhaid yn y diwedd i fynd allan gyda’r ci.  Ond cyn gwneud hynny, dwi wedi bod yn darllen dipyn bach.  Ar y funud dwi’n darllen Y Storïwr.  Mae o wedi cael adolygiau da iawn.  



Doeddwn i ddim yn siŵr ar y ddechrau, ond rŵan dwi’n mwynhau o gymaint.  Llyfr dwi ddim eisiau gorffen, felly dwi’n trio peidio rhuthro trwyddo fo gormod.  Dyma be mae Janice Jones yn dweud: “Mae iaith y nofel hon yn llifo, a chyda’i holl haenau a’i holl ddarlleniadau posibl, mae’n gyfrol fydd yn plesio darllenydd mewn modd personol ac unigryw”. 


 

Ond doedd o ddim yn bosib darllen trwy’r penwythnos.  Aethom allan i’r meithrinfa yn Buckingham  i brynu goeden fedwen arian.  Roedd un yn tyfu yn yr ardd gefn: wedi bod yna am flynyddoedd, ond llynedd, roedd yn amlwyg ei bod wedi marw.  Mae’r fedwen, ar wahan i fod yn dlws, yn ddefnyddiol iawn i adar gwyllt.  Felly roedden ni eisiau un arall,  a tra bod ni yna, prynu shallots newydd, oherwydd bod y rhai a aeth i fewn yn y Hydref wedi pydru gyda’r holl glaw, a dipyn o hadau.  Rhyfedd fel ei bod bron yn amser i wasgaru cenin, er bod cenin llynedd yn dal yn yr ardd.  Ond dim llawer ohonnyn nhw.




Un hoff ryseit ydi “Leek Corustade” yn yr hen lyfr Cranks.  A dyna be wnes i ar ol dod yn ol  o’r feithrinfa.  Roedd hi bron yn dywyll erbyn i fi fynd allan i’r ardd i gasglu’r cenin.  A dyma llun o’r “Croustade” wedi ei goginio.  Dydy o ddim yn edrych rhy dda yn y llun, ond mi roedd yn flasus!

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Gwobr blog garddio, chwilota a pupurau

Mae’r Guardian wedi ennill gwobr  am ei flog garddio.  Dwi’n meddwl ei fod yn flog  ardderchog.  Mae Jane Perrone, golygydd garddio y Guardian hefyd yn gwneud blog personol   sy’n dda iawn he… Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Garddio yn y Glaw

Mae’r tywydd hyd yn hyn wedi bod yn rhyfedd. Ers y Pasg, pan gawsom ni gyfnod heulog braf, daeth llawer mwy o law, a llawer llai o haul ac felly gwres, na’r arfer. Dyma ichi enghraifft: ar y chwith, y ffa a’u polion cryf (ar ôl y llynedd, pan gwympodd hanner y cnwd oherwydd ei […] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Llyfr Garddio

Diolch i Wilias, mynych sylwebydd, am y cofnod hwn. Dro’n ôl bues i’n sôn am gompost, a deilbridd – daeth y gair olaf yna o ‘Lyfr Garddio’  J.E.Jones, drwy law Wilias. Felly es i ati ar unwaith i chwilio ar y we,  a heddiw fe gyrhaeddodd drwy’r post. Hwrê! Y math o lyfr y gelli […] Parhau i ddarllen

Tonnau'r Haul i Bethau Lliwgar a Blasus: Garddio efo caib

Dwi’n meddwl mai Monty Don ddwedodd rwbath fel ‘ar ôl cymryd mor hir i baratoi’r gwely ‘ma, mi wnei di gofio peidio cerdded arno’! Cymerodd cwpl o oriau i mi wneud tua 2 fedr o’r gwely yn y twnnel, a llenwais y ferfa 4 gwaith efo cerrig! Ma’r tir yn hollol sych, heb lyngyr, ond […] Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Cynlluniau

O’r diwedd mae’r dyddiau yn ymestyn dipyn bach, a mae’r tymor garddio yn nesau.  R’on i a fy ngŵr yn Ludlow dros y benwythnos yn ymweld a ffrindiau – dyma’r olygfa o lle roedden yn aros.  
Gwych.  Ond roedd y tywydd yn ddigon wlyb, yn enwedig ar y dydd Sul, pan roedden yn teithio’n ôl.  Felly cawsom hoe bach yn y ganolfan garddio yn Buckingham.  Fel bron bob ganolfan arddio arall, mae’r ganolfan yma wedi dechrau gwerthu bob fath o bethau gyda dim gysylltiad a garddio o gwbl.  Serch hynny, maent yn tyfu eu planhigion ein hunan, ac yn gwerthu tatws ar gyfer plannu yn rhydd.  Felly es ati i brynu ychydig o datws i blannu eleni, yn cynnwys tatws Ratte.  
Dwi’n cytuno gyda’r dyn sydd wedi sgwennu’r blog yma: mae ’na blas ardderchog arnynt.
Ond syn dechrau eto gyda’r ardd – a mae hi braidd yn gynnar ar hyn o bryd, dwi am trio dacluso rhan o’r ty, ac yn holl bwysig, cael gwared o bethau dan ni ddim wir angen mwyaf.  Dwi’n ofni bod orchwyl hir o fy mlaen i………….. 

Parhau i ddarllen

Goroesi chwe mis o gemotherapi: Sgwennu

Does dim esgus gen i bellach dros beidio â sgwennu’r cofiant sydd ar y gweill ers tua pum mlynedd.  Cofiant dwy hen ffrind o’r Almaen ydi o: Paula (y lluniais i ysgrif amdani ar gyfer y Genedlaethol) ac Ilse, ei … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Dyddiaduron Henry Fothergill

Mae project gwirfoddoli hirdymor yn Archifau Morgannwg wedi dod i ben o’r diwedd – mae pob un o 22 o ‘Ddyddiaduron Fothergill’ wedi’u trawsgrifio. Mae’r dyddlyfrau, sy’n groes rhwng dyddiadur a theithlyfr, yn disgrifio bywyd y meistr haearn Henry Fothergill o 1860 – pan oedd y teulu Fothergill yn benaethiaid ar Gwmni Haearn Aberdâr – […] Parhau i ddarllen

Llafar Bro: O na fyddai’n haf o hyd

Erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf, fel cyflwyniad i gyfres o ysgrifau gwadd yn ymateb i refferendwm Ewrop yn haf 2016.

Tywydd gwylio teledu, yn hytrach na thywydd crwydro a garddio gawson ni ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf eleni, felly … Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Yr wythnos mewn ffigyrau

6% – y nifer ddywedodd eu bod nhw’n bwriadu pleidleidio i UKIP mewn etholiad cyffredinol yn ol pol diweddaraf IPSOS MORI.  Mae hyn 1% yn is na’r Lib Dems.

€0.99 – faint oeddech yn ei gael am £1 ym meysydd awyr Luton a Stanstead yn gynharach wythnos  yma.  Gallech fod wedi cael €1.15 gan Travel FX.
80% – y tebygolrwydd mai Clinton fydd yn ennill arlywyddiaeth yr UDA – a barnu o’r marchnadoedd betio.
89% – y tebygolrwydd mai Corbyn fydd yn ennill etholiad arweinyddol Llafur – a barnu o’r marchnadoedd betio.

50% – y tebygolrwydd y bydd Farage yn ymuno a phlaid ag eithrio UKIP o fewn y flwyddyn – eto a barnu o’r marchnadoedd betio.

£24,325 – y cyfanswm o bres (pro rata 37 awr) mae aelod Llafur, Canol Caerdydd, Jenny Rathbone yn ei gynnig o’i lwfans staffio i rhywun sy’n fodlon garddio yn ei hetholaeth am naw awr yr wythnos.

$85,498,596 – faint mae Hillary Clinton wedi ei wario hyd yn hyn ar ymgyrchu yn nhaleithiau ymylol Colorado, Florida, Iowa, Nevada, New Hampshire, North Carolina, Ohio, Pennsylvania a Virginia.

$9,098,720 – faint mae Donald Trump wedi ei wario hyd yn hyn yn yr un taleithiau.  




Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: “Gwneis gymmysgdail i fy lawnt”

Nid pawb sy’n gwirioni ‘run fath.
Lawnt anniddorol iawn ydi un berffaith os ‘da chi’n gofyn i mi.

Na, dwi’n gwbod bo’ chi ddim yn gofyn, ond pwy sydd isio treulio amser yn torri glaswellt yn rheolaidd? A chribinio; a fforchio; ac ychwanegu tywod bras; a dyfrio; a gwrteithio; a lladd chwyn a lladd mwsog; a dilyn streips hirsyth caeth?

Mae ‘garddio ar gyfer bywyd gwyllt’ yn rhoi rhwydd hynt i Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Mehefin yn yr ardd ac ar y comin

Rhywsut, rhwng gwaith (yn enwedig gwaith marcio), hyfforddi’r ci, cerdded gyda’r ci, garddio a bywyd bob dydd dwi ddim wedi llwyddo i gyfrannu at y flog yma am dipyn.  Yn yr ardd, mae’r tywydd, a’r bywyd gwyllt wedi bod yn heriol, yn sicr.  Ar ôl wythnos oer, diflas, tywydd poeth sych a wedyn storm fawr, a wedyn tywydd sych a poeth eto.  A fel arfer yr amser yma o’r flwyddyn, rhedeg o gwmpas yn trio symud yr holl blanhigion o’r tŷ gwydr i fewn i’r ardd, gyda dipyn o lwydddiant a dipyn o fethiant.  Yn fama, mae’r gwlithod a’r malwod yn cael tymor arbenning o dda.  Dyma’r courgettes ar ôl un noson yn yr ardd:

Defnyddiais “SlugGone“ sydd wedi eu gnweud o wlan defaid ac yn arbenning o ddrud – ond mi wnaeth o weithio llynedd.  (Gyda llaw, mae cyfle arbennig i ffermwyr gyda defaid i wneud rhywbeth debyg ond yn costio pris mwy derbyniadwy – os nad ydy ’patent’ wedi gwneud hynny’n amhosib).  Ond eleni – yn amlwg, wnaeth o ddim gweithio.  A falle bod y ffaith bod y gwely ar gyfer y courgettes yn agos i rhan o’r ardd sydd wedi mynd braidd yn wyllt gyda llawer o chwyn – lle ddefrydol i falwod a wlithod cuddio – ddim yn helpu.  Yn y tŷ gwydr o’r diwedd mae’r tomatos a’r aubergines a’r pupurau a basil i gyd yn y pridd, er bod yr aubergines a’r pupurau ddim yn edrych rhy dda. Dyma sut oedd rhan o’r 

tŷ gwydr yn edrych ychydig yn ol a’r planhigion i gyd yn aros i fynd i’w llefydd….

Mae’r dahlias wedi mynd i mewn hefyd, a hyd at hyn dim wedi cael eu bwyta i gyd, ond dwi wedi colli rhai o’r cosmos, yn bendant.  Dim byd i’w gwneud ond rhoi hadau i fewn unwaith eto, neu prynu planhigion o’r ganolfan garddio.

Yn ddiweddar dwi wedi bod allan bron bob dydd yn y bore gyda’r ci, yn aml yn fuan ar y comin, a mae o wedi bod yn hyfryd.  Dwi’n gweld (neu clywed) pedwar neu pump fath o aderyn yn gyson: yr ehedydd, y llwydfron, bras y cyrs, corhedydd y waun a weithiau’r llinos, y nico a’r llinos werdd.  A braf iawn ydy eu gweld nhw.



Dyma bras y cyrs; adar hardd, a dyma corhedydd y waun.

Does dim llun o’r llwydfron ar y comin, ond dyma lun o un with yml Nantgwrtheyn:


Os dwi’n cael cyfle i fynd i lawr i’r cae isaf, wrth yr afon, dwi hefyd yn edrych yn y cae sydd drws nesaf i’r cae yma, lle mae gwenith yn cael eu dyfu a lle mae coed yn tyfu yng nghefn y cae.  Yn fam, weithiau mae llwynog i’w gweld yn y bore yn chwilota o gwmpas y coed, a gwell eto, sgwarndogod yn y cae, ond dwi ddim wedi gweld un eleni.  Ond bore ddoe, roedd carw mwntjac yn pori yng nghefn y cae.  Rhy bell i gael llun da yn anffodus.



Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cynhaeaf

Mae gan yr ysgol feithrin yn Tokyo mae fy merch yn dysgu Saesneg ynddi nifer o weithgareddau hwyl i’r plant. Garddio ydy un ohonyn nhw. Mae’r plant yn plannu llysiau, gofalu amdanyn nhw, a’u cynaeafu. Cawson nhw gynhaeaf llwyddiannus o bigoglys yn ddiw… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: rhosod

Mae fy “mabi” arall newydd flodeuo – sef y rhosod yng nghefn y tŷ. Wedi cael eu plannu gan berchennog arall, maen nhw’n blodeuo’n ffyddlon bob gwanwyn ynghyd â’r iris a’r lleill. Dw i ddim yn hoffi garddio ac felly dim ond chwynnu gwnaf, ond dw i’n edrych ymlaen at eu gweld nhw bob blwyddyn beth bynnag.  Parhau i ddarllen

S4C Caban: Mwynhau rhyfeddodau gwyllt gerddi a chefn gwlad Cymru

P’un ai moron neu fadfallod sy’n mynd â’ch bryd, bydd y gyfres newydd Garddio a Mwy ar S4C yn siŵr o apelio. Bob wythnos, yn dechrau nos Fercher, 27 Ebrill, bydd y rhaglen yn dod o ardd Pont-y-Tŵr ger Dinbych, …Darllen mwy Parhau i ddarllen

fel y moroedd: asalea

Mae’n hasalea ni at ei anterth rŵan. Mae’n disgleirio yn yr heulwen. Dw i ddim yn hoffi garddio ond roeddwn i’n trio gofalu amdano fo gan dorri canghennau diangen yma ac acw, a rhoi dŵr a choffi o bryd i’w gilydd. Mae’r llwyn yn fwy na’r llynedd, dw i’n meddwl. Braf gweld canlyniad fy ngofal. Roeddwn i ar fyn rhoi rhagor o goffi iddo, ond darllenais ar ddamwain ddylech chi beidio â gwneud hynny tra bod yna flodau. Trwch blewyn! Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Arbrawf rhif 400…

Mae Dydd Gwener y Groglith yn teimlo fel dydd calan i mi. Diwrnod cynta’r flwyddyn o ran garddio go iawn. Y diwrnod cyntaf o wyliau hefyd yn aml iawn. Mae’r dydd yn hirach, y pridd yn g’nesach, a’r brwdfrydedd yn berwi.

Dwi ddim yn llwyddo bob tro, ond dwi’n trio plannu’r tatws cynnar ar Ddydd Gwener Groglith bob blwyddyn. Mi gawson ni ddiwrnod sych eleni, a’r haul yn sbecian bob-yn-ail rhwng y Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Hostel Sant Dunstan i Filwyr a Morwyr a Ddallwyd

Wrth i’r Rhyfel Mawr fynd rhagddo, cafodd De Cymru nifer gynyddol o filwyr wedi’u hanafu, yn bennaf o Ffrainc a Gwlad Belg ond, weithiau, o gyn belled â’r Dardanelles. Deliwyd â’r achosion mwyaf brys a difrifol mewn ysbytai milwrol mawr a sefydlwyd mewn canolfannau fel Caerdydd. Hefyd, sefydlodd y Groes Goch dros 40 o ysbytai […] Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Mae’r hydref yma

Mae’r cynhaeaf yn parhau.  Mae’r afalau yn cael eu fwyta neu yn mynd i fewn i crymbl; mae’r basil wedi cael ei ddefnyddio i wneud pesto, a’r llysiau eraill yn mynd i fewn i’r cinio dydd Sul, neu cyri. Dyma ychydig o luniau: yr aubergine wedi cael ei frathu – malwod efallai – ond digon yna i wneud cyri, a digonedd o ciwcymber ar gyfer y raita i fynd hefo fo a’r basil a’r pesto yn barod i’r rhewgell.

Yn ddiweddar dan ni wedi bod yn casglu’r cnau ’Cob“, ac yn falch bod y wiwerod dim wedi eu ddarganfod.  
Ond gyda’r gwledd o fwyd, mae’r tymor yn symud ymlaen yn gyflym. Mae’r dydd yn byrhau, ac yn fuan bydd o’n amser i eistedd o flaen y tân ac i ddarllen yn hytrach na garddio.  Felly dwi wedi bod yn ymarfer dipyn ac yn ddiweddar wedi gorffen darllen Y Ddraig Goch – ac wedi mwynhau’r nofel yn fawr iawn.  Mae’n stori glyfar sydd yn symyd yn gyflym.
Ar y funud dwi’n mwynhau ‘This Boy’ gan Alan Johnson ond does dim llyfr Cymraeg arall ar y gweill.  Mi faswn yn gwerthfawrogi syniadau!

Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Y Lôn Goed

Na dim byd am Asturias, na garddio, na fiestas. Yn ystod taith i weld fy chwegr yng ngogledd Cymru, penderfynonasom ni’n tri fynd i gerdded rhan o’r Lôn Goed. Dim i gyd, mae Mair yn hen ac er ei bod yn cerdded yn iawn, well ganddi palmentydd na mwd. Chwilio ar y we i weld […] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Y Lôn Goed

Na dim byd am Asturias, na garddio, na fiestas. Yn ystod taith i weld fy chwegr yng ngogledd Cymru, penderfynonasom ni’n tri fynd i gerdded rhan o’r Lôn Goed. Dim i gyd, mae Mair yn hen ac er ei bod yn cerdded yn iawn, well ganddi palmentydd na mwd. Chwilio ar y we i weld […] Parhau i ddarllen

Good Practice Exchange at The Wales Audit Office » Cymraeg: Datganiad o annibyniaeth

Rydym wedi cynnal seminarau dysgu a rennir gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ddiweddar ar annibyniaeth barhaus pobl hŷn. Isod mae Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn amlinellu beth mae hi’n meddwl ynglŷn ag annibyniaeth. Roedd yn bleser cael mynychu’r Seminarau Dysgu ar y Cyd yng Nghaerdydd ac yn Llanrwst ym mis Gorffennaf 2015. […] Parhau i ddarllen

Good Practice Exchange at The Wales Audit Office » Cymraeg: Datganiad o annibyniaeth

Rydym wedi cynnal seminarau dysgu a rennir gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ddiweddar ar annibyniaeth barhaus pobl hŷn. Isod mae Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn amlinellu beth mae hi’n meddwl ynglŷn ag annibyniaeth. Roedd yn bleser cael mynychu’r Seminarau Dysgu ar y Cyd yng Nghaerdydd ac yn Llanrwst ym mis Gorffennaf 2015. […] Parhau i ddarllen

Cael y System Allan o'm System: Manylion Gwersyll Rhyngwladol Ail Feddianu’r Caeau yn Wrecsam!

Am manylion llawn ewch i: http://www.reclaimthefields.org.uk Am y gwersyll Ganwyd Ail Feddianu’r Caeau yn y Deyrnas Unedig yn 2011, yn seren mewn cyster ehangach o frwydrau bwyd a thir ar draws y byd. Ers 2011, mae gwersylloedd Ail Feddianu’r Caeau eraill wedi helpu cefnogi cymunedau lleol mewn brwydrau, rhannu sgiliau, a ddatblygu rhwydweithiau, ac yn […] Parhau i ddarllen

Cael y System Allan o'm System: Manylion Gwersyll Rhyngwladol Ail Feddianu’r Caeau yn Wrecsam!

Am manylion llawn ewch i: http://www.reclaimthefields.org.uk Am y gwersyll Ganwyd Ail Feddianu’r Caeau yn y Deyrnas Unedig yn 2011, yn seren mewn cyster ehangach o frwydrau bwyd a thir ar draws y byd. Ers 2011, mae gwersylloedd Ail Feddianu’r Caeau eraill wedi helpu cefnogi cymunedau lleol mewn brwydrau, rhannu sgiliau, a ddatblygu rhwydweithiau, ac yn […] Parhau i ddarllen

Ymweld ag Eryri: Sul y Tadau yn Eryri: syniadau gwych ar gyfer pob math o dad!

Beth bynnag yw diddordebau a hobiau eich tad, mae yna atyniad neu weithgaredd yn Eryri ar ei gyfer o yn unig! Dyma rai syniadau ar gyfer diwrnodau hwyl allan i dadau yn Eryi ar Sul y Tadau hwn. Os ydych yn chwilio am wledd wych ar gyfer Dad Sul y Tadau hwn, beth am daith … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Ymweld ag Eryri: Sul y Tadau yn Eryri: syniadau gwych ar gyfer pob math o dad!

Beth bynnag yw diddordebau a hobiau eich tad, mae yna atyniad neu weithgaredd yn Eryri ar ei gyfer o yn unig! Dyma rai syniadau ar gyfer diwrnodau hwyl allan i dadau yn Eryi ar Sul y Tadau hwn. Os ydych yn chwilio am wledd wych ar gyfer Dad Sul y Tadau hwn, beth am daith … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

S4C Caban: Hwyl Gŵyl y Gwanwyn 2015 ar S4C

Mae Gŵyl Wanwyn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi ennill ei thir fel un o ddigwyddiadau pwysica’r tymor i dyddynwyr, garddwyr ac amaethwyr fel ei gilydd. Bydd S4C yn darlledu rhaglen arbennig, Gŵyl y Gwanwyn 2015 nos Sadwrn, 23 Mai, yn …Darllen mwy Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Yn yr ardd

Dwi wedi bod yn gweithio’n galed yn yr ardd yn ddiweddar – ond serch hynny, mae gymaint o waith ar  ôl i’w gwneud.  Heno, roedd yr arolygion tywydd yn bygwth barrug – felly, rhag ofn, dwi wedi trio gorchuddio un rhes o’r tatws – y tatws newydd, gyda fflîs.  Does dim digon i orchuddio nhw i gyd! 


Mae’r borderi blodau yn edrych yn dda ar y funud, ond y llysiau sydd yn cael y rhan fwyaf o’r sylw: mae planhigion bach spigoglys a betys wedi cael eu trawsplannu; mae ffa wedi mynd i mewn a hadau moron a pannas a popeth wedi cael ei dyfrio: mae’r gwynt yn sychu’r ardd yn gyflym iawn.  Dyma ychydig o luniau o’r blodau:



Mae ‘na aelod newydd yn y perllan gerila: morwydden ifanc. 
 Anrheg oedd hon (penblwydd arbennig llynedd).  Ond dwi ddim yn meddwl bod fy ffrind wedi sylwi pa fawr ydy’r coeden yma yn tyfu – ond mi ddylai fod yn bosib cadw hi mewn dipyn o drefn gan ei bod wedi ei phlannu wrth y wal.  Beth bynnag, bydd dipyn o amser cyn i ffrwythau dod!

A ddoe, arbrawf newydd.  Daeth ffrind drosodd i arddio gyda fi – a wythnos nesa, dwi am fynd i wneud yr un peth yn ei gardd hi.  Y syniad ydy gwneud y garddio yn rywbeth mwy gymdasol – a cael llygaid newydd i weld be ydy be.  Clirio gwely’r perlysiau oedd y gorchwyl ddoe: roedd y mintus wedi dianc a cymryd drosodd, a roedd y gwely hefyd yn llawn o glas y gors (? forget me not). Mae hadau y phlanhigion yma yn gwasgaru a mae nhw ym mhob man – ond mae nhw’n hardd ac yn hawdd i dynnu allan.  Dyma’r gwely ar ol i ni orffen – digon o le i gael ychydig o berlysiau newydd.


Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Blaenau mewn Blodau

Mae popeth yn barod ar gyfer y gystadleuaeth garddio flynyddol, ‘Blaenau mewn Blodau’.

(llun PW)

Eleni fydd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal.

Bydd modd cystadlu yn yr adrannau canlynol;

     Gardd fechan;
   Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Bechgyn Ysgol Llanbedr-y-fro yn cyfrannu at yr ymdrech ryfel

Er nad oedd trefniadau dogni ffurfiol wedi’u cyflwyno tan 1918, roedd diffyg bwyd yn rhan o fywyd bob dydd mewn sawl rhan o Ynys Prydain erbyn 1916. Oherwydd y môr-warchae gan lynges yr Almaen a’r galw cynyddol am ddynion a cheffylau yn Ffrainc, gwelwyd lleihad o ran cynhyrchiant amaethyddol a llai o fewnforio ŷd o […] Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Gwneud dipyn bach yn yr ardd

O’r diwedd dwi wedi dechrau gweithio ar yr ardd (ond dipyn bach…)  Er ein bod ni ddim wedi dioddef o dywydd drwg yn ystod y dydd (dim eira, a mae hi wedi bod yn sych, hyd yn oed heulog) mae hi wedi bod yn oer iawn ac yn wlyb ofnadwy dan draed (ar ôl yr holl glaw sy’n dod yn y nos).  Felly dwi ddim wedi teimlo fel gwneud llawer yn yr ardd, i ddweud y gwir – well mynd am dro a cadw’n gynnes.

Ond mae rhaid meddwl am archeb hadau ar gyfer y tymor garddio newydd (ar ol  gweld pa hadau sydd ar ôl yn y bocs), ac i gael mafon yn hwyrach yn y blwyddyn, rhaid tocio’r mafon sydd yn ffrwytho yn y hydref.  Felly dyna tasg bach dwi bron wedi gorffen.

A hyd y oed ym mis Ionwar mae rhai pethau yn blodeuo yn yr ardd  fel y “Japanese quince” gwyn yn y llun sydd yn blodeuo ym mis Ionwar ac yr erlysiau wedi bod allan am ryw wythnos rwan hefyd.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Yr ysgol galan rhan 2: tywydd garw a hwyl fawr

Parhaodd fy ymweliad i Gaernarfon a Fangor i fod yn wych.  Dwi ddim yn aros ym Mangor pan dwi’n mynd: dwi’n adnabod Caernarfon llawer gwell, a mae o’n hawdd iawn os dwi’n aros yn stryd yr Eglwys i bicio I fewn I’r Black Boy am bryd o fwyd neu wydriad o win…neu i un o’r tai bwyta eraill.  Ond cyn gwneud hynny roeddwn i isio ymweld a Palas Print.  ‘Roedd tocyn llyfrau yn llosgi twll yn fy mhoded.  A dyna be wnes i.  Mi faswn wedi medru prynu GYMAINT o lyfrau – mae sawl llyfr ar fy rhestr  – felly sut i ddewis?  Yn y diwedd, prynais nofel newydd Manon Steffan Ros, Llanw, a llyfr diwethaf Alun Cobb, “Sais”:  
doedd llyfr Russell Jones a Jen “O’r egin i’r Gegin” ddim ar fy rhestr o gwbl – a mae gen i lwyth o lyfrau garddio a choginio, ond rywsut mi wnaeth o fy hudo….. Dwi AM brynu hunangofiant John Davies, “Fy Hanes i”, ond unwaith r’oeddwn wedi prynu Dan ddylanwad gan John Alun Griffiths doedd dim digon lle yn fy mag, y tro yma (ar ôl prynu un neu ddau (neu fwy….)  lyfr ail-law hefyd yn siop elusen yr ambiwlans awyr).

Ond be am y cwrs? Ar yr ail fore, cawsom Ifor ap Glyn yn trafod ei farddoniaeth gyda ni.  Fel mae hi’n digwydd, yn ystod yr Ysgol Galan pedair mlynedd yn ôl mi ges i fy gyflwyno i farddoniaeth Ifor ap Glyn.  Clywais oddiwrth un o’r myfyrwyr eraill bod Oxfam yn Bangor yn lle da am lyfrau Cymraeg ac yn 2011, prynais lwyth o lyfrau yn cynnwys copi o “Golchi Llestri Mewn Bar Mitzvah”.  Wyddwn i ddim am yr awdur.  (Er fy mod wedi gweld Ifor yn clyflwyno rhaglenni ar y teledu, wyddwn i ddim pryd hynny ei fod hefyd yn sgwennu barddoniaeth).  Ond mwynhais rhai o’r cerddi yn fawr iawn a dwi wedi mynd ymlaen i brynu lyfr arall (heb fod yn ail-law!).  Beth bynnag, bore Mercher diwethaf gnwaethon ni drafod y cerdd “Hwiangerdd”, sydd yn drist, a wedyn cerdd mwy ysgafn a chafodd ei gyfansoddi ar gyfer cystadleuaeth, gan sôn am y rheolau o gynghaneddu yn yr ail gerdd.  Diddorol dros ben.


A wedi prynu Dan ddylanwad, dwi wedi ei orffen.  Llyfr ardderchog.  Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi darllen llyfrau John Alun Griffiths o’r blaen, felly mae ‘na ddau arall yn y gyfrol yn aros amdanaf.  Gwych!


A mi roedd yn dda cael llyfr da gyda fi, oherwydd erbyn gyda’r nos mi roedd y tywydd yn ofnadwy.  Dyma be oedd i’w gweld o’r ffenest yn y Gwely a Brecwast – dydy’r llun ddim yn dda – ond dach chi’n cael y syniad!


A felly be’ arall oedd i’w gwneud on swatio yn y Black Boy i gael rywbeth i fwyta ac yfed o flaen y tan gyda’r llyfr?


Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Gwyliau Haf yng Nghymru rhan 1

Yr ydw i wedi bod yn ddigon lwcus i gael  sawl wythnos  yn yr hen Wlad yr haf yma. Yn gyntaf mi wnes i dreulio wythnos yn aros yn ardal Pwllheli efo fy annwyl wraig Marilyn. Am y drydedd flwyddyn yn ddilynol dyn ni wedi aros yn Nhŷ Paul ger Rhyd-y-Clafdy. Mi wnaethon ni gyrraedd ar bnawn Sul yr 8fed o Fehefin. Ar ôl dadbacio aethon ni am dro ar hyd y lonydd cul yn yr heulwen at eglwys wledig leol Llanfihangel. Tro diweddaf yr oedden ni yno doedd neb o amgylch y lle. Y tro’ma wrth i ni grwydro yn y fynwent daeth dyn o’r eglwys i ofyn i ni beth yr oedden ni’n gwneud. Roedd o’n defnyddio’r eglwys fel stiwdio celf. Doedd o ddim yn siarad yr hen iaith ond roedd ganddo fo ddiddordeb yn y cerrig beddi a’r eiriau sy wedi cerfio arnynt.

Erbyn bore dydd Llun roedd y tywydd wedi tro ac yr oedd hi’n bwrw glaw. Felly es i i bori yn siopau Pwllheli. Ro’n i’n chwilota am lyfrau Cymraeg ail-law. Pan oeddwn i’n cerdded strydoedd Pwllheli  mi wnaeth Marilyn aros yn nhŷ Paul a darllen. Yn y prynhawn aethon ni i Blas Glyn-y-Weddw i weld y lluniau yno ac i gerdded rhan o lwybrau’r arfordir. Roedd golygfeydd o’r  clogwynau  gerllaw yn drawiadol. Cawson ni baned wedyn yng nghaffi’r Plas cyn mynd  ‘adref’ i’r bwthyn am swper. Ar fore dydd Mawrth aethon ni i siopau ym Mhorthmadog, roedd Marilyn yn hapus iawn i siopa yn ‘Kerfoots’  tra yr oeddwn i’n ymweld â’r siop Cymraeg a nifer o siopau elusennol yn chwilota eto am lyfrau Cymraeg. Ar ôl swper mi es i i sesiwn ‘plygu’  papur bro leol sef ‘Llanw Llyn’, roedd tua ugain o bobl yno ac yr oedden ni’n rhoi 2600 o

gopïau at ei gilydd. Roedd Martyn Croydon yno, sef enillydd  cystadleuaeth dysgwr y flwyddyn  Eisteddfod Genedlaethol 2013. Wnaeth o dynnu llun o ohoni i wrthi yn plygu’r papur.
Roedd hi’n ddiwrnod braf dydd Mercher  felly penderfynon ni fynd i weld canolfan Y Felyn Uchaf ger Aberdaron, mae nifer o dai crwn wedi cael ei adeiladu efo mwd, cerrig lleol a tho gwyllt yn null yr hen Geltiaid. Mae’na un digon mawr i 35 o bobl cael eistedd. Mae’na sesiynau dweud stori yn cael ei gynnal yno. Yn y prynhawn aethon ni ymlaen i Aberdaron. Cawson ni ginio yn y Gegin Fawr, ac wedyn ymweliad i ganolfan o enw Porth y Swnt, sy’n olrhain hanes  yr ardal. Wedyn aethon ni am banad i westy uwchben y traeth a hefyd i weld eglwys  lle oedd R S Thomas yn ficer. Yn y noswaith aethon ni am bryd o fwyd yn nhŷ hen fos Marilyn sy wedi ymddeol o Buxton i fyw yng Nghricieth, roedd hi’n noson hwyr erbyn i ni gyrraedd yn ôl yn Nhŷ Paul.

Roedd hi dal yn  gynnes braf ar y dydd Iau felly aethon ni i gerdded i fyny Tre’r Ceiri’r uwch ben Llithfaen. Roedd hi’n fendigedig ar ben y  fryngaer ac mi wnaethon ni gwrdd â Chymraes leol a’i gwr o  Seland Newydd. Cafodd Marilyn llosg haul ar ei thalcen! Gyda’r nos mi es i am beint  efo Aran Jones SSIW  a’i ffrindia yn nhafarn Y Twnti.
Ar fore  dydd Gwener aethon ni unwaith eto i Borthmadog i siopau unwaith eto, ond hefyd aethon ni i weld oriel celf yno cyn mynd ymlaen i Bwllheli  i weld hen ffrind i mi sy’n byw mewn tŷ  ger y traeth.
Ar ddydd Sadwrn roedd hi’n amser i fynd yn ôl i Loegr ond ar y ffordd adref mi aethon ni i Oriel  Môn yn Llangefni am ginio efo ein ffrindiau Marianne a Gerry a hefyd i  edrych ar y lluniau yn yr oriel. Mae lluniau Cyffin Williams yno’n wych. Wnaethon ni gyrraedd yn ôl yn Belper yn hwyr, blinedig ac yn hiraethu am Gymru!

Doedd dim rhaid i mi aros yn rhy hir cyn dod yn ôl i Gymru. Dydd Sul 29 o Fehefin a dyma fi yn gyrru

unwaith eto tuag at y gorllewin, y tro’ma i Ddolgellau i aros ar  fferm ger Llanfachreth. Roeddwn i aros yno efo ffrind (Martin) o Glay Cross a hefyd  efo’r perchenogion Karen a’i gwr Crispin. Mae’r ddau ohonynt yn dysgu’r Gymraeg. Roedd Martin a Karen yn yr un dosbarth a fi o dan diwtor Rhian Bebb.  Ar y noson  gyntaf aethon ni am dro o amgylch y fferm 100 erw. Mae Karen a Crispin yn magu Alpacod  ar y fferm ac yn marchnata’r gwlân  yn lleol. Mae tua 50 o’r Alpacod ar y fferm.

Wnaethon ni gerdded i ben ucha’r fferm ac yr oedd y golygfeydd yn hyfryd o’r Gadair Idris yn yr heulwen. Roedd yr awyr  tu hwnt i’r mynydd yn las las. Wnaeth Karen gogio i ni bob nos, bwyd blasus cartrefol – diolch o galon iddi!
Roedd 50 o bobl ar y cwrs ac yr oedd y gwersi yn ddiddorol ac yn dysgu pethau newydd i mi.
Nos Lun a dyma Martin, ‘Lyn’, sef mam yng nghyfraith Karen, a finnau’n ymweld ag Eglwys Llanfachreth. Roedden ni wedi cael yr allwedd oddi wrth Gymraes leol sy’n cadw golwg dros yr eglwys. Mae hi’n eglwys

sy’n mynd yn ôl i amser y Normaniaid, roedd hi’n hen ac yn bert ar holl gerrig beddi yn Gymraeg wrth gwrs.
Dydd Mawrth ar ôl y gwersi aeth Martin a fi i weld Maggie, sy’n ffrind i mi yn yr ardal. Roedd hi’n arfer dod ar y cwrs ond yn bellach yn gweithio mewn ysgol Cymraeg lleol. Roedd hi’n noson hwylus yn y ‘Last Inn’ yn Abermo yn sgwrsio ac yn gwrando ar  gerddoriaeth byw yn y dafarn.
Ar y nos Fercher aethon ni am dro i fyny’r bryn y tu ôl i’r  fferm.  Sdim enw ar gyfer y bryn ar fap, ond mae’na gaer hynafol yno a thyllau

rhyfedd wedi cerfio yn y graig yno.
Ar y nos  Iau aethon ni i sesiwn sgwrs mewn  tafarn lleol o’r enw  ‘Ty’n y groes’. Daeth Rhian Bebb  a’i thelyn i ganu ac i arwain  sesiwn canu’n Gymraeg – roedd hi’n wych  a thua 12 ohonon ni’n ganu yno!
Diwrnod olaf y cwrs, sy wastad yn drist, ond cawson ni hwyl  cyn i ni ymgynnull ar gyfer  llun ffoto y cwrs. Mi wnes i aros tan fore Dydd Sadwrn cyn teithio yn ôl i Loegr. Roedd digon o amser i bicio i mewn i siop llyfrau Awen Meirion i brynu copi o ‘Raglen y Dydd’ ar gyfer Eisteddfod Llanelli ac i gael sgwrs a phanad efo Gwynne, sef rheolwr y siop. Yno ymlaen i ardal Wrecsam i sesiwn sgwrs Cymraeg yng nghanolfan Garddio Bellis yn Holt  efo Ro Ralph a dysgwyr Wrecsam ac wedyn unwaith eto  dyma fi’n gadael Cymru y tu ôl i mi wrth groesi’r ffin am fis arall yn Lloegr.  Mis Awst  yw’r ymweliad nesa i  Eisteddfod  Llanelli. Methu aros.

Parhau i ddarllen

S4C Caban: Yr ardd wedi blodeuo mewn blwyddyn

Yn y gyfres Gardd Pont y Tŵr rydym wedi bod yn dilyn y cynllunydd blodau Sioned Edwards a’i theulu wrth iddyn nhw wireddu breuddwyd o ail-greu gardd ar hen fferm ei nain a’i thaid wrth droed Moel Famau, Dyffryn Clwyd. Wrth …Darllen mwy Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Sioe Malvern

Diwrnod allan heddiw – yn sioe Gwanwyn Malvern.  Es i yna gyda bedair ffrind sy’n aelodau o’r clwb llyfrau (Saesneg, Milton Keynes).  Aethom i Chelsea llynedd, a mwynheis y profiad – ond mae o’n ddrud, a mae ’na gymaint o bobl yna, felly roedden isio trio sioe arall eleni, a felly….. ffwrdd a ni gyda’r clwb garddio o’r gwaith, ar y bws.

Roedden ni’n disgwyl glaw trwm trwy’r dydd – yn ol yr arolygion.  Ond, cawsom diwrnod gyda ambell sbel fach o haul, ambell gawod a gwynt cryf iawn.  Doeddwn i ddim cweit wedi deallt nad sioe blodau neu garddio yn unig ydy’r sioe yma, ond sioe gwanwyn.  Felly doedd dim llawer o erddi i’w gweld.  Ond mi roedd ‘marqui’ mawr iawn fel yn Chelsea gyda bob math o stondina, a digon o stondinau bwyd a cynnyrch hefyd.  Dyma rhai o’r gerddi.  

A dyma planhigyn roedden ni i gyd am brynu – ryw fath o ‘scilla’ ond na, roeddent wedi gwerthu bob un.  
Felly yn y diwedd, prynais planhigion agapanthus, i gael ddipyn fwy o liw yn yr haf.  Mae gennyn ni un flanhigyn yn barod mewn pot yn yr ardd ffrynt.  Ond, wnaeth o ddim flodeuo llynedd, felly dwi am ei fwydo eleni ac edrych ar ei ol o, a dwi am drio rhoi ddau o’r blanhigion yn y ddaear, a dau mewn potiau, i weld beth sydd yn gnweud yn dda.
A fory yn ol i fy ngardd i, i chwynnu a symud rhai o’r blanhigion tomatos a phupurau i botiau mwy, ac y.y.b.  A dyma ychydig o luniau o’r ardd (fel y gwelwch, mae o wedi bod yn wlyb ofnadwy ar brydau).

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Bore Sadwrn: Galwad Cynnar

Mae o wedi dod yn arfar bore Sadwrn erbyn hyn.  Mae’r hen gi yn fy neffro fi ryw hanner awr wedi chwech (braidd yn gynnar, yn fy marn i…) a dwi’n dod i lawr y grisiau, gwneud paned a gwrando ar Galwad Cynnar ar radio Cymru- a pan mae’r rhaglen wedi gorffen, mae o’n amser mynd am dro.
Bore ’ma mae cofnododd o’r gog yn canu mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.  Yn Nghymru glywais i’r gog y tro gyntaf eleni – tra cerdded ar hyd arfordir Sir Benfro.  Ond hefyd mi glwyais y gog wythnos diwethaf hefyd – dim rhy bell o’n dre ni, mi ro’n yn medru ei glywed dros y caeau pan o’n i allan gyda’r ci.  Dwi’n cofio gweld saith gog (ia, saith!) blynyddoedd a blynyddoedd yn ôl, mewn dyffryn yng Ngogledd Cymru (dwi ddim yn cofio yn union lle roedden ni – r’oedden ni wedi mynd am bythefnos o gerdded).  Dwi’n meddwl fase hynny’n beth brin iawn, heddiw, gyda’r niferau yn gostwng.  Beth bynnag, yn fama, os dan ni’n lwcus, dan ni’n ei glywed o unwiath neu ddwywaith y flwyddyn, a dyna fo.  Ac wrth sôn am adar fudol, dan ni ddim wedi gweld gwenoliaid yma o gwbl eto eleni: eto, mi welais nhw yng Nghymru ond rywsut, dydyn nhw ddim wedi gwneud y siwrna i fama eto.
Mae Galwad Cynnar yn ffefryn erbyn rŵan: gymaint o wybodaeth a phethau ddidorol am bywyd gwyllt, natur a garddio hefyd, weithiau, a dechrau ardderchog i’r benwythnos.  Dydy’r adologyion am y tywydd ddim yn addawol, y penwythnos yma.  Dyma un o’n flodeuon yr afal goginio Bramley yn y glaw.  
Felly dwi’n disgwyl penwythnos o goginio (ffrindiau yn dod draw am bryd o fwyd heno) a darllen (gyda dipyn o waith yn y tŷ gwydr)…..

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Y penwythnos

Ddoe mi roedd digwyddiad yn y gweithle – “Photolearn“ – y cliw yn yr enw, fel mae nhw’n dweud.  Doeddwn i ddim yn medru mynd yn y bore ond mi es yn y p’nawn, gyda fy nghamera.  Prynais y camera llynedd, yn gobeithio tynnu mwy o luniau o adar a.y.y.b: mae’r lens teleffoto yn dda iawn. Ond wrth gwrs, ar ôl dipyn o arbrofi, fel arfer dwi ond wedi defnyddio’r camera ar ’automatic’ .  Felly amser i ddechrau dysgu mwy am y camera a dechrau trio pethau allan.  A do, mi wnaeth mynd i Photolearn roi dipyn o hwb i fi a dwi wedi bod yn trio pethau newydd – tynnu lluniau agos o flodau a phlanigion, a dymau rhai o’r canlyniadau:

Rhan o gastanwydden ydi hon.  Dwi’m yn siwr am y llun yma i ddweud y gwir.  
Dwi’n hoffi’r un yma – un o’r pys yn dechrau blaguro
Ac yn ola – y coeden Amelanchier, yn dechrau blodeuo.
Hefyd dwi wedi bod yn trio gnweud dipyn bach yn yr ardd.  Dwi’n meddwl efalla na ddylwn i trio tyfu pŷs melys.  Mi wnes i ddechrau ryw dwy fis yn ôl gyda’r hadau – a wnaethon nhw ddechrau flaguro – ond y diwrnod wedyn, roedd y llygod wedi bwyta’r lot.  (Digwyddodd hyn yn y tŷ gwydr).  Mi es ati eto – yn trio cadw’r llygod i ffwrdd, ond yn amlwg mae nhw’n glyfar.  Wedyn trio eto – a’r tro yma, mi ddechreuais y pŷs yn y lloft spar – a llwyddo.  Ond pan ddois yn ôl pnawn ddoe, roedden nhwn i gyd ar draws y lle  – y tro yma, fy ngŵr wedi cael damwain bach.  Felly, heddiw prynais planhigion o’r canolfan garddio.
Mae’r pŷs ar gyfer bwyta yn dod i fynny yn yr ardd (gobeithio bod y llygod yn cadw draw: ond y tŷ gwydr ydy’r problem yn y bôn) a mae tri res o banas wedi mynd i fewn.  Gawn i weld be ddigwyddith gyda rhain – llynedd, wnaethon nhwn ddim byd o gwbl.

Parhau i ddarllen

Ymweld ag Eryri: Deg o Bethau Anghyffredin i’w Gwneud yn Eryri

Os ydych chi wedi ymweld ag Eryri o’r blaen ac yn teimlo eich bod chi wedi gweld digon o’r atyniadau ‘amlwg’, ar eich ymweliad nesaf, beth am roi cynnig ar rywbeth sydd fymryn yn anarferol? Dyma ddeg o awgrymiadau am bethau anarferol y gellir eu gwneud yn Eryri. Y tro nesaf y byddwch yn dod … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Teithiau a cholledion

Penwythnos diwethaf mi aeth Marilyn a finnau i fyny i Breston i nôl fy chwaer anabl ar gyfer ymweliad i Tarporley i weld ei rhieni. Roedd hynny yn rhoi’r cyfle i mi i bicio draw i Wrecsam bore dydd Sadwrn i brynu cylchgronau a llyfrau o Siop y Siswrn ym Marchnad y Bobl ac wedyn i dreulio dwy awr yn sgwrsio efo’r dysgwyr a Chymry sy’n mynychu’r Sesiwn Siarad yng nghanolfan Garddio Bellis yn Holt.

Roedd tua 15 o bobl yno a chawson ni amser diddorol yn trafod hyn a’r llall. Ond toc wedi hanner dydd roedd rhaid i mi fynd yn ôl dros y ffin. Yn ddiweddar dw i ddim wedi cael digon o amser sbâr i wneud popeth dw i eisiau gwneud ar ran y Gymraeg, pethau megis ymuno a cherddwyr Cymdeithas Edward Llwyd neu dreulio amser yn mynychu digwyddiadau diwylliannol, ond daw haul ar y bryn cyn bo hir. Dw i wedi cynllunio mynd i Gymru sawl tro dros yr haf i gael y ‘dos’ blynyddol o’r Gymraeg a Chymreictod.

Bu farw fy modryb Margeurite Mills yn Jersey ym mis Chwefror ac wedyn pan oedd yn aros yn Tarporley dros y Sul cyrhaeddodd rhagor o newyddion trist, hynny oedd un arall o’m modrybedd wedi marw yn sydyn, modryb Clare Whittaker a oedd yn byw yn Hwlffordd. Dyma’r ail farwolaeth yn y teulu ers Nadolig. Roeddwn hoff iawn ohoni hi, ond y golled fwyaf yw’r golled i’r teulu agos sef ei gwr a’i phlant. Heddwch i lwch y ddwy ohonyn nhw. Parhau i ddarllen

gwanas: Y blog cyntaf!

Fi ydi honna, ond nid llyfr ar gyfer plant ydi hwnna. Ond dwi’n hoffi’r llun. Felly nyyy. Blog newydd ydi hwn, dim byd i wneud efo garddio, ond efo llyfrau, a llyfrau plant yn fwy na dim. Ond mae’n bosib y bydd ambell lyfr ar gyfer oedolion yn stwffio i mewn weithiau – ar gyfer […] Parhau i ddarllen

BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Diwedd y gyfres

A dyna ni, digwyddodd, darfu, megis seren wib. 6 rhaglen wedi eu darlledu, ac mae’n debyg ein bod wedi cael ffigyrau gwylio uchel, oedd yn mynd yn uwch wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen. Da de! Does gen i ddim syniad be fydd y bosys yn S4C yn ei benderfynu, os fydd na Dyfu […] Parhau i ddarllen