Canlyniadau Chwilio: obama

Y Papur Gwyrdd: Rhybudd Obama: Gallwn fod yn rhy hwyr gyda Newid Hinsawdd

“DYMA un o’r pynciau prin hynny sy’n golygu, oherwydd ei feintioli, oherwydd ei ehangder, os nad ydym yn ei gael yn iawn, efallai na fyddwn yn gallu ei droi ’nôl. A fyddwn ni ddim yn gallu addasu’n ddigonol. Mae’r fath … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Golwg360: Colli ffydd yn Obama

Dewi Alter sydd yn trafod yr etholiadau seneddol diweddaraf ochr arall yr Iwerydd… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: neges i obama

Gyrrodd pobl UDA neges glir i Arlywydd Obama bod nhw’n anhapus gydag ef a’r llywodraeth ffederal. Gobeithio byddan nhw’n gwrando arni. Roedd y bobl a etholodd e ddwy flynedd yn ôl eisiau newid, ond newid da. Parhau i ddarllen

Ble mae'r gath?: Obama


Mae’r mis mêl drosodd – dyma lun o brotest yn San Francisco 10 Ionawr. Parhau i ddarllen

Y Papur Gwyrdd: Gwyddonwyr doeth yn herio ffolineb Donald Trump

Ynghanol y gwallgofrwydd cyfoes ymysg gwleidyddion asgell-dde sy’n gwadu bodolaeth Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd, diolch o galon i’r miloedd di-ri’ o wyddonwyr gynhaliodd Orymdeithiau dros Wyddoniaeth mewn 600 o ddinasoedd ledled y byd ddoe, wrth nodi Dydd y Ddaear. … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

fel y moroedd: codi wal

Maen nhw eisiau codi wal er mwyn amddiffyn y bobl a’r pethau gwerthfawr tu mewn rhag terfysgwyr. Cam doeth ac ymarferol. Na, dw i ddim yn sôn am wal yr Arlywydd Trump ar y ffin ddeheuol. Sôn am wal gwydr mae Ffrainc yn mynd i godi o gwmpas Twr Eiffel dw i. Wedi’r cwbl, codwyd waliau o gwmpas pob castell, Palas Buckingham, y Fatican, Tŷ Gwyn, tŷ Hillary, tŷ Obama, ayyb. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: rhagrith

Mae protest yn erbyn gwaharddiad yr Arlywydd Trump ar fewnfudo’n parhau’n ffyrnig, yn America a thramor.  Ddwedodd y bobl hynny ddim byd yn erbyn Obama pan waharddodd bobl o Irac a Ciwba. Dydyn nhw ddim yn condemnio’r 16 gwlad sydd yn gwahardd y bobl sydd gan basbort Israel. Gwahoddodd Maer Llundain sydd yn prysur gondemnio’r Arlywydd Trump, bwysigion o 11 gwlad allan o’r 16 i’w barti. Dw i’n siŵr bod pawb sydd yn protestio yn erbyn y gorchymyn hwnnw’n cloi drysau a ffenestri eu tai yn y nos nid oherwydd bod nhw’n casáu’r bobl tu allan, ond oherwydd bod nhw eisiau amddiffyn y rhai tu mewn. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: braint

Braint, nid hawl ydy cael caniatâd i fynd i mewn i wlad arall. Dylai pawb ufudd i gyfraith y wlad – ar ei hamodau hi, nid ar ei amodau o. Mae penderfyniad Arlywydd Trump i wahardd y bobl o’r saith wlad dros dro’n hollol resymol heb sôn am ddoeth. Rhaid cofio bod Obama wedi gweithredu’n debyg yn 2011 heb gael beirniadaeth hallt. Ar yr un pryd, cyhoeddodd Arlywydd Trump fyddai fo’n rhoi blaenoriaeth i Gristnogion yn Syria sydd yn dioddef o erledigaeth grefyddol i ddod i America. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: siryf newydd

“Mae’r bobl yn dathlu,” meddai Jane yn Jerwsalem, “oherwydd bod gan America siryf newydd yn y dref.” Penderfynwyd ddoe fyddai cannoedd o dai yn cael eu hadeiladu yn nwyrain Jerwsalem. “Efallai bydd pobl Israel yn cael blaenoriaeth rŵan oherwydd nad oes rhaid i’r llywodraeth blesio Obama mwyach,” ychwanegodd. Fe ddoi’r prif weinidog Netanhahu i weld ein Harlywydd newydd ni mis nesaf. Gall perthynas rhwng America ac Israel fod yn gryf a chynnes iawn heb gysgod o smalio o’r diwedd. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Arlywydd Trump

Daeth y dydd. Mae Donald Trump bellach yn arlywydd Unol Daleithiau America. Fe ddywedais drannoeth yr etholiad fy mod yn anobeithio am gyflwr y byd; nid oes unrhyw beth wedi digwydd ers hynny i godi fy nghalon. Os rywbeth, rwy’n argyhoeddedig bod pethau hyd yn oed yn fwy trychinebus nag mae llawer o bobl yn ei sylweddoli. Os oedd unrhyw un dal i gydio yn y ffantasi bod Arlywydd Trump yn mynd i fod yn greadur gwahanol i’r ymgyrchydd Trump, dylai heddiw ddryllio hynny: mae’r dyn wedi bod yn obsesiynu am faint y dorf wrth iddo dyngu llw ddoe, gan gyhuddo’r cyfryngau o ddweud celwydd er ein bod i gyd wedi gweld y lluniau. Mae’r ffaith bod y mater yma mor bitw’n rybudd difrifol ynddo’i hun: os yw’n fodlon neilltuo bron diwrnod cyfan i falu cachu yn gelwyddog am bethau di-nod, mae’n ddychrynllyd meddwl sut fydd pethau pan ddaw materion sylweddol ar yr agenda.

Heb ail-adrodd fy hun yn ormodol, mae’r dyn yn fwli hollol dwp, ansefydlog, narsisitig, llwgr a rhagfarnllyd. Os oes llygedyn o obaith o gwbl, yna hwnnw yw bod ei weinyddiaeth am fod yn eithriadol o ddi-glem a bod eu diffyg crebwyll am eu rhwystro rhag cyflawni llawer o’u hagenda. Nid yw hynny’n gysur i gyd, fodd bynnag, oherwydd mae’r cyfuniad hwnnw o ddiffyg gallu, ar y naill law, a hyder haerllug ar y llaw arall, yn debygol o niwieidio hygrededd sefydliadau a strwythurau sifil y wlad (a’r byd, o ran hynny). Bydd hynny’n fwriadol i raddau helaeth: nid oes ganddynt lawer o syniad sut mae pethau’n gweithio, ond nid ydynt yn poeni am hynny gan mai e llosgi llawer ohonynt i lawr yw’r union nod.

Ar lawr gwlad, mae Arlywydd Trump am gael effaith anferth ar un maes yn arbennig heb orfod gwneud unrhyw beth: heddlua. Mae adrannau heddlu America eisoes yn hynod asgell-dde, ac mae eisoes yn amlwg bod hiliaeth yn eu mysg yn broblem anferth. Yn fuan iawn, rhywle yn America, mae swyddog heddlu yn mynd i saethu dyn ifanc croenddu di-euog yn farw. Mae hynny wrth gwrs eisoes wedi digwydd sawl tro dros y blynyddoedd diwethaf. Yn yr hinsawdd wleidyddol newydd, fodd bynnag, rwy’n credu ei fod hyd  yn oed yn fwy tebygol, a diolch i’r ffŵl yn y Tŷ Gwyn mae’r ymateb i’r protestio anochel fydd yn dilyn yn sicr o fod yn llanast. Mae’n hawdd dychmygu Trump yn troi’r sefyllfa yn greisis, boed yn fwriadol neu trwy dwpdra, gan beryglu hawliau sifil a lleiafrifoedd ethnig ymhellach eto.

Rhywbeth arall sydd bron yn sicr o ddigwydd yn fuan yw ymosodiad terfysgol gan y Wladwriaeth Islamaidd. Buaswn i’n tybio bod hyn yn flaenoriaeth strategol i IS, gan fod ymateb twp anochel Trump – sef ymosod ar fwslemiaid a datgymalu hawliau sifil – yn sicr o fod yn fuddiol iddynt. Byddaf yn synnu’n fawr os na fydd ymosodiad, neu ymdrech amlwg i gyflawni un, ar dir mawr America erbyn yr haf.

Dyma pam rwy’n sicr bod Trump am fod hyn yn oed yn waeth na’r disgwyl. Mae heddiw – ei ddiwrnod llawn cyntaf, ei fis mêl, heb unrhyw ddigwyddiad cas iddo orfod ymateb iddo – wedi bod yn drychinebus. Dychmygwch, mewn difrif, ei greisis cyntaf. Ac wedyn dychmygwch ei ugeinfed. Doed a ddelo, mae pethau anffodus yn mynd i ddigwydd. Ym mhob un senario rwy’n gallu’i ddychmygu, mae Trump am eu gwneud yn waeth.

Ar ben hynny, wrth gwrs, mae Trump yn mynd i lenwi o leiaf un sedd wag ar Oruchaf Lys America, wedi i’r Gweriniaethwyr, heb gywilydd yn y byd, wrthod gadael i Obama wneud am bron i flwyddyn gyfan. Mae Trump yn sicr o ddefnyddio’r cyfle yma i daflu cig coch at y ffwndamentalwyr eithafol ymysg ei gefnogwyr. Mae’n dweud cyfrolau na fuaswn yn synnu o gwbl petai’n enwebu rhywun fel Roy Moore, ffasgydd theocrataidd o’r iawn ryw.

Cefais fy ngeni ym 1984. Am y tro cyntaf erioed, rwyf wedi dechrau dychmygu fy marwolaeth fy hun mewn rhyfel niwclear. Mae’n annhebygol iawn o hyd, wrth reswm, ond mae’r posibilrwydd wedi rhoi’r gorau i fod yn chwerthinllyd. Mae Rwsia a China ill dau’n fwy tebygol o geisio manteisio a gwthio’u lwc yn y gêm fawr geopoliticaidd, ac mae sawl senario trychinebus, a fu gynt fwy neu lai’n amhosibl diolch i gytundebau amlochrog y mae Trump yn ddirmygus iawn ohonynt, bellach yn gredadwy. Mae Wcraniaid, a hyd yn oed Latfiaid, yn teimlo’n nerfus, ac mae ganddynt resymau i wneud. Mae dyfodol NATO a’r Undeb Ewropeaidd yn edrych yn ddu, ac af mor bell ag awgrymu bod obsesiwn macho Trump â delio â phobl mano a mano, ar draul trafodaethau amlochrog pwyllog a gofalus, yn mynd i beryglu’r Cenhedloedd Unedig hefyd. Mae ei gefnogwyr craidd, wedi’r cyfan, yn casáu’r sefydliad hwnnw â chas perffaith. Pwy a ŵyr?

Dim ond crafu’r wyneb yw hyn. Nid oes unrhyw beth am hyn nad yw’n drychinebus. Rwy’n besimistig dros ben. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: gweithio’n barod

Dechreuodd yr Arlywydd Trump eisoes weithio yn Swyddfa Hirgrwn chwap ar ôl yr orymdaith ddathlu ddoe. Arwyddodd sawl mesur allweddol gan gynnwys Gorchymyn Arlywyddol i ailwampio drwg-enwog Obamacare. Dydy o ddim gwastraffu amser. Ethol a gafodd er gwaethaf pawb a phopeth; ar ben hynny bydd o’n arlywydd gwych. Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: O Washington i Wynedd

Nid yn annisgwyl, parhau y mae’r sylwebu a’r dadansoddi, y darogan a’r arswydo wrth inni nesu at ddiwrnod urddo’r Trymp yn arlywydd, – neu ei ‘sefydlu’, ac arfer iaith y capel. (A pharhau â’r derminoleg ymneilltuol, cafodd ei ‘godi’ ddiwrnod yr etholiad ym mis Tachwedd, ac eisoes ei ‘ordeinio’ mewn seremoni fach dawel rai dyddiau’n […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cefnogaeth

Falch o weld cefnogaeth gan gant o weriniaethwyr yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr ar gynllun Mr. Trump i symud Llysgenhadaeth America o Tel Aviv i Jerwsalem. Er bod Obama newydd arwyddo waiver i’w atal am chwe mis, gobeithio bydd Mr. Trump yn medru goresgyn y rhwystr, a chyflawni ei addewid yn gynt na’r disgwyl. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cam hurt

Wedi methu pob modd i danseilio buddugoliaeth Donald Trump, ar y Rwsiaid mae Obama’n beio am golled yr etholiad yn ddiweddar, a chymerodd gam hurt tuag atyn nhw. Mae o wrthi’n chwalu America ers iddo gychwyn fel yr arlywydd wyth mlynedd yn ôl. Mynegodd pobl America eu barn, a chollodd o. Pe bai o’n gadael yn ddistaw, gallai fo ennill ychydig o barch. Ond dydy o ddim. Cywilydd cenedlaethol ydy o bellach. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: addewid duw

Roedd o’n llechwraidd hyd at yr etholiad diwethaf, ond yn sydyn dangosodd Barak Hussein Obama ei “wir liwiau” gan helpu (neu gynllunio) datganiad y Cenhedloedd Unedig newydd yn erbyn Israel i basio. Doedd neb wedi melltithio Israel a phara’n hir pa mor… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: enfys

Roedd America’n prysur chwalu ar ôl yr Arlywydd Reagan, ond rŵan mae ganddon ni obaith, er bod Mrs. Obama ddim yn cytuno. Mae Donald Trump wedi rhoi hwb i ysbryd y bobl a’r economi hyd yn oed cyn iddo gychwyn yn swyddogol. Ymddangosodd enfys hardd yn Las Vegas (lle mae Tŵr Trump) y diwrnod cwynodd Mrs. Obama nad oes ganddi obaith. Mae’n well gen i feddwl mai bendith Duw ar y llywodraeth newydd oedd o.

(y llun – tynnwyd gan fy mrawd yng-nghyfraith yn Las Vegas) Parhau i ddarllen

Y Papur Gwyrdd: Angen dycnwch Awel Aman Tawe a dewrder Sioux Standing Rock

Fel buddsoddwyr a chefnogwyr i fudiad cymunedol cydweithredol Awel Aman Tawe, mae Charlotte a minnau’n falch iawn y bydd dau dyrbin gwynt Mynydd y Gwryd ger Pontardawe yn dod yn rhan o grid trydan Ynys Prydain o Ddydd Gwener, Rhagfyr … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

fideo wyth: Wyth Uchaf 2016

gan f8 Ydi, mae diwedd y flwyddyn cwbwl, cwbwl hunllefus yma bron ar ben, gan addo blwyddyn… wel, hyd yn oed gwaeth tro nesa, o bosib. Diolch, Obama Trump. Fyddwch chi’n gweld lot o edrych yn ôl ar 2016 ac edrych ymlaen at 2017 yma dros y wythnosau nesa – fyddwn ni’n trafod holl deledu,…

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Y diweddaraf o etholiad arlywyddol America

Na, dwi ddim yn colli arni – am resymau sydd y tu hwnt i ddealltwriaeth Blogmenai mae rhai talaethau yn yr UDA yn dal i gyfri tan fis Ionawr, ac fel mae’r cyfri wedi mynd rhagddo mae’r bwlch rhwng Clinton a Trump wedi mynd yn fwy, ac yn fwy, ac yn fwy … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: na

Dw i ddim yn gwybod yn ddigon er mwyn mynegi fy marn ynghyn â chanlyniad y refferendwm yn yr Eidal. Un peth dw i’n sicr, fodd bynnag, ydy bod o’n ganlyniad da dros bobl yr Eidal, oherwydd bod Barak Hussein Obama wedi bod yn cefnogi’n daer yr ochr “Ie.” Rhaid canmol Mr. Renzi am gadw at ei air ac ymddiswyddo ar unwaith heb ofyn am ailgyfrif. Parhau i ddarllen

Cymraeg – Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: DAN Y CHWYDDWYDR: HOLI LLEUCU ROBERTS

Yr awdur Lleucu Roberts sydd yn cael ei holi gan Y Silff Lyfrau! Parhau i ddarllen

Y Papur Gwyrdd: Pwy sy’n dangos arweiniad call a chyfrifol i’r byd wrth i’r Ddaear boethi ar garlam?

Triawd o ddinasoedd. Dwy ohonynt yn brolio enwau cyfarwydd ledled y byd. Llefydd pwysig. Cynefinoedd y mawrion. Y drydedd yn adlais o’r cynfyd, hen werddon rywle yn unigeddau Morrocco, yn perthyn i’r gorffennol. Ond pa un sy’n gwneud cyfraniad call … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

fel y moroedd: stopiwch y terfysgwyr!

Mae pobl yn dal i brotestio yn erbyn Donald Trump mewn dinasoedd mawr, ac mewn modd ofnadwy o dreisgar. Mae nifer ohonyn nhw wedi cael eu talu i achosi cynnwrf, ac maen nhw’n cael eu cludo mewn bysiau o le i le. Mae rhai ohonyn nhw’n gwisgo hetiau a chrysau Trump er mwyn twyllo’r cyhoedd hyd yn oed. Dylai’r arlywydd Obama fod wedi gweithredu’n gadarn i’w hatal erbyn hyn, ond wnaeth o ddim byd. Rŵan collodd hogan fach bedair oed ei thad oherwydd bod yr ambiwlans a oedd yn ei gludo’n cael ei rwystro gan y terfysgwyr ar y ffordd; cyrhaeddodd yr ambiwlans yr ysbyty’n rhy hwyr. Dylai’r arlywydd Obama eu hatal nhw ar unwaith cyn i’r sefyllfa fynd o ddrwg i waeth. Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Does hope trump hate? – President Trump and Welsh Nationalism

Can a progressive national movement be successful?

I describe myself as a utilitarian nationalist, as I believe that there are logical and practical reasons why further self-determination would benefit Wales.

However, we shouldn’t kid ourselves that people are always logical and practical when they choose who to vote for.

As Trump’s election as President in the United States has shown, people tend to vote with their gut, for loyalty to a particular tribe, and for emotional reasons.

Hate is the most powerful emotion of all. And when it comes to nationalist movements, voters tend to react not to policies but to what’s called the ‘discourse of nationalism’ – a discourse that emphasises in many overt and subtle ways the difference between ‘us’ and ‘them’.

Trump’s campaign wasn’t a nationalist movement per se – he wasn’t campaigning for independence – but he did tip the scales back from civic to ethnic nationalism.

To be an American it was no longer enough to live in the country and respect its constitution and its institutions – the Khzir Khan model of American nationalism.

The Trump campaign’s message was that you only truly belong to the country if you belong to a particular culture, in this case White Anglo-Saxon/Celtic Protestant.

The discourse of nationalism is obvious in Trump’s speeches and adverts and has clearly been extremely effective.

Welsh and Scottish nationalism’s ‘problem’ (if you could call it that) is that it lacks such a clear ‘us’ versus ‘them’ narrative.

Its adherents are progressive liberals. Most are happy to accept anyone who wants to be part of the country. There’s no ‘other’ to be excluded.

The only ‘other’ is Westminster, or perhaps British politicians. They can claim these British institutions aren’t working for them, and need to be replaced with home-grown ones.

It’s easy to maintain civic nationalism in a country that is already independent, but it’s harder in my opinion to base an independence movement on it, because it lacks the same emotional punch.

How then can Welsh and Scottish nationalists appeal to voters on an emotional level? They can offer hope, but unfortunately – as the US election has shown – when it comes to the ballot box hope doesn’t always trump hate.

The only chance of success in my opinion is that the politics of the UK become so repellent to Welsh and Scottish voters that independence becomes the only positive solution.

That is clearly the game Nicola Sturgeon is playing, by juxtaposing the pro-EU and progressive civic nationalism in Scotland with the increasingly right-wing, ethnic turn of British nationalism.

Thankfully, they’re doing it the hard way. Whether it’ll be enough remains to be seen.

Further thoughts: How dangerous is Trump?

The extent to which we should fear a President Trump depends to a large extent upon to what extent he actually he has the political nous and patience to govern a country.

Despite being the most powerful person on earth, a President and the rest of the Executive Branch can get very little done without the Legislative Branch.

As President Obama demonstrated before him, it’s easy to campaign on a message of change, but much harder to deliver change when in power.

Despite his promises in 2008, Guantánamo Bay remains open, millionaires still pay a lower tax share than many of their workers, and government surveillance in as intensive as ever.

Obama’s failures were frustrating at the time, but when a demagogue does enter power you are reminded why these checks and balances are there.

We should certainly take Trump and his fascist tendencies at face value – he is very dangerous and would build that wall, veto the press and deport millions if he could.

But he can’t achieve anything without the rest of the Republican party, who are thankfully slightly less dangerous.

I don’t think Trump has the patience or intelligence to get his policies through. I suspect we’ll probably end up with an executive that is run by the Vice President, Mike Pence.

His views on guns, the LGBT community are extremely troubling, but not quite white supremacist-level troubling.

It should be noted however that the Nazis’ rise to power in Germany was played down in the 1930s on the grounds that other political parties would have a moderating influence on them.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ynglyn a’r polau piniwn

Gan bod Dan yr Wyneb wedi gofyn i mi ddweud pwt am bolio yn sgil y methiant polio yn yr etholiad arlywyddol yr wythnos yma, a gan fy mod wedi bod yn edrych ar y pwnc yn sgil hynny waeth i mi ddweud gair neu ddau yma am y pwnc hynod gymhleth hwn.Dyma i … Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Buddugoliaeth Trump – ambell i wers

Roedd buddugoliaeth Trump yn anisgwyl – yn sicr o safbwynt y polau a’r marchnadoedd betio.  Ond digwyddodd mewn cyfnod lle – o safbwynt gwleidyddiaeth beth bynnag – mae’r anisgwyl yn ddisgwyledig.  Mae yna wersi etholiadol i’w cymryd o hyn ol… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Trump, Brexit, rhyddfrydiaeth a chenedlaetholdeb

Yr Arlywydd Etholedig Donald Trump
Rwy’n credu bod yna ddau ffactor wrth wraidd buddugoliaeth Trump yn yr Unol Daleithiau a Brexit yn y Deyrnas Gyfunol.


Rhif 1


Yn gyntaf, system etholiadol a oedd yn gorfodi dewis rhwng dau ganlyniad a oedd, i’r mwyafrif o bobl, yn annymunol.


Yn y ddau achos, roedd pobl eisiau datgan eu hanfodlonrwydd gyda’r drefn fel yr oedd, ond yr unig fodd o wneud hynny oedd dewis opsiwn eithafol a fyddai yn gwneud pethau’n waeth.


Refferendwm a arweiniodd at Brexit wrth gwrs, ac mae’r rheini yn bethau prin, ond mae system ddemocrataidd yr Unol Daleithiau wedi bod yn llanast ers degawdau ac mae angen ei atgyweirio.


Rhwng etholaethau wedi eu gerimandro, y gornestau cychwynnol, dylanwad arian ar y broses, a’r coleg etholiadol ei hun, does yna ddim llawer yma sy’n gwneud unrhyw fath o synnwyr.


Esgorodd y system hon ar ddau ymgeisydd hynod o wael, a gorfodwyd pobl yr Unol Daleithiau i ddewis rhyngddynt am nad oedd y system mewn gwirionedd yn caniatáu unrhyw ddewis amgen.


Yn anffodus rwy’n credu bod y modd y mae’r wlad bellach wedi ei rwygo i lawr y canol yn ganlyniad uniongyrchol i orfodi pawb i ddewis rhwng y Democratiaid a’r Gweriniaethwyr.


Mae angen llawer mwy o hyblygrwydd o fewn ein systemau democrataidd os ydyn nhw am osgoi twf eithafiaeth yn y dyfodol. Mae cynrychiolaeth gyfrannol a phleidlais sengl drosglwyddadwy yn hanfodol.

Rhif 2


Mae’r term ‘neo-ryddfrydiaeth’ wedi colli ei ystyr drwy orddefnydd dros y blynyddoedd diwethaf. Ond beth bynnag ydan ni’n ei alw, mae’n amlwg bod yr etholwyr wedi cael llond bol ohono.


Dyw hyn ddim yn unrhyw beth newydd. Wedi’r cwbl, roedd y geidwadaeth radicalaidd a oedd yn rhan o dwf cenedlaetholdeb Cymreig diwylliannol yn yr 20fed ganrif yn ymateb i raddau i ryddfrydiaeth eithafol yr 19eg ganrif.


Mae masnach rydd yn cyfoethogi pawb, ond rhai yn fwy na’i gilydd. Ac nid yw’r manteision mor amlwg pan ddaw hynny ar draul ystyriaethau diwylliannol a chymdeithasol.


Does dim dwywaith bod nifer o gefnogwyr Trump yn hiliol. Ond y cwestiwn yw i ba raddau y mae’n ymateb i newid demograffig a diwylliannol cyflym yn yr Unol Daleithiau.


Roeddwn i’n anhapus o weld Donald Trump yn cael ei ddisgrifio fel ‘nationalist’. Y gwir yw bod Hillary Clinton yn genedlaetholwr hefyd, ond bod ei chenedlaetholdeb hi yn un sydd â gwedd ddinesig iddo.


Mae Donald Trump yn genedlaetholwr ethnig a diwylliannol. Wrth addo gwneud America yn fawr unwaith eto, yr hyn a oedd yn ei addo mewn gwirionedd oedd ei ddychwelyd i oes pan nad oedd unrhyw her i reolaeth, diwylliant ac iaith y mwyafrif croenwyn.


Rwy’n credu bod y pwyslais ar ddiwylliant ac iaith yn bwysig yma. Er ei fod yn ddyn croenddu, roedd Barack Obama yn dderbyniol i nifer o’r un bobl a bleidleisiodd dros Trump.


Roedd ei fagwraeth yn golygu ei fod yn gallu pontio ffiniau diwylliant pobl croenwyn a chroenddu.


Llwyddodd i apelio at y dosbarth gweithiol croenwyn, tra bod Hillary wedi ceisio eu hanwybyddu a dibynnu ar bleidlais pobl croewyn oedd ag addysg a grwpiau lleiafrifol. Methodd y strategaeth hon.


Mae iaith yn ystyriaeth arall wrth drafod dylanwad poblogaeth Hispanaidd yr Unol Daleithiau. Mae disgwyl i ddefnydd y Sbaeneg barhau i dyfu wrth i’r boblogaeth gyrraedd 30% o drigolion yr Unol Daleithiau.


Mae’n hawdd i ni ar y chwith wfftio pryderon o’r fath a dyheu am fyd amlddiwylliannol lle mae pawb yn gyfartal. Ond yn anffodus mae nifer yn gweld rhyngweithio rhwng diwylliannau gwahanol yn debycach i ‘tug of war’ – yn eu tyb nhw, does dim modd i ddylanwad y grwpiau lleiafrifol dyfu heb i ddylanwad y grŵp gwyn mwyafrifol grebachu.


Mae ymchwil wedi dangos bod twf poblogaeth groenddu neu Hispanaidd yn golygu bod cymunedau croenwyn yn fwy tebygol o bleidleisio dros y blaid Weriniaethol.


Roedd nifer yn meddwl y byddai’r newidiadau demograffig yn yr Unol Daleithiau yn siŵr o fod o fudd i’r Democratiaid, ond ymddengys y bydd yn hytrach yn hybu’r Gweriniaethwyr, yn y tymor byr beth bynnag.


Casgliad


Y ddau ffactor hyn gyda’i gilydd oedd y cyfuniad peryglus.

Roedd bai ar y sefydliad yn achos Brexit ac etholiad Trump. Roedd y Democratiaid wedi hybu Trump gan feddwl mai ef fyddai’r ymgeisydd hawsaf i’w faeddu.

Roedd Cameron yn yr un modd wedi cynnig refferendwm ar Brexit gan feddwl y byddai’r bobl yn gochel rhag ddewis mor eithafol.

Yn y ddau achos roedd y mwyafrif diwylliannol wedi cael cymaint o lond bol gyda’r drefn ryddfrydol fel ag yr oedd fe ddewison nhw neidio oddi ar y clogwyn i’r tywyllwch.

Mae angen i ni gynnig dewis i’r etholwyr sydd rywle rhwng y ddau begwn hyn os ydyn ni am atal twf ffasgaeth yn yr Unol Daleithiau ac yn Ewrop.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Buddugoliaeth Trump – ychydig o sylwadau cychwynol

Aw!  Yr unig gysur o alw rhywbeth fel hyn yn anghywir debyg ydi bod bron iawn i’r holl gwmniau polio, y marchnadoedd betio a’r holl wybodysion.  Ond anghywir ydi anghywir am wn i.Cawn weld tros y blynyddoedd nesaf os bydd yr enwog wal yn cael… Parhau i ddarllen

Menywodcymru: 2016 – blwyddyn y merched?

Mared Ifan, gohebydd y Cynulliad Golwg sy’n edrych ar wleidyddion benywaidd ar drothwy Etholiad yr UD… Gyda Brexit, Trump a llanast llwyr y Blaid Lafur, mae 2016 wedi bod yn flwyddyn ryfedd, gyffrous a heriol, yn enwedig i sawl un yn y ‘sefydliad’. Gallwch ddadlau hefyd mai blwyddyn i’r merched oedd hi, gyda dynes ar […] Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Beth fydd yn digwydd ddydd Mawrth?

Dwi’n gwybod fy mod yn mentro gwneud ffwl ohonaf fy hun yma – ond ‘dwi’n darogan y bydd Clinton yn ennill yn weddol hawdd.  Dwi’n seilio’r canfyddiad hwnnw ar yr unig beth sy’n bwysig wrth ddarogan etholiadau mewn gwirionedd – y data sydd ar gael…. Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Pam bod yr ymgyrch arlywyddol yn yr UDA wedi bod mor niweidiol i ddemocratiaeth?

Tra bod yr etholiad arlywyddol yma wedi bod ar un olwg yn anodd tynnu llygaid oddi arni hi, mae hefyd wedi bod yn un uffernol o safbwynt democratiaeth yn America.  Mae hynny’n rhannol oherwydd pwy sy’n sefyll – ar ol yr holl wario a’r broses hirfa… Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Galw Ras Arlywyddol UDA 2016


Un o’r pethau sydd wir yn siomedig am sylwebaeth wleidyddol Gymreig ydi ei bod bron yn gyfan gwbl, boed yn y cyfryngau neu ar-lein, yn ymwneud â Chymru, a hyd yn oed bryd hynny ‘sneb yn sticio’u pennau allan i ddarogan dim. Iawn, gêm wirion ydi darogan gwleidyddol ond mae o dal yn hwyl i’w ddarllen ac mae ‘na werth iddo; ac os na all ein harbenigwyr wneud hynny, pwy all? Ond, un peth sy’n wirioneddol siomedig yng Nghymru a’r Gymraeg ydi’r diffyg llwyr o drafod gwleidyddiaeth ryngwladol ar wahân i ddarnau barn. A dyna’r rant o’r ffordd.

Bron blwyddyn yn ôl, ysgrifennais flogiad ar y ras arlywyddol yn UDA, yn datgan fy mod i’n meddwl bryd hynny fod gan y Gweriniaethwyr fantais. Rŵan, er fy mod i wedi cwyno am ddiffyg darogan uchod, mae’r hyn sydd wedi digwydd dros y môr wedi dangos pam fod pobl mor amharod i wneud hynny! Ond mae’n ras yn rhy ddifyr i’w hanwybyddu.
Dydw i ddim am roi fy marn ar y ddau ymgeisydd yma; dwi’n gwneud hynny ar Twitter a fedra i ddim dioddef y naill na’r llall. Ond rhaid trafod deinameg y peth. Waeth pwy aiff â hi, bydd arlywydd nesaf UDA yn rhywun y mae’r rhan fwyaf o’r wlad ddim yn ei hoffi. Y mae’r ddau ymgeisydd rywsut yn ffwndro; mae’r pethau amhriodol a ddywed Trump yn effeithio arno’n ysbeidiol (dim ond iddo fownsio’n ôl yn ddi-ffael) – y cwestiwn mwyaf o’i ran o ydi a fydd yn dweud y peth anghywir yn rhy hwyr yn y dydd, gan beidio â rhoi cyfle i Clinton ei distrywio’i hun unwaith yn rhagor a throi ras sy’n edrych yn gyfforddus eto’n agos. Dwi’m yn cofio ras wleidyddol o unrhyw fath sy’n ymdebygu i’r peth: mae’r ddau’n ffodus eu bod yn eu hwynebu ei gilydd, achos prin y byddai ganddynt gyfle yn erbyn unrhyw un arall.
Serch hynny mae Clinton yn mynd drwy gyfnod gwael iawn, iawn. Roedd ei sylwadau “basket of deplorables” am gefnogwyr Trump yn rhyfeddol o annoeth. Mae etholiadau, fel Romney yn 2012, ond yn ddiweddarach o blith ymgyrchwyr aros yn refferendwm y DU, wedi dangos pa mor beryglus ydi gwawdio hyd yn oed ran o’r etholwyr fel hynny. Yn wir, mae’n tueddu i fod yn dyngedfennol. Roedd y ‘datgeliad’ yn ddiweddarach i Clinton ddioddef o niwmonia, a bod hi ei ddweud y peth yn gynharach, yn atgyfnerthu’r ddelwedd anonest ohoni, ynghyd â’r ffaith iddi wella’n rhyfeddol o gyflym am rywun a gawsai gyflwr sy’n tueddu i gymryd wythnosau i wella ohono (eto, mae’n drewi o anonestrwydd, cas beth pleidleiswyr). Ac, waeth beth fo’r manylion, mae’r newyddion heddiw bod un o fomwyr Efrog Newydd o Afghanistan fwy na thebyg am helpu Trump, a hyd yn oed gyfiawnhau i raddau rhai o’r pethau mae’n eu dweud.
Dwi’n meddwl y gallai’r newyddion hwnnw fod yn dyngedfennol hefyd. O ystyried fod terfysgaeth eisoes yn fater mor bwysig i bobl yn yr etholiad hwn waeth beth fo’u lliwiau gwleidyddol, mae’n anodd gweld hyn yn lleddfu ar hynny.
Mae gan y ddau hefyd fantais sydd hefyd yn anfantais iddynt. Mae gan Trump graidd brwd drosto ond y tu hwnt i hwnnw mae pethau’n anos iddo. Mae craidd Clinton yn llai brwd i’w weld ond mae ei hapêl – hynny sydd ganddi – efallai’n fwy. Y mae diffyg brwdfrydedd dros y ddau felly’n bwrw amheuaeth dros y canlyniad terfynol.
Mae’r polau cenedlaethol o fis Medi yn awgrymu bod Clinton ar y blaen o lai na 2% (a hynny mewn ras ddwyffordd). Mae’n eithaf difyr fod ymgyrch y Libertariad Gary Johnson i’w gweld yn ei niweidio hi yn fwy na’r Gweriniaethwyr, ond mae’n annhebygol o newid canlyniad yr etholiad mewn difrif. Dyma fy map hyfryd (a wnaed diolch i www.270towin.com) o’r sut aiff pethau pe cynhelid yr etholiad heddiw. Y lliwiau tywyll ydi’r taleithiau sicr a’r rhai golau ydi’r rhai sy’n dechrau corlannu i un ochr.
Rŵan, dydi hwn fawr fwy na fi’n craffu ar bolau a darllen erthyglau dirifedi dros y mis diwethaf, ond mae mantais ddiamheuaeth gan Clinton yma. O ran ‘pleidleisiau etholiadol’ (faint mae bob talaith ‘werth’) mae rhai pwysig fel Minnesota a Pennsylvania wedi dechrau troi’n lasach yn ôl yr arolygon barn. Ar y llaw arall mae rhai fu’n las gynt, fel Ohio ac Iowa’n dechrau troi’n goch. Os ydych chi’n meddwl pam fod rhai yn y de’n goch golau, mae’n fwy achos diffyg data na dim. Hefyd gyda Georgia er enghraifft, jyst uwch Florida, mae’n rhywle y mae’r Democratiaid yn od o hyderus ond, i fod yn onest, maen nhw’n annhebygol iawn o’i chipio; yn enwedig gan eu bod wedi bod yn dweud hynny ers blynyddoedd, a’u bod hefyd wedi dweud pethau tebyg am Texas ac Utah (lle cafodd y Gweriniaethwyr 73% o’r bleidlais yn 2012) dros y mis diwethaf.
Yr unig le heb ddarogan uchod ydi Florida lle mae pethau’n agos iawn. Ond mae Florida’n ddifyr. Mae ‘na gymuned Sbaenaidd gref yno; un sy’n fwy tebygol o gefnogi’r Gweriniaethwyr na gweddill UDA yn draddodiadol (mae Rubio ymhell ar y blaen i’w wrthwynebydd Democrataidd yn y ras Seneddol gyda llaw). Ond mae’n amlygu un broblem gyffredinol i’r Democratiaid; mae nifer y pleidleiswyr cofrestredig yn llawer, llawer is ymhlith pobl Sbaenaidd, a phobl dduon hefyd, nag ymhlith pobl wynion. Mae’n bwysig, bwysig nodi nad ydi’r polau fel arfer yn adlewyrchu hyn.  
Rhaid hefyd gynnwys y ffactor Trympwyr Tawel; rydyn ni’n cael yr un ffenomen yma gyda’r Ceidwadwyr. Faint o’r rheiny sydd yn UDA? Er, mae’n ddigon tebyg yn yr etholiad hwn fod digon o bobl wnaiff bleidleisio dros Clinton sy ddim eisiau cyfaddef hynny chwaith!
Ond beth petai’r duedd raddol, flêr at Trump yn parhau? Rŵan, darogan gweddol ddi-sail ydi’r fath beth, ond o ystyried popeth dwi’n meddwl ei bod yn deg gwneud y fath ddarogan, o ystyried popeth y soniais amdano ar ddechrau’r blog. Beth am inni roi gogwydd cyffredinol oddi wrth Clinton i Trump, ar frig uchaf y margin of error sef 3%? Ffantasïol? Braidd. Ond ceisio cyfleu rhywbeth ydw i yma.
Wrth gwrs, nid dweud ydw i fod yr uchod am ddigwydd; mae gogwydd o 3% o Clinton i Trump yn annhebygol ond feiddiwn i ddim â dweud amhosibl, hyd yn oed os oes amrywiaeth sylweddol rhwng y taleithiau. Ond yr hyn dwi’n ceisio’i gyfleu gyda’r uchod ydi hyn: byddai gogwydd bach iawn yn gwneud pethau’n anos o lawer i Clinton, gan ddod â thaleithiau annisgwyl i mewn i’r gêm. Ydi, mae’n anodd gweld llefydd fel Michigan a Wisconsin yn pleidleisio dros Trump, ond dydy pethau ddim yn amhosibl.
Yn fras, dyma 10 pwynt i’w hystyried:

  1.  Mae Clinton yn ymlwybro i lawr yn y polau; mae Trump yn ymlwybro i fyny. Yng nghyfartaledd data polio cenedlaethol diweddaraf Real Clear Politics, mae Clinton lai nag 1% ar y blaen.
  2. Mae neges Trump, yn enwedig am bethau fel TTP, yn taro tant gwirioneddol yn America ganol. Ac mae’n bwysicach i bobl weld eu bywydau unigol nhw’n gwella nag unrhyw beth arall. Dydi Clinton ddim yn taro tant neb.
  3. Clinton ydi’r sefydliad gwleidyddol sy’n cael cic ddiamheuaeth ym mhedwar ban byd ar y funud.
  4. Er bod mantais enfawr gan Clinton ymhlith pobl o dras Sbaenaidd, mae’r lefelau cofrestru i bleidleisio’n llawer is yn eu plith.
  5. Mae ganddi hefyd fantais fawr ymhlith pobl dduon, ond mae’n annhebygol o sicrhau’r un lefel o gefnogaeth yn eu plith ag y gwnaeth Obama waeth beth wnaiff Trump.
  6. Gyda’i gilydd mae pobl dduon a phobl o dras Sbaenaidd tua 28% o’r boblogaeth. Mae pobl wynion yn 64% gyda’r trwch yn cefnogi’r Gweriniaethwyr. Os bydd y nifer sy’n pleidleisio’n uwch yn gyffredinol y tro hwn, bydd yn debygol, er gwaethaf popeth, o ffafrio’r Gweriniaethwyr.
  7. Efallai bwysicaf oll, mae Trump wedi hen gyrraedd y pwynt lle nad oes neb yn synnu arno, waeth pa mor stiwpid, anonest neu wirion ydi o. Mae’r canfyddiad o Clinton fel dynes gymwys – sef bron yr unig beth o’i phlaid – wedi dadfeilio’n ddifrifol.
  8. Y Trympwyr Tawel y soniais amdanynt uchod. Faint ohonyn nhw sydd yno?
  9. Mae Trump eisoes wedi chwalu pob rheol wleidyddol synhwyrol at ennill … ac wedi ennill.
  10. Ac yn olaf, pwynt difyr iawn sy’n cael ei golli: do, cafodd Obama bum miliwn o bleidleisiau’n fwy na Romney yn 2012, ond mae UDA yn enfawr. Canran ei fuddugoliaeth oedd 3.9%. Landslide nid oedd.

Pwy ag ŵyr beth fydd yn digwydd nesaf yn y ras? Amhosib dweud; gwirioneddol amhosib. Ond taswn i’n ddyn betio, ac er gwaetha’r ffaith na Clinton ydi’r ffefryn (mewn sawl ffordd, yn enwedig os edrychwch eto ar y map cyntaf yn y blogiad hwn, y ffefryn clir), mi fyddai fy mhres i ar Y Donald.
Dwi’n ei galw hi.

Parhau i ddarllen

Gofalaeth Fro'r Llechen Las: Dim ond y gwir

Un o’r sefydliadau prysuraf yn yr Unol Daleithiau heddiw yw FACTCHECK.ORG.  A’r hyn sy’n gyfrifol am hynny yw’r datganiadau a wneir gan wleidyddion ar drothwy’r Etholiad Arlywyddol.  Ysgolheigion o Brifysgol Pensylfania sy’n cynnal prosiect FACTCHECK.ORG, a’u nod yw gwirio datganiadau’r gwleidyddion er mwyn helpu pobl i benderfynu pwy sy’n deilwng o gael eu pleidlais. A […] Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ydi hi’n bosibl i Trump ennill?

Byddai llawer yn dweud ei bod yn anodd iawn i’r Blaid Weriniaethol ennill mewn etholiad arlywyddol (lle mae cyfraddau pleidleisio yn gymharol uchel) oherwydd demograffeg – mae’r grwpiau sy’n pleidleisio tros y Democratiaid yn tyfu tros amser tra bod y … Parhau i ddarllen

Y Papur Gwyrdd: Cefnogwn mudiad 350.org yn erbyn grym Exxon yng Nghyngres yr Unol Daleithiau

Rydym yn byw mewn cyfnod eithriadol o gythryblus gyda bygythiadau Trump, Brexit, terfysgaeth, globaleiddio, rhyfela, tlodi a newyn enbyd, symudiadau poblogaeth dirdynnol o drist a phroblemau anferth eraill. Ond er y rheidrwydd arnom i ymateb i’r pynciau difrifol hyn, y … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Oes yna unrhyw un call ar Gyngor Môn ?

Yr wythnos ddiwethaf bu’r Arlywydd Obama yn Hiroshima, y cyntaf erioed o arlywyddion America i ymweld â’r ddinas honno.  Soniodd yn gyffredinol y byddai’n dda cael llai o arfau niwclear.  Nid ymddiheurodd am yr hyn a alwodd un o’r awyrenwyr, wrth wylio’r cwmwl yn codi ar y diwrnod hwnnw yn 1945, yn ‘marvel of American […] Parhau i ddarllen

shitclic: Pawb a’i Rant


Mae cyffro etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ar ein gwarthaf. Wel, yr etholiadau o leiaf. Does dim modd osgoi placardiau Neil McEvoy (Plaid) a Mark Drakeford (Llafur) bob yn ail dŷ yn Nhreganna-Llandaf, ac mae’r daith i fyny’r A470 yn ddifyrrach nag arfer ar hyn o bryd. Yn enwedig Aberhonddu a’r cylch, lle mae cloddiau caeau yn las ag oren (yr un cae weithiau!) wrth i’r Rhyddfrydwyr a’r Toris baffio dros Frycheiniog-Maesyfed. 
Mater gwahanol ydi hi yn y wasg a’r cyfryngau Llundeinig ar y llaw arall. Pe taech chi’n llwyr ddibynnol ar BBC Six o Clock News am eich ffics gwleidyddol y dydd, yna ras fileinig Mrs Clinton a Mr Trump fydd ar eich meddwl, yn ogystal â ’matab diweddaraf y clown o Faer Llundain i’r Refferendwm Ewropeaidd. Ond lecsiwn Cymru? PA lecsiwn? Chwarae teg, mae Leanne Wood wedi trio gwneud ei gorau glas i atgoffa Cymry a Brits di-glem am fodolaeth y Sembli trwy ymddangos ar Any Questions o Swydd Gaer a Question Time o Gaerwysg yn ddiweddar, gan wylltio lot o’r twitteratis gyda’i “Wales this, Wales that”. Eitha reit hefyd, a blas o’r hyn mae gwledydd datganoledig Prydain yn ei deimlo a’i ddioddef pan fo’r rhaglenni hyn yn trafod pynciau Lloegr yn unig, o streic y darpar feddygon i’r academïau addysg.
Mae pethau’n wahanol ar deledu a radio nes adra wrth gwrs, gyda’r BBC ac ITV yn mynd ati i’n hatgoffa o bwysigrwydd Mai’r pumed. Dwi wedi osgoi’r darllediadau gwleidyddol fel y pla, cofiwch chi. Ond wythnos diwethaf, cawsom y gyntaf o ddwy raglen drafod yr arweinwyr ar ITV Cymru dan law Adrian Masters o’r Coleg Cerdd a Drama. Cwmwl parhaus Port Talbot oedd y prif bwnc, cyn i Carwyn ei chael hi go iawn ar record simsan ei blaid ym myd addysg ac iechyd yn arbennig, a Leanne a Kirstie yn dangos eu gwd-gyrl power wrth ei lambastio o boptu. Roedd arweinydd newydd y Gwyrddion, Alice Hooker-Stroud Gymraeg ei hiaith, yn hyderus yng nghanol yr hen stejars, Andrew T Davies o’r Ceidwadwyr yn harthio bob hyn a hyn a Nathan Gill UKIP gyda llais ag arddeliad Dalek ar ei wely angau. Ar y cyfan, dwy awr – ie DWY AWR reit ddifyr.
Huw Edwards fydd y reffarî wrth i’r Wales Report gynnal yr ail seiat o Neuadd Dewi Sant Caerdydd nos Fercher yma, yn ffres o holi rhyw dwrist Americanaidd o’r enw Obama yn Westminster ‘cw. Dim ond awr a hanner o raglen fydd hon am ryw reswm, pwynt bonws i griw ITV felly. Wrth gwrs, dagrau pethau ydi na chawn ni fyth rhaglen o’r fath ar S4C, gyda dim ond dau o’r chwech yn gwbl rhugl yn y Gymraeg. Comisiwn reit neis i gyfieithydd ar y pryd, serch hynny. Ond nid Linda Brown o gwmni Run Sbit.
Yn lle hynny, mae gennym ni Pawb a’i Farn. Oes tad. Mi drois i wylio’r hanner awr olaf o westy St Georges (addas iawn) Llandudno ar ôl chwip o ddrama ar BBC1 yr un pryd. O uchelfannau Line of Duty i uffern Felix Aubel, boi fuasai’n gallu taranu a thaeru efo’i gysgod ei hun. O be welais i (tu ôl i’r glustog yn bennaf), roedd Siân Gwenllïan isio tagu Siôn Llafur, Aled Roberts hynod ddibynadwy dal wrthi fel lladmerydd un dyn dros y LibDems prin eu hymgeiswyr Cymraeg, a hogan ifanc IwCip mewn bydysawd arall. Hyn oll o flaen Costa Geriatriciaid hynod amheus o‘r “hen Giaerdydd na”, gyda chryn dipyn uchel eu cloch am i’r Gogladd (Cymru) ymuno â Northern Powerhouse y Gogladd arall (Lloegr) ac i’r diawl â chyd-Gymry i’r de o bont fawr Llanrwst. Bron na allech chi glywed Dewi Llwyd yn ochneidio mewn anobaith.
Es i ’ngwely noson honno yn teimlo’n benisel iawn iawn. Nodyn gan y doctor: osgoi’r rhaglen o Abertawe nos Iau ar bob cyfrif a chanolbwyntio ar 90 munud o gampwaith cnoi ewinedd Jed Mercurio. A marcio’r bleidlais bost reit handi. 

Pwy sy’n sefyll dros y Difaterwyr eto?

  
  • The Wales Report: Welsh Leaders’ Debate Live with Huw Edwards BBC1, 8.30 nos Fercher 27 Ebrill
  • Line of Duty BBC2, 9pm nos Iau 28 Ebrill
  • Pawb a’i Farn S4C, 9.30 nos Iau 28 Ebrill

Parhau i ddarllen

rhysllwyd.com: Trumpmania: Ffydd a gwleidyddiaeth adweithiol

Mae’r erthygl yma’n ymddangos yn y rhifyn cyfredol o Cristion sydd ar gael o’ch siopau llyfrau lleol neu mae modd tanysgrifio ar-lein ar www.cristion.net Treuliais yr haf diwethaf yn teithio trwy ddwyrain yr Unol Daleithiau, nid yn unig ddinasoedd y gogledd-ddwyrain ond hefyd rai o daleithiau’r ‘Bible Belt’ yn y de. Rai wythnosau cyn i […] Parhau i ddarllen

Cael y System Allan o'm System: GALLWCH CHI DDIM NEWID Y PETHE YMA – Anhysbys

“Fe fydd plant yn câl ‘u geni i’r byd, bydd merched a bechgyn yn priodi, ac yn câl plant; ac fe fydd pawb yn marw. Dyna yw bywyd, a gallwch chi ddim newid y pethe yma.” Daw tri mab y nofel, y tri /dyn/, o ben y Graig. Y Bardd, y Sosialydd a’r Gweinidog, a’u […] Parhau i ddarllen

fideo wyth: Minecraft a codio

gan @dafprys Teclyn pwerus iawn ar flaen eich bysedd yw’r gallu i codio: dwi wedi ymbalfalu dros sawl blwyddyn nawr i’r gallu i rhoi gwefan ymatebol syml i fyny ond dyw hwnna’n ddim byd i’r gallu i rhestru llinynau rhesymeg gan ddefnyddio c++ neu Visual Basic (neu Fortran os chi’n ancient). Os chi’n weddol gyfarwydd efo […] Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Etholiad UDA 2016 – Y fantais â’r Gweriniaethwyr

Fydda i’n cymryd diddordeb yng ngwleidyddiaeth mwy o wledydd na Chymru, er bod yn rhaid imi gyfaddef fod fy niddordeb yn ein gwleidyddiaeth ni, sy’n hynod o ddiflas ac yn llawn gwleidyddion didalent, yn anodd ei gynnal, ac mae BlogMenai wedi hen fonopoleiddio gwleidyddiaeth Iwerddon – sy’n iawn gen i achos does gen i fawr o ddiddordeb yn y Gwyddelod nac amser iddynt chwaith.

Ond dwi’n cadw llygad go fanwl ar wleidyddiaeth ambell wlad arall – Ffrainc, yr Eidal ac, wrth gwrs, yr Unol Daleithiau. O ran UDA, mae hyn am ei bod mor wahanol i’r math o wleidyddiaeth a gewch yn Ewrop ond mae hi’n wleidyddiaeth fywiog, ddifyr hefyd. Dwi ddim am fynd i drafod Democratiaid yn erbyn Gweriniaethwyr yn y blogiad hwn, mater arall ydi hwnnw, ond yn hytrach trafod y camsyniad cyffredinol sydd gan bobl, dwi’n meddwl, fod goriadau’r Tŷ Gwyn yn anochel fynd i un arall o dylwyth Clinton.

Y mae ymgeisyddiaeth Clinton yn gwbl sicr, ond mae gan y Gweriniaethwyr lond pentref o ymgeiswyr i ddewis ohonynt o hyd. Rŵan, er gwaetha’r ffaith fod y ddau sydd ar y blaen yn wallgof (er, dwi ddim yn argyhoeddedig fod Trump yn wallgof o gwbl, dwi wastad wedi teimlo mai licio corddi mae o ac nad oes ganddo fo fawr ddim ideoleg y mae’n ei dilyn – dwi bron yn meddwl ei fod o’n neud y cyfan am laff) a bod yr ymgeisydd ei hun am gael effaith ar y canlyniad, mae yna arwyddion y bydd pethau’n agos o hyd. O ran y polau cenedlaethol, yn gyffredinol mae’r gwahaniaeth rhwng Clinton a’r prif wrthwynebwyr Gweriniaethol (Trump, Carson, Rubio – er dwi’n ceisio edrych ar bawb fel ‘cyfanswm’ o ryw fath) yn fach. Yn y ddau bôl diweddaraf (RealCleara HuffPost) mae hi’n arwain ar gyfartaledd o 4% yn erbyn yr amryw Weriniaethwyr, ond yn erbyn TCR mae hynny’n llithro i 1.7% (yn wir, mae hi tu ôl i Carson yn y ddau). Ymhell o fewn yr hen margin of error.

Serch hynny, nid nifer y pleidleisiau sy’n bwysig yn y pen draw eithr pa daleithiau a enillir, i’r fath raddau bod y polau cenedlaethol yn eilradd i raddau wrth ddarogan buddugwr. I symleiddio’r system Americanaidd i’r rhai ohonoch nad ydych yn llwyr gyfarwydd â hi, i bob pwrpas mae “pwyntiau” wedi’u pennu i bob un o daleithiau UDA ac os wyt ti’n ennill y mwyaf o bleidleisiau mewn talaith ti’n mynd â’r holl bwyntiau ar gyfer y dalaith honno. Mae Califfornia, y fwyaf, yn werth 55 – gelli di ennill yno o un bleidlais un unig â mynd â’r 55 ‘pleidlais etholiadol’. Nid yw’n system gynrychioliadol mewn unrhyw ffordd. 

Ac o ganlyniad, fel yng Nghymru, llond dwrn o lefydd fydd yn penderfynu ar bwy sy’n fuddugol. Yn UDA mae yna lu o daleithiau sydd 90%+ yn sicr o bleidleisio fel a ganlyn…


Rŵan, fel y gwelwch o hynny, o ran y taleithiau cwbl sicr, mae gan y Democratiaid fantais fechan – rhain yw’r taleithiau, gyda llaw, lle na fydd yr ymgeisydd yn newid y canlyniad y tro hwn. Dyma Ferthyron Tudful America, fel petai.

Dau beth bach i’w nodi cyn bwrw ymlaen. Y cyntaf ydi, does dim disgwyl i’r Gweriniaethwyr golli unrhyw un o’r taleithiau a enillwyd ganddynt yn 2012 – dim un (North Carolina yw’r eithriad annhebygol, nid yw’n goch ar y map uchod o ganlyniad i agosrwydd y bleidlais yn 2012 – ond o gymryd y bydd yn aros yn driw iddynt yn 2016 rhydd hynny 206 o bleidleisiau etholiadol go bendant i’r Gweriniaethwyr – mantais i’r cochion felly). Ac er bod y polau’n awgrymu na wnaiff Clinton gystal ag y gwnaeth Obama yn 2012 (sydd fawr o syndod o ystyried y bydd UDA wedi cael 8 mlynedd o Arlywydd Democrataidd erbyn blwyddyn nesaf, a bod pob Arlywydd yn amhoblogaidd wedi’r cyfnod hwnnw bron yn ddieithriad) does dim awgrym hyd yma bod y polau i’r Gweriniaethwyr fawr gwell nag yn 2012; sy’n golygu nad oes sicrwydd sanctaidd y byddant yn cipio unrhyw un o’r taleithiau gleision. Serch hynny, mae’n anodd gweld y byddant yn segura i’r fath raddau.

Golyga hynny mai 11 talaith, gydag 78.5 miliwn o bobl yn byw ynddynt – lot llai na thraean o’r boblogaeth – sydd am benderfynu ar bwy fydd arweinydd gwlad bwysicaf y byd. Yn eironig bron, dyna faint poblogaeth Iran.

Rŵan mae rhai o’r rhain sy’n debygol o droi’n goch, ond mae cryn fynydd gan y Gweriniaethwyr i gipio ambell un arall fel Mecsico Newydd (angen gogwydd 5.1%). Er o graffu arnynt nid yw’r un yn amhosibl. Y peth pwysicaf i’w gofio ydi nad oes angen i’r Gweriniaethwyr gipio pob un o’r un dalaith ar ddeg hyn. Y rhain, ac eithrio ambell un sy’n llai tebygol o newid dwylo, yw’r swing states – a does angen ennill pob un ar y naill blaid i gipio’r Arlywyddiaeth.

I egluro’r dull o ddadansoddi sut y gallai pethau weithio allan dwi wedi, wrth gwrs, ystyried y polau cenedlaethol ond hefyd y polau fesul talaith. Yn rhai o’r rhai dydi’r wybodaeth ddim yn rhy ddiweddar ond mae’n bosib efallai drwy ddefnyddio patrymau cenedlaethol gael syniad o ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu. Hefyd rhaid cofio mai Clinton fydd yr ymgeisydd i’r Democratiaid, ac er ei bod yn anos darogan pwy aiff â’r Gweriniaethwyr i faes y gad, erbyn hyn Trump, Carson a Rubio ydi’r ffefrynnau. Anodd gweld Bush yn llwyddo dringo’i ffordd yn ôl i mewn i’r ras; bet dyn call fyddai ar un o’i tri hyn.

Yn fras iawn, dyma dabl yn crynhoi’r sefyllfa o ran arolygon barn yn yr 11 talaith. Er fy mod i wedi ystyried hanes etholiadau arlywyddol, dyna’r unig etholiadau eraill dwi wedi’u hystyried – mae’r gyfatebiaeth yn UDA rhwng y mathau gwahanol o etholiadau’n wannach o lawer nag a geir yma. 

Cofiwch hefyd, y tro diwethaf, roedd pob un o’r isod yn daleithiau ‘glas’. Yr ail golofn ydi’r fantais Ddemocrataidd, a’r tabl olaf ydi sut dwi’n amau y byddai’r dalaith yn pleidleisio pe cynhelid etholiad heddiw. Sori ymlaen llaw am y ffaith fod y tabl yn rhy fawr i’r blog!  

 

Mecsico Newydd

10.2%

Dim data diweddar, ond awgrym cryf iawn o’r Democratiaid yn dal – gormod o fwlch i’r Gweriniaethwyr, ond gallai Rubio o bosibl fod yn ymgeisydd delfrydol i agosáu pethau yma. Bush yn fuddugol yma yn 2004.

DEM

Minnesota

7.7%

Gogwydd diweddar a phendant i’r Gweriniaethwyr – TCR oll yn curo Clinton (6% cyfartaledd) yn y polau, ond heb bleidleisio i’r Gweriniaethwyr ers Richard Nixon – anodd gweld y Democratiaid yn colli

DEM

Winsconsin

6.9%

Polau oll yn rhoi buddugoliaeth glir i Clinton dros unrhyw Weriniaethwr – cyson er nad yn gwbl gadarn i’r Democratiaid ers blynyddoedd

DEM

Nevada

6.7%

Bob pôl ers dros flwyddyn yn dangos Clinton ar y blaen i’r Gweriniaethwyr yn rhyfeddol o gyfforddus. Enillodd Bush yma ddwywaith.

DEM

Iowa

5.9%

Hynod agos. Gweriniaethwyr ond wedi ennill yma unwaith ers 1984, ond mantais fechan, gyson gan y prif Weriniaethwyr dros y Democratiaid yn ôl y polau.

GWE*

New Hampshire

5.6%

Arfer bod yn gadarnle od i’r Gweriniaethwyr yn y gogledd-ddwyrain, ond tueddu’n fwyfwy at y Democratiaid yn ddiweddar; mantais glir gan Clinton yn y polau diweddaraf.

DEM

Colorado

5.4%

Dim data diweddar, awgrym o ogwydd at y Gweriniaethwyr

GWE

Pennsylvania

5.4%

Agos iawn – ond mae’r gogwydd wedi symud o Clinton i unrhyw Weriniaethwr mewn polau diweddar. Tueddu i bleidleisio dros y Democratiaid yn ddiweddar ond nid o fwlch mawr ar y cyfan.

GWE*

Virgina

3.9%

Ar y cyfan polau’n awgrymu mai’r Gweriniaethwyr aiff â hi

GWE

Ohio

3.0%

Mantais i’r Gweriniaethwyr yn y polau, hanes o ogwyddo rhwng y ddwy blaid.

GWE

Fflorida

0.9%

Agos iawn a hanes o 20 mlynedd o fod yn hurt o agos – dim mantais bendant gan y naill ochr ond awgrym mai’r Gweriniaethwyr sy’n ei hymylu hi.

GWE*

*rhy agos i’w galw
Iawn, dwi wedi bod yn bach o gachwr gyda thri o’r uchod. Ond taswn i’n ychwanegu’r canlyniadau dwi’n amau uchod i’r map, fel hyn byddai pethau:

Rhaid ennill 270 o bleidleisiau etholiadol (pwyntiau!) i ennill yr etholiad Arlywyddol. Debyg gen i ar y funud, o’r 11 talaith sy’n nwylo’r Democratiaid ar hyn o bryd ac a fydd yn penderfynu ar y canlyniad, bydd y Gweriniaethwyr yn cipio 3 a 5 yn aros yn las. Ond wrth gwrs, mae hynny’n gadael y fantais nid â’r Democratiaid, ond y Gweriniaethwyr, waeth faint o bleidleisiau a gânt yn genedlaethol. Mae hyn yn rhoi’r Gweriniaethwyr mewn sefyllfa gadarn oherwydd petaent yn cipio Virginia ac Ohio (tebygol) ac yna Colorado ar ben hynny (sy’n gwbl realistig), ni fyddai angen iddynt ond ag ennill yn Fflorida i gipio’r Arlywyddiaeth. I bob pwrpas, ni fyddai buddugoliaethau ym Mhennsylvania ac Iowa ond yn fonws. Ar y llaw arall rhaid i Clinton ennill yn Fflorida a hefyd naill ai yn Iowa neu ym Mhennsylvania i ennill. Mae yna oblygiadau logistaidd ynghlwm wrth y fath ofynion strategaethol.

Rŵan, nid rhyw astudiaeth academaidd ddwys mo’r uchod o gwbl. Mae’r ffactorau sy’n rhaid eu hastudio mewn etholiad arlywyddol Americanaidd yn llawer gormod i un person eu dadansoddi (am ddim, beth bynnag). Mae’n nhw’n hurt o gymhleth, a dydi pobl yr ochr hon i’r cefnfor ddim bob amser yn ymwybodol ohonynt e.e. mae’r Gweriniaethwyr yn gallu gwneud yn dda iawn ymhlith pobl o dras Sbaenaidd, a thra bod Protestaniaid yn pleidleisio’n drwm o blaid y Gweriniaethwyr tuedda Catholigion i ddewis y Democratiaid, heb sôn am dueddiad pobl sy’n ystyried eu hunain yn ‘annibynnol’ i fwrw pleidlais dros y Gweriniaethwyr yn y pen draw. Ac eto, mae hynny heb i ni wybod eto’n sicr pwy fydd yr ymgeiswyr. Bydd y ras Weriniaethol ynddi’i hun yn werth ei gwylio.

Serch hynny, er gwaethaf y ffaith ein bod dan yr argraff yma mai’r Democratiaid sy’n codi yn UDA y dwthwn hwn, byddwn i’n awgrymu bod y fantais at flwyddyn nesaf yn nwylo’r Gweriniaethwyr, o bosibl waeth pwy fo’r ymgeisydd.

Mapiau wedi’u creu o wefan 270towin.com

Gwybodaeth polau o amryw ffynonellau Wikipedia (cenedlaethola thaleithiol) a RealClearPolitics.comyn bennaf

Parhau i ddarllen

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: ‘Arwyr o gefndir Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

Mae mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon. Er mwyn dathlu’r Mis hwn, hoffai Rhwydwaith Staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig y Cynulliad sôn am y bobl sydd wedi bod yn fodelau rôl iddynt ac sydd wedi’u hysbrydoli – eu … Continue reading Parhau i ddarllen

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Hoffai’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog glywed gennych

#GofynPrifWein– Cyfle i holi Carwyn Jones, y Prif Weinidog Hoffai’r Pwyllgor glywed gan sefydliadau, busnesau a chi – mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ar-lein ar gael isod. Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn … Continue reading Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Catalonia ac annibyniaeth

Mae bod yn Catalonia heddiw tipyn bach fel bod yn yr Alban ar yr un pryd y llynedd – ond efallai y byddai’r ‘Alban ar steroids’ yn well disgrifiad.  Mae’r ymgyrch tros annibyniaeth yn hynod o weladwy yma – gyda baner annibyniaeth – yr Estelada i’w… Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 5 Gorffennaf 2015

Darlleniad y Dydd: Barnwyr 10:1-7 (BCND:tud.232 / BCN: tud.212)

Un o’r profiadau ysgytwol rheini i mi oedd gwrando ar anerchiad yr Arlywydd Obama ar achlysur gwasanaeth coffa’r naw a gafodd eu llofruddio mewn eglwys yn Charleston, De Carolina ym mis Mehefin. Roedd yr hyn oedd ganddo i’w ddweud yn drawiadol ynddo’i hun ond roedd grym . . . → Read More: Dydd Sul, 5 Gorffennaf 2015

Parhau i ddarllen

Y Papur Gwyrdd: Hwnt ag yma ynghanol helyntion dynoliaeth a Daear

Y TRO hwn, post gyda nifer o bwyntiau cyfredol: • Syfrdanu a thristáu wrth glywed bod yr Arlywydd Obama wedi caniatáu i gwmni Shell gynnal tyllu arbrofol am olew yn yr Arctig oddiar Alaska. Shell yn disgwyl llawer mwy o … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Ambell air ar yr etholiad

Rŵan, mae’n bwysig peidio â chymryd barn rhywun oedd mor chwil ar noson etholiad y trydarodd at Dewi Llwyd, Dicw a Vaughan Roderick p’un ai oedd yn well ganddyn nhw bizza, Chinese neu Indian yn rhy o ddifrif. Er teced y cwestiwn, doedd o ddim mo’r adeg briodol i’w ofyn. Petawn i’n gorfod dyfalu dwi’n meddwl bod Vaughan yn foi am Indian da ond mai hogia pizzas ydi Dewi Llwyd a Dicw. Ta waeth.

Er ei bod ond ychydig ddiwrnodau ers yr etholiad dwi’n rhyfeddu ar faint o ddadansoddi trylwyr ac actiwli eithriadol o gall a threiddgar sydd wedi bod mor gyflym ar ôl iddo ddigwydd, a hynny gan bobl o bob ongl i’r sbectrwm gwleidyddol, felly dwi’n teimlo’n hwyr i’r parti ac fel petawn i’n gorfod ailadrodd mymryn. Ond mae rhai meddyliau sydd wedi bod yn nofio yn fy mhen dwi isio rhoi rhyw ychydig sylw iddynt, a hynny’n gryno achos dwisho gwneud fy nhe. Wna i nhw fesul pwynt.

Y system etholiadol

Does fawr neb yn honni fod y system etholiadol sydd ohoni’n deg, ond mae diwygio’r system yn farw tan yr etholiad cyffredinol nesaf o leiaf. Dydi’r Ceidwadwyr ddim isio unrhyw elfen o system gyfrannol, ac mae ganddyn nhw fwyafrif. Fydd yr SNP yn llwyr anghofio am unrhyw ymrwymiad oedd ganddi yn hyn o beth, a byddai Llafur fawr gwell eu byd dan y drefn honno. Mae hynny’n gadael UKIP, y Gwyrddion, y Dems Rhydd a’r Blaid i gyd o blaid system gyfrannol ac mae ganddyn nhw 13 sedd rhyngddynt. Y mae newid y system bleidleisio yn fater sy’n farw am rŵan.

Naws wleidyddol Cymru

Y mae nifer wedi dweud bod yr etholiad hwn yn dangos fod y syniad fod Cymru’n wlad sylfaenol asgell chwith yn hurt – ac maen nhw’n iawn i bob pwrpas. Serch hynny, mae’n biti y cymrodd mor hir i rai pobl ddechrau ystyried hyn. Rydyn ni wastad wedi bod yn genedl gymdeithasol geidwadol ac roedd twf UKIP a’r Ceidwadwyr yng Nghymru’n dangos hynny. Ni lwyddodd y Blaid, sy’n hoffi gweld ei hun fel plaid i’r chwith o Lafur, fawr o ddim o ran ei phleidlais, ac er 30 mlynedd o drio dydi hi dal heb wneud hynny. Mi lwyddodd UKIP, ac i raddau’r Ceidwadwyr wneud hyn; efallai nid er eu bod yn bleidiau’r dde, ond oherwydd hynny. 

Y mae Cymru’n wlad ôl-syniadaethol. Dydi chwarae ar fod yn asgell chwith, fel y gwnaeth Llafur a Phlaid Cymru, ddim efo’r un apêl ag yr oedd ganddi amser maith iawn yn ôl. Os rhywbeth mae Cymru’n llawer tebycach i Loegr yn wleidyddol nag y bu erioed. Mae yna ffactorau lu am hynny, ond mae’n wir.

Bod yn wladweinydd

Dydi pobl erioed wedi cymryd at Miliband a wnaethon nhw ddim at Bennet ychwaith. Roedd y ddau arweinydd yn ffactor yn aflwyddiannau eu pleidiau.

Mae Leanne Wood a Nigel Farage yn wleidyddion poblogaidd (er bod Farage yr un mor amhoblogaidd ag unrhyw un hefyd), ond dydi’r un ohonyn nhw’n dod drosodd – nac yn mewn difrif – yn ddeallus nac yn rhyfeddol o alluog. Mewn etholiad dydi hynny ddim yn argyhoeddi pobl ddigon.

Ar y llaw arall, mae dau arweinydd a lwyddodd gyfleu eu hunain fel gwladweinyddion: Cameron a Sturgeon. Roedd llwyddiannau’r ddwy blaid y tu hwnt i’w gobeithion achos eu bod nhw wedi dod drosodd fel galluog a gwybod sut mae rheoli gwlad – er, wrth gwrs, i’r ddau gael profiad o wneud hynny.

Llymder

Un pwynt mawr ddarllenais i yn rhywle arall oedd faint a wnaed o lymder – ac roedd o’n bwynt difyr. Achos, ac mae hyn yn werth ei godi, er bod pethau wedi bod yn ddu ar gynifer o bobl dros y 5 mlynedd ddiwethaf, mae’r rhan fwyaf o bobl wedi gwneud yn olreit, os nad yn wych, ac efallai bod llai o bobl nag y meddyliai’r gwleidyddion sydd isio gweld newid cyfeiriad oherwydd hynny.

Plaid Cymru

Noson gymysg oedd hi i’r Blaid. Roedd yna ganlyniadau da – nid lleiaf yn Arfon, y Rhondda a Gorllewin Caerdydd. Ar y llaw arall, roedd yna seddi nad oes angen i mi eu henwi lle’r oedd y canlyniadau’n siomedig, os nad gwael iawn weithiau. Ta waeth, y pwynt ydi hyn mewn difri: tasa’r Blaid heb gael yr holl sylw, byddai hwn wedi’i ystyried mewn rhai ffyrdd yn etholiad derbyniol iawn. Ond – â phlîs peidiwch â bod yn ddiystyriol o’r pwynt hwn, Bleidwyr – cafodd Plaid Cymru y math o sylw na chredai y câi erioed y tro hwn. Cynyddodd ei phleidlais un y cant. Hynny ydi, clywodd pobl neges y Blaid yn glir yn yr etholiad hwn … a’i gwrthod.
Mae gan y Blaid felly o hyd gwestiynau ynghylch ei chyfeiriad gwleidyddol.

Y cyfryngau cymdeithasol

Ers ethol Obama yn 2008 mae pobl wedi edrych at, a breuddwydio am, ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol. Gwelsom yng Nghymru yn sicr, ond hefyd ar lefel y Deyrnas Unedig, nad ydi’r cyfryngau cymdeithasol hanner mor ddylanwadol ag y damcaniaethai rhai pobl eu bod. Dadleuais i hyn am fyd y blogiau flynyddoedd yn ôl hefyd – mae’r un peth yn wir am Twitter heddiw. Yn wir, mae natur Twitter yn ei wneud yn anylanwadol ar farn pobl. Cyfrwng i ennill etholiad nid yw; a dydi o ddim yn rhyfeddol o effeithiol am wthio safbwyntiau gwleidyddol.

Y broblem efo’r cyfryngau cymdeithasol ydi’r swigen y mae’n ei chreu. Bu i fwy nag un ohonom ryfeddu hyd at grinjio ar rai o ddisgwyliadau cefnogwyr Plaid Cymru (er, i fod yn deg, cefnogwyr iau a mwy brwd!) o weld ambell bôl neu ddarllen ambell beth. Y wers yn fanno ydi, mae yna fyd go iawn y tu allan i Twitter, a dydi o ddim o reidrwydd yr un peth.

Twll mawr Llafur Prydain

Mae hwn yn bwynt dwi heb ei ddarllen eto, er hwyrach ei fod o wedi’i wneud. Mae beirniadaeth wedi bod at Lafur am fod yn rhy asgell chwith yn yr etholiad hwn. Ond dyma broblem Llafur – ni fu Llafur ôl Blair a Brown yn blaid asgell chwith beth bynnag, i bob pwrpas dilynai’r un trywydd â nhw.

Clywid llawer dros y misoedd diwethaf na fu i’r Ceidwadwyr ennill mwyafrif ers 1992. Ond meddyliwch am hyn – dydi Llafur heb ag ennill mwyafrif ag arweinydd gwirioneddol adain chwith ers 1974.

Mae hynny’n gadael cwestiwn mawr i Lafur ym Mhrydain – achos mi fedrid dadlau bod y blaid mewn sefyllfa lle na all ennill etholiad drwy fod naill ai yn y canol gwleidyddol nac ar y chwith.

Twll mawr Llafur Cymru

Dydw i ddim yn meddwl imi erioed â chytuno â David Taylor, ond roedd yr erthygl hon ar ClickOnWales wedi taro’i hoelen ar ei phen. Bu’r ysgrifen yn y tywod i Lafur yng Nghymru gael etholiad tebyg i hwn ers blynyddoedd, er na ddigwyddodd i raddau sylweddol tan rŵan.

Ond un gair o gyngor o ran hynny – mae Llafur o hyd yn llwyr ddominyddu bywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac yn wahanol i’r Alban tydi hi ddim yn wynebu un gwrthwynebydd cryf, trefnus, cyfrwys. Nes y bydd un blaid, a gellid dadlau’n fawr ynghylch pa blaid, yn gallu gwneud hynny, mae ei gafael ar Gymru, er gwaethaf ei gwendidau lu, yn debygol o barhau.

Ta waeth, fydd yna lot o mwy o drafod am yr etholiad, er nad gen i, mewn llefydd eraill dybiwn i, achos os gellir dweud un peth am yr etholiad hwn roedd yn un eithriadol o ddifyr a fydd yn haeddu cael ei ddadansoddi a’i drafod yn fanwl.

Reit, dwi ddim yn Dori, ond dwi am gael samon a salad i de. Welai chi pan welai chi – wyddoch chi fyth pryd y bydda i’n blogio nesaf, oni wyddoch? Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Amcanion a chymhellion y Wladwriaeth Islamaidd

Mae yna erthygl ragorol iawn yn rhifyn cyfredol The Atlantic, yn trafod gwreiddiau ac ideoleg y Wladwriaeth Islamaidd. Mae’n hir dros ben, ond mae’n werth darllen y cyfan.

Prif neges yr ysgrif yw ei bod yn amhosibl deall y Wladwriaeth Islamaidd heb werthfawrogi dwy ffaith bwysig. Yn gyntaf, crefydd – hynny yw, fersiwn apocalyptaidd o islam y seithfed ganrif – sy’n lliwio popeth maent yn ei wneud. A’n ail, maent yn wahanol iawn i al-Qaeda mewn sawl ffordd.

Rwyf eisoes wedi trafod tuedd anffodus rhai pobl (gan gynnwys Barack Obama) i alw’r terfysgwyr yn ‘anislamaidd’. Yn achos Obama, ymgais i gefnogi mwslemiaid cymhedrol yw hynny ac mae’n anodd peidio cydymdeimlo â hynny i raddau. Ond rwy’n gobeithio’n arw bod yr arlywydd, yn breifat, yn cydnabod mai nonsens yw hynny. Nid oes un ‘gwir’ islam. Y ffaith ddigalon yw bod adnodau niferus yn y Corán sy’n cefnogi’r hyn a wneir yn enw’r Wladwriaeth Islamaidd.

Wrth gwrs mae ffactorau gwleidyddol, hanesyddol a diwylliannol ar fai am roi’r cyfle i’r Wladwriaeth Islamaidd feddiannu darn maint Prydain o’r Dwyrain Canol. Ond erys y ffaith mai cwlt crefyddol ydyw. Mae’r bobl yma’n credu, gydag arddeliad, bod proffwydoliaeth am gael ei gwireddu, sef bod brwydr fawr waedlyd gyda byddinoedd ‘Rhufain’ (sef ‘y byd Cristnogol’, sef America) ar fin digwydd yng ngogledd Syria, a bod hynny’n mynd i fod yn arwydd bod y byd yn mynd i orffen. Gosod popeth yn ei le er mwyn annog y senario yma y mae’r Wladwriaeth Islamaidd yn ei wneud ar hyn o bryd (y cam cyntaf oedd sefydlu califfiaeth), a dyna, efallai, y rheswm pennaf y byddai America’n wirion i gael eu temtio i anfon milwyr i ymladd ar lawr gwlad yno. Dyna’n union fyddai’r Wladwriaeth Islamaidd yn awyddus iawn i’w weld.

Cwestiwn academaidd, efallai, yw ai ffasgaeth grefyddol ynteu crefydd ffasgaidd yw’r hyn a geir yma. Fy ngreddf yw mai’r ail sy’n wir. Mae tuedd weithiau i dybio mai rhyw fath o facade yw’r hyn y mae grwpiau fel y Wladwriaeth Islamaidd yn ei ddweud, sef bod eu cwynion go iawn yn rai seciwlar a gwleidyddol ac mai modd o ddenu cefnogaeth yw eu mynegi mewn termau crefyddol. Hwyrach bod elfen fach o wirionedd i hynny yn achos al-Qaeda, ond mae’r Wladwriaeth Islamaidd yn wahanol yn ei hanfod. Eschatoleg pur sy’n sail i bopeth yn eu hachos hwy. Yn syml iawn, dylem eu derbyn wrth eu gair.

Goblygiadau hyn yw nad oes modd trafod â’r Wladwriaeth Islamaidd. Mae hyn yn llythrennol wir; nawr bod ganddynt eu califfiaeth, nid ydynt yn cydnabod unrhyw endid gwleidyddol arall. Iddynt hwy, byddai unrhyw drafod gyda rhywun allanol yn anislamaidd. Sicrhau diwedd y byd cyn gynted â phosibl yw’r nod. Mae mor ddu a gwyn â hynny. Nid oes gennyf syniad beth yw’r ateb yn y pen draw, ond mae deall a derbyn eu cymhellion yn fan cychwyn hanfodol, ac mae’r ysgrif yn eu hegluro’n gampus. Parhau i ddarllen

Golwg360: ‘Y peth olaf mae nhw eisiau yw heddwch’

Hefin Jones sy’n amau cymhellion Obama a Cameron yn Yr Wcrain… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: $880

Mae’r gŵr newydd gyfrifo cymaint o dreth fydd rhaid i ni dalu oherwydd bod ni wedi dewis peidio ag ymuno ag Obama Care – 880 o ddoleri. Mae’n well gynnonn i dalu am ofal meddygol ein hunan, ac felly doedden ni erioed wedi prynu yswiriant iechyd. Rŵan, fodd bynnag, does gynnon ni ddim dewis ond ymuno ag Obama Care neu dalu’r ddirwy. Penderfynon ni ddewis yr olaf. Enwodd y gŵr y dreth hon, sef Obama Care Stink Tax! Parhau i ddarllen