-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: A.R.
Meddyliau: Cyfweliad Eisteddfod
Mae gen i gyfweliad Dysgwr y Flwyddyn Eistddfod Sir Ddinbych ddydd Sadwrn. Dwi ddim yn nerfus eto, ond dwi’n gwybod bydda i erbyn hynny… Dwi ddim yn siwr beth byddan nhw eisiau gwybod, dwi ddim yn rhy fodlon i siarad amdana i fy hun nac ymffrostio!Ne… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Atgofion cefais gan un ffilm
Sgwn i a ydy (neu oedd) “Xena: Warrior Princess” yn boblogaidd yng Nghymru? Roeddwn i’n siarad efo un person o Gymru’n ddiweddar, a doedd hi ddim yn gwybod amdani o gwbl, ond gan bod gan y ffilm gefnogwyr o gwmpas y byd (neu o leiaf dyma beth maen nhw’… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Llysblant Cymreig?
Hoffai unrhyw un o siaradwyr neu ddysgwyr Cymraeg gymryd rhan yn y cynllun hwn? Gallwch fabwysiadu dysgwyr neu gael eich mabwysiadu gan siaradwyr. Mae taenlen gyda chyfeiriadau e-bost ar gael ar y wefan.Dwi ddim yn hollol sicr am hynny, ond dwi’n credu… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Ceisio bod yn greadigol, rhan 1
Wyt ti eisiau clywed stori?
Unwaith, roedd yna frenin a breswyliai â’i deulu mewn palas gwydr ar dop mynydd anferth â miliynau o eirlys arno. Roedd y blodau’n tyfu ar yr adeilad hefyd, yn ei guddio rhag olwg pobl ddrwg, neu or-chwilfrydig. Achos mae rhaid i ti wybod y gwnaethpwyd y brenin, ei deulu, a phawb arall yn y palas o’r crisial bregysaf a mwyaf tryloyw yn y byd. Ond nid oedd felly o’r dechrau: melltith hen wrach a wnaeth i ddynion o gnawd a gwaed droi i grisial. Ac felly, fe ddisgynnodd galar a phoen mawr ar y llys, ac ni wyddai neb beth i’w wneud. Ni allai neb adael y palas rhag ofn iddynt dorri mewn i ddarnau bychain. Ni wyddai neb am eu tynged, gan ar ôl i’r wrach felltithio’r palas, fe’i ddileodd o gof pawb tu hwnt iddo. Ac yn wir, nid oedd gobaith yng nghalonnau preswylwyr y llys, felly un diwrnod heulog a thwym fe adawon nhw’r lle a neidio o dop y mynydd.
A phan oeddent yn syrthio, dyma fi’n ymddangos am y tro cyntaf. O ble? Wn i ddim. Yr unig bethau imi eu cofio ydyw distawrwydd, düwch, llonyddwch. Ac yna, yn yr eiliad nesaf, roeddwn i’n disgyn fel carreg, a channoedd o gyrff crisialaidd yn syrthio i lawr o dan fy nhraed. Alli di ddychmygu’r fath beth? Ceisia ddychmygu beth ddigwyddodd ar ôl inni i gyd gyrraedd y ddaear. Pan dwi’n cau fy llygaid yn awr, dwi’n teimlo poen yn fy nhrechu, yn gwthio awyr o’m hysgyfaint. Dwi’n gweld briwsion crisialaidd yn codi o’r pridd. Maen nhw’n dal pelydrau’r haul ynddynt, ac yn gollwng enfysau amryliw o’m cwmpas i. Roeddwn yn wylo fel baban bach. Gwyddwn mai oherwydd eu marwolaeth hwythau gallwn ddechrau fy mywyd innau.
Ar ôl amser hir – oriau? dyddiau? misoedd? – codais a dechrau cerdded. Lle troediais, roedd blodau gwydr yn tyfu.
Meddyliau: Cwyno
Mae rhaid i mi gwyno am y tywydd eleni. Yr hyn sy’n digwydd fedra i ddim ei ddeall. Mae mis Ebrill wedi cyrraedd, ond dydy’r gaeaf ddim wedi gadael eto, ac bydd hi’n aros am hwy.Mewn gwirionedd, dwi wedi cael llond bol o eira ac oerni! Gwanwyn ydy fy h… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Rygbi Cymru!
Newydd orffen gwylio’r gem heddiw- llongyfarchiadau enfarw i di^m Cymru!Dyma oedd gem gyntaf rygbi i mi ei gweld erioed, felly doeddwn i ddim yn deall rheolau o gwbl, doeddwn i ddim yn gwybod pam bod Cymru’n cael cymaint o penalties, pam bod y chwaraew… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Y Gymdeithas a Thrydar
Pleser mawr ydy dweud fy mod i wedi sefydlu proffeil Cymdeithas Gwlad a Chymru ar Drydar.Mewn gwirionedd dwi ddim yn gwybod beth gallwn ddisgwyl oherwydd hynny, ond dwi’n gobeithio bydd mwy o bobl Cymru’n dilyn ni- mae Trydar yn eithaf poblogaedd yna, … Parhau i ddarllen
Meddyliau: "Y Weithred", y canu, y siarad
Neithiwr fe ddaeth yna ddilyniant Gwyl Dewi Sant ym Mhoznań, ac mi gawson ni gyfle i wylio ffilm ddogfenaidd “Y Weithred”.
Dwi ddim yn sicr faint ohonoch chi sy’n gyfarwydd efo hi, felly mi wna i roi disgrifiad byr ohoni. Ffilm am Gapel Celyn a Thryweryn ydy hi, a gweithred tri dyn a oedd yn ceisio rhwystro llywodraeth rhag foddi’r Cwm; yn ofer.
Ar y cyfan doedd y ffilm ddim yn rhy ddrwg, ond i mi, doedd dim rhaid i’r cyfarwyddwr daflu cenedlaetholdeb Cymreig i’m hwyneb i. Dwi’n gwybod nad ydy’r geiriau hyn yn swnio’n gyfeillgar, efallai dwi wedi defnyddio rhai sy’n rhy gryf, ond mae fy nheimlad ynglyn a’r ffilm yn anodd i’w hoelio (er fy mod i’n gwybod bod rhywbeth anesmwyth ynddi). Efallai ychydig mwy o gydbwysedd? Gan fod y ffilm yn bwysig i ni i gyd, mae’n dangos bod wir angen gweithredu dros y wlad a’r iaith.
Ar ol i’r ffilm orffen dechreuon ni weithdy canu. Wnaethon ni ganu caneuon fel Cyfri’r Geifr, Sospan Fach, Calon Lan, Dacw ‘Nghariad, Carlo (Dafydd Iwan), Dansin Ber (Gwyneth Glyn), Geiban a Be nawni? (Y Bandana) a sawl can Pwyleg. Wedyn bach o siarad efo fy athrawon, a gorffenodd noson hon o hwyl a sbri. Parhau i ddarllen
Meddyliau: Sut i ymweld a Phoznań drwy gyfrwng y Gymraeg, neu: penwythnos Dewi Sant
Yn y byd lle nad ydy’r iaith Gymraeg yn ddigon gweladwy wrth ystyried gwasanaethau cyfoes, mae yna le lle bydd hi ar gael i bawb a fyddai’n fodlon i’w chlywed: Poznań, Gwlad Pwyl!
Yn ystod y penwythnos diwethaf, cawson y geiriau yma eu gwiredu wrth i ni gael gwestai arbennig: Cymraes o Ogledd Cymru, sydd yn Wrocław ar hyn o bryd, yn astudio gwyddor gwleidyddiaeth yno, yn dilyn cynllun Erasmus. Roedd gynnon ni wyl arbennig- diwrnod Dewi Sant, felly penderfynodd hi ymuno a ni a gweld rhai o lefydd diddorol ym Mhoznań.
Cyrhaeddodd hi ar ddydd Gwener, tua henner dydd. Ynghynt, roedd fy ffrind a finnau’n brysur yn y brifysgol, roedden ni’n ceisio hysbysebu Gwyl Dewi i bobl allan o’r Adran. Wnaethon ni brintio taflenni arbennig i hyrwyddo dau gyfarfod yn y dafarn a gwylio ffilm am fomio Tryweryn. Hefyd, roedden ni’n clymu cennin a chennin Pedr wrth ganllaw grisiau (pob hwyl, tydi?)
Beth bynnag, yn fuan roedd rhaid i ni adael a mynd i orsaf trenau i groeso ein ffrind. Wrth gwrs i ddechrau doedden ni ddim yn gallu ei gweld, roedd degau o bobl yn mynd tu fewn ac allan o’r tren, ond rywsut llwyddom i ddod o hyd i’w gilydd. Aethom yn syth adref, yn siarad am ei thaith ar y ffordd. (Dyma dro cyntaf i ni gael ein synnu gan ei hawsed i ddysgu’r Bwyleg – dim ond am wythnos a hanner oedd hi’n dysgu, ond roedd hi’n cofio llawer o eiriau ac ymadroddion, ac roedd hi’n cronni a chofio llwythi ohonyn nhw pan oedden ni’n crwydro efo hi o gwmpas y ddinas!) Wedyn roedden ni’n eistedd yn fflat fy ffrind, ac aros am ffrind arall i ddod efo bwyd (roedden ni i gyd yn llwgi!) Y diwrnod yma, wnaethon ni goginio ‘pyry z gzikiem’, sef tatws gyda chaws gwyn, nionod a sbeisys. Math o bryd tradoddiadol Poznań ydy hwn, er nad ydw innau’n ei fwyta’n rhy aml. Ar ol bwyta, roedden ni’n rhy lawn i gerdded, felly arhoson ni gartref tan prynhawn hwyr, yn sgwrsio a gwrando ar gerddoriaeth. Wedyn, aethom i fflat ffrind arall i nol sach gysgu sbar, ac i’r dafarn: Gwyl Dewi oedd hon! Roedden ni’n gyntaf i gyrraedd, ac roedden ni’n poeni na fydd neb arall yn dod, ond mae’n rhaid i mi gyfaddef bod eithaf llawer o bobl wedi ymgasglu gyda’r amser. Cawson ni noswaith braf iawn, yn yfed, trafod pynciau gwahanol (yn eithaf ffyrnig weithiau!) a chael llwythi o hwyl. Aethom adref yn hwyr iawn, ac roedd rhaid i ni baratoi ar gyfer y diwrnod canlynol.
Wnaethon ni gyfarfod a’i gilydd ar Hen Farchnad, er mwyn iddi weld un o symbolau Poznań – geifr mecanyddol yn gwffio ei gilydd ar glocdwr bob haner dydd. (Dilyniant chwedl ydy popeth: unwaith, roedd rhyw ddyn cyfoethog i ymweld a Phoznań, ac roedd criw o bobl yn paratoi gwledd grand i’w groeso. Cig carw oedd i fod yn brifbryd o fwyd, ond wnaeth helpwr y cigydd ei losgi. Roedd rhaid iddo fyrfyfyrio, felly penderfynodd rostio cig geifr. Ond yn anffodus iddo, dihangodd ei eifr, dringo clocdwr y ty cyngor, a dechrau gwffio. Chwedl difyr, on’d ydy?) Ar ol i ni weld y geifr, cawsom dro bach o gwmpas yr Hen Farchnad, wedyn i gael brecwast ar gyfer llysieuwraig, yna i brynu rogale marcińskie (croissant arbennig efo past pabi a mel, a chnau ar dop) ac yn y diwedd taith fach o gwmpas Stary Browar (canolfan siopa mwyaf ‘snobaidd’ / ffroenuchel ym Mhoznań). Cawson ni goffi enfawr a bwyta’r rogale, ac wedyn roedden ni’n cerdded a cheisio prynu rhywbeth ar gyfer parti pen-blwydd ffrindiau fy ffrind a finnau. Ar ol sawl awr dychwelom adref, lle wnaethon ni baratoi cinio blasus, ac wedyn aethom allan, gan iddynt fynd i’r parti.
Y diwrnod canlynol oedd y diwrnod olaf fy ffrind ym Mhoznań. Yn anffodus, doedd fy ffrind o’r Adran ddim yn teimlo’n rhy dda (rhyw ffliw ofnadwy), felly dim ond fi a’r ffrind o Wrocław a aeth allan y tro yna. Diwrnod cerdded oedd hwnna, aethom i barc Sołacki (mi wnes i son amdano yn un o gofnodion ynghynt ar y blog yma). Doeddwn i ddim yno ers meitin, felly pleser enfawr oedd dychwelyd! Roedd y diwrnod yn eithaf braf (efallai bach yn wyntog, ond doedd dim ots gynnon ni), ac wnaethon ni gerdded o gwmpas y parc i gyd bron iawn, yn rhyfeddu at brydferthwch y golygfeydd (wel, o leiaf minnau
). Ar ol y parc hwn, penderfynon ni fynd i Malta, lle efo llyn artiffisial. Rhaid i mi gyfaddef nad ydw i mor hoff o’r lleoliad yma, yn enwedig wrth gymharu a pharc Sołacki, ond weithiau mae’n werth ymweld ag ef. Ar ol i ni weld rhan o Malta, roedd yn rhaid i ni fynd ‘nol adref, ac ar ol cael pryd o fwyd blasus arall, roedd yna amser i ni fynd i’r orsaf trennau.
Penwythnos llawer o hwyl a sbri oedd y tri diwrnod yma, dwi’n falch iawn i mi gael cyfle i weld fy ffrind o Gymru a defnyddio cymaint o’r Gymraeg! Bechod nad oedd hi’n gallu aros am fwy, ond dwi’n wir gobeithio bydd hi eisiau dod ‘nol rhyw ddiwrnod! Parhau i ddarllen
Meddyliau: Cam o’r Tywyllwch
Helo bobl, jest cofnod byr iawn i roi gwybod i chi am raglen newydd ar Radio Caerdydd, sef Cam o’r Tywyllwch. Rhaglen gan Gwenno Saunders a chriw label Peski ydy hi, ac mae’r cyflynwyr yn trafod (yn y Gymraeg!) cerddoriaeth amgen, electronig ac arbrofo… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Corquiéu
Heddiw, roeddwn i’n tyrchu drwy restr artistiaid Ewropeaidd sy’n creu eu cerddorieath mewn ieithoedd lleiafrifol. A des i o hyd i fand o’r enw Corquiéu, sy’n chwarae cerddoriaeth draddodiadol yn yr Astwrieg.
Mae’r Astwrieg yn agos iawn i Galisieg a Sbaeneg. Dydy hi ddim yn iaith swyddogol, ond mae tua hanner miliwn o bobl yn medru ei siarad (yn cynnwys bach mwy na 100 milo siaradwyr brodorol).
Dyma ddolen i’w proffeil swyddogol ar YT: Corquiéu, dwi’n wir gobeithio y gwnewch chi fwynhau eu cerddoriaeth cymaint a fi, roedd y darganfyddiad yma’n hollol annisgwyl i mi!
Meddyliau: Noson sgwrsio
Roedd gynnon ni noson sgwrsio arall neithiwr. Un noson braf yn rhagor, fel arfer!
Y tro yma, roedd fy ffrind yn siarad am ei brofiadau yn Llydaw, am ddysgu Llydaweg, gwella ei Ffrangeg, am bobl a oedd yno, am neuaddau myfyrwyr ayyb. Rhaid i mi gyfaddef iddo fynd trwy eithaf llawer o bethau tra yn Llydaw, ond yn gyffredinol ymddengys Erasmus yn ddeniadol iawn i mi. Bechod na fydd gen i gyfle ceisio mynd fy hun, dwi’n (mewn theori) graddio o’r brifysgol eleni…
Ond ta beth. Un peth arall oedd adroddiad fy ffrind arall a aeth i Gymru am un diwrnod a hanner dwy wythnos yn ol. Roedd ganddi anturiaethau hefyd! Unwaith, cafodd ei chloi tu mewn parc ynghanol Caerdydd cyn bump o’r gloch yn y prynhawn (gwallgof!); yn ffodus iddi, roedd heddlu ar wyliaduriaeth a chafodd ei hachub gan un ohonynt (sy’n medru Cymraeg!) Yn lwcus, doedd dim rhaid iddi neidio trwy’r giat, fel y roedd i un o’m ffrindiau eraill, a chafodd o ei frifo yn ei goes. Diwedd da i stori (yr un ddiweddaraf, wrth gwrs!)
Ac un pwnc arall oedd math o gynhadledd ffantasi/ffuglen wyddonol a gynhelir ym mis Mawrth ym Mhoznań. Mae gan dri neu bedwar o’m ffrindiau cyflwyniad yno, ac bydd dau ohonynt yn cymharu’r Gymraeg efo’r Sindarin, iaith ellyllon Tolkien. Bydd yn rhaid i mi eu gweld. Llynedd, roedd eu darlith am y Gymraeg yn boblogaidd dros ben, doedd dim digon o le i bawb a oedd yn bwriadu eu gweld! Ac wnaeth dair merch ymuno ag Adran Geltaidd o’i herwydd. Da iawn, gyfeillion
Iawn, y tro nesaf byddaf yn ysgrifennu am Ddiwrnod Dewi, hwyl am y tro! Parhau i ddarllen
Meddyliau: Can i Gymru 2013
Ydach chi’n gwylio’r rhaglen hon? Mewn gwirionedd, doeddwn i ddim yn ei dilyn o gwbl tan eleni, dwi’m yn gwybod bron a dim byd amdani, a dwi’n nabod dim ond un ennillydd, ac wedi clywed dim ond sawl can o blith y digwyddiad.
Ond rywsut neu’i gilydd, dwi wedi ymddiddori fy hun yn Can i Gymru 2013, dwi wedi clywed pob un o’r caneuon sy’n cystadlu (ar gael fan hyn: Can i Gymru 2013), ac mae rhaid i mi ddwued fy mod i’n hoff iawn ohonyn nhw i gyd! Maen nhw’n swnio’n ddiddorol ac amrywiol iawn, byddai gen innau broblem i ddewis dim ond un sy’n orau (ar hyn o bryd mae gen i ddau fferfryn – “Mynd i Gorwen Hefo Alys” ac “Aur Ac Arian”, ond mae’r gweddill yn hynod o agos). Mae’r digwyddiad yn fyw ar Fawrth 1af, felly fydda i ddim yn ei wylio beth bynnag (dathliad Diwrnod Dewi ym Mhoznań), ond dwi’n gobeithio cai pob un a fydd bob hwyl a sbri. A phob lwc i’r cystadleuwyr! Parhau i ddarllen
Meddyliau: Spotify yng Ngwlad Pwyl!
Mae gen i newyddion gwych: o’r diwedd, mae Spotify ar gael yng Ngwlad Pwyl (ers tua chwech awr
) Dwi mor falch oherwydd hynny, bellach fyddai ddim angen i mi gynllwynio er mwyn ei ddefnyddio! Dwi’n cofio defnyddio dirprwy a chael llawer o drafferth i… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Dathliad Diwrnod Santes Dwynwen ym Mhoznań a’r tywydd
Pam ddylai rhywun ddathlu gyda Folant diflas os gallai wneud yr un peth ar Ddiwrnod Santed Dwynwen, mis ynghynt? Yn dilyn y meddwl yma, wnaeth rhan o Adran Geltaidd gyfarfod mewn un o dafarndau ym Mhoznań i ddangos eu cymorth i’r Santes hon a’i brodyr… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Atgofion Gig 50
Yn ddiweddarach, mi gefais gyfle i wylio ffilm am Gig Hanner Cant a oedd ar gael ar S4C ar ol y digwyddiad.Roedd hi’n mor braf i hel atgofion (am bump awr!), gweld yr hyn a welais am amser hwnnw (yn cynnwys fi fy hun weithiau – eithaf doniol
) ond he… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Dysgu’r Gernyweg?
Roeddwn i’n meddwl am hynny ers tipyn o amser, ond ddoe, o’r diwedd, penderfynnais ddechrau dysgu’r Gernyweg. Beth ydw i’n gwybod am yr iaith hon?Mae hi’n dod o’r un gainc o ieithoedd Celtaidd fel y Gymraeg, ac maen nhw’n debyg i’w gilydd o ran gramade… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Dymuniadau Blwyddyn Newydd
Annwyl Bawb,Mae’r flwyddyn nesaf wedi mynd. Sut oedd hi i chi? Dwi’n gobeithio y cawsoch chi gyfle i gyflawni o leiaf rhan o’ch cynlluniau a breuddwydion. Ac os chawsoch chi ddim, peidwich a phoeni, dwi’n sicr y gwnewch chi lwyddo o yfory ymlaen – dymu… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Y Gwyliau
Felly, mae’r Nadolig, gwyl bertaf y flwyddyn yn fy marn i, wedi dod i ben. Dwi’n hapus, gan trodd allan mai Nadolig orau ers sawl blwydd oedd y ‘Dolig honno. Treulais amser braf efo fy nheulu, tu allan fy nhy, a chael cyfle i fwrw’m blinder.Os n… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Nadolig Llawen!
Annwyl Bawb,Hoffwn ddymuno i chi i gyd Nadolig Llawenaf erioed, dwi’n gobeithio y bydd o’n dawel a llonydd, ac mi gewch chi gyfle i dreulio amser braf gyda’ch teuluoedd. Ac, wrth gwrs, mwynhewch y bwyta!Cofion gorau,Asia Parhau i ddarllen
Meddyliau: Cyfarfodydd sgwrsio ym Mhoznań
Bydd gynnon ni gyfarfod sgwrsio nesaf ar ddydd Llun hwn. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn hoff iawn (iawn) ohonyn nhw, dyma’r unig gyfle (bron) i mi ei gael yn ystod y flwyddyn i siarad Cymraeg, fel mae’n digwydd. Wrth gwrs, ar wahân i’r gwersi a sgy… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Bach o gerddoriaeth
Roeddwn yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg (neu Gymreig) am dibyn bach o amser erbyn hyn, felly meddyliais byddai’n neis cael bach o drefn arni, ac o ganlyniad dwi wedi gwneud rhestr o’m hoff ganeuon Cymreig. Dyma beth trodd allan i mi:1. Fflur Dafydd … Parhau i ddarllen
Meddyliau: Andrzejki (Diwrnod Sant Andreas) yng Ngwlad Pwyl: traddodiadau
Dwi’n gwybod mai ddoe a oedd yr Wyl, ond efallai byddwch yn cymryd diddordeb mewn dysgu sut byddai Pwyliaidd yn ei dathlu: yn bennaf yn y gorffennol, ond mae rhai o bobl yn wneud hynny o hyd.Felly, y peth sy’n mwyaf adnabyddus yng Ngwlad Pwyl ydy… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Y ffilm
Iawn. Dwi wedi ei gweld, y ffilm i mi so^n amdani neithiwr. “Twin Town” oedd ei henw hi.Dwi ddim yn meddwl y mwynheais yr hyn a welais. O reolaeth dwi’n ceisio osgoi ffilmiau gyda gormod o drais, rhegi a rhyw, yn enwedig pan bod nhw’n h… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Heb deitl
Helo pawb, ymddiheuriadau nad oeddwn yn rhy epilgar y dyddiau hyn, ceisiaf wella fy hun, chwilio am bynciau i ysgrifennu amdanynt a chynchyrchu rhywbeth yn amlach na rwan.Ac beth sy’n digwydd ym Mhoznań ar hyn o bryd? Wel, dan ni wedi … Parhau i ddarllen
Meddyliau: Y Gymdeithas
Nodyn byr am y sefydliad sy’n wrth ei greu ar hyn o bryd yn y brifysgol, sef Cymdeithas Gwlad Pwyl a Chymru (Towarzystwo Polsko-Walijskie yn y Bwyleg). Rydyn ni’n anelu at greu cysylltiadau rhwng y ddwy wlad (o ran ochr academaidd a diwyllianol yn… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Cyngerdd Hello Mark ym Meskalina, Poznań
Prin iawn byddwn i’n mynychu cyngherddau y dyddiau hyn (tra ym Mhoznań, wrth gwrs!), ond doedd gen i ddim amheuaeth pan glywais am un a oedd am ddim (pam peidio a chymryd mantais, dywedwch?) yng nghlwb Meskalina yn yr Hen Farchnad ym Mhoznań. Ma… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Bach o gymharu, bach o adolygu…
Yn ddiweddar, darllenais Atyniad gan Fflur Dafydd, ac wedyn, yn ystod fy niwrnod olaf yng Nghymru, llwyddais brynu Twenty Thousand Saints (i’r rhai sydd ddim yn gwybod, mae hi wedi ail-ysgrifennu Atyniad mewn Saesneg, ond fersiwn gwahanol ydy hwn, gyda… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Myfyrdodau y munud
Felly, mae fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol wedi dechrau!Mae’n rhyfedd meddwl y daw popeth i’w ben mewn dim ond cwpl o fisoedd. Dwi wedi dod i arfer efo rhythm y brifysgol dros y blynyddoedd a fu, felly dwi’n credu bydd yn anodd newid pob dim.Bydd rhaid… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Be dwi’n cofio o Gymru? rhan 2
- cwpanau plastig o gwrw- fel ydych chi’n cofio, roeddwn i yn y fan a’r lle yn ystod cyngerddi Hanner Cant a Gwyl Gwydir. Ac fy mhrif gof ar wahan i’r gerddoriaeth ydy miloedd o gwpanau o gwrw ym mhob man. Oherwydd nad ydw i’n yfed llawer, roedd gweld … Parhau i ddarllen
Meddyliau: Be dwi’n cofio o Gymru? rhan 1
- bysiau a’u gyrrwyr – o ran y bysiau: roedden nhw wastad yn hwyr neu ddim mewn gwasaneth. Yn gyffredinnol, roedd y fath beth yn eithaf doniol, yn enwedig pan oedden ni wedi blino llwyr, ac roedd fel trydydd bws allan o wasanaeth. Ac o ran eu gyrrwyr? … Parhau i ddarllen
Meddyliau: Ffarwel i Gymru
Iawn, pawb, amser i mi fynd yn ol i Wlad Pwyl (ddydd Sadwrn yn nesau!). Dwi ddim yn fodlon oherwydd hynny, ond dyna sut mae pethau’n mynd…Diolch i bob un ohonoch chi a oedd yn darllen yr hyn a ysgrifennais i tra yng Nghymru, dwi’n gwerthfawrogi hynny… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Llanrwst a Chlwb Rygbi Nant Conwy, lluniau
Ychydig yn hwyr, dwi’n gwybod, ond gadewch i mi uwchlwytho lluniau o Wyl Gwydir a Llanrwst (cymysgiad o’r cyngherddau a’n crwydro o gwmpas y lle, rhyw fath o luniadur, dwi’n credu
). Dwi’n gwybod nad ydy eu hansawdd yn rhy dda, ond mwynhewch beth byn… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Gwyl Gwydir
Reit, felly ar hyn o bryd dwi’n eistedd o flaen y sgrin, yn gwisgo fy nghrys T newydd Gwyl Gwydir, felly beth am ysgrifennu darnyn bach am honno?Felly, mae’n rhaid i mi ddweud mai gwyl lwyddiannus arall i mi ei gweld tra yng Nghymru. Mae gan wyliau ger… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Cyn Gwyl Gwydir
Iawn, felly ar hyn o bryd dwi’n eithaf sicr galla i fynd i Wyl Gwydir eleni: mae fy lifft i Lanrwst wedi cael ei setlo, mae gen i le i gysgu, mae gen i ffrind i fynd efo hi… Ac mae gen i ddisgwyliadau eithaf uchel wrth ystyried y lein-yp eleni! Mae y… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Caernarfon, ia?
Ar ol imi fwriadu mynd i’r Gogledd, ces i’r fath gyfle ddoe, ac es i i Gaernarfon a’m ffrindiau. Cyn imi fynd, roedd yn rhaid imi wneud ymchwil fach, a dyma beth glywais i: prin iawn gallet glywed Saesneg ar strydoedd; mae yna gymaint o bethau i’w gwel… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Taith fach, lluniau
Dwi wedi bod ar daith fach o gwmpas sawl lle diddorol diolch i un o’m cydweithwyr, a gwelais Ystrad Fflur, Y Bont ym Mhontarfynach a’r Mynydd Hyddgen (neu y gors fwyaf Cymru yn fy marn i!). Mwynheuais fy hun yn fawr iawn, felly penderfynnais ro… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Pabell binc, binc, binc…
Felly, gan eich bod wedi gweld yn barod, ces i gyfle unigryw i weld a’m llygaid fy hun beth sy’n digwydd yn ystod Gwyl fwyaf Cymru, sef y Steddfod. Dau gyfle, hyd yn oed!Ac beth ydw i’n ei feddwl? Wel, mae gen i sawl meddwl sydd, weithiau, yn gwrth-ddw… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Lluniau’r Eisteddfod, dydd Gwener
Dim ond lluniau y tro yma hefyd, dwi’n ceisio dal digon o ysbrydoliaeth i ysgrifennu rhywbeth diddorol i chi! Parhau i ddarllen
Meddyliau: Lluniau’r Eisteddfod, dydd Mercher
Dyma ychydig o’m lluniau a dynnwyd gen i yn ystod fy niwrnod cyntaf yn yr Eisteddfod Bro Morgannwg eleni. Dwi’n cynllunio rhoi disgrifiad bach o bethau a ddigwyddodd ar ol fy ail diwrnod yno, yfory. Yn y cyfamser, mwynhewch! Parhau i ddarllen
Meddyliau: Ar ol mis
Wel, dyna ni, treuliais fis diwethaf yng Nghymru. Ydy popeth fel roeddwn yn ei ddisgwyl? Nac ydy. Ydwi’n hapus beth bynnag? Ydw i’n wir! Mae hi fel gwnaeth pob dydd imi gadarnhau fy nghariad at Gymru a’r Gymraeg. Mae lle lle rydw i’n byw yn arbennig o … Parhau i ddarllen
Meddyliau: Diwrnod braf arall yn Aberystwyth
Pedwar dydd yn yr wythnos hon sydd wedi bod yn braf iawn, ond heddiw oedd yn anhygoel! Dim cymylau (o gwbl!), haul drwy’r amser, tymheredd uchel (i safonau Cymru, wrth gwrs
)…Felly, ar ol inni fynd i’r offeren (gyda un emyn ac un darlleniad yn y G… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Lluniau
Iawn, dyma ni: lluniau o’r Llyfrgell (tynnwyd gan rywun arall) fan ymaAc efallai byddech yn hoffi gweld fy lluniau Hanner Cant hefyd, dwi wedi creu albwm ar fy ngwefan Gweplyfr(Dwi’n gwybod nid ydy hynny o gyflwr da, ond o leiaf bydd gen i rywbeth bach… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Am Mrs. Dafydd & Hanner Cant (yn fyr, fyr iawn)
Iawn, doeddwn ddim am ysgrifennu cyn i bethau orffen, ond rwan, ar ol hynny, gadewch imi ddweud ychydig am y pethau sydd yn y teitl.Felly, ces i gyfle i fynd i gyfarfod a Fflur Dafydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd hi’n arweinydd yn y daith fach o … Parhau i ddarllen
Meddyliau: Aberaeron
Roeddem yn Aberaeron heddiw (ar ol mynd i’r eglwys yn y bore) o achos ffair pysgod a ddigwyddodd fan hyn. Roedd yna eithaf llawer i’w weld, mewn gwirionedd!Y peth pwysicaf am y digwyddiad oedd y ffaith i nifer o bobl siarad Cymraeg! Ar ol imi glywed di… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Diwrnod perffaith
Mae’n swyddogol: diwrnod gorau a mwyaf prydferth fy aros yn Aberystwyth oedd hwn, felly, wrth gwrs, roedd yn rhaid imi gymryd pob mantais ohono a gwnes i beth fy mod i’n hoff iawn iawn ohono, sef mynd i weld yr eigion. Doedd hi ddim yn bwrw glaw o gwbl… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Sylwadau ychwanegol
Dechreuais feddwl fy mod heb son am ddoe o gwbl, ac roedd bryd yma yn arbennig o hwyl hefyd! Wel, yn y bon, roedd gennym ddiwrnod rhydd, felly penderfynnon beidio a gwneud dim byd yn ystod y dydd. Arhosom gartref ac roeddem yn ymlacio.Ond roedd noson (… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Trip fach i’r Llyfrgell
Foneddigion a boneddigesau, roeddwn yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf fy mywyd heddiw. Diolch byth dywedwyd wrth fy ffrind am lwybr arall (dros bryniau Aberystwyth unwaith eto
). Aethom heibio Canolfan Chwaraeon, ac oherwydd nad oedde… Parhau i ddarllen
Meddyliau: Cymru, tri diwrnod cyntaf
Fel rydych chi i gyd yn gwybod yn barod, rydw i yng Nghymru, yn Aberystwyth. Cyrhaeddais y lle ddydd Sadwrn, ond doedd gen i ddim amser i ysgrifennu unrhyw beth, roedd cymaint i’w wneud! Felly, i ddechrau, mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn gorhapus … Parhau i ddarllen
Meddyliau: ‘Bant a fi…’
Dim ond nodyn byr iawn iawn i ddweud: mi’ch welaf chi yng Nghymru yn y prynhawn, dwi’n gadael Poznań mewn pedair awr a chyraedd Lerpwl ar ol dwy awr. Wedyn, rydym yn cael tren i Aberystwyth a… helo Gymru!Mwynhewch eich diwrnod heddiw, gobeithio bydd… Parhau i ddarllen


