-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: admin
Pethe » Blog: Gweithdy’r Clocsiwr – Symud Gyda’r Amseroedd
Mae’n siwr fod y rhan fwyaf ohonoch wedi ymweld â’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan rhyw dro neu’i gilydd. Mae na dros ddeugain o adeiladau gwahanol o bob rhan o Gymru yno erbyn hyn, ac mae’n ddigwyddiad o bwys pan mae na hen adeilad yn cael ei agor o’r newydd yno.
Ond faint wyddoch chi am …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Y lechen yng ngwaed Gai Toms
Blaenau Ffestiniog = glaw. Neu glaw = Blaenau Ffestiniog. Hafaliad cywir i rai? A mwy na diferyn o wirionedd ynddo hefyd? Ond wedi bod yno’n ffilmio’n ddiweddar nid yw’r sym yn gwneud synnwyr i fi. I fyny yn nhopiau chwarel Llechwedd roedd yr awyr yn lasach na’r lechen o’n cwmpas. Roedd y cwmni’n heulog hefyd …mwy Parhau i ddarllen
dotCYM: Croeso i dotCYMRU!
.cymru yw’r enw swyddogol fydd yn cael ei ddefnyddio yn y cais i gael statws i’r gymuned Gymreig a Chymraeg ar y we.
Daw hyn yn sgil y penderfyniad gan ICANN na fyddai’r gymuned Gymreig yn gallu defnyddio’r talfyriad tair llythyren â chydnabyddiaeth fyd-eang i’r Gymraeg, CYM.
Yn dilyn ymgynghori eang gan gynnwys storïau yn y wasg [...] Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Y Kate Roberts oesol ac ifanc.
Ydy Cae’r Gors wedi ei gynnwys yn y gyfrol drom bwrdd coffi 100 o lefydd i’w gweld cyn marw? Dyna aeth trwy fy meddwl wrth drefnu bod criw yn mynd i ffilmio yno eto. Digon posib nad yw yno wrth gwrs, na Rhosgadfan y pentref lle y mae’r tŷ’n sefyll. Mae yna gant a mil …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Stwffiwch y Dolig, ddim y twrci!
‘Mae’n Rhagfyr! Nadolig Llawen i chi i gyd!’ Dim ond o fod yma’n y swyddfa – a nghylwed i’n dymuno hynny’n uchel – y byddech wedi clywed y tinc sinigaidd yn fy llais. (A bydde gweld y goeden Nadolig blastig yn y gornel yn help hefyd!) A dim ond tinc o sinigiaeth sydd …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: ‘Hunan’-gofiant arall Gwynfryn!
Dwi’m yn meddwl ein bod ni’n unigryw fel Cymry yn ein hoffter o gofiannau, a hunangofiannau’n enwedig. Mae’n anochel ein bod ni fel pobol wrth ein boddau’n ymddiddori – neu’n busnesu – ym mywydau pobol eraill. Wedi’r cwbwl nagyw bywydau pobol eraill yn ymddangos cymaint yn fwy diddorol na’r bywyd i ni fel unigolion yn …mwy Parhau i ddarllen
dotCYM: Rheolau’n newid: ‘cym’ ddim yn bosib
Mae’r rheolau ynglŷn ag enwau derbyniol ar gyfer parthau lefel uchaf newydd wedi newid.
Mae ‘CYM’ wedi ei chadw ar gyfer Ynysoedd Cayman, er bod ganddynt eisoes .ky. Dydy’r llythrennau ‘CYM’ felly ddim ar gael ar gyfer y gymuned Gymraeg a Chymreig i’w defnyddio ar y rhyngrwyd.
Byddwn yn dewis parth lefel uchaf newydd i gynrychioli’n [...] Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Penblwydd Hapus Tŷ Newydd
Nid dim ond partïo y mae criw Pethe’n arbenigo ar ei wneud. Na wir i chi! Ry’ ni yn gwbod sut mae dathlu gyda’r gorau wrth gwrs. Ond ffilmio rhai eraill yn dathlu fuodd criw Pethe’n ei wneud yn ddiweddar a hynny yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy a oedd yn dathlu 21ain o flynyddoedd ers dod …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Cân Alarch Borth-y-Gest
Borth-y-Gest a Rhydcymerau. Un yn bentref glan môr yn y Gogledd Orllewin a’r llall yn bentref cefn gwlad yng nghanol caeau a bryniau Shir Gâr yn y De. Pentrefi gwahanol iawn a dim byd amlwg yn gyffredin rhyngddynt. Ond fel Rhydcymerau roedd Borth-y-Gest yn le nad o’n i wedi bod ynddo erioed o’r blaen tan …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Casgliad Recordiau Mamgu
 phawb fel petai nhw’n dewis eu tri pheth ‘diwylliannol’ ar hyn o bryd – neu’n gwneud hynny ar raglen Pethe o leia – dyma feddwl ymuno’n yr hwyl. Gwyneth Glyn oedd y gyntaf i wneud ar raglen wythnos ddwetha. Mae Rhun a Nia wedi gwneud hefyd – yma ar y wefan – ac wythnos …mwy Parhau i ddarllen
Delynlocks: Ydi’r byd ma’n troi’n lle mwy peryg?
Rydym yn gwneud ein gorau i gadw ein hunain yn saff tra’n helpu swyddogion warrant i gael mynediad i fangreoedd, ond dydi hyn ddim bob amser yn waith hawdd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn falch i weld saer clo i ddatrys eu problem diogelwch neu i’w gadael i fewn i’w ty. Ond pan dan [...] Parhau i ddarllen
Delynlocks: Cynghrair Peldroed Ffantasi
Efallai mai penwsos yma mae’r busnes go iawn yn dechrau – efo Caerdydd yn chwarae Sheffield United, ond mae wythnos arall cyn dechrau uwch gynghrair Lloegr – ac felly, mae wsos arall gynnoch chi i gofrestru eich tim yng nghyngrair ffantasi Delyn Locksmiths Ltd. Dwi di rhoi £50 o wobr i’r gyngrhair felly ewch i [...] Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: DJ Williams
Mae’n ddeugain mlynedd ers i DJ Williams farw. Yng nghapel bach Rhydcymerau ddigwyddodd hynny, a fe newydd ddychwelyd i’w sedd ar ôl annerch y gynulleidfa niferus. Meddai John Gwyn Griffiths yn y gyfrol Bro a Bywyd ar DJ, ‘Anodd meddwl am ddiwedd mwy addas, ac yntau wedi dychwelyd am ennyd i gysegrfan ei Hen Ardal.’ …mwy Parhau i ddarllen
Delynlocks: Sustemau “Master Key”
Rydym wedi gosod sustemau “master key” mewn gwestai bach a mawr ar draws Cymru. Mae’r cloeon wedi eu hadeiladu mewn ffordd sy’n galluogi rhoi goriad sy’n agor pob drws i aelod o staff, tra bo ymwelydd yn cael goriad sy’n agor eu stafell nhw yn unig. Mae’r goriad uwch feistr yn agor pob drws yn [...] Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Y beirniad bach 5 oed
Mewn sachliain a lludw dyma fi’n blogio unwaith eto o’r diwedd. Rhyfyg fyddai meddwl am eiliad fod yna rai wedi gweld colli’r mwydro wythnosol. Wedi bod allan yn ffilmio ydw i – wedi cael fy nghadael yn rhydd o’r swyddfa i grwydro. (Does yna ddim cyfrifiaduron yn y byd mawr tu allan?) Nawr fy mod …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Bylchau Elfyn Lewis
Nid chwilio am fwyd yr o’n i wrth fynd i Oriel Caffi Croesor bnawn Sadwrn dwetha. Do, ges i wydraid o win, a llond dyrnaid o grisps (rhai digon posh) ond ches i’m cyfle i brofi bwyd y caffi gan fod danteithion yr arddangosfa mor flasus. Yn wir mae’r artist Iwan Bala wedi disgrifio’r paentiadau …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Cywydd gan Iwan Llwyd
Ofnadwy o drist oedd clywed am farwolaeth Iwan Llwyd. Mae gan bawb wnaeth ei nabod eu hatgofion a’u lluniau. Mae gan fwy fyth linellau ar eu cof. Daeth yna un gerdd i’m meddwl yn syth ar ôl clywed y newydd. Rhyw bedair blynedd yn ôl dyma ofyn iddo gyfansoddi cywydd yn anrheg i ffrind a’i …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Mater o chwaeth?
Cyfaddefiad – dwi heb ddarllen pob llyfr a gyhoeddwyd yn Gymraeg llynedd! Wnes i ddechrau ambell un, a gorffen ambell un arall. Mae yna un wnes i ei ddarllen nid unwaith ond ddwywaith, ac efallai yr ildiaf eto i’w lif. Ond o ran y gweddill dwi heb ddarllen eu hanner nhw, eto. Y llyfrau, hynny …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Rwy’n gwisgo trôns Mistar Urdd!
‘Rwy’n gwisgo trôns Mistar Urdd.’ Dim ond dyfyniad yw hwnna wrth gwrs, o gân gan y Super Furries neu o’r bathodyn yn y llun isod. Dwi ddim wir yn eu gwisgo nhw fan hyn yn y swyddfa. Feiddiwn i ddim. Gwisgo trôns Mistar Urdd a gadael Mistar Urdd druan yn borcyn! Sori. Hiwmor braidd yn …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Llwyth gan Dafydd James
Dwi heb flogio ar ddau ddwrnod yn olynol fel hyn o’r blaen. Ond neithiwr es i weld Llwyth yn Galeri, Caernarfon. Fedrai’m cofio’r tro dwetha i gynulleidfa’r theatr Gymraeg godi i’w thraed yn unfrydol i gymeradwyo ar ddiwedd perfformiad. Dim ond pobol o garreg – neu o lwyth homophobig? – fyddai wedi gallu cadw eu …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Cyfieithu clasur modern
Fi fyddai’r cyntaf i ddathlu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Mae’r ffaith fod cymaint o lyfrau’n cael eu cyhoeddi erbyn hyn, ac mewn modd mor broffesiynol yn destun balchder mawr. Eto i gyd, ydw i’n iawn i awgrymu ein bod yn euog o ddyrchafu awduron yn rhy fuan yng Nghymru? Neu i gyhoeddi eu bod nhw …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Blogio am flogio. Na!
Blogio am flogio ydw i heddi. Ond na! Paid syllu ar dy fogail, bod mor fewnblyg a diog – a ddim heddi o bob dwrnod, medde chi! Â digonedd, os nad gormod, i’w drafod ar ôl lecsiwn ddoe pam gwastraffu gofod yn trafod y gofod? Ddylai unrhyw gyfrwng osgoi trafod y cyfrwng ei hun, ond …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: ‘Beth am bobo fasned o de?’
Wrth wylio Pethe yr wythnos yma fe ddaeth yna ddau uchafbwynt diwylliannol i’m meddwl. Cerdd gan Bobi Jones oedd un, a’r catchphrase o’r rhaglen Torri Gwynt oedd y llall! Gwrando ar E.G Millward a Nia Roberts yn trafod ‘y te Cymreig’ barodd i ddau beth mor anghymarus neidio i’m meddwl. Mae’n amlwg mai te oedd …mwy Parhau i ddarllen
dotCYM: NEWYDDION dotCYM – Ebrill 2010
John Jones ar y Bwrdd
Mae dotCYM Cyf yn falch i gadarnhau fod John Jones wedi ymuno fel aelod newydd o Fwrdd y Cwmni.
Mae profiad John ym myd busnes a telegyfathrebu yn fawr. Bu’n gweithio i BT am bedwar degawd nes gadael yn 2003 a sefydlu ei gwmni ei hun, eLINIA. Tra bu’n [...] Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Diwydiant a diwylliant Tredegar
Mae mor rhwydd bod yn nawddoglyd ac arwynebol wrth lawenhau fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag ardaloedd fel Blaenau Gwent. ‘Da iawn’ medde ni, ‘mae’n bwysig iddi ymweld ag ardaloedd gwahanol i’r Bala.’ Ac mae hynny’n wir wrth gwrs, fel y byddai nifer o’r Cymry Cymraeg, a di-Gymraeg, sy’n byw yno’n cytuno. Ond gweld …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Hen Benillion Newydd?
Meddwl sôn am Hen Benillion yr o’n i’r wthnos yma, a fi’n llwyddo i wasgu un blog yr wthnos mas ar hyn o bryd. (Ma’ ffordd well o ddweud hynna ma’n siwr!) Ond y busnes tafodiaith yma sy’n dal i droi yn y mhen i. Roedd yr eitem ar Hen Benillion ar Pethe nos …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Trafodaeth am dafodiaith.
Mae poeni, a chanu, am golli iaith yn brofiad cyfarwydd i ni’r Cymry gwaetha’r modd. Daw geiriau Harri Webb am ‘golli urddas, a cholli coron aur cymdeithas’ ag ati i’r meddwl yn syth. Â’r iaith yn fyw ond ymhell o fod yn gwbwl iach ym marn nifer efallai bod angen i Heather Jones ganu o …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Eisteddfod Yr Hoelion Wyth
Dim ond googlo ‘Hoelen Wyth’ wnes i gan sylwi ar ein hoffter o ddefnyddio’r (gor-ddefnyddio’r?) dywediad. Mewn erthyglau neu flogiau caiff yna bobol eu dyrchafu’n hoelion wyth yn eu cymunedau neu eu cylchoedd o hyd. Mae erthyglau coffa’n defnyddio’r disgrifiad yn amal, gan daro’r hoelen ar ei phen yn amal o wneud wrth …mwy Parhau i ddarllen
Pethe » Blog: Mynwenta mwy!
Na, dw i heb fod yn loetran mewn mynwent ers y blog dwetha. Mae un mynwent yr wthnos yn ddigon! Ond mae’n amlwg bod fy meddwl ymhlith y beddau o hyd, er bod dweud hynny’n morbid mae’n siwr. (Morbid yn air derbyniol Cymraeg yn ôl y Bruce – ar ôl afiach ac angladdol, sydd ddim …mwy Parhau i ddarllen
Delynlocks: Hysbyseb Swydd – Saer Clo
Dan ni’n chwilio am unigolyn sy’n onest, ac efo’r gallu i weithio’n galed ac yn ddiffwdan, fel Saer Clo. Rydym yn cynnig rhaglen hyfforddi staff, ond yn amlwg, byddai profiad yn y maes yn fantais. Bydd y cyflog yn ddibynnol ar brofiad, ac ar yr hyn y gallwch ddod i’r cwmni. Bydd lleoliad y swydd [...] Parhau i ddarllen
Delynlocks: Cynhadledd yr ICL
Mae pedwar ohonom ni yn pacio ein bagiau ar gyfer cynhadledd yr Institute of Certified Locksmiths yn Nottingham y penwythnos yma. Bydd yr holl amser ymarfer, yn ogystal a’r cyfleoedd i chwarae efo’r teclynnau mwyaf newydd a sgleiniog yn sicrhau ein bod yn cadw ar frig y diwydiant saer clo ym Mhrydain. Ond mae’n bosib, [...] Parhau i ddarllen
Delynlocks: Logo Newydd
Diolch i Hartley Wilprint mae gennym logo newydd. Mae’r logo yn ymddangos ar ein llyfrau anfoneb, a dros y misoedd nesaf mi fydd yn cael ei estyn ar draws y cwmni, fel ei bod ar ein hiwnifform, ar ein faniau ac ar y wefan yma. Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau am yr ail frandio ar [...] Parhau i ddarllen
dotCYM: Cylchlythyr Chwefror 2009
2009 – blwyddyn dotCYM?
Ymddiheuriadau’n gyntaf am ein tawelwch diweddar – ond, fel y gwelwch o’r rhifyn yma, rydym wedi bod yn brysur iawn! Yn bwysicach nag hyn yw bod sawl darn calonogol o newyddion ar gyfer cefnogwyr dotCYM wrth i ni edrych ymlaen at 2009 – blwyddyn dyngedfennol ar gyfer cyflwyno ceisiadau i ICANN. [...] Parhau i ddarllen
Delynlocks: Calling all entreprenurs!
Mae rhedeg busnes yn her cyson. Mae delio efo’r dyn treth am y tro cyntaf, cynllunio ymgyrch marchnata, creu gwefan, trin staff a cwsmeriaid yn gallu creu penbleth. Dyma fforwm newydd i’n galluogi i drafod efo pobl sydd yn yr un sefyllfa, neu sydd a profiad o ddelio efo’r un problemau. Dydi hi ddim o [...] Parhau i ddarllen
dotCYM: Cyngor Dinas Caerdydd yn cefnogi dotCYM
Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Caerdydd wedi cefnogi cais i Gymru ennill ei pharth lefel uchaf (Top Level Domain) – .CYM. Bydd y parth newydd yn rhoi’r dewis i bobl Caerdydd ddewis .CYM neu’r enwau llai penodol fel .com, .co.uk neu .org.
Wrth ymateb i bwysau byd-eang fe penderfynodd corff llywodraethu’r rhyngrwyd, ICANN, ym Mehefin 2008 i [...] Parhau i ddarllen
dotCYM: Peter Black yn gofyn cwestiwn am dotCYM
Mae un o gefnogwyr cynharaf cais dotCYM, Peter Black AC, wedi gosod cwestiwn yn y Senedd i’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC.
Mae diddordeb a chefnogaeth cyson Peter Black i’r cais yn arwydd bychan ond pwysig arall o’r gefnogaeth draws-bleidiol sydd tuag at parth .cym fel ffordd o uno a brandio cymunedau Cymreig yma [...] Parhau i ddarllen
dotCYM: Meddwl yn fyd-eang – gweithredu’n lleol
dotCYM AR AGOR I AELODAU
Ar adeg pan fod sefydliadau rhyngwladol a banciau buddsoddi mewn trafferth ddifrifol, mae cais am enw parth Cymreig rhyngwladol (.cym) yn dangos yr hyder i fynd yn erbyn y llif trwy agor ei drysau i bobl ar draws Cymru a thu hwnt. Mae sylfaenwyr y cais yn credu bod pobl [...] Parhau i ddarllen
dotCYM: dotCYM, Bangor a’r Byd
Bydd Tom Brooks o gais dotCYM yn cyflwyno papur mewn cynhadledd bwysig iawn a gynhelir ym Mangor ar 22 a 23 Awst.
Cyd-ddealltwriaeth fyd-eang mewn cyd-destunau amlieithog, amlfodd ac amlgyfrwng yw thema cynhadledd GUM3C. Mae’r gynhadledd yn dathlu’r ffaith fod 2008 yn Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd y Byd.
Ymhlith y siaradwyr eraill mae’r ieithydd byd-enwog, David [...] Parhau i ddarllen
dotCYM: Ymateb Da i .CYM
Cafodd datganiad Dirprwy Brif-Weinidog, Gweinidog Economi a Thrafnidaeth Cymru, Ieuan Wyn Jones ymateb dda gan y wasg a’r cyhoedd.
Rhedwyd stori am gefnogaeth wleidyddol ac ariannol y Llywodraeth ar brif newyddion BBC Cymru yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda colofn olygyddol gefnogol iawn yn y Western Mail. Bu hefyd cyfweliadau ar Radio Cymru a Radio Wales [...] Parhau i ddarllen
dotCYM: Llywodraeth yn Cefnogi’r Cais
Rhown Gymru Ar Y We Fyd-eang – Gweinidog
Cafodd ymdrechion i geisio statws rhyngrwyd cyflawn i Gymru hwb heddiw yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y Cynulliad y bydd yn darparu cyllid i gefnogi’r ymgyrch.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones wedi cadarnhau y bydd y llywodraeth yn cefnogi gwaith ymgyrch ‘dotCYM’ yn ei gais am enw [...] Parhau i ddarllen
dotCYM: Synnau Positif o blaid ethos dotCYM
Mae cais am .cym yn dod yn fwy a fwy brif-ffrwd mewn trafodaethau am ddyfodol y rhyngrwyd. Anaml y byddwch chi’n darllen am y newidiadau mawrion yma ym maes y rhyngrwyd ond mae’n ymddangos fod holl ethos cais dotCYM ar gyfer ehangu’r dewis i bobl Cymru, am gydnabod a hyrwyddo hunaniaeth ac iaith unigryw, bellach [...] Parhau i ddarllen
dotCYM: Cylchlythyr Medi 2008
Aelodau Newydd ar y Bwrdd
Mewn cyfarfod ar ddydd Sul y 3ydd o Awst, cafwyd Tom Brooks a Sharanne Basham-Pyke eu derbyn ar fwrdd dotCYM cyf.
Mae Tom wedi gweithio ym maes Technoleg Gwybodaeth am dros ddeugain mlynedd, ac fel ymgynghorydd rheoli wedi arwain prosiectau mawr yn y sector gyhoeddus a’r sector breifat. Mae wedi bod [...] Parhau i ddarllen
dotCYM: Cylchlythyr Mehefin 2008
Paris yn yr Haf
Daw’r cylchlythyr yma atoch ychydig yn hwyr gan i dotCYM fynychu cynhadledd bwysig ICANN ym Mharis er mwyn hyrwyddo’r achos Cymreig.
Roedd y gynhadledd honno’n bleidiol i’r cais gan iddi gadarnhau nad oedd gwrthwynebiad sylweddol i’r syniad o .cym. Mae’n amlwg fod nifer o’r gwybodusion wedi sylweddoli, yn sgil llwyddiant puntCAT, fod [...] Parhau i ddarllen
Delynlocks: Delyn Locks yn dal i dyfu!
Bydd Colin Jones sy’n hannu o Dremeirchion a bellach yn byw yn Nhrelogan yn ymuno gyda staff Seiri Clo Delyn ym mis Mai. Dechreuodd Colin ei yrfa gwaith yn Hawker Siddeley Aviation, Sir Fflint yn y 60′au hwyr ac yna fe wariodd pedair mlynedd yn y llynges fel swyddog peirianneg. Yn y saithdegau fe aeth [...] Parhau i ddarllen
Delynlocks: Offer torri goriadau yn mynd i’r bin?
Ddim cweit eto, ond mi fase fo’n mynd petai ni’n gallu torri goriadau fel y boi yma!
Parhau i ddarllen
Delynlocks: Peidiwch cuddio’ch goriad o dan y mat – gosodwch Keysafe!
Rydym wedi ein cofrestru gyda Supra Keysafes fel un o’u gosodwyr proffesiynnol. gallwch ffeindio eu gwefan yma. Ond wrth gwrs, drwy ffonio ni’n uniongyrchol gwech chi bris gwell! Mae’n siop yn Nhreffynnon yn gwerthu ystod eang o safes, bocsys arian, keysafes a bocsys goriadau. Rydym yn bwriadu lawnsio siop arlein yn fuan, ond yn y [...] Parhau i ddarllen
Delynlocks: Silindrau ICL
Poeni am diogelwch eich cloeon? Wel gallwn cynnig cymorth, fel aelod o’r ICL rydym ar flaen y gad pan ddaw at ymchwil diogelwch a bellach rydym wedi lawnsio ein casgliad ein hunain o silindrau.
Mae’r silindrau yn rhai
1/ 6 pin sy’n cydymffurfio a EN1303
2/ yn cynnwys piniau i atal rhywun rhag eu hagor gyda drill
3/ wedi [...] Parhau i ddarllen
Delynlocks: Dull newydd i Agor ERA Fortress
Dwi wedi bod yn straffaglu i geisio agor y clo yma heb gorfod defnyddio’r drill, a dyma’r boi yma yn gwneud i’r peth edrych mor hawdd!
A deud y gwir, dyw’r dyfais yma ddim yn un sydd yn mynd i fedru agor pob Fortress, mae’n dibynnu pa “levers” sydd yn y clo. Ond yn sicr dwi [...] Parhau i ddarllen
Delynlocks: Taclo’r Tacle – rhan 3.
DRYSAU
SICRHEWCH BOD POB DRWS YN DDIOGEL
Os nad yw eich drysau yn ddiogel yn erbyn lleidr, yna dyw eich cartref ddim yn ddiogel.
Sicrhewch fod y drws a’r fram mewn cyflwr da. Dylai drysau fod yn solet a ddim llai na 44mm o drwch.
Mae paneli gwydr o amgylch y drws yn man gwan, felly newidiwch am gwydr [...] Parhau i ddarllen
Delynlocks: Fy Ymgyrch Google Ads
Helo gyfeillion a chwsmeriaid. Holiadur bach sydyn, a byddwn yn falch, os oes gennych pum munud bach sbar i gael eich ymateb.
Tase chii isio locksmith i’ch ty. Ac eisiau chwilio ar google am un – pa search terms sa chi’n eu defnyddio?
e.e.
1) os di dy ddrws yn gwrthod cloi.
2) os wyt ti yn y [...] Parhau i ddarllen



























