-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: Alwyn ap Huw
Hen Rech Flin: Rag lleol am ddim?
Rwy’n siarad ar fy nghyfer yma am bwnc rwy’n gwybod dim yn ei gylch; ond ymysg y sôn am ddiffyg cyfryngau Cymreig a pherchnogaeth estron yr ychydig sydd; derbyniais gopi o’r North Wales Pioneer papur sy’n cael ei ddosbarthu yn y parthau hyn yn rhad ac… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Canlyniad y Blaid, Leanne, y Cŵin a’r Rag Lleol
Gan wybod bod y Blaid Lafur am ennill tir sylweddol wedi etholiad trychinebus 2008, rwy’n credu bod Plaid Cymru wedi cael etholiad eithaf dechau Dydd Iau diwethaf, roedd ambell i siom, ond prin ei fod yn drychineb.
Er gwaethaf hynny fe ymddengys bod … Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Hashtag etholiadol?
Er mwyn dilyn yr etholiadau ar Drydar heno ac yfory a fydd #tag ar gyfer y canlyniadau yn gyffredinol; rhai Cymru; rhai’r Alban, rhai siroedd arbennig; llwyddiannau pleidiau unigol ac ati? Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Etholiadau Diwrthwynebiad = detholiadau annemocrataidd?
Pan glywais fy mod wedi fy ethol heb gystadleuaeth ar gyfer fy nghyngor cymuned fy nheimlad oedd un o siomedigaeth bersonol, yr oeddwn yn dymuno cystadleuaeth ac yn awchu am ymgyrch. Rwy’n ddiolchgar i Owen ap Gareth o Gymdeithas Newid Etholiadol Cymru… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Darllediad Etholiadol Plaid Cymru
Croeso ddigon llugoer fu i ddarllediad etholiadol Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau cyfredol. Mae Blog Banw yn dyfynnu nifer o negeseuon Trydar sy’n cwyno am y ffilm ac yn mynd ati i ategu ei feirniadaeth ef amdano. "Rwy’n teimlo bod hwn yn gam gwag iawn fel darllediad gwleidyddol, oes mae na le i gael neges cadarnhaol ac nid mynd lawr yr un trywydd â’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr trwy Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? ‘Sneb yn cyfrannu
.
Dyma Fy ymateb i’r drafodaeth ar y Maes:
Er mae dyma’i neges gyntaf mae’r hwyliwr yn gwneud pwynt digon teg. Rhyw pum – chwe blynedd yn ôl mi fûm yn danfon deg neu ragor o negeseuon y dydd i’r Maes, mae hynny wedi mynd lawr i neges neu ddwy’r flwy… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Caniatáu cost dwyieithrwydd mewn gwariant etholiadol
Pan gefais fy enwebu fel ymgeisydd ar gyfer yr etholiadau cymunedol mi gefais nodyn gwybodaeth gan y swyddog etholiadau yn nodi’r uchafswm yr oeddwn yn cael gwario ar yr ymgyrch, sef £600 + 5c yr etholwr. Digon teg, rwy’n cefnogi system sy’n sicrhau nad yw’r cyfoethog yn gallu "prynu" etholiad.
Fel mae’n digwydd ni fu’n rhaid imi wario dima goch gan fy mod wedi fy ethol heb gystadleuaeth.
Hen Rech Flin: Pôl newydd ar fin cael ei gyhoeddi?
Cefais hysbysiad o bôl piniwn gwleidyddol Cymreig newydd gan YouGov heno, nid oes gennyf syniad pwy sydd wedi comisiynu’r pôl; os mae un o’r pleidiau sydd wedi ei gomisiynu fel pôl preifat, hwyrach na ddaw’r canlyniad byth yn gyhoeddus. Rwy’n gobeit… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Dim Etholiad i Gyngor Cymuned Glan Conwy eto byth
Efo dim ond 11 o ymgeiswyr ar gyfer y 12 sedd bydd dim etholiad ar gyfer Cyngor Cymuned Llansanffraid Glan Conwy eto eleni. Er chwilio trwy hen bapurau lleol rwy’n methu gweld unrhyw gyfeiriad at etholiad ar gyfer y Cyngor yma ers diwedd yr Ail Rhyfel … Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: E lyfrau ar Gwales
Mae gwales.com bellach yn gwerthu e-lyfra ar ffurf e-pub. Mae tua 150 o e lyfrau ar gael i’w lawrlwytho o’r wefan ond dim ond 6 ohonynt yn llyfrau Cymraeg ysywaeth.
Mae yna tair nofel ar gael:Dyn Pob Un Euron Griffith £7.95 Llafnau Geraint Evans £7… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Gwres Cenedl yn Eirias!
Er bod y sgôr neithiwr wedi bod braidd yn siomedig, yr wyf wedi cael pleser pur o wylio tîm dan ugain Cymru yn chware ym Mharc Eirias yn niweddar. Hoffwn longyfarch Undeb Rygbi Cymru, Cyngor Conwy a’r hogiau am roi cyfle i ni yn y Gogledd cael mwynh… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Llongyfarchiadau Leanne – mae’r frwydr cenedlaethol yn poethi!
Hoffwn gynnig longyfarchiadau mawr i Leanne Wood ar gipio arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Does dim dirgelwch yn y ffaith bod yna gwahaniaethau barn enfawr rhwng fy ngwleidyddiaeth de o’r canol fi a gwleidyddiaeth chwith Leanne. Yn wir yr wyf wedi lambasti… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Purdeb Iaith v Bratiaith?
Rwyf newydd gael cyfle i wrando ar Pawb a’i Farn ar y Sky+, roeddwn yn siomedig o glywed yr un hen ddadl wag am iaith pur v bratiaith ar y rhaglen. Ym mha iaith arall gellir cael trafodaeth mor ddiystyr?
Y mae gan bob iaith ei phuryddion, ei academy… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Cwestiwn Dyrys am Hustings Plaid Cymru
Onid ydyw yn beth od bod Plaid Cymru; plaid sydd yn honni mae hyhi yw’r blaid mwyaf gwerinol, mwyaf dosbarth gweithiol, mwyaf sosialaidd a’r blaid agosaf at guriad cenedl y Cymry yn cynnal ei chyfarfod hustings agored yng Ngwesty mwyaf ecscliwsif ein g… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Sianel 62 yn cychwyn heno
Sianel 62
Sianel deledu newydd yn cychwyn heno Bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio sianel deledu Cymraeg newydd – Sianel 62 – nos Sul yma (19eg Chwefror) am 8pm fel rhan o’n dathliadau hanner canmlwyddiant. Y bwriad yw dangos rhaglenni heriol, gwl… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Sut Guto?
Rwy’n ddiolchgar i Guto Bebb AS am ei ymateb i ran o fy mhost diwethaf.
Yn y post mi ddywedais:
Y broblem fwyaf sydd gennyf efo darlith Guto yw’r darn yr wyf yn cytuno mwyaf ag ef:
Gadewch i do newydd o Gymry weld ymhellach na diogelwch swydd y sect… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Tynged yr Iaith a Thynged yr Economi
Rwyf wedi mwynhau cyfres y BBC o raglenni parthed hanner canmlwyddiant Tynged yr Iaith yn arw; un o’r cyfraniadau mwyaf difyr bu cyfraniad fy AS lleol Guto Bebb.
Roedd Taid Guto a Saunders yn gyfoedion ac yn gyfeillion ac yn cyd gyfrannu at yr achos … Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Baner ac Amserau Glan Conwy
O gofnodion y Cyngor dyddiedig 13.12.2011
"7. 2011/12-7:10.3 Polyn Fflag – yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i archebu dau bolyn a dwy fflag, y Ddraig a’r Undeb. Gobeithir y byddent yn eu lle erbyn Gŵyl Dewi.
Mewn nifer o gyfarfodydd diweddar mae’r Cyngor Cymuned wedi nodi ei fod yn "anwleidyddol".
Pan fo ddyfodol yr Undeb yn achos o gontrofersi gwleidyddol ddwys, gyda’r posibilrwydd y daw i ben Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Crefydd a Chyngor
Yr wyf, fel Cristion, yn croesawu penderfyniad yr Uchel Lys, bod mynnu bod aelodau Cyngor yn fynychu cyfnod gweddi yn anghyfreithiol.
Pe byddwn yn aelod o gyngor, mi fyddwn, yn ddiamheuaeth, yn gofyn ar i Dduw fy arwain yn fy mhenderfyniadau cyn pob … Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Dêt, Rhamant, Leanne a’r Gymraeg
Heddiw yw dydd y Santes Dwynwen, a gan fy mod yn rhamantydd o Gymro, heddiw hefyd yw pen-blwydd fy mhriodas! Aw!
Dechreuodd fy nghwrs cariadol trwy ddweud wrth yr hon sydd bellach yn wraig imi fy mod am ymweld â Phorth y Rhondda ar gyfer rali Plaid C… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: O Na Fyddai Duw yn Sais!
Gen 11:3
Dywedasant, Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a’i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear. Disgynnodd yr ARGLWYDD i weld y ddinas a’r tŵr yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu, a dywedodd, Y maent yn … Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Rygbi’r Chwe Gwlad yn y Gogledd
Bydd holl gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad dan ugain eleni a’r flwyddyn nesaf yn cael eu chwarae yn stadiwm newydd Parc Eirias Bae Colwyn. Hoffwn annog cefnogwyr y bel hirgron yn y Gogledd i geisio eu mynychu.
Mae’r profiad o weld gêm ryngwladol yn… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Blogiadur
Mae’r Blogiadur yn ceisio bod yn ffynhonnell ar gyfer pob blog Cymraeg (mae adran Gymreig ar ei chyfer hefyd) sy’n cael ei gyhoeddi. Bu nifer o sylwadau i fy mhost blaenorol gan bobl sydd a phroffil yn y blogosffer, ac yn ol Golwg bu ymatebion eraill n… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Pwy Maga Blant?
Rwy’n methu deall Gwleidyddiaeth Rhyw, boed o ran Cristionogion Selog, neu o ran yr Anffyddwyr Milwriaethus.
I mi mae rhyw yn hwyl, peth pleserus a dymunol!
Pan oeddwn yn laslanc roedd pleser ar gael rhwng llaw, cylchgrawn a phidlan unig.
Pan oeddwn… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Pwy fydd PC Plaid Cymru?
Rhwng etholiadau am arweinyddiaeth Y Blaid ac etholiadau ar gyfer cynghorau mis Mai, prin bu’r sylw ar y blogospher Cymreig, hyd yn hyn, am etholiadau eraill 2012, sef yr etholiadau ar gyfer Comisynydd Heddlu ar gyfer Pedwar Awdurdod Heddlu Cymru.
Mae… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Cwestiwn pellach am e-lyfrau
Rwy’n ddiolchgar i Siôn, Ifan Morgan Jones a libalyson am eu hymateb i fy mhost blaenorol parthed e-lyfrau.
Mae tua ugain o e-lyfrau Cymraeg ar gael o’r Lolfa a chwaneg ar y gweill.
Diolch i’r Lolfa am wneud eu e-lyfrau yn rhatach na’r fersiynau coe… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Syr HRF
Y mae’n bleser gennyf nodi bod Ei Mawrhydi, Brenhines Lloegr, wedi cynnig marchogaeth imi yn y New Years Honours List a gan hynny bydd y blog ‘ma yn cael ei hadnabod drachefn fel blog Syr HRF.
Byddwyf yn dileu sylwadau gan bobl o radd is na fi sydd y… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Cwestiwn Dyrys am e-lyfrau.
Trwy garedigrwydd Siôn Corn cefais ddarllenydd e-lyfrau yn fy hosan eleni!
Gwych, rwy’n falch o’i gael, ond rwy’n ansicr o’i werth!
Er chwilio a chwalu rwy’n methu cael hyd i e-lyfrau Cymraeg – Am siom!
Lle mae cyfraniad y Cyngor Llyfrau i Lyfr… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Ymateb Siôn Corn i Carwyn Jones
Yn dilyn sgandal gwleidyddol mwya’r flwyddyn, mae Siôn Corn wedi ymateb i honiad cyfeiliornus Carwyn Jones ar Wedi 7 ddoe:
Cydnabyddiaeth am y llun i’r Parch Richard Hall Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Brwydr Bandiau Ysgolion Cymru
Gan fy mod yn rhiant yr wyf wedi edrych ar y bandio ysgolion ac wedi cymharu ysgol fy mhlant ag ysgolion eraill, ond wedi gwneud dwi ddim mymryn yng nghallach.
Mae fy mhlant yn mynychu Ysgol y Creuddyn yn Sir Conwy -ysgol band 2 yn ôl y Cynulliad. Dy… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Ymennydd ar streic?
Hwyrach mae fi sy’n dwp, ond rwy’n cael anhawster deall prif ddadl y Torïaid yn erbyn streic heddiw, sy’n cael ei ail adrodd hyd at syrffed sef bod yr undebau yn anghyfrifol am gynnal streic tra bod trafodaethau yn mynd rhagddynt.
Yn fy marn fach i d… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Pam?
Mae’n anhygoel, amhosibl dirnad paham bod dyn, sydd i bawb arall a phob rheswm i fyw, yn penderfynu dod a’i fywyd i ben.
I ni a oedd yn adnabod Gary Speed fel ffigwr cyhoeddus, roedd ei fywyd a’i yrfa yn edrych yn berffaith. Un o brif sêr y gêm pêl… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Llwyddiant i Mebyon Kernow
Llongyfarchiadau i Loveday Jenkin, cyn arweinydd MK ar gipio sedd ar Gyngor Cernyw ar gyfer ei phlaid neithiwr.
Loveday Jenkin (MK) – 427
John Martin (Rhydd Dem) – 262
Linda Taylor (Ceid) – 227
Phil Martin (Ann) – 177
Robert Webber (Llaf) … Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: e-ddeiseb:Adalw Cynlluniau Datblygu Lleol
Deiseb i’r Cynulliad gwerth ei gefnogi
e-ddeiseb:Adalw CDLl (Cynlluniau Datblygu Lleol)
Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adalw r holl Gynlluniau Datblygu Lleol ledled Cymru ac i roi r gorau i ddefnyddio amcanestyniad… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Rali Datganoli Darlledu i Gymru
Neges gan CyIG:
Am 12.30 prynhawn dydd Mawrth Tachwedd 8fed dewch draw i alw am DDATGANOLI DARLLEDU I GYMRU ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd. Fe gynhelir trafodaeth ar y pwnc hwn yn y Cynulliad Cenedlaethol y diwrnod hwnnw ac mae’n rhaid mynnu f… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Rwy’n teimlo’n ddryslyd braidd.
Ers cychwyn y tipyn yma o flog yr wyf wedi mynegi fy anfodlonrwydd bod Plaid Cymru yn llai nag eglur parthed ei hagwedd tuag at Annibyniaeth. Yr wyf wedi cael fy nghondemnio yn hallt gan aelodau’r Blaid, wedi fy ngalw’n fradwr, yn Dori, yn faw isa’ d… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Chwip o Bost!
Mae’r ddadl am daro plant yn peri rhywfaint o gyfyng gyngor i mi. Oherwydd fy oedran yr wyf yn rhan o genhedlaeth lle’r oedd cael chwip din gan Dad neu gansen gan Brifathro yn rhan o’r hyn yr oedd plentyn yn derbyn fel digwyddiad arferol.
Mae rhai o d… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Pwy sydd am ladd Alain Rolland?
Yn ddi-os mae nifer o bobl wedi cael eu siomi mae dyfarniad dadleuol yn hytrach na safon y chware sydd yn gyfrifol am fethiant Cymru i gyrraedd ornest derfynol Cwpan Rygbi’r Byd.
Mae nifer o Gymry, a phobl o wledydd eraill sydd yn hoff o’u rygbi we… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Hen Silff – Cyfrol Newydd
Mae yna silff arbennig iawn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru! Y silff lle mae adroddiadau Comisiynau Cymreig yn cael eu cadw!
Mae’n silff sydd ychydig yn llychlyd, oherwydd does neb byth yn mynd yno er mwyn darllen y cyfrolau. Yr unig amser y mae rhywu… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: E-deiseb i’r Cynulliad ar Gartrefi Cymdeithasol
Mai Royston Jones (Jac o’ the north) wedi cyflwyno’r ddeiseb isod i’r Cynulliad:
E-ddeiseb: Dyrannu Tai Cymdeithasol yng Nghymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r system ddiffygiol a … Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Gwahardd Aeron – cam gwag i ddemocratiaeth!
Mi fyddai’n deg dweud nad ydwyf ym mysg ffans mwyaf y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones, naill ai fel Cynghorydd nac fel blogiwr. Beth bynnag bu gwendidau ei gyd bleidiwr Gwilym Euros fel priod a chynhaliwr cyfraith gwlad, roedd blog Gwilym wastad yn lle … Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Gofyn am Fôt
Mae rhestr fer Blogiau Cymru bellach wedi ei gyhoeddi ac mae’r blog hon yn un o ddau blog yn yr iaith Gymraeg i gael ei enwebu ( y llall yw blog Siôn Dafydd)
Eleni mae modd i aelodau’r cyhoedd i bleidleisio am eu hoff blog ar y rhestr fer ar gyfer gwobr "Dewis y Bobl". Mae’r ffurflen pleidleisio ar welod y dalen yma: http://walesblogawards.co.uk/2011/09/wales-blog-awards-finalists-are-named/. Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Dau ganlyniad da i’r Blaid yn Ngwynedd
Diffwys a Maenofferen
Mandy Williams Davies, Plaid Cymru – 210
Catrin Elin Roberts, Llais Gwynedd – 153
Penrhyndeudraeth
Gareth Thomas, Plaid Cymru – 515
Rhian Jones, Llais Gwynedd – 219
Dafydd Thomas, Annibynnol – 90
Llongyfarchiadau i’r ddau … Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Cyfiawnder – Rygbi – Yr Alban a’r Wasg Gymreig!
Rwyf wedi fy synnu braidd at ddiffyg cyfeiriad yn y wasg Gymreig at y controfersi mwyaf sydd wedi taro Cwpan Rygbi’r Byd! Sef gwaharddiad yr IRB ar ganu’r pibgodau mewn gemau, sydd wedi ei osod ar ein cefndryd Albanaidd!
Mae’n achos sydd wedi denu s… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Cosb Ataliol
Mi fu’m yn gwrando ar Question Time neithiwr, a oedd yn cynnwys y cwestiwn disgwyliedig parthed y gosb eithaf yn dilyn dienyddio amheus Troy Davis yn Nhalaith Georgia.
Pob tro bydd y cwestiwn yn cael ei grybwyll bydd cefnogwyr y gosb yn honni bod y go… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Cymru 17 – 10 Samoa.
Rwy’n falch fy mod i wedi mynd i weld y doctor ddoe i gael ychwaneg o dabledi at y galon – roedd eu gwir angen wrth wylio gem Cymru y bore ma!
Buddigoliaeth yw fuddigoliaeth, ond doedd chwaere heddiw ddim yn ddigon da i ddweud bod y naill gem na’r ll… Parhau i ddarllen

