Archives: Andrew Green

cymraeg – gwallter: Brasil: dwy long, dau fardd

Un o’r cyfnodau allweddol ym mywyd a barddoniaeth T.H. Parry-Williams oedd ei fordaith, ar ei ben i hun, i dde America yn 1925.  Ar y pryd bu cryn ansicrwydd, nid y lleiaf ar ran y bardd ei hun, am y rheswm pam penderfynodd adael Cymru a’i deulu yn Rhyd-ddu – roedd ei dad mewn anhwylder […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: ‘Fabula’: Llŷr Gwyn Lewis a Borges

Nôl ym mis Gorffennaf, yn siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon, fe brynais i gasgliad newydd Llŷr Gwyn Lewis, Fabula.  Dim ond ddoe y dechreuais ei ddarllen.  Fel darllenydd confensiynol, penderfynais i gychwyn gyda’r darn cyntaf yn y gyfrol, ‘Hydref yw’r gwanwyn’.  Mae iddo is-deitl, ffug-academaidd, ‘fabula, historia ac argumentum yn yr Ariannin’, sy’n eich […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Y Llwybr Madyn, 30 mlynedd ymlaen

Y tro hwn, y syniad oedd cyrraedd copa Cadair trwy ddilyn y Llwybr Madyn.  (Angen arna i edrych yn y geiriadur i weld bod ‘madyn’ yn hen air am lwynog neu gadno – y ‘Fox’s Path’ yw’r fersiwn Saesneg.) Dewis hollol naturiol oedd hwn, a hynny am ddau reswm.  Arhosais i’r noson gynt mewn B&B […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: ‘The Llanboidy molecatcher’ gan James Lewis Walters

Sylwais i ar y llun am y tro cyntaf llynedd. Ar y pryd roeddwn i’n chwilio am bethau eraill yn Amgueddfa Sir Gâr, yn hen Balas yr Esgob yn Abergwili. Hongiai’r llun yn swil, mewn lle anamlwg y tu ôl i ddrws. Ei destun eithriadol ac arddull medrus a ddenodd fy llygad gyntaf. Arhosodd y llun […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Llygad crwtyn, llygad dyn: David Jones yn Rhos

Dair wythnos yn ôl cerddais i heibio i gapel bychan S. Trillo yn Llandrillo-yn-Rhos, heb sylweddoli mai’r llecyn hwn oedd y cyflwyniad cyntaf i Gymru i’r bardd a’r artist David Jones. Daw’r wybodaeth hon mewn llyfr mawr newydd gan Thomas Dilworth sy’n dilyn bywyd a gwaith David Jones.  Cymro oedd ei dad, Jim Jones, argraffydd […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dyma destun anerchiad i Gynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gynhaliwyd yn y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe ar 8 Mawrth 2017. Bum mlynedd ar hugain yn ôl des i i Brifysgol Abertawe, neu Goleg y Brifysgol Abertawe fel yr oedd hi ar y pryd, i fod yn gyfrifol am ei Llyfrgell – syndod mawr, […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Y Garn Goch

Bûm yna am y tro cyntaf rhywbryd tua diwedd y 1970au.  Cofiaf ddilyn y lôn gul, droellog o wastatir afon Tywi, i fyny’r rhiw o bentref Bethlehem, cyn parcio’r car ar droed y llwybr.  Cofiaf hefyd y waliau cerrig sychion yn amgylchynu’r ddau fryn, yn ddiamddiffyn i’r gwyntoedd o’r gorllewin – neu’n waeth, gwyntoedd dwyreiniol […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Blwyddyn Chwedlau Cymru

I’r swyddogion yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am baratoi cynlluniau i ddenu twristiaid i Gymru, mae ‘diwylliant’ Cymru yn broblem y mae hi bron yn amhosibl dod i afael â hi.  Y prawf diweddaraf o hynny yw’r ymgyrch bresennol Blwyddyn Chwedlau Cymru. Llynedd oedd ‘Blwyddyn Antur’, a ‘Blwyddyn y Môr’ oedd hi yn 2018: pynciau […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Cynulliad neu Senedd?

Yn ddiweddar iawn cyhoeddodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wahoddiad inni leisio ein barn am gynnig i newid enw’r Cynulliad. Ei dadl yw bod y Cynulliad, dros y bymtheg mlynedd a mwy ers ei sefydliad, yn haeddu enw sy’n fwy urddasol a chywir na’i enw presennol, wrth i’r pwerau sy ganddo gynyddu (bydd […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Y £5 newydd: ymlaen i’r gorffennol

Yr wythnos ddiwethaf cyrhaeddodd fy mhapur pum punt newydd cyntaf.  Ychydig ddyddiau cyn hynny derbyniais i trwy’r post The new Fiver, taflen (uniaith Saesneg – er bod fersiwn Cymraeg ar gael) gan Fanc Lloegr sy’n ceisio esbonio’r newid a rhoi cysur i’r cyhoedd. Rhaid imi gyfaddef, yn anaml iawn y byddwn i’n aros am eiliad […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: THP-W allan heb ei het: ‘O’r Pedwar Gwynt’

Yn y gwynt a’r glaw ar faes Eisteddfod y Fenni y dydd o’r blaen prynais i gopi o Rifyn 1 o’r cylchgrawn llenyddol newydd sbon O’r pedwar gwynt. Mae O’r pedwar gwynt wedi codi fel ffenics o lwch y cylchgrawn hynafol Taliesin, a fu farw yn y gwanwyn.  Roedd Taliesin yn gyhoeddiad mor wylaidd a […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Triniaethau

    1   Majestic ‘Majestic! Dacw fe, ail dro ar y chwith.’  Gadael y car, dilyn troli â’i olwynion gwyrdroëdig ar hyd yr eiliau gwydr. Dyma ti’n sefyll wedi ymgolli rhwng Merlot a Malbec, yn cyfieithu Ffrangeg y labeli llawen i iaith y claf. ‘Digon imi allu cynnig ichi set o wydrau, rhad ac am […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Gwallt

Bues i mewn parti ychydig wythnosau yn ôl mewn tŷ yn Abertawe – fel mae’n digwydd, heb nabod fawr neb ymysg y gwesteion eraill.   Dim syndod yn hynny: mae perchennog y tŷ’n adnabyddus am ehangder ac amrywioldeb ei gylch o ffrindiau. Yn yr ystafell lle roedd pryd o fwyd Indiaidd blasus ar gael i bawb, […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Dolgun Uchaf

Digwydd bod yn adal Dolgellau y dydd o’r blaen, ac angen lle dros nos mewn gwely a brecwast.  Yfory roedd Ras Cadair Idris am ddechrau, felly ychydig o weliau oedd ar gael yn yr ardal.  Roedd y dewis cyntaf a awgrymwyd gan gyfaill yn llawn, a’r ail ddewis hefyd.  Yn ddigon ffodus des i o […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Geiriaduron a Karl Marx

Digwydd bod yn swyddfeydd Gwasg Gomer yn Llandysul rai wythnosau yn ôl, a dod o hyd i hen gyfaill, D. Geraint Lewis.  Roedd camerâu Heno yn yr adeilad, i ddathlu cyhoeddi llyfr mawr, a doedd dim cyfle cael sgwrs.  Achos y dathlu oedd y llyfr mwyaf a gyhoeddwyd yn hanes y cwmni, sef llyfr gan […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Capel-y-ffin: tro ar fyd David Jones

Mae’n drueni mawr na fydd yr arddangosfa David Jones: vision and memory, sydd newydd ddod i ben yn Pallant House, Chichester, yn dod yma i Gymru, cartref ysbrydol ac ysbrydoliaeth yr artist ac awdur o Lundain.  Fel cytunodd pob un o’i hadolygwyr, arddangosfa o’r safon uchaf fu hi, gyda nifer fawr o weithiau anghyfarwydd, yn […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Cofio am Osi Rhys Osmond

Y dydd o’r blaen rhoddodd ffrind lyfr ail-law imi, ychwanegiad i’m llyfrgell fach o lyfrau ar gelfyddyd cerdded.  Doedd y gyfrol, I know another way: from Tintern to St Davids (Gomer, 2002) ddim yn gyfarwydd imi.  Casgliad yw e o ysgrifau er cof am Robin Reeves, y newyddiadurwr, ymgyrchydd a golygydd New Welsh Review a […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Cadair Idris eto

A wnelo rhai o’m hoff brofiadau o deithio yng Nghymru â Chadair Idris. Ar yr hen ffordd Rufeinig o Domen y Mur tua’r de, does dim golygfa fwy gwefreiddiol na gweld mur hir, mawreddog y mynydd yn y pellter, yn sgleinio’n oren a llwyd yn yr haul isel ar noson glir o haf. Eto, wn […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Ar y Mynydd Du

Golygfa ddu yw hi, o bob cyfeiriad, does dim dwywaith. O’r A48, er engraifft, wrth ichi yrru o Gaerfyrddin tua Cross Hands, mae’n anodd osgoi edrych draw, am eiliad o leiaf, i’r wal dywyll, fygythiol o fryniau sy’n ymestyn ar y gorwel yn y dwyrain – ymyl gorllewinol y Mynydd Du. ‘Du’ mewn ffordd arall […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Beth yw diben angladd?

Dros y gaeaf buodd Dr Angau ar grwydr trwy’r wlad yn ei glogyn du, ac yn anarferol o brysur. O fewn y pythefnos diwethaf bues i mewn tri angladd, yn Lloegr ac yng Nghymru. Byddai’r cyfanswm wedi bod yn bedwar angladd mewn tair gwlad oni bai am y ffaith bod dau’n digwydd ar yr un […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Y broblem o’r cyfoethogion eithafol

Fersiwn o gyflwyniad i aelodau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar 11 Chwefror 2015. Dyma dri chwestiwn ichi: A oes ots os ydy nifer fach iawn o bobl mewn cymdeithas yn ennill llawer, llawer mwy na’r gweddill ohonom? Ydy’r sefyllfa hon yn ffaith naturiol yn ein heconomi, ac felly does dim modd ei newid? Os oes […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Tranc sebon

Allech chi ddim dweud bod diffyg sebon, yn ei ystyr fetafforaidd. Er bod rhai yn dadlau bod ein cymdeithas wedi colli pob arwydd o ymostyngiad, mae seboni yn weithgaredd poblogaidd o hyd, yn arbennig yn y byd gwaith. Ac wrth gwrs mae operâu sebon yn rhygnu ymlaen, er bod rhywun yn synhwyro nad oes gan […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: ‘Caitlin’

Wrth i ‘flwyddyn Dylan’ ddirwyn i ben – ar ôl misoedd o ddathliadau dwys sy wedi ymylu ar fod yn ‘Dylanolatri’ – mae’n briodol iawn bod peth sylw yn cael ei roi i’w wraig Caitlin. Nos Fawrth yn Volcano yn Abertawe fe welais berfformiad byw, rhyw awr o hyd, o’r enw ‘Caitlin’, sy’n dramateiddio’r berthynas […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Y lle gwag

Tua milltir o’n tŷ ni, ar ymyl y brif ffordd i lawr i’r pentref, mae lle gwag. Rhyw erw o dir gwastad rhwng dau dŷ. Gefeilliaid yw’r tai – adeiladau golygus wedi’u gosod dipyn oddi ar y ffordd, â bargod eang, a theils coch yn gorchuddio’r rhan uwch o’u waliau. Yn wreiddiol, mae’n amlwg, gardd […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Cymry’r Rhyfel Byd Cyntaf

Ydych chi’n chwilio am lyfr dibynadwy a darllenadwy yn Gymraeg sy’n dangos hanes y Rhyfel Mawr mewn geiriau a lluniau, o safbwynt pobl Cymru? Os felly, does dim angen arnoch chwilio ymhellach na Cymry’r Rhyfel Byd Cyntaf gan Gwyn Jenkins, cyfrol odidog a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf gan Y Lolfa. Dyma lyfr hardd (ie, hardd, […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Celf a chrefydd: George Herbert a’r anffyddiwr

Rai blynyddoedd yn ôl ces i wahoddiad i ymddangos ar y rhaglen radio Beti a’i phobl, i sgwrsio â Beti George a dewis ychydig o recordiadau. Un ohonynt oedd darn o waith sy’n bwysig iawn imi, ers y tro cyntaf imi ei glywed rhyw ugain mlynedd yn ôl: Spem in alium, y motét i ddeugain […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Cof, dychymyg, enwau lleoedd

I’r Cymry mae enwau lleoedd yn bwysig.  Bron bob mis adrodda’r cyfryngau ryw ffrae neu’i gilydd amdanyn nhw: Varteg (Saesneg) v Y Farteg (Cymraeg) neu, yn fwy arwyddocaol, Cwm March v Stallion Valley (bathiad anffodus newydd sbon).  I’r rhan fwyaf o bobl pethau i’w trysori ydyn nhw, o achos eu bod yn cadw cof hanesyddol […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Llais tawel Dafydd Pritchard

Aderyn prin yw llyfr newydd gan y Prifardd Dafydd John Pritchard.  Felly dylid croesawu ei gasgliad diweddaraf o gerddi, Lôn Fain (Barddas, 2013), yn frwd iawn. Ddaw ystyr llythrennol ‘Lôn Fain’ ddim yn eglur inni tan y tudalen olaf, ond mae’r bardd yn ein paratoi at y gerdd derfynol, ‘Wrth fedd fy mrawd’, trwy’r casgliad […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Alfred Russel Wallace, Cymru a radicaliaeth

Gan mlynedd ar ôl ei farwolaeth mae’r naturiaethwr o Gymru Alfred Russel Wallace o’r diwedd yn derbyn cydnabyddiaeth yn ein hamser ni am ei orchestion – nid yn unig am fod yn gyd-ddyfeisiwr, gyda Charles Darwin, o’r theori ‘esblygiad trwy ddetholiad naturiol’, ond hefyd am ei waith ar fioddaearyddiaeth a sawl pwnc arall. Dadorchuddiodd David […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Afallon = Abertawe?

‘Nofel ddarllenadwy a chrefftus’ yw’r ansoddeiriau ar glawr Afallon gan Robat Gruffudd, a enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen llynedd.  Disgrifiad teg iawn, ‘swn i’n dweud: mae’n llyfr sy’n dal ei afael arnoch chi hyd y diwedd. Y cymeriad canolog yw Rhys John, dyn sy wedi gweld llawer o’r byd, ond ychydig iawn o hunan-dwyll sy […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Cyngerdd Tŷ

Ar noson grasboeth arall dyma ni’n dau’n cerdded ar hyd pafin ein stryd dan gario cadair blygu’r un, ar ein ffordd i ‘gyngerdd tŷ’.  Daeth y gwahoddiad oddi wrth Delyth Jenkins a’i merch Angharad – ‘DnA’ yw eu henw proffesiynol – sy newydd ryddhau albwm newydd o awelon Cymreig traddodiadol a newydd, Adnabod (Fflach). Chlywais […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Tri rhyfeddod Cymru

Ychydig wythnosau yn ôl daeth gwahoddiad i siarad ar Radio Wales am dri agwedd ar Gymru sydd â lle arbennig yn fy mywyd: tri rhyfeddod Cymru. I wneud pethau’n waeth doedd bron dim terfynau ar ystyr y gair ‘rhyfeddod’: gallai fod yn lle, yn berson, yn ddigwyddiad, neu unrhyw beth arall. Panig yw’r ymateb cyntaf […] Parhau i ddarllen

gwallter » cymraeg: Rhedwr Sul

Bob bore Sul, rhwng saith ac wyth o’r gloch, bydda i’n codi o’r gwely, gwisgo (siorts, crys-T, hen sgidiau), gadael y tŷ, a rhedeg. Yn 1964 dechreuais i redeg  yn wythnosol, cyn gadael yr ysgol gynradd yn ein pentref ni, Hoylandswaine, yn yr hen ‘West Riding’.  Erbyn hyn, hanner canrif yn ddiweddarach, mae’n rhy hwyr […] Parhau i ddarllen