Archives: Ann Jones

Ailddysgu: Dolydd

Ar Galwad Cynnar, yn ddiweddar, roedd rhywun [Trevor Dines, efallai?] yn siarad am ddolydd, ac am wahanol ragleni i ail-sefydlu dolydd traddodiadol.  Mae ein comin ni, ond dipyn dros bum munud i ffwrdd o’r tŷ [ar droed] yn perthyn i’r ParksTrust, sydd yn rheoli’r rhan fwyaf o’r tir ’gwyrdd’ yn Milton Keynes.  Mae nhw wedi penderfynu ail greu dôl traddodiadol mewn cae ar waelod y comin.  Dyma rhan o’r gwaith i ddechrau’r prosect yn ôl yn yr Hydref gyda’r tractor yn gweithio yn y cae:





 Roedd yr arwydd [isod] yn dweud wrthan ni am y prosiect a wedyn gnwaeth y waith ddechrau:  


yr un ffordd a soniodd Trevor Dines amdano – torri’r ’gwair’ o ddôl traddodiadol, yn llawn o’r hadau, a gadael i’r hadau gnweud ei gwaith.

Dan ni felly ond ar y cam gyntaf.  Ond mae hyd yn oed rhoi gorau i ddefnyddio chwyn laddwyr [a peidio’r pori] wedi cael effaith yn barod.  Dan ni’n dechrau gweld blodau yn dod yn ol i’r cae nesa i’r cae yma.  


Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Yn y warchodfa


Dyma un o’r trapiau roedden ni yn gosod nos Sadwrn yn y warchodfa natur.  Rhan o’r arolwg mamaliaid.  Dwi wedi ymuno a grwp sydd yn trio darganfod pa rywogaethau sydd yn byw yn y warchodfa. Y syniad ydy bod bwyd a defnydd nythu yn cael ei roi i fewn i’r trap [“Longworth trap”] ac os dach chi’n lwcus mae’r annifeiliaid bach yn cael eu denu gan y bwyd, a dach chi’n dod yn ôl yn y bore a gweld be sydd gennych chi.  Wel, dyna’r damcaniaeth.  Ond wrth fynd yn ôl, bore Sul, ar ol codi’n gynnar – doedd dim byd wedi mynd i ddim un o’r trapiau.  

Dydy’r warchodfa ddim yn bell i ffwrdd – dim mwy na dwy filltir a hanner, felly doedd o ddim yn broblem picio drosodd nos Sadwrn i ddysgu sut i osod y traps, a phopeth yn dawel a hardd ar nos braf yn y Gwanwyn:

Mae criw bach arall yn trio eto heno a bore fory a gawn ni weld os bydd gennyn nhw fwy o lwyddiant!
Mi faswn wrth fy modd yn cael gweld un o’r dwrgwn sydd yn byw yna, ond dydy nhw ddim yn cael eu gweld yn amal – a swn i’n tybio mai  falle ond un par sydd yna.  Dwi ddim yn siŵr – a mi fyddaf yn chwilio i weld, ond dwi’n meddwl bod tirogaeth eitha mawr gan y dwrgi.  Serch hynny, mae’n braf gwybod eu bod nhw o gwmpas.  Yn ogystal a’r dwrgwn, dan ni’n gwybod bod llwynogod, moch daear, ceirw, cwningod, wiwerod, llygod [mathau wahanol] a chwistlod [?] yna, ond doedden ni ddim yn meddwl bod na cathod o gwmpas tan i un o gamerai a osodwyd dros nos ryw wythnosau yn ol tynnu llun o gath.
A bore ddoe, pan aethon yn ol i agor y trapiau, ‘roedd y lle mor heddychlon a hardd

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dechrau mis Mai yn yr ardd

Dyma ni ar ddechrau fis Mai; amser hyfryd o’r flwyddyn, yn yr ardd ac allan o gwmpas.  Dwi ddim wedi bod yn llwyddianus iawn gyda cadw’r blogio ’ma yn mynd – ond ’falle dyma dechrau newydd arni: cawn gweld.

Yn yr ardd llysiau, dan ni yng nghanol be mae’r Saeson yn galw yn “hungry gap’, lle mae llysiau llynedd wedi gorffen, a llysiau eleni dim wedi dechrau.  Felly, dwi newydd casglu’r spigoglys ola, ond mae’r spigoglys newydd yn fach, fach, fach:

Mae’r shallots yn dod ymlaen yn dda – er gwaetha’r sychder [mae Ebrill wedi bod yn sych, sych, sych, a dwi wedi gorfod dyfrio]


a hefyd y ffa llydan.  Bydd y rhain yn dechrau bod yn barod yn fuan.  Wrth meddwl, dydy o ddim yn wir bod na ddim byd ar gael; mae’r rhiwbob wedi bod yn dda – ond dim llawer o help os mai llysiau dwi isio – a mae’r salad yn y tŷ gwydr wedi bod yn eitha da hefyd.

Mae’r gŵyl banc yn amser ddelfrydol i ddal i fynny.  Gan bod wythnos diwethaf mor oer, gyda barrug yn ogystal a gwynt main, creulon, wnes i ddim wasgaru’r courgettes, neu’r ciwcymber a.y.y.b.  Ond mae ddwy res o foron yn y tŷ gwydr, a betys, spigoglys a radisys yn yr ardd, a tatws.  Digon i’w wneud, o hyd.  A yn mae’r ardd flodau yn dod ymlaen hefyd.  Dyma rhai o luniau.


Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Taith cerdded: "Shropshire Way": rhan 1

Mae’r gwanwyn yn ei anterth rŵan, yn yr ardd.  A felly hefyd roedd hi ar y taith cerdded, wythnos diwethaf, gyda ffrindiau, yn cerdded rhan o’r “Shropshire Way”. 

Cerdded o Church Stretton yn dechrau dydd Llun a chyraedd Ludlow prynhawn Gwener.  Mae’r taith cyfan yn llawer hirach – ond gyda dim ond pum diwrnod a phawb yn ei oedran, roedd hyn yn ddigon i ni.
Dyma taith dan ni’n gwneud bob blwyddyn – dim i’r un lle, ond taith lle dan ni’n cerdded bob dydd, aros mewn gwestŷ dros nos, a mynd ymlaen y dydd ganlynol. Mae’n cyfle i sgwrsio tra bod ni’n cerdded a dros cinio gyda’r nos, i fod allan yn y cefn gwlad, ac ymlacio – ac i gryfhau’r cyhyrau sydd ddim yn gweld bryniau yma yn MK!
’Roedd y tywydd yn garedig; dipyn yn oer a gwyntog ar y bryniau, ond daeth yr haul allan yn aml.  A rywsut mae ychydig o dyddiau i ffwrdd o’r byd bob dydd, mewn llefydd yfryd yn bwydo’r enaid.
Dyma ychydig o luniau.  Mwy yn rhan 2!

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Gŵyl Arall

Mae’r Gŵyl Arall yng Nghaernarfon mor bwysig yn fy mywyd Cymraeg a Chymreig.  Cyfle i wneud pethau diddorl a dysgu pethau gwahanol i gyd drwy gyfrol y Gymraeg.  [Peth prin yn fy mywyd yn MK!]

Eleni, roedd gormod yn digwydd i fi eu gofnodi i gyd yma.  Felly, ynglyn a’r post yma, beth bynnag, dwi’n son am daith gerdded hanesyddol gyda Rhys Mwyn, arecheolegydd lleol.  Dwi wedi bod ar sawl daith gyda Rhys, a ddoe cael cipolwg ar archeleg diwydiannol Caernarfon oedd dan sylw.  Felly, be ddysgais?

  1. Bod pobl Caernarfon yn barod i fynd am daith cerdded mewn tywydd eitha gwlyb!
  2. Bod y cei llechi – lle fues i’n chwarae pan yn blentyn – ddim yn bodoli cyn y ddeunawfed ganrif
  3. Bod llawer o’r adeiladau sydd ar hyd y cei wedi cael eu ddefnyddio gan cwmni peirianneg De Winters, a sefydlodd ffowndri yn y lleoliad yn creu beth bynnag oedd angen ar gyfer y ddiwydiant llechi.  [Yn ôl wikipedia, Owen Thomas a oedd wedi adeiladu’r ffowndri].
  4. De Winters oedd yn gyfrifol am adeiladu rheilffordd Nantlle I gario’r llechi mewn wagenni o’r chwareli yn Nyffryn Nantlle I Gaernarfon.  Roedd y wagenni yn cael eu tynnu gan geffylau.  Agorodd Rheilffordd Nantlle yn 1828.

Heddiw, mae’n bosib o hyd gweld olion y cledrau o’r reilffordd – fel yn y lluniau nesaf.  



[Mae’r ail llun yn dangos lle maent yn gweithio ar yr  ‘ynys’:  llawer o gynlluniau ar gyfer y cei llechi. ].  Ond fel llawer o bethau diddorol, yn aml dan  ni ddim yn sylwi beth sydd o’n gwmpas ni.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Gwanwyn, dydd Gwyl Dewi a hel atgofion…

Dwi wastad yn meddwl bod Gwanwyn ar y ffordd erbyn dydd Gwyl Dewi.  Ac am unwaith roedd heddiw yn sych, a roeddwn i’n hel atgofion am dydd Gwyl Dewi pan r’on yn blentyn yng Nghaernarfon.  Dwi’n cofio cerdded i’r ysgol gan gwybod ein bod ni’n gorffen ysgol hanner dydd – a cael dod adref, a’r pleser o gerdded gan rhagweld y prynhawn rhydd i ddod.  Ac wrth sôn am y gorffenol, mi ddois ar draws hen luniau wrth twtio.  Dyma un o’r siop teuluol ar y maes yng Nghaernarfon.  


Dwi ddim yn siwr pryd cafodd y llun ym ei dynnu, ond fel gwelwch roedd digon o hysbysebu ar yr adeilad!  W.J.Owen oedd enw’r siop – “Corn & Seed Merchants” oedd hi.  Mae’n anodd gweld yr enw yn y llun, ond mae enw Harpers [drws nesaf dwi’n meddwl?] yn  amlwg yn y llun nesaf – lle ‘r ydwi ym mreichiau Anti Glad, bron ty allan i’r siop. 


Erbyn y chwechdegau fy nhad, fy modryb, Anti Glad, a weithiau ‘Wili Vaughan’, cefnder fy nhad, odd yn rhedeg y siop. A dyma llun fy nhad yn gweithio ty fewn i’r siop:


Dydy o ddim yn llun da iawn. Mae dydd Gwyl Ddewi yn arbennig o hyd a mi fyddaf yn mynd yn ôl i Gaernarfon am y benwythnos i gymryd rhan yn y Gŵyl ddewi Arall sydd ymlaen.  Edrych ymlaen.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Tylluan fach

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur a blinedig.  Cafodd fy ngŵr haint, a mae o wedi bod yn y gwely trwy’r ran fwyaf o’r wythnos; felly ’roedd cerdded gyda’r ci, coginio, edrych ar ei ôl a.y.y.b i fynny i fi.  Na, s’wn i byth yn gwneud nyrs dda.  Ond mi wnes i drio fy ngorau.  Heddiw, mae J wedi dod i lawr grisiau, ac yn teimlo llawer gwell – ond yn ddal yn wan a  simsan.  Diolch byth i antibiotics  cyn belled bod ni ddim yn cael eu or-ddefnyddio, mae nhw’n wych.
Felly erbyn heddiw d’on i ddim isio mynd allan ’pnawn ’ma i ddweud y gwir.  Wedi newid y gwely, gwneud llwyth o olchi, siopa, mynd i Pilates, darparu cinio a cherdded ar y comin bore ’ma – ond ’roedd rhaid mynd a Teo allan.  A dwi mor falch fy mod i wedi mynd.  Gwelais Jo Angell ar y comin, merch lleol sy’n cymryd lluniau gwych.  Dangosodd i fi lle ’roedd y dylluan fach.  Un anffodus dydy’r llun ddim mor dda – ’roedd yr aderyn braidd yn bell i fy nghamera fach.  Ond mwynhais ei weld o.  Yn y llun gyntaf yma mae o’n cuddio yn y goeden, ac yn anodd i’w gweld, ond yn haws i’w gweld yn yr ail.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Cynlluniau

O’r diwedd mae’r dyddiau yn ymestyn dipyn bach, a mae’r tymor garddio yn nesau.  R’on i a fy ngŵr yn Ludlow dros y benwythnos yn ymweld a ffrindiau – dyma’r olygfa o lle roedden yn aros.  
Gwych.  Ond roedd y tywydd yn ddigon wlyb, yn enwedig ar y dydd Sul, pan roedden yn teithio’n ôl.  Felly cawsom hoe bach yn y ganolfan garddio yn Buckingham.  Fel bron bob ganolfan arddio arall, mae’r ganolfan yma wedi dechrau gwerthu bob fath o bethau gyda dim gysylltiad a garddio o gwbl.  Serch hynny, maent yn tyfu eu planhigion ein hunan, ac yn gwerthu tatws ar gyfer plannu yn rhydd.  Felly es ati i brynu ychydig o datws i blannu eleni, yn cynnwys tatws Ratte.  
Dwi’n cytuno gyda’r dyn sydd wedi sgwennu’r blog yma: mae ’na blas ardderchog arnynt.
Ond syn dechrau eto gyda’r ardd – a mae hi braidd yn gynnar ar hyn o bryd, dwi am trio dacluso rhan o’r ty, ac yn holl bwysig, cael gwared o bethau dan ni ddim wir angen mwyaf.  Dwi’n ofni bod orchwyl hir o fy mlaen i………….. 

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Ailddysgu 2017-01-27 21:08:00

Diwrnod hyfryd yng Nghaerdydd, dydd Mawrth.  Roedd lawnsiad o un o’n cyrsiau ni: ’Darganfod Cymru a’r Gymraeg‘ yn y senedd.  Cyn hynny, r’oedd dipyn o amser i grwydro o gwmpas rhan o’r ddinas gyda fy ffrind Gareth, a chafodd ei fagu yn yr ardal.  Felly, dechrau yn yr hen lyfrgell – ond yn anffodus dydy’r caffi ddim ar ägor rean  felly crwydro trwy’r dinas a’r farchnad; ac ymysg lower o bethau – ymweliad fur i’r amgueddfa genedleuthol ac i’r Parc a’r Deml Heddwch – ac i’r Ganolfan y Mileniwm i orffen.


Dwi ddim wedi treulio llawer o amser yng Nghaerdydd o’r blaen ac yn sicr mi fyddwn yn hapus mynd yn ol gyda llawer fwy o amser i fwynhau’r dinas.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Yn y warchodfa

Diwrnod digon diflas eto heddiw, o ran y tywydd, ond amser digon diddorol yn ein gwarchodfa natur lleol: ond ryw ddwy filltir o’r tŷ.  Mae’r gwarchodfa yn cynnal ‘Sul Agored’ bob fis, lle mae bob guddfan ar agor i ymwelwyr, a hefyd yr adeilad.  Yn fana, mae llyfrau ail-law ar werth, te a choffi a cacennau cartref, i gyd i godi bres tuag at y warchodfa.
Heddiw, roedd Andy yn tywys taith cerdded byr o gwmpas y warchodfa.  Fo ydy’r ‘county recorder’ (dwn i’m be ydy hynny yn Gymraeg!) a felly mae o’n cyfri ac yn cofnodi’r adar, yn enwedig y hwyiaid.  Syniad da i fynd a bobl gyda diddordeb yn yr adar gyda fo.  Gwelsom ni ddim llawer heddiw, ond roedd yn dda gweld dringwr bach, a hefyd llwynog, yn sefyll yn gwylio ni – ond dim digon o amser i godi’r camera cyn iddo fo fynd. Dyna alun o un o’r cuddfannau:

Wedyn yn ol i fewn am banad a gweld be arall oedd o gwmpas.  Mae na lofft i adeilad y warchodfa lle mae’n bosib cael golygfa gwych, a telesgopau ar gael hefyd.  

A wedyn i’r tafarn gerllaw am ginio gyda fy ngwr a mab, ac i gynhesu wrth yml y tan.
Wrth mynd a fy mab gartref, es i faes parcio IKEA.  Na, dim i siopa yn Ikea, ond oherwydd bod sawl gynffon sidan wedi ei gweld yna ( a roedd hi ar y ffordd), ond na, methais gweld un, a buan r’on i wedi laru gyda maes parcio orlawn a bwrlwm y lle, felly yn ol adre.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Celf Milton Keynes

Dan ni wedi cael tywydd ardderchog yn ddiweddar, tan ddoe, a oedd yn niwlog a dim llawer i’w gweld.  Ond cyn hynny, mae’r haul wedi bod yn gwenu; y barrug wedi bod yn sgleinio, a’r golau mor dda.  Es am dro, dydd Mawrth, ar hyd drywydd celf, sydd i’w ddarganfod ar hyd y gamlas; trywydd a chafodd ei ysbrydoli gan ysgol Japaneiadd Gyosei a oedd yn Milton Keynes tan 2002.

Dyma wybodaeth am y trywydd:
Doedd dim ddigon o amser i weld popeth ar y trywydd, ond dyma tri ohonnyn nhw.  Cerflun dur o geffyl ydy’r gyntaf.  Mae dipyn o wybodaeth ar y we am y cerflun.
Mae o’n edrych yn wych yn sefyll wrth y gamlas, ond ‘falle ddim yn glir iawn yn y llun yma.

Un arall ydy brithwaith o dylluan wen, un o fy hoff adar, ac aderyn sydd i’w weld yn lleol.  Dydy’r niferoedd ddim yn uchel ofnadwy, ond, ers rhoi blychau nythu

yn agos i’r afon, rhai flynyddoedd yn ol, mae’r niferoedd wedi codi.  Dyma’r frithwaith a chafodd ei greu gan Melanie Watts.

A’r trydydd yay’r fainc yma gan Jeremy Turner, gyda saw greadur sydd i’w ddarganfod yn y gambles neu o gwmpas.
.A dyma rhai o luniau o’r comin cyn i’r tywydd torri:

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Barrug

O’n i am son am y dylluan wen, ond gyda’r tywydd braf, braf [er mor oer], roedd rhaid tynnu dipyn o luniau.  Ddoe penderfynais fynd i’r gwaith ar y beic.  Er ei fod hi’n oer ofnadwy, roedd hi’n ddiwrnod braf iawn, a phobman yn edrych mor wych gyda’r haul yn sgleinio a’r golau mor fendigedig.

Ro’n yn ofalus, a doedd o ddim rhy rhewllud.  Roedd y llyn yn edrych yn hyfryd, a hefyd y coed i gyd ar y fordd i’r gwaith.


A llwyddiais i feicio yn ol, hefyd, heb ddamwain.  Ond heddiw roeddwn yn gweithio gartref, felly dechreuodd y dydd gyda cerdded ar y comin, yn hytrach nag ar y beic.

Dyma rhai o’r olygfeydd ar y comin bore ‘ma.  Mae’r rhain o’r cae gwylod, with yr anon.  Bendigedig.


Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Ar y comin eto

Heddiw mae’n bwrw – ac yn ddiwrnod ddiflas ar y cyfer, felly mae’n werth cymryd mantais pan mae’r tywydd yn braf – a diwrnod felly cawsom ddoe. Awr ar y comin bore ddoe, a’r haul yn dod allan, a gwylio’r cudyll coch.   Mae niferau’r aderyn yma wedi gostwng trwy Prydain. ‘Roedd yn aderyn digon gyffredin pan oeddwn i’n blentyn, yn bendant.  Mae’r RSPB wedi bod yn gwneud ymchwiliad a hyd at hyn, mae’r canlyniadau yn dangos mai newidiadau yn y ffordd o ffermio, a defnyddio cemegau i ladd llygod, yn enwedig defnyddio gwenwyn i ladd llygod mawr sy’n gyfrifol.
Mae par ar y comin, ond fel arfer ond y iâr byddaf yn gweld [dwi’n ei cymryd hi mai par ydynt oherwydd weithiau mae dau yn hedfan].

Mae’r brân yn ddi-dostur weithiau, ac ar nos Fercher, pan oeddwn yn mynd allan gyda’r ci, cyn iddi hi nosi go iawn, r’oedd brân bron ar gynffon y cudyll coch, nes iddi hi gorfod cludo mewn coeden.

Dyma hi ddoe   



Gobeithio bydd hi’n llwyddo i godi teulu.  Ddyle fod digon o fwyd iddi hi ar y comin, gyda’r llygod bengron.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Otmoor

[Dwi wedi trio gyda’r post yma tair gwaith nawr, a bob tro mae o\n edrych yn od iawn, dim ots pa “front”.  Felly dyma’r tro diweähaf a ffwrdd a hi]

Mae’r tymor yn newid, a’r tymheredd wedi gostwng – ac am fod yn oerach byth.  Prynhawn yma, glaw trwm, a gwyntoedd cryf.  Ddoe, yn y prynhawn, mi es i Otmoor, gwarchodfa natur RSPB gyda fy ffrind Jan.  Dwi ond wedi bod unwaith o’r blaen, ond mae’r llecyn yma yn arbennig iawn.  Er ei fod yn yml Rhydychen, rhos isel neu cors ydy hi: gwlypdir gyda’r fath o adar fasech chi’n disgwyl mewn cynefin fel hyn.  Unwaith roedd y wlypdir yn enfawr, ond fel sydd yn digwydd, cael ei droi i dir ar gyfer ffermio oedd hanes y ran fwyaf.  Ar wahan i Otmoor.  A mae’r RSPB wedi bod yn datblygu’r warchodfa ar gyfer rhywiogaethau arbennig, fel aderyn y bŵn, bod y gwerni ac yn y gaeaf, bod tinwen. Ddoe, ’roedd bod y gwerni i’w gweld, a hefyd bod tinwen – mae nhw yn dod i lawr o’r tir isel yn y gaeaf.  Falle mae un o’r Alban oedd hon.  Doedden nhw ddim yn agos, yn bendant dim digon agos i gael llun.



Felly dyma llun o ddau a welais haf llynedd yn Otmoor (dydy rhain ddim yn dda iawn chwaith…..].


Ond y sioe ddoe oedd y ddrudwy.  Erbyn pedwar o’r gloch roeddent yn dechrau hedfan i’r gors, yn ei filoedd.  Ond doeddent ddim i gyd yn dod ar unwaith, ond fel cymylau, un ar ol y llall, a weithiau gyda hoe bach, neu fawr, rhwng y cymylau.  Dyma be mae’r blog RSPB yn dweud am Otmoor

 a hefyd mae blog Otmoorhttp://otmoorbirding.blogspot.co.uk/ ei hyn yn ardderchog.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Tŷ allan ac yn y tŷ

Mae  lliwiau’r coed tŷ allan i “Walton Hall”, yr hen dŷ yng nghanol ein campws gwaith yn drawiadol iawn, yr amser yma o’r flwyddyn.  Dwi ddim yn siwr be ydy nhw.   


A mae’r siwrna i’r gwaith ar y beic wedi bod yn bleserus iawn. 

Wythnos yn ôl, r’on i’n hapus iawn i weld y greadur yma.  Does dim llawer o ddraenogod o gwmpas fama, a mae’r rhan fwyaf dwi’n gweld wedi marw ar y lôn, ond ’roedd hwn, neu hon,  yn fyw a iach – ond falle dipyn yn fach i oroesi’r gaeaf.
Ond heddiw, gweithio gartre bore ’ma, a gwarchod y wyrion p’nawn yma, a dyma lluniqu o fy ŵyr bach, Thomas, un gyda Smot – y fersiwn Gymraeg o ’Spot’ o’r llyfrau i blant ifanc.  Wel, dyna be dan ni’n ei alw fo beth bynnag – ac yn y llyfrau mae Spot wedi troi i fewn i Smot. 
 

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Digwyddiadau ar y comin, yn y tŷ gwydr ac yn y gegin

Mae’r hydref go iawn wedi dod i’r comin, gyda tarth yn y bore, a golau hyfryd, yn gwneud cerdded i ymarfer y ci – a fi, yn bleser. 



 Yn ddiweddar, dwi wedi gweld dau aderyn dwi erioed wedi gweld o’r blaen ar y comin.

Y gyntaf, bore Sadwrn oedd clochdar y cerrig.  Hwn ydy un o fy hoff adar.  Ac er bod llyfr natur Iolo yn dweud ei fod yn hoff o dir comin, dwi erioed wedi gweld un yn yr ardal hon o’r blaen.  Dyma llun o glochdar y cerrig Cymraeg – yn Sir Benfro:
A gwryw oedd yr un ar y comin hefyd; aderyn hardd iawn, ond ches i ddim gyfle i edrych arno fo yn fanwl; roedd o wedi hedfan i ffwrdd mewn chwinciad!  
Bore Sul, bore braf a heulog, edrychais i weld be oedd yn y ddraenen wen, sydd yn llawn o aeron coch, a bob fath o aderyn yn gwledda ar yr aeron.  Un o’r rheini oedd pinc y mynydd – brambling. Ymwelydd gaeaf ydy hwn, a dwi’n gwybod ei fod yn cael ei weld yn yr ardal – yn enwedig yn y warchodfa natur, ond dwi ddim wedi gweld un o’r blaen.  
Mae’r comin yn gartref i sawl rywogaeth, a mae’r rhestr wedi tyfu rwan.  Ac yn y cae gwaelod – y ddôl gwaelod, wrth yr afon, mae pethau yn newid hefyd.  Eleni, gyda’r gwair yn hir, ’roedd y ddôl yn llawn o bryfed a ieir bach yr ha, a’r adar yn dod i wledda ar y pryfed, yn enwedig y wennol ddu, tra oedd adar fel bras y cyrs yn nythu.  A rwan mae gynlluniau ar y gweill i greu ddôl go iawn, ’hen ffashiwn’. 

Mae dôlydd hen wedi bod yn diflannu o’r wlad, ac oherwydd hynny dan ni wedi colli’r blodau sydd yn tyfu yna, a’r bywyd gwyllt sydd yn dilyn y blodau.
Heddiw roedd y gwaith yn dechrau, felly gawn ni weld sut bydd y ddôl yn datblygu dros y blynnoedd.
Yn ôl yn yr ardd, mae’r aubergines yn ffynnu yn y tŷ gwydr.  
Rhai bach, eleni, yn y gobaith ei fod am aeddfedu dipyn yn gynharach na’r arfer.  Nos Sadwrn, felly, cyri aubergine.  Dwi’n hoff iawn o ryseit Nigel Slater, sydd yn eitha syml ac yn hyfryd o flasus. 
 
Ein ciwymbers o’r tŷ gwydr yn y raita, chutney a reis, a papadom, a dyna ni.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Pethau diweddar

Fel arfer, mae pethau wedi bod yn brysur, a rhysut dwi ddim wedi llwyddo i bostio i’r blog.  Felly be sydd wedi bod yn digwydd?  Penwythnos diwethaf, aethom i arddangosfa a oedd wedi cael ei osod yn yr hen eglwys yn Lathbury – pentref rwy filltir i ffwrdd.  Mae’r hen eglwys yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif, a mae lluniau a cherfiadau ar y muriau
.  

Arddangosfa gan ddau artist lleol sydd yn byw yn y dref yn fama: Kate Wyatt – sydd yn peintio bywyd gwyllt lleol , ac yn yn enwedig sgwarnogod, a hefyd rhai o waith Tony Barker, sydd hefyd yn peintio adar a bywyd gwyllt.  Dan ni wedi prynu un o’i phrintiau hi, i fynd ar wal y lloft ffrynt.   Mae’r ddau yn treulio llawer o amser ym mhob tywydd yn fraslunio be maent yn gwylio, a mae o’n syndod gymaint o adar ac anifeiliaid sydd i’w gweld yn yr ardal.

Ddoe, ymweliad i arddangosfa gwbl wahanol. “Records and Rebels 1960- 70- ”  yn yr amgueddfa Victoria & Albert, yn Llundain.  Rhan o ddathlu penbwlydd fy ngŵr a fy ffrind.  Arddangosfa gwych; hel atgofio ond hefyd ‘ roedd yn ymweliad emosiynol.  Lle aeth yr holl cythro a’r angerdd? Yn ôl yr arddangosfa, ar ddiwedd y pumdegau/dechrau’r chwechdegau – dwi ddim yn cofio yn union, roedd hanner poblogaeth America yn dauddeg bump neu iau!  A dyma ni heddiw, ac efallai bod yr Americanwyr am gael Trump fel llywydd!
Ac yn ôl i iddiwrnod heulog, hyfryd, yn fama, heddiw.  Felly amser i fynd i ddyfrio’r planhigyn yn y tŷ gwydr.  O’r diwedd mae’r pupurau yn dechrau [ond yn dechrau, cofio], aeddfedu.  
Does dim gymaint a hynny, ar ol i’r malwod wleddu ar y blanhigion yn gynharach yn y gwanwyn, ond edrych ymlaen at flasu be sydd ganddo ni, beth bynnag.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dro bach

Gyda’r tywydd braf yn parhau, a dim rhy boeth dydd Sul, aethom am dro bach lleol.  Mae’r taith bach yma yn mynd trwy’r comin ac i lawr i llyn, wedyn dros caeau ac yn dringo i gyrraedd fferm, cyn troi yn ol i lawr tuag at yr afon eto, ac i bentre Llathbury, hen bentre ryw filltir o’n dre ni.  Buom un byw yn Lathbury am ychydig o flynyddoedd.

Dyma’r hen lwybr braf sydd yn mynd o’r comin i lawr i’r llyn [lle eitha da i hel mwyar duon].
Yn ffodus, roedd y gwartheg reit dawel – dwi wastad yn wyliadwrus wrth mynd trwy cae gwartheg gyda ci, yn enwedig os oes lloi bach.

Wedyn cyrraedd y fferm, i’w weld yn fferm mawr ddiwydianol mewn ffordd.  Ac yn llawn o wenoliaid a weonoliaid y tŷ.  Heb mynd eto, a’r tywydd yn ddelfrydol ar gyfer bwydo cyn hedfan i ffwrdd.
Ar ôl mynd trwy’r fferm, mae’r llwybr yn troi ac yn mynd i lawr yr allt tuag at yr afon, ond annodd gweld dim gyda’r cae enfawr yn llawn o yd, ac yn anelu at bentre bach Lathbury. Hen bentre sydd wedi ei henwi yn y llyfr ’Doomesday’ gyda hen eglwys yn dyddio yn ôl i’r deuddegfed ganrif.

Mae llwybr trwy’r cae gyferbyn a’r eglwys wedyn yn dilyn yn ôl i Newport Pagnell,
 

lle dan ni’n byw.  Am ychydig o flynyddoedd rŵan mae defaid ’Herdwick’ yn y caeau yma – sydd wastad yn fy atgofio fi o Ardal y Llynnoedd, o ble mae nhw’n dod.  Defaid sydd yn gwneud yn dda mewn llefydd mynyddig – a felly mewn ardal fel yma, gyda gwair moethus, yn edrych yn iach iawn.  

Am saharan!  Braf lawn cerdded yn yr haul – ond rya bedwar a hanner filltir.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dechrau’r Hydref

Ar wahan i heddiw [o, ia, a hefyd dydd Sadwrn diwethaf], mae’r tywydd braf, heulog a gynnes wedi parhau yn fama.  Dwi wedi bod yn arbrofi i weld faint o wahanol teithiau cerdded sydd yn bosib o’r cefn drws mewn awr a hanner neu awr a chwarter.  Fel arfer does dim digon o amser i fynd am ddwy awr yn y bore.  A felly, does dim gymaint o ddewis, oherwydd mae o’n cymryd ryw ugain funud i hanner awr i gyrraedd y llefydd mwy ddiddorol – ar wahan i gerdded ar y comin [ond weithiau mae’n braf cael newid bach].

Penwythnos diwethaf mi es i fynny i’r gamlas,
 

a hefyd rownd llyn bach sydd ddim rhy bell i ffwrdd, o’r enw ’Tongwell’,

 

ond erbyn dydd Sul, yn ôl i gerdded ar y comin, sydd mor braf, a gyda mwy o gyfleoedd i weld bywyd gwyllt.  Dyma un creadur dwi erioed wedi gweld [yn fyw]: 

llŷg – un gyffredin swn i’n meddwl  – yn ôl llyfr Natur Iolo, mae’r cynffon yn mesur tua hanner hyd y corff.  Ond rhai wedi marw dwi wedi gweld, erioed.
Yn ôl yn yr ardd, mae llai o amser rŵan gyda’r tywyllwch i’w weld yn dod yn gynt bob nos.  Dwi’n trio rhoi hadau i mewn ar gyfer y gaeaf, ond mae’r malwod, a’r gwlithod, yn cael gwledd.  

Fel gwelir yn y llun, mae’r rhan fwyaf o’r dail bach wedi cael eu bwyta!
Er hynny, mae’r aubergines yn gwneud yn eitha dda [dwi’n trio anghofio’r un gyda gwlithen enfawr ty fewn iddo fo],

a’r basil, a’r tomatos, felly mi wnes i drio ryseit gan Ottolenghi o’r papur newydd.  Braidd yn gymleth mewn llefydd – ond yn flasu’n dda.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Cynhaeaf Awst

Dydy’r tymor ddim wedi bod yn dda o ran lysiau eleni.  Ar ôl y gaeaf gwlyb, roedd gymaint o falwod a gwlithod – ac oherwydd hynny, ces i ddim lwyddiant o gwbl gyda courgettes, ac ond dwy res o ffa Ffrenging.  Wedyn doedd dim llwyddiant gydab betys, a dim panas ac ar ol haf sych a phoeth yn aml, dwi wedi gadael y tatws am dipyn.  Mae’r mafon wedi llwyddo i ryw raddau – ond fel arfer ar ddiwedd Awst bydd y mafon Hydref yn gweud yn dda – ond mae hi wedi bod rhy sych hyd at hyn.  A’r mefus wedi bod yn sal ofnadwy.
Ond yn y tŷ gwydr mae’r tomatos, ciwcymbyr, courgettes, pupurau a basil yn dod ymlaen yn dda.
Gyda dwy flanhigyn, fel arfer, mae ’na ormod o giwcymbyr i ni, a mae rhai yn mynd i’r siop lysiau lleol.
Roedd y basil yn araf yn dod, ond mae na ddigon i wneud pesto, efallai dros y benwythnos.  A dwi newydd prynu planhigino o’r archfarchnad – “living basil“: mae nhw yn dod ymlaen yn dda, a falle bydd digon o fasil hwyr.  Rŵan, yn sicr, ydy’r amser i hau salad ar gyfer y gaeaf, ond mae hi wedi bod rhy poeth a sych.  Er hynny, dwi am roi cynnig arall ar hadau fel pak choi sydd yn gwneud salad da yn y gaeaf.
Un path sydd weed ffynu yay’r llyffantod!  Mae’r add yn llawn ohonnyn nhw a hefyd mae dwy neu dri yn byw yn y tŷ gwydr!   Dyma un o drigolion y tŷ gwydr: ar ben y wal bach….

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Sych a phoeth

Ar ol bod ar ein gwyliau wythnos diwethaf, dan ni wedi dod yn ôl i sychder yn yr ardd, a’r haul yn tywynnu.  A gan bod ffrind wedi bod yn dyfrio yn y tŷ gwydr – llwyth o giwcymber.

Mae ’na ddeuddeg yn y fasged, ar ei ffordd i’r siop lysiau, lle maent yn cael ei ffeirio am llysiau nad oes gennym yn yr ardd – neu ffrwythau fel bananas.
Mae’r eirin ar y coeden Czar yn barod hefyd.  Mae’r rhain i fod yn eirin ar gyfer coginio, ond maent yn ddigon felys.
Y gwaith fwyaf gyda’r tywydd sych, poeth ydy dyfrio.  Mae rhaid rhoi dipyn o ddwr bob dydd yn y pwll bach yn yr ardd, ac er nad ydym yn dyfrio’r lawnt na’r blodau yn aml, mae rhaid dyfrio’r planhigion mewn potiau, a’r ffa Ffrengig a’r cenin – a Paul os wyt ti’n darllen mae’n ddrwg gen i os ydy o’r dal i fwrw ym Mlaenau Ffestiniog…..
Aethom i Alnmouth yn Northumberland a roedd yn hyfryd.  Braf cael bod mewn lle lle mae nifer o adar wahanol i’w gweld, fel y gylfinir, sydd yn brin iawn yn fama.  A braf clywed son y gylfinir – yn fy atgoffa i o Gymru…

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Y barcutiaid lleol

O’r diwedd, dwi’n cyfranu at y flog yma.  Heb gwneud am dipyn.  Ac unwaith eto mae’r tecnoleg yn fy erbyn i.  Unwaith, roedd y lluniau ar yr iphone yn cael eu rhoi i’r cyfrifiadur unwaith wedi i’r ddau cael cysylltiad, ond rŵan dydy o ddim yn digwydd fel yna bob tro.  Ac yn sicr dim  heddiw, am ryw reswm.
Beth bynnag.  Dwi ddim yn yr Eisteddfod a dim yn medru mynd eleni.  Blwyddyn nesaf, gobeithio.  Dwi wedi bod yn gwylio’r barcutiaid lleol yn ddiweddar.   Mae un neu ddau i’w gweld o gwmpas y dref yma, a weithiau yn hedfan uwchben y comin,  lle byddaf yn mynd a’r ci am dro.
Wythnos yn ôl, cafodd y gwair ei dorri. 
 

Mae’r gwair yn cael ei adael i dyfu drwy’r rhan fwyaf o’r haf, a mae hynny’n beth dda – yn denu adar i hela a nythu, a ieir bach yr haf (ond dim llwyddiant gyda tynnu llynau o’r rheina).  

A tuag at ddiwedd mis Gorffenaf, mae’r gwair yn cael ei dorri.  Ac ar ol hynny, roedd y barcutiaid ym mhobman – wel dyna sut oedd o’n teimlo.  Pump ohonyn nhw.  Yn amlwg roedd o’n llawer haws cael gafael ar y llygod bengron.
Mae’n rhyfedd meddwl bod y barcud mor brin ddeugain mlynedd yn ôl, ac yn sicr yn aderyn Cymreig.  Ond ryw bum mlynedd yn ôl (os dwi’n cofio’n iawn) roedden yn gweld y barcutiaid gyntaf yn yr ardal yma.  Roeddent wedi eu sefydlu o gwmpas y Chilterns – dim mor bell i ffwrdd, a hefyd roedd rhai ryw bump ar hugain milltir i’r gogledd, a roedden ni’n dechrau gweld ambell i un yn fama.  Erbyn heddiw, dan ni’n gweld un neu dda yn eithaf aml.  Ond dwi erioed wedi gweld pump gyda’i gilydd o’r blaen.  A mae nhw’n adar hardd iawn.
Ond dwi ddim wedi cael llun da eto – a gyda’r gwair wedi ei gasglu rŵan, does dim gymaint o farcutiaid o gwmpas.  Duma beth sydd gen i.
Felly, bydd angen amynedd, amser a’r golau iawn!

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Gŵyl Arall 2016

Ddoe, ddes yn ôl o Gaernarfon ar ôl treulio’r penwythnos yn ymuno a Gŵyl Arall eleni.  Cyfle i fyw bywyd Cymraeg trwy’r penwythnos ac i ddysgu a dal i fynny gyda llyfrau, cerddoriaeth, hanes, ffrindiau – a llawer mwy!

Eleni, yn anffodus, doeddwn i ddim yn medru cyrraedd mewn amser i ymuno a sessiwn ar y nos Wener yn dathlu nofel newydd Ifor ap Glyn, Tra Bod Dau  – ond, dwi wedi prynu’r nofel, ac yn brysur yn ei ddarllen.  
Felly beth oedd yr uchafbwyntiau?
Yn bendant mwynhais y sesiwn gyntaf ar fore Sadwrn: darllediad Galwad Cynnar yn dod o Balas Print.  Ond roedd rhaid codi yn gynnar i fod yna erbyn 6.30 (cliw yn y teitl ond dydy?).  Aelodau y tîm:: Elinor Gwynn, Duncan Brown, Twm Elias a Math Williams – gyda Gerallt Pennant.  Os dach chi wedi darllen fy mlog o’r blaen, falle byddach yn gwybod gymaint dwi’n mwynhau’r rhaglen a doedd y rhaglen yma ddim yn siomi chwaith, gyda ffocws ar lyfrau, a chyfle i siarad i rhai o’r tîm ar y diwedd.  

Roedd y llyfrau a oedd yn cael eu ddatrys yn cynnwys “Cuckoo: cheating by nature“: llyfr sydd wedi bod ar fy rhestr am ddipyn, ond dwi ddim ei ddarllen. Eto.  A mi roedd Mari Gwilym (yn y gynulleudfa) yn sôn am llyfr Natur Paul a Nesta (o’i phlentyndod – ond swn i ddim yn meddwl ei fod ar gael rŵan) a hefyd cyfres ’Am Dro“ Angharad Tomos. Ac ar ôl paned, a croissant (neu ddau) yn ol i’r Gwesty am frecwast.
Mwynhais ’Peri Picsells’ gyda Gerallt Pennant yn hwyrach yn y bore hefyd –  ac yn addo i fi fy hyn faswn yn codi’n gynt yn y bore i fynd allan gyda’r camera. 
R’on wedi gweld rhywbeth am nofel gyntaf Alys Coran, ond doeddwn yn gwybod fawr amdani.  Yng Ngerddi’r Empriwm (! gerddi Palas Print) , r’oedd Alys a Siân Northey yn siarad am y nofel ac am gyfiethiad, gan Siân, i’r Gymraeg. 
’Roedd yn amlwg bod y ddwy yn dallt ei gilydd, a roedd y sgwrs wir yn ddiddorol ac yn codi a thrafod pynciau digon cymleth fel sut mae hunaniaeth a llais yr awdur yn newid gyda iaith gwahanol a sut mae rhai pethau yn haws yn y Gymraeg – neu’r Saesneg.  Prynais yr addasiad Cymraeg – ond dwi eisio darllen y fersiwn gwreiddiol hefyd – mae’r llyfr wedi cael dipyn o ganmoliaeth. 
Erbyn y ’pnwawn roedd y bore gynnar wedi cael ei effaith, a r’on isio cysgu.
Ar fore Sul, clywais rhai o’r drafodaeth am gylchgrawn llyfran newydd Cymru ’O’r Pedwar Gwynt’ sydd yn edrych yn wych, ond wedi trefnu i gyfarfod hen ffrind ysgol, roedd rhaid colli hanner.  Ond da iawn cael cyfle i ddal i fynny a sgwrsio am dyddiau ysgol, hen ffrindiau ac y.y.b.  Ac yn ffodus, erbyn amser cinio, doedd y twydd ddim rhy ddrwg: dipyn yn wyntog, ac yn bygwth glaw, ond beth bynnag i ffwrdd a ni – criw bach, ar Fordaith J Glynne Davies ar ngwch Brenhines y Môr, gyda Gwyneth Glyn, Gwilym Bowen Rhys Gwenan Gibbard.    Mae’r digwyddiad yma wedi dod yn boblogaidd, a dwi’n gweld pam.  A mi wnaeth y tywydd bihafio: dyma llun o’r Anglesey a rhan o’r castle ar y ffordd yn ol i’r cei llechi.

A cau’r penwythnos gyda Steve Eaves. Gadawais dipyn bach cyn y diwedd, wedi blino’n llwyr, ond fel arfer wedi cael amswer gwych a gyda ychydig o lyfrau i fynd adref gyda fi.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Rhys y Gro gan Sian Northey

Mi orffenais darllen Rhyd y Gro, wythnos diwethaf.  Dach chi’n gwybod sut mae hi, pan dach chi wir eisio mynd ymlaen i weld beth sy’n digwydd ac eto dim eisio gorffen y llyfr, oherwydd eich bod yn mwnhau gymaint?  Wel profiad fel yna.  A… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Rhyd y Gro gan Sian Northey

Mi orffenais darllen Rhyd y Gro, wythnos diwethaf.  Dach chi’n gwybod sut mae hi, pan dach chi wir eisio mynd ymlaen i weld beth sy’n digwydd ac eto dim eisio gorffen y llyfr, oherwydd eich bod yn mwnhau gymaint?  Wel profiad fel yna.  A… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Mehefin yn yr ardd ac ar y comin

Rhywsut, rhwng gwaith (yn enwedig gwaith marcio), hyfforddi’r ci, cerdded gyda’r ci, garddio a bywyd bob dydd dwi ddim wedi llwyddo i gyfrannu at y flog yma am dipyn.  Yn yr ardd, mae’r tywydd, a’r bywyd gwyllt wedi bod yn heriol, yn sicr.  Ar ôl wythnos oer, diflas, tywydd poeth sych a wedyn storm fawr, a wedyn tywydd sych a poeth eto.  A fel arfer yr amser yma o’r flwyddyn, rhedeg o gwmpas yn trio symud yr holl blanhigion o’r tŷ gwydr i fewn i’r ardd, gyda dipyn o lwydddiant a dipyn o fethiant.  Yn fama, mae’r gwlithod a’r malwod yn cael tymor arbenning o dda.  Dyma’r courgettes ar ôl un noson yn yr ardd:

Defnyddiais “SlugGone“ sydd wedi eu gnweud o wlan defaid ac yn arbenning o ddrud – ond mi wnaeth o weithio llynedd.  (Gyda llaw, mae cyfle arbennig i ffermwyr gyda defaid i wneud rhywbeth debyg ond yn costio pris mwy derbyniadwy – os nad ydy ’patent’ wedi gwneud hynny’n amhosib).  Ond eleni – yn amlwg, wnaeth o ddim gweithio.  A falle bod y ffaith bod y gwely ar gyfer y courgettes yn agos i rhan o’r ardd sydd wedi mynd braidd yn wyllt gyda llawer o chwyn – lle ddefrydol i falwod a wlithod cuddio – ddim yn helpu.  Yn y tŷ gwydr o’r diwedd mae’r tomatos a’r aubergines a’r pupurau a basil i gyd yn y pridd, er bod yr aubergines a’r pupurau ddim yn edrych rhy dda. Dyma sut oedd rhan o’r 

tŷ gwydr yn edrych ychydig yn ol a’r planhigion i gyd yn aros i fynd i’w llefydd….

Mae’r dahlias wedi mynd i mewn hefyd, a hyd at hyn dim wedi cael eu bwyta i gyd, ond dwi wedi colli rhai o’r cosmos, yn bendant.  Dim byd i’w gwneud ond rhoi hadau i fewn unwaith eto, neu prynu planhigion o’r ganolfan garddio.

Yn ddiweddar dwi wedi bod allan bron bob dydd yn y bore gyda’r ci, yn aml yn fuan ar y comin, a mae o wedi bod yn hyfryd.  Dwi’n gweld (neu clywed) pedwar neu pump fath o aderyn yn gyson: yr ehedydd, y llwydfron, bras y cyrs, corhedydd y waun a weithiau’r llinos, y nico a’r llinos werdd.  A braf iawn ydy eu gweld nhw.



Dyma bras y cyrs; adar hardd, a dyma corhedydd y waun.

Does dim llun o’r llwydfron ar y comin, ond dyma lun o un with yml Nantgwrtheyn:


Os dwi’n cael cyfle i fynd i lawr i’r cae isaf, wrth yr afon, dwi hefyd yn edrych yn y cae sydd drws nesaf i’r cae yma, lle mae gwenith yn cael eu dyfu a lle mae coed yn tyfu yng nghefn y cae.  Yn fam, weithiau mae llwynog i’w gweld yn y bore yn chwilota o gwmpas y coed, a gwell eto, sgwarndogod yn y cae, ond dwi ddim wedi gweld un eleni.  Ond bore ddoe, roedd carw mwntjac yn pori yng nghefn y cae.  Rhy bell i gael llun da yn anffodus.



Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dau gomin wahanol iawn


Dyma ein comin lleol ni: mae’r gwair yn tyfu’n hir ar hyn o bryd, a’r blodau gwyllt un ffynnu.  A gyda’r blodau a’r pryfed, digon o adar: yr ehedydd, y cudyll coch, y dylluan wen, corhedydd y waun, cnocell werdd a llawer mwy.

Ond ar draws y wlad mae comins eraill yn wahanol iawn.  Dyma ’Bircher Common’: dim rhy bell o Ludlow, lle r’on i dros y benwythnos.  (Ond, with edrych, efalle nad ydy’r coedwig yn rhan o’r comin, er ei bod yn agos?)

Mae hon yn dra wahannol, gyd coed a  blodau’r coedwig fel clychau’r gog.
Ond mae llefydd fel yma yn bwysig yn hanesyddol: llefydd lle mae pobol wedi cael yr hawl i bori ei annifeiliaid am flynyddoedd.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Mis Mai Hyfryd

Mae’r hanner gyntaf wedi bod yn dda iawn: digon o heulwen, a glaw yn dilyn, felly yn fama, beth bynnag, mae popeth yn wyrdd.
Dyma rhai o luniau diweddar o’r add: (bob dydd mae rhywbeth newydd yn blodeuo, bron)



Ac wrth fynd am dro ar y comin yn gynnar bore Llun, mi welais ehedydd ar y llwybr, a oedd digon glen i adael i fi gymryd llun.  Rŵan bod Milton Keynes yn tyfu ( a wedi tyfu) a tai newydd i lawr y lôn, mae’r comin yn brysur: pobl yn rhedeg, plant yn chwarae (ond dim am saith yn y bore!) ac wrth gwrs, cwn.  Eto, mae’r ehedydd yn llwyddo, rywsut, a dwi’n falch iawn gweld hynny.


Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Y Gog

Dwi’n dallt bod y gog yn dal ei dir yng Nghymru  – ond dim felly yma yng nghanol Lloegr, o gwmpas Milton Keynes.  Felly ’roedd yn hyfryd clywed y gog wythnos diwethaf, (am y tro gyntaf eleni) yn y warchodfa natur lleol – ond dwy filltir i ffwrdd.  Er nad ydy hi’n bell i ffwrdd, mae’r cynefin yna yn addas i’r gog: digon o goed a llecynau gwlyb lle mae’r telor y cyrs yn nythu.

Bob blwyddyn mae’r warchodfa yn trefnu ’warbler walk’ – taith telor, efallai, yn y Gymraeg, a’r syniad ydy i weld pa deloriaid ydan ni’n clywed – a, wiethiau, yn gweld, ond mae hynny’n fwy anodd.  Mae’r dyn sydd yn tywys y taith yn arbenigwr ar adnabod adar o’r cân.  Ond dwi’n ei cael hi’n anodd, mae rhaid dweud.  Beth bynnag, roedd hi’n noson hyfryd, a digon o adar o gwmpas, yn cynnwys digon o deloriaid, fel: telor y cyrs; telor cetti; siff-saff a telor yr helyg.  Mae’r rhain i gyd braidd yn debyg, (’small brown jobs’ fel y dwedir yn Saesneg) ac yn anodd i’w gweld ymysg y goed, neu’r tyfiant, ond mae cân bob un yn eitha wahanol.  Telor y cyrs (reed warbler) ydy un o’r adar lle mae’r gog yn dodwy ŵy yn ei nyth – a dyna, falle, pam mae’r gog i’w glywed yma.

Braf ar ddiwedd y nos cael mynd yn ôl i adeilad y warchodfa lle mae ffenestr mawr yn edrych dros y wlypdir a gweld dylluan wen yn hedfan yn isel, yn hela. Cyn hynny, roedd cyfle i weld ychydig o nythod y greÿr las.  Braidd rhy bell i gael llun da, ond dyma’r cywion.  




Maent yn nythu’n gynnar, felly erbyn hyn, mae’r cywion wedi tyfu dipyn ac yn fy marn i, yn edrych fel ’pyncs’!

Wnes i ddim lwyddo i gael lunier o adar eraill, ond dyma rhai luniau no’r warchodfa: bendigedig yn yr haul hwyr.


Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Cuddiad

Dwi wedi dod ar draws sawl annifail yn cuddiad yn ddiweddar.  Yn gyntaf, y llyffantod yn y pwll yn y ardd.  Mae na lechen wrth ochr y pwll –  ac yn cuddiad o dan y lechen, ryw 6 llyffant (rhai wedi dengyd erbyn cymryd y llun!).  Da gwybod bod bywyd yn y pwll  yn iach.
A dim yn bell o’r gwaith, mae rhai creaduriaid yn cael eu cyfrif wrth rhoi darn o haearn rhychiog i lawr a gweld be sy’n cuddio o dan y haearn.  Tynnais un darn o heart rhychiog i weld neidr gwair
Ac o dan un arall, llygoden bengron goch (dwi’n meddwl!: mae Llyfr Natur Iolo yn dweud ei fod yn hawdd gwahaniaethu rhwng hon (bank vole, yn Saesneg) a llygoden bengron y gwair (short tailed vole) o achos y ffwr cochfrown a’r gynffon weddol hir) ac yn bendant, roedd ffwr y llygoden yn gochfrown a’r cynffon yn weddol hir…(er ei fod yn anodd gweld maint y cynffon yn y llun).

Mae ’na greadur arall yn cuddio yn yr ardd, yn y bin compost!   Weithiau pan dwi’n llenwi’r bin mae llygoden bach yn rhedeg i ffwrdd – o dan y compost.  Dwi’n meddwl mai llygoden y coed ydy hi, ond hyd at hyn, dydy hi ddim wedi aros digon hir i fi dynnu llun.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Diwrnod braf yn yr ardd

Mae o wedi bod yn ddiwrnod ardderchog, heddiw, a mi r’on yn ol ar y beic yn mynd i’r gwaith.  Dyma coeden ceirios ar y ffordd i’r gwaith:A’r cenin pedr hwyr o flan goedwig fach, hen, dwi’n mind heibio:Ond falla’r rean gore o’r dydd oedd y prynhawn… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Y dylluan glustiog

Mi ddes i arderf o’r gwaith yn gymharol gynnar heddiw – a felly allan am dro ar y comin, gyda’r ci.  Pnawn braf, haelog, ac ar ol crwydro o gwmpas (a rhedeg ar ol y hwyiaid ar y pwll bach – y ci dim fi), gwelais y dylluan glustiong.  R’on i’n… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Arbfrofi eto – bywyd gwyllt lleol

Dwi’n trio (o hyd, ac eto) i roi lluniau i fewn i’r blog.  Rhywbeth roeddwn yn medru gwneud gyda’r hen gyfrifiadur a’r fersiwn hen o ‘iPhotos’  Ond rwan, dwi ddim yn gweld sut i wneud o.Felly demo ymdrech arall!Ac o’r diwedd wedi llwyddo. &nb… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dechrau yn yr ardd

Dwi wedi bod wrthi yn dechrau hau yn ddiweddar.  Yn y ty gwydr, mae hadau tomatos, aubergines, a pupurau wedi mynd i fewn:Mae’r tywydd yn parhau yn oer, ond mae pethau yn dod ymlaen yn yr ardd:mae’r shalots wedi mynd i fewn ac ond ychydig o’r… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dwi’n casau cyfrifiaduron weithiau! A’r penwythnos Pasg

Felly, dyma sut aeth pethau.  Deffro’n gynnar a meddwl postio i’r blog.  Erioed wedi ei gnweud ar y gyfriadur newydd (MacBook) a chostiodd y byd a cymerodd bron flwyddyn i gael y pres at ei gilydd.  Cyn cyrraedd y blog, me ges i fy ofyn … Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Y Gog o’r diwedd

Dwi’n dallt bod y gog yn dal ei dir yng Nghymru  – ond dim felly yma yng nghanol Lloegr, o gwmpas Milton Keynes.  Felly ’roedd yn hyfryd clywed y gog (am y tro gyntaf eleni) yn y warchodfa natur lleol – ond dwy filltir i ffwrdd.  Er nad ydy hi’n bell i ffwrdd, mae’r cynefin yna yn addas i’r gog: digon o goed a llecynau gwlyb lle mae’r (reed warbler) yn nythu.  (Ond braf, hefyd, clywed gog eto, ar gyrion y dre, y dydd wedyn).

Bob blwyddyn mae’r warchodfa yn trefnu ’warbler walk’ – taith telor, efallai, yn y Gymraeg, a’r syniad ydy i weld pa deloriaid ydan ni’n clywed – a, wiethiau, yn gweld, ond mae hynny’n fwy anodd.  Mae’r dyn sydd yn tywys y taith yn arbenigwyr ar adnabod adar o’r cân.  Ond dw’n ei cael hi’n anodd, mae rhaid dweud.  Beth bynnag, roedd hi’n noson hyfryd, a digon o adar o gwmpas, yn cynnwys digon o deloriaid, fel: telor y cyrs; telor cetti; siff-saff a telor yr helyg.  Mae’r rhain i gyd braidd yn debyg, (’small brown jobs’ fel y dwedir yn Saesneg) ac yn anodd i’w gweld ymyg y goed, neu’r tyfiant, ond mae cân bob un yn eitha wahanol.  Telor y cyrs (reed warbler) ydy un o’r adar lle mae’r gog yn dodwy ŵy yn ei nyth – a dyna, falle, pam mae’r gog i’w glywed yma.
Braf ar ddiwedd y nos cael mynd yn ôl i adeilad y warchodfa lle mae ffenestr mawr yn edrych dros y wlypdir a gweld dylluan wen yn hedfan yn isel, yn hela.
Cyn hynny, roedd cyfle i weld ychydig o nythod y greÿr las.  Braidd rhy bell i gael llun da, ond dyna’r cywion yn y nyth.  


Maent yn nythu’n gynnar, felly erbyn hyn, mae’r cywion wedi tyfu dipyn ac yn fy marn i, yn edrych fel ’pyncs’! 
A dyma rhai luniau o’r warchodfa: bendigedig yn yr haul hwyr:

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dros y penwythnos – cynnig 1 – rhwystredigaeth

Wel, dyne be dwi’n trio trafod – gyda lluniau – ond bob tro dwi’n trio ychwanegu llun, mae’r bel bach yn dwad ac yn troi ac yn troi, nes i fi orfod cau’r cyfrifiadur a trio eto!  Mae’r cyfrifiadur hen yn newydd (o’r diwedd…mi roedd yr un hen yn … Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Llyfrau: Y Bwthyn, gan Caryl Lewis

Dwi wastad yn falch o gael llyfrau newydd i ddarllen – mae llyfrau yn rhan bwysig iawn of fy mywyd, a mae bod yn aelod o ddau glwb darllen yn wych.  Na, fel arfer swn i ddim yn aelod o ddau ond mae un yma ym Milton Keynes yn trafod llyfrau Saesneg, a mae’r llall, yn LLundain yn trafod llyfrau Cymraeg.

Yn ddiweddar dwi wedi gorffen darllen Y Bwthyn – nofel ddiweddar Caryl Lewis.  (A hefyd LLanw gan Manon Steffan Ros – ond dwi ddim am son am honno ar y funud).  Hon ydy’r nofel gyntaf gan Caryl Lewis i mi ddarllen.  Dydy o ddim yn llyfr sydd yn llawn o ddigwyddiadau cyffrous.  Os dach chi’n darllen fy mlog, mi wyddoch fy mod yn hoff iawn o lyfrau ditectif gyda naratif sydd yn symud yn gyflym.  Ond dim felly ydy’r nofel yma.  Mae hi’n nofel dawel mewn ffordd, yn ganolbwyntio ar bywyd cefn gwlad a bywyd a tymhorau ffermio: a hefyd ar y perthnasoedd rhwng y tad a’r mab ar y fferm, a rhwng y ddau ohonnyn nhw a’r dyn ifanc diarth, sy’n ymddangos un dydd, Owen, sydd yn aradeg yn dod i weithio ar y fferm.  Dydyn nhw ddim yn berthnasoedd hawdd: pan mae’r nofel yn dechrau, mae gwraig Enoc, Hannah, wedi marw, a’r cnebrwn newydd ddigwydd a mae’n amlwg mai hi oedd yn cadw’r disgyl yn wastad rhwn ei ŵr a’i mab.  Mae tyndra mawr rhyngddynt – a hefyd cyfrinair trist sydd ond yn cael ei ddatgelu tuag at ddiwedd y nofel: cyfrinair sy’n esbonio, i ryw raddau, pan bod gymaint o dyndra.  Mae’r perthynas rhwng yr hen ddyn (a’i fab) ac Owen yr ymwelwyr yn datblygu i fod yn ddiddorol hefyd, a mae Owen ei hun yn dipyn o gyfrinach hefyd.  Yr oll dan ni’n gwybod amdano ydy ei bod wedi dod i sgwennu llyfr: dim byd llawer o gwybl am ei fywyd cyn dod i’r hen fwthyn ger y fferm.

Ochr ar ochr gyda’r perthansoedd, dan ni’n darllen am y cefn gwlad, am y tymhorau yn newid, ac am bywyd mewn lle digon garw yn uchel yn y mynyddoedd.  Dyma llecyn lle mae defaid yn marw yn yr eira ar ol cysgodi wrth y clawdd ne’r wal – a’r gwynt yn hyrddio’r eira atynt a drostyn nhw, a lle mae’r traddodiadau ffermio yn newid.  Does dim llond stafell o helpwyr i fwyta te fferm ar ol cneifio neu ar ol cynaeafu fel digwyddodd mewn dyddiau cynt.  Mae’r disgrifiadau o’r cefn gwlad – o’r planhigion yn y gwanwyn, a’r gwrychoedd, a’r adar a’r annifeiliaid, yn wych – a hefyd o’r digwyddiadau ar y fferm.  Mae’n nofel sydd yn haeddu i’r ddarllenwr rhoi digon o amser iddi hi.  Ond hefyd, os nad oes diddordeb mewn ffermio defaid na mewn y cefn gwlad, efallai bydd yn anodd parhau gyda’r llyfr.  I fi, r’oedd y ffordd dawel o fyw, a’r diffyg geiriau a sgyrsiau hir yn taro deuddeg.  Mae’r nofel wedi ei sefydlu yn bell o Wynedd lle tyfais i fynny.  Eto, roedd y bywyd a oedd yn cael ei ddisgrifio digon debyg i be welais i ar y ffermydd lleol, pan oeddwn yn mynd o gwmpas fel plentyn gyda fy ewythyr a oedd yn ffermio ger Waunfawr.

Ac ar ol mwynhau Y Bwthyn a LLanw, dwi am ddechrau ar rywbeth tra wahanol.  Dwi wedi archeb llyfr newydd gan John Alwyn Griffiths – Dan Gwmwl Du, ac ar ol mwynhau ei lyfrau eraill – edrych ymlaen.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Caernarfon Hanesyddol: y Rhufeiniaid

Yn amlwg mi ges i fy magu mewn dre llawn o hanes gyda raenau o wahanol gyfnodau.  Ond fel sawl plentyn, doess hanes y dref ddim yn chwarae rhan bwysig yn fy mywyd pan oeddwn yn blentyn.  Fel ’cofi’ r’on yn cael mynediad am ddim i’r castell – a does dim lle gwell i chwarae cuddiad a rasio o gwmpas pan dach chi’n ddeg neu un ar ddeg.

Yn ddiweddarach, llawer, daeth y ddiddordeb.  Ac ar ddydd Sul diwethaf, wythnos yn ôl  gyda’r haul yn gwenu, cawsom cyfle i ddod i wybod am dipyn o hanes y dref, gan crwydro o gwmpas y dre gyda’r arceoloegydd lleol, Rhys Mwyn, sydd yn llawn o wybodaeth o bob fath, ac yn gwneud yr hanes yn ddiddorol dros ben.  ‘Roedd y daith yn rhan o Wŷl Ddewi Arall.  Dyma rhai o’r teithwyr ar ddechrau’r daith, gyda Rhys Mwyn.
O be dan ni’n deallt, y Rhufeiniaid roedd y gyntaf i setlo yn y dref (er swn i’n meddwl bod na ychydig o bobl yn byw yn agos i’r mor), ond dim lle mae’r dref heddiw, wrth gwrs, ond o gwmpas yr ardal Peblic lle sefydlwyd y Caer Rhufeinig.
Yn eithaf ddiweddar, tra cloddio at gyfer adeiladu ysgol newydd, darganfwyd pobdai bach yn dyddio o’r blwyddyn 77.  Dyma pryd daeth y Rhufeiniaid a dyma pryd wnaethon nhw sefydlu gwersyll i’r dynion cael rhywle i aros tra roeddent yn adeiladu’r caer.  Roedd yn debygol bod bara yn cael ei pobi yn y pobdai ar gyfer y gweithwyr llwglyd. Roedd y caer yn eitha mawr, a mae rhan o’r waliau i’w gweld heddiw, wrth ymyl ‘South Road’ – y lon sy’n rhedeg allan o’r dref tuag at Bontnewydd. Dyma rhai o weddillion y caer (dim lle r’oedd y pobtai).

A dyma rhan eitha fawr o’r wal rufeinig – ond ryw ganllath i ffwrdd o lle r’on i’n byw fel plentyn.

Dychmygwch y Caer yn ie brysurdeb gyda 500 o filwyr o Ewrop.  A hon r’oedd yr unig gaer i’w gael ei ddefnyddio hyd at ddiwedd y gyfnod Ryfeinig – felly r’oedd hi yn frysur tan 393 OC.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Pethau a llefydd lleol

Dyma dechrau ardderchog i’r penwythnos.  Eistedd yn y gwely yn gwrando ar Galwad Cynnar ac yn edrych yn ôl dros yr wythnos diwethaf trwy’r lluniau ar y ffôn. O’r diwedd dan ni wedi cael ychydig o ddyddiau heulog, heulog, a dwi wedi cymryd mantais ohonyn nhw wrth fynd am dro.  Mae gan Milton Keynes digon o lefydd wyrdd, a pethau hanesyddol hefyd, a dan ni’n ffodus yn y gwaith gan ein bod mewn parc ac yn eitha agos i bentrefi hanesol.  Felly dyma ychydig o bethau a llefydd o’r wythnos diwethaf:

Cennin o’r ardd: lleol iawn.  Dwi’n trio rhoi digon i fewn i barhau tan mis Mawrth.  Mae’r rhain wedi gwneud yn dda ac yn dda i fwyta hefyd. Mi wnes ‘bake’ (cynhigion am y gair Cymraeg?) gyda cennin, madarch a tatws, a caws ar ei ben – blasus iawn (hyd yn oed ar ol bod yn y ffwrn tamaid rhy hir). (A hefyd roedd llawer o’r salad yn dod o’r tŷ gwydr).


Dyma eglwys “St Michael”:


Mae’r Prifysgol Agored, lle dwi’m gweithio wedi ei sefydlu ar hen stâd: mae’r hanes i’w gael yn fama: Adeiladwyd yr eglwys yma o gwmpas 1350 a mae o’n adeilad hardd. Wrth gerdded am ryw ugain funud neu llai o’r gwaith, dyma cyrraedd pentre’ Simpson, gyda eglwys hanesyddol arall, St Thomas, a dan ni’n gwybod bod na eglwys yma erbyn 1231.  Mae adeiladau hardd a hen yn y pentref hefyd:

Mi fyddaf yng Nghaernarfon amser yma wythnos nesaf, ar gyfer y Gŵyl Ddewi Arall.  Edrych ymlaen yn arw!

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Wythnos yn Milton Keynes

Mae hi wedi bod yn wythnos amrywiol, o ran ddigwyddiadau a tywydd.  Y gobaith (a’r cynllun) ar ddechrau’r wythnos oedd i gerdded rhan o’r llwybr arfordirol Cymru.  Mae fy ffrindiau wedi cerdded, hyd at hyn, o’r dechrau tuag at Aberaeron, (dim i gyd ar yr un pryd) a dwi wedi llwyddo i ymuno gyda nhw, pan r’oeddent yn cerdded ar Ynys Môn, ac ar arfordir Llŷn.  Ar wahan i un daith hyfryd hyfryd yn Sir Fôn, ym mis Awst,


dan ni wedi cael o leiau rywfaint o law bob tro.  Ond r’oedd yr arolygion tywydd ar gyfer dydd Llun diwethaf mor ddrwg, doedd dim pwynt gyrru i Gymru gyda storm yn effeithio’r arfordir.  Felly, gan fy mod i wedi mynd i Ludlow i ddechrau’r siwrnai, cefais dydd yn Ludlow ac o gwmpas cyn gorfod cymryd tren gynnar i ddod adref oherwydd bod llifogydd yn cael effaith ar y trenau.

Erbyn dydd Fercher roedd y tywydd wedi newid i fod yn heulog a glir (ac oerach).  Yn y gwaith, roedd y garddwyr wedi bod yn brysur yn torri planhigion i lawr: mae hyn yn cael ei wneud ar ddiwedd (neu tuag at diwedd) y gaeaf, 


felly arwydd da – a rhywbeth byddaf i yn gwneud gartref hefyd.

Does dim llawer wedi cael ei gwneud yn ein gardd ni eto.  Wel, dim o gwbl i ddweud y gwir.  Mae’r garlleg (a aeth i fewn diwedd mis Tachwedd) yn dod ymlaen yn dda, a hefyd y ffa llydan.  Treuliais awr yn y tŷ gwydr ddoe, yn clirio llanast llynedd (dipyn) ac yn dechrau paratoi am eleni.  Mae ffrind yn dod draw p’nawn ‘ma a bydd y ddwy ohonon ni yn gweithio gyda’n gilydd am ryw ddwy awr (y trefn ydy ein bod yn gwneud hyn yn fy ngardd i,  a wedyn ei gardd hi, bob yn ail).


Os dydy hi ddim rhy oer, falle bydd cyfle torri’r mafon hwyr i lawr, ond mae’r arolygon yn awgrymu tywydd oer iawn, felly mae gweithio yn y tŷ gwydr yn fwy debyg.  A cyn dechrau, cynhesu gyda cawl cenin – o’r ardd.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Natur Milton Keynes

Nos Fawrth, es i glywed dyn a ffotograffwyr lleol yn sôn am fywyd gwyllt a natur yn Milton Keynes.  Dydy llawer o bobl ddim yn gweld y ddinas fel lle da ar gyfer bywyd gwyllt, ond dydy o ddim yn ddrwg o gwbl a r’on yn awyddus i glywed am lefydd ar draws y ddinas, ac efallai i glywed am adar d’on i ddim yn gwybod amdanyn nhw.

Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi clywed am adar neu anifeiliaid d’on i ddim yn gwybod amdanynt, ar wahan i’r ffaith bod y tir wrth ym yml lle dwi’n gweithio yn dda am weld nadroedd (ond un neidr sydd i’w gael yn MK, dydy’r gwiber ddim yn byw yma).  Ond yn sicr roedd clywed am y tegeirianau sydd yn tyfu yma yn syndod i fi, a hefyd yr mrywiaith o ieir bach yr haf.  A gan fod ei luniau more dda (gwelir www.cwardphotography.co.uk) roedd y noson yn dda iawn.
Yn aml mae ‘na fwy o gwmpas na fydd pobl yn meddwl.  Roedd arlunwraig lleol yn y cyfarfod, sydd yn ganolbwyntio ar fywyd gwyllt, ac yn gwneud llawer o luniau o sgarnogod.  Felly, wnes i ddechrau feddwl – be ydy fy hoff anifeiliaid neu adar sydd i’w gael o gwmpas y dinas?  A dyma rhai ffefrynnau sydd ar fy rhestr:
Glas y dorlan.  Dwi ddim yn gweld nhw yn aml: rhaid bod yn y lle iawn ar yr amser iawn.  Lwc ydy o (i fi, beth bynnag).  A fel arfer, maent yn hedfan heibio yn gyflym.  Ond weithiau, mae cyfle i drio cael llun gwell (ond dwi ddim wedi llwyddo i gael un dda, eto).
Cornchwiglen.  Braidd yn brin, ond mae nhw’n nythu’n lleol (ond dim llawer ohonyn nhw) ac i’w gweld wrth ymyl y llynoedd yn y Gaeaf.
Llwynogod.  Dwi’n gwybod bod llawer o bobl yn eu casau – ond mae nhw’n del ofnadwy.  (Dydy’r llun yma ddim o MKeynes)
Sgwarnogod.  Mae ’na ddigon o gwmpas, ond mae rhaid gwybod lle mae nhw.  A mae Kate (), yr arlunwraig yn gwybod yn union lle i fynd.  Dwi ddim wedi llwyddo cael llun o sgwarnog lleol eto – un Cymraeg ydy hon! ( a dim yn ofnadwy o glir).
Tylluanod.  Bob fath. Yn fama dan ni’n cael y dylluan fach, y dylluan wen, y dylluan glustiog (rhai flynyddoedd) a mae’r dylluan frech yn byw yn yr ardal ond anaml iawn dwi wedi eu gweld nhw. Dwi ddim yn meddwl bod na llawer ohonyn nhw chwaith. Y tylluan glustiog ydy hon.
Mae na un greadur brin sydd ddim mor frin  yn fama – y fadfall ddŵr gribog (greater crested newt).  Er hynny, dwi erioed wedi gweld un.  Falle eleni?

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Llyfrau

Dwi ddim wedi bod yn darllen gymaint o lyfrau Gymraeg yn ddiweddar.  Weithiau mae pentwr o lyfrau wrth y gwely neu ar y bwrdd yn aros amdanaf. Ond dim dyna ydy’r sefylliad ar y funud.  Ar gyfer y cyfnod dros y Nadolig, archebais ddwy nofel od… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Tywydd braf o’r diwedd: a dipyn o natur

Ar ôl yr holl law, gyda tymereddau isel, mae hi wedi bod yn oer ond yn heulog.  Dydy hi ddim wedi bod yn bosib cerdded unman ond ar y comin, ond yn yr haul, a’r golau clir, mae hynny wedi bod yn bleser. A gyda ci newydd, ifanc, sydd angen llawer o ymarfer, dan ni’m treulio crin dipyn o amser yna.
Ddoe, a heddiw, roedd y tylluan glustiog yn hela.  Doeddwn i ddim yn medru cael llun ddoe, ond heddiw, r’odd yn bosib cael llun ohono fo (neu ohoni hi) ar goeden.  Na, dydy o ddim yn lun dda, o gwbl.  Doedd dim digon o amser gen i ’pnawn ma i dreulio’r amser r’oedd angen, ond yn sicr dwi am trio eto.



Dwi’n teimlo mor lwcus cael gweld adar fel hwn, neu hon, yn hela yn lleol.  Dydy’r comin ddim mwy na bum munud o’r tŷ.  Mae na ddigon o bobl yn cerdded yna, a digon o gŵn hefyd, ond dydy’r tylluanod ddim yn cymryd llawer o sylw pan mae nhw’n hela, a dwi’n siŵr bod na gyfnodau tawel hefyd (heblaw am y brain sydd yn eu herlid trwy’r amser.  Mae’r tylluanod, fel y cudyll coch, yn hela y llygond bengron y gwair sydd yn byw yn y gwair hir.  Ond dwi ddim wedi gweld y cudyll coch yn ddiweddar.  Gobeithio wir ei fod o wedi goroesi’r gaeaf.

Tŷ hwnt i’r comin, mae caeau sydd ddim yn bell o’r afon.  Ac yn un ohonyn nhw, mae ŷd yn tyfu’n aml.  Yn y cae hwnnw dwi wedi gweld sgwarnogau yn y gaeaf neu yn y gwanwyn gynnar.  Ac ers hynny, dwi’n chwilio am y clustiau du, gyda’r spienddrych.  Ond hyd at hyn, eleni, dim byd.

Mae ’na ddigon o adar o gwmpas yn y gaeaf yn cynnwys corhedydd y waun.  Am flynyddoedd, nes i ddim sylwi eu bod nhw yma yn y gaeaf.  R’on i wedi hen arfer gweld nhw ar dir uchel yn yr haf ac yn y gwanwyn, ond wedyn un gaeaf, sylwais fy mod yn gweld adar a oedd yn debyg iawn I gorhedydd y waun.  Ac ar ol dipyn o ymchwilio, darganfod bod yr adar yma, fel lawer o adar eraill (e.e. y gylfinir a’r cornchwiglen) yn symud o’r ucheldiroedd yn y gaeaf. 

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Jin a blodau

Wel, r’oedd y jim cwrens coch yn ardderchog – a’r rhan fwyaf wedi mynd i bobl eraill fel anrhegion dros Nadolig; ond mae ’na ddigon ar ôl i gael un bach o bryd 
i’w gilydd, a mi ges i jin eirin crogi fel anrheg – botel fawr, a mae hwnna’n hyfryd hefyd.

Mae rhai o’r bylbiau wedi gwneud yn dda iawn.  Rhois amaryllis i ffrind (dach chi’n gweld bod ’na thema o anrhegion ’cartref’: pethau r’on wedi gwneud neu tyfu, eleni) a mi ddaeth ymlaen yn dda iawn.  Does dim llun ohono fo i ddangos ond dyma llun o un wnes i gadw – sydd ddim wedi blodeuo eto.
Mae’r “Erlicheer“, sydd dipyn yn tebyg i “Paperwhite“ yn gwneud yn dda hefyd.  Mae dau yn llawn blodau, ac un i ddod allan.
Felly, er gwaethaf y tywydd a’r gwlybaniaeth tŷ allan, o leiau mae blodau ac oglau da yn y tŷ.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dechrau blwyddyn newydd

Dyma rhai o’r blodau sydd o gwmpas fy ngardd ac yn y parc yn y dref.  Ddyle nhw ddim fod allan ar Ddydd Galan, mae hynny’n sicr.


A dyma’r garlleg rhois i fewn (yn hwyr), a’r ffa llydan.  




Mae rhai lysiau ar gael ar gyfer y gegin, hefyd, hyd yn oed yr amser yma o’r blwyddyn: cenin a phanas yn yr ardd,  a moron a pupurau yn y tŷ gwydr.  





Dach  chi’n wastad yn cael eich anog i roi hadau moron i fewn ym mis Gorffenaf, a dyna wnes i yn y  tŷ gwydr, ond eitha bach ’roedd y moron.  Y gynllyn oedd i gael nhw ar gyfer cinio Nadolig, ond dim dyna ddigwyddodd. Beth bynnag, roedd digon ar gyfer cinio i ni dau ddoe a heddiw.

Mae’r pupurau wedi cymryd oes i aeddfedu, ond yn dal i gochi, yn araf bach. Yn yr ardd, gobeithiaf am dywydd dda, digon o dwr yn yr haf, ag yn bwysig, digon o haul.  Blwyddyn Newydd dda!

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Y ci

Yn ôl ym mis Ebrill collason ein ci, Tyson.  Mi roedd o wedi bod yn ffrind da i’r teulu i gyd, ers iddo symyd yma i fyw yn ol yn 2001, pan roedd o ryw ddeunaw fis.  Mi wnes i feddwl am sgwennu post amdano fo, ond do’n i ddim yn medru, ar y pryd.  Yn teimlo rhy drist ac emosiynol.  
Wrth gwrs, doedd  o ddim yn angel: yn enwedig gan mai ci hela roedd o; ond ar ol dipyn o hyfforddiant, roedd yn gyfaill ardderchog ar daith cerdded.  Un peth oedd o’n gwneud oedd sicrhau bod fy ngŵr yn cerdded digon: roedd Tyse (na,  dim ni enwodd o) angen ryw ddwy awr o gerdded bob dydd.  Hyd yn oed pan roedd yn hen (rhy hen i hela’r wiwerod yn y fynwent) roedd o’n hapus iawn i gerdded am amser hir, ac yn fwy gyfforddus oherwydd bod y  cryd cymalau ddim mor ddrwg pan roedd yn cerdded.
Ar ôl dipyn, roedd o’n amlwg bod angen ci arall i fynd a fy ngwr am dro, iddo gael dipyn o ymarfer corff.  Felly aethon i chwilio am gi newydd, a penderfynu cynnig cartref newydd i gi roedd angen cartref, yn nytrach na prynu ci bach.  A dyma sut ddaeth Teo i fyw gyda ni.  R’oedd o am gael ei ladd yn Sbaen.  Dan ni ddim yn gwybod am ei gefndir: mae’n amlwg ei fod wedi byw mewn tŷ, rwy bryd, ond dim wedi cael hyfforddiant o gwbl o be dan ni’n gweld.  Mae lawer o gi defaid ynddo fo, a falle dipyn o ddaeargi – pwy a wyr.  Bydd o angen llawer o hyfforddiant, ond mae o’n glyfar ac yn dysgu’n gyflym.


A dyma’r ci newydd: Teo ydy ei enw fo (a mi ddaeth gyda’r enw).


Mae’r braf iawn cael ci o gwmpas y lle eto.  Efalla bod yr wythnos cyn Dolig ddim yr amser gorau – ond roedd y pobol oedd yn edrych ar ei ôl o, yn awyddus i gael gartref newydd iddo fo – a gwneud le i gi arall oedd angen cartref dros dro.

Ond dwi wedi cael ryw fath o annwyd drwm gyda haint a peswch drwg dros y Nadolig, a dim wedi bod mewn stâd i wneud lawer o gwbl.  Felly ond dros ddoe a heddiw dwi wedi bod allan efo fo. Gobeithio cai cyfle i bostio mwy, unwaith dwi’n teimlo’n well…

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Y berllan gymunedol

Yr amser yma o’r flwyddyn, pan mae hi’n nosi mor gynnar, dwi’n trio mynd allan o’r gwaith amser cinio, os bosib.  Dan ni’n lwcus ofnadwy, gan fod llwybrau a chaeau o’n gwmpas.  Felly amser cinio dydd Mercher, dydd braf a sych mi es i lawr y llwybr ar fy meic i’r berllan gymunedol.

 

Sefydlwyd y berllan yma nifer o flynyddoedd yn ôl gan Milton Keynes Parcs Trust, a dwi’n meddwl eu bod nhw yn casglu’r afalau (ond coeden afalau sydd yma) er mwy gwneud seidr.  Yn yr hydref, mae ddigonedd o afalau i’w gael yn rhad ac am ddim, wedi syrthio o’r coed.  Ond erbyn hyn, dydy nhwn ddim mewn cyflwr da iawn.

Serch hynny, dyma wledd i fywyd gwyllt.  Yn y bore, wrth fynd heibio i’r gwaith, roedd heidiau o adar o gwmpas, yn cynnwys adar bach, yn amlwg yn bwydo ar ol clwydo dros nos.  Erbyn amser cinio, pan es yn ôl, doedd dim gymaint o adar bach, ond digonedd o biôd,adar du, ambell fronfraith a wiwerod.

Pleser llwyr oedd beicio yn ôl i’r gwaith (5 munud) heibio’r defaid tew.  Mae ‘na gymaint o fanteision i benderfyniad o greu berllan fel ‘ma mewn dre.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Yma o Hyd: ffa a bylbs

Dwi ddim wedi cael llawer o hwyl gyda postio i’r blog yn ddiweddar.  Bywyd yn brysur, rywsut.  Serch hynny, dwi wedi llwyddo i wneud dipyn o bethau yn yr ardd, er fy mod braidd yn hwyr, fel plannu hadau’r ffa llydan.  Dan ni’n lwcus bod y pridd yn eitha ysgafn yn fama, a mae o’n bosib dechrau’r ffa ym mis Tachwedd, ac yn aml, maent yn llwyddo.  Y fantais fwyaf (mwyaf? – o diar, y treigladau) ydy eu bod nhw yn osgoi y pryfed du (? Blackfly) pan mae nhw’n dechrau tyfu yn y gaeaf neu’r hydref hwyr. 


Ond, wnes  i ddim llwyddo i blannu nhw ym mis Tachwedd, felly mi wnes  I roi nhw I fewn ar y benwythnos, gan feddwl bydd hynny’n iawn, gan bod y tywydd mor fwyn.  A dilyn yr hen reol: un i bydru, un i’r llygod ac un i dyfu.  Felly tri ym mhob twll yn hytrach nac un.  Wn i ddim os dwi wedi eu plannu mewn amser.  Gawn i weld.  

Y peth arall dwi wedi bod yn brysur efo ydy bylbiau ar gyfer y tŷ – tŷ neu fel anrhegion.  Dyma llun o rhai ohonnyn nhw.  



Dwi wedi trio tyfu amaryllis am y tro gyntaf.  Mae’n debyg mai’r enw cywir ydy Hippeastrum.


Mi wnes i gangymeriad a rhoi’r rhain yn y tywyllwch, ac mewn lle oer (ond does nunlle yn oer iawn eleni) a wedyn darganfod eu bod nhw isio golau a gwres, a mae nhw i’w gweld yn gwneud yn iawn. 


Fel gyda’r ffa, gawn i weld.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Natur o gwmpas y dre

Dwi wedi parhau gyda’r arfer o fynd am drô yn y bore ar ddyddiau pan dwi ddim yn gweithio.  Y drefn ydy cerdded i lawr y stryd at y comin, wedyn ar draws y comin, i lawr stryd bach tuag at y bont a wedyn croesi i barc bach sydd yn arwain at yr hen fynwent a wedyn yn ol ar hyd lan afon arall, parc bach arall a.y.y.b.  
Ar ol gweld tylluan glustiog ar y comin, ryw fis yn ol, dwi wedi bod yn gobeithio gweld nhw eto a cael tynnu lluniau.  Ond erbyn hyn r’on wedi penderfynu bod nhw wedi mynd – tan bore LLun, pan welais i dylluan glustiog yn hela ar y comin, ond tro yma, gweld par!  Son am gyffro!  Beth bynnag, wnes i ddim lwyddo i gael llun – ‘roedd yn gynnar yn y bore, ac er fy mod yn medru gweld yr adar yn dda  trwy’r spyndrych, ac yn medru tynnu llun gyda’r iPhone – roedd angen lens teleffoto i gymryd llun, a gyda hwnnw, roedd y llun yn dywyll iawn – fel gwelwch chi. 

Ers hynny dwi ddim wedi gweld y tylluannod, ond dwi’n meddwl ein bod ni ddigon ffodus gyda’r adar sydd o gwmpas.  Mae’r cudyll coch wedi bod yn hela bron bob dydd dwi wedi bod ar y comin; hefo hon hefyd, dydy o ddim yn hawdd i fi cael llun da, ond dyma hi yn hedfan:

Mae’r bras y cyrs i’w gweld ar y comin hefyd 


a mae’r creÿr glas i’w gweld yn aml wrth ac yn yr afon.  Does dim ond rhaid mynd ryw filltir a hanner i lawr y lôn i gyrraedd cae lle mae sgwarnogod i’w gweld eithaf  aml ac yn yr hen fynwent mae digon o loches, a byddaf yn gweld drwy bach, yn aml, yn ogystal a cnocell coed (weithiau), delor y cnau  a hefyd dringwr bach  (weithiau).  Heddiw roedd un wiwer yn brysu yn casglu brigau ar gyfer ei nyth, a’r fronfraith yn brysur yn bwyta’r aeron o gwmpas.  Yn sicr mae digon o aeron eleni, a hyd at hyn dan ni ddim wedi gweld adar yn yr ardd.  


Ond heddiw, gyda’r barrug gyntaf, a’r tywydd oer, mi ddaethant yn ol I fwydo ar yr hadau yn yr ardd.

Dwi’n teimlo’n eitha ffodus i gael gweld yr holl fywyd gwyllt heb mynd rhy bell o gartref.

Parhau i ddarllen