Canlyniadau Chwilio: garddio

Ailddysgu: Darllen a garddio

Gan fy mod wedi brifo fy nhroed – ac yn aros iddo wella digon i fi gerdded fel arfer, dwi wedi bod yn gwneud llawer mwy o ddarllen, yn enwedig llyfrau Robert Harris.  Mi ŵn fy mod i wedi darllen o leiau un o’i lyfrau o’r blaen, ond dwi ddim y… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dechrau’r tymor garddio

Dwi ddim wedi edrych i weld pa hadau sydd gen i ar ôl eto, ryw fath o “audit“, am wn i, cyn prynu mwy o hadau.  Ond, ar ddydd oer, dydd Sadwrn, mi es gyda ffrind i’r ganolfan garddio yn Buckingham i brynu tatws i blanu.  Dim y lle agosaf ydy’r canolfan yma, ond mae o’n dda ar gyfer prynu tatws, gan fod gymaint o ddewis. (Ond aethon ni cyn y benwythnos tatws – dim isio mynd pan oedd o mor frysur!)


Mae o’n hawdd prynu gormod, felly ond tri fath wnes i brynu; dydy’r ardd ddim yn ddigon fawr i blannu ormod o tatws: felly “pink fir apple“:


“international kidney 


am fy mod yn hoff iawn o’r rhain.  Yr international kidney“ ydy’r math dach chi’n cael os dach chi’r prynu tatws newydd Jersey.  Hefyd dwi isio prynu rywfaint o tatws “Sarpo“ sydd wedi eu datblygu fel bod nhw yn llai debygol o cael yr haint “blight“.  Ond, be doeddwn i DDIM yn gwybod, oedd bod yr ymchwil yn cael eu gwneud yng Ngogledd Cymru – gwelir fama.  Prynais rhywbeth tebyg – Sarpero, sydd i fod yn dda os does dim digon o law.
Eleni roedd y shibwns (dim yn siwr o’r gair gorau am shallots) yn anobeithiol.  Dydyn nhw ddim yn dda mewn tywydd sych a phoeth.  Ond, dwi am drio eto, felly dwi wedi prynu dwy fath o shibwns hir: dwi’n hoff iawn o goginio gyda nhw, ond dim y rhai bach sydd yn annodd eu drin.  A dyma rhai mae fy ffrind wedi rhoi i fi, rhai a oedd hi wedi tyfu eleni.  


Edrych yn dda ac yn flasu’n dda hefyd.  

Neithiwr cawsom haen fach o eira, dim llawer, ond digon i’r ci fwynhau ei hun yn yr eira.  Mae o’n amlwg bod yr ogleuon yn dda

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Garddio, o’r diwedd

O’r diwedd, dipyn o haul!  Cyfle i fynd i’r ardd a tocio’r mafon.  Dwi ddim yn dallt pan mae’r llyfrau i gyd yn dweud bod rhaid tocio mafon hydref ym mis Chwefror.  Pam ddim ar ôl iddyn nhw orffen ffrwytho ar ddiwedd y flwyddyn?  Beth bynnag, gyda’r tywydd mwyn (er gwaetha’r glaw), roedd tyfiant yn dechrau dangos, felly hen bryd i dorri nhw i lawr.  Ond dim llawer o gyfle, gyda’r glaw.  Ond heddiw, ar ôl diwrnod a ddechreuodd yn ddigon stormus ddoe, roedd yr haul yn gwenu: 

felly ar ôl mynd a’r ci am dro dyna ddechrau ar y mafon.  Dyma sut oedden nhw cyn dechrau:
A dyma sut oedden nhw ar ol tocio am dipyn o amser, a hefyd tynnu rhai allan, oherwydd mae ’na ffrwythau eraill yn y gwely hefyd, fel gwsberen, cyrans du a chyrans coch – a r’oedd popeth ar draws ei gilydd, rywsut.
Dwi ddim wedi gwneud lawer o arddio o gwbl eto eleni, ond yn y tŷ gwydr mi wnes i wasgaru hadau letys penwythnos diwethaf, ond dwi braidd yn sicr bod y llygod wedi bod atynt – felly heddiw, mae’r hadau yn mynd i’r lofft a mi wnai chwilio am y trap llygod.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Garddio gerila

Mi es i ddarlith gan Richard Reynolds ddoe a oedd wedi dod i’r Clwb Garddio yn y gwaith.  Mae Richards wedi bod yn gwneud llawer o arddio gerila yn Llundain dros y blynyddoedd diwethaf .
Mae na lyfr allan rwan – mewn sawl iaith – ond dim Cymraeg (prosiect i rywyn?).  Efallai mi roi o ar fy restr Nadolig.  Ond yn y cyfamser dwi wedi cael fy ysbrydoli i weud dipyn fach mwy o arddio gerila (os gai amser!).  Siaradodd Richard am arddio yn ei filltir sgwar yn Llundain a roedd ganddo lawer o luniau i ddangos ac ysbrydoli ni.  Un peth a wyddon i ddim amdano oedd y pobl sydd wedi bod yn garddio mewn tyllau yn y lôn!  
Ac yn ol yn fy ngardd gerila fi – ty allan i fy waliau….wel, mae’r coed ffrwythau wedi bod yn ardderchog eleni, gyda digonedd o eirin a’r gellyg newydd hefyd wedi ffrwytho.  Hefyd, dydy’r wiwerod lleol ddim wedi darganfod y coed cnau eto, felly dyma’r cnwd eleni.  
Braidd yn fach oherwydd dwi’n meddwl, roeddwn more brysur yn casglu’r ffrwythau, nes i ddim gasglu’r cnau am dipyn, ac o ganlyniad, rodden nhw wedi disgyn o’r coeden a rhai wedi cael eu fwyta.  Ond mae nhw’n ardderchog wedi eu rostio.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Garddio cymunedol a Tyfu Pobl


Dwi’n hoff iawn o’r cyfuniad o bwyd, garddio,(llysiau a ffrwythau yn enwedig) a gwneud pethau cymunedol.  Dydy fy ngarddio i ddim yn gymunedol, gan mai gardd  sydd gennyn ni, yn hytrach na rhandir.  Ond mae prosiect yn Wolverton, dim yn bell o lle dwi’n byw yn tyfu llysiau, ffrwythau a dipyn o flodau, ac hefyd yn  yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc mewn garddwriaeth (horticulture).  Enw’r prosiect ydy Growing People – sydd yn andros o debyg i Tyfu Pobl
 – cyfres newydd ar S4C, gyda Bethan Gwanas a Russell Jones.


Mi es i ymweld a’r “Urb Farm“yn Wolverton, lle mae’rprosiect; ryw bedair filltir i ffwrdd, dydd Sadwrn, gan bod Diwrnod Agored yna.  Mae gennyn nhw ddau acer a hanner 

– ac yn tyfu bob fath o lysiau, gyda cymorth gwirfoddolwyr, yn ogystal a’r hyfforddwyr, ac yn cadw gwenyn a ieir. Dyma llun cwch gwenyn gwyllt 



– a hanes y cwch, 


a  gwirfoddolwraig.  


Mae hi wedi dod ar sail  y cynllun “WOOF“ – “Working On Organic Farms“ ac yn aros yn lleol.  Ond mae gwirfoddolwyr o’r dinas hefyd yn cyfranu at y prosiect.  Mae gennyn nhw (Growing People) cynllun bocs llysiau gwahanol.  Yn lle cael bocs gyda beth bynnag mae nhw eisio roi i chi, a ffeindio bod gennych chi lwyth o fresych deiliog (neu be bynnag dach chi ddim yn hoff iawn ohono fo) mae’r prynwyr yn medru edrych ar y wefan i weld be sydd ar a gael yr wythnos honno – a wedyn archeb be yn union mae nhw eisio.  Syniad gwych!

Ar ol gadael, aethon i ymweld a pherllan gymunedol gerllaw sydd yn llawn o syniadau  a phethau gwych – fel y sied yma

– yn edrych fel rhywbeth o’r reilffordd, a’r olwyn perlysiau, i ddenu gwenyn a glöynnod byw 


– a gwybodaeth amdanyn nhw hefyd i’w chael:

  

A beth am hwn fel rhywbeth i wneud y pwll bach yn saff – ac yn atynidadol hefyd!


Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Darllen a garddio

Wnes i ddim lwyddo i flogio eto cyn diwedd mis Mehefin.  Parhau yn brysur a dyma ni ar ddechrau mis Gorffenaf.    Wythnos diwethaf es i gyfarfod Clwb Darllen Llundain.   Y tro yma roedden yn trafod Un Nos Ola Leuad.  … Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Sioe Blodau Chelsea a garddio dros y gwyl banc

Es i Chelsea gyda tair ffrind dydd Gwener a chawsom amser gwyll.  ER ei fod yn bwrw – yn galed – trwy’r dydd.  Efallai mai un fantais o’r glaw oedd bod llawer o bobl yn mynd i gysgodi, a r’oedd yn haws gweld y gerddi.  Mae o’n sioe brysur iawn bob tro, dwi’n meddwl. Dyma rhai o’r gerddi gorau (yn fy marn i!):
Gardd Cymraeg!  Un garreg.  Un o’r gerddi crefftwyr (artisan gardens) oedd hon. 

Un arall bendigedig oedd Gardd M&M 



A hefyd gardd Homebase  



Erbyn dydd Sadwrn roedd hi’n braf a heulog, felly penwythnos o weithio yn yr ardd – ar ôl yr holl ysbrydoli.  Treuliais cryn dipyn o amser yn tacluso ac yn chwynnu: yn enwedig i gael y chwyn allan o’r brics wrth ymyl y tŷ. Mae’r ffa i gyd i fewn, rwan, a hefyd y courgettes, a’r tomatos i gyd i fewn yn y system a phrynais eleni.  A dyma ychydig o luniau o’r ardd.






Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Darllen, garddio, cogninio, bwyta…

Pedwar peth dwi’n hoffi, er fy mod i ddim yn gwneud llawer o goginio’r dyddiau yma.  Ta beth, mae hi wedi nod yn benwythnos oer, oer a llwyd.  Gwahanol iawn i benwythnos diwethaf, pan roedd yn teimlo fel Gwanwyn.  A fell y does dim llawer o awydd i godi yn y bore, er bod rhaid yn y diwedd i fynd allan gyda’r ci.  Ond cyn gwneud hynny, dwi wedi bod yn darllen dipyn bach.  Ar y funud dwi’n darllen Y Storïwr.  Mae o wedi cael adolygiau da iawn.  



Doeddwn i ddim yn siŵr ar y ddechrau, ond rŵan dwi’n mwynhau o gymaint.  Llyfr dwi ddim eisiau gorffen, felly dwi’n trio peidio rhuthro trwyddo fo gormod.  Dyma be mae Janice Jones yn dweud: “Mae iaith y nofel hon yn llifo, a chyda’i holl haenau a’i holl ddarlleniadau posibl, mae’n gyfrol fydd yn plesio darllenydd mewn modd personol ac unigryw”. 


 

Ond doedd o ddim yn bosib darllen trwy’r penwythnos.  Aethom allan i’r meithrinfa yn Buckingham  i brynu goeden fedwen arian.  Roedd un yn tyfu yn yr ardd gefn: wedi bod yna am flynyddoedd, ond llynedd, roedd yn amlwyg ei bod wedi marw.  Mae’r fedwen, ar wahan i fod yn dlws, yn ddefnyddiol iawn i adar gwyllt.  Felly roedden ni eisiau un arall,  a tra bod ni yna, prynu shallots newydd, oherwydd bod y rhai a aeth i fewn yn y Hydref wedi pydru gyda’r holl glaw, a dipyn o hadau.  Rhyfedd fel ei bod bron yn amser i wasgaru cenin, er bod cenin llynedd yn dal yn yr ardd.  Ond dim llawer ohonnyn nhw.




Un hoff ryseit ydi “Leek Corustade” yn yr hen lyfr Cranks.  A dyna be wnes i ar ol dod yn ol  o’r feithrinfa.  Roedd hi bron yn dywyll erbyn i fi fynd allan i’r ardd i gasglu’r cenin.  A dyma llun o’r “Croustade” wedi ei goginio.  Dydy o ddim yn edrych rhy dda yn y llun, ond mi roedd yn flasus!

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Gwobr blog garddio, chwilota a pupurau

Mae’r Guardian wedi ennill gwobr  am ei flog garddio.  Dwi’n meddwl ei fod yn flog  ardderchog.  Mae Jane Perrone, golygydd garddio y Guardian hefyd yn gwneud blog personol   sy’n dda iawn he… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Cyfarfod Clwb Darllen Llundain: trafod Llyfr Glas Nebo

Cawsom noson hyfryd neithiwr yn trafod y nofel yma gan Manon Steffan Ros – a gyda tri aeilod newydd.  Weithiau dan ni wedi bod yn grŵp fach – ond dan ni’n tyfu!  A neithiwr roedden ni’n 13.’Roedd pawb wedi mwynhau y llyfr yma – os mwynhau ydy… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Cyfarfod Clwb Darllen Llundain: trafod Llyfr Glas Nebo

Cawsom noson hyfryd neithiwr yn trafod y nofel yma gan Manon Steffan Ros – a gyda tri aeilod newydd.  Weithiau dan ni wedi bod yn grŵp fach – ond dan ni’n tyfu!  A neithiwr roedden ni’n 13.’Roedd pawb wedi mwynhau y llyfr yma – os mwynhau ydy… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: 2019

Gyda tynnu’r ardduniadau i lawr mae tymor Dolig a’r flwyddyn newydd wedi gorffen go iawn.  Mae bywyd yn ol i’r arferol – sydd ddim yn beth ddrwg o gwbl.  Ac yn bendant dwi isio garddio mwy eleni.  Yn sgîl y penderfyniad ym… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: 2019

Gyda tynnu’r ardduniadau i lawr mae tymor Dolig a’r flwyddyn newydd wedi gorffen go iawn.  Mae bywyd yn ol i’r arferol – sydd ddim yn beth ddrwg o gwbl.  Ac yn bendant dwi isio garddio mwy eleni.  Yn sgîl y penderfyniad ym… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: 2019

Gyda tynnu’r ardduniadau i lawr mae tymor Dolig a’r flwyddyn newydd wedi gorffen go iawn.  Mae bywyd yn ol i’r arferol – sydd ddim yn beth ddrwg o gwbl.  Ac yn bendant dwi isio garddio mwy eleni.  Yn sgîl y penderfyniad ym… Parhau i ddarllen

: Henwaliau

Rywsut dwi ddim wedi postio i’r blog am oes.  Gyda’r tywydd sych [dim glaw ers dechrau’r mis], mae garddio a dyfrio wedi cymryd gymaint o amser.  Ond rŵan dan ni ar ein gwyliau a gyda’r tywydd mor boeth a wedi penderfynnu aros o gwmpas y tŷ a… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Henwaliau

Rywsut dwi ddim wedi postio i’r blog am oes.  Gyda’r tywydd sych [dim glaw ers dechrau’r mis], mae garddio a dyfrio wedi cymryd gymaint o amser.  Ond rŵan dan ni ar ein gwyliau a gyda’r tywydd mor boeth a wedi penderfynnu aros o gwmpas y tŷ a… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Paratoi am y gwanwyn

Rhyfedd sut mae pethau yn newid.  Dydd Gwener es am daith cerdded hyfryd o’r tŷ gyda fy ffrind, i fynny at goedwig bach, hynafol, Little Linford Wood, ac i lawr wedyn heibio’r warchodfa agosach  ac ar ol cinio yn y tafarn, cerdded yn ol ar hyd yr hen reilffordd.  Hyfryd. Dyma llun o rhan o’r goedwig yn ol yn yr haf.

Ond bore Sadwrn, ar fyn nhaith cerdded boreuol at y comin, roedd Teo [y ci]  yn chwarae gyda ci arall, a chyn i fi wybod, ges i fy nharo a syrthiais i’r ddaear galed gyda chlec.  Dim byd wedi torri, ond mae’r clec ar fy mhenglin wedi achosi dipyn o niwed  – “Soft tissue damage” –  a dwi ddim yn medru cerdded ar hyn o bryd.  Felly, dwi’n bod yn hogan dda ac yn gorffwys fy nghoes ac yn rhoi rhew arno i helpy’r chwyddo a.y.y.b.


Dwi ddim wedi arfer gorwedd i lawr fel hyn.  Dwi’n medru dod i fynny’r grisiau ar fy nhîn – a mynd i lawr eto, ond mae o’n cymryd cryn dipyn o amser.  Felly bore ‘ma dwi yn y gwely – a wedi dechrau archeb bylbiau a hadau ar gyfer yr ardd.  Peth peryglus ydy hyn: rhyngrwyd, gliniadur a cherdyn debyd.  [debit?? Yn ol y geiriadur].


Darllenais erthygl Alice Fowler yn rhybuddio ni bod bylbiau arferol yn llawr o gemegau  sydd yn achosi niwed i’r creaduriad bach yn y pridd.  Fel arfer dwi’n prynu bylbiau o’r canolfan garddio, [er fy mod yn prynu hadau fel arfer o Garden Organic] ond dwi newydd prynu ychydig o fylbiau organic eleni.  Felly dw’n edrych ymlaen at cael ychydig o fylbiau a cael edrych ymlaen at y Gwanwyn, yn ogystal a’r sialóts a’r hadau ffa llyden.


Dyma rhai o be dwi wedi prynu….[lluniau o sut wnaethon nhw eleni…]


A rŵan dwi am archeb llyfr Gymraeg neu ddau….

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Hiraeth am Gaernarfon: Gŵyl Arall a Galwad Cynnar

Dechreuad Gwych i’r Gŵyl: Galwad Cynnar yn yr ardd: hynny yw – gardd Palas Print.  Dyma ’r ail flwyddyn i’r rhaglen gael ei ddarlledu o’r siop. Ac am syniad da.


Felly ar ben bore Sadwrn gyda’r tywydd yn braf codais yn gynnar a mynd i lawr at y Fenai erbyn 5.45 i fwynhau’r bore hyfryd, a wedyn i’r siop erbyn 6.  Dyma  llun dwi’n hoffi: ryw hen dŷ neu  dŷ cwch? ar lannau’r Menai yn edrych yn dda yn yr haul gynnar:

a gorhedydd y graig: mae’r rhain i’w weld yn y dre:

Mae Galwad Cynnar yn raglen mor wych a mi oedd o’n braf ofnadwy cael bod allan yn yr ardd. Ddoe roedd y panel yn cynnwys Twm Elias, Elinor Gwynn, Math Williams a Kelvin Jones.  Ges i ddim llun o bob un ar y panel, ond dyma llun o Twm Elias a Gerallt Pennant:


A’r ardd a dynnodd rhai o sylw y banelwyr: y mafon [ a tra roedden ni yn gwylio roedd fwyalchen yn bwyta un neu ddau], a’r afal tindwll, [os dwi wedi cael hi’n iawn] neu merysbren [sydd ddim yn achosi gymaint o chwerthin!]. merysbren [ond dydy o ddim yn achosi gymaint o chwerthin!].  Yn ol un ffynhonell “Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Merysbren Afal Agored, Afal Tindwll, Dindoll, Meryswydden, Tinagored, Tindoll.”


Mae’r ddwy flanhigyn yn gwneud yn dda iawn yma:

A ddoe, fel y disgwyl, dipyn o bwyslais ar lyfrau.  Roedden yn clywed barn y panelwyr ar sawl lyfr natur sydd wedi cael ei gyhoeddi ynn ddiweddar.  Un llyfr a dynnodd fy sylw i oedd The Seabird Cry gan Adam Nicolson.  Gwelais y llyfr yma mewn siop lyfrau yn yr Alban a roedd Elinor Gwynn wedi ei fwynhau yn arw.  Felly un i’w brynu yn bendant.  


Ond roedd llawer mwy o drafod diddorol, mwy na sydd yn bosib i grynhoi ac wrth gwrs, mae o’n hawdd i ddal i fynny gyda’r rhaglen os dach chi ddim wedi cael cyfle i wrando arni hi.  Mae hi ar gael ar app BBC – a mae o’n bosib cael bodlediad o’r rhaglen hefyd.  Dyna be dwi yn gwneud fel arfer a wedyn yn medru gwrando arni hi pan dwi’n beicio, garddio neu coginio – neu gwneud dim byd arall!



Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Cynlluniau

O’r diwedd mae’r dyddiau yn ymestyn dipyn bach, a mae’r tymor garddio yn nesau.  R’on i a fy ngŵr yn Ludlow dros y benwythnos yn ymweld a ffrindiau – dyma’r olygfa o lle roedden yn aros.  
Gwych.  Ond roedd y tywydd yn ddigon wlyb, yn enwedig ar y dydd Sul, pan roedden yn teithio’n ôl.  Felly cawsom hoe bach yn y ganolfan garddio yn Buckingham.  Fel bron bob ganolfan arddio arall, mae’r ganolfan yma wedi dechrau gwerthu bob fath o bethau gyda dim gysylltiad a garddio o gwbl.  Serch hynny, maent yn tyfu eu planhigion ein hunan, ac yn gwerthu tatws ar gyfer plannu yn rhydd.  Felly es ati i brynu ychydig o datws i blannu eleni, yn cynnwys tatws Ratte.  
Dwi’n cytuno gyda’r dyn sydd wedi sgwennu’r blog yma: mae ’na blas ardderchog arnynt.
Ond syn dechrau eto gyda’r ardd – a mae hi braidd yn gynnar ar hyn o bryd, dwi am trio dacluso rhan o’r ty, ac yn holl bwysig, cael gwared o bethau dan ni ddim wir angen mwyaf.  Dwi’n ofni bod orchwyl hir o fy mlaen i………….. 

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Mehefin yn yr ardd ac ar y comin

Rhywsut, rhwng gwaith (yn enwedig gwaith marcio), hyfforddi’r ci, cerdded gyda’r ci, garddio a bywyd bob dydd dwi ddim wedi llwyddo i gyfrannu at y flog yma am dipyn.  Yn yr ardd, mae’r tywydd, a’r bywyd gwyllt wedi bod yn heriol, yn sicr.  Ar ôl wythnos oer, diflas, tywydd poeth sych a wedyn storm fawr, a wedyn tywydd sych a poeth eto.  A fel arfer yr amser yma o’r flwyddyn, rhedeg o gwmpas yn trio symud yr holl blanhigion o’r tŷ gwydr i fewn i’r ardd, gyda dipyn o lwydddiant a dipyn o fethiant.  Yn fama, mae’r gwlithod a’r malwod yn cael tymor arbenning o dda.  Dyma’r courgettes ar ôl un noson yn yr ardd:

Defnyddiais “SlugGone“ sydd wedi eu gnweud o wlan defaid ac yn arbenning o ddrud – ond mi wnaeth o weithio llynedd.  (Gyda llaw, mae cyfle arbennig i ffermwyr gyda defaid i wneud rhywbeth debyg ond yn costio pris mwy derbyniadwy – os nad ydy ’patent’ wedi gwneud hynny’n amhosib).  Ond eleni – yn amlwg, wnaeth o ddim gweithio.  A falle bod y ffaith bod y gwely ar gyfer y courgettes yn agos i rhan o’r ardd sydd wedi mynd braidd yn wyllt gyda llawer o chwyn – lle ddefrydol i falwod a wlithod cuddio – ddim yn helpu.  Yn y tŷ gwydr o’r diwedd mae’r tomatos a’r aubergines a’r pupurau a basil i gyd yn y pridd, er bod yr aubergines a’r pupurau ddim yn edrych rhy dda. Dyma sut oedd rhan o’r 

tŷ gwydr yn edrych ychydig yn ol a’r planhigion i gyd yn aros i fynd i’w llefydd….

Mae’r dahlias wedi mynd i mewn hefyd, a hyd at hyn dim wedi cael eu bwyta i gyd, ond dwi wedi colli rhai o’r cosmos, yn bendant.  Dim byd i’w gwneud ond rhoi hadau i fewn unwaith eto, neu prynu planhigion o’r ganolfan garddio.

Yn ddiweddar dwi wedi bod allan bron bob dydd yn y bore gyda’r ci, yn aml yn fuan ar y comin, a mae o wedi bod yn hyfryd.  Dwi’n gweld (neu clywed) pedwar neu pump fath o aderyn yn gyson: yr ehedydd, y llwydfron, bras y cyrs, corhedydd y waun a weithiau’r llinos, y nico a’r llinos werdd.  A braf iawn ydy eu gweld nhw.



Dyma bras y cyrs; adar hardd, a dyma corhedydd y waun.

Does dim llun o’r llwydfron ar y comin, ond dyma lun o un with yml Nantgwrtheyn:


Os dwi’n cael cyfle i fynd i lawr i’r cae isaf, wrth yr afon, dwi hefyd yn edrych yn y cae sydd drws nesaf i’r cae yma, lle mae gwenith yn cael eu dyfu a lle mae coed yn tyfu yng nghefn y cae.  Yn fam, weithiau mae llwynog i’w gweld yn y bore yn chwilota o gwmpas y coed, a gwell eto, sgwarndogod yn y cae, ond dwi ddim wedi gweld un eleni.  Ond bore ddoe, roedd carw mwntjac yn pori yng nghefn y cae.  Rhy bell i gael llun da yn anffodus.



Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Mae’r hydref yma

Mae’r cynhaeaf yn parhau.  Mae’r afalau yn cael eu fwyta neu yn mynd i fewn i crymbl; mae’r basil wedi cael ei ddefnyddio i wneud pesto, a’r llysiau eraill yn mynd i fewn i’r cinio dydd Sul, neu cyri. Dyma ychydig o luniau: yr aubergine wedi cael ei frathu – malwod efallai – ond digon yna i wneud cyri, a digonedd o ciwcymber ar gyfer y raita i fynd hefo fo a’r basil a’r pesto yn barod i’r rhewgell.

Yn ddiweddar dan ni wedi bod yn casglu’r cnau ’Cob“, ac yn falch bod y wiwerod dim wedi eu ddarganfod.  
Ond gyda’r gwledd o fwyd, mae’r tymor yn symud ymlaen yn gyflym. Mae’r dydd yn byrhau, ac yn fuan bydd o’n amser i eistedd o flaen y tân ac i ddarllen yn hytrach na garddio.  Felly dwi wedi bod yn ymarfer dipyn ac yn ddiweddar wedi gorffen darllen Y Ddraig Goch – ac wedi mwynhau’r nofel yn fawr iawn.  Mae’n stori glyfar sydd yn symyd yn gyflym.
Ar y funud dwi’n mwynhau ‘This Boy’ gan Alan Johnson ond does dim llyfr Cymraeg arall ar y gweill.  Mi faswn yn gwerthfawrogi syniadau!

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Yn yr ardd

Dwi wedi bod yn gweithio’n galed yn yr ardd yn ddiweddar – ond serch hynny, mae gymaint o waith ar  ôl i’w gwneud.  Heno, roedd yr arolygion tywydd yn bygwth barrug – felly, rhag ofn, dwi wedi trio gorchuddio un rhes o’r tatws – y tatws newydd, gyda fflîs.  Does dim digon i orchuddio nhw i gyd! 


Mae’r borderi blodau yn edrych yn dda ar y funud, ond y llysiau sydd yn cael y rhan fwyaf o’r sylw: mae planhigion bach spigoglys a betys wedi cael eu trawsplannu; mae ffa wedi mynd i mewn a hadau moron a pannas a popeth wedi cael ei dyfrio: mae’r gwynt yn sychu’r ardd yn gyflym iawn.  Dyma ychydig o luniau o’r blodau:



Mae ‘na aelod newydd yn y perllan gerila: morwydden ifanc. 
 Anrheg oedd hon (penblwydd arbennig llynedd).  Ond dwi ddim yn meddwl bod fy ffrind wedi sylwi pa fawr ydy’r coeden yma yn tyfu – ond mi ddylai fod yn bosib cadw hi mewn dipyn o drefn gan ei bod wedi ei phlannu wrth y wal.  Beth bynnag, bydd dipyn o amser cyn i ffrwythau dod!

A ddoe, arbrawf newydd.  Daeth ffrind drosodd i arddio gyda fi – a wythnos nesa, dwi am fynd i wneud yr un peth yn ei gardd hi.  Y syniad ydy gwneud y garddio yn rywbeth mwy gymdasol – a cael llygaid newydd i weld be ydy be.  Clirio gwely’r perlysiau oedd y gorchwyl ddoe: roedd y mintus wedi dianc a cymryd drosodd, a roedd y gwely hefyd yn llawn o glas y gors (? forget me not). Mae hadau y phlanhigion yma yn gwasgaru a mae nhw ym mhob man – ond mae nhw’n hardd ac yn hawdd i dynnu allan.  Dyma’r gwely ar ol i ni orffen – digon o le i gael ychydig o berlysiau newydd.


Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Gwneud dipyn bach yn yr ardd

O’r diwedd dwi wedi dechrau gweithio ar yr ardd (ond dipyn bach…)  Er ein bod ni ddim wedi dioddef o dywydd drwg yn ystod y dydd (dim eira, a mae hi wedi bod yn sych, hyd yn oed heulog) mae hi wedi bod yn oer iawn ac yn wlyb ofnadwy dan draed (ar ôl yr holl glaw sy’n dod yn y nos).  Felly dwi ddim wedi teimlo fel gwneud llawer yn yr ardd, i ddweud y gwir – well mynd am dro a cadw’n gynnes.

Ond mae rhaid meddwl am archeb hadau ar gyfer y tymor garddio newydd (ar ol  gweld pa hadau sydd ar ôl yn y bocs), ac i gael mafon yn hwyrach yn y blwyddyn, rhaid tocio’r mafon sydd yn ffrwytho yn y hydref.  Felly dyna tasg bach dwi bron wedi gorffen.

A hyd y oed ym mis Ionwar mae rhai pethau yn blodeuo yn yr ardd  fel y “Japanese quince” gwyn yn y llun sydd yn blodeuo ym mis Ionwar ac yr erlysiau wedi bod allan am ryw wythnos rwan hefyd.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Yr ysgol galan rhan 2: tywydd garw a hwyl fawr

Parhaodd fy ymweliad i Gaernarfon a Fangor i fod yn wych.  Dwi ddim yn aros ym Mangor pan dwi’n mynd: dwi’n adnabod Caernarfon llawer gwell, a mae o’n hawdd iawn os dwi’n aros yn stryd yr Eglwys i bicio I fewn I’r Black Boy am bryd o fwyd neu wydriad o win…neu i un o’r tai bwyta eraill.  Ond cyn gwneud hynny roeddwn i isio ymweld a Palas Print.  ‘Roedd tocyn llyfrau yn llosgi twll yn fy mhoded.  A dyna be wnes i.  Mi faswn wedi medru prynu GYMAINT o lyfrau – mae sawl llyfr ar fy rhestr  – felly sut i ddewis?  Yn y diwedd, prynais nofel newydd Manon Steffan Ros, Llanw, a llyfr diwethaf Alun Cobb, “Sais”:  
doedd llyfr Russell Jones a Jen “O’r egin i’r Gegin” ddim ar fy rhestr o gwbl – a mae gen i lwyth o lyfrau garddio a choginio, ond rywsut mi wnaeth o fy hudo….. Dwi AM brynu hunangofiant John Davies, “Fy Hanes i”, ond unwaith r’oeddwn wedi prynu Dan ddylanwad gan John Alun Griffiths doedd dim digon lle yn fy mag, y tro yma (ar ôl prynu un neu ddau (neu fwy….)  lyfr ail-law hefyd yn siop elusen yr ambiwlans awyr).

Ond be am y cwrs? Ar yr ail fore, cawsom Ifor ap Glyn yn trafod ei farddoniaeth gyda ni.  Fel mae hi’n digwydd, yn ystod yr Ysgol Galan pedair mlynedd yn ôl mi ges i fy gyflwyno i farddoniaeth Ifor ap Glyn.  Clywais oddiwrth un o’r myfyrwyr eraill bod Oxfam yn Bangor yn lle da am lyfrau Cymraeg ac yn 2011, prynais lwyth o lyfrau yn cynnwys copi o “Golchi Llestri Mewn Bar Mitzvah”.  Wyddwn i ddim am yr awdur.  (Er fy mod wedi gweld Ifor yn clyflwyno rhaglenni ar y teledu, wyddwn i ddim pryd hynny ei fod hefyd yn sgwennu barddoniaeth).  Ond mwynhais rhai o’r cerddi yn fawr iawn a dwi wedi mynd ymlaen i brynu lyfr arall (heb fod yn ail-law!).  Beth bynnag, bore Mercher diwethaf gnwaethon ni drafod y cerdd “Hwiangerdd”, sydd yn drist, a wedyn cerdd mwy ysgafn a chafodd ei gyfansoddi ar gyfer cystadleuaeth, gan sôn am y rheolau o gynghaneddu yn yr ail gerdd.  Diddorol dros ben.


A wedi prynu Dan ddylanwad, dwi wedi ei orffen.  Llyfr ardderchog.  Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi darllen llyfrau John Alun Griffiths o’r blaen, felly mae ‘na ddau arall yn y gyfrol yn aros amdanaf.  Gwych!


A mi roedd yn dda cael llyfr da gyda fi, oherwydd erbyn gyda’r nos mi roedd y tywydd yn ofnadwy.  Dyma be oedd i’w gweld o’r ffenest yn y Gwely a Brecwast – dydy’r llun ddim yn dda – ond dach chi’n cael y syniad!


A felly be’ arall oedd i’w gwneud on swatio yn y Black Boy i gael rywbeth i fwyta ac yfed o flaen y tan gyda’r llyfr?


Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Sioe Malvern

Diwrnod allan heddiw – yn sioe Gwanwyn Malvern.  Es i yna gyda bedair ffrind sy’n aelodau o’r clwb llyfrau (Saesneg, Milton Keynes).  Aethom i Chelsea llynedd, a mwynheis y profiad – ond mae o’n ddrud, a mae ’na gymaint o bobl yna, felly roedden isio trio sioe arall eleni, a felly….. ffwrdd a ni gyda’r clwb garddio o’r gwaith, ar y bws.

Roedden ni’n disgwyl glaw trwm trwy’r dydd – yn ol yr arolygion.  Ond, cawsom diwrnod gyda ambell sbel fach o haul, ambell gawod a gwynt cryf iawn.  Doeddwn i ddim cweit wedi deallt nad sioe blodau neu garddio yn unig ydy’r sioe yma, ond sioe gwanwyn.  Felly doedd dim llawer o erddi i’w gweld.  Ond mi roedd ‘marqui’ mawr iawn fel yn Chelsea gyda bob math o stondina, a digon o stondinau bwyd a cynnyrch hefyd.  Dyma rhai o’r gerddi.  

A dyma planhigyn roedden ni i gyd am brynu – ryw fath o ‘scilla’ ond na, roeddent wedi gwerthu bob un.  
Felly yn y diwedd, prynais planhigion agapanthus, i gael ddipyn fwy o liw yn yr haf.  Mae gennyn ni un flanhigyn yn barod mewn pot yn yr ardd ffrynt.  Ond, wnaeth o ddim flodeuo llynedd, felly dwi am ei fwydo eleni ac edrych ar ei ol o, a dwi am drio rhoi ddau o’r blanhigion yn y ddaear, a dau mewn potiau, i weld beth sydd yn gnweud yn dda.
A fory yn ol i fy ngardd i, i chwynnu a symud rhai o’r blanhigion tomatos a phupurau i botiau mwy, ac y.y.b.  A dyma ychydig o luniau o’r ardd (fel y gwelwch, mae o wedi bod yn wlyb ofnadwy ar brydau).

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Bore Sadwrn: Galwad Cynnar

Mae o wedi dod yn arfar bore Sadwrn erbyn hyn.  Mae’r hen gi yn fy neffro fi ryw hanner awr wedi chwech (braidd yn gynnar, yn fy marn i…) a dwi’n dod i lawr y grisiau, gwneud paned a gwrando ar Galwad Cynnar ar radio Cymru- a pan mae’r rhaglen wedi gorffen, mae o’n amser mynd am dro.
Bore ’ma mae cofnododd o’r gog yn canu mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.  Yn Nghymru glywais i’r gog y tro gyntaf eleni – tra cerdded ar hyd arfordir Sir Benfro.  Ond hefyd mi glwyais y gog wythnos diwethaf hefyd – dim rhy bell o’n dre ni, mi ro’n yn medru ei glywed dros y caeau pan o’n i allan gyda’r ci.  Dwi’n cofio gweld saith gog (ia, saith!) blynyddoedd a blynyddoedd yn ôl, mewn dyffryn yng Ngogledd Cymru (dwi ddim yn cofio yn union lle roedden ni – r’oedden ni wedi mynd am bythefnos o gerdded).  Dwi’n meddwl fase hynny’n beth brin iawn, heddiw, gyda’r niferau yn gostwng.  Beth bynnag, yn fama, os dan ni’n lwcus, dan ni’n ei glywed o unwiath neu ddwywaith y flwyddyn, a dyna fo.  Ac wrth sôn am adar fudol, dan ni ddim wedi gweld gwenoliaid yma o gwbl eto eleni: eto, mi welais nhw yng Nghymru ond rywsut, dydyn nhw ddim wedi gwneud y siwrna i fama eto.
Mae Galwad Cynnar yn ffefryn erbyn rŵan: gymaint o wybodaeth a phethau ddidorol am bywyd gwyllt, natur a garddio hefyd, weithiau, a dechrau ardderchog i’r benwythnos.  Dydy’r adologyion am y tywydd ddim yn addawol, y penwythnos yma.  Dyma un o’n flodeuon yr afal goginio Bramley yn y glaw.  
Felly dwi’n disgwyl penwythnos o goginio (ffrindiau yn dod draw am bryd o fwyd heno) a darllen (gyda dipyn o waith yn y tŷ gwydr)…..

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Y penwythnos

Ddoe mi roedd digwyddiad yn y gweithle – “Photolearn“ – y cliw yn yr enw, fel mae nhw’n dweud.  Doeddwn i ddim yn medru mynd yn y bore ond mi es yn y p’nawn, gyda fy nghamera.  Prynais y camera llynedd, yn gobeithio tynnu mwy o luniau o adar a.y.y.b: mae’r lens teleffoto yn dda iawn. Ond wrth gwrs, ar ôl dipyn o arbrofi, fel arfer dwi ond wedi defnyddio’r camera ar ’automatic’ .  Felly amser i ddechrau dysgu mwy am y camera a dechrau trio pethau allan.  A do, mi wnaeth mynd i Photolearn roi dipyn o hwb i fi a dwi wedi bod yn trio pethau newydd – tynnu lluniau agos o flodau a phlanigion, a dymau rhai o’r canlyniadau:

Rhan o gastanwydden ydi hon.  Dwi’m yn siwr am y llun yma i ddweud y gwir.  
Dwi’n hoffi’r un yma – un o’r pys yn dechrau blaguro
Ac yn ola – y coeden Amelanchier, yn dechrau blodeuo.
Hefyd dwi wedi bod yn trio gnweud dipyn bach yn yr ardd.  Dwi’n meddwl efalla na ddylwn i trio tyfu pŷs melys.  Mi wnes i ddechrau ryw dwy fis yn ôl gyda’r hadau – a wnaethon nhw ddechrau flaguro – ond y diwrnod wedyn, roedd y llygod wedi bwyta’r lot.  (Digwyddodd hyn yn y tŷ gwydr).  Mi es ati eto – yn trio cadw’r llygod i ffwrdd, ond yn amlwg mae nhw’n glyfar.  Wedyn trio eto – a’r tro yma, mi ddechreuais y pŷs yn y lloft spar – a llwyddo.  Ond pan ddois yn ôl pnawn ddoe, roedden nhwn i gyd ar draws y lle  – y tro yma, fy ngŵr wedi cael damwain bach.  Felly, heddiw prynais planhigion o’r canolfan garddio.
Mae’r pŷs ar gyfer bwyta yn dod i fynny yn yr ardd (gobeithio bod y llygod yn cadw draw: ond y tŷ gwydr ydy’r problem yn y bôn) a mae tri res o banas wedi mynd i fewn.  Gawn i weld be ddigwyddith gyda rhain – llynedd, wnaethon nhwn ddim byd o gwbl.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Clwb Darllen Llundain, Bethan Gwanas a Gwenyn

Dwi’n meddwl bod ymuno a’r clwb darllen Llundain yn un o fy mhenderfyniadau gorau. Nos Lun diwethaf, daeth Bethan Gwanas i ymuno a’r clwb darllen Llundain a Fforwm Cymry Llundain am y noson.   Roedd aelodau’r clwb wedi darllen Hanas Gwanas – sydd yn llyfr difyr, bywiog –  a trist mewn llefydd. Un o’r pethau mwyaf diddorol i fi, (ond mae’n anodd dweud achos bod ‘na gymaint) roedd y ffaith ei bod hi wedi dod i werthfawrogi Cymraeg yn weddol hwyr yn ei phlentyndod.  Y brif reswm, meddai hi, am iddi hi beidio darllen Gymraeg, oedd diffyg llyfrau da, cyffrous a mewn iaith sydd yn adlewyrchu iaith y stryd: iaith mae pobol yn siarad.  A efallai bod hyn yn peth da – os dyna un o’r pethau i droi Bethan i fod yn awdures.  Roedd hi hefyd wedi gofyn i bobl ifanc pan roedden nhw ddim yn darllen llyfrau Cymraeg a’r ateb oedd – mae nhw’n boring, mae rhaid darllen nhw efo geiriadur gerllaw – a dim rhyw.  Felly aeth Bethan ymlaen i ysgrifennu’r fath o lyfrau roedd hi’n gobeithio bydd yn denu bobl i ddarllen yn y Gymraeg. A mae hi wedi llwyddo.  Roedd ei hunangofiant ar frig y restr o’r best sellers Cymraeg. A chawson noson gwych gyda hi.  
Prynais ei llyfr diweddaraf: Y Llwyth.  Ia, llyfr ar gyfer plant ydi o.  (Ond mae rhaid i fi gyfaddef, dwi’n hoff o lyfrau plant a mae nhw’n ffordd dda o ymarfer a’r iaith.)  Beth bynnag, mae o’n lyfr dda iawn – a dwi wedi sylwyddoli fy mod i heb darllen ei holl lyfrau i blant – felly mi fyddaf yn gyrru archeb i Palas Prints cyn bo hir.  Ac os dach chi ddim wedi darllen llyfrau bethan Gwanas – ewch amdani!  – ac os dach chi eisiau gweld Bethan mewn cyd-destyn arall – ewch i Clic i wylio Sioe Tudur Owen ar ddiwedd Ebrill, i weld y hwyl.

Y peth arall da a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf roedd y penderfyniad i wahadd blaladdwyr (pesticides) sydd yn debyg o fod yn niweidiol i wenyn.  Mi wn bod y dystiolaeth ddim yn gyflawn ond dwi’n meddwl bod gormod o berygl i beidio gwneud hyn a roeddwn yn falch iawn gweld bod Brwsel wedi gwneud y penderfyniad yma.


Dwi’n llawer hwyrach nag oeddwn i’n gobeithio yn postio hon: wedi bod yn dal i fynny efo’r garddio dros y penwythnos – mwy am hynny i ddod.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Cynnyrch o’r ardd, bwyta’n lleol a’r tylluan wen

Mae gymaint i gasglu yn yr ardd ar y funud: ffa,  tatws, betys,  ffa  Ffrengig yn dechrau dwad, courgettes ( o’r diwedd), ciwcymbr yn y tŷ gwydr, hyd yn oed tomatos yn dechrau aeddfedu a digonedd o ffrwythau meddal, yn cynnwys… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Llyffantod a penbyliau

Wel, ar ôl meddwl bod na ddim grifft eleni, edrychais yn y pwll dydd Sul diwethaf, a dyna lle roedd dipyn bach. Ond yn ddiweddarach yn yr wythnos, death mwy a mwy, ac erbyn bore dydd Iau, roedd digonedd yn y pwll a llyffantod hefyd fel gwelir yn y ll… Parhau i ddarllen