Canlyniadau Chwilio: s4c

Ailddysgu: Diwrnod ardderchog o Gymraeg

Cefais diwrnod bendigedig ddoe yn y Ganolfan yn LLundain ar cwrs undydd Cymraeg, gyda Gwen (Rice), brenhines y gramadeg, yn diwtor.  Dwi wedi bod yn trio meddwl a myfyrio am pam dwi’n cael cymaint of hwyl a be oedd mor dda.Chwech ohonon ni, cris c… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Un Bore Mercher

Dwi wrth fy modd gyda Un Bore Mercher, sydd ar S4C ar y funud.  Rhaid dweud, o’n i’n hoff iawn o Gwen yn Torchwood, blynyddoedd yn ôl a dyma Eve Miles, a oedd yn chwarae Gwen, yn y brif ran.  Gwych gweld bod Eve Miles yn chwarae rhan Gymraeg … Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Yn ol yn yr ardd



Gyda’r haul yn gwenu (wel, ambell waith) ddoe, a fina ddim yn y gwaith, roedd cyfle i wneud dipyn y yr ardd ac i dwtio’r tŷ gwydr ddoe.  Falle eich bod wedi sylwi nad ydwi wedi sôn llawer am yr ardd yn y blog yn ddiweddar – a hynny am fy mod ddim wedi gwneud llawer o gwbl dros y gaeaf.  Ond rŵan, mae rhan o’r tŷ gwydr yn dwt gyda’r gwlau yn barod am y tymor newydd.



Dwi wedi clirio tipyn ar yr hen pridd, ychwanegu compost newydd a hau letys, radish, moron, rocet a persil – a  wedi torri’r letys sydd wedi bod yna dros y gaeaf, fel ei bod yn tyfu dail newydd.


Felly mae pethau yn dechrau dwad, yn araf bach. 

Ac yn yr ardd, mae’r nionod a’r ffa llydan a aeth i fewn yn yr hydref hwyr yn dod ymlaen yn dda, a dwi wedi ychwanegu ychydig o blanhigion pŷs, diolch i’r stondin ar y farchnad, a dipyn o foron –  a sialóts.


A weithiau mae’r tywydd yn eich helpu – heddiw mae’n bwrw – a bydd hyn yn gwneud lles i’r planhigion ar ol wythnos eitha sych.

Yn ol yn y tŷ, dwi’n falch iawn gweld bod Porthpennwaig yn cael ei ailddangos ar S4C.  Mwynhais y gyfres yma y tro gyntaf, a dwi’n mwynhau o eto – ac yn y cyfamser wedi bod yn cerdded ar hyd yr arfordir hyfryd o gwmpas Aberdaron. Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Digwyddiadau Cymraeg

Dwi wedi bod yn cymryd rhan mewn llawer ddigwyddiad Gymraeg yn ddiweddar: mynd i weld y Tŵr, trafod y ddrama yn Llundain yn y clwb darllen, mynd i wylio adar yng Nghaernarfon ac o gwmpas yr ardal, ymuno a’r Gwyl Ddewi Arall – a dydd Sadwrn diwethaf, mi es i’r cwrs undydd yn LLundain, yn y Ganolfan Cymry Llundain.  A fel arfer, mi ges i amser gwych, a dwi’n gobeithio, mi wnes i ddysgu un neu ddau beth.  Rhyfedd fel dach chi’n defnyddio ryw strwythyr yn yr iaith heb feddwl amdano ond pan dach chi’n meddwl am y peth, dach chi ddim yn gwybod yr rheol!  Gofynnodd Gwen, y tiwtor, iddyn ni sgwennu brawddegau gyda ’bod’ a ’mai’ ynddynt – i ni gael drafod a deallt y gwahaniaeth.  Er i fi gael nhw i gyd yn gywir, a felly medru defnyddio nhw’n iawn, doedd gen i ddim clem, tan i mi edrych yn fanwl, pryd roedd ’mai’ yn cael ei ddefnyddion a phryd ’bod’.  Ond dwi’n gwybod rŵan.    Dwi’n mwynhau dosbarthiadau Gwen – fel ieithydd mae gen hi ddiddordeb dwfn mewn gramadeg, a dwi angen gweithio ar fy ngramadeg – a hefyd, mae gen i ddiddordeb mewn strwythyr ieithoedd.

Beth bynnag, does dim ddigwyddiad Cymraeg arall ar y gweill.  Felly, dipyn o ddarllen (llyfr clasurol Mihangel Morgan ar gyfer y clwb darllen Gymraeg) a llyfr sydd yn edrych yn ddiddorol ar gyfer ein grŵp darllen Saesneg.  Dipyn o sgwennu yn fama; a dipyn o wrando ar y radio (llawrlwythio mwy o bodlediau) a gwylio S4C….yng nghynnwys ail gwylio Porth Penwaig….a falle mi fydda i’n llwyddo i wneud dipyn fwy yn yr ardd.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Gŵyl Ddewi Arall – a llyfrau

Mi gefais amser ardderchog penwythnos diwethaf yng Nghaernarfon eto yn ymuno yn y Gŵyl Ddewi Arall.  Bethan Gwanas oedd y gyntaf i siarad ar fore Sadwrn, a fel arfer, roedd hi yn wych, (ac yn ffraeth) wrth sôn am y problemau a’r trafferthion mae hi wedi cael (ac yn cael) fel awdures.  Dwi wedi clywed hi’n siarad sawl gwaith a byth wedi cael fy siomi.  Mae gen hi llyfr newydd bach sydd newydd cael ei gyhoeddi – Bryn y Crogwr (ac ond am £1).  Ar gyfer plant hŷn mae o, i ddweud y gwir, ond os dach chi, fel y fi, yn mwynhau llyfrau plant mewn Saesneg A Chymraef, neu isio rywbeth sydd ddim rhy hir, swn i’n ei awgrymu.  Mae’n bwysig medru cael narratif gryf – stori dda – ac yn sicr mae Bethan yn gallu gwneud hynny.

Yr ail ddigwyddiad oedd clywed Ioan  Doyle yn sôn wrth Gwion Hallam am ei fugeilio a’i ddringo. Wnes i ddim wylio’r rhaglen ar S4C, dwn i’m pam, ond efallai rŵan mi fyddaf yn dal i fynny gyda clic.  Dyn ifanc, diddorol, sydd wedi gnweud gymaint mewn amser gymharol fyr, gan ei fod mor ifanc!

Gyda’r nos roedd cwis a chanu (Ciaridyms) – hwyl mewn bar eithaf newydd.


Ac er fy mod i wedi dweud na faswn yn prynu llyfrau y tro yma, mi wnes i brynu ychydig o lyfrau – yn cynnwys llyfr Bethan Gwanas (wrth gwrs) a hefyd nofel Tudur Owen, Y Sŵ.  Dwi wedi gorffen y ddau – a fel dwedais, mwynhais y stori gan Bethan, a dechreuais y Sŵ ar y trên.  Mae o’n dda iawn ac yn gwneud i fi chwerthin: yn sicr mae Tudur yn medru sgwennu – a gobeithio wir ei fod am sgwennu nofel arall. 

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Gwledd o gyfryngau Cymraeg

Dychmygwch eich bod yn beicio adre o’r gwaith ar noson oer ym mis Chwefror, a bod hi’n dywyll…… dyna be dwi’n gwneud fel arfer, ac yn y gaeaf allai fod yn ddiflas.  Ond gyda’r iphone (neu unryw ffôn “smart“), gallaf wrando ar bodlediau wrth beicio (a na, dwi ddim yn meddwl ei fod yn beryglus oherwydd dwi ond yn beicio ar llwybrau ar gyfer y beic, ac yn ffodus mae digon ohonnyn nhw yn MK).  Ac yn ystod y bythefnos diwethaf, dwi wedi cael gwledd!

Y rhaglen dwi’n gwrando arno mwyaf ydy Dewi Llwyd ar fore Sul.  Mae ei westeion o wedi bod yn ddiddorol tŷ hwnt.  Dwi wedi sôn yn barod am wrando ar Bethan Gwanas – a mae hi yn pwysleisio’r pwysicrwydd o gael bobl i ddarllen yn y Gymraeg: mae hi’n dweud ei bod hi wedi dechrau sgwennu ar gyfer y fath o berson sydd ddim yn darllen yn y Gymraeg fel arfer. Ar ôl gwrando ar Gareth F Williams, gwestai penblwydd arall ar raglen Dewi, sylwais ei fod o hefyd yn frwdfrydig dros y iaith, a dros cael pobl infanc i ddarllen yn y Gymraeg.  Yn ogystal a darllen bob llyfr Bethan Gwanas dwi’n meddwl fy mod wedi darllen bron bob lyfr gan Gareth Williams hefyd, a mae’n amlwg o’r gyfweliad gyda Dewi, bod llawer fwy o lyfrau ar y gweill! Ond cyn darllen mwy, bydd raid i fi ddarlle Awst yn Anogia, sydd yn eistedd ar y silff.  Mae rhai yn honni mae hon ydy’r nofel gorau yn y Gymraeg!
Wythnos diwethaf roedd gwestai arall arbennig (rhaid bod pobl diddorol iawn yn cael eu eni ym mis Ionawr a Chwefror!)  Tro Duncan Brown oedd o, naturiaethwr hynnod diddorol.  Cefais y fraint o gyfarfod a fo pan roeddwn yn Nant Gwrtheyrn haf diwethaf, ac ers hynny, dwi’n cyfrannu lluniau bob hyn a hyn i’r wefan Llên Natur.
A tra mae awdurion a naturiaethwyr yn siarad ar Radio Cymru, mae rhagleni da wedi bod ymlae ar S4C hefyd.  Dwi wedi mwynhau gwylio “Arctig Gwyllt Iolo Williams“.  Ac yn nes at fy milltir sgwar, dwi’n lwcus cael digonedd o lefydd i wylio bywyd gwyllt yn lleol.  Dwi ddim wedi cael  llun da o’r cudyll coch eto – ond dyma’r llun diwethaf.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dail yr hydref a blodau’r haf

Gwrandewais ar Galwad Cynnar ddoe (braidd yn gynnar i ddweud y gwir, erbyn 9 o’r gloch gyda’r nos, roeddwn isio cysgu) a clywed sgwrs am ddeil-bridd, a’r maeth sydd ynddo fo.  Llynedd roeddwn yn sôn am wneud ddeil-bridd gyda’r dail o’r strydoedd agos.  Dyma sut oedd y dail yn edrych ar y pryd.  Dyma sut mae nhw rŵan.  

Yn ôl y cyngor ar Galwad Cynnar, rhaid troi’r dail bob wythnos – rhywbeth na fyddwn yn gnweud gyda fy system i.  A mae angen ddwy flynedd i’r dail bod yn barod.  Felly, cyn casglu mwy o ddail bydd rhaid symud dail llynedd i rywle i adael iddyn nhw aeddfedu a torri i lawr.
Mae llawer o’r blodau yn parhau o hyd, fel y cosmos a’r blodyn y gwenyn.  Mae’n dda cael nhw o hyd gyda’r dyddiau yn byrhau a’r gaeaf yn nesau.

Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dechrau’r flwyddyn newydd – darllen a taith cerdded

Mae’r gaeaf yn amser dda i eistedd ar y sofa (neu yn y gwely) a dal i fynny gyda darllen llyfrau.  Dwi wedi bod yn darllen Yr Erlid gan Heini Gruffudd.  Hwn ydy’r llyfr a ennillodd gwobr y flwyddyn.  (Sori, mae’r ddolen i fersiwn Saesneg- methu ffeindio’r un Cymraeg ar y funud)
Dwi wedi darllen bron hanner y llyfr – a mae o’n dda iawn, ond dim, wrth gwrs, rhywbeth ysgafn, neu hawdd.  Mwynhais llyfr arall ar y rhestr Llyfr y Flwyddyn hefyd, sef Blasu, gan Manon Steffan Ros.  Mae hon yn nofel wych, fel sy’n cael adlewyrchu yn yr adolygiad yn golwg.
Hefyd dwi’n ail-ddarllen Wythnos yng Nghymru Fydd.  Hon ydy’r nofel dan ni am drafod ar ddiwedd y fis yn y Clwb Darllen Llundain.  (Gadewch i fi wybod os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno!)  Dwi wedi ei ddarllen o’r blaen a dwi’n mwynhau darllen hi eto – mae’r llyfr yn cydio o’r dechrau – a ffordd gwych am drafod dyfodol yr iaith – a pherswadio pobl i wiethio dros yr iaith.  Ond, r’on i wedi anghofio’r rhan o’r llyfr yn son am ddyfodol crefydd yn Nghymru – braidd yn ddiflas yn fy marn i. – yn enwedig am nad ydw yn grefyddol.


Dros y gwyliau , des ar draws raglen Pethe lle roedd Bethan Gwanas yn trafod ac edrych yn ol dros llyfrau 2013.  Roedd hwn yn rhoi syniadau ac awgrymiadau da am lyfrau i ddarllen.   Roedd Bethan yn canmol “Twll bach y clo”  gan Lleucu Hughes  a “Gwe o glymau sidan” .  Dwi am brynu y ddau lyfr o Palas Print – a tro yma, dwi’n gobeithio prynu nhw yn y siop , dim dros y we, achos dwi’n mynd trwy Gaernarfon yfory ar fy ffordd i Aberdaron am dipyn fwy o gerdded ar hyd yr arfordir.  Ond dydy’r tywydd ddim yn edrych yn addawol O GWBL.


Yn dilyn y rhaglen darganfais blog weddol newydd Bethan Gwanas: – lle may hi’n son am lyfrau:  llyfrau plant ydy’r rhan fwyaf – ond mae hynny’n iawn gen i!  Felly dwi’n gobeithio darllen: Eira Man ac Y Dyn Gwyrdd gan Gareth F Williams, ac efallai Y Gwaith Powdr – gan Sian Northey.

Digon i gadw fi’n mynd am y tro.


Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Garddio cymunedol a Tyfu Pobl


Dwi’n hoff iawn o’r cyfuniad o bwyd, garddio,(llysiau a ffrwythau yn enwedig) a gwneud pethau cymunedol.  Dydy fy ngarddio i ddim yn gymunedol, gan mai gardd  sydd gennyn ni, yn hytrach na rhandir.  Ond mae prosiect yn Wolverton, dim yn bell o lle dwi’n byw yn tyfu llysiau, ffrwythau a dipyn o flodau, ac hefyd yn  yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc mewn garddwriaeth (horticulture).  Enw’r prosiect ydy Growing People – sydd yn andros o debyg i Tyfu Pobl
 – cyfres newydd ar S4C, gyda Bethan Gwanas a Russell Jones.


Mi es i ymweld a’r “Urb Farm“yn Wolverton, lle mae’rprosiect; ryw bedair filltir i ffwrdd, dydd Sadwrn, gan bod Diwrnod Agored yna.  Mae gennyn nhw ddau acer a hanner 

– ac yn tyfu bob fath o lysiau, gyda cymorth gwirfoddolwyr, yn ogystal a’r hyfforddwyr, ac yn cadw gwenyn a ieir. Dyma llun cwch gwenyn gwyllt 



– a hanes y cwch, 


a  gwirfoddolwraig.  


Mae hi wedi dod ar sail  y cynllun “WOOF“ – “Working On Organic Farms“ ac yn aros yn lleol.  Ond mae gwirfoddolwyr o’r dinas hefyd yn cyfranu at y prosiect.  Mae gennyn nhw (Growing People) cynllun bocs llysiau gwahanol.  Yn lle cael bocs gyda beth bynnag mae nhw eisio roi i chi, a ffeindio bod gennych chi lwyth o fresych deiliog (neu be bynnag dach chi ddim yn hoff iawn ohono fo) mae’r prynwyr yn medru edrych ar y wefan i weld be sydd ar a gael yr wythnos honno – a wedyn archeb be yn union mae nhw eisio.  Syniad gwych!

Ar ol gadael, aethon i ymweld a pherllan gymunedol gerllaw sydd yn llawn o syniadau  a phethau gwych – fel y sied yma

– yn edrych fel rhywbeth o’r reilffordd, a’r olwyn perlysiau, i ddenu gwenyn a glöynnod byw 


– a gwybodaeth amdanyn nhw hefyd i’w chael:

  

A beth am hwn fel rhywbeth i wneud y pwll bach yn saff – ac yn atynidadol hefyd!


Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Pethau Cymraeg diweddar

Fel arfer dwi’n trio cyfrannu at y blog bob wythnos, weithiau mwy, os bosib.  Ond yn ddiweddar, dwi ddim wedi cael llawer o amser.  Felly dyma rhai gofnodion am bethau dwi wedi bod yn gnweud: pethau Cymraeg y tro yma – a efallai… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dim llawer o amser i flogio

Dwi ddim wedi cael cyfle  i flogio yn ddiweddar, na gweithio ar y cwrs: mae’r  gwaith wedi bod yn frysur iawn, a gyda’r tywydd braf, boeth, mae llawer o waith yn yr ardd hefyd.  Felly, ychydig o luniau i ddangos be dwi wedi bod yn gwneud… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: O’r ardd: y bwlch bwyta

Mae’r adag yma o’r flwyddyn yn cael ei alw “The Hungry Gap” yn Saesneg, oherwydd mae cynyrch y gaeaf wedi gorffen a dydi llysiau y gwanwyn a’r haf ddim yn barod eto.  Dwi ddim yn tyfu llawer o lysiau ar gyfer y gaeau: fel arfer mae … Parhau i ddarllen