Archives: Be ti Whilia Bachan!

Be ti Whilia Bachan! : Cymry wedi priodi â’r Tywysog

Gas gen i ddweud mai flogiad ynglŷn â William a Kate Middleton yw hwn ond ‘sneb ‘di sgrifennu un eto yn Gymraeg ta pin ni.

Un diwrnod sydd wedi bod a dwi wedi cael llond bol ar y teledu’n barod yr holl sôn am William hyn, William y llall,… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Cymru’n Deffro

Nawr dwi heb ysgrifennu cofnod am amser hir ac rwy’n ymddiheuro am hynny ond nid yw amser wedi caniatáu os gwedwn nhw.
Nawr mae lot wedi digwydd ers i mi sgrifennu’r cofnod diwethaf, Toriadau yng nghyllideb gwladol. Bygythiad i’n sianel Gened… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Gaeaf ar y ffordd.

Chi ‘di bod mas ‘na bore ma? Yffach ma ‘na gafael ar y gwynt heddi. Chi’n i deimlo fe’n syth, felly dyma fi’n penderfynu bod eisie cymoni’r ardd, cal gwared ar yr hen blanhigion sydd yn edrych braidd yn llipa a di-fywyd bellach a chwynnu rhwng y llwybr… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Pornograffi gyntaf y Gymraeg?

Wel ar ól ddarllen ‘tu chwith’ cyfrol 33: Croesi ffiniau, rhaid dweud fy mod i wedi’n plesio’n arw. Peidiwch á phoeni nawr os ydych chi’n camddeall y teitl gyda’r hyn ddywedais i. Os nad ydych chi’n ymwybodol ar beth yw ‘tu chwith’ Cylchgrawn/Llyfr s… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Geiriau gwag – GWARTH

Wrth wylio’r ddadl ynghylch y mesur iaith Gymraeg, anniddigrwydd yw’r unig air gallwn i ei osod fan hyn. Anniddigrwydd yn y cyfle a gollwyd i ddynodi yn swyddogol mae’r Gymraeg a’r Saesneg yw’r ieithoedd swyddogol. Mae hyn felly yn datgan bod gan yr ia… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Sbamiwr y Byd!

Wel wi ‘di bod fel milgi yn yr orie diweddar ‘ma? Pam? Achos s’dim byd well i neud ar ddydd Sul :) . Nawr chi siwr o fod yn meddwl beth ma’r boi ma’n clebran ambwyti?
http://www.facebook.com/pages/Na-i-DORI-adau-yng-nghyllideb-S4C-Rhaid-amddiffyn-ein-si… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : plaid y blaid fwyaf ar ôl etholiadau’r Cynulliad?

 
Plaid y blaid fwyaf ar ôl etholiadau’r Cynulliad?
Ar ôl wylio’r gynhadledd ar y teledu yn ddiweddar rhaid i mi gyfaddef fy mod i wedi ailennyn fy nghefnogaeth a fy malchder yn ein plaid Genedlaethol. Ers rhyw lawer roeddwn i’n anhapus… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Helen Mary quite contrary how does your garden grow!

Ymddiheuriadau am deitl Saesneg ond wyddwn i ddim yr un fath o frawddeg a all gyfleu’r hyn yn Gymraeg. Gwylio’r gynhadledd ydw i ar hyn o bryd, nid o Aberystwyth ond o Lanaman yn gynnes yn y lolfa :) . Serch hynny mae’r angerdd mae Helen Mary yn dangos … Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Cymry o hyd yn cwyno!

Wel diwrnod arall yn mynd heibio a dyw e ddim yn fy synnu i ar ba mor aml rhaid i bobl o Gymru gwyno am bob dim a phopeth. Doeddwn i ddim yn or-siŵr ar beth i ysgrifennu heddiw. Ond cwyno dwi am wneud nawr a chwyno nes oriau mân y bore mae’n sicr i c… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Paul Murphey? Dyma beth yw Llafur!

“When people voted for the devolution settlement in 1997, they voted for a package.
“That package was not simply the establishment of the Assembly, but the continuance of Members of Parliament, at that level, here in the House of Commons to prote… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Lap Wast :)

Wel s’dim thema penodol i’r blog yma i gymharu â’r blogiau eraill i gyd ond wel wn i ddim beth i ysgrifennu ond dwli a sôn am fywyd yn gyffredinol haha.
Nol yn y chweched, ac yffach mafe’n llusgo! Dyma’r drefn ar hyn o bryd, Codi’n y bore, Brecwast, … Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Cenedlaetholdeb neu Sosialaeth?

Ar ôl ysgrifennu cofnodau ar gyfer diwrnod pethau bychain ddoe, rhaid cyfaddef y mod i wedi cael rhyw awch o gyffro i barhau i ysgrifennu’n fwy gyson, sydd ond yn beth dda am wn i. Er ar ôl dweud hynny nad yw’r gwaith wedi dod yn llu o’r Chweched eto… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Cerdd ar yr Holocost ar fideo ar Youtube ar gyfer Pethau bychain

Wel dwi’n teimlo fel fy mod i wedi huno o’r bedd ym myd blogio’r  Gymraeg heddiw :) . A dwi’n falch ohoni hefyd. Dwi am bostio siwt gymaint  o e-lenyddiaeth os gweda nhw fel bod y Gymraeg yn weladwy ar y we a bod  y diwrnod yma, ein diwrnod ni y n tr… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Shwmae!!

Wel sai wedi cadw cofnod fan hyn ers ache ache ache,Perryg mae diffyg amser yw’r rheswm a dwi’n ymddiheirio’n arw am hynny. Wedi bod yn fishi iawn ers yr etholiad, Arholiadau Safon Uwch, Cwrs haf yn y Brifysgol yn Aberystwyth a nawr dwi’n dod nol am un… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : E e e e e Etholiad

Oni’n mynd i gadw’n dawel wythnos hyn a pheidio dilyn y tyrfa mawr o flogwyr sydd am flogio dros yr Etholiad, ond dyma ni dwi methu goddef aros mwy.
Bydd heno ma’n noson gyffrous yng Nghymru a byddai’n mynd i gysu yn syth pan daf nol o’m gwers gyrru am… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Heledd FYCHAN neu HELEDD FAWR?

Wel dwi wedi newid fy nghân yn llwyr parthed Heledd Fychan ac felly byddaf yn cysegru’r cofnod yma iddi hi!. Os ti’n darllen rhywle Heledd DA IAWN ‘na gyd sydd â fi i ddweud. Iawn ocê rwy wedi bod yn cadw swn ynglŷn â’r ffaith nid yw Heledd yn gwn… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Dadl Cymreig ar Sky News

Wel ware teg i Sky i ddechrau mae’r ddadl gwerth chweil ac yn llawer gwell na unrhyw ddadl PC gan y BBC. Mae’n braf gweld gwleidyddiaeth ar ei orau yng Nghymru OND.
Pwy rhoddodd tân ym môl Kirsty bore ma? Braidd yn chwythig yw ei gwylio hi yn dadlau … Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Seisnigrwydd yw’r ffordd ymlaen, yn ôl Plaid Cymru!

Wel ymddiheuriadau sai wedi cadw cofnod am wythnos neu ddau wedi bod yn fishi iawn yn yr ardd gyda’r tywydd braf yma ac yn adolygu  bob hyn a hyn hefyd. Y pwnc heddiw does dim osgoi’r Etholiad Gyffredinol felly dyna beth trafodaf â chi.
I ddechrau si… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Dod i arfer â’r blog ma!

Yffach sai’n hapus, Sgrifennes i gofnod bach neis yn sôn am Gymreictod ac mae’r cyfan wedi diflannu rhywsut a s’dim clem ‘da fi pam? Wi’n eitha da â Chyfrifiaduron hefyd felly nid diffyg dealltwriaeth mohoni. Wel sai’n mynd i sgrifennu’r un cofnod et… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : S4C i ddarlledu Sesiwn lawn y Cynulliad ar y brif Sianel??? Beth?

Cawsom ddatganiad heddi bod S4C yn mynd i ddarlledu sesiynnau llawn o’r Cynulliad ar nosweithiau Mawrth,Mercher a Iau yn ôl gwefan s4c ac mae’n dweud y canlynol ar wefan golwg.

Yn dilyn trafodaeth yn y Senedd ddydd Mawrth, 23 Mawrth, mae S4C yn cadar… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Dechre ‘sgrifennu blog

adam.jpg

Iawn wel ble i ddechre bois? Dyma’r tro cyntaf i mi ymgeisio ysgrifennu blog. Dwi ‘di bod yn meddwl amdano fe ers peth tro nawr ond heb eistedd i lawr a chymryd y camau i javascript:void()gychwyn un, Wel dyma fi a wi’n siwr byddwch chi gyd yn dadlau gyda fi ar ôl darllen ambell i gofnod bydd yn dilyn, Ymddiheuraf o flaen llaw os dwi’n eich sarhau chi gyda’m barn cryf a phendant ar nifer o bynciau. Prin yw’r blogiau Cymraeg i gymharu â ieithoedd eraill ond nid yw hynny’n fy mhoenni i, dwi ddim yn deall sut all Gymry-mamiaith ysgrifennu yn uniaith Saesneg ar y sail bod y gynulleidfa’n fwy siwr o fod, ond i fi nid nifer y darllenwyr sy’n bwysig ond yr egwyddor eich bod chi’n cofnodi yn eich mamiaith a sicrhau dyfal parhad iddi. Iawn dyna ddigon ar y cenedlaetholdeb am nawr, ond bydd hynny’n siwr o ddilyn cyn hir, dwi’n genedlaetholwr i’r carn a dwi’n gweud pethe fel dwi’n gweld nhw yn hytrach na cheisio bod yn sebonllyd ac eistedd ar gyrrion farn. Mae braidd yn hwyr felly well i mi gwpla ysgrifennu hwn nawr, ond parhewch i ddarllen byddaf yn ceisio cynnwys oleia’ 3/4 cofnod yr wythnos ar faterion wythnosol sy’n codi a phethau sydd yn fy nghorffi neu’n dod â boddhâd i mi. Gyda llaw dwi’n dueddol o droi’n dafodieithol iawn ar brydie, ond pacha ido os nagych chi’n deall gwedwch yn syth a wnai gynnig cyfieithiad i Gymraeg William Morgan i chi :) .

Iawn i’r Cae Sgwâr amdani, Nos da bois.

Comments

Parhau i ddarllen