-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: bethangwanas
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Llanast
Llwyddodd Beryl i godi £600 at elusennau drwy wahodd y cyhoedd i’w gardd! Da iawn Beryl. Dwi’n siwr bod y goeden blannais i wedi bod yn help mawr … Ond fydd fy ngardd i ddim yn barod i’w dangos i neb am sbel … sbiwch llanast: Gadewch i mi egluro… Roedd Mam yn gwaredu pan [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Beryl Tanybryn, Bontddu
Ges i ddiwrnod hyfryd yng ngardd ‘Anti’ ( dim perthynas) Beryl ddoe. Mi fydd ei gardd ar agor i’r cyhoedd drwy gynllun yr NGS ddydd Sul: Ac er fod y rhan fwya o’r magnolias wedi darfod, mae’r azaleas yn sicr yn werth eu gweld – a chymaint o bethau eraill hefyd. Mwy o luniau i [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Sioe Flodau yr RHS Caerdydd
Ia, gardd ydi hon a blodau, wel, planhigion, ydi’r rheina. Trên yn mynd o ardd reit wyllt, naturiol a gwledig i un ddinesig, daclus ar ochr arall y wal. Un o naw gardd ‘arddangos’ yng Nghaerdydd dros y penwythnos. Do, mi fuon ni’n ffilmio yno eto eleni, ac mi gewch chi weld y rhaglen nos [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Glaw, gwenyn a thrychiolaethau
Mae hi’n piso bwrw yma. Roedd yr ardd angen y glaw, ond dwi wedi cael digon o fod yn wlyb rwan. Mi ddylwn i fod yn sgwennu nofel i blant uwchradd ac mi fyddech chi’n disgwyl y byddai’n haws aros o flaen y cyfrifiadur ar ddiwrnod gwlyb fel hyn, ond am ryw reswm, nid felly [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Gwirioni efo gwenyn!
Ie, fy nghlust i ydi honna, a do dwi wedi prynu clust-dlysau gwenyn. Do, dwi wedi gwirioni braidd. Mae gen i hefyd bot mêl efo gwenynen arni, a theclyn i roi bagiau te efo gwenynen fach ddel yn y canol. Mae’r rheiny gen i ers Dolig a deud y gwir. Mae’r clwy gwenyn wedi cydio [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Cafn Llysiau
Wel, rydan ni wedi dechre ffilmio eto o’r diwedd. Tywydd bendigedig heddiw, a digon o hwyl yn trio rhoi trefn ar un o fethiannau llynedd, y ty gwydr ‘chwythu i fyny’. Roedd o wedi bod yn grempog ers i mi fynd i Seland Newydd fis Hydref (coblyn o storm o wynt yn fy absenoldeb). Dacw [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Mae’n altro yma …
Dyna’r ardd pnawn ‘ma – chydig o haul yn gneud gwahaniaeth tydi? Mymryn o liw o’r diwedd. Mae’r grug yn edrych yn dda, ac mae’r daffs y pen arall a’r eirlysiau yn hyfryd. Dechre meddwl am ffilmio rwan. Bu Rhian, y cynhyrchydd acw ddydd Mawrth i weld sut siap oedd ar bethe ac i drafod [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Chwefror 2012
Ro’n i jest isio dangos i chi pa mor brydferth ydi fy ardal i o’r byd. Ffrind o Ben Llyn ydi honna yn y pinc, ac roedd hi wedi gwirioni. Mae’r rhan yma o Feirion yn berwi efo llwybrau tawel fel yna, sy’n berffaith ar gyfer beicio. Coblyn o allt i gyrraedd fyny fan’na, cofiwch [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Syniad am anrheg i arddwyr
Chwefror yn barod?! Mae 2012 yn rasio heibio myn coblyn. Mi fues i’n tacluso a thocio dros y penwythnos, jest cyn iddi rewi. Siapio chydig ar goediach a gwrychoedd, fel eu bod nhw’n tyfu’n well pan ddaw’r gwanwyn. Mae’r bin brown yn orlawn, y bin compost yn llawn at yr ymylon a llwyth o stwffiach [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Dathlu a ballu
Nabod fama? Mae o yng Ngogledd Cymru … Meirionnydd …? Naci, nid Llyn Cynwch, ond Llynnoedd Cregennan. Rhywle sy’n hyfryd bob amser ond yn enwedig pan mae’r golau’n berffaith, fel hyn. Mi gymrais i hwn rhyw ddwy flynedd yn ôl, ond dwi newydd wneud calendr ( fymryn yn hwyr) ar fy nghyfer i a Mam, [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: 2012
Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd! Mi fues i’n tynnu a chadw’r addurniadau Nadolig i gyd heddiw – dim mynedd aros tan y 5ed. Maen nhw’n edrych yn rhyfedd unwaith mae’r flwyddyn newydd wedi cyrraedd yn fy marn i, yn hen a llychlyd rhywsut. Ond dyma sut oedd fy nghoeden i. Naomi fy nith [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Nadolig ac ati
Dyma i chi lun gan Robin, fy nai. Wrth fy modd efo fo! Felly dyna ddechrau Nadoligaidd i’r cofnod – yr un olaf yn 2011, mae’n siwr. Fydda i ddim yn blogio mor aml tra mae’r rhaglen oddi ar yr awyr, dim ond yn achlysurol, os bydd rhywbeth difyr a pherthnasol yn codi, iawn? Wedi [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Nadolig yn gynnar
Daeth y criw draw ddiwedd Tachwedd i ffilmio diweddglo’r rhaglen Nadolig, ac addurno fy ngardd i efo llwythi o bling! Gyda llaw, ymddiheuriadau am safon y lluniau ond bu farw fy nghamera bach yn Seland Newydd os cofiwch chi (dim ond £90 ges i’n ôl gan y cwmni yswiriant …) a dwi methu dod o [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Grotto gwahanol Parc Pontypwl
Rydan ni wedi gorffen ffilmio eitemau ar gyfer y rhaglen Nadolig. Wel, falle bod gan Russel un ar ôl – a llongyfarchiadau iddo fo a Jen ar enedigaeth babi rhif 2, hogan fach o’r enw Enid gafodd ei geni ar 11.11.11! Da de … Beth bynnag, gewch chi weld lluniau o’r diwrnod ola yn Ffrwd [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Y ty Gwydr
Ia, dyma be oedd yn fy nisgwyl pan ddois i’n ôl o ngwyliau – ac fel hyn mae o o hyd. Does gen i mo’r galon na’r mynedd i ffaffian efo fo, a phun bynnag, mae ‘na griw ffilmio yn dod yma wsnos nesa, felly dwi wedi ei adael iddyn nhw gael siot ohono fo [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Mel a ballu
Dyma lle fydda i’n beicio efo Del bob dydd. Pam trafferthu chwilio am olygfeydd tlws dros y môr dwch? Yn enwedig yn yr hydref. Ew, mae’n braf bod adre, ac yn braf gallu byw ym Meirionnydd. Yn enwedig pan mae gan rywun ardd sy’n denu a bwydo’r rhain: Do, dwi wedi bod yn prynu mwy [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Go the All Blacks!
Ffiw. Dwi mor falch bod y Crysau Duon wedi ennill y cwpan. Oedd, roedd hi’n gêm fler, a do, mi chwaraeodd Ffrainc yn dda, ond y Crysau Duon oedd i fod i ennill a dyna fo! Roedd y pwysau oedd arnyn nhw yn anhygoel, yn gwneud i’r pwysau oedd ar Gymru edrych fel pluen, ac [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Dan y dwr
Helo, ia, fi ydi honna ac ydw, dwi’n ôl yng Nghymru. Mi ddois i’n ôl jest cyn y gêm yn erbyn Ffrainc, diolch byth. Gobeithio y gwnawn nhw chwalu Awstralia wythnos nesa rwan, jest i brofi pwynt … Ond ges i amser da iawn yn Bali a Seland Newydd. Mi fydd raid i mi weithio [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Gwyliau!
Ydw, dwi’n cael mynd. Ie, i fan’no. I Seland Newydd – cwpan y byd, rygbi, kiwis, maoris … fydda i yno! Dim byd i neud efo Byw yn yr Ardd ( y gyllideb ddim cweit yn stretsho digon) ond rwan bod y ffilmio a’r trosleisio wedi dod i ben ( tan rhaglen y Nadolig wrth [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Ty’n Twll, Llanfachreth
Pan fydd dau artist yn cael eu dwylo ar ddarn o dir, dach chi’n siwr o gael gardd greadigol. Ac artistiaid ydi Pete a Sue Nicholls, sy’n byw ddim yn bell o gwbl ohona i. Mae’r ty i fyny ffordd fach gul sy’n dringo i fyny o lannau Pwll y Gele, sydd i fyny’r ffordd [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Dewstow, Sir Fynwy
Da ydi Facebook. Drwy hwnnw ges i neges gan Bethan Edge ( Bethan Maffia Maniac ers talwm, am ei bod hi wedi gwirioni efo Maffia Mr Huws) yn deud ei bod yn byw yn Sir Fynwy bellach a bod ‘na ardd wych wrth ei hymyl. Felly dyma sbio ar wefan yr ardd, neu’r gerddi hynny [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Enlli
Rydan ni wedi trio ddwywaith o’r blaen i ffilmio ar Enlli, ond mae’r tywydd wedi cowlio pethau bob tro. Ond ddydd Mercher, o’r diwedd, gawson ni dywydd perffaith – Enlli amdani! Brecwast yn Nhy Newydd, Aberdaron am 5.45 ( yyyy) a dyma’r olygfa ym Mhorth Meudwy jest cyn gadael ar y cwch efo Colin: Y [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Y gwenyn – a’r mêl!
Drapia’r glaw yma. Roedden ni fod i ffilmio mewn dwy ardd NGS ddydd Iau ond bu’n rhaid gohirio. Ond ro’n i wedi mynd i weld y ddwy – Tyn Twll, Llanfachreth a gardd ‘Anti’ Beryl ( dydi hi’m yn fodryb i mi, ond mae hi’n nabod Cadi FFlur yn dda) yn Bontddu a dan ni’n [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Nôl o’r Steddfod
Ges i ryw 3 noson a 3 diwrnod yn y Steddfod, yn cysgu yn fy nghampafan am fod adlen fy rhieni, lle ro’n i i fod, wedi malu. Fel mae’n digwydd, ges i le gwell na nhw yn y diwedd am fod y maes parcio reit wrth ymyl y cawodydd, y tai bach, y siop [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: zoomio!
Dwi wedi cael benthyg zoom lens Ioan Morgan, yn ogystal â’i declyn ‘charjio’. Ac wrth gwrs, doedd na’m golwg o’r adar diddorol wedyn, dim ond titws a llinosiaid ac ati. Ond ro’n i wedi gwirioni efo’r titw bach yma oedd yn dangos diddordeb mawr yn y pegiau ar fy lein ddillad … Dim clem pam, [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Ffrwd y Gwyllt efo camera da
Dwi wedi colli charger fy nghamera da ( Nikon D3000) ers misoedd. Dim clem ble dwi wedi’i roi o. Felly wythnos dwytha nes i archebu un newydd drwy’r we – un oedd i fod i allu ‘charjio’ pob math o fatris, yn cynnwys y D3000. Hy. Dwi wedi methu gneud pen na chynffon ohono fo. [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Ffrwd y Gwyllt efo camera da
Dwi wedi colli charger fy nghamera da ( Nikon D3000) ers misoedd. Dim clem ble dwi wedi’i roi o. Felly wythnos dwytha nes i archebu un newydd drwy’r we – un oedd i fod i allu ‘charjio’ pob math o fatris, yn cynnwys y D3000. Hy. Dwi wedi methu gneud pen na chynffon ohono fo. [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Ffrwd y Gwyllt, rhedyn a chyfres newydd
Dwi’m wedi bod yn ffilmio wsnos yma, felly dyma gyfle i ddangos chydig o luniau o Ffrwd y Gwyllt i chi. Cofio Carol a finne’n cael gwared o hen wrych hebe oedd wedi tyfu’n llawer rhy fawr? Wel, o flaen y bobyn, nes i blannu’r heuchera welwch chi ar flaen y llun, a gan fod [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Mostyn
“Mae ‘na fistar ar Mistar Mostyn.” Dwi wedi clywed y dywediad yna droeon dros y blynyddoedd ond doedd gen i’m clem pwy oedd Mistar Mostyn – tan yn ddiweddar. Y teulu Mostyn oedd un o’r teuluoedd cyfoethocaf yng Ngogledd Cymru, nhw ddatblygodd Llandudno a’r stad pia ei hanner o hyd, a dyma’r hen blasdy: Mae’n [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Y Gampfa Werdd, Guto a’r Felinheli
Dwi wedi dod dros colli fy ngwybedogiaid. Bosib eu bod nhw’n rai sydyn iawn am ddysgu hedfan ac wedi gneud hynny tra ro’n i i ffwrdd? Ond go brin. O wel. Flwyddyn nesa falle. A phun bynnag, mae’r gnocell fraith leiaf – a’i phlentyn yn dod i’r ardd bob dydd, a’r un ifanc yn bwydo [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Gwybedog Brith!
Wel nefi wen, be ddeudis i? “Ond yn sicr, nid gwybedogiaid brith mohonyn nhw – dwi’m di gweld un o’r rheiny acw eleni eto. Byw mewn gobaith.” Dwi bellach wedi sylweddoli mai gwybedogiaid brith ( pied flycatcher) sydd wedi nythu yn y bocs, nid titws. Sylwi ar swn deryn blin wnes i wrth gloi drws [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Adar!
Wel, daeth Iorwerth o Gwmni Da draw neithiwr, ac wele lun o’r bocs adar: Ia, du a gwyn ydi’r llun sori, ond mae gen i sain hefyd felly dwi’n gallu clywed yn ogystal â gwylio’r 4 cyw yn mynd yn wallgo bob tro mae’r rhiant yn dod a bwyd iddyn nhw. Dwi’n meddwl mai titws [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: y bocs adar efo camera
Weihei! Mae ‘na gywion yn y bocs adar sydd â chamera ynddo fo! Ond dwi’m yn cofio sut i gael llun ar y teledu …
Unwaith gai gyfarwyddiadau gan Aled ( sy’n dallt y pethe ma) mi wnai gymryd llun o’r hyn fydd ar fy nheledu.
… Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Llundain a chur pen
Nos Sul: Mae gen i hymdingar o gur pen ar hyn o bryd. Blinder ar ôl pythefnos hurt o brysur a barbeciw dathlu priodas aur fy rhieni heddiw. Yyyy. Roedd y barbeciw’n llwyddiant mawr ac roedd yr haul yn tywynnu, diolch byth, ond dwi’n difaru mod i wedi cymysgu Pimms a siampên sgawen. A heb [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Kensington a Caio
Blog sydyn cyn mynd i weld fy ngor-nai ( great nephew?!) newydd, Caio Gwilym. Llongyfarchiadau i Leah a Gareth, y rhieni, a gobeithio y gwnaiff o dyfu i fod â bysedd gwyrddion ac i chwarae rygbi i Gymru! Dwi am ddefnyddio chydig o ‘r golofn Herald sgwennais i ( ail-gylchu – pam lai?) felly dyma [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Bwlch y Geuffordd
Jim a Gay Acers ydi’r ddau yma, a nhw yw perchnogion un o’r gerddi hyfryta i mi ei gweld eto! Bwlch y Geuffordd ydi’r enw, mewn man anghysbell iawn yn ochrau Bronant, rhwng Aberystwyth a Thregaron. Mae’n rhan o gynllun yr NGS felly os gewch chi gyfle i fynd yno, cerwch da chi. Y peth [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Caerynwch
Wedi bod yn sbio ar y gwenyn efo Carys pnawn ma! Maen nhw’n edrych yn ddigon hapus, ond roedd y bwced o ‘fwyd’ ( siwgr wedi’i doddi) yn wag felly bu’n rhaid i mi doddi llond sosban iddyn nhw. Y tywydd gwlyb, gwyntog sydd wedi bod yn eu cadw rhag nôl eu bwyd eu hunain, [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Y gwenyn
A dyma ni, fy nghwch gwenyn newydd sbon danlli. Gewch chi weld y trafferth gawson ni’n ei rhoi at ei gilydd yn y rhaglen ar ôl wythnos Steddfod yr Urdd… Carys sydd ar y dde a fi ydi’r blob mewn lilac. Wel … haws ei gadw’n lân na gwyn tydi? Dyfan Davies ein dyn sain [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Gwenyn ( prysur a go iawn) a’r ardd fis Mai
Welsoch chi’r rhaglen neithiwr? Doedd priodas a blodau Sioned yn edrych yn wych? Llongyfarchiadau i ti Sioned, a phob lwc! Ond eitem y ‘Gwenyn Prysur’ oedd gen i, a dyma i chi lun roddodd Selwyn, perchennog yr ardd ar ein gwefan Facebook ni, a llun arall o Sion, Andrew ac Emyr efo fi. Criw da! [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Rhywbeth yn bwyta fy mhenbyliaid!
Ro’n i’n hel algae o’r pwll y diwrnod blaen a dyma sylwi bod nifer y penbyliaid wedi mynd i lawr yn arw. Hm. Gena Goegs? Creyr Glas? Ond naci, gyfeillion, rhyw greadur nad o’n i’n gwbod am ei fodolaeth o’r blaen! Ro’n i wedi sylwi ar rywbeth bach tebyg i sgorpion yn nofio o gwmpas [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Duncan Brown a gwyfynnod
Mae’n siwr eich bod chi, fel fi, wedi clywed llais y naturiaethwr (gwybodus a thrylwyr sydd â diddordeb arbennig yn hanes naturiaethol Cymru), Duncan Brown ar y radio ganwaith, ond dyma sut mae o’n edrych: Dydi o’m yn hoffi cael tynnu ei lun – tueddu i edrych yn gas – felly dyma un arall efo [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Camelia
Wps – dwi ar ei hôl hi efo’r blog wythnosol. Dwi wedi bod yn brysur, sori. Wel? Dach chi’n mwynhau gweld BYYA yn ôl ar y sgrin? Eitemau digon difyr does? Roedd hi’n amlwg mod i wedi cael llond bol yn trio rhoi’r ty gwydr i fyny doedd? A dwi ddim yn hapus efo fo [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Yr ardd ganol Ebrill
Dwi wedi bod yn dawel efo’r blogio am mod i wedi bod yn ffilmio’n y de – Cyfres newydd efo Tudur Owen – ‘Byw yn ôl y Papur Newydd’, a’r 1920au y tro yma. Coblyn o hwyl ond gwaith caled, ac ar ôl trio dawnsio’r charleston ddoe, mae fy mhengliniau’n sgrechian heddiw. Ta waeth, hyfryd [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Y Border Bach
Mae’n siwr mai chydig iawn o bobl sy’n darllen blogiau sy’n cofio cerdd ‘Y Border Bach’ gan Crwys. “Gydag ymyl troetffordd gul A rannai’r ardd yn ddwy, Roedd gan fy mam ei border bach O flodau perta’r plwy…” ayyb. Na? Cofio dim? Efallai bod ‘Melin Trefin’ yn canu cloch ta? Fo sgwennodd honno hefyd, ond [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Cornel gysgodol a hebes
Reit, dwi’n nacyrd. Newydd fod yn trio achub tair coeden sydd wedi cael eu crogi gan wyddfid yn dawel bach heb i mi sylwi. A rwan mae gen i fynydd o wyddfid a darnau o goed wedi pydru ar fy lawnt ac mae nwylo fi’n brifo, heb sôn am fy nghefn. Nai gymryd llun ryw [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Colofn Herald wsnos yma
Dyma’r golofn oedd yn yr Herald heddiw. Byddaf, mi fyddai’n sgwennu am arddio yn fanno hefyd weithiau, felly i chwi bobl y de neu Gogs sy’n rhy dynn i brynu’r Daily Post ar ddydd Mercher ( pan mae’r Herald Gymraeg ynddo fo), dyma fo ( ond efo llun neu ddau) ( O, a dwi’n sylweddoli [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Seren Fach – sgynnoch chi flodau sbâr?
Mae ein hen gapel Methodist ni yn y Brithdir wedi ei droi’n feithrinfa: ‘Seren Fach’ – enw da o gofio hanes yr adeilad ynde? Wel, mae’r lle wedi ffynnu a thyfu a chael estyniad a gardd chwarae newydd, ond mae angen planhigion, felly es i draw yno efo Carol Gerecke wythnos yma. Dyma hi efo [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: y bali ty gwydr…
Wedi cyrraedd adre’n hwyr iawn o Lundain neithiwr ( trên Aber wedi mynd hebddan ni gyd, oherwydd problemau ‘overhead cables’ yn Euston, felly tacsi i Mach o’r Amwythig – nhw oedd yn talu – efo gyrrwr tacsi oedd ddim yn stopio siarad, Chinese oedd methu siarad gair o Saesneg na Chymraeg heblaw ‘thank you’ a [...]
Parhau i ddarllen
















































