Archives: Blog Aneirin Karadog

Blog Aneirin Karadog: Peidio Canoli’r Eisteddfod

Peidio Canoli’r Eisteddfod

(Danfodwyd hwn at: meinir.thomson@cymru.gsi.gov.uk )

Annwyl Ms Thomson, Leighton Andrews A.C. a Phwyllgor Adolygu’r Eisteddfod,

Ysgrifennaf atoch o safbwynt personol ac yn rhinwedd fy rôl fel Is-gadeirydd pwyllgor llenyddiaeth Eisteddfod Sir Gâr 2014 i ddatgan fy mhryder gwirioneddol am yr adroddiadau yn y newyddion sy’n codi o drafodaethau Pwyllgor Adolygu’r Eisteddfod Genedlaethol a lawnsiwyd gan Leighton Andrews AC ac a gadeirir gan Roy Noble.  Deallaf nad yw’r rheol Gymraeg yn cael ei thrafod o gwbwl, ond os ydy hi, hoffwn ddatgan pwysigrwydd ei chadw gan fod y rheol Gymraeg yn sanctaidd ac yn hanfodol i fodolaeth a chynhysgaeth yr Eisteddfod. Y Gymraeg a’r ffaith mai dyma unig iaith swyddogol yr Eisteddfod sy’n ei gwneud hi yn ŵyl unigryw i’r byd.  Y’r elfen arall sy’n handofol i’w llwyddiant sydd hefyd yn ei gnweud hi yn ungryw yw’r ffaith ei bod hi yn teithio yn flyndyddol ledled Cymru.  Mae’r posibilrwydd y gallai ein gŵyl genedlaethol gael ei lleoli mewn dau safle parhaol yn fy mhoeni yn ddirfawr.

 

Rwy’n ymwybodol fod yna rai wedi lleisio barn o blaid cadw’r eisteddfod mewn un neu ddau safle parhaol yn y gorffennol ac er yn parchu eu hawl i leisio barn ar y mater, rwy’n eithaf sicr mai lleiafrif bychan sy’n cytuno â’r farn hon. Rwy hefyd yn grediniol y byddai lleoli’r eisteddfod mewn un neu ddau safle parhaol yn achosi niwed mawr nid yn unig i ddyfodol yr Eisteddfod ei hunan ond hefyd i ddyfodol yr iaith Gymraeg.

 

Un o’r prif nodweddion sy’n denu cymaint i’r Eisteddfod o flwyddyn i flwyddyn yw’r ffaith ei bod hi yn teithio ledled Cymru gan fod pob ardal o Gymru a thrigolion y gwahanol ardaloedd hyn y mae’n ymweld â hi yn hawlio a theimlo perchnogaeth o’r ŵyl, boed yn aelodau o’r pwyllgorau gwaith lleol, dawnswyr y blodau, cystadleuwyr, perchnogion busnesau, stiwardiaid, pobl ddigymraeg yr ardal, plant, rhieni, a rhestr hirfaith o enghreifftiau eraill y gallwn eu crybwyll.  Mae pobl yn teimlo angerdd, perchnogaeth, cariad a balchder tuag at yr Eisteddfod, ac felly tuag at y Gymraeg wrth wybod ei bod yn dod i’w bro.  Mae yna bobl sydd ond yn mynd i Eisteddfod pan y mae hi’n ymweld â’u bro nhw.

 

Wrth gwrs, nid pawb sy’n gwirioni yr un fath ac mae yna gymry da mas yna sy’n methu goddef yr Eisteddfod a’r tebygolrwydd yw na fydd byth modd denu rhain i fynychu’r Eisteddfod yn rheolaidd.  Ond mae amryfal ffyrdd o geisio denu rhain tu hwnt i ganoli’r Eisteddfod.  Y gwir mawr yw y byddai y bobl a grybwyllir yn y paragraff uchod yn debygol o gael eu colli i’r Eisteddfod ac yn cael eu hamddifadu yn eu tro o flasu enghraifft brin a gnweud cyfraniad i ddiwylliant uniaith Gymraeg lle mae modd i bawb am wythnos beidio gorfod brwydro i gael byw yn Gymraeg a dathlu eu cymreictod a’r holl elfennau sy’n cyd-fynd â hynny fel rhan o’u diwylliant cymraeg a chymreig.  Mae gallu profi wythnos debyg o safbwynt dysgwyr hefyd yn rhywbeth bythgofiadwy a hanfodol i’w perchnogaeth nhw o’r Gymraeg.


 

Trwy sefydlu safle parhaol i’r Eisteddfod collir lliw unigryw pob ardal sy’n ei chroesawu a’r gydbertynas o roi a derbyn sy’n ei gwneud yn ŵyl lwyddiannus.  Y berthynas rhwng y bobl leol a drefnodd neu gyfrannodd i lwyddiant y brifwyl a chyfraniad ymwelwyr o bob cwr o Gymru i’r ardal dan sylw.  Collir felly yr awydd i roi ac yn y pen draw derbyn unrhyw flas o ddiwylliant Cymraeg. Fe fydd yr Eisteddfod heb os nac oni bai yn y ffurf a drafodir yn troi yn ŵyl ddiflas, di-liw, digyffro a gwae ni, yn ddi-gymraeg!

 

Mae yna fân bethau sydd angen eu lled-newid a’u perffeithio am yr Eisteddfod, un o’r rheiny yw newid natur y bar a’r llwyfan perfformio sydd ar y foment yn cadw pawb a phopeth o fewn muriau Ghetto-aidd y maes.  Mae angen i bobl deimlo cyffro a chynnwrf y strydoedd, bwytai, tafarndai a chanolfannau lleol ym mro wadd yr Eisteddfod gan ddangos presenoldeb yr iaith yn y llefydd hynny felly. Byddai canoli’r Eisteddfod yn ein gwneud yn fwy caeedig a di-lais. Mae’n frawychus meddwl fod yna ardaloedd o Gymru a allai beidio byth gweld, clywed na theimlo’r Gymraeg mwyach yn y modd y gnweir yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

 

Rwy’n teimlo nid yn unig yn frwdfrydig ac angerddol am y Brifwyl, ei bodolaeth a’i pharhad ond hefyd yn ingol a thrist wrth feddwl fod yna bobl a allai wneud penderfyniadau sy’n niweidiol iddi.  Rwy’n barod i drafod y mater hwn ym mhellach gyda phwy bynnag sy’n gyfrifol yn y pen draw am ddyfodol ein Prifwyl.  Rwy hefyd yn barod i wneud beth bynnag sydd ei angen hyd eithafion(mewn modd heddychlon wrth gwrs!) os oes yna awgrym y bydd y Brifwyl yn cael ei lleoli mewn canolfan neu ganolfannau parhaol.

 

Hoffwn hefyd gloi y llythyr hwn trwy ofyn yn barchus ac yn ddiffuant pa hawl sydd gan un dyn i benderfynnu ac apwyntio pwyllgor o ambell i unigolyn sy’n anemocrataidd ac yn cael yr hawl terfynol i benderfynu ar fater sy’n berthnasol i filoedd ar filoedd o bobl ac yn y pen draw yn effeithio ar ddyfodol un o ieithoedd prinaf a hynaf Ewrop?  Nid diwedd y gân fydd y geiniog ar y mater hwn.

 Yn gywir,

Aneirin Karadog.

Parhau i ddarllen

Blog Aneirin Karadog: Marwnad Mawrth

                                           Marwnad Mawrth

Anialwch yn drwch

a’r holl hanes ar drai …

Ei glannau a’i hafonydd,

ei chymoedd dyfnion a’i lonydd,

y rhesi o risiau cywrain

a fu’n arwain tua’r temlau.

Tiriogaethau ei brenhinoedd

a holl leisiau ei llysoedd,

ei thelynau a’i chynghanedd

am gelanedd a buddugoliaethau.

Cof y chwedlau a’r caneuon,

yr ieithoedd a’r acenion,

cariad yr aelwydydd oll

a’r chwerthin ar goll gyda’r dagrau.

… A’r cyfan yn llwch coch.

Parhau i ddarllen

Blog Aneirin Karadog: Erthygl i Cambria Magazine

 

Singing from the heart

(a review of the film ‘Kan ar Galon – Bro Gozh ma Zadou’ by Aneirin Karadog)

 

As a half Welsh and half Breton man who speaks both languages, I was intrigued to receive this dvd which explores the Breton national anthem and its origins. The half hour long documentary by Mikael Baudu, a respected and experienced journalist and filmmaker in Breizh (Britanny in Breton), is available to view in both Breton and French so is accessible to a wider market than Breton speakers alone.

 

The opening scenes tell us that Brittany and Cornwall share the Welsh national anthem and have quite similar lyrics, which immediately raises questions in the viewer’s mind. How and why is this the case? From which country  does the anthem originate?  Is it recognised nationally or by mere factions within the three Brythonic Celtic nations? I hoped that the next half hour’s viewing would answer these questions.

 

Baudu’s film opens with Bro Gozh Ma Zadoù being sung by thousands in the Stade de France in 2009 when two Breton teams, Rennes and Guingamp battled each other in the final of the French Cup.  With Gwenn ha du flags creating a current of Breton nationalism to go with the flow of the national anthem, and none other than Alan Stivell himself there to lead the singing, never before had the national anthem, and indeed the Breton language, been allowed to breathe so freely in the centre of Paris. French newspapers carried Breton headlines and although one team had to lose on the day, all Breton people present in the stadium and viewing the game at home felt that something bigger had been gained.

 

To explain the significance of this moment, if people think that the Welsh language is still on the edge and faces an insecure future, then Brezhoneg (the Breton language) is on such a thin ledge that its existence hinges on chance encounters between two Breton football teams in the final of the French cup.

 

In Brittany, there exists a strong pride in being Breton with its rich musical and gastronomical heritage, but there is also a passive acceptance that the principal nationality is French. The French unitary state has succesfully quashed efforts at devolution, but the fight for the Breton language’s survival goes on, through initiatives such as Breton medium schools (skolioù Diwan), which have received next to nothing in funding from the French state, and mayoral efforts in various towns and villages in Breizh to use the language in official settings and events.

 

With that context in mind, let’s return to the content of the film and whether or not it succesfully answered my questions about the origins of the anthem. I’m glad to say that it did, as it took me from  Wales with the Eisteddfod and its Gorsedd, to Cornwall and Brittany where similar institutions were established. Through the medium of talking head interviews with several people, including members of Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, we are told that the original Welsh verison of the anthem, Hen Wlad fy Nhadau, was written by Evan James and his son James.

 

The Bretonisation of the Welsh anthem came about through William Jenkyn Jones, a Welsh  Protestant missionary in Quimper.  Jones influenced the composer of the Breton version of the anthem  François Jaffrennou, later known as Taldir as he was annointed in the welsh Gorsedd. The Cornish version of the anthem, Bro Goth Agan Tasow, was then tranlated by Henry Jenner, a Cornishman with connections to Brittany and the Welsh Gorsedd, thus creating a Brittonic triumvirate of shared culture.

 

One interesting point that Baudu makes is that the anthem has proven its worth as a uniting force in Cymru, Kernow and Breizh alike. The Welsh love to sing it before a rugby game, at the end of concerts, eisteddfod ceremonies, and down the pub when the wheels are well oiled.  The people of Cornwall take pride in singing it as they fight for any kind of acknowledgment of their national identity from Westminster, and as they seek to rekindle the flame of the Kernewek language.  The people of Breizh are not only binded through it in the final of the French cup, but also at times of crises in their recent history – in the nazi camps as well as in public meetings to condemn the polluting of the coastline caused by the Amoco Cadiz oil spillage in 1978.

 

The shared anthem is therefore a quirk that reminds us of the ties between the Brythonic Celtic countries, a link that is often forgotten by many. 

 

If there is a criticism to be made of the film, I would say that framing of the camera shots on many of the talking heads leave a lot to be desired, but perhaps this was the intended style. On the whole, an enjoyable half hour, though you will need to have a grasp of either French or Breton to be able to view the film.  One more thing, don’t be alarmed if this film is goves you your first glimpse of the Breton folk rock band, Tri Yann – not all people in Britanny have  mad bleach blond hair and a sboran in the form of a crab! Mad tre!

Parhau i ddarllen

Blog Aneirin Karadog: sancochodeojo: Dia 29- mis amigos.

sancochodeojo:

Dia 29- mis amigos.
Parhau i ddarllen