Archives: Blog Y Byd

Blog Y Byd: Grant Cyngor Llyfrau

Ar 29 Mai 2008, dyfarnwyd y £200,000 flynyddol a glustnodwyd gan y Gweinidog Rhodri Glyn Thomas ar gyfer datblygu’r wasg Gymraeg i Golwg Cyf. Rydym yn dymuno’n dda i Dylan Iorwerth a’r cwmni.
Rydym yn naturiol yn siomedig bod ein cynllun ni wedi’i wrthod – cynllun cyffrous gydag argraffiad wythnosol o 25,000 a gwefan gyda newyddion [...] Parhau i ddarllen

Blog Y Byd: Cerdd i Y Byd gan Mererid Hopwood

Saesneg yw iaith yr amserau,
a Saesneg yw iaith y dail,
Saesneg yw mêl y gorllewin gwyllt
a Saesneg yw iaith yr haul.
Saesneg yw’r annibynnol,
a’r ceidwad sy’n ein cadw ni gyd,
cans fe gollon ni’r cyfle i newid y drefn,
a rhoi Cymraeg yn iaith i’r byd.
A thro bo cynifer yn gweiddi,
a’u cegau nhw led y pen,
ni all fod [...] Parhau i ddarllen

Blog Y Byd: Adolygiad o’r Wasg

Fe gyhoeddwyd arolwg Dr Tony Bianchi o’r wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg y bore yma.
Mae’n cynnwys gwybodaeth ac argymhellion diddorol iawn.
Mae’r adroddiad cyflawn wedi ymddangos ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg
http://www.bwrdd-yr-… Parhau i ddarllen

Blog Y Byd: Datganiad Y Byd

Mae Cadeirydd Dyddiol Cyf newydd gyhoeddi newyddion pwysig – mae dyddiad lansio Y Byd yn cael ei adolygu.
Hyd nes y daw’r broses o adolygu’r wasg Gymraeg – a’r broses wleidyddol sy’n dilyn – i ben, mae’n amhosib i Y Byd fwrw ymlaen â’r amserlen o fynd i’r wasg ym Mis Mawrth.
Fe allai’r broses [...] Parhau i ddarllen

Blog Y Byd: Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd mewn trafferth.
Ar y naill law fe aethon nhw ati i ddechrau proses ymgynghori ar ddyfodol ysgolion cynradd y sir.
Ac ar y llaw arall fe aeth y cyngor ati hefyd i wneud cynlluniau i uno neu gau degau o ysgolion yn groes i ddymuniadau nifer sylweddol o rieni, staff, plant ac etholwyr.
Mae [...] Parhau i ddarllen

Blog Y Byd: Newyddion o’r Cynulliad

Dyma gwestiwn ag ateb o’r Senedd fydd o ddiddordeb i gefnogwyr Y Byd…….trafodaeth ddaeth yn sgil datganiad gan Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog Treftadaeth.
Dyma’r uchafbwyntiau perthnasol.
Paul Davies AC, Ceidwadwr :
“Croesawaf y cyhoeddiad heddiw ei fod ef, fel minnau, yn dymuno creu Cymru ddwyieithog, drwy roi statws iaith swyddogol i’r Gymraeg a sefydlu comisiynydd iaith. Yr [...] Parhau i ddarllen

Blog Y Byd: Gareth Jenkins

Sacked. Pennawd mae’r Western Mail wedi ymgyrchu i ysgrifennu ers misoedd.
Roedd hi’n ganlyniad aruthrol siomedig i dîm rygbi Cymru, ac mae’r cyfryngau Cymreig wedi dechrau proses arall o or-ymateb.
Dydd Sadwrn fe welwyd gem orau cwpan y byd. Roedd Cymru ar fin cwblhau buddugoliaeth arwrol pan gafodd Fiji’r hyfdra i daro ‘nol. Gyda ychydig bach o [...] Parhau i ddarllen

Blog Y Byd: Tyfu Lan

Mewn cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw mae Rhodri Morgan yn hawlio bod Cymru wedi “tyfu lan” ers y refferendwm ar ddatganoli.
Yn ei araith mae Rhodri Morgan yn asesu Cymru cyn ‘97.
Prin oedd hyder Cymru yn ei bywyd cyhoeddus, meddai.
Mae’n cydnabod – roedd gan Gymru fudiadau fel yr Urdd, Merched y Wawr, UCAC a’r FUW a oedd [...] Parhau i ddarllen

Blog Y Byd: Cwpan y Byd

I blant, ac ambell oedolyn a ddylai wybod yn well, mae cwpan y byd yn cynnig cyfle i rwygo poster allan o’r papur ac aros yn eiddgar i lenwi’r sgoriau . Dyma fi felly yn chwilio am le i roi poster y Western Mail ar y wal. Problem. Beth yw’r llun ar y poster? [...] Parhau i ddarllen

Blog Y Byd: Treftadaeth

‘Dwi ddim, fel arfer, yn bedantig am eiriau. Mae heddiw yn eithriad.
Mae Rhodri Glyn Thomas wedi ei benodi yn weinidog Treftadaeth, ac mae hynny yn cynnwys gofalu am y Gymraeg. Mae rhoi’r Gymraeg ym mocs y gair Treftadaeth yn fy ngwneud yn anghyfforddus. I mi mae’r teitl yn rhoi’r Gymraeg yno gyda’r cestyll a’r [...] Parhau i ddarllen