Canlyniadau Chwilio: deddf

Blog y Cynulliad: Mis Hanes Pobl Dduon 2018: Eleni bydd 50 mlynedd ers i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1968 ddod i rym

Mae eleni’n arwyddocaol, gan y bydd yn nodi 50 mlynedd ers i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1968 ddod i rym.   Roedd Deddf 1968 yn olynu Deddf Cysylltiadau Hiliol 1965, y ddeddfwriaeth Cysylltiadau Hiliol gyntaf erioed, a oedd yn ei gwneud yn drosedd sifil, ond nid yn drosedd, i wahaniaethu “ar sail lliw, hil, neu darddiad … Continue reading Mis Hanes Pobl Dduon 2018: Eleni bydd 50 mlynedd ers i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1968 ddod i rym Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Rhannu Heriau a Chyfleoedd Gweithio mewn Deddfwriaethol Llai â Senedd Bermuda

Ar 29 Ionawr 2018, daeth dirprwyaeth o Aelodau a Chlerc y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn Senedd Bermwda i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Trefnwyd yr ymweliad gan Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (CPA) fel rhan o’i rhaglen dair blynedd gyda’r nod o atgyfnerthu craffu ariannol yn Nhiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig.  Mae CPA UK wedi ffurfio consortiwm gyda … Continue reading Rhannu Heriau a Chyfleoedd Gweithio mewn Deddfwriaethol Llai â Senedd Bermuda Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Dathlu 100 mlynedd ers Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918

Er mwyn coffáu 100 mlynedd ers i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 gael Cydsyniad Brenhinol, mae’r Dirprwy Lywydd Ann Jones AC (@ann_jonesAM) yn trafod pwysigrwydd symudiad pleidleisio menywod yng Nghymru. Mae 6 Chwefror 2018 yn nodi can mlynedd ers rhoi Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Rhoddodd y Ddeddf hon yr hawl fenywod … Continue reading Dathlu 100 mlynedd ers Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Chwiliwch am yr heulwen yn y glaw

Erthygl wadd gan Bleddyn Harris, Swyddog Datblygu a Hyfforddi Sefydliadol – Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant. Enfys Enw Bwa o liwiau sy’n weladwy yn yr awyr, a achosir gan blygiant a gwasgariad golau’r haul gan law neu ddiferion dŵr eraill yn yr atmosffer. Pan ddyluniodd Gilbert Baker y faner enfys, tybed a wnaeth … Continue reading Chwiliwch am yr heulwen yn y glaw Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Ymrwymiad Sefydliadol i Amrywiaeth a Chynhwysiant

Erthygl wadd gan Manon Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc – Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Heddiw yw diwrnod cyntaf ein hwythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae’r uwch dîm a minnau wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau ein bod ni, fel cyflogwr a sefydliad seneddol, yn gosod esiampl o ran hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb a darparu gwasanaethau hygyrch. … Continue reading Ymrwymiad Sefydliadol i Amrywiaeth a Chynhwysiant Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Ymweliad Pwyllgor â Gwlad y Basg ar ffurf lluniau

Diben Ymwelodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu â Gwlad y Basg ym mis Mawrth. Diben yr ymweliad oedd edrych yn fanwl ar y ffyrdd y mae cymdeithas sifil a deddfwriaeth yng Ngwlad y Basg yn hyrwyddo ac yn gwella caffael iaith. Bydd yr enghreifftiau hyn o arfer gorau o wledydd eraill, sy’n debyg … Continue reading Ymweliad Pwyllgor â Gwlad y Basg ar ffurf lluniau Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Cyfarfod olaf Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gyda Carwyn Jones AC

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Gymraeg Bydd Pwyllgor y Cynulliad yn cyfarfod 16 Tachwedd i holi Carwyn Jones AC ar ei amser yn gyfrifol am Lywodraeth Cymru. Beth fydd y Pwyllgor yn ei drafod? Cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fwriad i ymddiswyddo ym mis Rhagfyr 2018, a bydd y … Continue reading Cyfarfod olaf Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gyda Carwyn Jones AC Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil gan yr Aelod Cyfrifol – Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid Ar 17 Gorffennaf 2018, cytunodd y Cynulliad ar y Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i’r Bil. Yn awr, gallwn symud ymlaen i drafodion Cyfnod 2 ar y Bil—sef … Continue reading Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Isafbris am Alcohol – Ai Dyma’r Ateb Cywir?

Fel rhan o’n hymchwiliad pwyllgor i’r isafbris am alcohol, gofynnwyd i bobl ifanc a phobl ddigartref am eu barn. Ymhlith y nifer o syniadau a gynigwyd oedd bod posibilrwydd y gallai canlyniadau anfwriadol ddeillio o godi isafbris am alcohol. Y cefndir i Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) Ym mis Hydref 2017, gofynnwyd … Continue reading Isafbris am Alcohol – Ai Dyma’r Ateb Cywir? Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: “Carreg filltir ar y ffordd i gydraddoldeb o ran rhywedd, nid y llinell derfyn” – Joyce Watson AC

Blog gwadd gan Joyce Watson AC Eleni, rydym yn dathlu canmlwyddiant menywod yn cael y bleidlais. Ond nid pob menyw: y rhai ag eiddo a’r rhai oedd yn hŷn na 30. Trwy osod y bar hwnnw, roedd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 yn gwahardd menywod o’r dosbarth gweithiol yn fwriadol rhag pleidleisio, ac yn rhoi … Continue reading “Carreg filltir ar y ffordd i gydraddoldeb o ran rhywedd, nid y llinell derfyn” – Joyce Watson AC Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Fel aelod o leiafrif – a yw eich hanes o bwys?

Fel rhan o’n gwaith i goffáu mis Hanes LGBT, mae ein blog gwadd wedi’i ysgrifennu gan Norena Shopland (@NorenaShopland), awdur Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales. Pan gyhoeddwyd fy llyfr Forbidden Lives: LGBT stories from Wales ddiwedd y llynedd, un o’r cweistynau a ofynnwyd i mi oedd pam wnes i ei ysgrifennu. Ni ofynnwyd y … Continue reading Fel aelod o leiafrif – a yw eich hanes o bwys? Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: ‘Methiant cenedl’ i ddathlu a nodi cyfraniad merched

Cyhoeddwyd yr ethygl hon yn wreiddiol ar BBC Cymru Fyw ar 6 Chwefror 2018. Mae’r erthygl wreiddiol ar gael yma. Mae gen i deimladau cymysg wrth nodi’r canmlwyddiant pwysig hwn. Cymysg yn yr ystyr ei bod hi’n dal i fod yn gwbl anghredadwy i mi mai dim ond canrif sydd ers i fenywod gael unrhyw … Continue reading ‘Methiant cenedl’ i ddathlu a nodi cyfraniad merched Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Rydym ar frig Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall UK ar gyfer 2018

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael ei gydnabod fel cyflogwr blaenllaw y DU ar gyfer 2018 ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle diweddaraf Stonewall. Dyma’r tro cyntaf inni fod ar frig y rhestr a daw ddeng mlynedd ers inni gael ein cynnwys yn y mynegai am y … Continue reading Rydym ar frig Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall UK ar gyfer 2018 Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Y Sioe Frenhinol 2017

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd rhwng 24-27 Gorffennaf gyda rhaglen newydd o ddigwyddiadau, a chyfle i’r cyhoedd gyfarfod ag Aelodau a staff y Cynulliad a chael gwybod mwy am ein gwaith. Byddwn yn y Pafiliwn Gwyrdd, ac mae croeso i bawb ymweld â’n stondin i roi eich barn … Continue reading Y Sioe Frenhinol 2017 Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant: Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Comisiwn y Cynulliad

Diben Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Cynulliad yw nodi ein hamcanion amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer 2017-21 a’r camau y mae angen inni eu cymryd i gyflawni’r amcanion hyn. Bydd y strategaeth hefyd yn ein helpu i gynllunio sut rydym yn cydymffurfio â’r dyletswyddau a roddwyd ar Gomisiwn y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 … Continue reading Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant: Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Comisiwn y Cynulliad Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant: Neges gan y Prif Weithredwr

Mae’r uwch dîm a minnau yn gwbl ymrwymedig i sicrhau ein bod, fel cyflogwr a sefydliad seneddol, yn enghreifftiol o ran hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant, cydraddoldeb a darparu gwasanaethau hygyrch. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi datblygu ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant a chynllun gweithredu cysylltiedig a fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth a’n … Continue reading Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant: Neges gan y Prif Weithredwr Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Y Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Staff – 10 Mai 2017

Gan Abi Lasebikan, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant a Chydgysylltydd a Chyd-gadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle’r Cynulliad ar Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol Bydd y Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Staff y diwrnod cyntaf erioed yn y DU sy’n ymroddedig i ddathlu pob rhwydwaith yn y gweithle, gan gydnabod gwerth a chyfraniad rhwydweithiau i sefydliadau … Continue reading Y Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Staff – 10 Mai 2017 Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Ennyn mwy o ddiddordeb yn y Cynulliad…

Ym mis Medi, bydd ugain mlynedd wedi mynd heibio ers i bobl Cymru bleidleisio, o fwyafrif bychan, i gael eu Cynulliad Cenedlaethol eu hunain. Dyma’r unig sefydliad gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio o’i blaid. Ers iddo ddod i fodolaeth ym 1999, mae’r Cynulliad wedi tyfu o ran pŵer a chyfrifoldeb. Chwe blynedd yn … Continue reading Ennyn mwy o ddiddordeb yn y Cynulliad… Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Biliau Aelod: Sut fyddech chi’n newid y gyfraith?

Rydw i’n edrych ymlaen at ddau gyhoeddiad ar hyn o bryd: cyhoeddi enillydd balot Bil Aelod cyntaf y Pumed Cynulliad, a chyhoeddi’r enwau a dynnir allan o’r het ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019. Cyn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, bûm yn gweithio yn Japan am ddwy flynedd, felly ddweud yn saff y bydd Cwpan … Continue reading Biliau Aelod: Sut fyddech chi’n newid y gyfraith? Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Digwyddiad i randdeiliaid ar sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Ar 17 Tachwedd 2016, estynodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wahoddiad i ystod eang o randdeiliaid i drafod rhai o’r materion allweddol o ran sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Mae’r Comisiwn – a fydd yn cael ei sefydlu y flwyddyn nesaf – yn destun ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i gadarnhau … Continue reading Digwyddiad i randdeiliaid ar sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Brexit yng Nghymrucyllid – Ymchwil a Buddsoddi

Wythnos yma, canolbwytiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol eu sylw ar gyllid yr UE, ymchwil a buddosddi a’r goblygiadau i Gymru. Gallwch wylio’r sesiwn llawn ar Senedd.TV. Amcanion y sesiwn oedd ystyried: y goblygiadau i Gymru wrth i’r DU adael yr UE, o safbwynt y gallu i fanteisio ar nifer o ffynonellau cyllid … Continue reading Brexit yng Nghymrucyllid – Ymchwil a Buddsoddi Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Mae agor pwyllgorau i fyny yn gam ymlaen i ddemocratiaeth gryfach yng Nghymru

Dr Andy Williamson, Hydref 2016 Mae’n wych gweld y pumed Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau gyda bwriad cryf i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd. Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu eisoes wedi dechrau, gyda chadeirydd y Pwyllgor, Bethan Jenkins, yn gofyn i’r cyhoedd helpu i lywio’r hyn maent yn siarad amdano drwy amrywiaeth o gyfryngau arloesol … Continue reading Mae agor pwyllgorau i fyny yn gam ymlaen i ddemocratiaeth gryfach yng Nghymru Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Ymadael â’r UE: Y goblygiadau i Gymru – Datblygiadau yng Nghymru

Yn dilyn pleidlais y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn archwilio’r goblygiadau i Gymru. Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn gyfrifol am sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu diogelu yn ystod y broses adael ac yn y perthnasoedd domestig, Ewropeaidd a rhyngwladol sy’n dilyn. … Continue reading Ymadael â’r UE: Y goblygiadau i Gymru – Datblygiadau yng Nghymru Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Rydym yn falch o fod yn cymryd rhan ym Mis Hanes Pobl Dduon fis Hydref

Dathlwyd Mis Hanes Pobl Dduon gyntaf yn y Deyrnas Unedig ym 1987, ac mae’n parhau i gael ei nodi’n flynyddol bob mis Hydref. Yn ystod y mis hwn bydd diwylliant, hanes a chyrhaeddiadau cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu dathlu. Cynhelir digwyddiadau drwy gydol mis Hydref, yn genedlaethol, i gydnabod a dathlu … Continue reading Rydym yn falch o fod yn cymryd rhan ym Mis Hanes Pobl Dduon fis Hydref Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Ymadael â’r UE: Y goblygiadau i Gymru Y Gyfraith a Masnach Ryngwladol

Yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn archwilio’r goblygiadau i Gymru. Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn gyfrifol am sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu diogelu yn ystod y broses adael. Mae o hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod buddiannau Cymru … Continue reading Ymadael â’r UE: Y goblygiadau i Gymru Y Gyfraith a Masnach Ryngwladol Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Hwyl yr Haf yn y Senedd

  Gareth Coombes, rheolwr teithiau tywys yn y Senedd, yn sôn am bleserau a heriau’r gwaith o drefnu penwythnos o Hwyl i’r Teulu yn y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. Y peth cyntaf a ddaw i’r meddwl, mae’n debyg, wrth feddwl am y Senedd yw’r Cyfarfod Llawn, y cyfarfod lle mae’r 60 … Continue reading Hwyl yr Haf yn y Senedd Parhau i ddarllen