Archives: Cai Larsen

BlogMenai.com: Problemau anarferol Senedd Cymru

Dwi dipyn yn hwyr ar hon, ond dyma bwt ar 20fed penblwydd y Cynulliad / Senedd.Yn sylfaenol mae gan y Cynulliad / Senedd ddwy broblem waselodol: 1). Y ffaith ei fod yn ddi eithriad yn cael ei redeg gan y Blaid Lafur.2). Y ffaith bod y pwerau sydd … Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Y Dib Lems bach ‘na eto.

“‘Dyn ni’n gryf iawn yn y canolbarth ac mae ‘na obaith newydd yn y gogledd, fel y gwnes i ddarganfod wrth gwrdd â’n haelodau yno.” – Vince Cable.

Hmm.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Heriau’r Blaid tros y blynyddoedd nesaf

Mae gan pob plaid ei phroblemau – neu i fod yn fwy cadarnhaol heriau.  Dydan ni ddim yn gwybod os fydd yna Etholiad Cyffredinol yn y flwyddyn neu ddwy nesaf – ond os bydd y senedd presenol yn cael tymor llawn, etholiadau Senedd Cymru yn 2021 fydd … Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ynglyn a’r nepotistiaeth yn y Bae

Rwan peidiwch a cham ddeall – does gen i ddim problem o gwbl efo cyflogau Aelodau Cynulliad – mae £64,000 y flwyddyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y gwaith ac yn sicrhau bod ymgeiswyr addas yn rhoi eu henwau ymlaen.  Mae hefyd yn gyflog is na’r hyn enillir gan Aelodau Seneddol (£74,000) am wneud gwaith digon tebyg.
Ond mae yna botensial i Aelod Cynulliad elwa yn anuniongyrchol o’i swydd hefyd trwy gyflogi aelod o’i d / theulu.  Mae’r arfer yma yn rhyfeddol o gyffredin yn y sefydliad  – ac mae cyflogau pobl sy’n gweithio i Aelodau Cynulliad yn ddigon parchus.
Rhestraf yr ACau sy’n cyflogi aelodau o’u teuluoedd isod.

Mohammad Asghar (Tori)

Mae ei wraig Firandus yn cael ei chyflogi fel gweithiwr achos am 22.2 awr yr wythnos ac mae ei ferch, Natasha yn cael ei chyflogi am 22.2 awr yr wythnos fel Uwch Swyddog Cyfathrebu.
Michelle Brown (UKIP)
Cafodd ei brawd, Richard Baxendale ei gyflogi o Fehefin 2016 hyd fis Ionawr 2017 am 37 awr yr wythnos fel Gweithiwr Achos.
Angela Burns (Tori)
Cyflogir ei gwr, Andrew am 18.5 awr pob wythnos fel ymchwilydd a gweithiwr achos.
Andrew RT Davies (Tori)
Cyflogir ei wraig Julia am 37.5 awr fel Cymhorthydd Personol ac Ymchwilydd.
Rebecca Evans ( Llafur)
Cyflogir ei gwr Paul am 37.5 awr pob wythnos fel Rheolwr Swyddfa a’i chwaer Claire Stowell am 18.5 awr fel Cymhorthydd Swyddfa.
John Griffith (Llafur)
Cyflogir ei wraig, Alison am 37 awr fel Gweinyddydd.
Neil Hamilton (UKIP)
Cyflogir ei wraig, Christine fel Cynorthwy – ydd personol am 37 awr.
Mark Isherwood (Tori)
Mae ei wraig Hilary yn gweithio am bump awr pob wythnos fel Gweithiwr Achos.
Darren Miller (Tori)
Cyflogir ei wraig, Rebekah am 22.2 awr fel Gweinyddwr a Gweithiwr Achos.
Mark Reckless (Duw a wyr)
Mae ei wraig, Catriona yn gweithio iddo fel Uwch Gynghorydd.
David Rees (Llafur) 
Mae Angharad ei ferch yn gweithio iddo fel Ymchwilydd a Swyddog Cyfathrebu ac Ymchwilydd am 22.3 awr.

David Rowlands (UKIP) 

Mae ei wraig, Keryn yn gweithio iddo am 37 awr fel Pennaeth Swyddfa.

Joyce Watson (Llafur) 

Mae ei merch, Fiona Openshaw yn gweithio iddi am 14 awr fel Ymchwilydd.

Felly os ydi fy syms i’n gywir mae yna 5 Tori, 4 AC a etholwyd yn enw UKIP a 4 Llafurwr yn cyflogi aelodau o’u teulu.

Rwan petai’r Aelodau Cynulliad yn defnyddio eu pres eu hunain i gyflogi aelodau o’u teuluoedd eu busnes nhw a neb arall fyddai hynny.  Ond maent yn eu cyflogi efo pres cyhoeddus.  Ym mhob rhan arall o’r sector cyhoeddus  mae canllawiau caeth o ran cyflogi pobl – a dwi’n siwr bod yna ganllawiau caeth yn y Cynulliad i sicrhau mai’r person gorau i swydd sy’n cael ei benodi – ond bod na thrwy gyd ddigwyddiad hapus mae llawer o ACau yn cael mai aelodau o’u teuluoedd eu hunain ydi’r bobl gorau i weithio yn y swyddi maent yn gyfrifol am eu llenwi.

Mae’n eithaf digri mai’r Dde sydd fwyaf euog o hyn – y sawl sy’n honni bod defnydd effeithiol o bres cyhoeddus yn bwysig iddynt.  Ymddengys mai ystyr ‘defnydd effeithiol o bres cyhoeddus’ i nifer ohonynt ydi sicrhau bod cymaint a phosibl o bres cyhoeddus yn gwneud eu ffordd i’w coffrau nhw a’u teuluoedd.


Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Stwj Cymreig Putin

Bydd darllenwyr cyson Blogmenai yn cofio’r blogiad yma ynglyn ag arfer y Tori Felix Aubel i ail drydar stwff o gyfri trydar yr eithafwr Adain Dde, David Jones.  Ers iddo fynd i drafferthion efo’r cyfryngau am geisio dechrau trafodaeth efo eithafwr… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Llythyr i Golwg

Waeth i mi adael hwn yma rhag iddo beidio ymddangos yn y cylchgrawn.Annwyl OlygyddPleser anisgwyl oedd cael fy hun yn cytuno efo Gwilym Owen (Awst 24).  Mae Mr Owen yn gwbl gywir i nodi bod gormod o’r cyfryngau cyfrwng Cymraeg  yn ddibynnol a… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Gwario mawr ar Senedd Cymru

Mae’n dda deall bod Darran Hill yn cadw llygad barcud ar wariant Llywodraeth Cymru ac yn cwyno’n groch am wariant o £1.8m ar rhywbeth neu’i gilydd yn Senedd Cymru.

Mae’n siwr ei fod yn gywir i ddadlau bod £1.8m yn swm sylweddol.  Wedi’r cwbl mae’n tua 1/200 o’r hyn mae’r trethdalwr yn cael y fraint o’i dalu am beth sydd i bob pwrpas yn annedd breifat yn Llundain.
Neu’n 1/3,900 o’r hyn y gallai’r gwariant ar ddeddfwrfa arall fod – yr un yn Llundain. 

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Tudalen Flaen y Diwrnod

BlogMenai.com: Ynglyn a’r sibrydion am arweinyddiaeth y Blaid

Wna i ddim treulio llawer iawn o amser yn trafod arweinyddiaeth Plaid Cymru – mae’r cyfryngau wedi bod wrthi trwy gydol Mis Awst, er bod eu straeon wedi eu hadeiladu ar fawr ddim o sylwedd – fel sy’n aml yn wir yr amser yma o’r flwyddyn  &nbs… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: ARFOR – y ffigyrau

Mae ail gyflwyniad  y syniad o sefydlu ARFOR- sef un awdurdod ar gyfer y Fro Gymraeg (Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin) yn un diddorol.  Syniad Adam Price ydi o wrth gwrs – fe gyflwynodd y syniad gyntaf tua pedair blynedd yn ol pan roedd ail strwythuro awdurdodau lleol ar agenda Llywodraeth Cymru.

Cyd destun ail godi’r syniad ydi bod Llywodraeth Cymru eisiau i awdurdodau lleol ddod at ei gilydd i greu endidau sy’n cymryd cyfrifoldeb am gynllunio traws-sirol gan gynnwys datblygu economaidd a’r iaith gyda’i gilydd yn ogystal ag elfennau megis tai, amaeth, bwyd a diod, a thwristiaeth.

Mae  nifer o’r unedau newydd sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn croesi ffiniau ieithyddol – a diwylliannol hefyd.

O safbwynt rhywun sydd eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu mae’r syniad yn un i’w groesawu – cyn belled a bod cynllunio ar gyfer y Gymraeg yn ganolog i genhadaeth yr endid newydd a bod y Gymraeg hefyd yn ganolog i’r ffordd mae’r endid yn cael ei weinyddu a’i reoli.

Yn ei gyfarfod yn yr Eisteddfod i drafod y syniad cafwyd awgrym gan Adam Price gallai Penfro a Chonwy fod yn rhan o’r awdurdod newydd yn ogystal a siroedd Cymreiciach Ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.  Y broblem efo cynnwys Conwy a / neu Penfro ydi y byddai gwneud hynny’s Saesnigeiddio’r endid newydd yn sylweddol.

Os ydi’r awdurdod arfaethiedig i lwyddo – o safbwynt y Gymraeg mae’n rhaid iddo fod mwy – llawer mwy – fel Gwynedd na Chaerfyrddin neu Geredigion o ran ei ethos ac o ran ei iaith weithredol a rheolaethol.   Mae’n rhaid iddo hefyd flaenori amddiffyn a hyrwyddo’r Gymraeg.  Mae’n bosibl dadlau tros hynny os ydi mwyafrif y bobl sy’n byw o fewn tiriogaeth yr awdurdod siarad y Gymraeg.  Mae’n anos gwneud hynny os ydi’r siaradwyr Cymraeg mewn lleiafrif.  
Os ydym yn edrych ar y bedair sir Orllewinol ag eithrio Penfro mae yna fwyafrif bach sy’n siarad y Gymraeg.  Mae’n bosibl dadlau bod y mwyafrif hwnnw’n uwch na’r ffigyrau swyddogol oherwydd eu bod yn cymryd i ystyriaeth niferoedd cymharol uchel o fyfyrwyr – yn arbennig felly yng Ngwynedd a Cheredigion.  Mae’n debyg gen i bod sylwedd i’r ddadl honno yng nghyd destun y mater yma.

Os ydym yn ychwanegu Penfro i’r endid newydd mae’r sawl sy’n siarad y Gymraeg mewn lleiafrif.
Ac os ydym yn ychwanegu Conwy mae’n lleiafrif llai eto.

A beth am Ynys Mon, Conwy, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin?  Wel, unwaith eto mae gennym leiafrif.

Felly yn fy marn bach i, os ydi ARFOR ilwyddo fel erfyn i gryfhau’r Gymraeg, bydd rhaid iddo fod yn endid 4 sir – ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Cylch rhagfarn y Bib

Reit ‘ta cyn bod yr eitem ar Newsnight wedi codi’n ddiweddar waeth i ni ddweud gair neu ddau am y mater.  Wna i ddim dweud llawer am Mr Ruck – mae  wedi bod wrthi’n gwyntyllu ei ragfarnau yn erbyn y Gymraeg ers blynyddoedd maith ar unrhyw bla… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ynglyn a’r etholiad a darlith Roger Scully yn yr Eisteddfod

Ymddiheuriadau i ddechrau – dwi yn y ‘Steddfod a does gen i fawr o fynediad i drydan, ac oherwydd hynny mae charjio ffon yn hunllef braidd.Ta waeth am son peddwn i am ddarlith gan Roger Scully yn yr eisteddfod ar ymgyrch a chanlyniad etholiad mis Mai y… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Mymryn o Schadenfreude

Dwi wedi treulio’r diwrnod yn symud recordiau 78″ – miloedd ohonyn nhw (peidiwch a gofyn pam, da chi).  Mae feinyl ar y gorau yn drwm, ond mae’r hen finyl a ddefnyddwyd mewn recordiau 78″ tua dwywaith trymach na’r record finyl gyfoes.  Dwi’n … Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ynglyn a Chynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Mon

Reit – gair neu ddau am ddigwyddiadau ddoe yn siambr Cyngor Gwynedd.Pwt o gefndir yn gyntaf – gan nad wyf wedi son ar y blog mae’n debyg na fydd llawer o ddarllenwyr Blogmenai yn ymwybodol i mi gael fy ethol ar Gyngor Gwynedd fel cynghorydd Plaid Cymru… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Yr etholiad mewn delweddau – rhan 3

Dwi wedi addo blogio ychydig ar yr etholiad cyffredinol – ond am wahanol resymau dwi heb gael cyfle i wneud hynny – felly dyma wneud hynny. Dydi’r ymarferiad isod ddim yn un sydd a hygrededd mathemategol llwyr iddi.  Yr hyn ‘dwi’n ei wneud ydi edr… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Beleek a Brexit

Dwi’n digwydd bod yn teithio Iwerddon ar hyn o bryd, ac o ganlyniad mae blogio’n ysgafn iawn.  Serch hynny, hyd yn oed pan ar wyliau mae rhywbeth perthnasol i wleidyddiaeth Cymru’n codi.  Yr hyn gododd y tro hwn oedd aros yn nhref fechan Bele… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ffrindiau Mrs May yn cael hwyl

BlogMenai.com: Gwilym Owen rhif _ _ _ beth bynnag

Agwedd y Blaid at Wylfa Newydd ydi testun hefru Gwilym Owen yn Holwg yr wythnos yma, methiant Cyngor Cenedlaethol y Blaid i ganiatau i’r grwp yng Nghonwy i glymbleidio efo ‘r Toriaid oedd hi bethefnos yn ol, cwyno bod y Blaid yn cyd weithio efo’r Toria… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Tybed pa unoliaethwr _ _

_ _ _ fu’n dathlu gwyl fwyaf atgas a chyntefig Gorllewin Ewrop?Does ddim rhaid gofyn nag oes? Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Dathlu Prydeindod

Mae’r traddodiad unoliaethol – a chyfeillion Thereasa May wrth gwrs – wrthi’n dathlu eu Prydeindod heno yn y modd arferol – llosgi delweddau o’r hyn nad ydynt yn ei hoffi.  Ar ddiwrnod pan mae bygwth a sarhau gwleidyddion yn y newyddion yn San Ste… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Stori bapur newydd y diwrnod

BlogMenai.com: Yr etholiad mewn delweddau – rhan 2

Dwy etholiad wahanol _ _ _ y naill yn y Gymru Gymraeg a’r llall yn y Gymru ddi Gymraeg: Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Yr etholiad mewn delweddau – rhan 1

Dwi wedi rhyw addo ers tro postio ychydig o ddelweddau ynglyn ag etholiad cyffredinol mis diwethaf – a heb wneud llawer – felly dyma ddechrau arni.Dyma stopri’r ymgyrch yn ol y polau.  Mae’r graff cyntaf yn dynodi canfyddiadau Survation tros Bryda… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Dwyieithrwydd yn y brifddinas

Llongyfarchiadau i Gyngor (Llafur) Caerdydd am roi lle cyfartal i’r Saesneg a’r _ _ _ Ffrangeg. Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Beth ydi’r busnes Deddf Iaith ‘ma yng Ngogledd Iwerddon?

Mae yna nifer o bobl dwi wedi siarad efo nhw tros y dyddiau diwethaf wedi mynegi syndod bod Deddf Iaith Wyddeleg yn un o’r esgyrn cynnen sy’n atal cytundeb i atgyfodi Stormont a’r weinyddiaeth yng Ngogledd Iwerddon.  Wedi’r cwbl ychydig iawn o bobl sy’n siarad yr iaith yn y Gogledd. 

Mae’r canfyddiad yma yn ddealladwy – ond mae’n anwybyddu un o’r elfennau lled unigryw i wleidyddiaeth y rhan fach yma o’r Byd.  Mae yna rhyw ran bach o feddylfryd y Canol Oesoedd wedi goroesi yng Ngogledd Iwerddon yn yr ystyr bod yna elfen ‘totemic’ cryf i’r ffordd mae pobl yn gweld eu gwleidyddiaeth – hynny yw bydd un peth gweddol gyfyng a phenodol yn aml yn cynrychioli cysyniad neu egwyddor ehangach o lawer.  Dyna sydd ar waith yma – symbol ydi’r iaith – a thrwy estyniad y Ddeddf Iaith.

Efallai mai’r lle i ddechrau yma ydi efo’r ddelwedd o Martin McGuiness yn sefyll yn sigledig ar ei draed yn Stormont i ymddiswyddo fel ail weinidog Gogledd Iwerddon, a Michelle O’Neil yn codi ar ei thraed hithau i ddweud nad oedd Sinn Fein (SF) yn bwriadu enwebu unrhyw un yn ei le.  Daeth hynny a’r Weinyddiaeth a’r Cynulliad ei hun i lawr – mae consensws wrth galon y ffordd mae’r sefydliad yn gweithredu, ac roedd y consensws wedi chwalu. Gwnaeth y gwleidyddion eu ffyrdd i’w hetholaethau i ymladd etholiadad – a chafodd ei hymladd mewn ffordd mwy chwerw ac ymysodol na’r un etholiad ers chwarter canrif.
Y fersiwn ‘swyddogol’ ydi mai’r rheswm pam y digwyddodd hyn oedd oherwydd i SF golli ffydd yn y DUP yn sgil y sgandal Cash for Ash.  Ond yn ol llawer nid dyna oedd y gwelltyn olaf – penderfyniad gan ddyn o’r enw Paul Givan oedd hwnnw.  Roedd Givan yn weinidog cymunedau DUP, ac roedd ganddo ddiddordeb obsesiynol a hynod elyniaethus tuag at y sector (hynod fach) addysg Gwyddelig yn ei bortffolio.  Penderfynodd y byddai’n syniad gwych arbed pres trwy ddiddymu grant bach o £100,000 i helpu plant tlawd i fynd i’r Gaeltacht yn yr haf i loywi eu Gwyddeleg.  Yn fuan wedi’r penderfyniad hwnnw  gyrrodd Gerry Adam i o’i gartref yn Dundalk i Derry i weld Martin McGuinness – oedd erbyn hynny yn amlwg yn marw.  Gyrwyd hwnnw i Belfast y diwrnod canlynol i ddymchwel Stormont.
I ddeall beth ddigwyddodd mae angen deall dau beth.  Yn gyntaf roedd SF wedi bod yn gogr droi yn etholiadol ers deuddeg mlynedd.  Daeth yn blaid bwysig yn etholiadol yn sgil yr ymprydiau newyn yn 1981, ond ni lwyddodd i oresgyn y blaid genedlaetholgar gyfansoddiadol yr SDLP y tu allan i Belfast a rhai o’r cymunedau gorllewinol gwledig tan Gytundeb Dydd Gwener y Groglith.  Tyfodd yn sydyn am sbel wedyn a goddiweddyd yr SDLP gyda throad y mileniwm.  Y disgwyl oedd y byddai’r blaid yn parhau i dyfu gan fod y boblogaeth Babyddol / genedlaetholgar yn tyfu.  
Ond ni ddigwyddodd hynny – wnaeth y bleidlais genedlaetholgar yn ei chyfanrwydd ddim tyfu llawer rhwng dechrau’r ganrif a 2016.  Mae’r rheswm am hynny yn hawdd i’w arenwi – roedd yna lawer o bobl yn fodlon pleidleisio i SF pan roeddynt yn wrth sefydliadol ac yn herio’r sefydliad unoliaethol – ond roeddynt yn llai tebygol o lawer i bleidleisio i blaid oedd yn cael ei hystyried yn rhan o’r sefydliad.  Roedd y tueddiad yma’n cael ei gryfhau gan ganfyddiad cynyddol nad oedd y wladwriaeth yn parchu’r traddodiad cenedlaetholgar yn unol a gofynion Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.
A daw hyn a ni at y Ddeddf Iaith.  Yng ngwleidyddiaeth Gogledd  Iwerddon mae’r iaith Wyddeleg yn dotem sy’n sefyll tros y diwylliant Gwyddelig ehangach.  Byddai Deddf Iaith yn ymgyrfforiad cyfreithiol o barch y wladwriaeth at y traddodiad diwylliannol Gwyddelig yn ei gyfanrwydd, ac mae diffyg Deddf – i lawer o genedlaetholwyr – yn adlewyrchiad o ddiffyg parch y wladwriaeth at eu diwylliant ehangach.
A daw hyn yn ei dro a ni yn ol at etholiadau Stormont eleni.  Cynyddodd SF ei phleidlais yn sylweddol iawn trwy ymladd yr etholiad mwyaf ffyrnig, cwynfanllyd a negyddol iddynt ei hymladd ers y dyddiau pan roeddynt yn canfasio i gyfeiliant hofrenyddion a chydag arogl nwy CS yn cael ei gario yn yr awel o’u cwmpas.  Roeddynt wedi uno llawer o’r tir canol a gweriniaethwyr di gyfaddawd o gwmpas y cysyniad o orfodi’r wladwriaeth i fynegi parch at eu diwylliant yn ffurfiol trwy ddeddfu.

Ond byddai derbyn Acht na Gaelige yn anathema llwyr i’r DUP – byddai’n troi eu gwladwriaeth fach yn rhywbeth nad ydynt am iddi fod.  Mae’r ddwy ochr wedi cyrraedd unwaith eto at wraidd y broblem – ac mae am fod yn anodd iawn symud o’r fan honno.



Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Canlyniadau’r etholiad o berectif ychydig yn wahanol

Dyma ganlyniadau Etholiad Cyffredinol 2017 o berspectif ychydig yn wahanol.  Mae’r graff cyntaf yn dangos hynt a helynt y pleidiau gwleidyddol yn y pum sedd mwyaf Cymraeg o ran iaith – Ynys Mon, Arfon, Meirion Dwyfor, Ceredigion a Dwyrain Caerfyrd… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Beth bynnag ddywedwch chi am y DUP _ _ _

 _ _ _ maen nhw wedi bod yn gyson trwy’r blynyddoedd.  Mae’n debyg mai yn y blaid yma yn unig mae gwleidyddiaeth Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn parhau i fyw, ac mae’r DUP mewn safle o gryn ddylanwad ar hyn o bryd.Ond efallai bod yna b… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Etholiadau lleol – rhan 1

Fel dwi wedi son eisoes dwi’n gwneud pwt o gyflwyniad ac yn bwriadu postio ambell i siart neu fap yma.Mae’r mapiau isod wedi eu dwyn o wikipedia, mae’r map ar y chwith pob tro yn dangos pa blaid sy’n rheoli’r siroedd (du = dim rheolaeth) ac mae’r mapia… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ynglyn a chynllun Llafur i foddi ardal Penrhosgarnedd efo tai

Datganiad i’r Wasg gan Blaid ynglyn a chynllun Llafur i foddi ardal Penrhosgarnedd efo tai.


Siom bod llais trigolion a Phlaid Cymru Bangor wedi ei ddiystyru am ddatblygiad 366 o dai ym Mangor
Mae trigolion lleol a Phlaid Cymru Bangor yn hynod siomedig bod Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Llafur y Cabinet dros yr Amgylchedd wedi derbyn argymhelliad yr Arolygaeth Gynllunio i ganiatáu’r cais i ddatblygu 366 o dai ym Mhen y Ffridd, Bangor, Gwynedd.

Gweithiodd Plaid Cymru Bangor yn ddiflino i wrthod y cynllun i ddatblygu cynifer mor fawr o dai mewn un lleoliad ym Mangor. Roedd Cynghorwyr yn gwrthwynebu ar sail y buddsoddiad angenrheidiol fyddai ei angen i isadeiledd yr ardal, y pwysau dybryd sydd eisoes ar wasanaethau cyhoeddus, megis y gwasanaeth iechyd ac ysgolion lleol yn ogystal â’r cynnydd mawr ddaw yn sgil y traffig ychwanegol i’r ardal.

Un arall o’r prif ffactorau i’r Blaid ym Mangor wrthod y cynnig i ddatblygu cynifer o dai mewn un ardal oedd effaith andwyol datblygiad o’r fath ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal.

Cynhaliwyd trafodaethau lu ac ymgynghoriad cyhoeddus gyda thrigolion lleol yr ardal i wyntyllu barn a gwrthododd aelodau Plaid Cymru’r cais mewn cyfarfod cynllunio rhai misoedd yn ôl.

Yn ôl Gareth Roberts Y Cynghorydd Sir sy’n cynrychioli trigolion Ward Dewi ar Gyngor Gwynedd: “Buom yn gadarn ein barn o’r dechrau cyntaf. Doedd trigolion yr ardal ddim am weld datblygiad o’r maint yma yn dod i’r Ward. Mae’n sicr o newid ein hamgylchedd a’n cymuned ac rydym yn siomedig iawn iawn gyda phenderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru.”

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Ward ym mis Hydref 2016 i glywed barn bobl leol, a chynrychiolwyd y trigolion lleol gan Y Cynghorydd Roberts, yn ogystal ag aelodau eraill o gynghorwyr Plaid Cymru Bangor mewn cyfarfod apêl.

“Does dim amheuaeth y bydd datblygiad o’r maint yma’n cael effaith enfawr ar fywydau trigolion o Fangor, a dwi’n pryderu nad yw’r seilwaith yn ei le i ni allu delio â’r cynnydd yn y boblogaeth ddaw yn sgil cymeradwyo datblygiad o’r maint hwn yn yr ardal,” meddai Cynghorydd Elin Walker-Jones, Ward Glyder, Bangor.

“Dadleuwyd yr achos yn gryf wrth wrthwynebu’r cais bod potensial enfawr i ddatblygiad mor fawr gael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth y gymuned. Mae’n siom enfawr nad yw Ysgrifennydd Llafur Cabinet Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn cydnabod y pryder am y Gymraeg yn ei llythyr. Mae’n dangos difaterwch llwyr gan Llywodraeth Cymru.”


Yn ôl Y Cynghorydd Gareth Roberts: “Mae gwasanaethau cyhoeddus eisoes yn gwegian, mae ein hysgolion yn llawn, mae sicrhau apwyntiadau gyda meddygfeydd yn anodd, mae nifer y cerbydau sydd eisoes ar ein lonydd yn broblemus, a thydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod nifer y tai a gynigir o fewn y cynllun yn gymesur â’r ardal.”

“Bydd y gwaith yn parhau i sicrhau bod aelodau’r Ward yn cael tegwch, bod ardal Bangor yn cael chwarae teg a bod Gwynedd gyfan ddim yn cael ei heffeithio’n andwyol gan ddatblygiad o’r maint hwn,” ychwanegodd Y Cynghorydd Gareth Roberts.

Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon: “Does dim amheuaeth bod angen tai newydd ar gyfer pobl leol, ond mae angen iddynt fod yn gartrefi o’r math cywir yn y lleoliad cywir ac ar raddfa sy’n dderbyniol i’r ardal leol. Yn anffodus, dwi’n siomedig iawn bod y cais wedi ei ganiatáu ac yn bryderus bod y datblygiad hwn yn llawer rhy fawr i’r ardal.

“Fel Plaid, byddwn yn parhau i gydweithio a phwyso ar y llywodraeth yn Llundain i ddatganoli grym cynllunio o Lundain i Gymru. Dim ond bryd hynny y gall trigolion lleol fod yn hyderus bod Cymru yn cael y grym yn ôl i’w dwylo eu hunain gan benderfynu tynged ein cymunedau gyda sustem gynllunio Gymreig.”

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Etholiad Cyffredinol 2017 – rhan 1

Am resymau na wnaf eich blino efo nhw dwi’n paratoi cyfres o graffiu ac ati sydd wedi eu seilio ar ganlyniadau etholiad Mehefin 8.  ‘Dwi’n bwriadu cyhoeddi un ar y blog pob hyn a hyn.Mi wnwn ni ddechrau efo ‘r isod – mae’n dangos lle enillodd y Bl… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: A, y Daily Mail!

BlogMenai.com: Y dychanwyr yn cael hwyl

BlogMenai.com: Ffrindiau bach y Toriaid

BlogMenai.com: Trydariad y diwrnod

BlogMenai.com: Pam bod ail etholiad buan yn debygol iawn

Ei phroblem ydi ei bod yn ddibynol ar blaid Asgell Dde eithafol, ond hynod ecsentrig y DUP.  Ystyriwch y canlynol:1). Mae’r DUP o blaid Brexit – ond maent yn erbyn ffin galed – nid oherwydd rhyw gariad mawr at Ewrop na’r Weriniaeth, ond oherwydd y… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Trydariad y diwrnod

BlogMenai.com: Llafur Arfon – pawb yn hapus ac yn llawen

BlogMenai.com: Dathliad – steil Llafur Gorllewin Caerdydd

Champagne – yn ddigon addas, potel o win coch  Gentleman Jack – Jack Daniels pobl fawr.Be ddywedan ni dywedwch – Gentleman Jack Socialist ta Champaigne Socialist? Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Sylwadau brysiog ar etholiad ddoe

1). Arfon.  Ychydig iawn o bleidleisiau gollodd y Blaid yn Arfon ond daethom yn agos iawn i golli’r sedd i ymgeisydd sy’n byw yn Llundain, na wnaeth fawr o ymdrech o gymharu a Sion Jones ac Alun Pugh, sydd ddim yn siarad Cymraeg a sy’n ystyried ei… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Sibrydion

Son bod PC 100 ar y blaen yn Arfon, Llaf eisiau ail gyfri.  Pc yn iawn yn Dwyfor Meirion a Dwyrain Caerfyrddin.  Agos yn Ceredigion – PC mymryn ar y blaen. Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Mwy o driciau budur gan Dib Lems Ceredigion

Mae’n debyg mai ‘Dib Lems’ Ceredigion sy’n. ‘Arwain’ y ffordd yng Nghymru o ran triciau budur etholiadol a dweud celwydd.  Mae’r hanes yn un hir a hynod anymunol.  Ni fyddai etholiad yn gyflawn yng Ngheredigion pe na byddai’r Lib Dems yn mynd… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Paradocs rhyfedd etholiad 2017

Felly beth ydym i’w wneud o’r etholiad ryfedd yma?

Os ydym i gredu’r polau – er gwaetha’r amrywiaeth sylweddol yng nghanfyddiadau’r polau hynny – mae yna batrwm amlwg yn ymddangos, ac mae’n batrwm amlwg iawn.


Yr hyn sy’n rhyfedd, ac yn anarferol iawn ydi bod erbyn hyn mae’r ddwy blaid fawr yn ymddangos i fod yn ennill pleidleisiau.  Mae hynny’n bennaf oherwydd y chwalfa ym mhleidlais UKIP, ond mae hefyd – i raddau llai – ar draul y pleidiau llai eraill.  Ar ol blynyddoedd o symud oddi wrth gyfundrefn dwy blaid a thuag at cyfundrefn aml bleidiol, ymddengys bod y llanw wedi troi – ac wedi troi go iawn.

Felly – os ydi’r polau i’w credu bydd Llafur a’r Torïaid yn ôl pob tebyg yn cynyddu eu cyfran o’r bleidlais. Y broblem o safbwynt Llafur a’r Toriaid ydi na fyddant yn ennill llawer o seddi oddi wrth ei gilydd os ydi pleidlais y ddwy blaid yn cynyddu.  
Hynny yw os ydi y Torïaid i ennill nifer fawr o seddi, mae’n rhaid iddynt i ennill oddi wrth Lafur a felly hefyd i’r gwrthwyneb.  Ond os ydi pleidlais y ddwy blaid yn codi ar draul UKIP yna fydd yna ddim llawer o symud o ran seddi.  Ar hyn o bryd mae’r polau cyfartalog yn awgrymu y bydd pleidlais y Toriaid tros y DU yn cynyddu o 6.2%, tra y bydd pleidlais Llafur yn cynyddu 4.8%.  Mae hyn yn ogwydd o 0.7% gogwydd fyddai’n arwain at ychydig iawn o newid o ran seddau.  Yn wir gallai arwain at fwy ac nid llai o seddi i’r Toriaid.
Felly gellir yn hawdd ddychmygu’r Toriaid yn cael cryn dipyn mwy o bleidleisiau na gawsant yn 2015, ond yn cael llai o seddi – neu o leiaf ddim llawer mwy.  Gallai May fod allan o joban ddydd Gwener er iddi gynyddu canran y Toriaid o’r broblem yn sylweddol

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Dwyieithrwydd o’r diwedd gan Lafur Arfon

BlogMenai.com: Yn y cyfamser ym myd rhyfedd Plaid Lafur Arfon _ _

_ _ mae’r syniad o gyfieithu eu stwff o’r Saesneg i Urdu a ieithoedd Dwyrain Ewrop yn cael ei ystyried er mwyn gallu cyfiawnhau cyfieithu i’r Gymraeg. Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Pam bod Albert Owen yn debygol o golli yn Ynys Mon i Ieuan Wyn

Oherwydd bod y bleidlais isaf gafodd Ieuan erioed – pan gollodd i Keith Best yn 1983 – fil yn uwch na’r bleidlais uchaf gafodd Albert erioed.Record Albert mewn etholiadau San Steffan:2010 – 11,4902005 – 12,2782001 – 11,906Record Ieuan Wyn yn etholiadau… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Talking to the few, not the many

Arfon ydi’r etholaeth fwyaf Cymraeg ei hiaith yng Nghymru – ac yn wir y Byd.  Hyd oed pan mae yna filoedd o fyfyrwyr yn ein plith mae tua dau draean o’r boblogaeth yn siarad y Gymraeg – gyda ‘r mwyafrif llethol ohonom yn ei siarad fel mamiaith. &n… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Sut i ymateb i newyddion ffug

Rwan bod y tymor y cynghorau newydd wedi cychwyn mae’n amlwg ar ol wythnos neu ddwy yn unig bod ‘newyddion ffug’ am barhau i fod yn un o nodweddion y ffordd mae’r gwrthbleidiau yn gweithredu.  Mae yna hen hanes o hyn yng Ngwynedd wrth gwrs – gyda … Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Yr olwynion yn dod oddi ar yr ymgyrch i gamarwain

BlogMenai.com: Mwy am y ‘codiad cyflog’ – neu spot the difference

Sion Jones mis Chwefror 2017.Sion Jones mis Mai 2017:Mae trimis yn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ynglyn a’r ‘codiad cyflog’ o £3,000 i gynghorwyr Gwynedd

Dwi’n gwybod fy mod i’n mynd yn hen – ond roedd yn gryn syndod gennyf ddeall o dudalen ymgeisydd aflwyddiannus ym Menai, Caernarfon (y ward dwi’n byw ynddi) – Gwyndaf Jones fy mod wedi pleidleisio am godiad cyflog i gynghorwyr o £3,000.

Erbyn meddwl mae’n debyg mai’r rheswm am hynny ydi nad oedd yna bleidlais am godiad cyflog o £3,000. Roedd yna fodd bynnag bleidlais i dderbyn argymhellion gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol oedd yn cynnwys cyfeiriad at godiad cyflog o £100 y flwyddyn i gynghorwyr cyffredin – cynnydd o £13,300 i £13,400, codiad o tua 0.7%.  Gan bod chwyddiant ar hyn o bryd yn 2.7%, golyga hyn gwymp cyflog mewn termau real o 2%.

Roedd yna hefyd bleidlais yn erbyn gwelliant (gan Sion Jones, unig aelod Llafur y cyngor bellach) oedd yn argymell toriad cyflog o tua £3,000 i aelodau cabinet o gymharu a’r trefniadau blaenorol – trwy eu symud o un lefel cyflog i un arall. Nid oedd gan yr aelodau Annibynnol, Llais Gwynedd, Llafur na Lib Dems unrhyw obaith o gael lle ar y cabinet – felly roeddynt mewn gwirionedd yn pleidleisio i dorri cyflogau eu gelynion gwleidyddol, tra’n osgoi unrhyw doriad eu hunain.  Dwi ddim yn cofio cynnig o ostyngiad cyffelyb yng nghyflogau cadeiryddion pwyllgorau – safleoedd sydd yn agored i aelodau o pob grwp, ac nid y grwp sy’n rheoli yn unig.

Mae’r aelodau o’r wrthblaid a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig i dderbyn argymhellion y bwrdd yn gwbl rhydd i ddychwelyd y £100 blynyddol, neu unrhyw gyfran eraill o’u cyflogau.  Bydd yn ddiddorol gweld faint o aelodau’r gwrthbleidiau sy’n teimlo’n ddigon cryf am y mater i wrthod cymryd eu £100 y flwyddyn.

Mae Sion hefyd yn cyfeirio at y mater yn ei dudalen gweplyfr – ond mae ei gyfeiriad ychydig yn fwy cywir nag un Gwyndaf. Mae Sion wrth gwrs – yn wahanol i Gwyndaf – yn agored i gamau disgyblu o dan god ymarfer cynghorwyr os yw’n dweud celwydd am bobl eraill.

Beth bynnag mae ganddo ddau gyfeiriad – yn y cyntaf mae’n cwyno nad ydi’r Daily Post yn rhedeg stori am y cyngor yn gwrthod ei gynnig i dorri cyflogau aelodau cabinet.

Petai’r Daily Post yn rhedeg straeon am gynghorau ddim yn torri cyflogau cynghorwyr neu aelodau cabinet, dyna’r unig straeon y byddant yn ei rhedeg.  Mae yna 22 cyngor yng Nghymru gyda chyfran uchel ohonynt yn cael eu rheoli’n llwyr neu’n rhannol gan Lafur.  ‘Dydw i heb glywed am yr un o’r rheiny’n torri cyflogau, a dydw i heb glywed Sion – nag yn wir Gwyndaf – yn galw arnynt i wneud hynny.
Mae hefyd yn nodi ei fod o’n fodlon cymryd toriad – er nad ydi’r tebygrwydd y bydd yn cael ei hun ar y cabinet yn uchel – a dweud y lleiaf.
Yn yr ail mae’n cwyno bod pobl wedi cywiro’r camargraff.

Beth bynnag os ydi’r grwp annibynnol o ddifri eisiau arbed pres i’r cyngor mae yna ffyrdd llawer mwy effeithiol o wneud hynny.  Mae yna 75 aelod ar Gyngor Gwynedd (gydag argymhelliad gan y Comisiwn Etholiadol i’w dorri i 67 erbyn 2022).  60 Aelod Cynulliad sydd yna – er bod hwnnw’n gweithredu tros Gymru gyfan, a 30 aelod sydd gan Ynys Mon – sydd a bod yn deg efo poblogaeth is nag un Gwynedd.  Byddai toriad yn y nifer o gynghorwyr yng Ngwynedd i – dyweder – 40 yn arbed pres sylweddol yn hytrach na manion i’r cyngor.  Byddai hynny’n hen ddigon i wneud y gwaith.
Felly beth amdani bois?  Beth am gynnig bod y cyngor yn argymell toriad yn nifer y cynghorwyr sy’n eistedd arno i 40?
A bu distawrydd.

Parhau i ddarllen