Canlyniadau Chwilio: deddf

BlogMenai.com: Beth ydi’r busnes Deddf Iaith ‘ma yng Ngogledd Iwerddon?

Mae yna nifer o bobl dwi wedi siarad efo nhw tros y dyddiau diwethaf wedi mynegi syndod bod Deddf Iaith Wyddeleg yn un o’r esgyrn cynnen sy’n atal cytundeb i atgyfodi Stormont a’r weinyddiaeth yng Ngogledd Iwerddon.  Wedi’r cwbl ychydig iawn o bobl sy’n siarad yr iaith yn y Gogledd. 

Mae’r canfyddiad yma yn ddealladwy – ond mae’n anwybyddu un o’r elfennau lled unigryw i wleidyddiaeth y rhan fach yma o’r Byd.  Mae yna rhyw ran bach o feddylfryd y Canol Oesoedd wedi goroesi yng Ngogledd Iwerddon yn yr ystyr bod yna elfen ‘totemic’ cryf i’r ffordd mae pobl yn gweld eu gwleidyddiaeth – hynny yw bydd un peth gweddol gyfyng a phenodol yn aml yn cynrychioli cysyniad neu egwyddor ehangach o lawer.  Dyna sydd ar waith yma – symbol ydi’r iaith – a thrwy estyniad y Ddeddf Iaith.

Efallai mai’r lle i ddechrau yma ydi efo’r ddelwedd o Martin McGuiness yn sefyll yn sigledig ar ei draed yn Stormont i ymddiswyddo fel ail weinidog Gogledd Iwerddon, a Michelle O’Neil yn codi ar ei thraed hithau i ddweud nad oedd Sinn Fein (SF) yn bwriadu enwebu unrhyw un yn ei le.  Daeth hynny a’r Weinyddiaeth a’r Cynulliad ei hun i lawr – mae consensws wrth galon y ffordd mae’r sefydliad yn gweithredu, ac roedd y consensws wedi chwalu. Gwnaeth y gwleidyddion eu ffyrdd i’w hetholaethau i ymladd etholiadad – a chafodd ei hymladd mewn ffordd mwy chwerw ac ymysodol na’r un etholiad ers chwarter canrif.
Y fersiwn ‘swyddogol’ ydi mai’r rheswm pam y digwyddodd hyn oedd oherwydd i SF golli ffydd yn y DUP yn sgil y sgandal Cash for Ash.  Ond yn ol llawer nid dyna oedd y gwelltyn olaf – penderfyniad gan ddyn o’r enw Paul Givan oedd hwnnw.  Roedd Givan yn weinidog cymunedau DUP, ac roedd ganddo ddiddordeb obsesiynol a hynod elyniaethus tuag at y sector (hynod fach) addysg Gwyddelig yn ei bortffolio.  Penderfynodd y byddai’n syniad gwych arbed pres trwy ddiddymu grant bach o £100,000 i helpu plant tlawd i fynd i’r Gaeltacht yn yr haf i loywi eu Gwyddeleg.  Yn fuan wedi’r penderfyniad hwnnw  gyrrodd Gerry Adam i o’i gartref yn Dundalk i Derry i weld Martin McGuinness – oedd erbyn hynny yn amlwg yn marw.  Gyrwyd hwnnw i Belfast y diwrnod canlynol i ddymchwel Stormont.
I ddeall beth ddigwyddodd mae angen deall dau beth.  Yn gyntaf roedd SF wedi bod yn gogr droi yn etholiadol ers deuddeg mlynedd.  Daeth yn blaid bwysig yn etholiadol yn sgil yr ymprydiau newyn yn 1981, ond ni lwyddodd i oresgyn y blaid genedlaetholgar gyfansoddiadol yr SDLP y tu allan i Belfast a rhai o’r cymunedau gorllewinol gwledig tan Gytundeb Dydd Gwener y Groglith.  Tyfodd yn sydyn am sbel wedyn a goddiweddyd yr SDLP gyda throad y mileniwm.  Y disgwyl oedd y byddai’r blaid yn parhau i dyfu gan fod y boblogaeth Babyddol / genedlaetholgar yn tyfu.  
Ond ni ddigwyddodd hynny – wnaeth y bleidlais genedlaetholgar yn ei chyfanrwydd ddim tyfu llawer rhwng dechrau’r ganrif a 2016.  Mae’r rheswm am hynny yn hawdd i’w arenwi – roedd yna lawer o bobl yn fodlon pleidleisio i SF pan roeddynt yn wrth sefydliadol ac yn herio’r sefydliad unoliaethol – ond roeddynt yn llai tebygol o lawer i bleidleisio i blaid oedd yn cael ei hystyried yn rhan o’r sefydliad.  Roedd y tueddiad yma’n cael ei gryfhau gan ganfyddiad cynyddol nad oedd y wladwriaeth yn parchu’r traddodiad cenedlaetholgar yn unol a gofynion Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.
A daw hyn a ni at y Ddeddf Iaith.  Yng ngwleidyddiaeth Gogledd  Iwerddon mae’r iaith Wyddeleg yn dotem sy’n sefyll tros y diwylliant Gwyddelig ehangach.  Byddai Deddf Iaith yn ymgyrfforiad cyfreithiol o barch y wladwriaeth at y traddodiad diwylliannol Gwyddelig yn ei gyfanrwydd, ac mae diffyg Deddf – i lawer o genedlaetholwyr – yn adlewyrchiad o ddiffyg parch y wladwriaeth at eu diwylliant ehangach.
A daw hyn yn ei dro a ni yn ol at etholiadau Stormont eleni.  Cynyddodd SF ei phleidlais yn sylweddol iawn trwy ymladd yr etholiad mwyaf ffyrnig, cwynfanllyd a negyddol iddynt ei hymladd ers y dyddiau pan roeddynt yn canfasio i gyfeiliant hofrenyddion a chydag arogl nwy CS yn cael ei gario yn yr awel o’u cwmpas.  Roeddynt wedi uno llawer o’r tir canol a gweriniaethwyr di gyfaddawd o gwmpas y cysyniad o orfodi’r wladwriaeth i fynegi parch at eu diwylliant yn ffurfiol trwy ddeddfu.

Ond byddai derbyn Acht na Gaelige yn anathema llwyr i’r DUP – byddai’n troi eu gwladwriaeth fach yn rhywbeth nad ydynt am iddi fod.  Mae’r ddwy ochr wedi cyrraedd unwaith eto at wraidd y broblem – ac mae am fod yn anodd iawn symud o’r fan honno.



Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Dechrau’r diwedd i ‘r Ddeddf Hawliau Dynol yn y DU

Bu cryn ddathlu yn y wasg Asgell Dde yn sgil y datganiad bod y DU am symud i gyfeiriad  Belarus a Kazakhstan i ddod yn un o’r triawd o wledydd yn y DU sy’n gwrthod cydnabod y Ddeddf Hawliau Dynol.  Mae llywodraeth May am ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol lle mae’n effeithio ar filwyr mewn brwydr – ac yn ddi amau gallwn ddisgwyl gweld y Ddeddf yn cael ei gwanio ymhellach maes o law.

Mae rhai o’r papurau hynny wedi cynnal ymgyrchoedd i ryddhau rhai o’r ychydig filwyr sydd wedi eu carcharu yn sgil cyflawni troseddau rhyfel.  Y dadleuon a wneir fel rheol ydi bod y Fyddin Brydeinig yn anarferol o foesol a chyfrifol yn y ffordd maent yn cynnal eu mynych ymgyrchoedd milwrol, bod gweithdrefnau’r Fyddin Brydeinig i ddelio a chamymddygiad yn hynod effeithiol a bod yr honiadau a wneir gan bobl yn erbyn y Fyddin Brydeinig o dan amodau’r Ddeddf yn rhai annilys.  


Yn anffodus o edrych ar hanes cymharol ddiweddar y Fyddin Brydeinig dydi’r ffeithiau ddim yn cefnogi’r honiadau.  Mae defnydd chwarter awr o Google wedi dod o hyd i’r _ _ ahem _ _ camgymeriadau canlynol gan y Fyddin Brydeinig yn ystod y ganrif yma a’r un diwethaf.  
Sefydlu’r Concentration Camps gwreiddiol yn ystod Rhyfel y Boer.  Arweiniodd hyn at farwolaeth tua 27,000 o ferched a phlant gwyn.  Mae’n debyg i nifer tebyg o bobl ddu farw hefyd – ond wnaeth neb drafferthu cyfri.

Arteithio cannoedd o bobl yn Ail Ryfel Irac.

Cyflafan Amritsar yn 1919.  Lladdwyd rhwng 400 a 1,000 o brotestwyr heddychlon mewn tua 10 munud pan daniodd y fyddin Brydeinig i ganol y dorf.  Cafodd y swyddog – Reginald Dyer- oedd yn gyfrifol am roi’r gorchymyn ei symud o’i swydd (ond ddim o’r fyddin) – ond gwnaed casgliad sylweddol iddo o £26,000 (tua £350,000 ym mhres heddiw) gan y cyhoedd rai o’r papurau newydd – gan gynnwys rhai sy’n clochdar am ddiflaniad y Ddeddf Hawliau Dynol heddiw.  Arwydd o ddiolch oedd y rhodd. Eglurodd Reginald Dyer iddo orchymyn y gyflafan oherwydd yr effaith moesol y byddai’n ei gael yn yr ardal. 

Arteithio degau o filoedd o garcharorion yn nyddiau olaf yr Ymerodraeth.  Kenya, Aden a Cyprus ydi’r esiamplau mwyaf enwog o artaith yn cael ei ddefnyddio yn gyson a systematig ar garcharorion – ond roedd llawer o enghreifftiau eraill hefyd.

Llofruddio milwyr Almaenig oedd wedi goroesi wedi i’w llongau gael eu suddo.

Defnyddio arfau cemegol a difa pentrefi (a phob dim oedd yn byw ynddynt) wrth ddelio a gwrthryfel yn Irac yn 1920.

Ac wedyn wrth gwrs mae yna Iwerddon – yng nghyd destun y rhyfel diweddaraf a’r Rhyfer Black & Tan.  Roedd y digwyddiadau hyn yn ymwneud yn bennaf a lladd heb gyfiawnhad, arteithio a difa eiddo. 
Mae gan llywodraeth Prydain, y gyfundrefn filwrol a’r gyfundrefn gyfreithiol record sal iawn yn hanesyddol o fynd i’r afael a thor cyfraith a dirmyg tuag at hawliau dynol mewn sefyllfa o ryfel.  Mae’r hyn mae May wedi ei wneud yn debygol o sicrhau y bydd yr un patrymau yn ail adrodd eu hunain yn rhyfeloedd y dyfodol – a gallwn fod yn gwbl sicr y bydd yna rhai.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Felix, Sion a deddfau cyffuriau

Mi glywais i rhyw fymryd o raglen radio Vaughan Roderick y diwrnod o’r blaen.  Ymysg eitemau eraill cafwyd trafodaeth ar gyfreithloni canabis. Vaughan, Felix Aubel, Sion Jones a rhywun arall nad ydw i’n cofio ei henw oedd yn cymryd rhan.   Fel llawer o raglenni mae Felix yn cymryd rhan ynddi roedd yna rhyw gymysgedd rhyfedd o’r boncyrs a’r di niwed o’i chwmpas.  Roedd y pedwar ohonyn nhw yn mynd trwy’i pethau fel petai yna fewath o dystiolaeth bod erlid defnyddwyr canabis wedi lleihau’r defnydd a wneir o’r cyffur.  Roedd Felix yn ein sicrhau bod ‘ei brofiad fel gweinidog yr Efengyl’ wedi dangos iddo bod defnyddio’r cyffur meddal hwn gwneud i bobl ymosod ar eu partneriaid, treisio eu plant ac achosi anhrefn ar y strydoedd.  Mae’n amlwg nad yw ‘ei brofiad fel gweinidog yr Efengyl’ wedi arwain ato’n cael ei hun mewn sefyllfa lle mae ganddo sbliff yn ei geg.  Roedd Sion yntau’n poeni am y sefyllfa, ac am i ‘r awdurdodau fynd ar ol defnyddwyr cyffuriau a’u cosbi ‘n llymach o lawer.  Roedd Felix wrth gwrs yn cytuno.

Rwan mae defnyddio cyffuriau yn beth eithaf stiwpid i’w wneud – ond dydi o ddim mor stiwpid ag ydi cred Sion a Felix mai ‘r ffordd ymlaen ydi gwneud defnydd hyd yn oed yn fwy llym o’r gyfundrefn droseddol.

Y broblem efo’r cyfreithiau cyffuriau sydd gennym ar hyn o bryd ydi nad ydyn nhw’n gweithio – a dydyn nhw erioed wedi gweithio.  Ers 1971 mae tua £1 triliwn wedi ei wario ar hyd a lled y Byd mewn ymdrech i atal pobl rhag defnyddio cyffuriau trwy wneud defnydd llawdrwm o’r system gyfreithiol. Ac eto mae’r farchnad yn cynyddu a chynyddu, a chynyddu a chynyddu gan greu elw rhyfeddol i ddrwg weithredwyr ar hyd a lled y Byd.   Rydym yn clustnodi amser ac adnoddau di ben draw i fynd i’r afael a’r broblem – yn taflu niferoedd enfawr o bobl i’r carchar – a’r canlyniad ydi bod mwy o gyffuriau ar y stryd a bod mwy o elw yn cael ei wneud gan ddrwg weithredwyr.


Mae yna resymau sy’n ymwneud a grymoedd economaidd sylfaenol yn gyrru hyn oll.  Fel mae’r awdurdodau yn mynd yn fwyfwy llawdrwm ar y drwgweithredwyr sy’n cyflenwi cyffuriau, mae’r sawl sy ‘n fodlon cymryd y risg i gyflenwi yn gofyn am fwy o arian – wedyn mae pris cyffuriau yn cynyddu ac wedyn mae’r sawl sy’n ei ddefnyddio yn cael eu hunain yn gorfod torri cyfreithiau eraill er mwyn fforddio talu am gyffuriau.  Mae’r drefn sydd ohoni yn gwthio prisiau cyffuriau i fyny, a’r bobl sydd yn elwa o hynny ydi gangiau o ddrwg weithredwyr sy’n gweithredu ar hyd a lled y Byd – o Gaernarfon i Fogota.  Mae yna gysylltiad uniongyrchol rhwng natur cyfreithiau gwrth gyffuriau a’r anhrefn mae cyffuriau yn eu hachosi ar hyd a lled y Byd.  Mae’r fasnach Fyd eang werth tua $300bn.

Mae effaith hyn ar hyd a lled y Byd yn syfrdanol.  Mae’n debyg i tua 100,000 o bobl farw ym Mecsico rhwng 2006 a 2015 oherwydd yr anhrefn mae’r diwydiant cyffuriau ac ymdrechion yr awdurdodau i ‘w atal wedi ei greu. Ychydig mwy na 3,000 fu farw yng Ngogledd Iwerddon trwy’r rhyfel hir yno. Ceir carchardai llawn at yr ymylon mewn llawer o wledydd (defnyddwyr cyffuriau ydi mwyafrif carcharorion America – tua 500,000 o bobl). 

Ac eto dydi ‘r holl ymdrechion ddim wedi cael unrhyw effaith o gwbl.  Yn ol rhai amcangyfrifon mae traean o oedolion y DU wedi defnyddio cyffuriau anghyfreithlon ar rhyw bwynt neu’i gilydd yn eu bywydau.  Mae un plentyn mewn chwech rhwng 11ac 15 oed yn defnyddio cyffuriau, mae yna tua 2,000 o bobl yn marw y flwyddyn o ganlyniad i gyffuriau ac mae ‘r defnydd o gyffuriau cyfreithlon – legal highs – yn rhemp.

Ac eto (yn y DU) mae tua 500,000 o bobl yn cael eu stopio a’u harchwilio am gyffuriau yn flynyddol yn y DU, ac mae 70,000 o bobl yn cael eu bywydau wedi eu difetha trwy gael record troseddol am ddefnyddio cyffuriau.


Er gwaethaf hyn oll ‘dydi’r broblem ddim yn gwella o gwbl.  Yn wir mae ymchwil y Swyddfa Gartref yn dangos yn weddol glir nad oes perthynas rhwng llymder cyfreithiau cyffuriau a faint o bobl sy’n defnyddio cyffuriau.

Mae yna ffyrdd o leihau’r defnydd o gyffuriau – ond nid trwy erlid pobl sy ‘n gwneud drwg i neb ag eithrio eu hunain a bwydo cyfrifon banc drwgweithredwyr ar hyd a lled y Byd efo biliynau o bunnoedd mae gwneud hynny.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Rhagweld 2018 – rhan 1

Os ydi’r blynyddoedd diwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni – y ffaith nad yw’n syniad da ceisio rhagweld y dyfodol ydi un o’r rheiny.  Ond mi wnawn ni anwybyddu’r wers honno a cheisio edrych ymlaen ar un peth pob dydd rhwng rwan a’r flwyddyn newydd… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Beth mae’r helynt Carl Sargeant yn dweud wrthym am y Blaid Lafur Gymreig

Reit mae hon yn un dipyn bach mwy sensitif nag arfer – ond byddai’n well i ni ddweud gair neu ddau mae’n debyg gen i.


Mae marwolaeth annisgwyl yn naturiol yn ennyn ar deimladau cryf – a mynegiant o’r teimladau hynny – a dyna sydd wedi digwydd yn sgil hunan laddiad Carl Sarjeant yn gynharach yr wythnos yma.  Ond mae digwyddiadau sydd yn ennyn ar deimladau cryf hefyd yn tueddu i daflu goleuni i gorneli sydd ddim yn gweld y golau yn aml – ac mae hyn wedi digwydd yma hefyd.



Y peth pwysicaf sydd wedi dod i’r amlwg ydi bod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi bod yn cuddio holltau ers talwm, a bod yr holltau hynny wedi ffrwydro i’r wyneb yn sgil digwyddiadau diweddar.

Cafwyd rhai o bwysigion Llafur yn mynd ati i wneud i Carwyn Jones yr hyn mae rhai ohonynt yn ei gyhuddo yntau o wneud i Carl Sargeant – ei gael yn euog cyn bod unrhyw ymchwiliad wedi digwydd.


Mae Leighton Andrews wedi ail ymddangos ar y ffurfafen wleidyddol i ddweud wrthym am awyrgylch wenwynig a bwlio oddi mewn i Lywodraeth Cymru a bod Carl Sargeant wedi cael ei dargedu ac nad oes trefn addas i ymchwilio i mewn i gwynion gan y Llywodraeth.  Roedd hefyd yn dweud bod Carwyn Jones yn ymwybodol bod Carl Sargeant yn fregus.  Gan nad yw Leighton Andrews yn Weinidog nag yn wir yn wleidydd Llafur bellach mae’n rhydd i siarad, a ‘dydi Carwyn Jones ddim mewn lle i ddial arno na’i niweidio.  Mae’n eithaf sicr bod Leighton Andrews yn siarad tros nifer sydd mewn sefyllfa sy’n 

ei gwneud yn llawer anos iddynt ddweud eu dweud.  


Rydan ni wedi clywed cryn dipyn tros y dyddiau diwethaf o ganmol rhagoriaethau Carl Sargeant fel gweinidog, gydag Alun Michael yn mynd ati i’w ddisgrifio fel un o’r gweinidogion mwyaf effeithiol iddo ddod ar ei draws yng Nghaerdydd nag yn wir Llundain.  Dydan ni ddim wrth gwrs bellach yn clywed nag yn debygol o glywed fawr ddim am yr honiadau yn ei erbyn.  


Tra bod marw yn ffordd wych o gael ein dyrchafu i’r cymylau a chael pobl i anghofio eich gwendidau – gwir neu dybiedig –mae’n amlwg bod o leiaf rhywfaint o’r canmol a’r clodfori yn ymysodiadau anuniongyrchol ar Carwyn Jones a’i arweinyddiaeth.  Mae’r hollti yn y Blaid Lafur Gymreig yn cael ei arddangos trwy brism ymatebion i ddigwyddiadau anffodus yr wythnosau diwethaf.


Ac mae’n debyg bod dimensiwn arall i’r gwrthwynebiad i Carwyn Jones – sef yr hollt rhwng dilynwyr Corbyn a’r sefydliad Llafur yn y DU, ac mae’n debyg bod y ffaith i Corbyn ddewis peidio a chefnogi Carwyn Jones yn adlewyrchu hyn.  Byddai Corbinistiaid Llafur wrth eu boddau petai ganddynt lywodraeth i’w rheoli yng Nghymru cyn yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf.  


Felly mae sefyllfa Carwyn Jones yn fwyaf sydyn yn hynod wan, gyda holltau sydd wedi bodoli ers talwm yn cael eu dinoethi’n gyhoeddus.  Mae’n fwy na phosibl na fydd Carwyn Jones yn arwain Llywodraeth Cymru erbyn diwedd y gwanwyn – ac mae’n fwy tebygol hyd yn oed na fydd Theresa May chwaith yn arwain Llywodraeth y DU.  Mae’n debyg y bydd y flwyddyn nesaf yn rhoi llechen lan i ni yn y ddau ddeddfwrfa.  

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Argymhellion y Comisiwn Ffiniau

Mae’n debyg y bydd yna gryn dipyn o ddoethinebu am y newidiadau i’r etholaethau San Steffan sydd wedi eu cyhoeddi gan y Comisiwn Ffiniau heddiw.  Mae’r ymarferiad yn un cwbl ddibwynt i raddau helaeth – mae’n anhebygol iawn o ddigwydd.Mae’r llywodr… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Gwario mawr ar Senedd Cymru

Mae’n dda deall bod Darran Hill yn cadw llygad barcud ar wariant Llywodraeth Cymru ac yn cwyno’n groch am wariant o £1.8m ar rhywbeth neu’i gilydd yn Senedd Cymru.

Mae’n siwr ei fod yn gywir i ddadlau bod £1.8m yn swm sylweddol.  Wedi’r cwbl mae’n tua 1/200 o’r hyn mae’r trethdalwr yn cael y fraint o’i dalu am beth sydd i bob pwrpas yn annedd breifat yn Llundain.
Neu’n 1/3,900 o’r hyn y gallai’r gwariant ar ddeddfwrfa arall fod – yr un yn Llundain. 

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Cylch rhagfarn y Bib

Reit ‘ta cyn bod yr eitem ar Newsnight wedi codi’n ddiweddar waeth i ni ddweud gair neu ddau am y mater.  Wna i ddim dweud llawer am Mr Ruck – mae  wedi bod wrthi’n gwyntyllu ei ragfarnau yn erbyn y Gymraeg ers blynyddoedd maith ar unrhyw bla… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ynglyn a Chynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Mon

Reit – gair neu ddau am ddigwyddiadau ddoe yn siambr Cyngor Gwynedd.Pwt o gefndir yn gyntaf – gan nad wyf wedi son ar y blog mae’n debyg na fydd llawer o ddarllenwyr Blogmenai yn ymwybodol i mi gael fy ethol ar Gyngor Gwynedd fel cynghorydd Plaid Cymru… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Pam nad oes yna Aelodau Cynulliad annibynnol

Wel, mae yna Aelodau Cynulliad Annibynnol – Nathan Gill a Dafydd Ellis Thomas – ond chafodd nhw ddim eu hethol fel ymgeiswyr annibynnol, cael eu hethol fel ymgeiswyr pleidiol wnaethon nhw a throi cefn wedyn.  Ar hyn o bryd dim ond un Aelod Seneddo… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Perlau Felix – rhan 1

Rydan ni wedi rhedeg ambell i stori ar ddatganiadau, doethinebu a thrydar ein cyfaill Felix Aubel.  Ond efallai y byddai’n syniad cael cyfres fach fel sydd gennym ar Gwilym Owen.  Mae’r gyntaf yn berl fach.  Yma mae Felix yn dangos nifer… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Gwilym Owen – rhif 101

Doeddwn i heb fwriadu gwneud sylw ar erthygl idiotaidd a phlentynaidd Gwilym Owen yn y rhifyn cyfredol o Golwg, ond mae gen i ugain munud bach ar fy nwylo.   Go brin bod yna unrhyw ymateb mor gwbl fyfiol ac egotistaidd i’r hyn ddigwyddodd fis diwethaf.  

Yn y bon mae’n rhestru’r Cymry hynny sydd – yn ol ei dystiolaeth ei hun – wedi ei feirniadu fo yn bersonol oherwydd ei safbwynt gwrth Ewropiaidd, yn clochdar bod poblogaeth Cymru wedi cefnogi ei safbwynt o yn hytrach nag un ‘gwleidyddion y Cynulliad a’r dosbarth canol sy’n ei swcro’.  Ymddengys ei bod yn anarferol i Gwilym fod ar yr ochr fwyafrifol mewn pleidlais o’r fath – sy’n newyddion diddorol. Mae hefyd yn rhoi ei resymau pam ei fod mor wrth Ewropiaidd – biwrocratiaeth, gwrth ddemocratiaeth a’r ffaith ei fod yn credu y dylai’r arian strwythurol sydd wedi dod i Gymru o Ewrop gael ei roi i’r bybl hwnnw ym Mae Caerdydd sy’n cael ei swcro gan y dosbarth canol.
Wnawn ni ddim trafferthu son mwy am yr ystumio myfiol, ond efallai y dylid ymateb i’r ‘rhesymau’ mae Gwilym yn eu defnyddio tros wrthwynebu Ewrop – wedi’r cwbl ni lwyddodd yr ymgyrch Aros i wneud fawr o joban arni.
Y ffeithiau am fiwrocratiaeth Ewropiaidd ydi’r rhain.  Mae’r Undeb Ewropiaidd yn cyflogi 33,000 o firocratiaid, gyda 12,000 o’r rheiny wedi eu lleoli ym Mrwsel.  Mae hyn yn swnio’n nifer fawr o bobl – ond dydi o ddim.  Mae ‘r Deyrnas Unedig yn cyflogi 80,000 o weision sifil i hel trethi yn unig.  Mae llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau yn cyflogi 1.8 miliwn o fiwrocratiaid, mae llywodraeth ffederal yr Almaen yn cyflogi 335,000 o fiwrocratiaid.  Mae yna fwy o bobl yn byw yn yr UE nag yn y DU, yr Almaen ac UDA efo’i gilydd.

Mae Gwilym yn honni bod yr holl ddeddfu yn nwylo criw bach o bobl sydd wedi ei henwebu yn hytrach na’u hethol.  Rwan – dydi hyn jyst ddim yn wir.  Mae’r ffordd mae’r Undeb yn cael ei rheoli yn gymhleth, ond dydi o ddim yn anemocrataidd.  

Mae Senedd Ewrop yn cael ei ethol mewn etholiadau sy’n defnyddio dulliau cyfrannol ym mhob gwlad yn Ewrop.  Mae pob aelod wedi ei ethol yn ddemocrataidd.  Mae yna 751 aelod efo 73 o’r rheiny yn dod o’r DU.  Mae’r Senedd yn ethol ei Arlywydd, 14 is Arlywydd a 5 quaestor, a’r rheiny sy’n ffurfio’r corff sy’n llywio’r Senedd.

Mae Arlywydd Cyngor Ewrop yn cael ei ethol gan y 28 llywodraeth sy’n cynrychioli gwledydd yr UE.  Mae pob un o’r rheiny wedi eu hethol yn ddemocrataidd.  Mae gan pob gwlad yn yr UE sedd ar Gyngor Ewrop.  

Mae Arlywydd y Comisiwn Ewropiaidd yn cael ei ethol gan Gyngor Ewrop, ond mae’n rhaid i’r rheiny gymryd i ystyriaeth ganlyniad yr etholiadau Ewrop blaenorol wrth wneud hynny.  Mae’n rhaid i Senedd Ewrop wedyn gytuno i ‘r Arlywyddiaeth.  Jean-Claude Juncker ydi’r Arlywydd cyfredol, a’i blaid (EPP) ydi’r blaid fwyaf yn Senedd Ewrop.  Mae’r 27 aelod arall yn cynrychioli pob un o wledydd y DU, ac yn cael eu dewis gan Gyngor Ewrop – mewn cytundeb efo’r Arlywydd.

Cymhleth – ond cwbl ddemocrataidd.  

Bydd llawer o bwerau Ewrop mewn perthynas a Phrydain bellach yn dychwelyd i San Steffan.  Mae yna lywodraeth fwyafrifol yn San Steffan sydd wedi ennill 36.9% o’r bleidlais, ac mae yna Dy’r Arglwyddi sydd a bron i 800 o aelodau – does yna’r un o’r rheiny wedi cael eu hethol gan neb, ac mae yna nifer ohonynt yn eistedd ar y seddi coch am eu bod yn perthyn i eglwys arbennig – hynny ydi am resymau secteraidd.  Ac mae’r wladwriaeth wrth gwrs yn cael ei harwain gan ddynas na chafodd erioed bleidlais gan neb.  

Ac wedyn dyna i ni’r pres Ewropiaidd mae Gwilym yn meddwl sydd ar y ffordd i’w annwyl fybl.  Mae yna gwyno ymysg Toriaid bod Cymru yn cael ei gor ariannu o drysorlys y DU.  Mae gwariant y pen yng Nghymru ymhell tros £1k y pen yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr.  Mae’n anodd gweld pam y byddai llywodraeth asgell Dde sydd a thrwch ei chefnogaeth etholiadol yn Lloegr yn teimlo’r angen i gyfeirio mwy o bres i Fae Caerdydd ac ychwanegu at yr anghyfartaledd.  

Mae Gwilym yn cwyno ar gychwyn ei erthygl bod Rhys Mwyn yn ei alw’n wleidyddol anllythrennog.  Os ydi Rhys wedi gwneud y sylw hwnnw, mae’n gwbl gywir.  


Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Patrymau pleidleisio Gwynedd ddydd Iau – a’r hyn maent yn eu dweud am weddill Cymru

Un o’r ychydig bethau da i ddeillio o ganlyniad refferendwm Ewrop y diwrnod o’r blaen ydi ei fod am ddarparu  llwyth o ddeunydd blogio am gyfnod i ddod.  Mae’r tirwedd gwleidyddol wedi newid yn llwyr, a bydd pob math o oblygiadau i hynny – ll… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Y blynyddoedd wedi’r refferendwm os y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropiaidd

Mae pethau’n edrych yn agos ar gyfer y refferendwm Ewrop – ac mae hynny’n rhannol oherwydd nad ydi’r gefnogaeth i’r ochr Aros ddim yn edrych mor soled ymysg y grwpiau y byddai rhywun yn disgwyl y byddai’n pleidleisio iddynt.  Yn bersonol dwi ddim … Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Diwrnod gogleisiol o ymgyrchu

I ddechrau dyna ni ‘fetro’ Glannau Mersi / Gogledd Orllewin Cymru.Wedyn dyna i ni bolisi’r Toriaid o adael i geir yrru ar 80mha ar hyd yr A55 – a felly ei gwneud yn bosibl mynd o Gaer i Gaergybi 8.6 munud yn gynt ar yr adegau prin pan mae’n bosibl mynd… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Hybu busnesau bach – postscript

Un pwt bach arall ynglyn a chynlluniau Plaid Cymru a chynlluniau Llafur Arfon i roi hwb i fusnesau bach.

Yn y bon cynllun Plaid Cymru i hybu busnesau bach ydi ail strwythuro’r gyfundrefn drethiannol mewn modd lle gellid cefnogi yn ariannol pob busnes efo gwerth ardrethol o hyd at £20,000.  Byddai hyn o gymorth 90,000 o fusnesau, gyda 70,000 ddim yn talu unrhyw drethi busnes o gwbl ac 20,000 yn talu llai o drethi.


Mae cynllun Llafur Arfon wedi ei seilio ar berswadio’r Cynulliad i orfodi trefi i gynnig parcio rhad ac am ddim am ddwy awr y dydd. Bu Llafur mewn grym ers 1999 wrth gwrs a dydyn nhw heb wneud hyn.  Efallai mai ‘r rheswm am hynny ydi y byddai cymryd camau o’r fath yn creu twll mawr du yng nghyllidebau cynghorau – yn arbennig felly rhai dinesig fel Caerdydd, Abertawe a Wrecsam.  Byddai’n rhaid llenwi’r twll trwy dorri gwasanaethau, sacio gweithwyr neu godi treth y cyngor.

Ta waeth, yr hyn sy’n rhyfedd am y stori ydi nad ydi ymgeisydd Llafur yn Arfon – hyd y gwn i – erioed wedi dadlau ar lawr y cyngor y dylid cynnig parcio rhad ac am ddim yn nhrefi Gwynedd.  Byddai’n llawer haws sicrhau parcio rhad ac am ddim yng Ngwynedd trwy gael y cyngor i wneud hynny na thrwy gael y Cynulliad i greu deddf fyddai’n eu rhoi ben ben a phob cyngor bron yng Nghymru.

Rwan, efallai fy mod yn anghywir – ac fel arfer dwi ‘n mwy na bodlon cywiro camargraff os mai dyna’r sefyllfa – ond mae’n ymddangos bod Sion eisiau cynnig parcio rhad ac am ddim trwy’r Cynulliad – trywydd fyddai’n nesaf peth i amhosibl.  Serch hynny nid yw wedi ceisio gwneud hynny trwy drywydd haws o lawer – cael y cyngor sy’n uniongyrchol gyfrifol am godi am barcio yn Arfon i beidio a gwneud hynny.

Pam tybed?


Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Chware teg i pob rhan o Gymru = Cymru unedig

Mae’r blog yma wedi tynnu sylw sawl gwaith at y gwariant anghyfartal yng Nghymru gyda mwy o adnoddau yn cael eu cyfeirio i ardaloedd lle mae Llafur yn gryf, a llai i’r ardaloedd lle maent yn wanach.  ‘Does yna neb yn gofyn am ffafriaeth i’r Gogled… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Yn ol i’r deyrnas fanana

Felly dyma fi ar y llong ar y ffordd yn ol adref i’r newyddion gwych fy mod yn cael gwneud fy nghyfraniad bach i gadw 45 o ‘arglwyddi’ newydd mewn moethusrwydd.  Daw hyn a’r cyfanswm i 826.  Mae nifer o ‘r ‘arglwyddi’ newydd ymysg y sawl oedd ynghanol y sgandal dreuliau enwog saith mlynedd yn ol.  Mae gan y Dib Lems 8 o aelodau seneddol etholedig a 102 o ‘arglwyddi’ efo’r hawl i ddeddfu – er na chawsant eu hethol gan neb. 

Mae’n debyg mai’r unig gorff llywodraethol mwy o ran maint ydi Cyngres y Bobl yn China sydd a bron i 3,000 o aelodau. Ond mae hwnnw yn gorff mwy democrataidd, llai drud a llai llwgr na Thy’r Arglwyddi.  



Mae yna etholiadau – o fath – i’r Gyngres. Yr unig beth sydd ei angen i fod yn aelod o Dy’r Arglwyddi ydi bod yn ffrindiau efo arweinydd un o’r pleidiau unoliaethol mawr, bod wedi cyfrannu pres i arweinydd un o’r pleidiau unoliaethol mawr, neu bod wedi cyfrannu i un o’r pleidiau unoliaethol mawr.  Mi fydd yna ambell i berson arall yn cael ymuno o bryd i’w gilydd am resymau cyflwyniadol.

Tra bod dod a thair mil o gynrychiolwyr o pob cwr o China at ei gilydd yn broses cymharol ddrud, dydi’r Gyngres ond yn cyfarfod am 10 i 14 diwrnod y flwyddyn – yn y gwanwyn fel rheol.  Mae Ty’r Arglwyddi yn cyfarfod ar hyn y flwyddyn – ac mae unrhyw aelod sy’n teimlo fel mynychu yn cael gwneud hynny – gan dderbyn ‘costau’ o £300 y dydd.  Yn naturiol ddigon bydd llawer yn cymryd mantais o hyn, a bydd rhai’n treulio’r diwrnod yn cysgu’n braf ar y meinciau coch cyfforddus.

Mae deddfwrfa fawr, anetholedig fel hyn yn arwydd o wladwriaeth lle nad ydi atebolrwydd yn gweithio’n iawn, a’r mwyaf mae rhywun yn edrych ar y drefn Brydeinig, y mwyaf mae dyn yn cael y teimlad bod yr atebolrwydd democrataidd sydd wedi ei sefydlu yng ngweddill Gorllewin Ewrop wedi mynd ar goll yn y  DU rhywsut.  Dwi’n gwybod i’r Chwyldro Ffrengig fethu a chyffwrdd Prydain – ond rhywsut llwyddodd i ddylanwadu ar wledydd eraill na effeithiodd yn uniongyrchol a nhw.  Ond rhywsut mae yna deimlad o Deyrnas Fanana am y DU – rhywle lle mae’r syniad o gyfartaledd  ac atebolrwydd llywodraethol wedi methu a gwreiddio’n iawn

Meddyliwch am Bennaeth y Wladwriaeth er enghraifft.  Dynas o’r enw Elizabeth Windsor sy’n 
cyflenwi’r rol arbennig yna ar hyn o bryd.  Mae wedi bod wrthi – heb fod yn atebol i neb na dim – am 
dros i hanner canrif.  Mae ei chymwysterau ar gyfer y swydd bwysig yma fel a ganlyn:

Hi oedd merch hynnaf ei thad.
Doedd ganddi hi ddim brawd.
Dydi hi ddim yn Babyddes, a dydi hi ddim wedi priodi Pabydd.


Mewn geiriau eraill cafodd ei phenodi ar sail secteraidd a llwythol.  Er gwaethaf hynny mae’r trethdalwr – yn Babyddion neu beidio – yn cael eu gorfodi i ariannu Elizabeth Windsor ac aelodau eraill ei theulu.  Mae’n rhaid gwneud hyn er gwaetha’r ffaith ei bod hi a’i theulu ymysg pobl gyfoethocaf y Byd – ac mae’r cyfoeth hwnnw wedi ei adeiladu ar y manteision mae’r olyniaeth llwythol a secteraidd wedi ei roi iddynt.  Mae ei mab hynaf – Charles Windsor – a’r brenin nesaf os bydd yn goroesi ei fam – yn hoff iawn o geisio dylanwadu ar weinidogion sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd trwy lythyru efo nhw i bwrpas  gorfodi ei gwahanol ddiddordebau esoterig ar y gweddill ohonom.  Mae atebion rhai o’r gweinidogion yn ogleisiol o grafllyd.



Erbyn meddwl, efallai fy mod wedi gwneud cam ddefnydd o’r gair ‘democrataidd’ yn y frawddeg ddiwethaf ond un.   Mae gan y llywodraeth bresenol fwyafrif llwyr i lywodraethu yn ol ei doethineb addfwyn ei hun ar 37% o bleidleisiau’r sawl a drafferthodd i bleidleisio.  Mae hynny’n fwy na’r 35% a gafodd Blair yn 2005 gyda llaw.   Mae’r wladwriaeth yn cael ei rhedeg gan gabinet sydd a 50% o’i haelodau wedi bod i ysgolion bonedd – 7% ydi’r ganran ymysg y cyhoedd yn gyffredinol.  Mae’r Prif Weinidog a’i Ganghellor yn perthyn trwy waed i’r dywydiedig Elizabeth Windsor a’i thylwyth llawen.  

Mae gennym drefn etholiadol sy’n caniatau i un blaid gael 3 sedd ar llai na 100,000 o bleidleisiau ac un arall i gael 1 gydag 3.8m o bleidleisiau.  Ar hyn o bryd mae’r brif wrthblaid yn cynnal etholiad arweinyddol.  Mae tri o’r ymgeiswyr efo gwleidyddiaeth tebyg iawn i’w gilydd ac nid anhebyg i un y llywodraeth.  Fel 17 aelod o’r cabinet Toriaidd mae 3 ohonynt wedi bod i Rydychen neu Gaergrawnt.  Oherwydd bod ofn cyffredinol ymysg arweinyddiaeth presenol y Blaid Lafur bod y rhan fwyaf o’r pleidleiswyr am bleidleisio i’r boi sydd wedi ei addysgu yn y coleg ‘anghywir’ a sy’n arddel y wleidyddiaeth ‘anghywir’ (hy gwleidyddiaeth y rhan fwyaf o aelodau ei blaid) mae yna ymarferiad enfawr i chwynu’r rhestr etholwyr o bleidleiswyr sy’n debygol o bleidleisio trosto yn mynd rhagddi.  Canlyniad chwerthinllyd hyn ydi bod arweinwyr undeb a phobl sydd wedi ymgyrchu tros hawliau pobl gyffredin trwy eu bywydau yn cael eu gwrthod oherwydd ‘nad ydynt yn arddel gwerthoedd Llafur’ tra bod dynion busnes cyfoethog yn cael eu derbyn.

Nid bod llawer o hyn am gynhyrfu’r cyfryngau wrth gwrs.  Mae’r rhan fwyaf o’r cyfryngau print ym mherchnogaeth pobl gyfoethog iawn sy’n rhannu’r un buddiannau materol a’r sawl sy’n llywodraethu, ac mae pawb yn cael eu gorfodi i gyfrannu at ddarlledwr cyhoeddus sy’n gweithredu fel darlledwr gwladwriaethol pan mae’n canfod bygythiad i fuddiannau’r wladwriaeth – ac yn mynd ati i stwffio propoganda amrwd i lawr corn gyddfau’r sawl sy’n ei ariannu.  



Gwelwyd hyn yn ystod ymgyrch refferendwm yr Alban yn ddiweddar, fe’i gwelwyd yn ystod y dwsinau o ryfeloedd mae’r DU wedi cael ei hun ynddynt ers sefydlu’r Bib, fe’i gwelwyd yn ystod Streic y Glowyr, fe’i gwelir yn yr hyrwyddo hysteraidd o ddigwyddiadau ‘brenhinol’ a sefydliadol, ac fe’i gwelwyd trwy gydol y stad o anhrefn maith yng Ngogledd Iwerddon.  

Yn wir mi fyddwn yn dadlau i lyfdra newyddiadurol yn ystod y cyfnod hwnnw a arweiniodd at fimicio cibddall o naratif llywodraethol bod problem wleidyddol yn broblem droseddol anesboniadwy gyfrannu  at golli cannoedd o fywydau yn ddi angen.  Ac ar ben hynny – er gwaethaf presenoldeb anferth yn y dalaith ar hyd y cyfnod – methodd y Bib a gweddill y cyfryngau a sylwi bod nifer sylweddol o ddynion oedd yn cael eu rheoli ac oedd yn derbyn cyflog gan y wladwriaeth yn rhedeg o gwmpas y dalaith yn saethu pobl a’u chwythu i fyny – a hynny er (a defnyddio idiom leol) bod y cwn ar ochrau’r strydoedd yn gwybod yn iawn.  

Gyda llaw mae’n ddiddorol yn y cyd destun yma i Douglas Hogg gael ei godi’n ‘arglwydd’ ddoe.  Enilliodd enwogrwydd amheus iddo’i  hun ddwywaith yn y gorffennol – am ddefnyddio trefn dreuliau llwgr San Steffan  i gael y treth dalwr i dalu am lanhau ei ffos, ac am sefyll i fyny yn Nhy’r Cyffredin i wneud honiad ffug bod  Pat Finucane, un o bartneriaid hyn cwmni cyfreithiol  Madden & Finucane o Felfast, yn gefnogwr i’r IRA.  Cafodd Finucane ei lofruddio o flaen ei wraig a’i blant lai na mis yn ddiweddarach tra’n bwyta ei ginio dydd Sul yn ei gartref gan gyn heddwas o’r enw Ken Barrett a dyn arall.  Fe’i saethwyd yn ei wyneb bedair ar ddeg o weithiau. Roedd y dryll a ddefnyddwyd yn y llofruddiaeth wedi ei ddarparu gan gyn heddwas arall ac asiant cyflogedig i’r gwasanaethau cudd – Bill Stobie, ac roedd y wybodaeth a ddefnyddwyd i gynllunio’r llofruddiaeth wedi ei ddarparu gan ddyn arall oedd yng nghyflogaeth y gwasanaethau cudd – Brian Nelson.


Ond wedyn mae’r system gyfreithiol yn un ryfedd yn ei chyfanrwydd. Mae’r system yn wych am ddod o hyd i bobl sy’n twyllo i gael budd daliadau, ond yn anobeithiol o sal am ddod o hyd i bobl sy’n gwrthod talu eu trethi – er bod sgeifiwrs treth yn colli mwy o bres o lawer i’r Trysorlys na hawlwyr budd daliadau anonest.  Mae’r heddlu yn cymryd degawdau i fynd i’r afael a chylch cam drin plant anferth honedig reit o flaen eu trwynau yn San Steffan (a llefydd eraill) tra’n delio yn effeithiol efo’r sawl sy’n dwyn Mars Bar o arch farchnad oherwydd ei bod yn llwglyd.  Gall ymchwiliadau cyhoeddus gymryd blynyddoedd a blynyddoedd i’w gweithredu (mae Chilcott wedi cymryd cryn dipyn mwy o amser na’r rhyfel mae’n edrych ar ei hachosion) neu gall y llywodraeth gyfarwyddo eu canlyniad (Widgery).  Mae ymddygiad anghyfrifol y banciau Prydeinig wedi dod yn agos at ddod a’r economi i’w gliniau, ac wedi achosi caledi gwirioneddol i rai o bobl mwyaf bregus cymdeithas – ond ‘does yna neb wedi torri’r gyfraith. Yn wir mae’r rhan fwyaf o’r sawl oedd yn gyfrifol yn ol ar gyflogau anferthol.
Mae’n debyg na fyddai trefn lywodraethol sylfaenol anemocrataidd ac anatebol mor ddrwg petai’n effeithiol – ond yr hyn a gynhyrchir gan y gyfundrefn sydd ohoni ym Mhrydain ydi gwlad gyfoethog ond diarhebol o anghyfartal.  Mae’r anghyfartaledd i’w weld ar lefel bersonol a lefel rhanbarthol.  Mae gan Brydain rai o’r rhanbarthau ac unigolion tlotaf yng Ngorllewin Ewrop – ac mae gan Gymru fwy na’i siar – llawer mwy na’i siar o ardaloedd a theuluoedd tlawd.  Pan mae gormod o rym yn nwylo cydadrannau cyfyng o gymdeithas – mae cyfoeth yn cronni’n dwt o gwmpas yr union gydadrannau hynny – felly mae pethau’n gweithio mae gen i ofn.  
Wel – dyna ddwy awr ar long wedi hedfan a ninnau yng nghysgod clogwynni gwyn De Lloegr.   Fyddwn i ddim wedi credu y gallai mordaith dwyawr ddiiflannu mor sydyn.  Well i mi godi fy mhac a mynd i chwilio am y car.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Mrs Windsor a chydymdeimlad anghyfleus ei theulu a Natsiaeth

Mae’n siwr bod yna rhywbeth neu’i gilydd i’w gymryd o’r helynt ynglyn a’r lluniau a ryddhawyd gan y Sun o’r frenhines, eu mam, ei hewythr a’i chwaer yn ymarfer saliwt Natsiaidd yn 1933 neu 1934.  Ymddengys bod Palas Buckinham yn ‘siomedig’ bod y papur wedi penderfynu cyhoeddi’r delweddau.

Mae’r lluniau yn edrych yn hynod o anymunol heddiw, ond byddant wedi ymddangos yn llai anymunol bryd hynny – doedd hi ddim yn arbennig o anarferol i bobl ym Mhrydain fynegi cydymdeimlad efo’r Natsiaid bryd hynny.  Roedd y Daily Mail – ynghyd a darllenwyr y Daily Mail yn bodoli bryd hynny – fel y gwnant rwan.  Roedd y papur – ac yn ol pob tebyg ei ddarllenwyr – yn gefnogol – neu o leiaf yn gydymdeimladol efo’r weinyddiaeth ym Merlin o’r diwrnod y cafodd ei ethol hyd at y diwrnod i ryfel gael ei gyhoeddi.
Esiampl enwog o’r gwahaniaeth mewn agweddau tuag at Natsiaeth heddiw a chyn yr Ail Ryfel Byd ydi’r llun hwn o dim peldroed Lloegr yn 1938 cyn gem gyfeillgar yn erbyn yr Almaen.
Doedd hi ddim yn gyfrinach bod teimladau’r teulu brenhinol yn amwys ynglyn a Natsiaeth ar y gorau.  Wnaeth Edward V111 erioed drafferthu cuddio ei gefnogaeth i lywodraeth Natsiaidd yr Almaen, ceisiodd y Fam Frenhines roi pwysau ar lywodraeth y DU rhag mynd i ryfel efo’r Almaen tan y diwedd.  Roedd yn gefnogol i’r Arglwydd Halifax – gweinidog a ddadleuodd yn chwyrn yn erbyn mynd i ryfel  hyd y diwedd.  Roedd tair o chwiorydd Dug Caeredin yn briod a swyddogion Natsiaidd.  Mae’r Dug yn ymddangos yn y llun isod yn mynychu cynhebrwng un o’i frodyr yng nghyfraith.
Pan gymerwyd y llun o’r frenhines a’i theulu yn chwarae bod yn Natsiaid roedd y broses o ddod a phob corff cyhoeddus a gwirfoddol o dan reolaeth y Blaid Natsiaidd – Gleichschaltung wedi mynd rhagddo.  Roedd y Reichstad wedi ei losgi, a’r Comiwnyddion wedi eu herlid.  Roedd 
Ermächtigungsgesetz wedi dod yn weithredol – deddf oedd yn caniatau i Hitler a’i gabinet greu a gweithredu deddfau heb ofyn i’r Reichstad a hyd yn oed os oeddynt yn groes i’r cyfansoddiad.  Roedd pob plaid ag eithrio’r Blaid Natsiaidd wedi eu diddymu. Doedd yr ymysodiadau ar gymodogion yr Almaen heb gychwyn. Ond roedd hyn oll yn gwbl dderbyniol i gydadran sylweddol o boblogaeth y DU. Mi fedrwn i fod yn weddol siwr bod llawer o’r bobl hynny yn ddarllenwyr y Daily Mail.

Cafodd y Daily Mail ei sefydlu yn 1896 gan Alfred Harmsworth.  Y syniad y tu ol i’r papur oedd cynhyrchu rhywbeth haws i’w ddarllen na’r papurau oedd ar gael ar y pryd, rhywbeth fyddai’n apelio yn arbennig at ferched ac a fyddai’n sefyll tros the power, the supremacy and the greatness of the British Empire – a dyfynnu Harmsworth ei hun.  Daeth yn hynod boblogaidd yn syth bin.

Ers cyhoeddi’r papur yn gyntaf cafwyd dau Ryfel Byd, mae’r Ymerodraeth Brydeinig wedi cwympo, mae democratiaeth wedi sefydlu a gwreiddio ar hyd a lled y Byd, mae Comiwnyddiaeth a Ffasgaeth wedi dod, ac wedi mynd, mae economi y DU a’i hagweddau cymdeithasol wedi eu trawsnewid, mae technoleg wedi trawsnewid y Byd – ac mae’r Daily Mail yn rhyfeddol o debyg o ran ei werthoedd gwaelodol yn 2015 i’r hyn oeddynt yn 1896.


O’r dechrau’n deg roedd y papur yn hynod gefnogol i ryfeloedd  – roedd yn  gefnogol i gychwyn Rhyfel y Boer.  Roedd cynyddu maint ac arfogi’r fyddin Brydeinig yn thema mawr gan y papur yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif – roedd Harmsworth wedi penderfynu bod gan yr Almaen gynllwyn cudd i ddifa’r ymerodraeth Brydeinig.  Roedd cynllwyn Iddewig / Almaeneg yn obsesiwn trwy gydol y cyfnod.  Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd Kitchener yn darged cyson i’r Mail – rhan o’r rheswm am hynny oedd nad oedd yn darparu’r Fyddin Brydeinig efo arfau digon distrywgar.  Un rhyfel nad oedd yn gefnogol iddi gyda llaw oedd yr Ail Ryfel Byd – roedd yn llwyr yn erbyn mynd i ryfel yn erbyn Ffasgaeth hyd y bore wedi i’r rhyfel gychwyn – pan newidiodd fel cwpan mewn dwr.

Newidiodd y papur ddwylo yn dilyn y Rhyfel Mawr – cafodd ei brynu gan yr Arglwydd Rothermere.  Llwyddodd hwnnw i godi’r cylchrediad i 2,000,000 ond ychydig o newid a fu yn y safbwyntiau gwleidyddol.  Ymwelodd Rothermere a Hitler yn 1930, ac mae’n debyg ei fod yn cyfrannu’n ariannol i’ achos yn ystod y cyfnod hwnnw.

Pan ddaeth Hitler i rym yn 1933 aeth y Daily Mail ati i gefnogi’r llywodraeth newydd gyda chryn dipyn o frwdfrydedd.  Cyfansoddodd Rothermere gyfres o erthyglau ei hun yn canmol llywodraeth Hitler, yn beirniadu papurau eraill oherwydd eu ‘obsesiwn ‘ efo trais y Natsiaid – doedd ychydig o drais yn ddim oll wrth ymyl y ‘manteision mawr’ a ddaeth i’r Almaen a’r amddiffyniad yn erbyn Comiwnyddiaeth ac Iddewiaeth a gynigid gan y gyfundrefn newydd.
Cynhyrchodd prif ohebydd tramor y papur George Ward Price lyfr gyda’t teitl I Know the Dictators yn 1937 yn canmol unbeniaethiaid Ffasgaidd i’r cymylau.  Dyma oedd ganddo i’w ddweud am Hitler.

Behind the forceful character which he displays in public he had a human, pleasant personality… He had the artistic, visionary tendencies of the South German type… and there was a strong strain of sadness and tenderness in his disposition… Hitler had… a fondness for children and dogs… His personality and prestige were so strong that without any effort on his part, he is surrounded by much awe on the part of his entourage… Hitler is a widely read man… familiar with the works of the leading German philosophers who had mastered the history, geography and social and economic conditions of the chief European countries.

Yn wir roedd y Daily Mail yn agored gefnogol i British Union of Fascists Mosely am gyfnod.  Mewn erthygl ym mis Ionawr 1934 gan Rothemere ei hun canmolwyd y grwp Ffasgaidd i’r cymylau.  Roedd yr erthygl yn gorffen efo’r geiriau 
Timid alarmists all this week have been whimpering that the rapid growth in numbers of the British Blackshirts is preparing the way for a system of rulership by means of steel whips and concentration camps. Very few of these panic-mongers have any personal knowledge of the countries that are already under Blackshirt government. The notion that a permanent reign of terror exists there has been evolved entirely from their own morbid imaginations, fed by sensational propaganda from opponents of the party now in power. As a purely British organization, the Blackshirts will respect those principles of tolerance which are traditional in British politics. They have no prejudice either of class or race. Their recruits are drawn from all social grades and every political party. Young men may join the British Union of Fascists by writing to the Headquarters, King’s Road, Chelsea, London, S.W.

Tynnwyd y gefnogaeth yn ol yn ddisymwth yn ystod haf 1934 – mae’n debyg oherwydd i nifer o fusnesau oedd a chysylltiadau Iddewig fygwth roi’r gorau i hysbysebu yn y papur oni bai bod y papur yn rhoi’r gorau i gefnogi Mosley.
Mae’r ffaith bod y teulu Brenhinol yn cwyno cymaint oherwydd i’r Sun gyhoeddi’r llun yn dweud mwy wrthym am ein hoes ein hunain nag ydyw am y blynyddoedd rhwng y Ddwy Ryfel Byd.  Bryd hynny roedd elfennau arwyddocaol o’r Dde yn y DU yn gydymdeimladol i rhyw raddau neu’i gilydd efo Ffasgiaeth a Natsiaeth ( ac roedd elfennau arwyddocaol o’r Chwith yn cydymdeimlo efo’r weinyddiaeth yn yr Undeb Sofietaidd hefyd).  Erbyn hyn mae Natsiaeth yn cael ei ystyried gan y Dde a’r Chwith fel ei gilydd fel ymgorfforiad o ddrygioni.  Mae yna fwy nag un rheswm am hynny – un rheswm oedd bod yr hyn wnaeth y Natsiaid yn wirioneddol ddrwg dan safonau’r rhan fwyaf o bobl.  
Ond mae yna reswm arall hefyd.  O edrych ar hanes o drydydd traean yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain, dydi’r rhan fwyaf o ryfeloedd Prydain ddim yn edrych yn arbennig o dda.  Dydi rhyfeloedd sy’n cael eu hymladd i bwrpas adeiladu neu amddiffyn ymerodraeth ddim yn gweddu a gwerthoedd Byd sy’n hyrwyddo democratiaeth a hawliau gwledydd unigol.  Mae’r ideoleg hiliol oedd yn cael ei defnyddio i gyfiawnhau adeiladu ymerodraeth yn edrych hyd yn oed yn waeth mewn cyd destun lle mae cyfartaledd hiliol a hawliau dynol yn cael eu clodfori.  Mae’r holl fusnes ymerodrol yn edrych yn hyll.  Ond dydi hynny ddim yn wir am yr Ail Ryfel Byd – mae hwnnw’n cael ei ddylunio fel rhyfel yn erbyn hiliaeth, yn erbyn ymysodoldeb milwrol, yn erbyn drygioni.  Mae’n ryfel sy’n hawdd i ‘w gyfiawnhau – a’i glodfori o safbwyntiau y Byd yr ydym ni yn byw ynddo heddiw.
A dyma yn y bon ydi’r rheswm am yr ymateb hysteraidd i luniau’r Sun.  Mytholeg ydi’r stori bod gwrthwynebiad unffurf ym Mhrydain i dwf Ffasgaeth ar y Cyfandir yn nau ddegau a thri degau’r ganrif ddiwethaf – ond mae’n fytholeg sydd rhaid wrthi i gynnal y stori bod Prydain wedi bod yn rym er daioni yn y Byd ar  sail y ffaith iddi ymladd ar yr ochr ‘gywir’ hanes – am unwaith.  
Mae’r rhyfel yn erbyn Natsiaeth yn esgys am y gweddill, ac mae unrhyw beth sy’n cymylu hynny yn ennyn y math o ymateb a gafwyd tros y dyddiau diwethaf.


Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Y Toriaid a gwariant ar drwsio adeiladau senedd

 Mi fydd rhai o ddarllenwyr Blogmenai yn cofio’r ffasiwn stad y cafodd y Toriaid Cymreig nhw’i hunain ynddo pan benderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol gomisiynu adeilad newydd i fod yn gartref i’r Cynulliad newydd.  Roeddynt yn dadlau bod y gwariant o £100m yn  llawer rhy uchel, ac yn dadlau bod gan y sefydliad gartref hen ddigon da eisoes – yr anghenfil brics coch sydd yn sownd i gefn yr adeilad newydd  hyd heddiw. 


Doedd y ffaith bod mwy o lawer yn cael ei wario tua’r un pryd ar Portcullis House – bloc o swyddfeydd i Aelodau Seneddol yn San Steffan – yn poeni dim arnynt, nac yn achosi unrhyw embaras iddynt.  Mae’r cysyniad ei bod yn iawn gwario yn ddi ben draw ar y senedd ‘go iawn’ yn San Steffan, tra bod unrhyw wariant ar y ‘ffug’ senedd yng Nghaerdydd wedi ei wreiddio yn dwfn yn y ffordd mae’r Toriaid Cymreig yn canfod y Byd.  Felly roedd pobl fel Rod Richards, Nick Bourne a David Davies yn myllio’n ddi ddiwedd bod Cymru yn gwario ar adeilad i leoli ei senedd.

Ac nid prynu adeilad yn unig oedd yn eu poeni – o na.  Mae gwariant ar yr adeilad hefyd yn broblem.  Yn wir roedd David Davies – ac yntau wedi cael dianc o Fae Caerdydd am borfeydd brasach San Steffan erbyn hynny – yn outraged bod £3.2m wedi ei wario ar uwchraddio rhan o’r adeilad tros un haf.  Ei union eiriau oedd:

 I find it outrageous that Ministers in the Welsh Government feel it is appropriate to refurbish their own offices at great expense at a time when, for understandable reasons, cuts are having to be made in public spending.
This sets a very poor example to public sector bodies which are all in the position of having to cut back and prioritise where they spend their money.


A rwan dyma’r newyddion yn dod am y bil uwchraddio / cynnal a chadw yr honglad mawr hyll o adeilad neo Gothaidd sy’n gwbl anaddas i bwrpas  sy’n gwasanaethu fel deddfwrfa’r DU.  Y gost – arhoswch amdani – ydi hyd at  £7.1bn – ia na chi – biliwn nid miliwn.  Mae’r ffigwr yn un mawr – ond i gael rhyw syniad ohono ystyriwch hyn – mae’n swm uwch nag ydi cost y Gwasanaeth Iechyd yn ei gyfanrwydd yn ei gostio yng Nghymru am flwyddyn.


Yr ateb ariannol gyfrifol – y math o beth mae Toriaid yn ei hoffi – i ddyfynbris o’r math yma ydi chwalu’r lle a symud i rhywle arall.  Mae tir adeiladu yn ardal Westminster ymysg y tir drytaf yn y Byd.  Mae’n costio tua £93,300,000 yr hectar.  Mae Palas San Steffan yn sefyll ar 40 hectar – mae’r tir werth £3.73bn.  Mae yna dir adeiladu yn Llundain i’w gael am cyn rhated a £8m yr hectar.  Byddai safle o’r un maint yn costio £320m yn Barking er enghraifft.  Petai’r senedd yn symud o Lundain gellid cael tir am tua £1.5m yr hectar ym Mirmingham – a gellid prynu’r safle am £60m.  Neu wrth gwrs mae yna pob math o lefydd eraill diddorol – Cannock Chace er enghraifft lle mae tir adeiladu yn costio £725,000 yr hectar – gellid prynu’r safle am £30m.  Mi fyddai unrhyw un o’r trefniadau amgen hyn yn caniatau i ‘r wladwriaeth brynu tir, codi senedd newydd sydd efo digon o le i’r holl aelodau seneddol eistedd yno a gadael celc o bres wrth gefn i fynd tuag at dalu’r ddyled genedlaethol yn hytrach na gorfodi’r trethdalwr i ddod o hyd i tros i £7bn.


Dwi’n siwr felly y bydd y Ceidwadwyr Cymreig ar flaen y gad i berswadio’r llywodraeth i beidio a chwythu £7.1bn ar adnewyddu tysteb i ddiffyg chwaeth pensaerniaeth Fictorianaidd. A dwi’n siwr y bydd David Davies yn arwain y Toriaid Cymreig yn hyn o beth.  Os oedd gwario £3.2m ar adnewyddu’r Cynulliad yn cymaint o stwmp arno, mae’n rhaid y byddai talu 2,200 o weithiau c cymaint a hynny ar rhywbeth y gellid gwneud elw arno yn ei anfon i fedd cynnar.

*Ymddiheuriadau am yr amrywiol ffontau – problemau technegol fel mae’r dywediad yn mynd.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Cyd ddigwyddiad hapus

Yn ol Stephen Crabb fydd yna ddim amser i ddeddfu i sicrhau hawliau pleidleisio i bobl 16 ac 17 oed cyn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.  Trwy gyd ddigwyddiad hapus dyma’r grwp oedran sydd leiaf tebygol i bleidleisio i blaid Mr Crabb.Stori… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ymgyrch Llafur yn Arfon yn syrthio’n ddarnau

Rwan efallai fy mod i yn hen ffasiwn, ond dwi wedi ymwneud a rhyw etholiad neu’i gilydd trwy gydol fy mywyd fel oedolyn.  Yn ystod yr amser hwnnw dwi’n rhyw feddwl fy mod wedi dod i ddeall rheolau sylfaenol ymladd etholiad cyffredinol yn weddol dd… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Carter Ruck a’r Cambrian News

Mae awdur Blogmenai yn hynod ofalus beth sy’n mynd i mewn i’r blog, ond dydi hynny ddim wedi atal i ambell ii fygythiad o lythyr dwrna gael eu lluchio i’w gyfeiriad o bryd i’w gilydd.  Dydi’r bygythiadau prin hynny byth yn dod i ddim – mi gewch chi ddweud rhywbeth yn llygaid y gyfraith cyn belled a’i fod yn wir – oni bai eich bod yn torri’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol wrth gwrs.  


Serch hynny mae’r thema a gyfreithwyr enllib yn rhoi’r cryd i mi braidd – a dydi’r pwnc ddim yn codi llawer ym Mlogmenai am y rheswm hwnnw.  Serch hynny mi wnawn ni eithriad bach heddiw.  

Peter Carter Ruck ydi’r cyfaill isod – er ei fod yn cael ei alw’n rhywbeth arall yn Private Eye


Y diweddar Mr Carter Ruck oedd perchenog cwmni twrneiod enllib mwyaf llwyddiannus y DU.  Mae’r cwmni ychydig yn anarferol yn y DU i’r graddau ei fod yn gweithio ar delerau no win, no fee.  Hynny yw mi fedrwch fynd ac achos at y cwmni a wnaiff o ddim costio ceiniog i chi os nad ydych yn llwyddiannus.  Serch hynny mae’r cwmni yn cymryd sleisen go lew o unrhyw iawndal rydych yn ei dderbyn os ydi’r achos yn cael ei ennill.

Dydi’r wasg ddim yn hoffi Carter Ruck, na’i ddulliau – ond ‘dwi’n anghytuno.  O dan yr hen drefn roedd y wasg yn gallu trin pobl gyffredin, a gwleidyddion pleidiau bach fel y mynent.  Doedd yna ddim ffordd o fynd a nhw i gyfraith.  Dydi’r wasg ddim yn gallu gwneud hynny bellach.  Mae nhw’n gorfod cymryd cymaint o ofal wrth bardduo’r person tlawd na phan maent yn pardduo’r person cyfoethog.

Dydi’r cwmni byth yn egluro pam maent yn derbyn neu wrthod achos – ond dau ystyriaeth ydi tebygrwydd i ennill a gallu’r sawl sy’n cael ei erlid i dalu.  Peidiwch a mynd at Carter Ruck os nad ydych yn hoffi rhywbeth sy’n ymddangos yn Y Cymro – fyddai Carter Ruck byth yn breuddwydio mynd ar ol neb sydd a llai na £100k i’w dalu mewn iawndal a chostau – nid bod y papur hwnnw yn debygol o enllibio neb dan haul.  

Ta waeth, dydi hyn oll ddim yn broblem yn yr achos yma – mae’n weddol amlwg i’r Cambrian News gam gynrychioli’r hyn ddywedodd Mike Parker yn fwriadol, a bod gan y papur y modd o ddod o hyd i £100k.  Mae yna gwestiwn o enllib maleisus yn codi yma hefyd.  Mae’n un anodd iawn i’w phrofi, ond gall y sawl sy’n gyfrifol am enllib maleisus gael ei hun mewn carchar.

Pe byddwn i’n lle’r Cambrian News, mi fyddwn i hefyd yn poeni am Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl.  Mae dweud celwydd am ymgeisydd seneddol yn ystod cyfnod etholiad i bwrpas sicrhau nad yw’n cael ei ethol yn anghyfreithlon.  Yn wir petai canlyniad Ceredigion yn wahanol iawn i ganlyniadau eraill gellid dadlau i hynny ddigwydd oherwydd ymyraeth sydd o bosibl yn anghyfreithlon gan y Cambrian News.  Byddai’n rhesymol o dan amgylchiadau felly wneud cais i’r Uchel Lys ail gynnal yr etholiad.  Byddai’r costau i ‘r pleidiau a’r wladwriaeth yn dod i tua £150k i £200k.  Mae’n amlwg pwy ddylai dalu  mewn amgylchiadau felly. 

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Alun wrthi efo’i freuddwydion arlywyddol eto

Rydym wedi chwerthin ar ben camddealltwriaeth Alun Pugh ynglyn a natur etholiad San Steffan yn y gorffennol.  Mae’n ymddangos i lafurio efo’r argraff bod aelod seneddol Arfon am gael ei wneud yn arlywydd, a’i fod felly am gael gweithredu unrhyw dd… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Llafur watch – rhan 6

Mae’n edrychiad ni heddiw i ddulliau Llafur o gamarwain etholwyr yn mynd a ni ymhell o Arfon, ac yn wir ymhell o Gymru – rydym yn mynd i’r Alban ac hynny yn sgil y polau Ashcroft cwbl drychinebus o safbwynt Llafur.Mae’r hen gelwydd ‘Vote SNP, Get Tory’… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Llafur watch – rhan 5

Rydym eisoes wedi edrych ar ragrith Alun Pugh, darpar ymgeisydd Llafur yn Arfon tuag at gytundebau sero awr yma.  Felly wnawn ni ddim mynd tros hen dir eto ag eithrio i bwrpas nodi bod llawer o gynghorau Llafur a llawer o Aelodau Seneddol Llafur y… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Defnydd gwych o arian cyhoeddus yn nhre’r sosban

Llongyfarchiadau i aelod seneddol Llanelli, Nia Griffith ar ddefnydd hynod effeithiol o arian cyhoeddus mewn oes lle mae arian cyhoeddus yn brin iawn.  Ymddengys ei bod yn defnyddio’r Post Brenhinol i bwrpas gwahodd ei hetholwyr i noson goffi.&nbs… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Guto Bebb, y Toriaid a gwrth Semitiaeth

Un o’r anghytundebau bach fydd yn dod i’r wyneb o bryd i’w gilydd  rhwng Blogmenai ag aelod seneddol Aberconwy sydd gen i heddiw. Rwan ar un olwg mae Guto’n gywir.  Mae yna hanes o wrth Semitiaeth yn yr Iwerddon.   Mae’n debyg bod Guto w… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Diswyddo David Jones

Felly mae David Jones wedi cael yr hoe gan David Cameron gwta ddwy flynedd cyn cael ei benodi i’r swydd ddiwerth yma.  Dydi o ddim yn glir i mi beth yn union ydi pwrpas y swydd yn yr oes ddatganoledig sydd ohoni.  Yn sicr does gen i ddim clem… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Tros bwy fydd Louise yn sefyll?

Mae’n lled anarferol i’r Sunday Times roi unrhyw sylw o gwbl i Gymru, heb son am Wynedd, ond am unwaith mae yna stori heddiw o bellafion gorllewinol yr Undeb.  Louise Hughes ydi seren y stori – mae’n debyg ei bod yn cwyno bod Cyngor Gwynedd yn myn… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Enwebiaeth Llais Gwynedd ym Meirion Dwyfor

Mae’n debyg nad ydi pwy a ddewisir gan Llais Gwynedd i ymladd etholiad Cynulliad Meirion Dwyfor yn 2016 yn ddim o fy musnes i, ond mi wna i sylw neu ddau beth bynnag. Yn gyntaf mae yna rhywbeth bisar yn yr honiad gan rai o gefnogwyr Louise bod peidio a… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Nick Ramsay druan

Peidiwch a chamddeall rwan – fyddwn i ddim yn argymell i neb fynd i’w waith yn feddw – ond mae gen i rhyw ychydig o gydymdeimlad efo Nick Ramsay yn sgil cwyn gan Julie Morgan ei fod yn feddw gocos yn y Cynulliad y diwrnod o’r blaen.  Petai Nick yn gweithio yn San Steffan yn hytrach nag ym Mae Caerdydd go brin y byddai neb yn cymryd fawr o sylw ei fod o dan effaith y ddiod gadarn.

Fel y gellir gweld yma mae’r hogiau (ond nid y genod o bosibl) efo hanes o seshio trwy’r dydd cyn pleidleisio yn Ny’r Cyffredin.  Mi fyddan nhw’n mynd i gwffio o bryd i’w gilydd, ac mae’r arfer yn mynd yn ol o leiaf cyn belled a 1666.  Bydd aelodau weithiau yn cael trafferth i gerdded i’r lobi i bleidleisio heb son am sefyll a gwneud araith fel y gwnaeth Nick.

Ceir 9 bar yn Nhy’r Cyffredin at ddefnydd Aelodau Seneddol a’u gwesteon, ac roedd trosiant y 9 bar yn £1.33m y tro diwethaf i’r ffigyrau gael eu cyhoeddi.  Fel bwyd yr aelodau mae’r trethdalwr yn sybsideiddio eu diota, gyda diodydd yn rhatach yn San Steffan nag yn unman arall ym Mhrydain bron – heb son am ganol Llundain.  Mae’r trethdalwr yn gorfod dod o hyd i yn agos at £6m y flwyddyn i gynnig bwyd a diod i Aelodau Seneddol yn San Steffan am bris gostyngol. Mae eu cyflogau aelodau mainc gefn yn fwy na thair gwaith y cyflog cyfartalog yn y DU.   Mae yna 44,000 potel o win yn seleri Ty’r Cyffredin at ddefnydd y circa 650 aelod.

Druan o Nick – mae’r creadur yn gweithio yn y ddeddfwrfa anghywir.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Mwy am y cyfryngau Cymreig a’r blogosffer

Ymhellach i fy mlogiad ddoe, mae’n debyg y dyliwn i gyfeirio at nifer o straeon diweddar sydd wedi derbyn sylw yn y blogosffer a sydd heb dderbyn sylw gan y cyfryngau prif lif – hyd iddynt ymddangos ar y We o leiaf.Aelod Ewrop diweddaraf Cymru – Nathan… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Araith amgen y Blaid

Mae’n arfer bellach i’r Blaid gyhoeddi Araith y Frenhines Amgen ar ddiwrnod Araith y Frenhines yn San Steffan.  Yn wahanol i’r fersiwn San Steffan mae fersiwn y Blaid yn un sy’n berthnasol i Gymru a sydd wedi ei gwreiddio yng ngwerthoedd craidd y Blaid.  Wele’r ‘araith’ isod.

Mesur (Ariannu Teg) Diwygio Barnett
Byddai’r mesur hanfodol bwysig hwn yn diwygio fformiwla ariannu’r DU sydd, yn ôl ymchwil Comisiwn annibynnol Holtham, yn gweld Cymru ar ei cholled o tua £300-400m y flwyddyn. Mae Plaid Cymru eisiau gweld fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion, nid poblogaeth cenedl. Mae’r Arglwydd Barnett ei hun wedi cydnabod fod y fformiwla bellach yn ddi-werth.
Mesur Isadeiledd
Bwriad y Mesur Isadeiledd yw i fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd Cymreig er mwyn trawsnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth (e.e. Metro De Cymru, trydaneiddio prif lein Gogledd Cymru a lein y Cymoedd, adeiladu trydedd pont dros y Fenai, a gwella cysylltiadau ffordd rhwng y Gogledd a’r De) a sicrhau fod Cymru’n cael cyfran deg o wariant ar brosiectau Lloegr-yn-unig megis CrossRail a HS2.
Mesur Tegwch Economaidd
Dyma fesur fyddai’n taclo anghyfartaledd unigol a daearyddol drwy fabwysiadu’r model Almaenaidd o flaenoriaethu ardaloedd difreintiedig ar gyfer buddsoddiad er mwyn ail-gydbwyso’r economi a sicrhau ffyniant ledled y wlad. Yng Nghymru mae rhai o gymunedau tlotaf Ewrop gyfan – byddai’r mesur hwn yn gam tuag at roi terfyn ar y statws hwn.
Mesur Hawliau Gweithwyr
Mae’r Mesur Hawliau Gweithwyr yn cynnig polisiau i amddiffyn a grymuso gweithwyr megis sefydlu comisiwn i archwilio cyflog byw, rhoi terfyn ar gytundebau dim-oriau gorfodol, apwyntio gweithwyr i bwyllgorau gosod cyflogau, ac atal cyflogwyr rhag anfanteisio’r gweithlu cartref drwy dalu llai na’r isasfwm cyflog i weithwyr tramor.
Mesur Adnoddau Naturiol Cymru
Pwrpas y mesur hwn yw i drosglwyddo grym dros adnoddau naturiol Cymru (Ystadau’r Goron) o San Steffan i Gymru fel mai pobl Cymru sy’n elwa fwyaf o’r defnydd o’r adnoddau hyn. Byddai’r mesur yn gwarchod yr adnoddau hyn rhag cael eu hymelwa e.e. defnyddio dŵr Cymru ar gyfer prosiectau ffracio yn Lloegr, fel mae Llywodraeth y DU wedi ei awgrymu.
Mesur Darpariaeth y Gymraeg
Byddai Mesur Darpariaeth y Gymraeg yn llunio deddf newydd yn gorfodi cwmniau preifat ar gytundebau llywodraeth i gydymffurfio â’r Ddeddf Iaith a chanllawiau Comisiynydd yr Iaith, hyd yn oed os ydi eu pencadlys yn Lloegr neu eu bod yn gweithredu o Loegr.
Mesur Twristiaeth a Lletygarwch
Mae’r mesur hwn yn cynnig toriad TAW i’r diwydiant twristiaeth a fyddai’n rhoi’r hwb angenrheidiol i fusnesau, yn enwedig o ystyried fod y tywydd garw diweddar wedi effeithio’n fawr ar y sector.
Mesur Hawliau Dioddefwyr
Diben y mesur hwn yw i roi hawliau i ddioddefwyr trosedd fel nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu hymylu gan y system gyfiawnder. Daw hyn ar ôl i nifer o ffigyrau cyhoeddus, gan gynnwys y cyn-Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Keir Stamer, alw am ail-ystyried y ffordd y caiff dioddefwyr eu trin gam y system gyfiawnder. Byddai hyfforddiant ar y mesur hwn yn orfodol i bob gweithiwr proffesiynol ym maes cyfiawnder troseddol.
Mesur Trais yn y Cartref
Byddai’r Mesur Trais yn y Cartref yn gwneud pob agwedd o drais yn y cartref yn drosedd drwy roi statws statudol i ddiffiniad y llywodraeth o drais yn y cartref, sy’n cydnabod ymddygiad o reoli a gorfodi yn ogystal â thrais corfforol. Byddai hyfforddiant yn angenrheidiol ar gyfer ymarferwyr fel bod ymchwiliadau i honiadau o drais yn y cartref yn flaenoriaeth, yn ogystal â sicrhau fod asesiadau risg yn cael eu cwblhau’n briodol.
Mesur Heddlu a Chyfiawnder Cymreig
Pwrpas y mesur hwn yw creu awdurdodaeth Gymreig arwahan, drwy ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i gynnwys gweinyddu cyfiawnder. Byddai’r mesur yn cynnwys darpariaeth i sefydlu gwasanaeth erlyn annibynnol yng Nghymru, ac i Gymru reoli gweinyddiaeth y llysoedd. Byddai darpariaeth bellach mewn grym i ddatganoli Gwasanaeth Erlyn y Goron; cyfrifoldebau dros y gwasanaeth prawf, carchardai a’r heddlu; a system cymorth gyfreithiol arwahan, ynghyd â darpariaethau eraill yn dilyn pasio Deddf Llywodraeth Cymru newydd. 

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ar wleidydda negyddol

Mae wedi mynd yn rhyw fath o wireb bod mai’r ffordd orau o ymgyrchu yn wleidyddol ydi trwy fod yn ‘gadarnhaol’.  ‘Dwi’n meddwl mai etholiad cyntaf Barak Obama am yr arlywyddiaeth sydd wedi poblogeiddio’r canfyddiad yma, ond dydw i ddim yn siwr. &n… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Darlledu yn y Wyddeleg a honiad rhyfedd Arwel Ellis Owen

Dydi dod ar draws rhywbeth hollol hurt yn Golwg ddim yn brofiad arbennig o anarferol wrth gwrs – ond mae yna glasur yn y rhifyn cyfredol.  Perchenog y clasur hwnnw ydi Arwel Ellis Owen, cyn bennaeth rhaglenni’r Bib yng Ngogledd Iwerddon.  Mae’n ymddangos bod Arwel yn credu nad oedd unrhyw raglenni yn y Wyddeleg yn unrhyw ran o’r Iwerddon nes iddo fo nes iddo fo lawnsio rhaglen wythnosol ar Radio Ulster.  Mae’n anodd gwybod beth i’w wneud o’r ffasiwn honiad.

Mae Arwel yn gywir i nodi mai yn ei amser o wrth y llyw y sefydlwyd y rhaglen Wyddeleg cyntaf ar Radio Ulster.  Erbyn heddiw ceir rhaglen dduddiol o’r enw Blas ar y sianel.

Ond mae’r gred nad oedd darlledu cyfrwng Gwyddelig yn y Weriniaeth yn gwbl gyfeiliornus.  Roedd yr orsaf radio cyfrwng Gwyddeleg Raidió na Gaeltachta (RnaG) wedi bod yn darlledu ers 1972.  Doedd yr orsaf ddim yn darlledu ar hyd yr ynys bryd hynny, ond roedd yn darlledu yn ddyddiol.  Nid yn unig hynny ond roedd rhai rhaglenni Gwyddeleg ar y brif sianel – y newyddion er enghraifft.  Roedd rhaglenni Gwyddeleg ar y teledu hefyd.  Yn wir byddai methiant gan RTE i sicrhau darpariaeth cyfrwng Gwyddelig yn groes i’r gyfraith – roedd Deddf Darlledu 1960 yn mynegi’n glir bod disgwyl i’r darlledwr cenedlaethol wneud defnydd o’r Wyddeleg.  

Ond roedd darlledu cyfrwng Gwyddeleg yn mynd yn ol i flynyddoedd cynnar sefydlu’r wladwriaeth, i ddechrau ar 2RN wedyn ar Radio Éireann ac yna ar RTÉ.  Yn wir roedd hyd yn oed Hitler yn darlledu trwy gyfrwng y Wyddeleg.  Dechreuwyd ddarlledu rhaglenni yn yr iaith yn 1939, a pharhawyd i wneud hynny hyd  ddiwedd y rhyfel.  Darlledwyd  rhaglen dair gwaith pob nos.  

Dwi ddim yn amau i Arwel wneud gwasanaeth i’r Wyddeleg yn ystod ei gyfnod yn gweithio yn y Gogledd, ond mae’r honiad ‘nad oedd RTE yn y Weriniaeth, nag unrhyw ddarlledwr arall ar ynys Iwerddon, yn darlledu dim yn y Wyddeleg ar y pryd’ yn esiampl o rhywun yn dyrchafu ei gyfraniad ei hun yn llawer, llawer uwch na mae’n ei deilyngu.  

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Y Daily Mail a Harriet Harman

Nid yn aml iawn y bydd Blogmenai yn cynnig gair o blaid rhywun fel Harriet Harman ac nid yn aml y cewch chi drafodaeth ar ryw a rhywioldeb yma, ond rydych am gael rhywfaint o’r ddau heddiw.  Mae Iain Dale (rhywun arall nad ydw i’n cytuno efo fo’n … Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Gwyliau’r Cynulliad

Diddorol nodi bod Andrew RT Davies o’r farn bod aelodau Cynulliad yn cael gormod o wyliau.  Mae’n barnu bod yr aelodau i ffwrdd o’r Bae am 20 wythnos – 140 diwrnod. Mae hon yn un anodd braidd – mae aelodau sydd ag etholaethau efo cyfrifoldebau eth… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ynglyn a’r defnydd o’r Gymraeg gan sefydliadau a busnesau

Un o’r nifer fawr o bethau sy’n dan ar groen y Mrs ydi cylch lythyrau o’r Caban – menter gymunedol ym Mrynrefail, Arfon.  Mae’n nhw’n uniaith Saesneg.  ‘Mae’r ffaith bod ffrind iddi wedi cynnig eu cyfieithu’n rhad ac am ddim yn ei rhoi mewn h… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Gwahaniaeth rhwng Ffrainc a Chymru (rhan 3)

Mae pentrefi Ffrainc yn fwy hyfyw na rhai Cymru, gyda  hyd yn oed y pentrefi lleiaf efo bar/ ty bwyta, siop fara, siop gwerthu ffrwythau a llydiau, Tabac a garej.  Dydi hyn ddim yn wir am Gymru.  Rwan yn y gorffennol roedd rhesymau deddf… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Yr hyn y gall y dyn yma ei wneud i gynnal y Gymraeg

  Byddai’n well – yn llawer gwell petai cenedlaetholwr yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg ar ran llywodraeth Cymru – ond os oes rhaid cael Llafurwr mae’n debyg bod Leighton Andrews cystal a neb.  Go brin bod neb yn amau didwylledd ei gefnog… Parhau i ddarllen